Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Niwl Ddoe
Niwl Ddoe
Niwl Ddoe
Ebook313 pages5 hours

Niwl Ddoe

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A woman's body in the River Dee, a tragedy in Llŷn, a lost novel, a secret diary, a perplexing family tree. Mystery lurks in the past of all of us, no more so than in the life of world-famous authoress Veronique and the family history of Sisial y Traeth in Abersoch. Journalist Huw Peris sets out to unravel a number of mysteries but will his interfering prove costly for him?
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateOct 21, 2021
ISBN9781800991620
Niwl Ddoe

Related to Niwl Ddoe

Related ebooks

Reviews for Niwl Ddoe

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Niwl Ddoe - Geraint Vaughan Jones

    cover.jpg

    I

    CASI ELFYN

    yn un oed ac i’r gorwyrion eraill

    HANNA, SARA, IFAN, ELSI a HUWI

    *

    I gofio’n dyner iawn hefyd am fy wyres

    MARED ELFYN

    (1990 – 2013)

    Ffrwyth dychymyg yw pob un o gymeriadau’r nofel hon,

    a phob dim hefyd sy’n digwydd iddyn nhw yn y stori.

    Ffuglen bur, a dim byd mwy na hynny.

    Diolch arbennig iawn i Alun Jones am y gwaith golygu manwl ac i Wasg y Lolfa am roi cystal diwyg ar y gyfrol hon eto.

    Argraffiad cyntaf: 2021

    © Hawlfraint Geraint V. Jones a’r Lolfa Cyf., 2021

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Cynllun y clawr: Tanwen Haf

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-80099-162-0

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    Dydd Llun

    Clwb y Sosial, Pwllheli

    ‘Gwrandwch ar hyn!’ Heb sythu cefn na chodi’i olygon o’r papur newydd oedd yn gorwedd ar y bar o’i flaen, aeth gŵr y dafarn ymlaen, ‘Maen nhw wedi ffeindio corff yr hogan ’na o Abersoch sydd wedi bod ar goll ers misoedd.’

    Y criw-canol-pnawn arferol oedd yn y Clwb eto heddiw – y ddau Sais wrth y bwrdd agosaf at y drws, yn trafod materion Ceidwadol y dydd mewn is-leisiau cyfrinachol… Sais arall a’i gi wrth fwrdd y ffenest, y naill wedi ymgolli yn y Daily Telegraph a’r llall yn rhochian cysgu wrth draed ei fistar… dau lefnyn di-waith wrth y wal bellaf, yn taflu dartiau, gan regi gorchest neu siom yn ôl y galw… pedwar Cymro oedrannus yn hawlio’r bwrdd ar ganol y llawr ac yn mwynhau eu gêm ddominôs ddyddiol… ac, ar stolion uchel wrth ben pella’r bar, efo pwt o feiro yn hofran yn llaw pob un uwchben tudalennau’r Racing Times a’r Sun, dau arall yn doethinebu’n hyglyw am redwyr y two thirty yn Haydock ac yn Epsom, a’r mwyaf cegog o’r ddau yn traethu am y ‘llwyth pres’ a fyddai’n ei aros pe bai rhyw Dawn Princess yn cael ei thrwyn ar y blaen yn Epsom ac yn cyflawni cythral o ddwbwl da’ iddo.

    ‘Be? Honno gafodd ei hama rywdro o fod wedi gwthio’i gŵr off y cwch i’r môr? Am honno wyt ti’n sôn?’ Un o fois y dominôs oedd yn holi.

    ‘Ei hama ar gam,’ cywirodd un arall o’r pedwar. ‘A doedd o ddim yn ŵr iddi, beth bynnag, oedd o? Byw tali oeddan nhw, os cofia i’n iawn. Doedd hi ddim yn brin o geiniog neu ddwy, yn ôl be glywis i.’

    ‘Be? Sôn am fusus Andro Bach Llanbedrog ydach chi?’ Roedd Dawn Princess wedi mynd yn anghof am eiliad. ‘Don’t speak ill of the dead, dwi’n gwbod hynny, ond dwi’n dal i ddeud ei bod hi wedi’i ladd o… mai hi ddaru’i wthio fo dros yr ochor i’r drink.’

