Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Whap!: Eira Mân, Eira Mawr
Cyfres Whap!: Eira Mân, Eira Mawr
Cyfres Whap!: Eira Mân, Eira Mawr
Ebook320 pages4 hours

Cyfres Whap!: Eira Mân, Eira Mawr

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A spine-chilling novel for teenagers, set in a small coastal town in Gwynedd. They never have a white Christmas as it's so close to the sea. But this year, the snow comes suddenly before anyone has a chance to escape. Tir na n-Og Award winner 2008.
LanguageCymraeg
PublisherGomer
Release dateOct 30, 2020
ISBN9781785623721
Cyfres Whap!: Eira Mân, Eira Mawr

Read more from Gareth F Williams

Related to Cyfres Whap!

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres Whap!

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Whap! - Gareth F Williams

    I Richard, Susan, Llinos ac Ethni

    Come away, O human child!

    To the waters and the wild

    With a faery, hand in hand,

    For the world’s more full of weeping

    than you can understand.

    W. B. Yeats, The Stolen Child

    PROLOG

    Noswyl Nadolig

    Stiw Powell

    Caeodd y drws ffrynt gyda chlep uchel gan ysgwyd y tŷ at ei seiliau. Roedd yn wyrth nad oedd y paen o wydr barugog yn ei ganol wedi syrthio a thorri’n deilchion ar y garreg ddrws.

    A’i wyneb yn wyn, cododd Stiwart Powell o’i gadair, yna eistedd yn ôl i lawr ag ochenaid uchel. O’r tu allan i’r tŷ daeth sŵn injan y car yn tanio ac yna bwm-bwm-bwm undonog y bas a’r drymiau cyn i’r car yrru i ffwrdd.

    Edrychodd Stiw ar ei wraig.

    ‘Paid,’ meddai Yvonne.

    ‘Be?’

    ‘Dy fai di oedd hynna. Felly paid â sbio arna i.’

    ‘Â phlesar.’

    Gwyliodd Stiw wefusau’i wraig yn tynhau. Eisteddai ar y soffa gyda’i choesau wedi’u plygu oddi tani. Meddyliodd Stiw ei bod yn edrych fel blob anghynnes yn ei chrys chwys a’i throwsus tracsiwt.

    A dw inna fawr gwell na hi, meddyliodd.

    Pwyntiodd Yvonne y teclyn i gyfeiriad y sgrin deledu, a diflannodd Graham Norton mewn gwisg Siôn Corn: yn ei le daeth Phillip Schofield ac Anne Robinson – hwythau mewn gwisgoedd Siôn Corn.

    ‘Crap. Dim byd ond crap,’ meddai. Edrychodd ar Stiw. ‘Lle bynnag dw i’n sbio.’

    Cododd Stiw eto a mynd at y ffenestr. Symudodd gornel o’r llenni ac am eiliad syllodd ar ei lun yn nüwch y gwydr. Blob w’t titha hefyd, Stiw Powell, meddyliodd. Be mae’r blynyddoedd wedi’i wneud i chdi ac Yvonne?

    Edrychodd ar lun ei wraig y tu ôl iddo yn tanio sigarét arall; roedd y blwch llwch wrth ei hochr yn orlawn yn barod, fel yr un oedd ar fraich ei gadair yntau. Ar ei glin roedd tun mawr agored o Quality Street, ac ar y carped wrth y soffa roedd potel o Bacardi a chan Coca-Cola. Gorweddai’r TV Times a’r Radio Times yn agored ar y carped rhad; roedd cnau a chreision wedi’u sathru i mewn iddo, a’r bwrdd yn y gornel yn anialwch o blatiau a gwydrau budron. Llwyddai’r goeden Nadolig anferth yn y gornel i wneud i’r ystafell fyw fechan edrych hyd yn oed yn llai nag yr oedd hi mewn gwirionedd, ac roedd y llawr o’i chwmpas yn frith o nodwyddau gwyrddion. Doedd yna’r un anrheg wrth ei throed: roedd y rheini wedi’u hen agor a’r bin sbwriel ger y tân nwy yn llawn o bapur lapio amryliw.

    Mae golwg y diawl ar y lle ’ma, meddyliodd Stiw, ac mae golwg y diawl arnon ninnau hefyd.

