Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Llyfr Glas Nebo - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018
Llyfr Glas Nebo - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018
Llyfr Glas Nebo - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018
Ebook114 pages1 hour

Llyfr Glas Nebo - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018

Rating: 4.5 out of 5 stars

4.5/5

()

Read preview

About this ebook

Winner of the Prose Medal at the 2018 National Eisteddfod. This is the amazing story of Siôn, who is forced to grow up suddenly, his mother Rowenna and his young sister, Dwynwen. His story is recorded in a blue notebook as the family try to survive a nuclear accident that has a catastrophic effect on the inhabitants of the village of Nebo and beyond.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateSep 3, 2018
ISBN9781784616540
Llyfr Glas Nebo - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018
Author

Manon Steffan Ros

Catherine Fisher is a poet and children’s author who lives in Newport, South Wales. A leading fantasy writer, her bestselling books include the Clockwork Crow trilogy, the Snow-Walker trilogy, the Oracle trilogy, and the Incarceron series. She was the first Wales Young People’s Laureate.

Read more from Manon Steffan Ros

Related to Llyfr Glas Nebo - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018

Related ebooks

Reviews for Llyfr Glas Nebo - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018

Rating: 4.318181818181818 out of 5 stars
4.5/5

11 ratings2 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

  • Rating: 4 out of 5 stars
    4/5
    At first, the news were not that alarming - bombs went off in American cities. For Rowenna and her son Dylan, tucked in rural Wales, this is half a world away - although she was worried enough to go and buy all the food she could. Then the power went off and never came back. Then the local power plant (or something in that direction) went up and the clouds brought radiation sickness. But this is not where this book starts. That was all in the past, in 2018, when Dylan was 6, when The End came. Now he is 14 and for the last 8 years he had lived with his mother in their isolated house - never meeting anyone besides the neighbors who left in the first months of the new world. For all he knows, the two of them are the last people on Earth (well, not exactly - because there is Mona, his 2 years old sister and he learned a few months ago that that would have required at least one more person to be alive. But he will never ask - because when his mother does not like a question, she closes up - and that hurts). If one knows anything about Welsh legends, they would recognize what the title of the book is playing on - the Red Book of Hergest and the Black Book of Carmarthen preserved enough of the legends in the same way this book preserves the chronicles of these times (if you do not recognize the reference, Dylan will tell you pretty early in the books). The first chapter starts with Dylan telling us how they found the notebook he is now writing in -- because this whole book is a diary, written by two people - Rowenna and Dylan. Early on, he writes about their now-and-here, she writes about the past - including The End. But that division soon melts away and both of them write about whatever they feel like writing about. And that's how we finally learn what happened - although we never get the full picture - Rowenna never knew the bigger story so we never do either. It is a story of survival and finding the will to continue, to preserve your life. But somewhere in there is also a love song for the Welsh language and literature - because when she is sure that everything is over, Rowenna saves books, despite not being a big reader) - both in English and in Welsh. She even learns to love again her mother tongue - she was reared up speaking Welsh but she stopped using it because her teachers wanted the book Welsh and hers was the lived-in version so she just gave up. The book is full if these almost randomly thrown ideas which make you think about the world we live in. The short novel (novella really) is heartbreaking at times although in a few places it felt forced - the author was looking for the emotion instead of letting the prose elicit it. And the end managed to surprise me - if I knew it was coming, I would have thought of it was a hopeful end but reading it at the end of the story, it felt like a nightmare made real. I had to stop and think of my reaction to it - it did nor make any sense on the surface. And yet it does - because the story turns on its head the concept of what is normal and good - and makes you wonder if the world we live in is really worth saving if it gets to that. It is a depressing book on so many levels. The story of survival, of a child growing into an adult overnight and of a mother, who even in that world finds a way to punish is not always an easy read (not that Rowenna is a bad mother but she is a person and getting stuck with someone who depends on you, seeing that someone grow up long before his time takes its toll). But at the same time it is a not so bad way to make the reader look into their own life and figure out what is really important. And to make you slow down and appreciate what you have. The story's style is deceptively easy - as all of it is written by a boy who learned his language from books and from a woman who never wrote anything since school (and was not a big reader either). So there is some simplicity in the language which may make the whole narrative sound almost shallow. I do not know how that sounded in Welsh but as the book was translated into English by the author, I assume that this was intentional (although I am not that sure about the places where it seemed to slip a bit). But that language sells the story even more than the narrative does - because it fits, you can imagine both Rowenna and her son and you wonder if you could have survived if that happened to you. And when a book makes you think that way, the book did its job (even if it has issues and is not perfect).
  • Rating: 5 out of 5 stars
    5/5
    Thoughtful, powerful, heartfelt.

