Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Whap!: Ffrindiau
Cyfres Whap!: Ffrindiau
Cyfres Whap!: Ffrindiau
Ebook154 pages2 hours

Cyfres Whap!: Ffrindiau

Rating: 5 out of 5 stars

5/5

()

Read preview

About this ebook

Who's behind the voice that wails at night? Who are the ghosts that lurk in the corner of the attic? These are the questions that puzzle Tegwen when she visits her father. What exactly happened there many years ago? The boundary between reality and the spirit world overlaps in this horror novel, the author's third novel in the Whap! series for teenagers.
LanguageCymraeg
PublisherGomer
Release dateOct 30, 2020
ISBN9781785623714
Cyfres Whap!: Ffrindiau

Read more from Gareth F Williams

Related to Cyfres Whap!

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres Whap!

Rating: 5 out of 5 stars
5/5

1 rating0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Whap! - Gareth F Williams

    Er cof am

    Wyndham Frederick Lewis

    But only a host of phantom listeners

    That dwelt in the lone house then

    Stood listening in the quiet of the moonlight

    To that voice from the world of men.

    Walter de la Mare, The Listeners

    Rhagair

    ‘Blantos! Blaaan … tos!’

    Roedd o yno eto heno, allan yn y stryd.

    Edrychodd y ddau ar ei gilydd – eu llygaid yn fawr, yn grwn ac yn llawn ofn. Yna trodd y ddau ac edrych ar ffenestr yr atig.

    Roedd yn rhaid iddyn nhw fynd at y ffenestr.

    Doedd arnyn nhw’r un awydd eisiau mynd, ond doedd ganddyn nhw ddim dewis. Roedd y ffenestr fel magned, yn eu tynnu tuag ati, bob tro roedd ei lais i’w glywed allan yn y stryd, a’r gwynt yn eu galw.

    ‘Blaaan … tos!’

    Llithrodd y ddau’n dawel ar hyd llawr pren yr atig, gan adael ambell ôl troed yn y llwch tew a orweddai drosto i gyd. Olion traed a ddiflannai’n syth bìn, fel dŵr oddi ar lechen boeth. Roedd gwe pry cop yn hongian i lawr o’r nenfwd fel llenni bregus, a chrynai honno’n ysgafn, ysgafn wrth iddyn nhw fynd trwyddi, fel petai rhywun wedi anadlu drosti.

    ‘Blaaan … tooooosssss!’

    Doedd o ddim yn gweiddi, ond eto roedd ei lais yn eu cyrraedd yn glir gyda’r tinc chwareus, ofnadwy hwnnw yn ei lenwi, bron fel tasa fo’n canu’r gair.

    Ond gwyddai’r ddau mai’r peth olaf roedd ar hwn eisiau’i wneud oedd chwarae.

    Ffenestr fawr, gron oedd ffenestr yr atig, heb fod yn rhy annhebyg i’r ffenestri crynion rheiny sydd i’w gweld mewn llongau mawrion. Doedd hi ddim wedi’i gosod yn uchel iawn yn y mur, ond roedd yn rhaid i’r ddau sefyll ar flaenau’u traed er mwyn gweld trwyddi.

    Gwnaethant hynny’n awr, gan osod blaenau eu bysedd yn y llwch ar y sil a’u tynnu eu hunain i fyny nes bod dim ond eu gwalltiau, dau dalcen gwyn, pedwar llygad crwn a hanner dau drwyn i’w gweld o’r tu allan.

    Oedd, roedd o wedi dod ychydig yn nes heno eto.

    Ychydig yn nes at y tŷ.

    Safai yn awr reit o dan oleuni’r stryd, heb daflu unrhyw gysgod o gwbwl ar wyneb y ffordd. Gwisgai siwt ddu heb dei, ond gyda botymau ei grys gwyn wedi’u cau’r holl ffordd i fyny at ei wddf. Roedd ei ben yn rhowlio’n llac ar ei wddf wrth iddo edrych i fyny at ffenestr yr atig.