    Aeth criw swnllyd o bobol ifanc heibio y tu allan. Ffrindiau Sara? Na, edrychodd yr un ohonyn nhw i gyfeiriad y tŷ. Cangen arall o’r criw ifanc a oedd yn rheoli’r stad gyngor hon, penderfynodd, a Duw a helpo unrhyw bensiynwyr diniwed a fyddai’n ddigon dwl i fentro allan o’u tai pan oedd y rhain o gwmpas y lle.

    Ond ma’Gwyn a Sara’n saffach yma nag y basan nhw adra yn Aberllechi, fe’i hatgoffodd ei hun. Hyd yn oed os y gwneith hi fwrw eira heno ’ma.

    Edrychodd Stiw i fyny ar yr awyr. Ni allai weld yn iawn oherwydd y lamp stryd oren oedd fwy neu lai union gyferbyn â’r tŷ, ond credai fod y sêr y medrai eu gweld yn gynharach wedi’u cuddio gan gymylau.

    Cymylau eira.

    Ond ma’n ol-reit, ceisiodd ei sicrhau ei hun. Dydan ni ddim yn Aberllechi, felly ma’ bob dim yn ol-reit.

    Y tu ôl iddo, defnyddiodd Yvonne y teclyn i sboncio o un sianel i’r llall heb aros am fwy na phum eiliad ar bob un. Roedd y sain yn mynd ar nerfau Stiw – yr hanner brawddegau, y gerddoriaeth uchel, y chwerthin gwallgof a di-angen.

    ‘Defnyddia’r mute, wnei di, os w’t ti’n mynnu gneud hynna.’

    ‘O – jest piss off, Stiw.’

    Syrthiodd lwmpyn o lwch o flaen sigarét Yvonne ac i mewn i’r tun Quality Street.

    ‘Mi fasa’n braf, un flwyddyn, ca’l ’Dolig bach neis, dw’t ti ddim yn meddwl, Yvonne? ’Sti – y pedwar ohonon ni o gwmpas tanllwyth o dân glo, yn chwara gêma a chael hwyl iawn; carola ar y CD a’r ddau blentyn yn mynd i’r gwely’n gynnar, wedi ecseitio’n lân, a chdi a finna’n cydlo ar y soffa.’

    Ddywedodd o mo hyn yn uchel, fodd bynnag. Yn hytrach, meddai: ‘Diolch am dy help di gynna, efo Gwyn.’

    ‘Ma’n iawn iddo fo ga’l mynd allan. A Sara hefyd, tasa hi’n dŵad i hynny.’

    ‘Na!’

    Trodd Yvonne ac edrych i fyny ato. Gostyngodd Stiw ei lais.

    ‘Na, ddim heno ’ma,’ meddai. ‘Ma’ hi’n rhy ifanc … ’ ychwanegodd yn llipa, a throdd Yvonne yn ôl at y sgrin deledu â golwg ddirmygus ar ei hwyneb.

    Aeth Stiw trwodd i’r gegin, gan feddwl: Ia, Yvonne sy’n iawn, does ’na ddim byd ‘ifanc’ ynglŷn â’n Sara ni, ma’ hi wedi rhoi’r gora i fod yn blentyn ers pan oedd hi tua wyth ne’ naw oed. A Gwyn hefyd. Fel gweddill y cids sy’n byw yn y stad uffernol ’ma.

    Yn y gegin, caeodd ddrws yr ystafell fyw ar ei ôl a sefyll yn y tywyllwch. Yn raddol, daeth ei lygaid i arfer â’r gwyll; gallai weld siâp y twrci’n dadmar ar blât mawr yng nghanol rhagor o lestri budron, caniau cwrw, poteli o Bacardi a seidr, a bocsys pizza gwag. Teimlai, am eiliad, fel ei godi a’i luchio allan drwy’r ffenestr ond gwyddai, petai’n dechrau, na fedrai roi’r gorau iddi nes y byddai wedi chwalu’r tŷ cyfan.

    Aeth allan i’r ardd gefn. Na, dim eira eto, ond roedd hi’n rhyfedd o lonydd. Ac yn noson oer, hefyd. Ond oedd hi’n ddigon oer? Neu, yn hytrach, oedd hi’n rhy oer?

    Crwydrodd ei feddwl yn ôl i’w blentyndod, i’r dyddiau hynny pan oedd y Stiwart Powell bach yn arfer gobeithio bob gaeaf am eira – yn gweddïo amdano, hyd yn oed. Dyn cefn gwlad oedd ei daid, a hoffai Stiw feddwl bod ganddo ef a’i deip y gallu i ragweld y tywydd gyda chryn dipyn mwy o gywirdeb na’r ‘arbenigwyr’ ar y teledu. Arferai swnian arno’n feunyddiol, bron, drwy’r gaeaf.

