Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Zoella: Merch Ar-Lein
Cyfres Zoella: Merch Ar-Lein
Cyfres Zoella: Merch Ar-Lein
Ebook358 pages5 hours

Cyfres Zoella: Merch Ar-Lein

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Exciting new novel suitable for YA (young adult) readers and Key Stages 3/4. Penny has a secret. Under the alias Girl Online, Penny blogs her hidden feelings about friendship, boys, school, her crazy family and the panic attacks that have begun to take over her life. When things get bad, her family takes her to New York, where she meets Noah, a gorgeous American boy.
LanguageCymraeg
PublisherRily
Release dateMay 25, 2021
ISBN9781849679534
Cyfres Zoella: Merch Ar-Lein

Read more from Zoe Sugg Aka Zoella

Related authors

Related to Cyfres Zoella

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres Zoella

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Zoella - Zoe Sugg aka Zoella

    llun clawrMerch Ar-lein

    ZOE SUGG

    Addasiad Eiry Miles

    Addasiadau Eiry Miles o lyfrau Zoe Sugg

    Merch Ar-lein

    Merch Ar-lein: Ar Daith

    Merch Ar-lein: Neb Ond Fi

    Dilynwch Zoe ar Twitter, Facebook, Instagram a Snapchat

    @ZoeSugg

    www.zoella.co.uk

    www.girlonlinebooks.com

    ISBN 978-1-84967-953-4

    Hawlfraint y testun: © Zoe Sugg, 2014

    Cyfieithiad gan Eiry Miles

    Hawlfraint y cyfieithiad © Rily Publications Ltd, 2017

    Llythrennau teitl Merch Ar-lein gan Thirsty Rough

    Hawlfraint y ffont © Yellow Design Studio – www.yellowdesignstudio.com

    Llun clawr blaen gan Silas Manhood

    Hawlfraint llun yr awdur © Zoe Sugg

    Mae’r awdur wedi datgan ei hawl foesol. Cedwir pob hawl.

    Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Saesneg fel Girl Online

    gan Penguin Books Ltd. London

    Dychmygol yw pob un o’r cymeriadau; os oes unrhyw debygrwydd i unrhyw berson byw neu farw, damweiniol yw hynny.

    Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull, na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr.

    Amodau Gwerthu

    Gwerthir y llyfr hwn ar yr amod na chaiff, drwy fasnach nac fel arall, ei roi ar fenthyg, ei ailwerthu, ei logi allan nac fel arall ei gylchredeg, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr, mewn unrhyw ffurf o rwymo neu glawr ac eithrio yn yr un y caiff ei gyhoeddi a heb i amod cyffelyb yn cynnwys yr amod hwn gael ei orfodi ar y prynwr dilynol.

    Cyhoeddwyd gan Rily Publications Ltd;

    Rily Publications, Blwch Post 257, Caerffili CF83 9FL

    Mae’r cyhoeddwyr yn cydnabod cefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.

    Rily

    www.rily.co.uk

    Hoffwn gyflwyno’r llyfr hwn i bawb a wnaeth hyn yn bosib. Y rhai hynny sydd wedi tanysgrifio i fy sianel, sydd wedi gwylio’r fideos ac wedi darllen fy mlog, boed hynny yn 2009 neu ddoe. Mae eich cefnogaeth yn werth y byd i mi. Does gen i ddim geiriau i fynegi cymaint o gariad dwi’n ei deimlo at bob yr un ohonoch – heb hynny, fyddai’r llyfr hwn ddim yn eich dwylo nawr.

    Blwyddyn yn ôl …

    22 Tachwedd

    Helô i Bawb yn y Byd!

    Dwi wedi penderfynu dechrau blog.

    Y blog yma.

    Pam, rwyt ti’n gofyn?

    Ti’n gwybod beth sy’n digwydd pan wyt ti’n shiglo can o Coke a’i agor e ac mae’n ffrwydro dros bob man? Wel dyna sut dwi’n teimlo ar hyn o bryd. Mae gyda fi gymaint o bethau dwi’n moyn ’u dweud yn corddi y tu mewn i fi, ond does gyda fi ddim hyder i’w dweud nhw’n uchel.

