Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Rhyfeddod
Rhyfeddod
Rhyfeddod
Ebook353 pages4 hours

Rhyfeddod

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Starting 5th grade at Beecher Prep, Auggie wants nothing more than to be treated as an ordinary kid - but his new classmates can't get past his extraordinary face. Wonder begins from Auggie's point of view, but soon switches to include the perspectives of his classmates, his sister, her boyfriend, and others.
LanguageCymraeg
PublisherRily
Release dateFeb 7, 2022
ISBN9781804160657
Rhyfeddod
Author

R. J. Palacio

R.J. Palacio lives in New York City with her husband, two sons, and two dogs. For more than twenty years, she was an editorial director, an art director, and a graphic designer working on books for other people while waiting for the perfect time in her life to start writing her own novel. But one day several years ago, a chance encounter with an extraordinary child in front of an ice cream store made R.J. realize that the perfect time to write that book had finally come. Learn more about the author at RJPalacio.com. R. J. Palacio is available for select readings and lectures. To inquire about a possible appearance, please contact the Random House Speakers Bureau at rhspeakers@penguinrandomhouse.com.

Related to Rhyfeddod

Related ebooks

Reviews for Rhyfeddod

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Rhyfeddod - R. J. Palacio

    llun clawr

    Cyhoeddwyd gyntaf yn Saesneg yn 2012 gan Penguin Random House o dan y teitl Wonder.

    Darn o waith ffuglen yw hwn. Mae’r enwau, y cymeriadau, y llefydd a’r digwyddiadau’n ffrwyth dychymyg yr awdur neu fe’u defnyddir mewn modd ffuglennol. Mae unrhyw debygrwydd i unigolion penodol yn fyw neu’n farw, digwyddiadau neu leoliadau, yn gyd-ddigwyddiad llwyr.

    Hawlfraint © 2012 gan R. J. Palacio.

    Gwaith celf y clawr gan Tad Carpenter. Cyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau gan Alfred A. Knopf, orgraff i Random House Children’s Books, is-gwmni i Random House LLC, cwmni Penguin Random House, Efrog Newydd. Mae Knopf, Borzoi Books a’r argraffnod yn nodau masnach cofrestredig gan Random House LLC.

    Cyhoeddwyd gyntaf yn Gymraeg yn 2022 gan Rily Publications Ltd, Blwch Post 257, Caerffili CF83 9FL

    Addasiad Cymraeg: Eiry Miles

    Hawlfraint © y testun Cymraeg 2022: Rily Publications Ltd.

    Cedwir pob hawl.

    Mae’r cyhoeddwr yn cydnabod cefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.

    ISBN 978-1-80416-065-7

    www.rily.co.uk

    I Russell, Caleb a Joseph

    Daeth doctoriaid o ddinasoedd pell

    dim ond i rythu arna i,

    sefyll uwch fy ngwely

    yn gwrthod credu’r hyn maen nhw’n ei weld.

    Maen nhw’n dweud mai rhyfeddod wyf

    o gread duw ei hun

    a hyd y gwelan nhw, does ganddyn nhw

    ddim eglurhad.

    Natalie Merchant, ‘Wonder’

    Rhan Un

    August

    Gwenodd ffawd a chwarddodd tynged

    wrth nesáu at fy nghrud …

    Natalie Merchant, ‘Wonder’

    Cyffredin

    Nid bachgen deng mlwydd oed cyffredin ydw i. Dwi’n gwybod hynny. Dwi’n gwneud pethau cyffredin, wrth gwrs. Dwi’n bwyta hufen iâ. Dwi’n reidio fy meic. Dwi’n chwarae pêl-droed. Mae ’da fi Xbox. Pethau fel ’na sy’n fy ngwneud i’n gyffredin. Sbo. A dwi’n teimlo’n gyffredin. Ar y tu fewn. Ond dwi’n gwybod nad yw plant cyffredin yn gwneud i blant cyffredin eraill redeg bant yn sgrechian mewn parciau chwarae. Dwi’n gwybod nad yw pobl yn rhythu ar blant cyffredin ble bynnag maen nhw’n mynd.