    ‘Ydi hi am eira, Taid?’

    Arferai Gwilym Powell droi’i wyneb i fyny at yr awyr a sniffian fel hen gadno. Pur anaml y byddai’n edrych yn ôl ar Stiw a nodio. Ond, weithiau, dywedai rywbeth a swniai’n od i’r bachgen:

    ‘Na, ma’ hi’n rhy oer i eira.’

    Doedd hyn ddim yn gwneud synnwyr i Stiw. Onid oedd y llefydd oeraf ar wyneb y blaned dan eira trwm drwy’r flwyddyn? Sut, felly, oedd hi’n rhy oer i eira …?

    ‘Be ’dach chi’n ’neud?’

    Neidiodd Stiw. Safai Sara yn nrws y gegin.

    ‘Haia …’

    ‘A’th Gwyn allan gynna?’ gofynnodd.

    ‘Be ti’n feddwl oedd yr ecsplosion ’na ar y drws ffrynt?’

    ‘Reit. Dw inna’n mynd hefyd.’ Dechreuodd Sara droi oddi wrtho.

    ‘Dw’t ti ddim!’

    ‘Ond mi ’na’thoch chi ada’l iddo fo fynd!’

    ‘Ma’ Gwyn yn ddeunaw oed, Sara,’ ochneidiodd Stiw.

    ‘So –?’

    ‘So – mae o dair mlynadd yn hŷn na chdi, yn dydi.’

    ‘So –?’

    Mygodd Stiw Powell yr ysfa i daro’i ferch ar draws ei hwyneb powld. Trodd ei gefn arni.

    ‘Dw’t ti ddim yn mynd allan heno ’ma, a dyna fo.’

    ‘O – diolch yn fawr, Dad! Grêt – ffycin grêt!’

    Trodd yn ei ôl yn wyllt, ond roedd Sara wedi mynd. Clywodd hi’n ei heliffantu hi i fyny’r grisiau i’w hystafell.

    ’Mond trio edrych ar ych hola chi ydw i! teimlai fel sgrechian dros yr ardd. ’Mond trio’ch cadw chi’n saff!

    Ond ni fedrai ddweud hynny wrth yr un o’i blant, na chwaith wrth Yvonne. Buasai’r tri ohonynt yn chwerthin am ei ben, cyn penderfynu’i fod o wedi colli arno’i hun yn llwyr.

    Ni fedrai ddweud wrth neb.

    Heblaw am …

    Aeth yn ei ôl i mewn i’r gegin a chodi’r ffôn. Petrusodd am ychydig, yna deialu. Canodd y ffôn y pen arall – bum gwaith, ddeg gwaith, bymtheg …

    ‘Helô– ?’

    Daeth o fewn dim i roi’r ffôn yn ôl i lawr. Aeth i’w boced i estyn sigarét, yna sylweddolodd ei fod wedi eu gadael trwodd yn yr ystafell fyw.

    Helô–?’ meddai’r llais eto, ychydig yn fwy diamynedd. Saib, ac yna clywodd Stiw ochenaid. ‘Stiw …’

    ‘Ia …’

    ‘Be w’t ti isio?’

    ‘Be ti’n feddwl dw i isio? Sut ma’ hi yna?’

    ‘Sych … ar y fomant.’

    ‘Ac yma, hefyd.’ Petrusodd am eiliad. ‘W’t ti’n ocê?’

    ‘O, yndw! Mi fydda i’n ocê, yn byddaf? Fedran nhw ’neud dim byd i mi. ’Sgin i ddim plant.’

    ‘Be am Marc? A’thon nhw i ffwrdd yn y diwadd?’

    ‘Ma’ nhw i gyd yn Fflorida. Y pedwar ohonyn nhw.’

    Sylweddolodd Stiw ei fod yn dal ei wynt. Dechreuodd anadlu eto.

    ‘Diolch i Dduw. Ac Ows Bach? Lle a’thon nhw?’

    ‘Dwn i’m …’

    Be?

    ‘Ma’ nhw wedi mynd i rwla, ocê? Mi es i heibio’r tŷ gynna – ma’r lle mewn t’wllwch. Lle’r a’thon nhw, dwn i ddim.’