    Dwedodd Dad wrtha i rywbryd am ddechrau sgrifennu dyddiadur. Dwedodd e fod cadw dyddiadur yn ffordd wych o fynegi ein teimladau dyfnaf. Dwedodd e hefyd y byddai’n grêt edrych yn ôl arno fe pan fydda i’n hen, ac yn gwneud i fi wir werthfawrogi blynyddoedd f’arddegau. Hmm, yn amlwg mae cymaint o amser ers iddo fe fod yn ’i arddegau nes ’i fod e wedi anghofio sut beth yw e. Ond fe driais i. Sgrifennu dyddiadur, hynny yw. Sgrifennais i dri darn bach cyn rhoi lan. Roedd y rhan fwya ohonyn nhw’n debyg i hyn:

    Bwrw glaw heddiw; cafodd fy sgidie newydd i ’u strywo. Roedd Jenny’n meddwl am beidio mynd i’r wers Fathemateg. Aeth hi yn y diwedd. Roedd trwyn John Barry’n gwaedu yn y wers Wyddoniaeth ar ôl iddo fe sticio pensil ynddo fe. Chwerthin wnes i. Doedd e ddim yn hapus. Lletchwith. Nos da!

    Ddim cweit yn Bridget Jones. Doedd e ddim yn arbennig o ddiddorol.

    Mae’r syniad o sgrifennu pethe i fi fy hunan mewn dyddiadur yn ymddangos yn ddibwrpas, braidd.

    Dwi isie teimlo fel tase rhywun, rhywle, yn gallu darllen beth sy gyda fi i’w ddweud.

    Dyna pam dwi am roi cynnig ar y blog ’ma – fel bod rhywle gyda fi i ddweud beth dwi eisiau, pryd dwi eisiau a sut dwi eisiau – wrth rywun. Heb boeni bod beth dwi’n ’i ddweud ddim yn swnio’n cwˆl neu’n gwneud i fi edrych yn dwp neu’n gwneud i fi golli ffrindiau.

    Dyna pam mae’r blog yma’n ddienw.

    Fel ’mod i’n gallu bod yn fi, a neb arall.

    I fy ffrind gorau Wici (dim dyna’i enw go iawn, gyda llaw – alla i ddim rhoi’i enw go iawn neu fyddai’r blog yma ddim yn ddienw) mae’r ffaith bod angen i fi fod yn ddienw er mwyn bod yn fi fy hunan yn ‘drasiedi epig’. Ond beth mae e’n ’i wybod? Dyw e ddim yn ferch yn ’i harddegau sy’n dioddef o orbryder ofnadwy. (A dweud y gwir mae e’n fachgen yn ’i arddegau sydd â rhieni ofnadwy, ond stori arall yw honno.)

    Weithiau dwi’n meddwl tybed ai’r ffaith ’mod i’n ferch yn f’araddegau sy’n achosi’r gorbryder? Meddylia am y peth – mae llawer o bethau i bryderu amdanyn nhw.

    Rhesymau am Orbryder Merched yn ‘u Harddegau: Y Deg Uchaf:

    Mae disgwyl i ti edrych yn berffaith drwy’r amser.

    Mae’n cyd-fynd â’r adeg mae’r hormonau’n mynd yn wallgo.

    Sy’n arwain at y cyfnod mwya sbotlyd yn dy fywyd i gyd (sy’n gwneud rhif 1 yn hollol amhosib!)

    Sy hefyd yn cyd-fynd â’r tro cynta mae ’da ti’r rhyddid i brynu siocled pryd bynnag wyt ti’n moyn (gan wneud rhif 3 hyd yn oed yn waeth!)

    Cyn hir mae pawb yn poeni beth wyt ti’n wisgo.

    Ac mae’n rhaid i beth wyt ti’n wisgo edrych yn berffaith hefyd.

    Wedyn rwyt ti i fod i wybod sut i sefyll fel siwpermodel.

    Er mwyn i ti dynnu hunlun yn dy ddillad trawiadol …

    … sy wedyn yn cael ’i roi ar y cyfryngau cymdeithasol i dy ffrindiau i gyd ’i weld

    Mae disgwyl i ti fod yn ddeniadol dros ben i fechgyn (tra wyt ti’n delio â’r holl bethau uchod!)

    Ceisia feddwl amdana i’n ochneidio’n drist ac yn ddramatig wrth ddweud hyn.

    Ond nid fi yw’r unig ferch yn ’i harddegau sy’n teimlo fel hyn, nage?

    Dwi’n meddwl falle bod pob merch yn ’i harddegau’n teimlo’n union fel fi.

    A falle, rhyw ddydd, pan fyddwn ni’n sylweddoli ein bod ni i gyd yn teimlo’r un peth, gallwn ni stopio esgus ein bod ni’n rhywbeth gwahanol i’r hyn ydyn ni.

