Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Hwrê, Mae Hi'n Wyliau!
Hwrê, Mae Hi'n Wyliau!
Hwrê, Mae Hi'n Wyliau!
Ebook66 pages17 minutes

Hwrê, Mae Hi'n Wyliau!

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A collection of poems about holidays and leisure by current Welsh Children's Laureate Anni Llŷn, and past children's laureates.
LanguageCymraeg
Release dateOct 29, 2020
ISBN9781845243494
Hwrê, Mae Hi'n Wyliau!

Related to Hwrê, Mae Hi'n Wyliau!

Related ebooks

Reviews for Hwrê, Mae Hi'n Wyliau!

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Hwrê, Mae Hi'n Wyliau! - Anni Llŷn

    Cyflwyniad

    Anni Llŷn

    Mae pawb yn hoffi gwyliau, hyd yn oed beirdd. Mae gwyliau yn golygu hwyl, rhyddid, antur a threulio amser gyda’r bobl gorau yn dy fywyd. Ydi, mae hi’n fendigedig mynd ar wyliau. Felly beth am roi gwyliau bach i dy ddychymyg? Coelia di fi, rhwng dau glawr y cei di a dy ddychymyg wyliau anturus. Felly, dwi’n dy wahôdd i ddod ar wyliau gyda beirdd plant gorau’r wlad. Cei fynd i wersylla, ymweld â’r sŵ, dathlu Gŵyl Eurig a mynd gyda Kevin i Nefyn. Ac mi fydd dy gês yn llawn odlau, darluniau a chymeriadau lliwgar, i gyd yn gweiddi … Hwrê! Mae hi’n wyliau!!

    Cofion,

    Anni Llŷn

    Cês Llawn Cyflythrennu

    Dwi wedi pacio yn barod am wyliau,

    ond mae’r cês yn llawn o drugareddau!

    Llyfr llofnodion,

    gemau gwirion.

    Tedi tew,

    llygaid llew.

    Brwsh blewog,

    esgid enwog.

    Fferins ffrwydrol,

    dannedd doniol.

    Sosban seimllyd,

    draenog drewllyd.

    Pasta porffor,

    teiar tractor.

    Chwilen chwim,

    papur prin.

    Tybed alli di ychwanegu

    at y rhestr hurt drwy gyflythrennu?

    Anni Llŷn

    Dad ar ei wyliau!

    Nid yw Dad byth yn gwisgo siorts blodeuog.

    Dywed Mam fod coesau ffermwr yn rhy flewog.

    Ond un flwyddyn, ar ôl swnian am fisoedd,

    cawsom fynd ar wyliau, y cyntaf ers blynyddoedd.

    Roedd hi’n rhy boeth i Dad wisgo’i ddillad ffermio,

    rhaid oedd tynnu amdano a rhoi siort blodeuog

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1