    ‘Pobol efo dim byd gwell i’w neud na hel blydi clecs oedd yn deud hynny, siŵr Dduw!’

    Ei bartner, a eisteddai ysgwydd yn ysgwydd â fo ym mhen y bar, oedd yn ymateb.

    ‘A mae ’na ddigon o’r rheini o gwmpas y lle ’ma. Mae pawb yn gwbod bod y polîs wedi edrach i mewn i’r cês a bod y patholojist a phobol felly wedi ffeindio bod Andro Bach wedi disgyn dros rochor a boddi am fod gynno ddigon o wisgi yn ei waed i sincio’r blydi Teitanic. Colli balans a mynd dros yr ochor. Dyna oedd hi’n ddeud oedd wedi digwydd. A dyna oedd y polîs yn ddeud hefyd. Be wydda Andro Bach am y môr, beth bynnag? Ar y dôl a dîlio drygs oedd ei betha fo. Ti’n gwbod hynny cystal â finna. Doedd gynno fo ddim ecspiriens o fod ar y môr, yn enwedig ar y fath dywydd.’

    ‘Gwranda! I ti gael dallt, ro’n i’n nabod Andro yn well na chdi ac roedd o’n ddiawl o nofiwr cryf. No wê fasa fo wedi boddi mor agos i’r lan.’

    ‘Callia wir Dduw! Os cofia i’n iawn, roedd y cwch yn mynd rownd Trwyn Cilan ar y pryd – a hynny mewn niwl ac mewn blydi gale force six! Waeth gen i faint o nofiwr oedd o, doedd gynno fo ddim gobaith caneri o gyrraedd y lan yn fyw. Eniwei,’ gan droi eto at y barman, ‘be mae o’n ddeud yn y papur ’na, beth bynnag?’

    Bu hynny yn ddigon i bawb – y Cymry oedd yno, o leia – dawelu a gwrando.

    Police have now confirmed that the body discovered in the River Dee near Llangollen a week ago was that of young mother, Evelyn Powell of Abersoch near Pwllheli in Gwynedd. Thirty six year old Miss Powell had been reported missing back in October of last year, but searches in the vicinity of her home and wider afield at the time had proved fruitless…

    ‘Llangollan? Be uffar oedd hi’n neud yn fanno, meddach chi?’

    Anwybyddodd y darllenwr y dôn ddadleugar, eto o ben pella’r bar.

    As reported in this paper last week, the badly decomposed body was found by local farmer Terence St John (pronounced ‘Sinjin’) after a section of the river bank on his property collapsed following recent heavy rain and flooding. Initially, Mr St John assumed that an item of discarded clothing had been carried downriver during the recent spate but closer inspection revealed decomposing flesh. The police still await post-mortem results for cause of death and refuse to speculate as to whether Miss Powell’s demise was accidental or not. They are appealing for witnesses who may have seen a young woman fitting Miss Powell’s description in the Llangollen area at the time of her disappearance, seven months ago. Miss Powell’s car, a two year old Peugeot 3008 SUV, colour ‘sunset copper’, still remains unaccounted for. Miss Powell’s eighteen year old daughter Glesni and seventeen year old son Osian have been informed of their mother’s death and are receiving counselling. A preliminary inquest into the circumstances of Miss Powell’s death will be held on Thursday of this week.

    Tawelwch pedair neu bum eiliad i dreulio’r wybodaeth, yna pawb yn ailgydio yn eu gweithgarwch blaenorol a’r barman yn troi dalen arall o’r Daily Post ar y bar o’i flaen.

    ‘Glesni Powell!’ meddai un o’r dartwyr o dan ei wynt gan anelu am y bẃl. ‘Peth dinboeth, yn ôl pob sôn.’

    ‘Ffrijid glywis i,’ meddai’r llall, a gwenu wrth weld y ddart yn taro weiren ac yn neidio’n ôl i gyfeiriad y taflwr.

    Caffi Coffi Maes, Pwllheli

    ‘Glywsoch chi, genod, eu bod nhw wedi ffeindio corff yr hogan ’na o Abersoch? A hynny yn Llangollan o bob man!’