Book preview

Llyfr Glas Nebo - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018 - Manon Steffan Ros

Siôn

Ma Mam yn deud mai sgwennu fa’ma ydi’r ffor’ ora rŵan. Achos fod ganddi hi ddim mynadd i ’nysgu i, dwi’n meddwl, dim mynadd neu ddim egni. Dwi’m yn siŵr pa un, neu os oes ’na wahaniaeth.

Roedd hi ’di bod yn eistedd efo fi am awran bob bore, yr awran pan mae Dwynwen yn cysgu. Pethau fel adio a darllen, dim fatha oeddan ni’n gneud yn ’rysgol, dim graffiau na thablau na dim byd fel’na. Roedd hi’n ’y nghael i i ddarllen llyfra ac wedyn i sgwennu amdanyn nhw, ac roedd hi’n marcio nhw efo beiro goch, yn deud lle o’n i ’di camdreiglo neu ddeud rwbath gwirion. Ac wedyn ar ôl adio a thynnu, doedd ’na ddim maths ar ôl i wybod. Roedd hi’n dechra poeni. Am y beiros hefyd, achos fod hi ddim isio iddyn nhw i gyd redeg allan o inc.

‘Sgin i’m byd arall i ddysgu i chdi, Siôn,’ medda hi ddoe. ‘’Sa’m pwynt cario ’mlaen fel’ma.’

Roedd hi newydd ddarllen drwy’r hyn ro’n i ’di sgwennu am ryw lyfr rhamantus am ddyn a dynes yn cwrdd ar drên, a dwi’n meddwl bod ’na rywbeth wedi clicio ynddi hi. Felly mi ddeudodd hi cyn belled â ’mod i’n treulio awran yn sgwennu bob dydd, doedd hi ddim am swnian arna i eto.

Roedd hi wedi cael y llyfr yma ar ôl torri i mewn i dŷ yn Nebo, a mynd drwy ddroriau desg fach. Fel arfer, dim ond y pethau gwirioneddol ddefnyddiol ’dan ni’n eu cymryd, fel matshys neu wenwyn llygod neu lyfra Cymraeg. Ond fe ddaliodd y llyfr nodiadau yma yn ei dwylo, a’i droi o drosodd sawl gwaith cyn ei roi o yn ei bag.

‘Gei di hwnna,’ meddai wedyn, ar ôl cyrraedd adra. ‘I sgwennu dy hanes.’

‘Llyfr Glas Nebo,’ meddwn wrth wenu, a chymryd y llyfr o’i dwylo. Roedd y tudalennau’n wag ac yn lân, fel diwrnod newydd sbon.

‘Be?’ gofynnodd Mam mewn penbleth.

‘Fatha Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Coch Hergest. Fel’na roeddan nhw’n deud yn yr hen ddyddia.’ Ro’n i ’di darllen amdanyn nhw mewn llyfr am hanes Cymru. ‘Llyfra pwysig, oedd yn deud rhywbeth am hanes ein gwlad ni. Ac mae rŵan yn rhan o hanes, dydi?’

