Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Angylion Pryder
Angylion Pryder
Angylion Pryder
Ebook85 pages46 minutes

Angylion Pryder

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Meinir Wyn Edwards's Welsh translation of Worry Angels is a 15,000 word volume for 9-12 year old readers. This is a sensitive and lively novel, portraying a young girl dealing with mental health problems. Amy-May has to deal with many changes in her life, and she worries about everything - moving school, parents separating and meeting new people.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateApr 22, 2021
ISBN9781800990708
Angylion Pryder
Author

Sita Brahmachari

Sita Brahmachari was born in Derby in 1966 to an Indian doctor from Kolkata and an English nurse from the Lake District. She has a BA in English Literature and an MA in Arts Education. She is the author of Artichoke Hearts. Her many projects and writing commissions have been produced in theatres, universities, schools and community groups throughout Britain and America. Sita lives and works in North London with her husband, three children and their dog, Billie.

Related to Angylion Pryder

Related ebooks

Related categories

Reviews for Angylion Pryder

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Angylion Pryder - Sita Brahmachari

    Angylion_Pryder_Clawr.jpg

    Sita Brahmachari

    Angylion

    Pryder

    Addasiad

    Meinir Wyn Edwards

    Darluniau gan

    Jane Ray

    Cyhoeddwyd y fersiwn gwreiddiol yn 2017

    gan Barrington Stoke Ltd.

    Argraffiad cyntaf: 2021

    Hawlfraint testun © Sita Brahmachari.

    Hawlfraint darluniau © Jane Ray.

    Addaswyd gan Meinir Wyn Edwards.

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n

    anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono

    trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb

    gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    E-ISBN: 978-1-80099-070-8

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 80099 067 8

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru

    ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    Cynnwys

    Potyn yn deilchion

    Pen draw’r ffordd

    Chwyn

    Dim signal

    Y tŷ celf

    Gofalus

    Croeso

    Torri’r newyddion

    Ceiniog amdanyn nhw!

    Angylion

    Ennill ffydd

    Hen ffrindiau

    Ar ôl Grace

    Rwy’n cyflwyno’r stori i dair athrawes ysbrydoledig –

    Miss Stowe, sy’n bresenoldeb heulog ym mywydau miloedd o blant… ac sy’n creu angylion papier mâché;

    Maggie Barron, a ddysgodd fi i ddilyn y llinellau yn y tywod gan fy arwain wedyn i sgwennu straeon;

    Grace Emily Manning, ‘Amazing Grace’, artist ifanc â gwallt gwyllt, a dychymyg mwy gwyllt fyth.

    Pennod 1

    Potyn yn deilchion

    Dwi’n tynnu’r dwfe dros fy mhen ac yn gwasgu fy nwylo’n dynn dros fy nghlustiau. Ond mae sŵn Mam a Dad yn dadlau yn dal i frifo.

    Wnest ti addo dweud os bydden ni ddim yn gallu talu’r rhent eto! mae Mam yn gweiddi. Beth ydyn ni’n mynd i fyw arno nawr – awyr iach?

    Dwi ddim yn gallu clywed ymateb Dad, ond mae Mam yn mynd yn fwy blin.

    Alli di ddim cuddio dy ben yn y tywod o hyd! mae’n gweiddi.

    Ond wedyn mae eu lleisiau’n tawelu, ond rhyw dawel peryglus fel hen degell ar stof ar fin chwibanu’n groch wrth i’r dŵr ferwi.

    Dwi’n aros… ac…

    Mae’r drws ffrynt yn cau’n glep.

    Dwi’n rhedeg at y ffenest a gweld Dad yn neidio ar ei foto-beic ac yn sgrialu i ffwrdd, gan droi i’r lôn isel sy’n dilyn y môr.

    Dwi’n clywed sŵn yr injan nes iddo ddiflannu ar hyd ffordd yr arfordir. Galla i glywed y tonnau’n llepian yn ôl a mlaen, yn ôl a mlaen. Dwi’n trio anadlu’n araf i rythm llanw a thrai’r dŵr. Dad ddysgodd fi i wneud hynny pan dwi’n teimlo’n bryderus fel hyn…

    anadlu’n ddwfn

    yn araf, araf

    mewn a mas

    i mewn gyda’r don

    a mas gyda’r don.

    Mae Mam yn yr ardd, ei phen yn isel. Mae golau fy stafell yn goleuo’i hwyneb.

    Fydd Dad yn dod ’nôl tro ’ma? galwaf arni.

    O’r mawredd, pryd nath yr ardd ’ma dyfu mor wyllt, wir? mae’n gofyn, a’i llais wedi torri. Cer i gysgu, Mia fach. Paid becso, byddwn ni’n iawn.

    Ond dyw hi ddim wedi ateb y cwestiwn, ydy hi?

    Mae Mam yn dod i’r tŷ wedyn ond dwi’n aros wrth y ffenest, yn edrych ac yn aros. Mae’r sêr yn disgleirio fel petai’r noson i fod yn berffaith.

    Dwi’n edrych i lawr ar yr ardd lle blannodd Dad a fi flodau n’ad fi’n angof llynedd. Dwi ddim yn gallu eu gweld nhw nawr. Ydy’r blodau glas llachar yn cuddio dan y chwyn a’r dail poethion?

    Dwi’n gadael y ffenest ar agor, yn dringo i mewn i’r gwely, tynnu’r dwfe dros fy mhen eto, ac aros ac aros ac aros i glywed rhu’r moto-beic a Dad yn dod adre…

    Ro’n i’n poeni am rywbeth… ro’n i wedi bod yn teimlo pryder ers amser hir. A dyma beth ddigwyddodd yr wythnos wedyn.

    Mae dyn a dynes yn llwytho bocsys i ddwy fan. Mae yna

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1