    Byddai hynny’n anhygoel.

    Ond tan y diwrnod hwnnw dwi’n mynd i roi’r byd yn ’i le ar y blog yma. A’i gadw’n gyfrinachol yn y byd ‘go iawn’.

    Dwi’n mynd i ddweud beth dwi eisiau’i ddweud, a byddai’n cwˆl taset ti (pwy bynnag wyt ti) yn ymuno â fi.

    Gall fan hyn fod yn gornel fach i ni ar y we, lle gallwn ni siarad go iawn am sut brofiad yw bod yn ferch yn ’i harddegau – heb orfod esgus bod yn rhywbeth gwahanol i ni’n hunain.

    Dwi hefyd yn dwlu ar dynnu lluniau gyda ’nghamera bach (on’d wyt ti’n dwlu ar y ffordd mae lluniau’n rhewi eiliadau arbennig am byth? Machlud haul prydferth, partïon pen blwydd, cacennau caramel ag eisin trwchus …) felly bydda i’n postio llawer o’r rheiny hefyd. Ond fydd ’na ddim hunluniau, yn amlwg, fel bod neb yn gwybod pwy ydw i.

    Dyna ni am nawr. Diolch i ti am ddarllen (os oes rhywun wedi bod yn darllen!). A gad i fi wybod beth wyt ti’n ’i feddwl yn y sylwadau isod.

    Merch ar-lein, yn mynd oddi ar-lein xxx

    Pennod Un

    Heddiw…

    Haia, Penny! Oeddet ti’n gwybod fod yr enw William Shakespeare yn anagram o ’i am a weakish speller?’

    Dwi’n edrych ar y neges gan Elliot ac yn ochneidio. Wrth i fi wylio ymarfer Romeo and Juliet (tair awr o ’mywyd chaf i byth ’mohonyn nhw’n ôl), mae Elliot yn hala llwyth o negeseuon hollol random am Shakespeare ata i. Trio lleddfu’r diflastod mae e, ond wir, oes angen i unrhyw un wybod i Shakespeare gael ’i fedyddio yn 1564? Neu fod ganddo fe saith o frodyr a chwiorydd?

    ‘Penny, wnei di dynnu llun o Juliet yn pwyso allan o’r trelar?’ Bant â fi â ’nghamera gan nodio ar Mr Beaconsfield.

    Mr Beaconsfield yw athro drama Blwyddyn Un ar ddeg. Mae’n un o’r athrawon hynny sy’n hoffi bod yn ffrindiau gyda’r plant – fe a’i wallt yn llawn gel a’i ‘galwch-fi’n-Jeff’. Fe yw’r rheswm bod ein fersiwn ni o Romeo and Juliet wedi’i lleoli mewn ghetto yn Brooklyn a Juliet yn pwyso allan o drelar yn lle balconi. Mae Megan, fy FfYG (Ffrind Ysgol Gorau), yn dwlu ar Mr Beaconsfield, ond wedyn mae e wastad yn rhoi’r prif rannau iddi hi. Yn bersonol, mae’n gwneud i mi deimlo’n anghysurus. Ddylai athrawon ddim bod eisiau bod yn ffrindiau gyda phobl yn ’u harddegau. Ddylen nhw ganolbwyntio ar farcio llyfrau a phryderu am arolwg yr ysgol a beth bynnag maen nhw’n ’i wneud yn y stafell athrawon.

    Dwi’n mynd lan y grisiau wrth ochr y llwyfan a lawr ar ’y nghwrcwd ar bwys Megan. Mae hi’n gwisgo cap pêl-fasged a SWAG ar y blaen a chadwyn aur (ffug) a symbol doler mawr yn hongian o’i gwddf. Fyddai hi byth yn fodlon cael ’i gweld mewn gwisg fel hyn yn unrhyw le arall; dyna faint mae hi’n dwlu ar Mr Beaconsfield. Wrth i fi baratoi i dynnu’r llun, mae Megan yn hisian arna i: ‘Gwna’n siŵr fod y sbot ddim yn y llun.’

    ‘Beth?’ medde fi, yn sibrwd.

    ‘Y sbotyn ar ochr ’y nhrwyn. Paid â meiddio’i gael e yn y llun.’