    ‘Rhwla drud, ’nabod hwnnw.’

    ‘Dw i’n mynd rŵan …’

    ‘Ond w’t ti’n ocê?’ Roedd yn gyndyn o roi’r ffôn i lawr rŵan.

    ‘Yndw.’

    ‘A finna hefyd,’ meddai, er ei fod yn teimlo fel gweiddi: Nac dw, dw i ddim yn ocê, dw i’n bell o fod yn ocê!

    ‘Wel w’t, siŵr Dduw. Dw’t ti ddim yma, yn nag w’t? Mi fyddi di’n iawn. A dy blant, dim ots faint o eira gewch chi. Ta-ra, Stiw.’

    ‘Ia, hwyl. O – a Dolig llaw–’ cychwynnodd ddweud, ond doedd neb yn gwrando arno.

    Mi fyddi di’n iawn. Dim ots faint o eira gewch chi.

    A dy blant.

    Byddan, siŵr, meddyliodd. Mi fyddan ni’n tshampion. Pawb ohonan ni.

    Gwyn Powell

    Roedd o’n sobor fel sant.

    Grêt. Y noson cyn y Dolig, pawb arall yn chwil o’i gwmpas o, a dyma fo’n ista mewn cornel efo Coke fflat mewn gwydryn ar y bwrdd o’i flaen. Yn gwylio’i fodan yn dawnsio efo rhyw foi arall.

    Roedd ganddo gur yn ei ben hefyd, doedd hwnnw ddim yn helpu; cur oedd wedi dechrau cyn iddo fynd allan o’r tŷ.

    Diolch i’w dad. Bastad tew, meddyliodd.

    Roedd Stiw Powell wedi bod yn ymddwyn yn od ers dyddiau, wastad un ai’n gwylio’r tywydd ar y teledu neu allan yn yr ardd gefn yn astudio’r awyr fel tasa fo’n chwilio am UFOs neu rwbath.

    Ac amser te heno, roedd o wedi dweud wrth Gwyn: ‘Dw i ddim yn meddwl y dylat ti fynd allan heno ’ma.’

    Roedd Gwyn wedi rhythu arno gyda darn o pizza hanner ffordd i’w geg. Be oedd hyn – un arall o’i jôcs uffernol o? Ond na, roedd ei dad o ddifrif, yn ôl yr olwg ar ei wep.

    ‘Byhafia, ’nei di?’ meddai Gwyn wrtho.

    ‘Ma’ nhw’n gaddo eira.’

    Big deal.’

    ‘Dw i ’di deud wrth Sara, dydi hi ddim yn ca’l mynd allan.’

    O, meddyliodd Gwyn, dyna egluro’r gweiddi a glywodd yn gynharach, a’r ffaith nad oedd Sara yn y gegin.

    ‘Ma’ hi’n noson cyn Dolig, Stiw,’ meddai Yvonne.

    Trodd Stiw ac edrych arni.

    ‘Ti’n meddwl ’mod i ddim yn gwbod hynny?’ Trodd yn ei ôl at Gwyn. ‘Pam na wnei di ffonio Kelly, a gofyn iddi hi ddŵad yma?’

    Yma?

    ‘Pam lai? Ma’ ’na ddigon o lysh yma.’

    Roedd Gwyn wedi piffian chwerthin, gan boeri briwsion pizza dros y bwrdd.

    ‘Ti’n meddwl fod Kelly isio dŵad yma – isio treulio heno, o bob noson, yn ista o flaen y teli efo chi’ch dau? Get a life!’

    Neidiodd Gwyn a’i fam wrth i Stiw daro wyneb y bwrdd â’i law.

    ‘Dw’t ti ddim i fynd allan heno ’ma!’

    Cododd Gwyn ar ei draed.

    ‘W’t ti am fy stopio i, w’t ti?’

    ‘Yndw! Os oes raid i mi …’

    Safodd Gwyn yn ei unfan wrth i Stiw wthio’i gadair yn ôl a stryffaglu i godi oddi wrth y bwrdd. Gosododd Yvonne ei llaw ar ei fraich, a defnyddiodd Stiw hynny fel esgus dros beidio â chodi ymhellach.

    Gwenodd Gwyn. Ma’r boi yma, meddyliodd, yn pathetig.

    ‘Gad iddo fynd allan os ydi o isio.’

    ‘A mae o isio,’ ychwanegodd Gwyn. ‘Mae o’n mynd, hefyd.’