    Taswn i’n dod o hyd i lamp hud ac yn cael un dymuniad, byddwn i’n dymuno cael wyneb cyffredin na fyddai neb yn sylwi arno fe o gwbl. Byddwn i’n dymuno gallu cerdded i lawr y stryd heb i bobl fy ngweld i a gwneud yr hen fusnes edrych-i-ffwrdd ’na. Dyma beth dwi’n ei feddwl: yr unig reswm nad ydw i’n gyffredin yw bod neb arall yn fy ngweld i fel ’na.

    Ond dwi wedi arfer â’r ffordd dwi’n edrych nawr. Dwi’n gwybod sut i esgus ’mod i ddim yn gweld y stumiau mae pobl yn eu gwneud. Ry’n ni i gyd wedi dod yn eithaf da am wneud y math yna o beth: fi, Mam a Dad, Via. Wel, falle ddim Via. Mae hi’n gallu mynd yn eithaf crac pan fydd pobl yn gwneud rhywbeth anghwrtais. Fel, er enghraifft, y tro ’na yn y parc chwarae pan oedd rhai o’r plant hŷn yn gwneud sŵn cas. Dwi ddim hyd yn oed yn gwybod yn union beth oedd y synau achos wnes i ddim eu clywed nhw fy hunan, ond clywodd Via nhw a dechreuodd hi weiddi ar y plant. Dyna sut mae hi. Dwi ddim fel ’na.

    Dyw Via ddim yn fy ngweld i fel plentyn cyffredin. Mae hi’n dweud ei bod hi, ond taswn i’n blentyn cyffredin, fyddai hi ddim yn teimlo bod rhaid iddi fy amddiffyn i o hyd. Nid plentyn cyffredin ydw i i Mam a Dad, chwaith. Iddyn nhw, dwi’n sobor o anghyffredin. Dwi’n credu taw fi yw’r unig berson yn y byd sy’n sylweddoli mor gyffredin ydw i.

    Fy enw i yw August, gyda llaw. Wna i ddim disgrifio sut dwi’n edrych. Ta beth ti’n ei ddychmygu, mae e siŵr o fod yn waeth.

    Pam Na Fues i’n Mynd i’r Ysgol

    Wythnos nesaf, dwi’n dechrau ym Mlwyddyn Pump. Gan nad ydw i ddim erioed wedi bod i’r ysgol o’r blaen, mae’r syniad yn codi arswyd llwyr arna i. Mae pobl yn credu nad ydw i wedi mynd i’r ysgol oherwydd y ffordd dwi’n edrych, ond nid dyna’r rheswm. Yr holl lawdriniaethau yw’r rheswm. Dau ddeg saith ers i fi gael fy ngeni. Digwyddodd y rhai mwy sylweddol pan o’n i’n fach iawn, yn llai na phedair oed, felly dwi ddim yn eu cofio nhw. Ond dwi wedi cael dwy neu dair llawdriniaeth ers hynny (rhai’n fach, rhai’n fawr), ac achos ’mod i’n fyr am fy oedran, a bod y doctoriaid yn dal i drio deall rhyw ddirgelion meddygol eraill sy’n effeithio arna i, ro’n i’n dost yn aml. Dyna pam penderfynodd fy rhieni fod yn well i fi beidio â mynd i’r ysgol. Dwi’n llawer cryfach erbyn hyn, ta beth. Ces i fy llawdriniaeth ddiwethaf wyth mis yn ôl, a fydd dim angen i fi gael rhagor nawr am gwpwl o flynyddoedd.

    Mae Mam yn fy nysgu i gartref. Roedd hi’n arfer bod yn ddarlunydd llyfrau plant. Mae hi’n arlunio tylwyth teg a môr-forynion ffantastig. Ond dyw hi ddim cystal gyda stwff i fechgyn. Unwaith, triodd hi wneud llun o Darth Vader i fi, ond roedd e’n edrych fel robot rhyfedd â madarchen ar ei ben. Dwi heb ei gweld hi’n darlunio ers sbel nawr. Dwi’n credu ei bod hi’n rhy brysur yn gofalu amdana i a Via.