Glas tywyll ydi ei siaced o, bron iawn yn ddu. Dwi wedi sgwennu Llyfr Glas Nebo yn fawr ar y clawr. Dydi o ddim yn edrych fel llyfr pwysig, ond dim ond geiriau ydi pob llyfr, yn y dechra ac yn y diwedd.

Ar ôl hynny, dyma fi’n cadw’r llyfr ar y silff uchaf rhag ofn i Dwynwen gael gafael arno fo, a mynd ar do lean-to i drio trwsio’r gornel fach sy’n gollwng. Fysach chi ddim yn meddwl, ond mae ’na lot o ddŵr yn gallu dod i mewn drwy dwll bach fel’na. Dim ond lwmp bach o glai oedd o’i angen, ac wedyn sgwâr bach o’r tarpolin ar ben hwnnw, tua dwy fodfedd sgwâr. Fedrwn i ’mond defnyddio un hoelen, achos does ’na ddim llawer iawn ar ôl gynnon ni. Ond mi wneith y tro am rŵan.

Mi ddechreuodd Dwynwen grio, ac mi aeth Mam i’w nôl hi o’r crud.

Mae ’na uffar o olygfa o ben lean-to. I lawr am Gaernarfon, lle dach chi’n gweld tyrau’r castell fatha dannadd yng nghanol dre, ac wedyn y Fenai a Sir Fôn. Dwi’m yn cofio i mi fod i Sir Fôn erioed, ond mae Mam yn deud ’mod i wedi bod sawl tro pan o’n i’n hogyn bach. Roedd ’na lefydd braf i fynd am dro, medda hi, a thraetha del i fynd i drochi’n traed pan oedd hi’n heulog. Ro’n i’n meddwl am hynna ddoe wrth ista ar ben lean-to, yn sbio allan. Ac yn gweld Ynys Llanddwyn a’r môr, a’r holl goed a chaeau a brwgaij oedd rhyngddan ni a’r dŵr. Roedd hi’n uffar o ddiwrnod oer ddoe – digon oer i wneud i ’ngheg i stemio fatha eira mewn sosban. Ond ro’n i’n gallu meddwl am y bobol stalwm, bechod, yn mynd i lan y môr yn eu ceir crand ac yn ista yno drwy’r dydd, efo dim byd i’w wneud. Rhoi eu traed yn y dŵr a byta picnic. Wnes i drio peidio meddwl gormod am y bobol yna, bechod.

Wedyn mi wnes i glywed Mam yn dod allan efo Dwynwen wedi’i chlymu ar ei brest hi, ac mi ddois i lawr yr ysgol. Roedd ’na ddigon i’w wneud heb wastio amser yn meddwl am Sir Fôn a hen ddyddia.

*

Mae tŷ ni yng nghanol lle wedi marw. Hynny ydi, mae o ganol nunlla, a neb yn dod yma byth, neb yn dod i’n gweld ni. Wel, neb jyst iawn. Yn yr hen ddyddia, roedd ’na ŵr a gwraig yn byw yn y tŷ bach o’r enw Sunningdale, ryw 78 cam o’n lle ni, ond pan ddigwyddodd Y Terfyn doedd hi ddim yn hir nes iddyn nhw fynd i ffwrdd, yr un fath â phawb arall.

‘Be ’di Sunningdale?’ gofynnais i i Mam ryw dro ar ôl bod yn yr ardd yn busnesu.

‘Enw goc,’ atebodd hitha. ‘Gad ti lonydd i’r lle ’na, Sionyn, ’dan ni ddim yn berchen arno fo.’

Dwi’n meddwl ’mod i’n cofio Mr a Mrs Thorpe, ond fedra i’m bod yn siŵr.