    Aeth i ymolchi a newid. Wrthi’n gwisgo’i siaced yr oedd o pan ddaeth Sara i mewn i’w ystafell.

    ‘Ti’n mynd allan?’

    ‘Nac ’dw. Dw i am aros i mewn, yn gwrando arnyn nhw’u dau yn ffraeo ac yn rhechu. Be ti’n feddwl?’

    ‘Dw i’n dŵad efo chdi.’

    No way! Dw i’n galw i nôl Kelly … a dw i’n hwyr yn barod. Symud o’r ffordd, ’nei di?’

    Ymwthiodd allan heibio i’w chwaer.

    Plîs, Gwyn.’

    ‘Cer di i dy wely’n gynnar yn hogan dda, ac ella y daw Santa â lot o bresanta neis i chdi.’

    ‘Bastad!’

    Roedd Stiw’n aros amdano wrth droed y grisiau.

    ‘Dw i am ofyn yn neis i chdi …’

    Be oedd yn bod ar y dyn? Roedd haen denau o chwys ar wyneb ei dad, ac roedd ei lygaid yn sgleinio â rhyw oleuni rhyfedd. Mae o wedi bod yn yfed drwy’r dydd, penderfynodd Gwyn, ac wedi cymysgu’r diodydd anghywir – gormod o Bacardi, gormod o seidr, gormod o gwrw. Gormod o bopeth o beth uffarn.

    ‘O, jest piss off, Dad, ’nei di?’

    Ymwthiodd heibio iddo a chwilio drwy bocedi’i gôt am allweddi’r car. Lle ddiawl oedden nhw …?

    ‘Ei di ddim yn bell heb y rhain, beth bynnag.’

    Trodd Gwyn i weld Stiw yn cerdded i mewn i’r ystafell fyw gyda’i allweddi ef yn ei law.

    ‘Hei!’

    Brysiodd ar ôl ei dad.

    Hei! Ty’d â’r rheina yma!’

    Edrychodd Yvonne i fyny’n flin o’i gorsedd yng nghornel y soffa. ‘O’r arglwydd, be rŵan eto?’

    ‘Deud wrtho fo, ’nei di? Ma’ ’ngoriada i gynno fo!’

    Rhuthrodd Gwyn am ei dad, ond camodd Stiw yn ôl oddi wrtho a chau’i ddwrn yn dynn am yr allweddi.

    ‘Rho nhw’n ôl iddo fo, wir Dduw.’

    ‘Dydi o ddim i fynd allan heno ’ma!’ mynnodd Stiw.

    ‘Blydi hel, Stiwart, ti’n gwbod yn iawn nad ydi Gwyn byth yn yfad pan fydd o’n gyrru!’ Roedd hynny’n wir: roedd Gwyn Powell yn meddwl y byd o’i gar, a buasai’n torri’i galon petai’n colli’i drwydded oherwydd un camgymeriad gwirion.

    Ysgydwodd Stiw ei ben yn ddryslyd.

    ‘Ddim dyna pam …’ Ceisiodd resymu efo’i fab. ‘Gwyn – plîs, jest gwranda am fun–’

    Ond ni chafodd gyfle i fynd ymhellach. Roedd Gwyn wedi colli’i amynedd a phlannu’i ddwrn ym mol ei dad. Aeth Stiw i’w ddwbwl wrth i’w wynt ffrwydro allan drwy’i geg; baglodd yn ei ôl nes i flaen ei gadair daro’n erbyn y tu ôl i’w bennau gliniau a’i orfodi i eistedd i lawr.

    Syrthiodd yr allweddi i’r llawr a sgubodd Gwyn hwy i fyny oddi ar y carped budur.

    ‘Gwyn …’ cychwynnodd Yvonne yn llipa.

    Be?

    Ysgydwodd Yvonne ei phen. ‘Dim byd, dim byd. Jest cer, os w’t ti’n mynd.’

    Roedd Gwyn wedi dianc, gan ofalu cau’r drws ffrynt ag andros o glep wrth fynd. Dyna pryd y dechreuodd ei gur pen, gwyddai’n awr – cur a waethygodd o’r eiliad y llithrodd Kelly i mewn i’r car bum munud yn ddiweddarach.

    ‘Ti’n hwyr.’

    ‘Ddim ’y mai i oedd o.’

    Trodd Kelly ei hwyneb oddi wrtho pan geisiodd ei chusanu.

