Cicio'r Bar
()
About this ebook
Related to Cicio'r Bar
Related ebooks
Sw Sara Mai Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsLlyfr Glas Nebo - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018 Rating: 4 out of 5 stars4/5Beti Bwt Rating: 4 out of 5 stars4/5Pluen Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsStori Orau, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCelwydd Oll Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsAngylion Pryder Rating: 0 out of 5 stars0 ratings#Helynt Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGadael Lennon Rating: 5 out of 5 stars5/5Stori Sydyn: Y Stelciwr Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfrinach Craig yr Wylan Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsSeren Wib a Straeon Eraill Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Alys a Megan: 2. Alys Eto Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsY Nendyrau Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsFel Edefyn Gwe Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGwynt Braf, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsY Seren Uwch fy Mhen Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHi yw fy Ffrind Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsStori Sydyn: Pobl Fel Ni Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Pen Dafad: Asiant A Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHedyn Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsDanny Pencampwr y Byd Rating: 4 out of 5 stars4/5Mab y Mynydd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsDwy Farwolaeth Endaf Rowlands Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsPaid â Bod Ofn Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsSara Mai ac Antur y Fferm Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsStori Sydyn: Un Noson Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsBrenin y Trenyrs Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Annalisa: Annalisa Swyn yn Mynd i Wersylla Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsO'r Cysgodion - Casgliad o Straeon Byrion Rating: 0 out of 5 stars0 ratings
Reviews for Cicio'r Bar
0 ratings0 reviews
Book preview
Cicio'r Bar - Sioned Wiliam
Er cof am Aber a’r dyddiau da
Argraffiad cyntaf: 2018
© Hawlfraint Sioned Wiliam a’r Lolfa Cyf., 2018
Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw
Cynllun y clawr: Dorry Spikes
Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-78461-597-0
Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol
Cyngor Llyfrau Cymru
Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru
ar bapur o goedwigoedd cynaladwy
gan Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE
e-bost ylolfa@ylolfa.com
gwefan www.ylolfa.com
ffôn 01970 832 304
ffacs 01970 832 782
Hydref
Anwen
Codi cyn amser cinio (weithe)
Actually gwitho yn y llyfrgell
Cofio leino’r stumog cyn sesh
Delyth
Bwyta’n iach – mwy o ffibr?
Ymarfer corff – loncian?
Creu amserlen waith effeithiol
Nia
Mwynhau profiadau newydd
Casglu darnau 10c ar gyfer y ffôn
Prynu duvet
Anwen
Styc yn y caffi am wthnos arall. Wi’n drewi o chips a wye ’di ffrio, a wi’n ffaelu ca’l y drewdod mas o ’ngwallt, dim ots faint wi’n ei olchi fe. A wi’n defnyddio’r Elseve Balsam ’na sy fod yn wych, yn ôl yr adverts! Ma’r bwyd yn y caffi yn ffiedd – yn morio mewn sa’m a dim byd yn fresh. Popeth mas o catering packs anferth – lasagne a peis a byrgyrs, i gyd yn blasu yn gwmws ’run peth. Popeth yn frown. Do’s dim clem ’da fi beth sy yn yr un ohonyn nhw. Cig ceffyl, am wn i. Ond mond i chi osod y stêcs ar blât gyda pheil o chips ma pobol yn hwfro nhw lawr.
Rîal greasy spoon o le yw hwn, wastod yn drwch o fwg sigaréts. Sai’n gwbod pryd olchwyd y ffenestri ddwetha, sneb yn galler gweld miwn na mas drwyddyn nhw. A ma rhywun ’di sgrifennu ‘Clean Me’ yn y llwch ar y drws ffrynt. Ma topie’r byrdde Formica wedi craco (a wastod yn fawlyd) ac ma pobol yn ishte ar gadeirie pren, sy mor hen ma’n nhw’n cwmpo’n ddarne’n itha amal. Ar ben bob ford ma ’na domato plastig coch yn dala ketchup. Ond ethen i ddim yn agos atyn nhw achos sai’n credu bod yr un ohonyn nhw wedi gweld ôl clwtyn yn ddiweddar. Heb sôn am ga’l ei wagio. Am wn i fod ’na ketchup o’r sixties yn ’u gwaelodion nhw.
