Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Stori Orau, Y
Stori Orau, Y
Stori Orau, Y
Ebook148 pages2 hours

Stori Orau, Y

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A gripping novel about the relationship between a mother and daughter, as they travel in an old VW to various significant locaations throughout Wales, telling stories along the way. Winner of the Prose Medal at the 2021 AmGen Eisteddfod, with illustrations by Efa Lois.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateAug 6, 2021
ISBN9781800991125
Stori Orau, Y

Read more from Lleucu Roberts

Related to Stori Orau, Y

Related ebooks

Reviews for Stori Orau, Y

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Stori Orau, Y - Lleucu Roberts

    cover.jpg

    I Nyfain

    Diolch i wasg y Lolfa am eu cefnogaeth bob amser; i Sion Ilar unwaith eto am ei waith gofalus ar y clawr; i Huw Meirion Edwards yn y Cyngor Llyfrau am fwrw llygad manwl dros y testun; i Efa Lois am luniau’r clawr a darluniau sy’n gwneud yn union beth oedd gen i yn llygad fy meddwl, heb allu i’w fynegi mewn llun. Diolch yn fwyaf arbennig i Meleri Wyn James am ei gwaith golygu a’i chymorth amhrisiadwy ar daith y stori hon fel ar sawl un arall dros y blynyddoedd.

    Argraffiad cyntaf: 2021

    © Hawlfraint Lleucu Roberts a’r Lolfa Cyf., 2021

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Lluniau’r clawr a’r nofel: Efa Lois

    Cynllun y clawr: Sion Ilar

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-80099-112-5

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd ar ran Llys Eisteddfod Genedlaethol Cymru gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    1

    Dere, ferch!

    Dere gyda fi am dro bach. Galli adael i mi dy dywys os wyt ti eisiau, ond rwyt ti’n un annibynnol a dweud y lleiaf, yn mynnu teithio drwy dy fyd ar dy delerau dy hun. Wrth i mi edrych arnat, dwi’n gweld tywysoges weithiau, a choron emog ar dy dresi aur. Ond dwi’n dysgu’n gyflym nad dyna sut wyt ti am i mi dy weld. Gas gen ti hen ystrydebau a defodau sy’n clymu dynion at dduwdodau ffug. Mae dy fyd di’n un lle mae cydraddoldeb a thegwch yn llawer pwysicach na llwyau aur.

    Nid tywysoges, ond tylwythen deg, sy’n taenu daioni fel blawd llif hud lle bynnag y troedi. Rhyw Olwen Ddisneyaidd, yn denu blodau o’r ddaear o dy ôl. Wyt ti’n cofio’r dillad gwisgo lan yn y bocs teganau? Wyt, mae’n siŵr, er mai cywilyddio wnei di heddiw am gael dy rwydo gan beiriant ffantasïau cyfalafol Americanaidd pan oeddet ti’n fawr o beth i gyd, a synnu at fy mharodrwydd i blygu dan bwysau’r hyn roedd rhieni plant eraill yn ei roi i’w plant hwythau.

    Fe gefaist dy siâr o blastig lliwiau pastel. Digon i adael ei ôl ar safle tirlenwi neu ddarn o fôr. Teganau i’w caru am funudau, a’u hanwybyddu am flynyddoedd. Teganau dysgu byw, a mwy o offer cegin na’r ddelfryd cyn i mi lithro i rychau traddodiad a ffasiwn. Beth oedd gan Haima lawr yr hewl, Bela ar ben y stryd, Ciara yn y Cylch a Faiza dy ffrind, dyna gest ti, dim mwy, dim llai. Dy gael di i fod yr un peth oedd y peth, er fy mod i’n gwybod tu mewn dy fod ti’n wahanol. Yn y byd, yr hyn oedden nhw oeddet ti i fod, a hynny er dy fwyn di. Allwn i ddim gadael i ti arddangos dy grib yn rhy amlwg, rhag denu dirmyg a chenfigen.

    Tu mewn, wel roedd honno’n stori wahanol. Tu mewn, roeddwn i am i ti fod yn ti dy hun ar dy ben dy hun, yn ddoethach, yn glyfrach, yn aeddfetach, yn finiocach dy feddwl. Roeddwn i am i ti ddisgleirio o fewn ein bydysawd bach ni, ac fe wnest ti hynny wrth gwrs, o’r diwrnod cyntaf un. Edrychais i mewn i dy lygaid, ac fe chwythaist ti dy swyn yn ôl i mewn i mi, i fachu ar fy anadl, gan fy ngwneud yn gadwedig am oes.