    ‘Dw i ’di bod yn rhewi’n nhits i ffwrdd yn disgwl yn fan ’ma amdanat ti.’

    Ceisiodd Gwyn leddfu pethau drwy roi’i law ar ei bron dde a dweud, ‘Mi fasa hynny’n biti uffernol,’ ond cafodd slasan galed ganddi ar gefn ei law.

    ‘Ty’d – siapia hi. Ma’ pawb yn disgwl amdanon ni yn y Goat.’

    ‘Be? Ond … ro’n i’n meddwl, heno ’ma, mai jest chdi a fi …’

    Edrychodd Kelly ar Gwyn fel petai wedi drysu.

    ‘Ti’n gall? Christmas Eve? Ma’ pawb allan heno ’ma. Ty’d – ’dan ni’n hwyr yn barod.’

    Aeth y ddau i’r Goat, ac oddi yno i’r Ship Aground, ac wedyn i’r Fusilier, gyda Kelly a phawb arall yn mynd yn fwy a mwy meddw ac yn cael mwy a mwy o hwyl tra oedd Gwyn yn yfed Coke ac yn teimlo’i gur pen yn mynd yn waeth ac yn waeth.

    A’i amynedd yn mynd yn llai ac yn llai.

    Rŵan, roedden nhw mewn clwb ac roedd Kelly, ar ôl gweiddi yng nghlust Gwyn ei fod yn ymddwyn fel ‘prat boring’ am ei fod wedi cynnig eu bod yn mynd i rywle bach tawel a phreifat, yn dawnsio efo rhyw bloncar o foi. Roedd hi fwy neu lai’n gwthio’i thits reit i mewn i’w wyneb, a doedd hwnnw ddim wedi tynnu’i lygaid oddi ar ei chlîfej ers iddyn nhw ddechrau dawnsio.

    Blydi hel, meddyliodd Gwyn yn flin, ma’r brych yn glafoerio! Yn glafoerio dros fy modan i!

    Digon oedd digon. Cododd ac ymwthio drwy’r dawnswyr nes iddo fedru bloeddio yng nghlust Kelly.

    ‘Dw i’n mynd rŵan! Ty’d!’

    ‘Be?’

    Dw i’n mynd!

    Nodiodd Kelly. ‘Ocê!’

    Yna trodd oddi wrtho gan ailddechrau dawnsio efo’r hogyn arall. Rhythodd Gwyn arni, yna cydiodd yn ei braich.

    ‘Ty’d!’

    Tynnodd Kelly ei braich o’i afael. Camodd y bachgen arall ymlaen a rhoi’i law ar fraich Gwyn. Trodd Gwyn ato gyda’r bwriad o roi bỳt iddo yng nghanol ei wyneb, ond sylweddolodd mewn pryd – diolch i’r ffaith ei fod yn sobor – fod hwn yn edrych yn galetach o lawer nag y tybiodd Gwyn i ddechrau.

    Trodd yn ei ôl at Kelly.

    ‘W’t ti’n dŵad adra efo fi, ’ta be?’

    Ysgydwodd Kelly ei phen.

    ‘Kelly … plîs …’

    Camodd y bachgen arall rhyngddyn nhw. Ymateb greddfol Gwyn oedd tynnu’i fraich yn ôl a chau’i ddwrn, ond gwenodd y bachgen arall gan ysgwyd ei ben yn araf. Gydag un edrychiad olaf at Kelly, a oedd â’i llygaid wedi’u hoelio ar y bachgen arall, trodd Gwyn i ffwrdd.

    Pam, pam, pam oedd o wedi dweud ‘plîs’ wrth y bitsh? meddyliodd wrth gerdded am ei gar. A rhyw hen plîs plentynnaidd, cwynfanllyd oedd o hefyd – fel hogyn bach yn Tesco yn swnian ar ei fam am ryw dda-da neu’i gilydd. Edrychodd Gwyn ar ei wats.

    Newydd droi hanner nos.

    Roedd yn ddiwrnod Nadolig.

    Ac roedd hi’n bwrw eira, sylweddolodd am y tro cyntaf – nid yn drwm iawn eto, ond roedd y plu gwynion a syrthiai’n dawel o’i gwmpas yn setlo’n barod ar y palmantydd a’r ceir oedd wedi’u parcio bob ochr i’r stryd.

