Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Whap!: Adref heb Elin
Cyfres Whap!: Adref heb Elin
Cyfres Whap!: Adref heb Elin
Ebook225 pages3 hours

Cyfres Whap!: Adref heb Elin

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A novel for teenage readers. Elin doesn't arrive home from school one day. But what has happened to her? Tir na n-Og Award winner 2007. First published in 2006.
LanguageCymraeg
PublisherGomer
Release dateOct 30, 2020
ISBN9781785623585
Cyfres Whap!: Adref heb Elin

Read more from Gareth F Williams

Related to Cyfres Whap!

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres Whap!

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Whap! - Gareth F Williams

    RHAN 1 – DECHRAU

    1

    Diflannodd Elin ar ddydd Mawrth braf yng nghanol mis Medi. Ar y pymthegfed, hanner ffordd drwy’r mis ac wythnos union cyn ei phen-blwydd yn ddwy ar bymtheg oed.

    Hwyrach y dylwn i fod wedi anghofio popeth arall am y diwrnod hwnnw. Dylai fod y digwyddiad enfawr, ofnadwy hwn fod wedi dileu popeth arall a ddigwyddodd o’m meddwl yn llwyr, eu cicio allan fel na phetaen nhw wedi digwydd o gwbwl.

    Ond allwn i mo’u hanghofio. Alla i ddim hyd heddiw, er mor fychan a phitw’r oedden nhw i gyd. Pethau fel y ffordd yr oedd yr haul yn llifo i mewn drwy’r ffenest amser brecwast gan wneud i mi disian fel ffŵl, ac Elin yn gwneud sioe fawr o gipio’i phlât oddi ar y bwrdd a dweud, ‘Dwi’m isio sneips dros ’y nhost, diolch!’

    A bod crafiad bychan, fawr mwy na modfedd, gen i ar fy mhen-glin, ac fel y bûm i’n eistedd drwy gydol y wers Saesneg yn ei anwesu drosodd a throsodd, i fyny ac i lawr, a’i deimlo’n arw a chaled dan flaen fy mys. Ro’n i’n ysu am ei bigo ond yn benderfynol o beidio â gwneud hynny rhag ofn iddo adael craith. A chofio meddwl bod fy nghoesau’n anghynnes o wyn, diolch i’r haf melltigedig o lwyd oedd wedi bod, a rŵan dyma’r haul allan yn sbeitlyd bob diwrnod o ddydd Llun tan ddydd Gwener …

    … ac fel y daeth Sara ataf amser cinio, yn drewi o ffags ond efo’r newyddion fod Llŷr yn fy ffansïo a’i fod o yn bwriadu gwneud rhywbeth ynglŷn â’r peth unrhyw fis rŵan! Ac fel yr oeddwn yn falch, mor falch, o gael y tŷ i mi fy hun pan gyrhaeddais adref amser te, o allu teimlo llonyddwch a gwacter y tŷ pan gaeais y drws ffrynt ar fy ôl.

    ‘Elin, w’t ti adra?’

    Deuai pelydren o haul trwodd i’r cyntedd drwy ffenest a drws y parlwr, a gallwn weld darnau bychain o lwch yn igam-ogamu’n wallgof yn ei ganol pan gerddais trwyddo. Dwi’n siŵr fy mod i wedi gwenu wrth ddringo’r grisiau, wrth fy modd o gael y cyfle i orwedd ar fy ngwely a meddwl am newyddion Sara heb orfod dioddef Elin yn fy mwydro ac yn tynnu arnaf ac yn fy ngorfodi i wrando arni’n cydfloeddio efo’r White Stripes drwy’r pared – os nad oedd hi yno drwy’r amser, wrth gwrs, yn gwrando ar ei iPod a ddim wedi fy nghlywed i’n galw arni … ?

    Caeais fy nrws a thynnu f’esgidiau a gorwedd ar fy ngwely yn syllu drwy’r ffenest ar yr awyr, a oedd cyn lased â dŵr-pyllau-nofio y diwrnod hwnnw, ac ail-fyw yn fy meddwl y sgwrs a gefais i efo Sara ar y ffordd adref.