    ‘Do. Roedd o ar niws Radio Cymru bora ’ma. Cael ei chorff hi yn yr afon, mae’n debyg. Be aeth â hi i fanno, meddach chi? A sut buon nhw mor hir cyn ffeindio’i chorff hi, beth bynnag? Oni bai…’

    ‘Oni bai be, felly?’

    ‘Wel, ydi o’n bosib bod rhywun wedi’i lladd hi, dach chi’n meddwl, ac wedi cadw’i chorff hi tan rŵan cyn ei daflu fo i’r afon?’

    ‘Ei gadw fo ymhle, felly?’

    ‘Be wn i? Mewn rhyw hen feudy falla? Mae peth felly’n bosib, dach chi’m yn meddwl?’

    ‘Ydi, falla. Mae petha rhyfeddach wedi digwydd cyn heddiw.’

    ‘Ac yn dal i ddigwydd, gwaetha’r modd. Mae wedi mynd yn fyd rhyfadd ar y diawl, sa chi’n gofyn i mi. Does wbod pwy ydi pwy yn y lle ’ma, bellach. Nac o ble maen nhw wedi dod, chwaith.’

    ‘Bechod, beth bynnag a ddigwyddodd iddi! Hogan ifanc felna. Doedd hi ond thirty six ar y pryd! Ond o leia mae’i phlant hi’n gwbod y gwaetha bellach. Druan ohonyn nhw ddeuda i. Duw a ŵyr sut mae petha wedi bod arnyn nhw dros y misoedd dwytha ’ma, heb fath o syniad be allai fod wedi digwydd i’w mam. Dwy ar bymthag oed ydi’r hogyn, meddan nhw i mi, a dydi’i chwaer o fawr hŷn, chwaith.’

    ‘Os cofia i’n iawn, doedd petha ddim wedi bod yn rhy dda rhwng y ferch a’i mam cyn i’r fam ddiflannu. Dyna oedd yn cael ei ddeud ar y pryd, os dach chi’n cofio. Wel os oedd hynny’n wir, yna sut ar y ddaear fydd y ferch yn teimlo rŵan pan geith hi glywad bod ei mam hi wedi gneud amdani’i hun?’

    ‘Be? Siwiseid? Ti’n deud mai boddi’i hun wnaeth hi?’

    ‘Dyna sydd fwya tebygol, dach chi’m yn meddwl? Mi fydd rhaid aros am y cwest, mae’n siŵr, cyn y cawn ni wbod mwy. Synnwn i ddim nad ydi’r ferch, erbyn heddiw, yn beio’i hun am be ddigwyddodd.’

    ‘Ia. Trist iawn!… Bobol bach! Sbiwch! Mae hi’n stido bwrw rŵan.’

    Trodd y dair arall i syllu drwy’r ffenest a mwmblan diflastod.

    ‘Dydi hi ddim yn ffit i gi na chath fod allan yn hwnna. Ydan ni am ail banad, genod?’

    ‘Ia, pam lai?’

    Northcliffe House, Kensington (Swyddfeydd y Daily Mail a’r Mail On Sunday)

    Eisteddai mor llonydd, yn gwyro ymlaen ar ei benelinoedd, efo’i ên yn ei ddwylo a’i wallt brith yn llen dros ei dalcen a’i lygaid, fel y tybiodd hi ei fod o’n pendwmpian. Felly, rhag ei styrbio, gwthiodd y ddalen yn araf tuag ato dros wyneb y ddesg fel na fyddai modd iddo beidio â’i gweld pan agorai ei lygaid.

    Ond doedd Frank ‘Jock’ Weir, golygydd y Mail On Sunday, ddim yn cysgu, nac yn cau ei lygaid chwaith.

    ‘Be ’di hwn?’

    Cyfarthiad o gwestiwn wrth iddo daro cledr llaw yn galed ar y ddalen oedd wedi ymddangos o dan ei drwyn.

    ‘Mae’n ddrwg gen i Mr Weir, ond ro’n i’n meddwl falla eich bod chi’n…’

    Cododd y golygydd ei ben a sythodd yn ei gadair, gan wthio honno droedfedd neu fwy yn ôl oddi wrth y ddesg, yna cribo’i fysedd yn frysiog trwy ei wallt brith, i roi gwell trefn ar hwnnw. Roedd cwlwm ei dei yn llac a botwm uchaf ei grys glas ar agor.