    ‘O. Iawn.’ Dwi’n symud i un ochr ac yn symud i mewn gyda’r zoom. Dyw’r golau ddim yn dda iawn ar yr ochr yma, ond o leiaf dyw’r sbotyn ddim yn y golwg. Dwi’n tynnu’r llun ac yn troi i adael y llwyfan, gan edrych allan ar yr awditoriwm. Heblaw am Mr Beaconsfield a’r ddau gyfarwyddwr cynorthwyol, mae’r seddau i gyd yn wag. Dyna ryddhad. Dwi ddim yn dda iawn o flaen cynulleidfa, a dweud y gwir. Yn yr un ffordd â dyw Justin Bieber ddim yn dda iawn gyda’r paparazzi. Dwi ddim yn deall sut mae pobl yn gallu perfformio ar lwyfan. Dwi’n teimlo’n sâl dim ond wrth sefyll yno am eiliad neu ddwy i dynnu llun.

    ‘Diolch, Pen,’ medd Mr Beaconsfield wrth i mi fynd i lawr y grisiau. Dyna un peth arall amdano fe sy’n gwneud i fi fod isie chwydu – y ffordd mae’n rhoi llysenw i ni i gyd. Wir i chi! Mae’n iawn i aelod o’r teulu wneud hynny, ond nid un o’r athrawon!

    Wrth i mi fynd yn ôl i ochr y llwyfan mae’r ffôn yn bipian eto.

    O’r mawredd! Dyn oedd yn actio rhan Juliet yn nyddiau Shakespeare! Mae’n rhaid i ti ddweud wrth Ollie – dwlen i weld ’i wyneb e! 😀

    Edrychaf lan ar Ollie, sy’n syllu’n hir ar Megan.

    ‘But, soft! What light through yonder window breaks?’ medd, yn yr acen Efrog Newydd waethaf erioed.

    Alla i wneud dim ond ochneidio. Er bod Ollie’n gwisgo gwisg hyd yn oed yn waeth nag un Megan – sy’n gwneud iddo fe edrych fel cyfuniad o westai ar Jeremy Kyle a Snoop Dogg – mae’n llwyddo i edrych yn ciwt.

    Mae Elliot yn casáu Ollie. Mae e’n credu bod Ollie’n fên ac yn ’i alw’n ‘Hunlun ar Goesau’, ond, a bod yn deg, dyw e ddim wir yn ’i nabod e. Mae Elliot yn mynd i ysgol breifat yn Hove; dyw e ond wedi gweld Ollie wrth daro arno fe ar y traeth neu yn y dref.

    ‘Ddylai Penny dynnu llun ohona i yn yr olygfa yma hefyd?’ gofynna Ollie wrth iddo fe gyrraedd diwedd ’i araith o’r diwedd. Mae e’n dal i siarad yn ’i acen Americanaidd ffug – mae e wedi bod yn gwneud hynny fyth ers iddo gael y rhan. Yn ôl y sôn, mae’r actorion gorau i gyd yn ’i neud e. ‘Method acting’ maen nhw’n ’i alw e.

    ‘Wrth gwrs, Olz,’ medd Galwch-fi’n-Jeff. ‘Pen?’

    Dyma roi’r ffôn i lawr, cyn rhedeg ’nôl lan y grisiau.

    ‘Alli di neud yn siŵr dy fod ti’n dal f’ochr orau i?’ sibryda Ollie, o dan ’i gap. Mae’r gair STUD ar flaen ’i gap, mewn diamwntau ffug.

    ‘Wrth gwrs,’ atebaf. ‘Ym, pa ochr yw honna eto?’

    Mae Ollie’n edrych arna i fel tasen i’n wallgo.

    ‘Mae hi jyst mor anodd gwybod,’ medde fi wedyn yn dawel bach, gan deimlo’r gwrid yn codi.

    Mae Ollie’n gwgu.

    ‘Maen nhw i gyd yn edrych yn dda i mi,’ atebaf, â thinc despret yn y’n llais. O Dduw Mawr! Be sy’n bod arna i?! Alla i ddychmygu Elliot yn sgrechian mewn braw. Diolch byth, mae Ollie’n dechrau gwenu nawr. Mae hynny’n gwneud iddo fe edrych yn fachgennaidd iawn, ac yn llawer mwy caredig.

    ‘Fy ochr dde,’ medd, gan droi ’nôl i wynebu’r garafán.

    ‘Ai dy … ym … dde di neu f’un i?’ holaf, er mwyn bod yn hollol siŵr.

    ‘Dere ’mlaen Penny, allwn ni ddim aros drwy’r dydd!’ medd Mr Beaconsfield yn ddig.