    Bu’r sgwrs yn ddigon hir cyn cychwyn. Peth blêr ar y naw ydi bywyd; mewn ffilm, dim ond Sara a finnau fasa’n cydgerdded o’r ysgol, a buasai’r sgwrs wedi dechrau’n daclus a darfod yn dwt o fewn munud neu ddau. Ond roedden ni mewn criw o saith, ac mae Sara’n byw yn weddol agos i’r ysgol tra dwi’n byw ym Mhen-y-Cei, reit ym mhen arall y dref. Ro’n i’n gweddïo na fasa Sara’n troi am adref cyn i ni fedru cael y cyfle i siarad yn iawn.

    Wrth gwrs, do’n i ddim yn dangos hynny, ddim o gwbl. Ro’n i wedi ceisio ymateb mewn ffordd eitha di-hid amser cinio …

    ‘Hei, ma’ gen i newyddion i chdi, Ceri!’

    ‘Oes?’

    ‘Am Llŷr.’

    ‘O, ia?’

    ‘Dwi newydd ’i glywed o’n deud ’i fod o’n dy ffansïo di.’

    ‘O, wow. Tydw i’n hogan lwcus …’

    Pam ddywedais i ’na? Beth os oedd Sara’n meddwl ’mod i’n hidio dim am Llŷr?

    ‘O … Sara … Gwitshia am funud.’ Edrychodd Sara arna i dros ei hysgwydd. Roedd hi’n hanner-gwenu, damia hi, yn amlwg yn gwybod yn iawn pam fy mod i wedi galw arni i aros.

    ‘Be sy?’ gofynnodd yn ddiniwed.

    ‘Y llyfr ’na …’

    ‘Llyfr?’

    ‘Ia – ’sti. Y llyfr ’na. O, a’r DVD hwnnw hefyd, tra dwi’n cofio …’

    Rhythais i fyw ei llygaid, yn ei gwylio’n ceisio penderfynu a oedd hi am fy mhryfocio ymhellach neu beidio.

    ‘O, ia. Sori, ro’n i wedi anghofio,’ meddai o’r diwedd. ‘Ia, ocê – ty’d i’w nôl nhw rŵan ’ta.’

    ‘Bitsh,’ dywedais, ar ôl ffarwelio â’r lleill.

    ‘Sori, Ceri, ond doeddat ti ddim isio gwbod amsar cinio. Ne’ dyna’r argraff ges i, beth bynnag.’

    Ar adegau mae Sara’n fy atgoffa o gath: rhywbeth ynglŷn â siâp ei hwyneb, ac fel mae ei llygaid (llygaid gleision, nid rhai gwyrddion – cath Siamese, felly!) yn troi’n ddwy hollt fain pan fydd hi’n gwenu mewn ffordd arbennig. Roedd hi’n gwenu felly’n awr, gan edrych fel cath oedd yn cael rhyw bleser diog o roi ambell waldan i lygoden fach anffodus efo cefn ei phawen.

    ‘Ia, ia, ocê. Be’n union ddudodd o?’

    ‘Dwi wedi deud wrthat ti unwaith.’

    ‘Do, dwi’n gwbod. Ond be’n union ddudodd o?’

    Ochneidiodd Sara. ‘’I fod o’n dy ffansïo di, yndê.’

    ‘A mi ddudodd o hynny wrthat ti?’

    ‘Do. Wel – fwy ne’ lai, do.’

    ‘Er mwyn i chdi ddeud wrtha i?’

    Cododd Sara’i hysgwyddau. ‘Am wn i.’

    ‘Be ti’n feddwl, fwy ne’ lai?’

    ‘O, Ceri, be ydi’r ots? Mae o yn dy ffansïo di, dyna be sy’n bwysig, yndê?’

    ‘Ella. Ond dwi’n dal isio gwbod be’r oeddat ti’n ’i feddwl efo’r fwy ne’ lai ’na.’

    Deallais mai wedi gor-glywed Llŷr a dau o’i ffrindiau crîpi yn siarad yr oedd Sara, y tri ohonyn nhw’n smocio fel tair stemar yng nghysgod y gampfa ac yn trafod genod, heb sylweddoli fod un o’r rheiny’n clustfeinio ar eu sgwrs fach anaeddfed, bathetig. Y linell-bwnsh oedd pan grybwyllwyd f’enw i, a clywodd Sara Llŷr yn dweud y buasai ‘yn shagio Ceri Mai hyd yn oed petai ei draed mewn tanllwyth o dân’.

