Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres y Dderwen: Pentre Saith
Cyfres y Dderwen: Pentre Saith
Cyfres y Dderwen: Pentre Saith
Ebook141 pages1 hour

Cyfres y Dderwen: Pentre Saith

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Cain is the main character in this novel, and the 'saith' (seven) in the title refers to the Seven Wonders of the Natural World and the Seven Ages of Grief.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateJun 26, 2012
ISBN9781847715319
Cyfres y Dderwen: Pentre Saith

Related to Cyfres y Dderwen

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres y Dderwen

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres y Dderwen - Ceri Elen

    Pentre%20Saith%20-%20Ceri%20Elen%20-%20Derwen.jpg

    Cyflwynedig i Mam, Dad, Al a’r ddwy Nain

    Diolch i Alun a Meinir am eu hamynedd a’u harweiniad

    Argraffiad cyntaf: 2012

    © Hawlfraint Ceri Elen a’r Lolfa Cyf., 2012

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Comisiynwyd y gyfrol hon gyda chymorth ariannol Adran AdAS Llywodraeth Cymru

    Cynllun y clawr: Rhys Huws

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-84771-531-9

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru

    gan Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    gwefan www.ylolfa.com

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 832 782

    No one ever told me that grief felt so like fear.

    C. S. Lewis

    Time heals griefs and quarrels,

    for we change and are no longer the same persons.

    Blaise Pascal

    Saith Rhyfeddod Naturiol:

    Mynydd Eferest, Y Barriff Mawr, Yr Hafn Fawr, Gwawl y Gogledd, Harbwr Rio de Janeiro, Llosgfynydd Paricutin, Rhaeadrau Victoria

    Saith nodyn mewn graddfa gerddorol:

    C D E F G A B

    Saith cyfandir:

    Yr Antarctig, De America, Gogledd America, Ewrop, Asia, Affrica, Awstralasia

    Saith diwrnod yr wythnos:

    Llun, Mawrth, Mercher, Iau, Gwener, Sadwrn, Sul

    Saith oes galar:

    Gwylltio, Ar goll, Anwybyddu, Dechrau deall, Derbyn, Brifo, Gwella

    Saith Chakra:

    Chakra y Goron, Chakra y Trydydd Llygad, Chakra y Gwddf, Chakra y Galon, Chakra y ‘Solar Plexus’, Chakra ‘Sacral’, Chakra y gwreiddyn

    Saith lliw yr enfys:

    Coch, Melyn, Oren, Gwyrdd, Glas, Indigo, Fioled

    Gwylltio

    All o ddim diodde mwy o hyn…

    Heb wybod lle i droi, na beth i’w wneud, gafaela Cain yng nghwpwrdd llestri ei fam a’i dynnu â’i holl nerth oddi wrth y wal. Mae’n taflu’r llestri hwythau, fesul un i’r llawr. Mae’r gwydr fel nodwyddau ar hyd yr ystafell. Mae Sera ei chwaer fach yn sgrechian crio, a’i frawd bach, Tomos, hefyd. Acw draw, mae ei fam yn dechrau crio, a rŵan ei dad… ac yna Taid.

    Mae Cain yn gadael y tŷ. Heb air. Gan adael y chwalfa ar ei ôl. Mae’r galar yn fwystfil y tu mewn iddo, ac yntau’n methu ei reoli.

    *

    Digwyddodd hyn fisoedd yn ôl bellach. Does neb wedi dweud gair am y peth. Rhag ofn. Mae Cain wedi dod adre, wrth gwrs. Ond mae pethau’n wahanol. Tŷ tawel ydyw bellach. Tŷ sydd ag ofn siarad.

    Pentre Saith

    Mae hi’n nos.

    Yn y pellter, mae goleuadau’r dre’n pendwmpian.

    Mae’n rhewi.

    Disgleiria toeau’r tai. Mae canghennau’r coed hwythau yn wyn, fel petai rhywun wedi chwythu pecyn o siwgwr drostyn nhw.

    Does dim i’w glywed. Dim ond sŵn y môr yn sibrwd a’r cychod yn chwerthin yn eu cwsg.

    Fel arall, dim smic.

