Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Mellt: Eilian a'r Eryr
Cyfres Mellt: Eilian a'r Eryr
Cyfres Mellt: Eilian a'r Eryr
Ebook120 pages1 hour

Cyfres Mellt: Eilian a'r Eryr

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A humorous novel about a boy who lives in his hero's world. Eilian goes on a great adventure, but is the adventure only the result of his highly imaginative mind? Suitable for Year 7-9 pupils for individual or group reading.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateNov 21, 2013
ISBN9781847718075
Cyfres Mellt: Eilian a'r Eryr
Author

Euron Griffith

Born in Bangor, Euron Griffith has a Creative Writing MA from the University of Glamorgan. Between 2011 and 2016 he published three novels in Welsh – Dyn Pob Un (about a TV researcher who becomes an accidental serial killer), Leni Tiwdor (about a private eye who is also a record collector) and Tri Deg Tri (about a hitman who can talk to animals), as well as a children’s novel Eilian a’r Eryr. His English language short story collection, The Beatles in Tonypandyappeared in 2017 from Dean Street Press, and in 2020 Seren published his first novel written in English, Miriam, Daniel and Me. Griffith lives in Cardiff, where he works as a radio and tv producer and plays in a band. He is currently working on an interesting memoir, revolving around tee-shirts he has owned at various points in his life.

Read more from Euron Griffith

Related to Cyfres Mellt

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres Mellt

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Mellt - Euron Griffith

    Eilian%20a%27r%20Eryr%20-%20Euron%20Griffith%20-%20Mellt.JPG

    I Jacci a Dominique

    Hoffai’r Lolfa ddiolch i:

    Mairwen Prys Jones

    Huw Vaughan Hughes o Ysgol Bro Morgannwg

    Mererid Llwyd o Ysgol Glan y Môr

    a Gwenno Wyn o Ysgol Gyfun Ddwyieithog y Preseli

    Hefyd, diolch i’r holl ddisgyblion o ysgolion Gwynllyw, Llangefni, Morgan Llwyd a Phenweddig am eu sylwadau gwerthfawr.

    Argraffiad cyntaf: 2013

    © Hawlfraint Euron Griffith a’r Lolfa Cyf., 2013

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Comisiynwyd y gyfrol hon gyda chymorth ariannol

    Adran AdAS Llywodraeth Cymru

    Cynllun y clawr: Huw Aaron

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 84771 682 8

    E-ISBN: 978-1-84771-807-5

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru

    gan Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    gwefan www.ylolfa.com

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 832 782

    1. 3 + 4b – 6a = ?

    ‘Fi ydi’r Rhifyddwr a does neb yn medru gwrthsefyll fy mhwerau anhygoel. Rhifau ydi cyfrinach y bydysawd a bydd pwy bynnag sy’n meistroli rhifau yn sicr o feistroli’r bydysawd – gan gynnwys eich planed ddibwys chi!’

    Ar hyn mae’r creadur erchyll – y Rhifyddwr – yn taflu ei ben yn ôl ac yn chwerthin yn ddieflig. Y tu ôl iddo mae mellt yn ffrwydro fel bomiau yn yr awyr.

    Mae’r Eryr yn camu ymlaen, y gwynt yn chwifio ei fantell hir, las nes ei bod yn codi fel cwmwl byrlymus bob ochor i’w fwgwd.

    ‘Mae geiriau’n bwysig hefyd, Rifyddwr!’

    Mae’r Rhifyddwr yn rhoi’r gorau i chwerthin am eiliad. Ond wedyn mae’n ailddechrau (nes bod mwy o fellt a bomiau’n tanio’r awyr).

    ‘Geiriau?’ medda fo. ‘Pa air sy’n fwy pwerus na rhif?’

    ‘Y gair na,’ meddai’r Eryr. ‘Dyna pam dwi yma. I’ch rhwystro chi rhag rheoli’r bydysawd a dinistrio’r ddaear. Rŵan, rhowch Lena Kilsby i lawr a gadewch iddi ddod yn ôl i bentre Pencraig gyda mi.’