    Alla i ddim dweud ’mod i wastad wedi bod eisiau mynd i’r ysgol achos dyw hynny ddim yn hollol wir. Beth ro’n i eisiau ei wneud oedd mynd i’r ysgol dim ond taswn i’n gallu bod fel bob plentyn arall oedd yn mynd i’r ysgol. Ro’n i eisiau cael llwyth o ffrindiau a chwarae gyda phlant eraill ar ôl ysgol a phethau fel ’na.

    Mae gyda fi ambell ffrind da nawr. Christopher yw fy ffrind gorau, wedyn Zachary ac Alex. Ry’n ni’n nabod ein gilydd ers pan o’n ni’n fabis. Ac achos eu bod nhw wastad wedi fy nabod i fel ydw i, maen nhw wedi arfer gyda fi. Pan o’n ni’n fach, ro’n ni’n arfer cwrdd i chwarae drwy’r amser, ond wedyn symudodd Christopher i Bridgeport yn Connecticut. Mae hynny’n fwy nag awr i ffwrdd o le dwi’n byw yn North River Heights, sydd ar ben uchaf Manhattan. A dechreuodd Zachary ac Alex fynd i’r ysgol. Mae ’da nhw lwyth o ffrindiau newydd nawr. Ond os ydyn ni’n gweld ein gilydd ar y stryd, maen nhw’n dal yn ffeind wrtha i. Maen nhw wastad yn dweud helô.

    Mae ’da fi ffrindiau eraill hefyd, ond dy’n nhw ddim cystal ag oedd Christopher a Zack ac Alex. Er enghraifft, byddai Zack ac Alex wastad yn fy ngwahodd i i’w partïon pen-blwydd pan o’n ni’n fach, ond fyddai Joel ac Eamonn a Gabe byth yn gwneud. Ces i wahoddiad gan Emma unwaith, ond dwi heb ei gweld hi ers sbel hir. Ac, wrth gwrs, dwi wastad yn mynd i barti pen-blwydd Christopher. Falle ’mod i’n gwneud gormod o ffys am bartïon pen-blwydd.

    Sut Des i i’r Byd

    Dwi wir yn hoffi pan fydd Mam yn dweud y stori yma. Mae hi’n gwneud i fi chwerthin llond fy mola. Dyw hi ddim yn ddoniol yn y ffordd mae jôc yn ddoniol, ond pan fydd Mam yn ei dweud hi, bydd Via a fi’n chwerthin fel ffyliaid.

    Felly, pan ddes i mas o fola Mam, doedd dim syniad ’da neb y byddwn i’n dod mas â’r wyneb yma. Roedd Mam wedi cael Via bedair blynedd yn gynt, ac roedd yr enedigaeth yna’n ‘hawdd fel baw’ (geiriau Mam), felly doedd dim rheswm i wneud profion arbennig. Tua deufis cyn i fi gael fy ngeni, sylweddolodd y doctoriaid fod rhywbeth yn bod ar fy wyneb, ond doedd e’n ddim byd mawr yn eu barn nhw. Dwedon nhw wrth Mam a Dad bod ’da fi daflod hollt a rhyw fân bethau eraill. Galwon nhw’r peth yn ‘anomaleddau bychain’.

    Roedd dwy nyrs yn y stafell pan ges i ’ngeni. Roedd un yn neis ac yn gyfeillgar. Doedd y llall, meddai Mam, ddim yn neis nac yn gyfeillgar. Roedd ’da hi freichiau enfawr a (dyma’r darn doniol), doedd hi ddim yn stopio cnecu. Byddai hi’n dod â snacs i Mam, ac yn cnecu. Byddai hi’n tsecio pwysedd gwaed Mam, ac yn cnecu eto. Roedd y peth yn anghredadwy yn ôl Mam, achos wnaeth hi ddim hyd yn oed dweud esgusodwch fi! Yn y cyfamser, doedd meddyg Mam ddim ar ddyletswydd y noson honno, felly roedd Mam yn styc ’da rhyw ddoctor surbwch oedd yn edrych fel plentyn. Dechreuodd Dad a hi ei alw e’n Doogie ar ôl rhyw hen raglen deledu neu rywbeth (ond ddim i’w wyneb e). Ond yn ôl Mam, er bod pawb yn y stafell yn eithaf pigog, buodd Dad yn gwneud iddi chwerthin drwy’r nos.