    Atyn nhw.

    ‘Blantossss … !’ meddai.

    Gallent weld ei wyneb gwyn yn gwenu a chawsant gip ar ei dafod oedd yn ddu y tu mewn i’w geg, fel malwoden fawr dew. Ochneidio’r gair wnaeth o’r tro hwn, gyda’r ssss hir ar ei ddiwedd yn gwneud iddo swnio fel neidr hapus.

    A chymerodd gam arall i gyfeiriad y tŷ.

    Gwibiodd y ddau yn eu holau wysg eu cefnau oddi wrth y ffenestr – trwy’r gwe pry cop a thros y llwch a orweddai fel eira llwyd ar lawr yr atig. Eisteddon nhw ar y llawr yn y gornel bellaf un, y gornel dywyllaf, gyda’u breichiau wedi’u lapio’n dynn, dynn am ei gilydd.

    Roedd o’n dod yn nes ac yn nes ac yn nes bob tro.

    Clywsant ef yn galw arnynt eto.

    ‘Blan … tos! Blaaaan … toooosss!’

    Galwodd arnyn nhw bob hyn a hyn drwy’r nos, ei lais yn gwanhau yn raddol wrth i’r diwrnod newydd nesáu.

    Erbyn i’r wawr dorri, roedd o wedi distewi’n llwyr.

    Ac erbyn i’r haul ddringo’n ddigon uchel yn yr awyr iddo fedru tywynnu ar ffenestr yr atig, doedd yno ddim byd i’w weld drwy’r gwydr budr ond y gwe pry cop yn hongian yn llonydd.

    Roeddynt hwythau, hefyd, wedi mynd – wedi dianc o’r atig am y tro.

    Nes i’r atig eu galw yno’n ôl.

    Wini Wallgof

    ‘Does yna ddim ffasiwn betha ag ysbrydion.’

    Y fi ddudodd hynna, yn uchel wrtha i’n hun, ’chos ro’n i newydd ddeffro efo’r teimlad pendant fod ysbryd Wini Wallgof o dan fy ngwely i.

    Bore Sadwrn oedd hi, ac roedd hi’n bwrw glaw – er bod y llenni ar gau, roedd rhyw hen oleuni llwyd, tamp yn dŵad i mewn drwyddyn nhw ac ro’n i’n gallu clywed olwynion y ceir yn hisian fel nadroedd wrth iddyn nhw yrru heibio’r tŷ.

    Roedd fy llais yn swnio’n uchel iawn yn nhawelwch fy llofft newydd.

    Yn uchel … ac yn ofnus. Fel llais hogan fach oedd yn trio’i gorau i beidio â theimlo’n ofnus.

    Ceisiais feddwl am bethau eraill – pethau cas fel … fel … fel y ffaith fod Mam a finna’n gorfod mynd draw i Tŷ Ni yn nes ymlaen y bore hwnnw, ’chos roedd ’na bobol yn dŵad i’w weld o, pobol fasa isio’i brynu fo hyd yn oed. Ceisiais feddwl wedyn am y bobol rheiny’n byw yn Tŷ Ni, ond doedd hynny ddim yn gweithio’n dda iawn. Do’n i ddim wedi’u gweld nhw, felly do’n i ddim yn gwybod sut bobol oedden nhw, ac felly roedd yn anodd i mi feddwl amdanyn nhw fel pobol gas.

    Pobol heb wyneba oedden nhw.

    Fel ysbrydion …

    Ond doedd yna ddim ffasiwn bethau, yn nag oedd?

    ‘Esyllt – chdi sy ’na?’ gofynnais mewn llais normal (wel, ro’n i’n meddwl ’i fod o’n normal. Roedd o’n swnio’n fwy normal, beth bynnag). ‘Na – Trystan. Y chdi sy ’na, dwi’n gwbod. Dwi ddim yn stiwpid, ’sti.’