    Mae’r ferch brydferth gyda’r gwallt hir, syth, du a’r llygaid brown tywyll yn trio datglymu ei hun o freichiau pwerus y Rhifyddwr – ond mae’n amhosib. Mae hi mor denau a thila… ac mae’r Rhifyddwr mor gryf.

    Mae’r Eryr yn gwybod nad oes ’na ddim ond un peth i’w wneud. Mae o’n anadlu’n ddwfn.

    ‘Chi wedi gofyn am drwbwl, Rifyddwr,’ medda fo, ‘a rŵan mi gewch chi o!’

    Mae’r Eryr yn clicio ei fysedd ac mae—

    ‘Eilian Jones, wyt ti’n gwrando?’

    Mae llais cas Cacwn yn fy neffro fel saeth i’r galon.

    ‘Ydw, syr,’ medda fi, gan eistedd i fyny’n syth yn fy nghadair a smalio edrych ar fy llyfr algebra.

    Seibiant annifyr yn y dosbarth.

    Mae pawb yn edrych arna i.

    Mae Cacwn – yr athro Rhifyddeg (a’r athro mwya blin yn yr ysgol i gyd) – yn taro pin ffelt yn erbyn ffrâm y bwrdd gwyn gyda chlec fach fygythiol. Mae fy nghalon yn curo’n galed.

    ‘Wel?’ meddai Cacwn.

    ‘Wel be, syr?’

    Mae pawb arall yn y dosbarth yn chwerthin (gan gynnwys Lena Kilsby!) ac am eiliad dwi’n meddwl falla y bydd bob dim yn ocê oherwydd bod pawb ar fy ochor i.

    Ond tydi Cacwn ddim yn chwerthin.

    Tydi Cacwn byth yn chwerthin.

    Yn araf bach mae pawb arall yn y dosbarth yn rhoi’r gorau i chwerthin a dwi ar fy mhen fy hun. Fi yn erbyn Cacwn.

    Sgen i ddim gobaith!

    Mae o’n cerdded tuag ata i.

    ‘Mae algebra’n bwysig,’ medda fo. ‘Un diwrnod falla fyddwch chi angen algebra. Cofiwch, mae’n bosib i chi reoli’r byd trwy bŵer rhifau. Rŵan, 3 + 4b – 6a = ?’

    Dwi’n llyncu fy mhoer.

    ‘Sori?’

    Mae fy llais i mor fach a thila â llais llygoden. (Petai llygoden yn medru siarad, wrth gwrs.) Chwerthin eto am eiliad. Nes i Cacwn dawelu pawb drwy droi i’w hwynebu, yn gyflym fel chwip. Teimlaf bwniad poenus yn fy nghefn a throf i weld wyneb cyfarwydd yn gwenu arna i’n gas.

    ‘Ti mewn trwbwl go iawn rŵan, Jonsi.’

    *

    Ocê. Ydach chi’n barod? Rhai pethau dwi’n eu casáu –

    Cabij.

    Cwstard oer.

    Cwstard poeth.

    Cŵn.

    Marmite.

    Finegr.

    Algebra.

    Codi yn y bore.

    Newyddion ar y teledu.

    Cabij (ydw i wedi dweud cabij?).

    Glaw.

    Eisteddfodau.

    Campio.

    Genod. (Heblaw am Lena Kilsby.)

    Pryfaid.

    Cacwn.

    Ond… yn benna…

    Dico Morris!

    *

    ‘3 + 4b – 6a = ?’

    Mae Cacwn yn gofyn y cwestiwn eto. Mae o’n syllu arna i ac mae ei lygaid mor fain ag arwydd tynnu. Y tu ôl i mi dwi’n clywed Dico Morris yn chwerthin o hyd. Dwi’n clirio fy ngwddw a stwffio’r llyfr bach coch i mewn i fy mhoced, gan obeithio nad oes neb wedi sylwi.

    ‘Tri adio pedwar be, syr?’

    ‘B,’ meddai Cacwn yn Saesneg. ‘B, b, b!’

    ‘Be? Bee fel cacwn ’da chi’n feddwl, syr?’

    Dico Morris eto. Mae pawb yn chwerthin. Ond tydi Cacwn ddim yn dallt y jôc.