    Pan ddes i mas o fola Mam, tawelodd y stafell i gyd. Chafodd Mam ddim hyd yn oed siawns i edrych arna i achos aeth y nyrs neis â fi mas yn syth. Roedd Dad ar gymaint o frys i’w dilyn hi nes iddo ollwng y camera fideo. Torrodd hwnna’n rhacs jibidêrs. Ac wedyn, aeth Mam yn ofnadwy o ypsét. Triodd hi godi mas o’r gwely i weld ble ro’n nhw’n mynd, ond rhoiodd Nyrs Cnec ei breichiau enfawr drosti i’w chadw hi ar y gwely. Ro’n nhw’n ymladd â’i gilydd, bron, achos bod Mam wedi colli’r plot a Nyrs Cnec yn gweiddi arni i dawelu, ac yna dechreuodd y ddwy sgrechian am y doctor. Ond dyfala beth ddigwyddodd wedyn? Llewygodd e! Yn y fan a’r lle, ar y llawr. A phan welodd Nyrs Cnec fod y doctor wedi llewygu, dechreuodd hi ei wthio fe â’i throed a dweud wrtho fe am ddihuno, a gweiddi: ‘Shwt ddoctor wyt ti? Shwt fath o ddoctor wyt ti? Coda! Coda!’ Ac yna, yn sydyn, gollyngodd hi’r gnec fwyaf swnllyd a drewllyd yn hanes cnecu. Mae Mam yn credu taw’r gnec ddihunodd y doctor yn y diwedd. Ta beth, pan fydd Mam yn adrodd y stori yma, mae hi’n actio’r rhannau i gyd – gan gynnwys y synau cnecu – ac mae hi moooor ddoniol!

    Yn ôl Mam, roedd Nyrs Cnec yn fenyw ffeind iawn yn y diwedd. Arhosodd hi ar bwys Mam drwy’r cyfan. Wnaeth hi ’mo’i gadael hi hyd yn oed ar ôl i Dad ddod ’nôl, pan ddwedodd y doctoriaid wrthyn nhw pa mor dost o’n i. Mae Mam yn cofio’n union beth sibrydodd y nyrs yn ei chlust pan ddwedodd y doctor wrthi hi y byddwn i’n farw, fwy na thebyg, erbyn y bore: ‘Canys pawb a aned o Dduw, y mae’n gorchfygu’r byd.’ A bore trannoeth, ar ôl i fi aros yn fyw drwy’r nos hir, yr un nyrs oedd yn gafael yn llaw Mam pan ddaethon nhw â hi i gwrdd â fi am y tro cyntaf.

    Erbyn hynny, meddai Mam, ro’n nhw wedi dweud popeth wrthi hi amdana i. Roedd hi wedi paratoi’i hun i ’ngweld i am y tro cyntaf. Ond pan edrychodd hi i lawr ar fy wyneb bach od, y cyfan allai hi weld oedd fy llygaid pert.

    Mae Mam yn brydferth, gyda llaw. Ac mae Dad yn olygus. Mae Via yn bert. Rhag ofn dy fod ti eisiau gwybod.

    Tŷ Christopher

    Torrais i ’nghalon pan symudodd Christopher i ffwrdd ryw dair blynedd yn ôl. Roedd y ddau ohonon ni tua saith oed bryd hynny. Ro’n ni’n arfer treulio oriau’n chwarae â ffigurau bach Star Wars ac yn ymladd â’n lightsabres. Dwi’n gweld eisiau hynny.

    Y gwanwyn diwetha, gyrron ni draw i dŷ Christopher yn Bridgeport. Ro’n i a Christopher yn chwilio am rywbeth i’w fwyta yn y gegin, a dyma fi’n clywed Mam yn siarad â Lisa, mam Christopher, ynglŷn â mynd i’r ysgol yn yr hydref. Do’n i erioed – erioed – wedi’i chlywed hi’n siarad am ysgol o’r blaen.

