Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Dathlu!
Dathlu!
Dathlu!
Ebook218 pages3 hours

Dathlu!

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

On the eve of their 60th birthdays, four lifelong friends venture on a special journey. As their lives have all been in complete contrast to one another, will the celebration turn bitter?
LanguageCymraeg
Release dateDec 20, 2022
ISBN9781845244965
Dathlu!

Read more from Rhian Cadwaladr

Related to Dathlu!

Related ebooks

Reviews for Dathlu!

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Dathlu! - Rhian Cadwaladr

    Dathlu3.jpg

    Dathlu!

    Rhian Cadwaladr

    gwalch_tiff__copy_10

    Argraffiad cyntaf: 2022

    h   testun: Rhian Cadwaladr 2022

    Cedwir pob hawl.

    Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr, Gwasg Carreg Gwalch, 12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH.

    ISBN clawr meddal: 978-1-84527-857-1

    ISBN elyfr: 978-1-84524-496-5

    Cyhoeddwyd gyda chymorth Cyngor Llyfrau Cymru

    Cynllun y clawr: Olwen Fowler

    Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, 12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH.

    Ffôn: 01492 642031

    e-bost: llyfrau@carreg-gwalch.cymru

    lle ar y we: www.carreg-gwalch.cymru

    Argraffwyd a chyhoeddwyd yng Nghymru

    Cyflwynedig i Gens Brynrefs

    Diolch i

    Nia Roberts, fy ngolygydd amyneddgar a doeth, Gwasg Carreg Gwalch a’r Cyngor Llyfrau; Rhian Parry ac unwaith eto i Andrew am ei gefnogaeth barod bob amser.

    Prolog

    Medi 1977

    Edrychodd Gwawr i fyny gan wthio cudyn hir o’i gwallt melyn o’i llygaid yn ddiamynedd. Dim ots faint o Harmony hairspray y byddai’n ei ddefnyddio, wnâi ei gwallt ddim aros yn ei le fel gwallt ei harwres, yr actores Farah Fawcett Majors. A dweud y gwir, edrychai’n debycach i Noddy Holder o’r band Slade, er na fasa ’run o’i ffrindiau’n meiddio dweud hynny wrthi.

    ‘Lle wyt ti ’di bod?’ gofynnodd i Iola, oedd newydd gyrraedd gwaelod cae’r ysgol lle’r oedd Gwawr, Sioned a Linda yn disgwyl amdani. ‘Does ’na ’mond chwarter awr tan y gloch!’

    ‘Roedd ’na rwbath oedd yn rhaid i mi neud,’ atebodd Iola mewn llais llawn dirgelwch. Gollyngodd ei hun ar y gwair wrth ochr ei ffrindiau gorau cyn neidio’n ôl i fyny gan wichian. ‘Awtsh! Blydi dala poethion – oedd raid i chi ddod i ben pella’r cae?’

    ‘Oedd,’ atebodd Gwawr yn bendant. ‘Gawn ni lonydd yn fama.’

    ‘Ty’d ata fi, does ’na ddim dala poethion yn fama,’ anogodd Linda hi, gan symud ei bag ysgol o’r ffordd i wneud lle iddi. Camodd Iola dros goesau hirion Gwawr i’w chyrraedd, gan rwbio’i choes lle cafodd ei phigo. Bu bron iddi faglu dros Sioned – y pedwerydd aelod o’r Ffab Ffôr – oedd wedi ymestyn o’i blaen i gasglu dail tafol.

    ‘Ty’d â dy goes yma,’ meddai Sioned, gan rwbio’r ddeilen yn erbyn y cochni oedd wedi ymddangos ar goes Iola. ‘Mae ’na ddail tafol yn tyfu wrth ymyl dala poethion bron bob tro.’

    ‘Chwara teg i natur, yn rhoi’r antidote efo’r gwenwyn!’ meddai Iola yn ddiolchgar. ‘Mae o’n dechra teimlo’n well yn barod!’