Dim ots – fydda i ’di ennill digon i gadw fi fynd tymor nesa. Ac i brynu’r jîns felfet pinc ’na weles i yn Camelot. A pan af i ’nôl i Aber fe ga i symud mewn i’r fflat newydd! Bydd e’n od i fod mas o Panty. Bydd ishe i fi goginio, am un peth. Ac ma Gill yn wa’th na fi. Sai’n meddwl bod hi’n gwbod shwd i ferwi wy hyd yn o’d. Sy’n od, a ninne’n ferched fferm. Ond ’na beth sy’n dod o ga’l mame sy’n cwco’n wych. Dim motivation i ddysgu coginio pan ma fe’n llythrennol ar blât i chi bob pryd. Meddwl falle byddwn ni’n hala lot o amser yn Caffi Morgan.
Nia
Daeth yr awr. Alla i ddim credu mod i’n mynd o’r diwedd. Wedi pacio popeth, dw i’n meddwl. Tegell newydd (oren!), duvet newydd sbon (a chlawr glas a gwyn o Peacocks), coeden fygie a chwech my`g hyfryd o farchnad Bessemer Road. Nescafé a Tetley mewn tunie neis wrth Mam-gu, cyllyll a ffyrc a chwpwl o blatie blodeuog ail-law. Bydd ishe posteri arna i ond fe alla i brynu rheina yn Aber. Dw i ddim yn siŵr pa fath o stafell fydd gen i ond does dim ots, dw i mor ddiolchgar i Helen am adael i mi rannu gyda hi a’i chyfnither Sara yn y tŷ yn Llanbadarn. Fe fydd yn gyfleus iawn i’r campws, am un peth. A chan fod Helen a Sara ar eu blwyddyn ymarfer dysgu, dw i’n mawr obeithio y bydd hi’n weddol dawel yn y tŷ. Dim ond blwyddyn sydd gen i, wedi’r cyfan, i feistroli holl gyfrinachau llyfrgellyddiaeth.
Mae’r cwrs yn swnio’n ddiddorol. Dw i’n edrych ’mlaen at ddarganfod mwy am drefnu llyfrgell a sut i drin llyfrau prin. Dyw catalogio a llyfryddiaethau ddim yn fy niddori cweit gymaint falle ond mae’n rhaid meistroli pob agwedd, mae’n debyg. Yn dwlu ar y syniad o redeg llyfrgell fach gymunedol. Awgrymu llyfrau da i’w darllen neu gynnal sgwrs ’da rhyw gwsmer am awdur dadleuol a denu darllenwyr newydd trwy’r drysau. Dw i wrth fy modd yn suddo i’r llesmair hyfryd hwnnw sy’n dod o gael ymgolli’n llwyr mewn llyfr. A phob llyfr yn agor drws ar fyd newydd.
Bydd Aber yn dipyn o newid ar ôl y cwrs hanes yng Nghaerdydd. Dw i’n poeni fymryn am fyw oddi cartre am y tro cynta, ond mae’n hen bryd i fi sefyll ar fy nhraed fy hun. Ac roedd yna adegau yn ystod fy nghwrs gradd pan fyddwn i wedi hoffi aros allan yn hwyrach falle. A chael tamed bach mwy o breifatrwydd. Er fod Mami a Dadi yn wych, wrth gwrs. Ond mi fydd e’n sialens, rheoli cyllideb, coginio a glanhau drosto fi fy hun. Heb sôn am rannu tŷ gyda phobol ddieithr.
Ro’n i wrthi’n helpu gyda te’r festri prynhawn ’ma pan drawodd y peth fi’n sydyn – dw i’n mynd i Aber fory! A dw i’n teimlo braidd yn nerfus am y peth nawr.