    Ei fwriad oedd gyrru draw i’r stad a dod o hyd i griw a fyddai’n fwy na bodlon ei helpu i roi cariad newydd Kelly yn yr ysbyty. Gwenodd Gwyn wrth feddwl amdano’n ceisio bwyta’i dwrci Nadolig heb ddannedd …

    Yna daeth teimlad cryf drosto fod rhywun yn ei ddilyn.

    Trodd yn sydyn.

    Neb.

    Nid y tu ôl iddo, beth bynnag; roedd tri chwpwl yn cerdded yr ochr arall i’r stryd, ond roedd eu sylw nhw i gyd ar ei gilydd. Oedd rhywun, efallai, wedi neidio i dywyllwch drws siop wrth i Gwyn droi?

    Na, go brin. Roedd o wedi troi’n rhy sydyn i neb fedru gwneud hynny heb iddo gael o leiaf cip arnyn nhw’n diflannu.

    A ph’run bynnag, y teimlad a gafodd oedd bod rhywun reit y tu ôl iddo – yn ddigon agos i anadlu’n oer ar ei war.

    Crynodd. Roedd yn bwrw eira’n drymach rŵan, a’i siaced yn rhy denau ar gyfer tywydd fel hyn.

    Trodd yn ei ôl a brysio am y car.

    Cyrhaeddodd y maes parcio aml-lawr a thalu crocbris wrth iddo wthio’i docyn parcio i mewn i’r peiriant. Ac wrth gwrs, roedd y lifft wedi torri. Rhegodd. Roedd y dref yn brysur heno a bu’n rhaid iddo barcio yn weddol uchel – llawr 8, os cofiai’n iawn, y nesaf ond dau at y to.

    ‘Ffycin hel!’ meddai’n uchel.

    Roedd y maes parcio’n drewi – nid o’r arogl piso a chwd arferol, ond o arogl … beth? Arogl llosgi. Roedd rhywbeth gwahanol ond eto’n gyfarwydd yn ei gylch. Beth oedd o? Porc, sylweddolodd Gwyn, a choed tân, a phetrol – fel petai rhywun wedi mynd dros ben llestri gyda’r petrol wrth baratoi porc mewn barbeciw. Teimlai Gwyn ei stumog yn troi wrth iddo ddringo’r grisiau ac ymdrechodd i beidio ag anadlu drwy’i drwyn. Roedd sŵn ei draed ar y grisiau yn adleisio’n uchel, fel ag yr oedd sŵn traed y person oedd yn ei ddilyn i fyny, rhyw ddau neu dri llawr oddi tano …

    Arhosodd Gwyn, a gwrando.

    Distawrwydd.

    Ond rhyw ddistawrwydd anghyffredin oedd o … rhyw ddistawrwydd llawn, rhywsut, fel petai pwy bynnag oedd yn ei ddilyn yn sefyll ag un droed i fyny, yn aros nes i Gwyn ail-gychwyn cerdded cyn rhoi ei droed – neu ei throed – i lawr a’i ddilyn unwaith eto.

    Ceisiodd Gwyn sbecian i lawr dros ochr y ganllaw, ond doedd neb na dim i’w weld. Roedd sawl golau wedi cael ei falu ac roedd y rheini oedd ar ôl yn wan iawn – ac yn mynd yn wannach ac yn wannach gyda phob eiliad, sylwodd Gwyn, fel petai’r trydan yn cael ei sugno ohonyn nhw gan y tywyllwch …

    Rhythodd Gwyn.

    Ia, meddyliodd, y tywyllwch. Roedd hwnnw’n cynyddu ac yn cropian i fyny’r grisiau – fel staen inc yn llifo dros tudalen o bapur.

    A dechreuodd y sŵn traed unwaith eto.

    Roeddynt yn fwy brysiog rŵan, fel petai’r person oedd yn eu creu wedi blino ar chwarae tric ar Gwyn ac wedi penderfynu brysio ar ei ôl. Roeddynt yn dod i fyny efo’r tywyllwch, yn nes ac yn nes, yn rhan o’r tywyllwch 

    Trodd Gwyn a dechrau rhedeg i fyny gweddill y grisiau.

    Llawr 6 …

    Roedd yr arogl llosgi’n gryfach o lawer yn awr.

    Baglodd ar y grisiau nesaf a bloeddio wrth i’w ben-glin daro’n erbyn un o’r grisiau cerrig. Ond ni fedrai fforddio aros. Herciodd i fyny gweddill y grisiau.