    ‘Wel, ty’d laen ’ta – lle oeddat ti?’ mynnodd Gwawr.

    Eisteddodd Iola ac edrych o’i chwmpas i wneud yn siŵr nad oedd neb arall yn eu gweld, cyn estyn rholyn o bapur o’i bag. Syllodd ei ffrindiau ar y rholyn yn llawn chwilfrydedd.

    ‘Be ydi o?’ gofynnodd Sioned yn awyddus.

    Dad-rowliodd Iola y papur yn ofalus i ddatgelu poster, a syrthiodd tair ceg yn agored mewn syndod.

    ‘Dwyt ti erioed wedi dwyn hwnna o’r coridor tu allan i’r dosbarth Inglish?’ gofynnodd Gwawr. Nodiodd Iola.

    ‘Chest ti ddim copsan, naddo?’ gofynnodd Linda’n bryderus.

    ‘Naddo siŵr! Doedd ’na neb o gwmpas. Ma’r athrawon i gyd yn y staffrŵm yn cael eu smôc-ar-ôl-cinio,’ atebodd.

    Dechreuodd Linda igian crio.

    ‘O, paid â dechra hynna eto!’ gorchmynnodd Gwawr.

    ‘Ond mae o mor drist,’ snwffiodd, gan chwilio i fyny ei llawes am yr hyn oedd ar ôl o’i hances bapur, ar ôl sychu ei dagrau cynharach.

    ‘Trasig,’ ochneidiodd Sioned gan frathu ei gwefus isa, oedd wedi dechrau crynu.

    Cododd Iola’r poster at ei hwyneb a rhoi cusan iddo. ‘Marc druan, neith o byth get it on eto,’ meddai.

    ‘Mae o ’di cael ei snog ola!’ snwffiodd Sioned wrth ddarllen y geiriau oedd wedi eu hysgrifennu dan lun o’r canwr pop Marc Bolan o’r band T. Rex: ‘Marc would rather kiss the bottom of a birdcage than a girl who smokes’.

    Roedd y newyddion fod y canwr pop wedi ei ladd mewn damwain car yn oriau mân y bore hwnnw wedi cyrraedd yr ysgol ers amser y brêc boreol, a doedd yr un o’r merched wedi medru canolbwyntio ar y wers fathemateg a ddilynodd.

    ‘Sbia del ydi o, bechod,’ ochneidiodd Sioned.

    ‘’Di o’m rili teip fi a deud y gwir,’ cyhoeddodd Gwawr. ‘Ma’ well gin i Geraint Jarman.’

    ‘Wel, mae hwnnw’n edrach yn ddigon tebyg, efo’i wallt cyrls tywyll!’ meddai Iola.

    ‘Ella wir, ond mae Geraint yn Gymraeg yn tydi, ac mae gin i fwy o jans o’i gyfarfod o na ryw ganwr pop o Loegr.’

    ‘A sôn am snogio,’ meddai Linda, oedd wedi chwythu ei thrwyn a gwthio’i hances yn ôl i fyny llawes ei siwmper, ‘ti’n barod am y noson fawr, Iola?’

    Dechreuodd Iola rowlio’r poster i fyny a’i wthio’n ôl i’w bag gan osgoi llygaid ei ffrindiau.

    ‘Paid wir, dwi’n swp sâl.’ Ar ôl misoedd o wneud llygaid llo ar Meic Tŷ Crwn, oedd flwyddyn yn hŷn na hi ac yn byw y tu cefn iddi hi, roedd o wedi gofyn iddi fynd allan efo fo’r noson honno. ‘Ella fydd o ddim isio snogio ar y dêt cynta,’ ychwanegodd, ei chalon yn dechrau curo’n gyflymach, dim ond wrth feddwl am y peth.