    Mae Cain yn methu cysgu. Bu’n troi a throsi ers bron i awr bellach. Y cwrlid yn dynn amdano, a’i anadl yn wyn yn nhywyllwch yr ystafell. Teimla’r botel ddŵr poeth wrth ei draed. Mae’n gyfforddus, yn gyfforddus iawn. Er hynny, mae cwsg yn gwrthod dod.

    Erbyn hyn, mae wedi syrffedu ar orwedd yn ei unfan. Edrycha ar y cloc. Hanner nos, yn union. Yn sydyn, mi wthia’r cwrlid yn ei ôl a chodi o’r gwely. Am ryw reswm, caiff ei dynnu at y ffenestr.

    A’i lygaid bellach wedi cynefino â’r tywyllwch, mae Cain yn estyn am y llenni, ac yn eu hagor… ac mae’n eu gweld. Cannoedd ar gannoedd ohonyn nhw. Yn codi’n uwch ac yn uwch. Fel plu eira’n codi yn hytrach nag yn disgyn, a phob un yn ddisglair, ddisglair.

    Mae’n agor y ffenestr yn sydyn, a daw’r olygfa’n nes ato.

    Yn awr does dim gwydr rhyngddo a’r llusernau bychain. Y llusernau o bapur sy’n codi’n uwch ac yn uwch o hyd. Pob un wedi’i goleuo â fflam fechan.

    Er mor oer yw hi, mae gweld y dyrfa o oleuadau’n codi’n araf tua’r nefoedd yn ei gynhesu. Pob llusern fel petai’n sgwrsio, y naill gyda’r llall, wrth godi’n uwch. Yn llachar, llachar. Cannoedd ar gannoedd ohonyn nhw.

    Does dim smic i’w glywed. Er hynny, mae’r awyr fel petai’n fyw o gerddoriaeth wrth i’r llusernau godi a chodi a chodi. Mae Cain yn sefyll yno, yn hollol dawel, wedi’i gyfareddu.

    Welodd o erioed unrhyw beth mor hardd â hyn yn ei fywyd. Erioed.

    Yn sydyn, mae’n clywed drws y tŷ’n cau. Yn ofalus, cama allan i’r cyntedd. Mae drws llofft ei rieni wedi’i gau, a hefyd ddrws llofft ei frawd a’i chwaer fach. Ond mae drws llofft Taid yn gilagored. Fel arfer, bydd Cain yn casáu pasio’r ystafell hon; bydd yn casáu cysgu drws nesa at Taid, yn casáu bod yn y tŷ o gwbl. Rŵan. A phethau fel ag y maen nhw. Ar ôl colli Nain… a Taid fel ag y mae o, yn brifo cymaint yn ei alar. All Cain ddim diodde bod yno o gwbl.

    Ond nid heno. Heno, does arno ddim ofn. Mae golau’r llusernau yn chwerthin yn ddireidus drwy ffenestri’r cyntedd, ac yn gwella holl boenau Cain.

    Wrth agor ei ddwylo a’u rhoi i orwedd ar bren cynnes y drws, mae Cain yn sibrwd yn dawel:

    Taid?

    Neb yn ateb.

    Dim ond olion. Olion Taid – ei byjamas ar y llawr, hanger ei siwt dydd Sul yn wag. Nid yw ei het yno… na’i got ucha… na’i sgidiau.

    Mae llwch ysgafn yn dawnsio yng ngolau’r llusernau. Yn ysgafn, ysgafn. Mae’r ystafell fel petai’n anadlu’n dawel.

    Dim ond chwarter eiliad sy’n pasio cyn i Cain ddiflannu drachefn i’w lofft. Does dim dewis. Tynna’r jîns dros ei byjamas, a gwasgu’i sgidiau cerdded am ei draed. Mae un o’i sodlau’n gyndyn o fynd i mewn ond, gydag un hyrddiad sydyn, mae’n diflannu i ddüwch yr esgid.

    Brasgama i lawr y grisiau.

    Wrth iddo redeg tuag at y drws, mae’n cipio’i anorac glas tywyll oddi ar y bachyn, ac yn taflu’i het am ei ben. Fel bwgan brain.