    Ond wrth i ti dyfu, efallai fod ceisio bod yn bopeth i ti, yn rhieni ac yn deulu, wedi gwneud i mi osod disgwyliadau’r holl deulu nad oedd yn bodoli ar dy ysgwyddau di hefyd. A chyda’r disgwyliadau, y gofidiau, wrth gwrs. Felly mae hi bob tro. Pwysau, gwrthbwysau. I bob gwactod, llithra’i wrthwyneb. Pris pob llawenydd yw trallod: i bob gwên ei gwg. Hynna i gyd.

    Fe dyfaist. Fe ddysgaist. Do, fe est ti drwy flynyddoedd gwrthryfela, ond doedden nhw ddim hanner mor ddrwg â’r hyn a ddychmygais. Fy mrwydrau i oedd llawer o dy rai di o hyd. Ac fe ddest ti allan o’r blynyddoedd hynny, gallet ddweud, heb golli dim o’r agwedd benderfynol y cest ti dy fagu â hi. Rwyt ti cystal rhyfelwraig heddiw ag y bues i erioed.

    A weithiau, dwi’n dal i wneud y camgymeriad sylfaenol o anghofio hynny.

    2

    ‘F aint o duniau ffa cannellini sy ’da ti?’

    ‘Chwech. Tuniaid y dydd.’ Roedd pendantrwydd i’w llais na feiddiwn ei herio. ‘Os eith hi’n chwe diwrnod wrth gwrs.’

    ‘Oes raid bwyta ffa cannellini bob diwrnod, ’te?’ holais.

    ‘Mae’n haws cario chwech na gorfod meddwl am fynd i brynu rhai.’

    Digon teg. Treuliais flynyddoedd pan oedd hi’n iau yn ceisio’i chymell i fwyta bwydydd iachach na’r rwtsh oedd hi’n ei ffafrio, a daeth cyfnod wedyn pan benderfynodd nad oedd hi am fwyta dim byd oedd wedi cyffwrdd mewn plastig, ar unrhyw ran o’i daith at silff y siop, a hynny cyn i’r holl sylw gael ei roi ar y cyfryngau i’n gorddefnydd ohono. Roeddwn i’n rhyw led-amau mai esgus oedd y gwrthwynebiad i blastig, ac i olew palmwydd cyn hynny, i gael bwyta cyn lleied ag y dymunai. Ond fe ddaethon ni drwyddi, fel pob dim arall, bron iawn.

    Ac os mai ffa cannellini oedd y pris roedd yn rhaid i rywun ei dalu am ferch iach, wel, dyna ni.

    Hi oedd yn talu wrth gwrs, hi drefnodd y cyfan. Y daith o’i dechrau i’w diwedd. Y bwyd, y dillad, y map, y drefn. Rhoi popeth oedd ei angen yn y fan, yn ei le yn dwt, a phetrol a phob dim. Y fath edmygedd a deimlais neithiwr pan aeth hi ati o dan y bonet i wneud yn siŵr fod digon o ddŵr ac olew yn iro pibau llwglyd yr hen VW. Na, hi oedd wedi gwneud y gwaith trefnu i gyd. A hi fyddai wrth y llyw ym mhob ystyr.

    Eistedd yn sedd y pasinjyr fyddwn i. Cwmni, dyna i gyd.

    Cododd focs arall o duniau a phacedi bwyd (rhai diblastig ar y cyfan) i mewn i’r gofod o dan sedd y fan yn y cefn, cyn sythu ac ebychu ei rhyddhad fod y bwyd wedi’i bacio. Cam nesaf nawr.

    ‘Agorwr tuniau?’ holais yn ofalus.

    ‘Yn y bocs cytlyri,’ gwenodd, yn falch ohoni’i hun, a phwyntio at y cwpwrdd bach uwchben y sinc lle byddai’n cadw’r cyllyll a’r ffyrc.

    ‘Da ferch,’ canmolais. Sut ar wyneb y ddaear y llwyddais i i fagu bodolaeth mor drefnus?

    ‘Bydd angen lle i’r cês dillad,’ meddai hi wedyn. ‘Falle galla i wared rhai o’r gemau dwl o dan y gwely. Fydd dim o’u hangen nhw. Bydd lle i’r cês yn fyn ’ny wedyn.’

    Aeth ati i estyn y Cluedo a’r Monopoly Cymru, y Scrabble yn Gymraeg a’r bwrdd gwyddbwyll o dan y fainc a fyddai’n troi’n wely yn y nos. Tynnodd nhw allan i’r darn bach o lawr rhwng y sinc a’r drws.