    ‘Bydd, siŵr,’ meddai Gwawr yn wybodus. Fel un oedd eisoes ar ei thrydydd cariad, câi ei hystyried yn arbenigwr ar faterion carwriaethol. ‘Jest gwna’n siŵr nad ydi o wedi byta rwbath jest cyn gwneud. Y cwbwl dwi’n gofio am fy snog gynta i ydi bod yna flas cheese and onion arno fo! Ych a fi!’

    ‘Ond be os fydda i ddim yn gwbod be i neud?’ gofynnodd Iola’n bryderus.

    ‘Mi fyddi di, siŵr!’ cysurodd Linda. ‘Mae o jest yn dŵad yn naturiol.’

    ‘Sut gwyddost ti?’ gofynnodd Sioned. ‘Oes ’na rwbath ti ddim wedi’i ddeud wrthan ni?’ pryfociodd.

    ‘Nagoes! Jest, wel... gesho ydw i de...’ ffwndrodd Linda.

    ‘Linda Griffiths!’ gafaelodd Gwawr yn ei dwylo. ‘Wyt ti wedi cal dy snog gynta a heb ddeud wrthan ni?’ gofynnodd, gan edrych i fyw ei llygaid.

    Tynnodd Linda ei dwylo’n rhydd, a dechreuodd gwrid staenio’i bochau. ‘Naddo siŵr!’

    ‘Sweet fifteen and never been kissed!’ meddai Sioned gydag ochenaid, yn meddwl amdani hi ei hun yn fwy nag am Linda.

    ‘Dy-dyy!’ cyhoeddodd Iola’n uchel, gan dorri ar eu traws. ‘Sbiwch be arall sgin i!’

    Trodd y lleill eu sylw tuag ati: roedd hi wedi tynnu porc pei fawr allan o’i bag ac yn ei dal o’i blaen fel trysor. ‘Un o sbesials Dad!’

    Roedd tad Iola yn cadw siop bwtsiar yn y pentref, ac roedd ei borc peis yn enwog drwy’r fro.

    ‘Ti’m ’di bod yn dwyn eto, naddo?’ gofynnodd Linda’n bryderus.

    ‘Naddo tad! Wel, ddim yn union... neith o’m gweld ’i cholli hi, ac eniwe, dwi’n gweithio’n ddigon calad iddo fo ar benwsnosa i haeddu porc pei bob hyn a hyn. Pwy sydd isio’r darn cynta?’

    ‘Dim i fi, diolch – dwi’n gwatsiad fy ffigyr,’ meddai Gwawr, oedd yn naturiol ffit a thenau ac yn gallu bwyta unrhyw beth heb roi owns ymlaen.

    ‘Gymera i dy siâr di ’ta!’ meddai Iola, oedd yn fychan a chrwn ac yn malio dim am y peth.

    Tra gorweddai’r pedair ar eu boliau ar y gwair yn mwynhau eu porc pei dechreuodd Gwawr fyfyrio. ‘Pythefnos yn brin o’i ben blwydd yn dri deg oedd Marc Bolan. Tydi hynna yn ddim o oed i farw.’

    ‘Nac’di,’ cytunodd Sioned, gan deimlo’n euog ei bod hi wedi anghofio popeth amdano ar ôl gweld y porc pei.

    ‘Ydach chi’n meddwl y gwnawn ni fyw i fod yn dri deg?’ gofynnodd Gwawr.

    ‘Blydi hel, gwnawn gobeithio!’ ebychodd Iola.

    ‘Lle fyddan ni tybed?’ gofynnodd Gwawr.

    Stopiodd y tair arall fwyta, ac am eiliad diflannodd pob un i fyd arall, byd dieithr, ymhell yn y dyfodol.

    Linda dorrodd ar y tawelwch. ‘Wel, ma’ siŵr y byddan ni i gyd wedi priodi ac efo llwyth o blant.’