Roedd o’n foi tal efo gwallt gwyn a sbectols, a hithau’n ddynes fach denau a syth, ac yn edrych i fyw eich llygaid chi pan oedd hi’n siarad. Mae Sunningdale yn union fatha ddaru nhw ei adael o, heblaw ’mod i wedi bod yn plannu yn eu gardd nhw ac wedi torri rhai o’u coed nhw i wneud coed tân. Dwi isio mynd i mewn i’r tŷ i weld be sy ’na, ond mae Mam yn deud na. Am ryw reswm, mae hi’n rhyfedd am Sunningdale ac am Mr a Mrs Thorpe.

Y gwir ydi, mae’n siŵr eu bod nhw wedi mynd am byth. Roeddan nhw’n hen, yn ddigon hen i stopio gweithio a neud dim byd heblaw chwara golff a thyfu coed bach gwirion o’r enw bonsai mewn potiau yn ffenestri’r gegin. Felly dwi’n reit siŵr eu bod nhw wedi cael hyd i’w teulu ac wedi penderfynu sticio yn lle bynnag roeddan nhw. Yn Lloegr yn rwla, mae’n siŵr.

Heddiw, ro’n i’n torri brigau o’u gardd nhw ar gyfer y tân. Roedd hi’n poeri bwrw, ac mae’r llif angen ei finio eto. Roedd Mam ar waelod y goeden, Dwynwen ar ei brest yn trio siarad, ac roedd Mam yn rhoi’r brigau at ei gilydd ar ôl i mi eu torri nhw, i’w gwneud hi’n haws i ni eu llusgo nhw adra. Mae hi’n haws i mi ddringo coed ac i fyny i’r to a ballu, achos mae Mam yn gloff. Ond mae hi’n dal i ddringo i do lean-to efo fi pan mae’n braf neu’n serog.

Yn ista yn y goeden, ro’n i’n gallu gweld drw ffenest llofft Mr a Mrs Thorpe.

Llenni efo blodau bach pinc arnyn nhw a gwely wedi ei gweirio’n dynn ac yn daclus. Cwpwrdd dillad gwyn, gwyn, a bwrdd bach bob ochr i’r gwely, a llyfrau wedi eu pentyrru’n uchel arnyn nhw.

‘Tyrd ’ta, Sionyn! Mi ddaw hi’n gawod law go iawn mewn munud!’ meddai Mam, oedd yn aros am y brigau.

Mi wnes i dorri ambell un arall cyn deud, ‘Gynnon nhw lot o lyfra fyny fan’na.’

Ddeudodd Mam ddim byd.

‘A blancedi ar y gwely. Dwfe, dwi’n meddwl. A dau obennydd.’ Symudais y llif yn araf ac yn galed yn erbyn un o’r brigau trwchus.

‘’Di o’n ddim byd i neud efo ni,’ meddai Mam yn bendant.

Ro’n i’n gwybod y dylwn i gau fy ngheg wedyn. Dydi Mam ddim yn ddynes i ddadlau efo hi. Am ryw reswm, mae torri i mewn i dai Nebo’n wahanol i dorri i mewn i Sunningdale, a fedra i ddim deall pam.

Mae ei phen-blwydd hi’n dri deg chwech mlwydd oed heddiw.

Yr hen galendr sydd gynnon ni, yr un o 2018, pan ddigwyddodd Y Terfyn. A ’dan ni ddim yn gallu bod yn hollol sicr ein bod ni yn y lle iawn, achos fod y dyddia pan oeddan ni’n sâl ar ôl i’r Terfyn ddechra wedi mynd yn un – efallai ei fod o wedi bod yn dridiau neu’n wythnos neu’n bythefnos. Ond dim ots. ’Dan ni wedi dyfalu lle rydan ni. Dydi Mam ddim yn licio dathlu, ond dwi’n meddwl ei fod o’n beth mawr. Tri deg chwech mlynedd yn y byd! Ac am un deg pedwar o heina, dwi ’di bod efo hi. Ma hi ’di bod efo

Enjoying the preview?
Page 1 of 1