    ‘O! Ti sy ’na Fiona? Be oeddat ti’n feddwl, felly? ’Mod i’n pendwmpian ma’n siŵr.’

    Bradychai ei lygaid wên ddireidus ac roedd y dinc ddiamynedd wedi cilio’n sydyn iawn o’i lais, a chroen ei dalcen wedi llyfnhau unwaith eto. Nid yn unig roedd Fiona Lake yn ferch ganol oed drawiadol iawn i edrych arni, yn hirwallt ddu ac yn dal a gosgeiddig o gorff – heddiw mewn siwmper ddu dynn a throwsus yr un mor ddu a’r un mor dynn – ond roedd hi hefyd yn hynod effeithiol yn ei gwaith fel golygydd llyfrau y Supplement Sul ac yn hawlio parch pawb o’i chwmpas, gan gynnwys ‘Jock’ Weir ei hun.

    ‘Faswn i byth yn meddwl y fath beth, Mr Weir,’ meddai hi gan godi ael ddeniadol a rhoi’r argraff ei fod o’n gwneud cam â hi.

    ‘Na fasat, mae’n siŵr.’

    Er bod ugain mlynedd a mwy o wahaniaeth oedran rhyngddyn nhw, doedd dim gwadu’r elfen fechan o fflyrtio oedd yn digwydd.

    ‘Felly, be ga i’i neud i’r golygydd llyfrau heb ei hail sy gen i?’

    Gan anwybyddu’r clod cynnil, cyfeiriodd Fiona at y ddalen roedd hi newydd ei gosod o’i flaen. ‘Fe gafodd hwnna ei ffacsio i mi o fewn yr awr ddiwetha ac ro’n i’n awyddus i gael eich barn chi.’

    Heb ruthro, estynnodd Frank Weir am ei sbectol-weiren-aur a’i gosod ar flaen ei drwyn. ‘Hm! Tudalen flaen y Liverpool Daily Post,’ meddai. ‘Rhifyn heddiw. BODY FOUND IN RIVER DEE IDENTIFIED…’

    Pum eiliad ar y mwyaf a gymerodd iddo daflu golwg dros yr adroddiad, cyn i olwg ddryslyd ddod i’w wyneb.

    ‘Dydw i ddim yn deall, Fiona. Corff mewn afon yng ngogledd Cymru. Trasiedi i rywun, mae’n siŵr, ond stori gyffredin iawn y dyddiau hyn, gwaetha’r modd. Mae llawer o bethau gwaeth yn digwydd, yn reit siŵr. Fyddai stori fel hon byth yn gweld golau dydd yn y rhan fwyaf o’r papurau cenedlaethol, heb sôn am hawlio tudalen flaen. Felly, pam bod Fiona Lake, adolygydd llyfrau y Mail on Sunday, yn dangos unrhyw ddiddordeb? Oes yna fwy i’r stori?’

    ‘Fe ges i alwad ffôn i gyd-fynd â’r stori, Mr Weir… gan hen ffrind coleg sydd rŵan yn byw ar y Menai Straits yn Anglesey. Roedd hi, Valerie, yn meddwl y byddai gen i ddiddordeb yn yr achos oherwydd y dirgelwch sydd ynglŷn â fo. Mae’n debyg bod y ferch maen nhw rŵan wedi gallu rhoi enw i’w chorff hi, wedi cael ei hamau, dro’n ôl, o fod wedi lladd ei gŵr – ei phartner yn hytrach – trwy ei wthio fo dros ochor eu cwch i’r môr. Ond fe fethodd yr heddlu â phrofi dim yn ei herbyn hi. A rŵan mae hi ei hun wedi marw, a hynny o dan amgylchiadau amheus, a dweud y lleiaf.’

    Â’i ddryswch yn parhau, a’i wyneb yn llawn cwestiwn o hyd, craffodd Frank Weir yn ddwfn i’w llygaid tywyll hi.

    ‘Dydw i ddim yn deall, Fiona. Be wyt ti am i mi ei wneud, felly? Anfon un o’n gohebwyr i ogledd Cymru i edrych i mewn i’r stori?’ Roedd peth gwawd i’w glywed yn y cwestiwn. ‘Pam fasa achos fel hwn o unrhyw ddiddordeb i ni, yma? Duw a ŵyr, mae gynnon ni fwy na digon o bethau pwysicach ar ein plât. Wyt ti’m yn meddwl?’