    ‘Y dde i fi, wrth gwrs,’ yw ateb crac Ollie, yn edrych arna i fel tasen i’n wallgo eto.

    Mae hyd yn oed Megan yn gwgu arna i nawr. Tynnaf y llun, gan deimlo ’mochau i’n llosgi. Dwi ddim yn gwneud y pethau arferol, fel tsiecio’r golau neu’r ongl neu unrhyw beth arall – dim ond pwyso’r botwm a’i baglu hi o ’na.

    Ar ôl i’r ymarfer orffen – a dwi wedi dysgu wrth Elliot mai dim ond deunaw oed oedd Shakespeare pan briododd e, a’i fod e wedi sgrifennu tri deg wyth o ddramâu i gyd – dyma griw ohonom ni’n mynd draw i JB’s Diner i gael milcshêcs a sglodion.

    Wrth i ni gyrraedd glan y môr, daw Ollie i gerdded gyda fi. ‘Sut mae pethau?’ hola, yn ’i acen Efrog Newydd ffug.

    ‘Ym, iawn, diolch,’ yw f’ateb, â ’nhafod yn glymau i gyd. Mae e wedi tynnu’i ddillad Romeo nawr, ac yn edrych hyd yn oed yn well. Mae’i wallt melyn syrffiwr yn hyfryd o anniben, a’i lygaid glas yn ddisglair fel y môr yn heulwen y gaeaf. A bod yn onest, dwi ddim yn siŵr ai fe yw ’nheip i – falle’i fod e’n gyfuniad rhy berffaith o ganwr boyband ac athletwr – ond mae’n beth mor anarferol i fi gael holl sylw heart-throb yr ysgol fel na alla i beidio â theimlo tipyn o embaras.

    ‘O’n i jyst yn meddwl … ’ mentra, gan wenu i lawr arna i.

    Yn syth, mae fy llais mewnol yn dechrau gorffen ’i frawddeg: Beth wyt ti’n hoffi’i neud yn dy amser hamdden? Pam ’mod i heb sylwi arnat ti o’r blaen? Licet ti ddod mas gyda fi?

    ‘… ga i olwg ar y llun ’na dynnest ti ohona i? Jyst i wneud yn siŵr ’mod i’n edrych yn iawn?’

    ‘O … ym … iawn. Wrth gwrs. Wna i ’i ddangos e i ti pan fyddwn ni yn JB’s.’ Ac ar y foment yma’n union, dwi’n cwympo mewn i dwll. Ocê, dyw e ddim yn dwll mawr a dwi ddim yn diflannu i mewn iddo fe’n llwyr, ond dwi’n dal ’y nhroed arno fe ac yn baglu ’mlaen – gan edrych mor ddeniadol a soffistigedig â meddwyn ar nos Sadwrn. Dyna un peth dwi’n ’i gasáu ynglŷn a Brighton, lle dwi’n byw. Mae fel tase ’na lwyth o dyllau sy’n bodoli jyst er mwyn i fi gwympo i mewn iddyn nhw! Ond dwi’n trio gwneud i’r cyfan edrych fel rhyw ddawns ddiddorol, ac yn ffodus, dyw Ollie ddim fel tase fe wedi sylwi.

    Wedi cyrraedd JB’s, daw Ollie i eistedd wrth f’ochr yn syth. Galla i weld Megan yn codi’i haeliau a dwi’n teimlo’n syth fel tasen i wedi gwneud rhywbeth o’i le. Mae Megan wastad yn llwyddo i wneud i fi deimlo fel hyn. Dwi’n troi i ffwrdd oddi wrthi, a chanolbwyntio ar yr addurniadau Nadolig o gwmpas y caffi yn lle hynny – y tinsel coch a gwyrdd disglair a’r Siôn Corn mecanyddol sy’n gweiddi ‘Ho, ho, ho!’ bob tro y bydd rhywun yn cerdded heibio. Y Nadolig, yn bendant, yw fy hoff adeg o’r flwyddyn. Mae rhywbeth am y Nadolig sy wastad yn gwneud i fi deimlo’n hapus ’y myd. Ar ôl munud neu ddwy, dwi’n troi ’nôl at y ford. Yn ffodus, mae ffôn Megan yn mynd â’i holl sylw.