Delyth
Diwrnod hir yn helpu yn swyddfa David Evans, ffrind i Mam a Dad. Mae e’n dda cael y cyfle gan ei fod yn lle eitha go-ahead a chanddo fe, David, griw diddorol o bartneriaid. Dynion i gyd, ond fe soniodd David ei fod yn awyddus i ddenu merched yn y dyfodol. A hynny, mae’n debyg, sy’n gyfrifol am y ffaith fod yr erchyll Marged Melangell ar brofiad gwaith yno hefyd. Mae hi’n stunning – yn fach ac yn dywyll fel Audrey Hepburn, a ’run mor chic hefyd. Ar ben hynny, mae’n glyfar ac yn boblogaidd gyda phawb. Yn enwedig y dynion. Yn gwneud i fi deimlo fel sach fawr o datws yn ei chwmni, ac nid jyst achos mod i bron droedfedd yn dalach na hi.
Gwneud te a choffi a defnyddio’r llungopïwr fues i fwyaf – mae gyda nhw rhyw beiriant smart o Lundain sy’n copïo gymaint yn gyflymach. O’n i’n chwerthin wrth feddwl am y peiriant Roneo yn yr ysgol erstalwm.
Ar ddiwedd y prynhawn aeth nifer ohonon ni draw i barti yn nhŷ David. Ei wraig, Patricia, agorodd y drws i ni – dynes luniaidd, ganol oed mewn Jaeger o’i chorun i’w sawdl. Mae’r tŷ yng Nghyncoed yn hyfryd. Telyn yng nghornel y stafell fyw (ar gyfer y plant, Meirionnydd a Gwynedd), carthenni ar bob soffa, darluniau gwreiddiol ar y muriau, a’r cyfan wedi’i oleuo’n chwaethus. Roedd Patricia (neu’r au pair Ffrengig y cefais gip arni efallai), wedi paratoi llond bwrdd o fwyd diddorol i ni – vol-au-vents madarch, cyw iâr a hufen, selsig bychain mewn mêl, salad reis a chwrens, a mayonnaise garlleg i’w fwyta gyda’r crudités. Roedd yna win gwyn hyfryd (Riesling, mae’n debyg) ac fe ges i damaid bach gormod ohono gan mod i mor nerfus. Yn teimlo braidd yn simsan erbyn diwedd y noson.
Roedd Mam yno, yn pefrio fel gwydraid o siampên a chylch o siaradwyr brwdfrydig o’i chwmpas drwy’r nos. Edrychai mor brydferth mewn ffrog wrap-around gan Diane von Furstenberg, gemwaith aur a sodlau aur i fatsio. Ddim yn siŵr lle’r oedd Dad.
Doedd hi ddim yn hapus pan welodd hi mod i’n dal i fod yn fy siwt waith yn hytrach na’r cocktail frock brynodd hi i fi yn Howells. Ond dw i’n edrych fel polyn telegraff ynddi achos does gen i ddim curves fel rhai Mam. Ac os dw i’n gwisgo sodlau, dw i’n dalach na phawb yn y stafell. Hyd yn oed y dynion. Gwell gen i guddio yn fy siwt a’n flatties.
Ond roeddwn i’n methu peidio â sylwi ar Mam yn edrych ar Marged Melangell yn llawn edmygedd, gan fod honno wedi newid i fewn i ffrog fach velvet, las tywyll, ac yn edrych yn petite a deniadol. A finne, yn Amazon anferth – ac eto yn ei chysgod rywsut, yn afrosgo ac yn swil.
Mae gen i’r math o wyneb mae pobol yn dueddol o’i anghofio. Mae pob dim yn y man cywir: llygaid gwyrddlas heb fod yn rhy fawr nac yn rhy fach, trwyn cymhedrol o ran maint a chroen sy’n gymharol rydd o frychau a smotiau. Ond does dim byd amdana i sy’n aros yn y cof. A dweud y gwir, dw i’n amau weithiau a ydy pobol yn fy ngweld i o gwbwl. Yn sicr, dw i’n aml yn gorfod ailgyflwyno fy hun, er mod i wedi cwrdd â nhw sawl gwaith o’r blaen. A hynny yn aml wedi i mi eistedd drws nesa iddyn nhw am noson gyfan.