    Yn ateb, cafodd wên arwyddocaol yn ôl, ac yna: ‘Ro’n i am awgrymu gyrru Hugh Peris i fyny yno. Mi fyddwch yn cofio i chi ei benodi fo i’w swydd ar ôl iddo ennill ein cystadleuaeth ni, bymtheng mis yn ôl. Dwi’n gwybod ei fod o’n ifanc ond mae o wedi datblygu’n gyflym. Ym marn Sam, y golygydd newyddion, mae ganddo fo drwyn da am stori. Ond, yn bwysicach na dim, fo ydi’r unig Gymro Cymraeg sydd gynnon ni ar y staff. Yma yn syth o’r coleg, os cofiwch chi. Gradd prifysgol, dosbarth cyntaf mewn Criminology and Criminal Justice.

    ‘Fiona bach, dwi’n rhy brysur i drafod rhywbeth sydd ddim yn mynd i ddigwydd beth bynnag.’

    ‘Dau funud arall o’ch amser chi, dyna i gyd, Mr Weir. Ac mi ddeuda i wedyn be ydi fy niddordeb i yn y busnes yma.’

    ‘Dau funud, ta! Dim mwy.’ Roedd ei oslef yn awgrymu nad oedd yn debygol o newid ei feddwl.

    ‘Mi fydd Hugh Peris yn ein gadael ni ymhen pythefnos… wythnos yn hytrach, gan fod yr ail wythnos yn wyliau sy’n ddyledus iddo beth bynnag. Fel y gwyddoch chi, mae ganddo fo gyfweliad ar ddod efo Heddlu Gogledd Cymru a dwi’n cael ar ei wynt o ei fod o’n bur ffyddiog o gael ei dderbyn. Sut bynnag, roedd y ffrind sydd gen i yng ngogledd Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd anfon rhywun sy’n deall ac yn siarad yr iaith, gan fod y Cymry Cymraeg, meddai hi, yn gallu bod yn elyniaethus tuag atom ni’r Saeson ac yn troi i siarad Cymraeg pan fyddwn ni o fewn clyw.’

    ‘Falla mai chi’r Saeson sy’n paranoid?’

    Doedd ‘Jock’ Weir yn gwneud dim ymdrech i gelu ei wên.

    ‘Ond gwranda, Fiona! Mae gynnon ni… mae gen ti, fel ein hadolygydd llyfrau… bethau amgenach na hyn i ddelio efo nhw. Pam wyt ti mor daer, beth bynnag?’

    ‘Awyddus i gynnwys erthygl arbennig ar yr awdures Veronica Hayes, alias Veronique, yn y Supplement ydw i. Fe glywsoch chi amdani hi, mae’n siŵr?’

    Daeth llygedyn o wawd cellweirus i lygaid y golygydd y tro yma. ‘Be? Wyt ti’n meddwl ’mod i, pen dyn y Mail On Sunday, yn rhywun cwbwl anniwylliedig? Ond rhag ofn nad wyt ti’n cofio, mae’r cylchgrawn llenyddol Avaunt wedi cyhoeddi rhifyn cyfan ar ei gwaith hi yn ddiweddar. Rhifyn ardderchog ro’n i’n meddwl.’

    ‘Mi wn i hynny, Mr Weir, ac yn y rhifyn hwnnw y cefais innau hefyd wybod bod Veronique wedi sgrifennu nofel Ffrangeg, flynyddoedd lawer yn ôl bellach, o dan y teitl Noir Sur Blanc ond na chafodd honno weld golau dydd erioed.’

    ‘Nofel sâl oedd hi felly. Y golygyddion yn Ffrainc yn gweld dim gwerth ynddi, mae’n siŵr, a ddim am fentro’i chyhoeddi hi. Fe ddylet ti, o bawb, wybod bod peth felly’n gallu digwydd, hyd yn oed i awduron profiadol fel Veronica Hayes.’

