Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Moddion Rhyfeddol George
Moddion Rhyfeddol George
Moddion Rhyfeddol George
Ebook130 pages53 minutes

Moddion Rhyfeddol George

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A Welsh adaptation of Roald Dahl's George's Marvellous Medicine. When George's parents are away for the day, he's tempted to do something about his tyrannical grandmother. So he collects all kinds of horrible ingredients around the house to create a magic potion to make her disappear! Suitable for children aged 7 years+, Key Stage 2.
LanguageCymraeg
PublisherRily
Release dateOct 23, 2022
ISBN9781804160848
Moddion Rhyfeddol George
Author

Roald Dahl

Roald Dahl (1916-1990) es un autor justamente famoso por su extraordinario ingenio, su destreza narrativa, su dominio del humor negro y su inagotable capacidad de sorpresa, que llevó a Hitchcock a adaptar para la televisión muchos de sus relatos. En Anagrama se han publicado la novela "Mi tío Oswald" y los libros de cuentos "El gran cambiazo" (Gran Premio del Humor Negro), "Historias extraordinarias", "Relatos de lo inesperado" y "Dos fábulas". En otra faceta, Roald Dahl goza de una extraordinaria popularidad como autor de libros para niños.

Read more from Roald Dahl

Related to Moddion Rhyfeddol George

Related ebooks

Reviews for Moddion Rhyfeddol George

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Moddion Rhyfeddol George - Roald Dahl

    Nain

    ‘Dw i’n mynd i siopa yn y pentref,’ meddai mam George wrtho un bore Sadwrn. ‘Felly bydd yn hogyn da a phaid â gwneud drygioni.’

    Dyna beth dwl i’w ddweud wrth fachgen bach ar unrhyw adeg. Gwnaeth iddo feddwl yn syth pa fath o ddrygioni y gallai ei wneud.

    ‘A phaid ag anghofio rhoi moddion i Nain am un ar ddeg o’r gloch,’ meddai’r fam. Yna allan â hi, gan gau’r drws cefn y tu ôl iddi.

    Dyma Nain, a oedd yn pendwmpian yn ei chadair wrth y ffenest, yn agor un llygad bach mileinig a dweud, ‘Nawr mi glywaist ti beth ddwedodd dy fam, George. Paid ag anghofio fy moddion i.’

    ‘Na wnaf, Nain,’ atebodd George.

    ‘A cheisia ymddwyn yn dda am unwaith tra bydd hi allan o’r tŷ.’

    ‘O’r gorau, Nain,’ meddai George.

    Roedd George wedi diflasu’n llwyr. Doedd dim brawd a chwaer ganddo. Ffermwr oedd ei dad ac roedd y fferm roedden nhw’n byw arni filltiroedd o unman, felly doedd dim plant i chwarae â nhw. Roedd e wedi blino ar syllu ar foch ac ieir a gwartheg a defaid. Roedd e wedi blino’n arbennig ar orfod byw yn yr un tŷ â’i hen Nain gwynfanllyd. Doedd gofalu amdani ar ei ben ei hun ddim yn un o’r ffyrdd mwyaf cyffrous o dreulio bore Sadwrn.

    ‘Mi gei di wneud cwpanaid bach o de i mi i ddechrau,’ meddai Nain wrth George. ‘Mi wnaiff hynny dy gadw rhag gwneud drygioni am ychydig funudau.’

    ‘O’r gorau, Nain,’ meddai George.

    Allai George ddim peidio â chasáu Nain. Hen wraig ddiflas, hunanol oedd hi. Roedd ganddi ddannedd brown golau a cheg fach grychlyd fel pen-ôl ci.

    ‘Faint o siwgr yn eich te chi heddiw, Nain?’ gofynnodd George iddi.

    ‘Un llwyaid,’ meddai hi. ‘A dim llaeth.’