    ‘O, na – fydda i ddim!’ protestiodd Iola. ‘Dwi’m isio plant tan dwi tua thirti tŵ, erbyn hynny ga’ i riteirio o ’ngyrfa fel actores achos fydda i wedi gwneud fy ffortiwn, dahhhlings!’ Chwifiodd ei phorc pei yn yr awyr yn ddramatig. ‘Mi ddo’ i’n ôl o Lundain, lle fydda i wedi bod yn byw er mwyn bod yn agos i’r West End, neu Efrog Newydd achos mi fydda i wedi bod yn perfformio ar Broadway, i fama i fagu fy mhlant yn Gymraeg.’

    ‘Efrog Newydd!’ meddai Linda. ‘Gawn ni ddod i aros efo chdi?’

    ‘Cewch siŵr! Dala i am eich flights chi.’

    ‘Fydd raid i mi gymryd amser i ffwrdd o ’ngwaith yn yr hosbitol – ond cha’ i ddim trafferth achos fi fydd y metron!’ meddai Sioned. ‘Be amdanat ti, Gwawr? Lle fyddi di?’

    Caledodd wyneb Gwawr am ennyd cyn ateb â thinc chwerw yn ei llais. ‘Yn bell o fama gobeithio, ac yn sicr ddim yn byw mewn tŷ cyngor.’ Oedodd, a difrifolodd ei thôn. ‘Rhaid i chi addo un peth – beth bynnag ddigwyddith, mi fyddan ni’n dal yn ffrindia.’

    ‘Byddan siŵr! Mi fyddan ni’n ffrindia am byth,’ meddai Linda. ‘Fedra i ddim dychmygu bod hebddach chi! Dwi ddim yn cofio amser pan do’n i ddim yn nabod Gwawr – tair oed oeddan ni pan ddechreuon ni yn yr ysgol gynradd efo’n gilydd, a ’dan ni’n pedair yn ffrindia ers i ni landio drws nesa i’n gilydd ar ein diwrnod cynta yn fama, yn tydan?’

    ‘Ac mae hynny oes yn ôl... pedair blynedd!’ meddai Iola. Gosododd ei llaw ar ei bron a dweud yn ddramatig, ‘Dwi’n tyngu llw y bydda i’n aelod o’r Ffab Ffôr am byth! Chi rŵan!’ gorchmynnodd. ‘Na, rhoswch... wn i. Rhaid i ni gael defod.’

    ‘Be ’di defod?’ gofynnodd Linda.

    Meddyliodd Iola am eiliad cyn straffaglu i esbonio. ‘Rwbath mae pawb yn neud efo’i gilydd cyn gneud rwbath, neu ar ôl... o, ti’n gwbod. Ritual.’

    ‘Ooo, na! Dwi’m yn gadael i chdi sticio cyllall bocad yn fy llaw er mwyn i ni gael bod yn blood brothers ’fatha nest ti pan oeddan ni yn fform wan!’ meddai Linda’n syth. ‘Ges i andros o row gin Mam ar ôl hynna – ges i draffarth mawr i’w pherswadio hi i adael i mi dy weld di wedyn!’

    ‘Na, na, nawn ni rwbath gwahanol. Rwbath unigryw i ni. Gorweddwch ar eich cefna,’ gorchmynnodd Iola. Gorweddodd Linda a Sioned yn syth ond roedd yn rhaid perswadio Gwawr, oedd wedi arfer rhoi’r ordors yn hytrach na’u derbyn. Gosododd Iola y tair fel bod eu pennau yn cyffwrdd a rhoddodd ei hun yn eu canol.

    ‘Gafaelwch yn nwylo’ch gilydd,’ meddai, gan ymestyn am y llaw bob ochr iddi. ‘’Dan ni’n gylch rŵan – y magic circle – pen wrth ben, law yn llaw, efo’n gilydd beth bynnag ddaw!’

    ‘Asu, da!’ meddai Linda, yn llawn edmygedd. ‘Chdi nath hynna fyny rŵan?’

    ‘Ia,’ meddai Iola, wedi ei synnu ei hun. ‘Pawb i’w ddeud o efo’i gilydd ar ôl tri, a caewch eich llygaid! Un... dau... tri!’