Mae Mam yn berson cofiadwy iawn. Yn hanner cant, mae hi’n dal i fod yn brydferth, a chanddi’r math o wallt coch a chroen hufennog sydd ddim yn heneiddio. Ac mae hi gymaint in demand. Hi sy’n cadeirio pwyllgor Ffair y Blaid eleni ac mae hi a Patricia yn trefnu rhyw ddawns fawreddog yn y City Hall i godi arian i Tenovus hefyd. Dyw hi byth gartre. Nid bod hynny’n beth newydd i mi, wrth gwrs; roedd hynny’n wir hyd yn oed pan o’n i’n blentyn. Ac unwaith i mi fynd i’r ysgol breswyl yn Cheltenham ro’n i’n gweld llai fyth ohoni.
Yn rhyfedd iawn, fe ges i fwy o sgwrs gyda hi yn y tacsi ar ddiwedd y noson nag ydw i wedi ei gael ers blynyddoedd. I ddechrau fe ges i lond ceg am ‘beidio gwneud y gorau o dy hun, Del’. Ond wedyn fe wnaeth fy annog i ’gydio’n dynn yn yr holl gyfleoedd gwych sy o dy flaen di’. A dannod (roedd hi wedi yfed tipyn o Riesling) na chafodd hi’r cyfle i gael addysg coleg, a bod neb yn disgwyl iddi wneud mwy na ‘priodi’n dda’.
‘A beth yw priodi’n dda, beth bynnag?’ ychwanegodd. ‘Nid arian yw popeth, Delyth, weli di hynny rhyw ddydd.’
Bu seibiant anghyfforddus rhyngon ni wedyn, fel tase hi’n difaru dweud cymaint. Ro’n i’n chwilio am y geiriau i’w hateb, ond yn methu dechrau arni. Edrychai Mam allan drwy ffenest y tacsi, yn agor a chau cliced ei bag nos aur, a dw i’n siŵr i mi weld dagrau yn cronni yn ei llygaid. Ond ro’n i’n fud yn ei hymyl, er mod i’n ysu i glywed mwy. Do’n i jyst ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Typical. Hyd yn oed pan ga i gyfle, dw i’n methu cydio ynddo.
Yn rhy fuan o lawer fe gyrhaeddodd y tacsi adre. Ond fy ngollwng i ar waelod y dreif wnaeth Mam, gan ddweud ei bod hi ar y ffordd i barti arall. A gweiddi drwy ffenest y tacsi, ‘Deud wrth dy dad am beidio aros lan amdana i’, cyn diflannu i’r tywyllwch.
Sefais am funud yn gwylio goleuadau coch y tacsi’n pellhau. Yna, gyda chalon drom, fe adewais fy hun i fewn i’r tŷ. Doedd dim sôn am Dad felly gefais i fowlen o Special K yn y gegin gefn a mynd i’r gwely. Ond fe fues i’n troi a throsi am amser, yn methu peidio meddylu, ac roedd geiriau Mam yn mynnu gwthio’u hunain i flaen fy meddwl. Oedd hi’n trio dweud rhywbeth am ei pherthynas gyda Dad? Dy’n nhw ddim yn treulio llawer o amser gyda’i gilydd. Ond mae hynny’n wir am rieni nifer o’u ffrindiau. Y dynion yn y gwaith neu yn y clwb golff a’r gwragedd yn pwyllgora neu’n ciniawa. Mae Mam a Dad yn ymddangos yn ddigon hapus ac maen nhw’n mynd gyda’i gilydd ar dripiau i Lundain neu Baris weithiau. Ac yn ddiweddar fe fuon nhw i’r Eidal am bythefnos. Mae Dad yn hael iawn gyda’i arian, yn prynu anrhegion iddi’n reit aml. Ond dw i byth yn eu gweld nhw’n cyffwrdd. Wn i ddim…
O’r diwedd, rhaid mod i wedi cysgu.