    Mae ’mysedd yn crynu wrth i syniad ar gyfer blogbost dasgu i ’mhen. Weithiau, mae’n teimlo fel tase’r ysgol yn un ddrama fawr a bod angen i ni actio rôl arbennig bob amser. Yn nrama ein bywydau go iawn, dyw Ollie ddim i fod i eistedd wrth f’ochr i; dylai e eistedd ar bwys Megan. Dydyn nhw ddim yn mynd mas gyda’i gilydd, ond maen nhw’n bendant ar yr un ris ar yr ysgol gymdeithasol. A dyw Megan byth yn cwympo mewn i dyllau. Mae hi jyst fel tase hi’n hwylio trwy fywyd, a’i gwallt sgleiniog hardd a’i gwefusau pwdlyd yn swyno pawb. Daw’r efeilliaid i’r seddi ar bwys Megan. Kira ac Amara yw ’u henwau nhw. Rhannau heb siarad sy gyda nhw yn y ddrama, ac fel ecstras i’w phrif rhan hi y mae Megan yn ’u trin nhw go iawn hefyd.

    ‘Beth licech chi, bois? Diod?’ medd y weinyddes serchus, a’i phad yn barod i gymryd ein harcheb.

    ‘Basai hynny’n ôôôsym,’ medd Ollie yn ’i acen Americanaidd ffug. Alla i ddim peidio â theimlo cywilydd drosto fe.

    Mae pawb yn dewis milcshêc – heblaw am Megan, sy’n archebu dŵr – ac yna mae Ollie’n troi ata i. ‘Felly, ga i weld?’

    ‘Beth? O, ie.’ Dwi’n chwilio trwy ’mag am ’y nghamera, ac yn dechrau edrych drwy’r lluniau. Wrth ddod at yr un o Ollie, dwi’n ’i basio iddo fe. Yna, dal f’anadl wrth aros am ’i ymateb.

    ‘Cŵl,’ medd. ‘Dwi’n edrych yn dda.’

    ‘O, gad i fi weld f’un i,’ medd Megan, gan dynnu’r camera oddi wrtho fe a gwasgu’r botymau i gyd yn wyllt. Galla i deimlo ’nghorff yn tynhau. Fel arfer, does dim ots gyda fi rannu pethau – wnes i hyd yn oed roi hanner fy siocledi calendr adfent i Tom, ’y mrawd – ond mae ’nghamera i’n wahanol. Mae’n drysor gwerthfawr. Mae’n ’y nghadw i’n ddiogel.

    ‘O’r mawredd, Penny!’ ebycha Megan yn ddramatig. ‘Beth ddiawl wyt ti wedi’i wneud? Mae’n edrych fel tase mwstash ’da fi!’ Mae hi’n plannu’r camera’n galed ar y ford.

    ‘Gofalus!’ yw f’ymateb i.

    Mae Megan yn syllu arna i’n gandryll, cyn codi’r camera a photsian â’r botymau. ‘Sut alla i gael gwared ar y llun ’ma ohona i?’

    Cipiaf y camera oddi wrthi, braidd yn rhy ffyrnig, gan ddal un o’i hewinedd ffug ar strap y camera.

    ‘Ow! Ti wedi torri f’ewin i!’

    ‘Gallet ti fod wedi torri ’nghamera i!’

    ‘Ai dyna’r cyfan wyt ti’n becso amdano?’ Mae llygaid Megan yn llawn casineb. ‘Nid ’y mai i yw e bod dy lun di mor ofnadwy.’

    Yn ’y mhen, mae ateb yn ffurfio: Nid ’y mai i oedd hynny. Roedd rhaid i fi ’i dynnu e fel ’na achos y sbotyn ar dy wyneb di. Ond dwi’n stopio’n hunan rhag dweud hynny.

    ‘Gad i fi weld,’ medd Ollie, gan dynnu’r camera oddi wrtha i.

    Wrth iddo fe ddechrau chwerthin ac wrth i Megan syllu’n arna i, galla i deimlo tyndra cyfarwydd yn gwasgu ’ngwddf. Ceisiaf lyncu ’mhoer, ond mae’n amhosib. Dwi’n gaeth yn fy sedd. Plis paid â gadael i hyn ddigwydd eto, plediaf yn dawel fach. Ond mae’n digwydd. Gwres tanbaid yn rhuthro trwy ’nghorff, fel na alla i anadlu. Yn sydyn, mae’r lluniau o wynebau enwogion fel tasen nhw’n chwerthin ar ’y mhen i. Mae’r gerddoriaeth yn y cefndir yn rhy swnllyd. Y cadeiriau coch yn rhy lachar. Does dim ots beth wna i, alla i ddim rheoli ’nghorff fy hun. Mae cledrau ’nwylo’n wlyb diferol a ’nghalon i’n curo fel drwm bâs.