    ‘… ’tasa ’na unrhyw glem ganddo fo lle i ddechra,’ gorffennodd Sara. ‘Dw’t ti ddim yn dal yn ’i ffansïo fo rŵan, gobithio, ar ôl clywad hynna?’

    ‘Nac ydw, nac ydw …’ dechreuais ateb, ond yna meddyliais am rywbeth. ‘Ddudon nhw rwbath amdanat ti?’

    ‘Fi? Naddo … wel, ddim i mi glywad, beth bynnag. Mi es i chwilio amdanat ti yn syth, yn do?’

    Do’n i ddim yn siŵr a o’n i’n coelio hynny neu beidio. Rwy’n siŵr fy mod wedi weld cysgod celwydd a pheth cywilydd ar wyneb Sara wrth iddi ateb, a daeth y sgwrs i ben yn fuan iawn ar ôl hynny. Maen nhw’n dweud fod pobol sy’n clustfeinio ar sgyrsiau pobol eraill yn aml yn clywed pethau annifyr amdanyn nhw’u hunain, a gwenais yn faleisus wrth ddychmygu fod Sara wedi clywed y tri’n cytuno na fasa’r un ohonyn nhw yn ei ‘shagio’ hi, hyd yn oed petai ganddi sach dros ei phen!

    Codais a thynnu fy nillad ysgol, yna agorais y ffenest a mynd ’nôl i orwedd ar y gwely.

    Hy! Llŷr Parri! Doedd hynna ddim yn beth neis iawn i’w ddweud, yn nac oedd! Ond ro’n i’n dal i’w ffansïo, er gwaetha’r ffordd y siaradodd o amdana i. O leiaf roedd o’n well na’r hyn y dychmygais roedd o wedi’i ddweud am Sara druan! O’n i wedi cael fy siomi ynddo? Do’n i ddim yn siŵr. Wedi’r cyfan, mae’n debyg mai fel yna mae hogia’n siarad efo’i gilydd, a bod Llŷr wedi teimlo rhyw reidrwydd i ddweud yr hyn ddywedodd o, ac mai’r ddau arall oedd y moch mewn gwirionedd.

    Dwi’n cofio bod synau cyfarwydd yn dod i mewn drwy’r ffenest: lleisiau plant yn chwarae yn y parc; ambell i wylan yn cwyno wrth hedfan heibio, a sŵn hyfryd y gwifrau’n tincian yn erbyn mastiau’r cychod yn yr harbwr gyferbyn â’r tŷ – sŵn unigrwydd, fel chwiban trên henffasiwn yn dod o’r pellter yng nghanol y nos, neu gri morfil dros gefnfor tywyll …

    Dwi’n cofio’r pethau bach dibwys hyn i gyd fel petaen nhw ond wedi digwydd ddoe, heddiw, funudau’n ôl. Dwi’n cofio gorwedd ar fy ngwely’n hanner noeth yn mwynhau teimlo’r awel yn anwesu fy nghorff a’m wyneb ac yn hanner-gwrando ar y synau cysurus a diogel rheiny. Do’n i ddim yn cael y cyfle hwn yn aml. Tŷ swnllyd ydi’n tŷ ni fel arfer, yn enwedig pan fo Elin ynddo. Dwi hyd yn oed yn cofio meddwl yn ddiog: unrhyw funud rŵan bydd y drws ffrynt yn agor a chlepian ynghau, a bydd Elin yn ei heliffantu hi i fyny’r grisiau …

    Deffrais a chlywed sŵn y radio’n dod o’r gegin. Mynnai’r cloc wrth fy ngwely ei bod bron yn chwech o’r gloch; roedd ias oer i’r awel a ddeuai drwy’r ffenest, a thinc ffyrnicach i waldio’r gwifrau’n erbyn y mastiau. Sylwais fod yr awyr wedi troi’n llwyd a’r llanw wedi dod i mewn yn aflonydd a phiwis.