    ‘Trueni,’ meddwn i.

    ‘Trueni mawr,’ meddai hi. ‘Falle gallwn i gadw’r gwyddbwyll.’ Ond yr eiliad nesaf, roedd hi wedi pentyrru’r cyfan un ar ben y llall ac yn eu cario i’r tŷ.

    ‘Dim lle i nostalja,’ gelwais ar ei hôl. ‘Bydd digon o lefydd i fynd iddyn nhw, fel caffis neu dafarnau.’

    Pan oedd hi’n blentyn bach, byddai’r ddwy ohonon ni’n gaeth i’r fan, i gwmni ein gilydd, gyda’r nosau, pan fyddai pobl eraill yn mynd i dafarnau neu i garafannau ei gilydd. Allwn i mo’i gadael hi ar ei phen ei hun. A beth bynnag, roedd hi’n gwmni gwell nag a gawn i yn unman arall, a byddai ei doniau Scrabble amheus, neu ei hariangarwch annodweddiadol wrth chwarae Monopoly yn cymell chwerthin llawer dyfnach nag y byddai diddanwch dieithriaid wedi’i wneud.

    Daeth yn ei hôl, yn cario sach gefn fawr, a’i llond o ddillad. ‘Popeth ynddi?’ holais. ‘Wythnosaid o ddillad isa, sanau, nicyrs, bra, dillad nos? Siwmper rhag y tywydd, mae hi’n gallu bod yn oer ym mis Medi.’

    ‘Ddim saith oed ydw i,’ meddai, ac fe ymddiheurais. Hen arfer, cadw trefn ar blant.

    ‘Nage wir,’ meddwn. A phe dôi i hynny, roedd hi’n fwy trefnus na fi pan oedd hi’n saith.

    Gwthiodd y sach o dan y fainc, a chododd i archwilio. Edrychodd o’i chwmpas, fel pe bai’n gwneud nodyn yn ei meddwl o bob dim y gallai fod wedi’i anghofio.

    ‘Ydyn ni’n barod?’ gofynnais.

    ‘Mor barod â byddwn ni,’ atebodd. Aeth i’w phoced a thynnu allwedd y tŷ ac allwedd y fan allan ar fwnsiaid mawr o allweddi nad oedd angen eu hanner bellach. ‘Fe af i rownd y tŷ i neud yn siŵr fod popeth wedi’i ddiffodd.’

    Dilynais hi i mewn, yn ail bâr o lygaid.

    3

    Clodd y drws, a throi’r bwlyn i wneud yn siŵr. Edrychodd o’i chwmpas ar weddill y stryd. Doedd neb i’w weld o gwmpas, a falle mai da hynny. Doedd hi ddim yn ddoeth dangos i bawb eich bod chi ar fin gadael eich holl eiddo am ddyddiau bwy gilydd. Roedd hi wedi cnocio ar ddrws drws nesa, er mwyn sôn wrth y teulu yno na fyddai hi adref am rai dyddiau fel eu bod nhw’n gwybod, ac roedd y gŵr wedi ateb, a’r wraig wedi dod ato o’r gegin, a’r ddau wedi dweud wrthi, heb iddi ofyn, y bydden nhw’n cadw llygad ar y lle. Diolchodd hithau’n llaes iddyn nhw. Doedd hi ddim wedi sylweddoli cyn hynny rhai mor garedig oedden nhw: rhyw ‘helô’ dros y wal oedd hi wedi bod dros y blynyddoedd, fawr mwy na hynny.

    Penderfynu mynd ar chwiw wnaeth hi, ryw bythefnos dair wythnos ynghynt. Rhaid oedd trefnu gyda’i gwaith wrth gwrs, ond gan mai bythefnos ymlaen llaw y byddai’r llyfrgell yn trefnu sifftiau, chafodd hi fawr o drafferth dod i ben. Roedd ganddi wyliau i’w cymryd, chwe diwrnod i gyd, ond gofynnodd am bump: gyda’r ddau benwythnos bob pen, gallai gael dros wythnos.

    ‘Mi neith les i ti,’ meddai ei rheolwr llinell wrthi cyn ychwanegu’n frysiog, ‘Ma pawb angen gwyliau.’ A dechreuodd ddifaru ar unwaith mai peth annoeth iawn oedd cymryd cymaint o wyliau, i gyd gyda’i gilydd. Beth pe bai rhywbeth yn codi, fel oedd yn anorfod, am fod pethau’n codi o hyd? Angen bod adref i agor y drws i’r plymwr ddod i

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1