    Adroddodd y pedair efo’i gilydd, fel côr adrodd: ‘Pen wrth ben, law yn llaw, efo’n gilydd beth bynnag ddaw!’

    ‘Y Ffab Ffôr ffor efyr!’ bloeddiodd Iola.

    ‘Be ddiawch ydach chi’n feddwl ’dach chi’n neud?’

    Taranodd llais uwch eu pennau, ac agorodd y genod eu llygaid i weld Mr Ellis Biol yn edrych i lawr arnynt, ei wyneb rhychiog coch wedi’i grychu’n fwy nag arfer mewn ystum blin. ‘Mae’r gloch wedi canu ers pum munud! Am yr ysgol ’na – rŵan!’ bloeddiodd.

    Neidiodd y ffrindiau ar eu traed a chrafangu am eu bagiau, a chan gydio ym mreichiau ei gilydd, rhedodd y criw tuag at yr ysgol, eu gwalltiau’n chwifio y tu ôl iddynt a sŵn eu chwerthin yn cario ar y gwynt.

    Pennod 1

    Gwawr

    5 Chwefror 2022

    Un, dau, tri...

    Brasgamodd Gwawr tua’r dŵr. Cipiwyd ei gwynt wrth i’r tonnau oer frathu ei fferau a chwffiodd y dyhead i redeg yn ei hôl. Dechreuodd grynu, a gallai deimlo’r blew bach yn codi dros ei chorff o dan ei wetsuit, a chlywed ei dannedd yn clecian.

    Pam dwi’n gwneud hyn, meddyliodd. Un, dau, tri... hyrddiodd ei hun i’r ewyn gwyn, a llithrodd sgrech fach o’i cheg. Gallai deimlo’i gwythiennau’n pwmpio’r gwaed o amgylch ei chorff, a’r ocsigen yn llifo i’w hymennydd. Gadawodd i’r môr gymryd ei phwysau corfforol a meddyliol, ac yn raddol teimlodd dawelwch yn llifo drosti. Dyma pam dwi’n gwneud hyn, cofiodd.

    Dim ond ychydig funudau o’r dŵr oer allai hi eu goddef yr adeg yma o’r flwyddyn, a buan y daeth yr amser iddi godi ohono. Gosododd ei thraed ar y tywod a thynnu’i hun i fyny i sefyll. Doedd y dŵr ddim yn ddwfn – doedd hi ddim digon dewr i fentro iddo’n ddyfnach na’i chluniau – ac wrth iddi sefyll teimlodd slap yr awel fain. Cipiwyd ei gwynt eto.

    Petai rhywun wedi dweud wrthi ddwy flynedd ynghynt y byddai’n nofio yn y môr ym mis Chwefror byddai wedi chwerthin yn ei wyneb. Ond pan mae amgylchiadau’n newid mae’n rhaid i chithau newid, a phan gyhoeddodd y llywodraeth yng Nghymru gyfnod clo arall oherwydd pandemig Covid 19 ychydig dros flwyddyn ynghynt gan gau’r pyllau nofio am y trydydd tro, penderfynodd Gwawr, oedd yn hiraethu am ei thripiau boreol i’r pwll yn Sba Gwesty Craig y Don, fentro i’r môr. Roedd hi wedi gweld grwpiau bach o nofwyr, merched gan fwyaf, yn annog ei gilydd i’r tonnau wrth iddi fynd am dro ambell waith, a gwyddai y byddai croeso iddi ymuno efo nhw petai hi wedi dymuno hynny. Ond roedd yn well ganddi fynd ei hun yn y bore bach tra oedd neb arall o gwmpas. Olion ei thraed hi yn unig oedd yn marcio’r tywod glân. Doedd hi ddim angen neb i’w hannog. Pan oedd Gwawr yn penderfynu gwneud rhywbeth, byddai’n ei wneud, a hynny’n ddi-lol.