    Gwisgais bar o jîns a chrys-T a mynd i’r ystafell ymolchi i bi-pi a thaflu ychydig o ddŵr dros fy wyneb cyn mynd i lawr i’r gegin. Roedd Dad yn troi sbageti mewn sosban a thrwy’r ffenest gallwn weld Mam yn hel y dillad oddi ar y lein.

    ‘Haia.’

    ‘Haia. Be ydi hanas dy chwaer, dywad?’

    Gwyrodd Mam a chodi hosan oedd wedi syrthio. Ymsythodd â’r fasged yn ei breichiau, a sefyll yn stond yn edrych i fyny ar yr awyr isel. Erbyn heddiw, mae’r cyfan fel llun du-a-gwyn yn fy meddwl. Roedd yr awel bellach wedi troi’n wynt a chwipiai wallt Mam o gwmpas ei hwyneb, a hyd yn oed o’r gegin gallwn weld y croen gŵydd yn codi fel brech dros ei breichiau. Jîns a chrys-T oedd gan Mam amdani hefyd, a jîns duon a chrys gwyn ydyn nhw yn fy meddwl, rhai glas a choch oedden nhw mewn gwirionedd.

    ‘Sori?’

    ‘Lle ma’ Elin?’

    Ysgydwais fy mhen. Ro’n i’n dal i syllu drwy’r ffenest ar Mam – ac ychydig bach yn hurt, hefyd, ar ôl bod yn cysgu – felly chymerais i fawr o sylw o gwestiwn Dad am eiliad neu ddau.

    Crynodd Mam, a throi am y tŷ. Troais innau at Dad. ‘Elin? Dwn i’m. Dydi hi ddim yn ’i llofft?’

    O’r holl bethau dibwys dwi’n eu cofio, does gen i ddim cof o gwbl o sylwi os oedd drws ystafell Elin wedi’i gau, ynteu’n dal ar agor, pan gerddais fel sombi o’m llofft i am yr ystafell ymolchi. Wnes i ddim hyd yn oed sylwi ar y distawrwydd anarferol oedd yn sicr yn dod o’i hystafell.

    Daeth Mam i mewn ac edrych ar y cloc cyn mynd â’r fasged ddillad trwodd i’r gegin fach.

    ‘Ddudodd Elin unrhyw beth wrthat ti?’ gofynnodd Dad.

    ‘Fel be?’

    ‘Dw’t ti ddim yn gwbod lle ma’ hi?’

    ‘Pam ddylwn i fod yn gwbod?’

    Daeth Mam trwodd yn ei hôl o’r gegin fach. ‘Wna’th hi ddim sôn fod rhwbath ymlaen ganddi hi heno ’ma? Rhwbath oedd wedi codi’n annisgwl, ne’ rwbath yr oedd hi wedi anghofio bob dim amdano tan y munud ola?’

    ‘Dwi ddim wedi’i gweld hi ers amsar brecwast.’

    Edrychodd fy rhieni ar ei gilydd, a’r edrychiad hwnnw, dwi’n meddwl rŵan, wnaeth i mi gau fy ngheg a pheidio â gofyn pam oeddan nhw’n gwneud cymaint o ffys. Cododd Mam y ffôn a gwasgu un o’r botymau. Safai Dad uwchben y sosban yn ei gwylio, ei law dde’n dal i droi’r sbageti’n araf. Gallwn glywed y llais robotaidd hwnnw o lle’r o’n i’n sefyll: You have reached … the voicemail number for … oh-seven-nine-eight … Tynnais innau fy ffôn bach o’m poced, er mwyn anfon neges tecst.

    ‘Elin, wnei di plîs ada’l i ni wbod lle’r w’t ti? Ma’ hi wedi chwech yn barod.’ Petrusodd Mam am eiliad, fel petai am ddweud rhagor, ond yn hytrach rhoes y ffôn yn ôl i lawr.

    ‘’Dach chi isio i mi anfon tecst ati hi?’

    ‘Be? O … ia, wa’th i chdi ’neud, wneith o ddim drwg.’

    ‘’Mond newydd droi chwech ma’ hi, cofia,’ meddai Dad.

    ‘Ond ma’ hi’n amsar bwyd, yn dydi? Yn amsar te.’ Plethodd Mam ei breichiau dros ei bronnau. Edrychai fel petai hi’n ceisio’i chofleidio’i hun. Rhwbiodd gledrau’i dwylo dros gnawd ei breichiau. ‘Bygro fo, Ger, dwi am ffonio’r hogan ’na.’