    ‘Ho, ho, ho!’ bloeddia’r robot Siôn Corn wrth y drws. Ond dyw e ddim yn swnio’n serchog nawr. Mae’n swnio’n fygythiol.

    ‘Mae’n rhaid i fi fynd,’ sibrydaf.

    ‘Ond beth am y llun?’ medd Megan mewn llais cwynfanllyd, gan daflu’i gwallt gloyw dros ’i sgwyddau.

    ‘Fe wna i ’i ddileu e.’

    ‘Beth am dy ddiod di?’ hola Kira.

    Tynnaf arian o ’mhwrs a’i roi ar y bwrdd, gan obeithio na wnân nhw sylwi ar y cryndod yn ’y mysedd. ‘Gall un ohonoch chi yfed ’y niod i. Dwi newydd gofio fod angen i fi helpu Mam i wneud rhywbeth. Mae’n rhaid i fi fynd adref.’

    Mae Ollie’n edrych arna i, ac am eiliad, dwi’n siŵr ’i fod e’n edrych yn siomedig. ‘Fyddi di yn y dre fory?’ gofynna.

    Mae Megan yn syllu’n grac arno o ochr arall y ford.

    ‘Siŵr o fod.’ Dwi’n teimlo mor dwym nawr nes bod popeth yn edrych yn aneglur. Mae’n rhaid i fi adael, nawr. Os bydda i’n sownd fan hyn am funud arall, llewygu wna i. Dwi bron â gweiddi ar Ollie i symud o’r ffordd.

    ‘Cŵl.’ Llithra Ollie allan o’i sedd, a rhoi’r camera i fi. ‘Falle wela i di o gwmpas, ’te.’

    ‘Iawn.’

    Mae un o’r efeilliaid – alla i ddim dweud pa un – yn dechrau gofyn a ydw i’n iawn, ond dwi ddim yn aros i’w hateb hi. Rywsut, dwi’n llwyddo i adael y caffi a chyrraedd glan y môr. Clywaf sgrech gwylanod a rhywun yn sgrechian chwerthin. Mae grŵp o fenywod yn symud yn sigledig tuag ataf i ar ’u sodlau uchel – pob un â lliw haul oren ar ’u coesau. Maen nhw’n gwisgo crysau-T pinc llachar, er mai canol Rhagfyr yw hi, ac mae sticeri dysgu gyrru o gwmpas gwddf un ohonyn nhw. Dwi’n ochneidio. Dyna un peth dwi’n ’i gasáu am fyw yn Brighton – mae partïon plu a phartïon ‘stag’ yn llenwi’r lle bob nos Wener. Gwibiaf ar draws yr heol gan anelu at y môr. Mae’r gwynt yn rhewllyd ac yn ffres, ond dyna sydd ’i angen arna i. Wrth sefyll ar y cerrig gwlyb a syllu ar y môr, teimlaf y tonnau, a’u rhythm cyson, cysurlon, yn arafu curiad ’y nghalon.

    Pennod Dau

    I’r rhan fwyaf o ferched, byddai dod adref i weld ’u mam yn sefyll ar y grisiau mewn ffrog briodas yn brofiad rhyfedd ofnadwy. I fi, mae’n digwydd bron bob dydd.

    ‘Helô, cariad,’ medd Mam, wrth i fi ddod trwy’r drws. ‘Beth wyt ti’n feddwl?’ Mae hi’n pwyso ar y canllaw ac yn taflu’i braich allan, a’i chyrls browngoch yn dawnsio dros ’i hwyneb. Lliw ifori yw’r ffrog. Mae’r wasg yn uchel a border o flodau lês o gwmpas y gwddf. Mae’n brydferth iawn, ond alla i wneud dim ond nodio ’mhen, gan ’mod i’n dal i deimlo’n sigledig.

    ‘Ar gyfer priodas â thema Glastonbury mae hon,’ esbonia Mam, wrth ddod i lawr y grisiau i roi cusan i fi. Mae’n gwisgo’i phersawr arferol – olew rhosyn a patchouli. ‘On’d yw hi’n fendigedig? On’d yw hi’n hollol berffaith i fynd i Glastonbury?’

    ‘Mmmm,’ atebaf innau. ‘Mae hi’n neis.’

    ‘Neis?’ mae Mam yn edrych arna i fel tasen i’n wallgo. ‘Neis? Mae’r ffrog yma’n fwy na neis – mae hi’n … mae hi’n … fawreddog! Yn ysblennydd!’

