Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Trio ac Antur y Mileniwm
Trio ac Antur y Mileniwm
Trio ac Antur y Mileniwm
Ebook86 pages30 minutes

Trio ac Antur y Mileniwm

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

The first novel in a trilogy by Manon Steffan Ros for teenagers with three lively characters at the centre of the story.
LanguageCymraeg
PublisherAtebol
Release dateOct 20, 2020
ISBN9781801060103
Trio ac Antur y Mileniwm
Author

Manon Steffan Ros

Catherine Fisher is a poet and children’s author who lives in Newport, South Wales. A leading fantasy writer, her bestselling books include the Clockwork Crow trilogy, the Snow-Walker trilogy, the Oracle trilogy, and the Incarceron series. She was the first Wales Young People’s Laureate.

Read more from Manon Steffan Ros

Related to Trio ac Antur y Mileniwm

Related ebooks

Related categories

Reviews for Trio ac Antur y Mileniwm

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Trio ac Antur y Mileniwm - Manon Steffan Ros

    Cyhoeddwyd gyntaf yng Nghymru yn 2018 gan

    Atebol, Adeiladau’r Fagwyr, Llanfihangel Genau’r Glyn,

    Aberystwyth, Ceredigion SY24 5AQ

    www.atebol.com-siop

    ISBN 978-1-91-226141-3

    Hawlfraint y testun © Manon Steffan Ros 2018

    Hawlfraint y cyhoeddiad ©Atebol Cyfyngedig 2018

    Hawlfraint y lluniau © Huw Aaron 2018

    Cedwir y cyfan o’r hawliau. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i throsglwyddo mewn unrhyw ffurf neu drwy unrhyw fodd, electronig neu fecanyddol, gan gynnwys llungopïo, recordio neu drwy gyfrwng unrhyw system storio ac adfer, heb ganiatâd ysgrifenedig y cyhoeddwr.

    Dyluniwyd gan Elgan Griffiths

    Golygwyd gan Adran Olygyddol Cyngor Llyfrau Cymru

    Dymuna’r cyhoeddwr gydnabod cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru

    Argraffwyd a rhwymwyd yng Nghymru

    Dyma Clem, Dilys a Derec. Maen nhw wedi bod yn ffrindiau ers amser maith. Maen nhw’n benderfynol o fod yn griw anturus a llwyddiannus, fel clybiau mewn llyfrau hen ffasiwn …

    Mae Clem am gael ei alw’n CLEM CLYFAR! Fo sy’n gwybod popeth am bopeth, a’i feddwl chwim yn gallu datrys unrhyw gliw …*

    *Yn anffodus, dydy meddwl Clem ddim mor chwim â hynny. Tan wythnos diwethaf, roedd o’n meddwl fod ‘milimilimilimilimilimiliwn’ yn rhif go iawn.

    Mae Dilys am i bawb ei galw’n DILYS DDYFEISGAR! Mae’n dyfeisio pob math o bethau anhygoel yng ngarej ei chartref.*

    *Mae’r pethau mae Dilys yn eu dyfeisio yn anhygoel. Yn anhygoel o wael. Y llynedd, ceisiodd ddyfeisio ffordd effeithol a chyflym o deithio o un lle i’r llall. Ond dydy o ddim yn syniad da iawn i lynu’ch traed i ddau sglefrfwrdd.

    Derec ydy hwn, DEREC DYNAMO, fel mae o’n hoffi cael ei adnabod. Mae o am fod fel archarwr, yn gryf fel tarw ac yn gallu rhedeg yn gyflymach, neidio’n uwch a dringo’n well na phawb arall.*

    *Yn anffodus, mae angen dewrder i ddringo’n uchel. Roedd Derec druan yn sownd ar ben bin am ddwy awr yn ddiweddar, gan fod gormod o ofn arno neidio i lawr.

    Gyda’i gilydd, mae’r tri ffrind annwyl ac anobeithiol yma wedi ffurfio grŵp antur … CLEM, DILYS A DEREC YW TRIO!

    Pennod 1

    ‘O, alla i ddim aros!’ meddai Clem gyda gwên fawr ar ei wyneb crwn. Roedd o’n pacio dillad i fag ar ei wely, ac yn ceisio stwffio llawer gormod i mewn iddo.

    ‘Dim ond am un noson rydan ni’n mynd, Clem!’ meddai Derec dan chwerthin. ‘Dwyt ti ddim angen yr holl bethau yna!’

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1