    Mae’n rhedeg allan.

    Taid?

    Dim ateb.

    Taid?

    Ond does dim golwg ohono.

    Mae hi’n oer.

    Taid?

    Wrth edrych o’i gwmpas, a thynnu’i gôt yn dynnach amdano, mi wêl Cain fod y trigolion i gyd yn cysgu, a phob tŷ yn dywyll, dywyll.

    Edrycha i fyny.

    Mae’r llusernau wedi codi’n uwch fyth erbyn hyn, ond yn dal i ddisgleirio.

    Wrth iddo edrych tua’r awyr, mae’n clywed sŵn traed. Mae bron yn siŵr o hynny.

    Taid?

    Ond eto, does dim ateb.

    Rhyfedd.

    Dechreua Cain boeni o ddifri.

    Taid?

    Mi gerdda heibio i gornel y tŷ, a’r graean yn crensian o dan ei draed.

    Mae’n aros… Dim byd ond tawelwch llethol.

    Dechreua gerdded unwaith eto, ac mi ddiolcha’n dawel iddo fo’i hun fod y llusernau’n cynnig y fath oleuni – gall weld amlinelliad o’r sied, a’r motor-beic. Ond dim byd arall. Does dim golwg o Taid.

    Rheda Cain yn ôl i’r stryd.

    Mae’n edrych i lawr tuag at Allt Fach.

    Yno, yn y pellter, gwêl ffigwr yn y cysgodion. Ffigwr a chanddo’r un cerddediad â Taid. Yr un cloffni yn ei goes chwith. Yr un cryfder yn ei ysgwyddau. Ond beth fyddai Taid yn ei wneud ar Allt Fach yng nghanol y nos? Fe wêl Cain y llusernau’n symud, bron fel petaent yn dilyn Taid.

    Beth mae’n ei wneud?

    Ai am gael amser ar ei ben ei hun y mae o?

    Am eiliad, mae Cain yn ystyried rhoi llonydd iddo. Am hanner eiliad. Cyn penderfynu ei ddilyn. Yn dawel.

    *

    Mae dilyn rhywun, gan geisio cadw hynny’n gyfrinach, yn beth anodd. Mae’n rhaid ceisio camu ar yr un pryd â’r person, rhag iddo glywed y pâr arall o draed sydd y tu ôl iddo.

    Synna Cain o weld pa mor gyflym mae Taid yn cerdded, fel petai wedi cael egni newydd o rywle.

    Mae Cain yn colli’i wynt. Try ei anadl yn ager o flaen ei wyneb.

    Mae arno eisiau pesychu, ond all o ddim. Ddim rŵan. Rhag ofn. Chwilia ym mhoced ei anorac am y Mint Imperials.

    Mae’n lwcus.

    Am ennyd, mae’r fferen yn tawelu’r cosi yn ei wddw.

    Mae’r ddau’n parhau i gerdded, ymhellach ac ymhellach o’u cartre.

    Wrth ddilyn Taid, mae Cain yn dechrau colli adnabod ar y ffordd. Fuodd o ddim ar hyd y lôn yma o’r blaen. Mae’r coed yn fwy trwchus, yn hŷn.

    Mae’r ddau’n parhau i gerdded. Y ddau’n cadw cyfrinach oddi wrth ei gilydd, a’r ddau’n canu’r un ddeuawd â’u traed.

    Cerdded.

    Cerdded.

    Dechreua’r llwybr fynd yn fwyfwy dieithr. Mae’r modrwyau ym moncyffion y coed yn ymddangos yn wahanol. Nid dyma’r coed y byddai’n dod i anturio ynddyn nhw ar ôl ysgol. Nid dyma’r coed y bu’n eu dringo bryd hynny.

    Egyr y goedwig ei breichiau am y ddau.

    Mae’r llwybr troed yn araf ddiflannu.

    Rŵan, canghennau sydd o dan draed.

    Canghennau sydd uwch ei ben hefyd. A thrwyddynt, gall Cain weld y llusernau’n dal i godi.

    Ond wrth edrych i fyny, a pheidio â gofalu ble mae’n

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1