    Dim ymateb o gwbwl o dan y gwely. Os rhywbeth, roedd y tawelwch yn rhy dawel – yn union fel tasa rhywun (Trystan neu Esyllt, nid Wini Wallgof – na, nid honno, ’chos doedd hi ddim yn bodoli!) yn dal ei wynt. Roedd y ddau ohonyn nhw wedi trio fy nychryn i neithiwr. Er bod y tŷ lle roeddan ni’n byw rŵan yn edrych fel un modern (yn ôl Trystan), roedd o’n hen iawn mewn gwirionedd ac roedd Wini Wallgof yn arfer byw yma erstalwm.

    Doedd Wini ddim yn wallgof i ddechrau (yn ôl Esyllt). Colli arni ar ôl i’w chariad gael ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf wnaeth hi.

    ‘Doedd hi byth yn mynd allan wedyn,’ meddai Trystan. ‘’Mond i ’neud ’chydig o siopa weithia.’

    ‘I brynu bwyd iddi hi’i hun … ac i’r cathod,’ meddai Esyllt.

    ‘Cathod?’ gofynnais.

    Roedd y ddau wedi dod i mewn i’m llofft i, ac yn eistedd ar fy ngwely i wrth adrodd y stori yma. Y ddau yn eu dillad nos, efo’u llygaid gleision nhw’n fawr ac yn grwn.

    ‘Roedd hi’n hel cathod,’ meddai Esyllt. ‘Roedd pob cath ddigartra’n gwbod fod croeso cynnes iddi’n nhŷ Wini.’

    ‘Y tŷ yma, cofia, Tegs,’ meddai Trystan.

    Ro’n i wedi deud a deud wrthyn nhw am beidio â fy ngalw i’n ‘Tegs’. ’Mond Dad oedd yn cael gneud hynny. Ond roedd siarad efo’r ddau yma fel siarad efo’r wal yn reit amal.

    ‘Cyn bo hir, roedd digon o gathod ganddi i … i … i agor siop gathod,’ meddai Esyllt.

    ‘A’th blynyddoedd lawar heibio,’ meddai Trystan. ‘Ac yna, un diwrnod …’

    Edrychodd y ddau ar ei gilydd.

    ‘Be?’ gofynnais, braidd yn ddiamynedd rŵan – ma’n gas gen i pan fo pobol yn dechrau deud stori ac yna’n llusgo’n bryfoclyd jest cyn gorffan.

    ‘W’t ti’n meddwl y dylan ni ddeud wrthi, Trystan?’

    ‘Ma’n iawn iddi ga’l gwbod, Esyllt. ’Mond gobithio nad ydi hi’n berson nerfus – of a nervous disposition. W’t ti, Tegs?’

    Be ddigwyddodd?’ chwyrnais rhwng fy nannedd. ‘Wel, mi ddaru pobol ddechra sylweddoli bod neb wedi gweld Wini ers dyddia lawar,’ meddai Esyllt. ‘Wsnosa, a deud y gwir.’

    ‘A bod ’na hen ogla annifyr yn dŵad o’r tŷ,’ meddai Trystan. ‘O’r tŷ yma, cofia.’

    ‘Galwodd rhywun am y plismon, ar ôl curo a churo wrth y drws ffrynt a’r drws cefn a cha’l dim atab o gwbwl gan Wini,’ meddai Esyllt.

    ‘Roedd yn rhaid iddyn nhw dorri i mewn yma yn y diwadd,’ meddai Trystan. ‘Pan agoron nhw’r drws ffrynt, mi ruthrodd yr holl gathod i gyd allan. Dwsina ohonyn nhw, fel petha wedi mynd o’u coea.’

    ‘Afon o gathod,’ meddai Esyllt. ‘Ond … dim golwg o Wini. Mi aeth y plismon a’r cymdogion i fyny’r grisia. A’r tu mewn i un o’r llofftydd …’

    ‘Pidiwch â deud wrtha i,’ dywedais. ‘Wini, mwn?’ Nodiodd y ddau yn ddwys.