    Mae’r rhan fwyaf o neiniau’n hen wragedd hyfryd, caredig, cymwynasgar, ond nid hon. Roedd hi’n treulio pob dydd, drwy’r dydd, yn eistedd yn ei chadair wrth y ffenest, ac roedd hi bob amser yn cwyno, yn achwyn, yn grwgnach, yn cwynfan, neu’n swnian am rywbeth neu’i gilydd. Hyd yn oed ar ei diwrnodau gorau doedd hi erioed wedi gwenu ar George a dweud, ‘Wel, sut wyt ti’r bore ’ma, George?’ neu ‘Pam na chawn ni’n dau gêm o Nadredd ac Ysgolion?’ neu ‘Sut roedd yr ysgol heddiw?’ Doedd hi ddim fel petai hi’n hidio am bobl eraill, dim ond amdani hi ei hun. Hen wraig ddiflas a sarrug oedd hi.

    Aeth George i’r gegin a gwneud cwpanaid o de i Nain â chwdyn te. Rhoddodd un llwyaid o siwgr ynddo a dim llaeth. Trodd y siwgr yn dda a chario’r cwpan i’r ystafell fyw.

    Sipiodd Nain y te. ‘Dydy o ddim yn ddigon melys,’ meddai. ‘Rho ragor o siwgr ynddo.’

    Aeth George â’r cwpan yn ôl i’r gegin ac ychwanegu llwyaid arall o siwgr, ei droi unwaith eto a’i gario’n ofalus at Nain.

    ‘Ble mae’r soser?’ meddai. ‘Wnaiff cwpan heb soser mo’r tro.’

    Aeth George i nôl soser iddi.

    Illustration

    ‘A beth am lwy de, os gweli di’n dda?’

    ‘Dw i wedi’i droi e i chi, Nain. Fe drois i fe’n dda.’

    ‘Mi drof i fy nhe fy hun, diolch yn fawr,’ meddai. ‘Dos i nôl llwy de i mi.’

    Aeth George i nôl llwy de iddi.

    Pan fyddai mam neu dad George gartref, fyddai Nain byth yn rhoi gorchmynion i George fel hyn. Dim ond pan oedd e gyda hi ar ei phen ei hun roedd hi’n ei drin yn wael.

    ‘Wyddost ti beth sy’n bod arnat ti?’ meddai’r hen wraig, gan syllu ar George dros ymyl y cwpan te â’r hen lygaid disglair mileinig yna. ‘Tyfu’n rhy gyflym rwyt ti. Mae hogiau sy’n tyfu’n rhy gyflym yn mynd yn dwp ac yn ddiog.’

    ‘Ond does gen i mo’r help os ydw i’n tyfu’n gyflym, Nain,’ meddai George.

    ‘Wrth gwrs bod gen ti,’ meddai hi’n swta. ‘Hen arfer plentynnaidd yw tyfu.’

    ‘Ond mae’n rhaid i ni dyfu, Nain. Tasen ni ddim yn tyfu, fydden ni byth yn oedolion.’

    ‘Dwli, hogyn, dwli,’ meddai hi. ‘Edrych arna i. Ydw i’n tyfu? Nac ydw, wir.’

    ‘Ond fe wnaethoch chi unwaith, Nain.’

    ‘Dim ond ychydig bach,’ atebodd yr hen wraig. ‘Mi rois y gorau i dyfu pan oeddwn i’n fechan iawn, ynghyd â’r holl arferion plentynnaidd eraill fel bod yn ddiog ac anufudd a thrachwantus ac anniben a thwp. Dwyt ti ddim wedi rhoi’r gorau i’r un o’r rhain, wyt ti?’

    ‘Dim ond bachgen bach ydw i o hyd, Nain.’

    ‘Rwyt ti’n wyth mlwydd oed,’ meddai’n chwyrn. ‘Mae hynny’n ddigon hen i wybod yn well. Os na roi di’r gorau i dyfu cyn hir, mi fydd hi’n rhy hwyr.’

    ‘Yn rhy hwyr i beth, Nain?’

    ‘Mae’n hurt,’ aeth yn ei blaen. ‘Rwyt ti bron mor dal â mi’n barod.’

    Edrychodd George yn graff ar Nain. Roedd hi’n wir yn berson pitw

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1