    ‘Dim ond ffrog yw hi, blodyn,’ medd Dad, wrth ddod allan i’r cyntedd. Mae’n gwenu arna i, ac yn codi’i aeliau. Codaf f’aeliau’n ôl. Falle ’mod i’n debyg i Mam o ran pryd a gwedd, ond mae ’mhersonoliaeth i’n debycach i Dad – llawer callach! ‘Diwrnod da?’ hola wedyn, wrth roi cwtsh i fi.

    ‘Iawn,’ yw f’ateb i, gan ddymuno, yn sydyn iawn, ’mod i’n bump oed eto, yn eistedd fel pelen fach ar ’i gôl yn gwrando arno’n darllen stori.

    ‘Iawn?’ hola Dad gan gymryd cam yn ôl. ‘Ife ‘iawn da’ neu ‘iawn ofnadwy’ yw hynny?’

    ‘Da.’ Dwi ddim eisiau creu mwy o ddrama.

    ‘Da iawn,’ medd Dad, gan wenu’n gynnes.

    ‘Alli di helpu yn y siop fory, Penny?’ gofynna Mam, gan edrych arni’i hun yn y drych yn y cyntedd.

    ‘Wrth gwrs. Faint o’r gloch?’

    ‘Dim ond ychydig o oriau yn y prynhawn, tra bydda i yn y briodas.’

    Mae gan Mam a Dad fusnes trefnu priodasau o’r enw To Have and to Hold, sy’n cael ’i redeg mewn siop yn y dref. Dechreuodd Mam y busnes ar ôl iddi roi’r gorau i fod yn actores i gael plant, sef Tom ’y mrawd a finnau, wrth gwrs. Mae hi’n arbenigo mewn themâu bach gwahanol. Mae hi hefyd wrth ’i bodd yn gwisgo lan yn y ffrogiau sy’n rhan o’r stoc – dwi’n credu’i bod hi’n gweld eisiau’r gwisgoedd llwyfan ers ’i dyddiau actio.

    ‘Faint o’r gloch fyddwn ni’n cael bwyd?’

    ‘Ymhen rhyw awr,’ medd Dad. ‘Dwi’n gwneud pastai’r bugail.’

    ‘Lysh.’ Dwi’n gwenu arno fe, gan ddechrau teimlo fel fi fy hunan eto. Mae pastai’r bugail Dad yn anhygoel. ‘Dwi jyst yn mynd lan lofft am funud fach.’

    ‘Iawn,’ ateba Mam a Dad, yn unsain.

    ‘Ha! Jinx!’ chwardda Mam, gan gusanu Dad ar ’i foch.

    Rwy’n mynd lan y rhes gyntaf o risiau, heibio stafell Mam a Dad. Wrth gyrraedd stafell Tom, galla i glywed curiad trwm hip hop. Ro’n i’n arfer casáu clywed ’i gerddoriaeth o hyd, ond nawr ’i fod e yn y brifysgol, dwi’n ’i hoffi, gan ’i bod hi’n braf ’i gael e gartref dros y gwyliau. Dwi wedi gweld ’i eisiau e’n ofnadwy ers iddo fe fynd bant.

    ‘Hei, Tomi-Tom,’ galwaf wrth fynd heibio’r drws.

    ‘Hei, Pen-Pen,’ galwa ’nôl.

    Af i ben draw’r cyntedd a dechrau dringo rhes arall o risiau. Mae fy stafell ar lawr uchaf un y tŷ. Er ’i bod hi’n stafell lawer llai na’r lleill, dwi’n dwlu arni hi. Gyda’i nenfwd isel a’i thrawstiau pren, mae’n glyd ac yn gwtshlyd, ac mae hi mor uchel lan nes ’mod i’n gallu gweld llinell las y môr ar y gorwel. Hyd yn oed pan fydd hi’n dywyll tu fas, mae gwybod bod y môr yno’n gwneud i fi deimlo’n dawel fy meddwl. Goleuaf y gadwyn o oleuadau bychain ar ddrych ’y mwrdd gwisgo ac ychydig o ganhwyllau fanila. Yna, eisteddaf ar ’y ngwely ac yn anadlu’n ddwfn.

    Nawr ’mod i gartref, galla i ddechrau meddwl am beth ddigwyddodd yn y caffi. Dyma’r trydydd tro i rywbeth fel ’na ddigwydd i fi nawr, a galla i deimlo pelen o bryder yn tyfu yn ’y

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1