Roedd y tŷ’n dawel eto pan ddeffrais y bore wedyn ac fe ges i frecwast ar fy mhen fy hun, gan droi fy meddyliau tuag at y tymor nesa yn Aber. Neuadd breswyl Cwrt Mawr fydd hi eto am y flwyddyn ola. Mae Llinos a finne mewn stafelloedd reit drws nesa i’n gilydd, diolch byth, achos dieithriaid fydd gweddill aelodau’r fflat. A Saeson i gyd hefyd, mwy na thebyg. Dyw’r Cymry ddim yn dueddol o aros yno, am ryw reswm. Dw i’n flin weithiau na ches i mo’r profiad o fyw ym Mhantycelyn. Ond o glywed hanesion Llinos am y sŵn a’r gwallgofrwydd, dw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi siwtio, rywsut.
Gobeithio y bydd hi’n ddigon tawel yng Nghwrt Mawr. Mae gen i flwyddyn anodd o ’mlaen i. Part IIs yng Nghaer flwyddyn nesa os ca i ganlyniad digon da eleni. Felly digon o waith a chanolbwyntio. Dim byd newydd yn hynny, wrth gwrs.
Anwen
Yn ôl Mami, ma’r Western Mail yn gweud bod Tom Jones wedi prynu tŷ yn Aber a Shirley Bassey’n tynnu peints yn y Cŵps. A bod epidemic ffliw ar y ffordd.
Cyn i fi adel Llambed fe fynnodd hi ga’l ‘sgwrs’ gyda fi.
Mami: Grynda, wi ’di bod yn darllen am y Welsh Nashis ’na yn Aber yn y Western Mail. Smo ti’n ffrindie ’da nhw, gobitho.
Fi: Wel, smo nhw i gyd yn extremists, Mami, a wi’n cytuno ’da lot o bethe ma’n nhw’n gweud.
Mami: Ond smo ni mofyn Northern Ireland arall fan hyn, y’n ni?
Fi: Dyw e ddim ’run peth, Mami, ac eniwe, ma Gwynfor yn heddychwr.
Mami: Nid ’na beth wedodd Mrs Jones Siop. Wedodd hi bod Cymdeithas yr Iaith a Plaid Cymru yn llawn extremists a hooligans.
Fi: Na, dy’n nhw ddim, Mami. Pobol barchus yw lot ohonyn nhw – darlithwyr coleg, myfyrwyr, athrawon hyd yn o’d.
Seibiant itha hir.
Mami: Wel, ma Mrs Jones Siop yn gweud taw dropouts a hippies y’n nhw. Ma hi ’di gweld nhw’n smygu drygs yn y National Milk Bar.
Fi: Wir i ti, Mami, wi’m yn nabod neb fel’na (a ’mysedd i wedi croesi tu ôl i ’nghefn).
Seibiant arall.
Mami: Wel, cadw bant o’r Milk Bar just in case.
Anyway – wi ’nôl!!! Mor ffab. A’th Gill a fi i gico’r bar cyn anelu’n syth am y Belle Vue! O’dd Gill yn boncers – yn clecio peints ffwl owt ac yn yfed Southern Comfort chasers hefyd. Yn gweud bod hi’n falch ca’l dianc o gatre. Ma rhieni itha crefyddol ’da hi a do’s dim tropyn o alcohol yn y tŷ byth. So ma hi’n mynd bach yn berserk pan ma hi’n dod ’nôl i Aber. Ond ma hi’n setlo lawr ar ôl cwpwl o hangofers cas. Ma hi’n dipyn o haden, ys dywede Mam – wastod yn barod am bach o laff, ond yn ffrind da hefyd os o’s rhwbeth yn bod. Cwrdd wnethon ni ar y penwthnos chweched dosbarth yn Panty. Wi’n cofio gweld y ferch ’ma mewn flares anferth, gwallt pinc a platforms yn gofyn am fwy o chips ac