    ‘Wini,’ meddai Esyllt. ‘Neu, beth bynnag oedd ar ôl ohoni. Yn gorwadd o dan y gwely.’

    ‘Roedd hi wedi bod yn aea calad iawn y flwyddyn honno,’ meddai Trystan. ‘Cafodd Wini ei tharo’n wael, a chan yr oedd hi’n rhy wan i fwydo’i hun, heb sôn am fwydo’r cathod … wel, mi drodd y cathod ar Wini. Meddylia – yr holl ddannadd bach miniog rheiny, yn brathu, yn rhwygo, yn cnoi …’

    ‘Rhaid bod Wini druan wedi trio cropian o dan y gwely er mwyn cuddiad oddi wrth y cathod. Ond … wel, doedd dim gobaith gan y graduras, yn nag oedd?’ Ysgydwodd Esyllt ei phen yn drist.

    ‘Cafodd ei bwyta’n fyw gan ei chathod ei hun,’ meddai Trystan. ‘Ond y peth ydi, mae ’na sôn, yndê …’ Edrychodd y ddau o’u cwmpas yn nerfus. ‘Ma’ nhw’n deud fod Wini yn dal yma, yn y tŷ ’ma.’

    ‘Ma’ gwahanol bobol sy wedi byw yma dros y blynyddoedd wedi clywad syna rhyfadd yn y nos,’ meddai Esyllt. ‘Syna’n dŵad o dan y gwely. Syna cnoi, a syna rhywun yn griddfan. A phan fyddan nhw’n ddigon dewr i sbio o dan y gwely, dyna lle ma’ ysbryd Wini’n sbio’n ôl arnyn nhw …’

    ‘… efo’i hwynab wedi’i gnoi i gyd,’ gorffennodd Trystan. ‘Ond yn anffodus, dydan ni ddim yn siŵr iawn pa stafall. Nid fy stafall i, beth bynnag; dwi’n gwbod hynny.’

    ‘Na’m stafall inna chwaith,’ meddai Esyllt. ‘Na stafall Dad. Ond ella y stafall yma … Oes ’na rywun wedi cysgu yma o’r blaen, Tryst?’

    ‘Dwi ddim yn siŵr,’ meddai Trystan. ‘Dwi ddim yn meddwl. Ond paid â phoeni, Tegs – ’mond stori ydi hi. Go brin ’i bod hi’n wir.’

    Go brin?

    Ia, go brin. Roedd Mam a fi’n byw yma rŵan efo Trystan, Esyllt ac Alwyn, eu tad nhw, ers dros fis, ac ro’n i wedi dŵad i ’nabod y ddau efaill yn ddigon da i beidio â choelio’r un gair roeddan nhw’n ’i ddeud.

    A ph’run bynnag, siawns na faswn i wedi clywed rhyw sôn am Wini Wallgof cyn hyn. Chwarae teg – stori erchyll fel honna? Dim ots faint o waith fasa wedi cael ei wneud ar y tŷ dros y blynyddoedd, ‘Tŷ Wini Wallgof’ fasa’i enw fo i bawb o bobol y dref – fydda hynny byth yn newid.

    Na, rwtsh oedd y cwbwl.

    A does yna ddim ffasiwn bethau ag ysbrydion, ma’ pawb call yn gwybod hynny. Rhaid fy mod i wedi cael breuddwyd cas, a bod hwnnw wedi fy neffro a gneud i mi feddwl fod yna ysbryd o dan fy ngwely i.

    Gan chwerthin am fy mhen fy hun am fod mor hurt, eisteddais i fyny yn y gwely cyn troi ynddo ac eistedd ar ei ochor, efo’m traed wedi’u sodro ar y carped …

    … a dyna pryd y

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1