    ‘Pa hogan?’ gofynnais. Gwasgais fotwm. ‘Reit, ma’r tecst wedi mynd.’

    ‘Sharon,’ atebodd Dad.

    ‘Dwi ’mond isio gwbod os ydi hi’n bwriadu dŵad adra i ga’l te ne’ beidio,’ meddai Mam. ‘O, haia – Glenys? Haia, sud w’t ti? Miriam sy ’ma … hai. Yndw, diolch, iawn … tshampion … a chditha? Gwranda – dydi Elin ddim yn digwydd bod yna efo Sharon, yn nac ’di … ? ’Dan ni ar fin codi bwyd, ti’n gweld, ac isio gwbod os …’ Nag oedd, doedd Elin ddim yno: roedd hynny i’w weld yn glir ar wyneb Mam. Gorffennodd y sgwrs a rhoes y ffôn yn ei ôl i lawr eto. ‘Dwi ddim yn mynd i ffonio neb arall,’ meddai. ‘Mi fydd pobol yn meddwl mod i’n dechra drysu. Ma’r hogan yn ddwy ar bymthag, wedi’r cwbwl.’

    ‘Bron,’ ychwanegais.

    ‘Mi ddaw hi toc,’ meddai Dad.

    Eisteddon ni’n tri i fwyta, hefo bwyd Elin yn oeri’n braf ar y stôf. Gorweddai fy ffôn i’n fud ar y bwrdd wrth ochr fy mhlât. Roedd yn amlwg nad oedd fawr o stumog gan Mam. Ydi hi’n bosib dal rhywbeth felly oddi wrth rhywun arall, ’sgwn i? Byddwn fel arfer yn claddu sbag-bol Dad. Gwnaethpwyd ryw ymdrech ar fân-siarad, ond roedd y tri ohonom yn gwrando am sŵn y drws ffrynt yn agor a chau, ac â’r un frawddeg ar flaenau’n tafodau – y frawddeg fuasai’n gwneud i ni i gyd ddechrau poeni go iawn petai un ohonon ni ond yn ddigon dewr i’w dweud yn uchel …

    Dydi hyn ddim fel Elin o gwbl.

    2

    Es yn ôl i fyny’r grisiau ar ôl te. Oedd, roedd drws llofft Elin yn llydan agored, fel ag yr oedd o pan gyrhaeddais adref o’r ysgol, ac – fel arfer – edrychai’r ystafell fel cartref i boltergeist lloerig, hefo dillad a llyfrau a chylchgronau a thapiau a disgiau a cholur a thampons a hancesi papur a phapurau da-da dros y lle i gyd.

    Fedra i ddim cofio’n iawn be’n union oedd yn gwibio drwy fy meddwl tra o’n i’n sefyll yno wrth y drws, ond dwi ddim yn credu fy mod i wedi dechrau pryderu rhyw lawer. Ddim eto. Ond efallai hefyd fy mod i, ond imi fygu’r pryder hwnnw drwy deimlo’n flin tuag at fy chwaer, am iddi fod mor ddifeddwl â difetha’r noson i ni i gyd. Doedd yr un ohonom wedi cael llawer o flas ar ein te. Roedd y tri ohonom yn ymwybodol iawn o’r lle gwag wrth y bwrdd – ond eto, mewn rhyw ffordd od, doedd o ddim yn hollol fel lle gwag, chwaith: roedd o’n fwy fel petai rhywun dieithr yn eistedd yno, rhywun anghynnes ac annifyr iawn oedd yn llwyddo i droi stumog pawb arall.

    Doedd yna ddim, chwaith, o’r tynnu coes arferol fyddai’n teyrnasu dros y bwrdd bwyd, na dim o’r sgwrsio stacato wrth i’r pedwar ohonom gofio gwahanol bytiau o ddigwyddiadau’r diwrnod; sut gwsmeriaid hynod oedd wedi galw yn Siop Portmeirion lle’r oedd Mam yn gweithio, sut aelwydydd roedd Dad wedi ymweld â nhw yn ei waith fel trydanwr. Diolch i Elin, roedd ein llygaid yn mynnu troi i gyfeiriad y cloc bob ugain eiliad, a’n genau’n cnoi bwyd nad oedd ein tafodau’n gallu’i flasu.