    Wrth iddi gerdded ar draws y tywod tuag at ei chôt a’i bag, oedd yn cynnwys ei dillad a’i gŵn newid drwchus, sylwodd ei bod yn rhannu’r traeth y bore hwnnw. Craffodd i weld a allai adnabod y ffigwr yn y pellter. Yr un wynebau prin a welai fel arfer yn y gaeaf, misoedd gorau’r flwyddyn cyn i’r twristiaid lanio fel haid o wylanod swnllyd i hawlio’r traeth, a chwalu’r distawrwydd, gan adael eu sbwriel a’u llanast ar eu holau. Ond doedd hi ddim yn adnabod y siâp na’r cerddediad, a doedd dim gobaith iddi adnabod yr wyneb gan fod ei sbectol yn ei bag. Cyflymodd ei chamau, a bu bron iddi gael ei thaflu oddi ar ei thraed wrth i gi mawr gwyn ruthro heibio iddi gan daro’n erbyn ei choes wrth wneud.

    ‘Waldo!’ galwodd llais gwrywaidd. ‘Waldo!’ galwodd eto, yn uwch.

    Ni chymerodd Waldo unrhyw sylw, dim ond rhedeg nerth ei goesau blewog tuag at ei bag a chladdu’i drwyn yn ei ganol.

    ‘Oi!’ gwaeddodd Gwawr, gan redeg tuag ato. ‘Ty’d o fanna!’

    Cydiodd y ci yn y bag a dechrau ei ysgwyd o ochr i ochr fel petai’n gi hela wedi dal ysglyfaeth. Hedfanodd ei thywel allan, ac o hwnnw ei dillad isa. Gwyliodd Gwawr ei bra yn cael ei luchio i un cyfeiriad a’i nicar i’r cyfeiriad arall, a rhoddodd sgrech fach flin.

    ‘Waldo!’ bloeddiodd y llais yn uchel, yn nes ati. Penderfynodd Waldo wrando y tro hwn ac arhosodd yn llonydd, gan edrych ar ei feistr efo rholyn o sanau yn ei geg.

    ‘Gollwng!’ gorchmynnodd y llais.

    Gollyngodd Waldo y sanau’n syth.

    ‘Wy mor sori...’ dechreuodd ei feistr.

    ‘Os na fedrwch chi reoli’ch ci yna ddyliach chi ddim ei adael o oddi ar ei dennyn!’ torrodd Gwawr ar ei draws yn flin gan ymbalfalu am ei phethau.

    ‘Ma’n wir ddrwg gen i, ci ifanc yw e, chi’n gweld, a do’n i ddim yn dishgwl gweld neb yma mor fore. Sylwes i ddim arnoch chi yn y...’

    Torrodd Gwawr ar ei draws eto. ‘Mae ’nhywel i’n socian!’ cyhoeddodd wrth godi ei gŵn newid o bwll dŵr oedd wedi ffurfio ger y creigiau. Estynnodd am ei chôt fawr gynnes a’i lapio amdani’n sydyn, wrth sylweddoli ei bod wedi dechrau crynu.

    Tynnodd y dieithryn ei gôt. ‘Shgwlwch, defnyddiwch hon i sychu’ch hunan.’

    ‘Dwi’n iawn, diolch,’ brathodd Gwawr, gan blygu i gasglu ei phethau oedd ar wasgar o’u cwmpas, yn falch ei bod yn gwisgo’i wetsuit tri chwarter.

    ‘Gadewch i mi’ch helpu chi, ’te...’ meddai’r dyn, gan ddechrau codi’r dillad tywodlyd. Ar yr un pryd penderfynodd y ci ei fod wedi blino eistedd yn llonydd, a’i fod am ymuno yn y gêm. Gafaelodd mewn dilledyn a dechrau tynnu.

    ‘Waldo! Gollwng!’ gwaeddodd y dyn yn wyllt.

    Erbyn hyn roedd Gwawr wedi cyrraedd ei bag ac wedi gwisgo’i sbectol... jest mewn pryd i weld ei bra yn rhwygo’n

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1