    Llawr 7 …

    Trodd yn wyllt am y grisiau olaf a throi’i droed yn y broses. Prin y gallai weld y grisiau o’i flaen: roedd y tywyllwch wedi cynyddu a deuai’r sŵn traed y tu ôl iddo’n nes …

    Llawr 8.

    Taflodd ei hun yn erbyn y drws, dim ond i sylweddoli mai agor at allan yr oedd o. Cydiodd yn yr handlen a thynnu’r drws ar agor a bu bron iawn iddo chwydu yn y fan a’r lle wrth i’r drewdod ruthro amdano, i fyny’i ffroenau ac i mewn i’w ysgyfaint. Gallai weld ei gar yn y pen pella a herciodd i’w gyfeiriad gan dynnu’r allweddi o’i boced a gwasgu’r botwm yr un pryd. Diolch i Dduw, daeth y goleuadau i gyd ymlaen am eiliad wrth i’r drysau ddatgloi, ond roedd y sŵn traed reit y tu ôl iddo.

    ‘Dw i ddim isio troi,’ meddai Gwyn wrtho’i hun yn uchel. ‘Plîs Dduw ac Iesu Grist, pidiwch â gadael i mi droi rownd ’chos dw i ddim isio gweld be bynnag sy’n dod y tu ôl i mi …’

    Agorodd ddrws y car a sgrialu i mewn iddo. Rhythodd ar yr olwyn lywio oherwydd doedd o ddim – ddim – isio gweld be bynnag oedd y tu allan i’r car ac yn rhuthro amdano ar draws llawr y maes parcio, heibio i’r ceir eraill oedd o’i gwmpas. Gwthiodd yr allwedd i mewn a chychwyn yr injan a bwm-bwm-bwm ei stereo. Trodd yr olwyn yn ffyrnig a gallai deimlo tu ôl y car yn crafu yn erbyn ochr y car oedd wedi’i barcio wrth ei ochr, a hynny dros y bwm-bwm-bwm, ond dim ots, roedd yr allanfa o’i flaen. Trodd yr olwyn yn ffyrnig eto a chael tolc arall ar du ôl y car, ond dim ots. Roedd o ar y llawr nesaf rŵan, llawr 7, ac yn troi eto ac i lawr yr allt fechan, gul at lawr 6. Oedd y tywyllwch o’i gwmpas wedi dechrau gwanhau rhywfaint?

    Oedd, roedd llawr 5 yn well ac edrychai llawr 4 – a llawr 3 yn enwedig – fel petai wedi gyrru allan i olau dydd o’u cymharu â’r hyn yr oedd Gwyn wedi’i adael y tu ôl iddo. Ond gwrthodai’n lân ag edrych yn y drych rhag ofn iddo weld rhywun – rhywbeth – yn rhedeg ar ei ôl; ffigwr carpiog a main a gwyn allan o freuddwyd cas. A dyma fo rŵan yn gadael llawr 2 a dim ond un arall roedd ganddo i fynd ac – ia! – dacw’r brif allanfa o’i flaen. Ond roedd angen ei docyn arno. Be wnaeth o efo’r ffycin peth ar ôl talu? Ym mhoced frest ei siaced, cofiodd, ond roedd yn rhaid iddo agor ffenestr y car ac ofnai, petai’n gwneud hynny, y buasai rhywbeth yn cydio ynddo ac yn ei lusgo allan o’r car. Doedd dim dewis ganddo. Agorodd y ffenestr ddigon iddo fedru gwthio’r tocyn i mewn i’r peiriant a phesychodd y peiriant y tocyn yn ei ôl allan.

    DIOLCH I DDUW! Cododd y rhwystr. Saethodd car Gwyn allan o’r maes parcio uffernol hwnnw ac allan i’r eira a goleuadau oren bendigedig y dref.

    Sara Powell

    Mater bach oedd i Sara wneud iddi’i hun edrych fel petai’n ddeunaw oed. O leiaf deunaw, meddyliodd Sara. Credai y gallai, ar binsh, basio fel merch un ar hugain. Fel dynes ifanc yn hytrach na’r hogan ysgol yr oedd hi mewn gwirionedd. Ychydig o golur, ia, a’r dillad iawn – sgert weddol gwta, top isel yn dangos digon o glîfej – ond credai mai’r agwedd oedd y peth pwysicaf; yr agwedd a’r osgo iawn – cerdded i

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1