    ‘Am beth y’ch chi’n siarad?’ holais.

    Roedd golwg syn ar wyneb Mam, fel tasai hi ddim wedi bwriadu i fi glywed hynny.

    ‘Ddylet ti ddweud wrtho fe be sy ar dy feddwl di, Isabel,’ meddai Dad. Roedd e ym mhen arall y stafell yn siarad â thad Christopher.

    ‘Siaradwn ni wedyn,’ meddai Mam.

    ‘Na, dwi ishe gwybod am beth y’ch chi’n siarad,’ atebais.

    ‘Ti ddim yn meddwl dy fod ti’n barod i fynd i’r ysgol, Auggie?’ meddai Mam.

    ‘Na’dw,’ atebais.

    ‘Dwi ddim, chwaith,’ meddai Dad.

    ‘Dyna ni, dyna ddiwedd ar hynny ’te,’ dwedais, gan godi f’ysgwyddau a mynd i eistedd yn ei chôl fel babi.

    ‘Dwi jyst yn meddwl bod angen i ti ddysgu mwy nag y galla i ei ddysgu i ti,’ meddai Mam. ‘Dere nawr Auggie, ti’n gwybod pa mor anobeithiol ydw i gyda ffracsiynau!’

    ‘Pa ysgol?’ holais. Ro’n i’n teimlo’r dagrau’n pigo.

    ‘Ysgol Beecher. Reit ar bwys ein tŷ ni.’

    ‘Waw, mae honna’n ysgol dda, Auggie,’ meddai Lisa, gan fwytho ’mhen-glin.

    ‘Pam ddim ysgol Via?’ holais.

    ‘Mae hi’n rhy fawr,’ atebodd Mam. ‘Fyddai honna ddim yn addas i ti.’

    ‘Dwi ddim yn moyn mynd,’ dwedais. Iawn, dwi’n cyfaddef: driais i swnio ychydig yn fabïaidd.

    ‘Does dim rhaid i ti wneud unrhyw beth os nad wyt ti ishe,’ meddai Dad, gan ddod draw ata i a ’nghodi mas o gôl Mam. Cariodd e fi i eistedd ar ei gôl ar ochr arall y soffa. ‘Wnawn ni ddim gwneud i ti wneud unrhyw beth dwyt ti ddim ishe’i wneud.’

    ‘Ond byddai’n beth da iddo fe, Nate,’ meddai Mam.

    ‘Ddim os nad yw e ishe,’ atebodd Dad, gan edrych arna i. ‘Ddim os nad yw e’n barod.’

    Gwelais i Mam yn edrych ar Lisa. Estynnodd hi draw at Mam a gwasgu ei llaw.

    ‘Chi’n siŵr o wneud y peth iawn yn y diwedd,’ meddai hi wrth Mam. ‘Ry’ch chi wastad wedi gwneud hynny.’

    ‘Siaradwn ni amdano wedyn,’ meddai Mam. Ro’n i’n gallu gweld ei bod hi a Dad yn mynd i ddadlau am y peth. Ro’n i eisiau i Dad ennill y ddadl. Ond roedd rhan ohona i’n gwybod bod Mam yn iawn. A’r gwir yw, mae hi wir yn ofnadwy gyda ffracsiynau.

    Gyrru

    Roedd y siwrne adre’n hir. Es i i gysgu yn y sedd gefn fel y bydda i wastad yn gwneud, gyda ’mhen ar gôl Via, a thywel o gwmpas y gwregys rhag ofn i fi lafoerio drosti hi i gyd. Cysgodd Via hefyd, a dechreuodd Mam a Dad siarad yn dawel am bethau oedolion, oedd yn ddiflas iawn.

    ‘Allwn ni mo’i amddiffyn e am byth,’ sibrydodd Mam wrth Dad. ‘Allwn ni ddim esgus ’i fod e’n mynd i ddihuno fory a bod popeth am fod yn iawn, achos dyma yw’r realiti, ac mae’n rhaid i ni’i helpu e i ddelio â’r peth. Allwn ni ddim dal ati i osgoi sefyllfaoedd sy’n …’

    ‘Felly byddwn ni’n ei hala fe bant i’r ysgol fel oen i’r lladdfa …’ atebodd Dad yn grac, ond wnaeth e ddim hyd yn oed gorffen ei frawddeg achos sylwodd e arna i yn y drych, yn edrych arno fe.

