Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Pluen
Pluen
Pluen
Ebook72 pages1 hour

Pluen

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A novel for older children and young adults by popular author Manon Steffan Ros, which follows Huw as he prepares his project on the Second World War during the summer holidays. Strange things happen as he begins to explore a secret relating to his grandmother's brother in this endearing story, with strong characters and an important message. Tir na n-Og Award Winner 2017
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateJul 31, 2017
ISBN9781784613945
Pluen
Author

Manon Steffan Ros

Catherine Fisher is a poet and children’s author who lives in Newport, South Wales. A leading fantasy writer, her bestselling books include the Clockwork Crow trilogy, the Snow-Walker trilogy, the Oracle trilogy, and the Incarceron series. She was the first Wales Young People’s Laureate.

Read more from Manon Steffan Ros

Related to Pluen

Related ebooks

Related categories

Reviews for Pluen

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Pluen - Manon Steffan Ros

    Argraffiad cyntaf: 2016

    © Hawlfraint Manon Steffan Ros a’r Lolfa Cyf., 2016

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Cynllun y clawr: Sion Ilar

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 78461 318 1

    E-ISBN: 978 1 78461 394 5

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd yng Nghymru gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    1

    Dwi ddim yn gwybod beth fyddwch chi’n ei feddwl o’r stori yma. Mae’n bosib iawn na wnewch chi goelio gair. Mae hi’n anodd i bobol gredu bod pethau fel hyn yn digwydd i bobol gyffredin fel fi. Does ’na ddim byd arbennig amdana i o gwbl, ’dach chi’n gweld – dwi fel pob hogyn deuddeg oed arall. Dwi’n licio chwarae gêmau a gwylio’r teledu a mynd i’r parc efo fy ffrindiau. Dwi ddim yn ofnadwy o glyfar, nac yn arbennig o dalentog ar y cae pêl-droed. Nid fi ydi’r un mwyaf poblogaidd yn y dosbarth, ond nid fi ydi’r un lleiaf poblogaidd chwaith. Dwi’n union fel pawb arall.

    Do’n i ddim yn coelio mewn ysbrydion tan yr haf dwytha. A dwi dal ddim yn deall yn iawn, ond efallai y byddwch chi’n dallt, erbyn gorffen darllen y stori, beth ddigwyddodd i fi yn ystod gwyliau’r haf.

    * * *

    Roedd Nain yn byw ar Stryd Fawr Llangefni – y stryd ’na yn y canol, efo siopau bach bob ochr a thraffig yn chwyrnu bob awr o’r dydd. Yn y topiau mae Nain yn byw, ddim yn bell o’r hen reilffordd, efo siop trwsio cyfrifiaduron ar un ochr iddi a siop trin gwallt ar yr ochr arall.

    Iw-hw! gwaeddais wrth i mi agor drws y ffrynt a chamu dros y trothwy. Fi sy ’ma!

    Roedd Radio Cymru ymlaen ganddi, a’r arogl hyfryd, glân yna sydd wastad yn nhŷ Nain yn llenwi’r lle. Wnaeth hi mo ’nghlywed i – roedd ’na gân roc ddigon swnllyd ar y radio – ond doedd dim ots. Chafodd hi ddim syndod o ’ngweld i’n ymddangos yn y gegin gefn.

    Helô, ’ngwas i! Tyrd ti rŵan, stedda di lawr fan hyn. Tynnodd ei dwylo o’r fowlen golchi llestri a’i sychu ar ei ffedog, cyn ymestyn am gacen siocled fawr a thorri triongl tew i mi. Milc shêc, yr aur?

    Gwell i mi esbonio un peth rŵan, cyn i chi gael y darlun anghywir o Nain. Achos mae’r union air yna – Nain – yn gwneud i rywun feddwl am ddynes fach daclus, gyda gwallt llwyd, cyrliog, rhywun sy’n gwisgo siwtiau bach di-siâp ac sy’n cerdded yn araf ac yn siarad mewn llais bach tawel. Rhywun eiddil.

    Doedd Nain ddim fel ’na.

    Roedd Nain yn hen, roedd hynny’n ddigon gwir, yn wyth deg pump oed, bron iawn, a doedd hi ddim yn gallu cerdded mor gyflym ag yr oedd hi flynyddoedd yn ôl. Ond roedd hynny oherwydd, tan tua degawd yn ôl, bod Nain yn arfer cwblhau Ras yr Wyddfa am sbort, ac yn meddwl dim am gerdded ugain milltir y dydd. Roedd hi’n gwisgo dillad ffasiynol – jîns, sodlau uchel, ffrogiau bach – ac roedd ei gwallt hi’n hir, yn syth, ac yn ddu fel y frân. Welais i ’rioed mohoni heb golur yn duo’i llygaid, a doedd dim byd yn ddiflas nac yn arferol amdani. Roedd hi’n unigryw.

    Sut beth ydi’r gacen? Ro’n i’n licio’i golwg hi yn y siop.

    Grêt, Nain, diolch.

    Sut oedd yr ysgol, ’ngwas i?

    Go lew. Blincin rhannu hir yn dal i ’nrysu i.

    Wfftiodd Nain. Rhannu hir! I be maen nhw’n wastio’u hamser yn dysgu petha fel ’na i chi pan ma rhywun ’di mynd i’r drafferth i ddyfeisio cyfrifiannell?!

    Ydach chi’n gweld be dwi’n feddwl am Nain? Roedd hi’n dweud y math yna o beth o hyd. Ac os oedd hi’n dechrau dweud ei dweud am ysgolion...

    Ysgolion! poerodd Nain fel petai’n rhegi. Yn dysgu rhannu hir i chi, ond ddim yn dysgu sut i goginio pasta! Am fyd rhyfedd ’dan ni’n byw ynddo...

    Gwenais wrth fochio’r gacen. Y gwir oedd, ro’n i’n falch i glywed Nain yn mynd ar gefn ei cheffyl. Roedd Dad wedi sôn cwpl o weithiau yn ddiweddar ei fod o’n poeni amdani – ei bod hi’n mynd yn anghofus – ond yn amlwg, doedd dim llawer i boeni yn ei gylch os oedd hi’n dal i fedru cwyno fel hyn. Poenwr fuodd Dad erioed.

    Arhosais efo Nain am ychydig, yn sgwrsio ac yn hel clecs. Yn ôl ei harfer, roedd Nain yn mynnu fy mwydo i tan ’mod i bron yn methu symud, efo’r mathau o fwyd roedd fy rhieni’n dweud eu bod yn ddrwg i mi. Sgwrsiodd Nain wrth nôl mwy a mwy o fwyd i mi. Roedd hi wedi bod am dro gyda’i sbienddrych yn gwylio adar. Roedd hi wrth ei bodd efo adar.

    Mae ’na golomen sy’n dod at y ffenest pan fydda i’n golchi’r llestri. Dwi wedi dechrau gadael briwsion bisgedi iddi hi.

    Be? Mae colomennod yn bwyta bisgedi?

    Ew yndyn, mae adar wrth eu boddau efo bisgedi, wsti. Pan oedd ’Nhad yn cadw colomennod, ro’n i’n arfer rhannu fy nghacenni cri a ’misgedi cyrains efo nhw.

    Edrychais i fyny ar y llun o fy hen daid, tad Nain, ar wal y gegin. Dyna oedd yr unig beth yn nhŷ Nain

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1