    Wrth godi oddi wrth y bwrdd, ro’n i’n gwybod na faswn i’n gallu setlo i wneud fawr o ddim nes i Elin gyrraedd adref. Allwn i ddim gwylio Emmerdale nac Eastenders, na chanolbwyntio ar fy ngwaith cartref, na mynd ar y we na chwarae CDs na thecstio Sara na meddwl mwy am Llŷr. Allwn i wneud dim ond hofran, a melltithio fy chwaer absennol. Roedd fy rhieni yr un mor aflonydd i lawr y grisiau, ac eisoes wedi dechrau ei rhegi a bygwth pob math o ddial arni pan fyddai hi’n penderfynu hwylio i mewn o’r diwedd.

    Gallwn glywed cerddoriaeth Emmerdale yn dod o’r ystafell fyw. Saith o’r gloch, felly – teirawr ers amser-cyrraedd-adref arferol Elin.

    Ai dim ond teirawr – neu cymaint â theirawr?

    Y cyntaf, plîs.

    Ac roedd teirawr, rhywsut, yn swnio’n well na thair awr.

    ‘Dydi hyn ddim fath â hi o gwbwl.’

    Mam ddywedodd hyn yn y diwedd, funud neu ddau cyn i mi godi a mynd i fyny’r grisiau, ei llygaid yn fawr yn ei phen ac wedi’u hoelio ar Dad. Edrychodd yntau ’nôl arni, un edrychiad chwim ac anghyfforddus ac ychydig bach yn biwis, hefyd, fel petai’n flin efo hi am leisio’r geiriau.

    Ond meddai’n ôl, ‘Nac ’di, pwt, rw’t ti’n iawn. Dydi o ddim.’

    Roedden nhw yn llygad eu lle, hefyd. Er cymaint ro’n i eisiau gweiddi, ‘Ydi, mae o! Be ydi’r matar efo chi? Fel hyn ma’ hi wastad wedi bod!’ ro’n i’n gwybod mai bloeddio celwydd faswn i. Doedd Elin byth yn hwyr fel hyn. Y fi oedd yr un chwit-chwat, yn aml yn gorfod ffonio adref yn llawn esgusodion ac ymddiheuriadau am anghofio bod y ffasiwn beth ag oriawr gen i ar fy ngarddwrn, tra oedd Elin yn gyfoglyd o gydwybodol ynglŷn â phethau fel yna. Roedd hi’n anodd credu hynny, efallai, gan fod ei hystafell wely wastad yn edrych fel petai ar gychwyn, ond dyna ni. Yn ei ffordd ei hun, roedd Elin yn berson trefnus iawn.

    Dwi’n gwbod lle ma’ bob dim yma,’ oedd ei hymateb bob tro y byddai rhywun yn beirniadu’r llanast yn ei llofft. ‘Mi fedra i osod fy llaw ar unrhyw beth dwi ’i isio, unrhyw bryd dwi ’i isio fo.’

    Roedd hi wedi dechrau tywyllu go iawn erbyn hyn, a gallwn glywed glaw mân yn crafu ar wydr y ffenest. Ymbalfalais am swits y golau. Edrychai llanast Elin yn fwy lliwgar nag erioed am rai eiliadau. Ar y wal uwchben ei gwely roedd poster anferth a llachar o’r White Stripes, Jack a Meg, y ddau mewn coch a gwyn ac yn domennydd o chwys, yn enwedig Jack; roedd hwnnw yn ei gwman dros ei gitâr a chudynnau tywyll, gwlybion yn hongian dros ei wyneb, tra oedd Meg yn edrych mor sombïaidd ag erioed y tu ôl i’w drymiau.

    Doedd Elin ddim wedi trafferthu gwneud ei gwely cyn gadael am yr ysgol y bore hwnnw, fel arfer. Gorweddai sawl llyfr ar y llawr, dau ohonynt yn agored. Er bod desg fechan yn y gornel wrth y ffenest, roedd yn well gan Elin wneud ei gwaith

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1