    ‘Beth yw oen i’r lladdfa?’ holais yn gysglyd.

    ‘Cer ’nôl i gysgu, Auggie,’ meddai Dad yn garedig.

    ‘Bydd pawb yn rhythu arna i yn yr ysgol,’ atebais, gan ddechrau crio’n sydyn.

    ‘Cariad,’ meddai Mam. Trodd rownd yn y sedd flaen a rhoi’i llaw ar fy llaw. ‘Ti’n gwybod, os nad wyt ti ishe gwneud hyn, does dim rhaid i ti. Ond siaradon ni â’r pennaeth a dweud wrtho fe amdanat ti, ac mae e wir ishe cwrdd â ti.’

    ‘Be ddwedaist ti wrtho fe amdana i?’

    ‘Dweud mor ddoniol wyt ti, a pha mor garedig a chlyfar wyt ti. Pan ddwedais i taw dim ond chwech oed o’t ti pan ddarllenaist ti Dragon Rider, dwedodd e, Waw, rhaid i fi gwrdd â’r boi bach ’ma.’

    ‘Ddwedaist ti unrhyw beth arall?’ holais.

    Gwenodd Mam arna i – gwên gynnes, fel cwtsh.

    ‘Dwedais i wrtho fe am dy holl lawdriniaethau, a pha mor ddewr wyt ti,’ meddai hi.

    ‘Felly mae e’n gwybod sut dwi’n edrych?’ holais.

    ‘Wel, daethon ni â lluniau haf diwethaf yn Montauk,’ meddai Dad. ‘Dangoson ni luniau o’r teulu i gyd. A’r llun ffantastig ’na ohonot ti’n dala’r lleden ar y cwch!’

    ‘Ro’t ti yno hefyd?’ Ro’n i braidd yn siomedig fod Dad yn rhan o’r peth, mae’n rhaid i fi ddweud.

    ‘O’n. Siaradodd y ddau ohonon ni â fe, do,’ meddai Dad. ‘Mae e’n ddyn ffeind iawn.’

    ‘Byddet ti’n lico fe,’ ategodd Mam.

    Yn sydyn, roedd hi’n teimlo fel tasai’r ddau ohonyn nhw ar yr un ochr.

    ‘Felly pryd yn union wnaethoch chi gwrdd ag e?’ holais.

    ‘Aeth e â ni am dro o gwmpas yr ysgol y llynedd,’ meddai Mam.

    Llynedd!’ ebychais. ‘Felly, chi wedi bod yn meddwl am hyn ers dros flwyddyn a wnaethoch chi ddim hyd yn oed dweud wrtha i?’

    ‘Do’n ni ddim yn gwybod fyddet ti hyd yn oed yn cael dy dderbyn, Auggie,’ atebodd Mam. ‘Mae’n anodd iawn cael lle yn yr ysgol. Mae ’na brosesau derbyn cymhleth iawn. Do’n i ddim yn gweld pwynt dweud wrthot ti a gwneud i ti bryderu am y peth heb fod angen.’

    ‘Ond ti’n iawn, Auggie. Dylen ni fod wedi dweud wrthot ti ar ôl cael gwybod fis diwethaf dy fod ti wedi cael dy dderbyn,’ meddai Dad.

    ‘O edrych ’nôl,’ ochneidiodd Mam, ‘dylen, siŵr o fod.’

    ‘Oedd y fenyw ’na ddaeth i’r tŷ yn unrhyw beth i’w wneud â hyn?’ holais. ‘Yr un roddodd y prawf ’na i fi?’

    ‘Oedd, a dweud y gwir,’ meddai Mam, yn edrych braidd yn euog. ‘Oedd.’

    ‘Dwedaist ti wrtha i taw prawf IQ oedd e,’ dwedais.

    ‘Dwi’n gwybod. Wel, celwydd golau oedd hynny,’ atebodd. ‘Prawf i gael lle yn yr ysgol oedd e. Wnest ti’n dda iawn ynddo fe, gyda llaw.’