    ‘Ond mae gen i le i gredu, Mr Weir, nad dyna a ddigwyddodd. Dwi newydd fod ar y ffôn efo Peter Standish, awdur yr erthygl yn Avaunt, ac mae o yn eithaf siŵr erbyn rŵan, ar ôl bod yn holi nifer o weisg yn Ffrainc ac yma yn Lloegr, na chafodd nofel efo’r teitl yna erioed ei chyflwyno i unrhyw wasg. Roedd o hefyd wedi cysylltu efo Veronica Hayes ei hun, medda fo, tra’r oedd o’n paratoi’r erthygl, ond cyndyn oedd hi hyd yn oed i gydnabod bodolaeth y nofel. Doedd dim posib cael llawer o synnwyr ganddi beth bynnag – dyna oedd o’n ddweud - ac roedd o’n cael yr argraff ei bod hi’n ddryslyd iawn ei meddwl erbyn hyn. Fe gollodd hi ei gŵr dair neu bedair blynedd yn ôl a does dim byd wedi ymddangos o’r wasg ganddi ers hynny. Felly, go brin y cawn ni weld cyhoeddi dim byd arall o’i gwaith hi byth eto, oni bai…’

    Wrth ei weld yn anniddigo, prysurodd Fiona Lake ymlaen â’i chais: ‘Meddyliwch! Beth pe bai copi digidol o’r nofel Noir Sur Blanc ar gael o hyd yn ei chyfrifiadur hi? A beth pe baem ni, y Mail On Sunday, yn llwyddo i gael gafael ar y copi hwnnw? Ac yn trefnu cyfieithiad o’r nofel i Saesneg? Ac yna yn ei chyhoeddi – fesul pennod, dyweder – yn y Supplement? Nofel goll Veronique! Dychmygwch y cynnwrf fyddai hynny yn ei greu. Does dim byd sy’n sicrach nag y byddai darllenwyr y broadsheets dyddiol – y Times a’r Sunday Times, y Telegraphs, a’r Guardian et al – yn heidio i brynu’r Mail On Sunday. Mae ein cylchrediad ni ar y funud ychydig o dan y miliwn. Ydw i’n iawn?’

    Fe wyddai ei bod hi’n rhoi halen ar friw. Roedd cylchrediad y papur wedi dioddef yn arw yn ddiweddar. Bron ddau gan mil yn llai o brynwyr na dwy flynedd yn ôl.

    ‘Dychmygwch be fydda fo wedyn, pe baem ni’n llwyddo i gael gafael ar y nofel goll. A’i rhoi hi ar-lein hefyd efo paywall, wrth gwrs, fel bod darllenwyr o bedwar ban byd yn tanysgrifio i gael ei darllen hi bob wythnos. ’

    Wrth weld bod y syniad yn dechrau cydio yn nychymyg y golygydd o’r diwedd, er bod elfen gref o amheuaeth yn dal yno, yn ei lygaid, mentrodd Fiona eistedd rŵan ar flaen y gadair gyferbyn ag ef a syllu dros y ddesg i fyw ei lygaid.

    ‘Be dach chi’n feddwl, Mr Weir?’

    Aeth eiliadau heibio cyn iddo ateb.

    ‘Ond beth sy a wnelo Veronica Hayes â busnes y corff ’ma yng ngogledd Cymru?’

    ‘Pob dim, Mr Weir. Pob dim.’

    Doedd dim modd anwybyddu’r taerineb oedd yn datblygu yn ei llais hi.

    ‘Roedd Evelyn Powell – sef y corff yng ngogledd Cymru fel dach chi’n cyfeirio ati – yn ferch i Veronica Hayes… i Veronique yr awdures. Wel, yn honedig felly, beth bynnag.’

    ‘Pam honedig? Pam yr amheuaeth?’

    ‘Wel y gwahaniaeth oed yn un peth. Hi yn wyth deg a dwy erbyn hyn a’r ferch ond yn dri deg a chwech. Fe wyddom ni bod Veronica Hayes wedi priodi’n ifanc, pan oedd hi’n fyfyrwraig yng Nghaergrawnt, a bod ei diweddar ŵr, Robert Carr, chwe blynedd yn hŷn na hi. Mi fasa hi felly yn bedwar deg a chwech oed pan anwyd Evelyn, a’i gŵr hi sbel dros ei hanner cant.’

    ‘Ond ddim yn rhy hen i gael plant, serch hynny.’