    Minus b,’ medda fo, gan stampio ei draed a thawelu’r dosbarth unwaith eto (mae’n amlwg i bawb pan mae Cacwn ar fin colli ei dymer). ‘Mae tri a phedwar b tynnu chwech a yn… be, Eilian Jones?’

    Sgen i ddim syniad a does dim ots gen i chwaith.

    Dyna be dwi isio’i ddweud.

    Be ydi pwynt algebra? Hen bwnc gwirion efo llythrennau yn lle rhifau!

    Dwi isio dweud hynna hefyd.

    Ond dyma be dwi ar fin ei ddweud…

    ‘Dwi ddim yn gwybod, syr.’

    Pum gair. Pum gair digon diniwed ond pum gair fydd yn fy arwain at un peth ac un peth yn unig…

    Y Clwb Clocsio!

    A beth ydi’r Clwb Clocsio? Wel, un o syniadau gwych y Prifathro. Mae o’n awyddus iawn i ennill y gystadleuaeth Dawnsio Gwerin yn Eisteddfod yr Urdd a dyna pam mae criw o blant brwdfrydig yn aros am awr ar ôl ysgol bob nos, ac yn cael y cyfle i ddysgu dawnsio gwerin gyda Dr Gwendolen Powell o Adran Hanes Prifysgol Bangor. Mae yna brinder o fechgyn yn y dosbarthiadau yma ac mae’r athrawon i gyd wedi cael eu hannog i berswadio mwy o hogiau i ymuno. Dyna mae Cacwn yn mynd i’w wneud. Ein ‘perswadio’ i ymuno â’r criw dawns y glocsen! O leia bydd Lena Kilsby yno. Mae hynny’n rhyw gysur.

    Ond, diolch byth, cyn i Cacwn gael cyfle i ‘’mherswadio’…

    … mae’r gloch yn canu!

    Mae pawb yn codi ac yn gwthio’u cadeiriau ’nôl. Mae’r dosbarth yn llawn sŵn sodlau brwdfrydig yn rhuthro allan a lleisiau’n chwerthin ac yn gweiddi.

    ‘Yn ddistaw!’

    Mae Cacwn wedi anghofio bob dim am 3 + 4b – 6a a dwi’n gweld fy nghyfle ac yn cydio yn fy mag Adidas a brasgamu am y drws a rhyddid y coridor. Ond mae llaw ar fy ysgwydd. Dwi’n troi.

    ‘Lwcus,’ meddai Dico Morris, gan wasgu ei fysedd yn galed i mewn i fy nghroen. Mae o’n gwasgu mor dynn dwi’n siŵr ’mod i am weiddi mewn poen a denu sylw Cacwn unwaith eto. Ond wedyn, â gwên anghynnes, mae Dico Morris yn fy ngollwng – fel hebog yn gollwng llygoden – ac yn gwthio ei ffordd heibio i mi. Ar ôl ychydig eiliadau dwi’n ei ddilyn ac yn cerdded i mewn i ddosbarth Ffrangeg Miss Bonjour.

    Ers hanner nos mae’r Ffrances wedi bod â’i bys ar y botwm. Y botwm coch. Y botwm coch sy’n golygu diwedd y byd.

    ‘A, mon ami,’ medda hi wrth yr Eryr – ei hacen Ffrengig mor dew â thriog a’i llygaid yn fflachio’n wyllt – ‘does dim byd fedrwch chi ei wneud yn awr. Mae fy mys ar fin pwyso’r botwm coch a chyn gynted ag y bydda i’n gwneud hynny mi fydd y blaned yn deilchion. Oui! Oui! Formidable!’

    Mae’r Eryr yn camu ymlaen, yr haul yn sgleinio ar ei fwgwd.

    ‘Rhowch Lena Kilsby i lawr yr eiliad hon,’ medda fo, ei lais dwfn yn llawn awdurdod, ‘mae hi’n rhy brydferth a pherffaith i farw mor ifanc.’

    ‘Mae’n rhaid i’r byd ddeall,’ meddai’r Ffrances – ei hanadl yn drewi o arlleg –

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1