    ‘Felly, ddwedaist ti gelwydd.’

    ‘Celwydd golau, ond do. Sori,’ meddai hi, gan drio gwenu, ond wnes i ddim gwenu’n ôl felly trodd rownd yn ei sedd a wynebu’r blaen.

    ‘Beth yw oen i’r lladdfa?’ holais.

    Ochneidiodd Mam a rhoi ‘edrychiad’ i Dad.

    ‘Ddylwn i ddim bod wedi dweud hynny,’ meddai Dad, gan edrych arna i yn ei ddrych. ‘Dyw e ddim yn wir. Y peth yw: mae Mami a fi yn dy garu di gymaint nes ein bod ni ishe dy amddiffyn di ym mhob ffordd gallwn ni. Ond weithiau, ry’n ni ishe gwneud hynny mewn ffyrdd gwahanol i’n gilydd.’

    ‘Dwi ddim ishe mynd i’r ysgol,’ atebais, gan blethu ’mreichiau’n bwdlyd.

    ‘Bydde fe’n beth da i ti, Auggie,’ meddai Mam.

    ‘Falle af i’r flwyddyn nesaf,’ atebais, gan edrych drwy’r ffenest.

    ‘Bydde eleni’n well, Auggie,’ meddai Mam. ‘Wyt ti’n gwybod pam? Achos byddi di’n mynd i Flwyddyn Pump, a dyna flwyddyn gyntaf yr ysgol ganolraddol – i bawb. Ddim ti fydd yr unig blentyn newydd.’

    ‘Ond fi fydd yr unig un sy’n edrych fel fi,’ dwedais.

    ‘Dwi’n gwybod hi’n her enfawr i ti,’ atebodd. ‘Ond bydd e’n dda i ti, Auggie. Byddi di’n gwneud llwyth o ffrindiau. A byddi di’n dysgu pethau na fyddet ti byth yn eu dysgu gyda fi.’ Trodd yn ei sedd eto ac edrych arna i. ‘Pan aethon ni ar ein taith dywys, wyt ti’n gwybod beth oedd gyda nhw yn y labordy gwyddoniaeth? Cyw bach – pitw bach – oedd newydd ddod mas o’i wy. Roedd e mor ciwt! Auggie, a dweud y gwir, wnaeth e f’atgoffa i, damed bach, ohonot ti pan oeddet ti’n fabi bach … gyda dy lygaid mawr brown …’

    Fel arfer, dwi’n dwlu clywed Mam a Dad yn siarad amdana i pan o’n i’n fabi. Weithiau, dwi eisiau cyrlio’n belen fach a gadael iddyn nhw ’ngwtshio i a ’nghusanu i bob munud. Byddai’n neis bod yn fabi eto, a pheidio gwybod am bethau. Ond do’n i ddim eisiau gwrando ar hyn nawr.

    ‘Dwi ddim ishe mynd,’ mynnais.

    ‘Beth am hyn? Wnei di o leia gwrdd â Mr Tushman cyn penderfynu?’ holodd Mam.

    ‘Mr Tushman?’

    ‘Fe yw’r pennaeth,’ atebodd.

    ‘Mr Tushman?’ holais eto. Ti’n gweld, i fi, mae tush yn golygu pen-ôl, felly mae’n enw doniol iawn.

    ‘Dwi’n gwybod!’ atebodd Dad, gan wenu ac edrych arna i eto yn y drych. ‘Alli di gredu’r enw ’na, Auggie? Pwy ar wyneb y ddaear fyddai’n cytuno i gael enw fel Mr Tushman?’

    Gwenais, er nad o’n i eisiau iddyn nhw ’ngweld i’n gwenu. Dad oedd yr unig berson yn y byd oedd yn gallu gwneud i fi chwerthin hyd yn oed os o’n i’n benderfynol o beidio. Roedd Dad wastad yn gwneud i bobl chwerthin.