    ‘Na, dwi’n derbyn hynny, wrth gwrs, ond annhebygol mae’n rhaid deud. Fe godais y mater efo Peter Standish ar y ffôn gynnau, ac roedd o’n cadarnhau bod Veronica Hayes wedi cael plentyn rywdro… merch o’r enw Emma roedd o’n tybio… ond wydda fo ddim am hanes honno erbyn heddiw. Doedd o ddim yn gallu rhoi dyddiad geni iddi chwaith. Canolbwyntio ar ei gwaith llenyddol hi roedd o, wedi’r cyfan, a doedd ganddo fo fawr o ddiddordeb yn hanes y teulu fel y cyfryw. Wnes i ddim sôn wrtho fo am y stori yma, wrth gwrs…’

    Pwyntiodd Fiona at ddalen flaen y Liverpool Daily Post.

    ‘… am y corff sydd wedi cael ei dynnu allan o’r afon yn Langolen, rhag ofn iddo fo weld cyfle am stori ei hun. Sut bynnag, yn ôl yr hyn a ddywedodd fy ffrind ar y ffôn, mae Veronica Hayes mewn cartref gofal, erbyn heddiw, yn Kanâvun yng ngogledd Cymru.’

    ‘Pam yn fanno?’

    ‘Am mai yn ymyl fanno mae hi a’i gŵr yn byw ers blynyddoedd, bellach, mewn rhyw bentref glan môr o’r enw Abbeysock. Duw a ŵyr pam oedden nhw isio symud i le felly, i ben draw byd, lle mae pawb o’u cwmpas nhw, yn ôl fy ffrind, yn siarad dim byd ond Cymraeg. Ond dyna fo! Pawb at y peth y bo, mae’n debyg. Sut bynnag, dwi wedi gwneud ychydig o ymholiadau fy hun hefyd yn y cyfamser ac mae’n ymddangos bod Veronica Hayes erbyn heddiw yn dioddef o dementia. Does wybod yn iawn pa mor ddrwg ydi’i chyflwr hi, ond mae un peth yn siŵr, Mr Weir – os na fanteisiwn ni ar y cyfle yma, yna bydd un o’r broadsheets wedi cael y blaen arnom ni yn fuan iawn. Dwi’n synhwyro bod yma sgŵp yn cynnig ei hun. Dydi’r Liverpool Daily Post ddim yn debygol o fod yn fygythiad i ni, wrth gwrs. Go brin bod ganddyn nhw’r adnoddau na’r diddordeb i edrych i mewn yn fanwl i bethau. Be dach chi’n ddeud?’

    Ymlaciodd Frank Weir yn ei gadair a rhoi amser iddo’i hun gnoi cil ar y goblygiadau. Roedd ganddo gryn barch i Fiona Lake a’r gwaith roedd hi’n ei wneud, a gwyddai hefyd am ei greddf i adnabod stori dda.

    ‘Iawn ta!’ medda fo o’r diwedd. ‘Mae hi rŵan yn bnawn Llun ac, yn ôl yr hyn a ddywedaist ti, bydd Hugh Peris yn gorffen efo ni ddiwedd yr wythnos yma ac yna’n cael wythnos o wyliau in lieu. Ga i awgrymu dy fod ti’n ei anfon o i fyny i ogledd Cymru yn ddiymdroi a bod gofyn iddo fo adrodd yn ôl i ti erbyn pnawn dydd Mercher fan bellaf? Mae’n amlwg bod gen ti ffydd yn ei allu fo i fynd at wraidd y stori yma. Gobeithio dy fod ti’n iawn.’

    Swyddfa Gofal Cymdeithasol Caernarfon

    ‘Be? Heddiw? Rwyt ti ar dy ffordd adra rŵan? Y funud yma? Go wir?’ Methai â chelu’r cyffro o’i llais. ‘Ti’m yn tynnu ’nghoes i, gobeithio, Huw? Na?… Onast?’

    Chwerthiniad bach bodlon.

    ‘Be?… Ydw, dwi’n clywad sŵn y trên, rŵan. Cyrraedd Bangor pryd?… Ugain munud wedi saith? Grêt. Mi fydda i yno’n dy ddisgwyl di.’

    Gwthiodd Llinos Mathews y Samsung yn ôl i’w bag, yna ailfeddwl ac estyn amdano eto.