    ‘Auggie, ti’n gwybod, dylet ti fynd i’r ysgol ’na jyst er mwyn clywed ’i enw e’n cael ’i gyhoeddi drwy’r system sain!’ meddai Dad yn gyffro i gyd. ‘Alli di ddychmygu pa mor ddoniol fyddai hynny? Helô, helô? Neges i Mr Tushman!’ Roedd e’n defnyddio llais dwl, fel hen fenyw fach. ‘"Helô, Mr Tushman! Sut wyt tîn teimlo bore ’ma? Hwyr unwaith eto … rhywun wedi gyrru i ben-ôl y car? Mae ishe cic ym mhen-ôl rhai o’r gyrwyr ’ma!"’

    Dechreuais i chwerthin, nid achos ’mod i’n credu bod hynny’n ddoniol iawn, ond achos ’mod i wedi cael llond bola ar fod yn grac.

    ‘Ond gallai pethau fod yn waeth!’ aeth Dad yn ei flaen yn ei lais go iawn. ‘Ro’dd ’da Mam a fi ddarlithydd yn y coleg o’r enw Miss Butt.’

    Roedd Mam yn chwerthin nawr, hefyd.

    ‘Wir?’ holais.

    ‘Roberta Butt,’ atebodd Mam, gan godi’i llaw fel tasai hi’n tyngu llw. ‘Bobbie Butt.’

    ‘Ro’dd bochau enfawr ganddi,’ meddai Dad.

    ‘Nate!’ meddai Mam.

    ‘Be? Y cyfan dwi’n ddweud yw bod bochau mawr ’da hi.’

    Chwarddodd Mam gan siglo’i phen yr un pryd.

    ‘Hei, dwi’n gwybod!’ meddai Dad yn llawn cyffro eto. ‘Be am i ni drefnu dêt iddyn nhw? Dychmygwch hyn … Miss Butt, dyma Mr Tushman. Mr Tushman, dyma Miss Butt. Gallen nhw briodi a chael llwyth o fabis bach â phenolau mawr.’

    ‘Druan â Mr Tushman,’ atebodd Mam. ‘Dyw Auggie ddim hyd yn oed wedi cwrdd â’r dyn eto, Nate!’

    ‘Pwy yw Mr Tushman?’ meddai Via yn gysglyd. Dim ond newydd ddihuno oedd hi.

    ‘Fe yw pennaeth f’ysgol newydd i,’ atebais.

    Neges i Mr Tushman

    Byddwn i wedi bod yn fwy nerfus ynglŷn â chwrdd â Mr Tushman taswn i’n gwybod ’mod i hefyd yn mynd i gwrdd â rhai o blant yr ysgol. Ond do’n i ddim yn gwybod, felly os rhywbeth, ro’n i mewn hwyliau eitha dwl. Allwn i ddim stopio meddwl am yr holl jôcs wnaeth Dad am enw Mr Tushman. Felly pan gyrhaeddodd Mam a fi Ysgol Beecher ychydig wythnosau cyn dechrau’r tymor a gweld Mr Tushman yn sefyll yno’n aros amdanon ni yn y fynedfa, dechreuais i chwerthin yn syth. Doedd e ddim yn edrych fel ro’n i’n disgwyl iddo edrych. Dwi’n credu ’mod i wedi dychmygu y byddai gydag e ben-ôl enfawr, ond doedd hynny ddim yn wir. A bod yn onest, roedd e’n edrych yn hollol normal. Yn dal ac yn denau. Hen, ond ddim yn hen iawn. Roedd e’n edrych yn gyfeillgar. Ysgydwodd e law Mam yn gyntaf.

    ‘Helô Mr Tushman, braf eich gweld chi eto,’ meddai Mam. ‘Dyma fy mab, August.’

    Edrychodd Mr Tushman arna i a nodio. Estynnodd ei law, er mwyn i fi’i hysgwyd.

    ‘Helô, August,’ meddai, mewn ffordd hollol normal. ‘Mae’n bleser cwrdd â ti.’

    ‘Helô,’ mwmialais, gan roi fy llaw yn ei law wrth edrych i lawr ar ei draed. Roedd e’n gwisgo treinyrs Adidas coch.

    ‘Felly,’ meddai, gan benglinio o ’mlaen i er mwyn i fi

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1