    ‘Helô, Mam?… Gwrandwch! Mi fydda i’n hwyrach nag arfar heno. Huw newydd ffonio. Ar ei ffordd adra rŵan, medda fo. Trên ugain munud wedi saith ym Mangor, a dwi wedi addo mynd yno i’w gwarfod o a mynd â fo adra i Lanbêr. Bwyd? Na, peidiwch â phoeni. Mi fydda i’n iawn, diolch. Be? Na, ddaru mi ddim gofyn pam ei fod o’n dod adra’n gynt na’r disgwyl. Rhwbath i’w neud â’i waith o, mae’n siŵr. Mi ga i wbod heno, beth bynnag. Ta-ra.’

    ‘Mae rhywun yn swnio’n hapus, beth bynnag.’

    Sulwen, ei chydweithwraig, oedd wedi ymddangos ar y córidor o’i blaen.

    ‘Tae hi’n bnawn dydd Gwenar mi faswn i’n dallt, ond pnawn dydd Llun !’

    ‘Huw newydd ffonio i ddeud ei fod o ar ei ffordd adra. Dydw i ddim wedi’i weld o ers mis a mwy.’

    ‘O! Mi fydd yna hen ddathlu heno, felly. Ond paid â mynd dros ben llestri, cofia. Fedrwn ni ddim fforddio cael un arall o’r staff ar maternity leave.

    Chwarddodd y ddwy.

    Gorsaf Crewe

    Ar ôl gwthio’r ffôn yn ôl i boced brest ei siaced, taflodd Huw Peris gip diamynedd ar ei wats a mwmblan rhwystredigaeth bod y trên yn oedi cyhyd cyn ailgychwyn. ‘Ond o leia mae gen i sêt rŵan,’ medda fo wrtho’i hun. ‘A honno’n sêt ffenast hefyd! Nid yn unig hynny ond mae gen i fwrdd hefyd o ’mlaen i. How lucky can I get?’ A gwenodd wên fach chwerw o gofio sut y bu’r daith iddo hyd yma. Sefyll yr holl ffordd o Euston, efo un fraich yn gwasgu bag ei laptop ar draws ei frest a’r fraich arall, mewn ystum tebyg, yn dal strap y camera drud yn dynn ar ei ysgwydd tra bod y llaw yn dal gafael mewn carton o iced cappuccino, un na allodd hyd yn oed dynnu’r caead oddi arno hyd yma, oherwydd sigl parhaol y trên ac aflonyddwch y cyd-deithwyr oedd yn gwasgu’n ddi-hid yn ei erbyn. Nid bod peryg iddo fynd o dan draed neb, wrth gwrs, a fynta’n ddwylath cyhyrog… neu, yn iaith ei fam, yn ‘sics ffẃt yn nhraed ei sana.

    Ond rŵan, yn glyd yn ei sêt ffenast ac efo bag lledr ei liniadur a chamera drudfawr y wasg yn gorwedd yn ddiogel ar y bwrdd o’i flaen, dyma gyfle i ymlacio o’r diwedd ac i wylio eraill yn dod i lenwi’r ychydig ofod oedd ar ôl yn y córidor a chreu gwasgfa o’r newydd yn fanno. Eich tro chi fydd mwynhau’r profiad rŵan, meddyliodd yn hunanfodlon, a hynny cyn bellad â Chaer, mae’n siŵr.

    Tynnodd gaead y carton a drachtio’r cappuccino oer, yna gwthiodd y carton gwag i’r cwdyn sbwriel oedd yn hongian ar fachyn pwrpasol yn ei ymyl. Edrychodd ar ei wats. Awr dda arall, mae’n siŵr, cyn cyrraedd Bangor, felly llawn cystal treulio’r amser hwnnw yn ymgyfarwyddo â’r dasg oedd o’i flaen.

    Fy nhasg gyntaf i Fiona Lake a’r Supplement, ond yr un olaf i’r Mail on Sunday, mae’n siŵr, meddyliodd. Nid nad ydw i wedi mwynhau profiadau’r flwyddyn a hannar dwytha, wrth gwrs. Y cyffro o ruthro i Westminster adeg yr ymosodiad terfysgol yn fanno a chael fy nhynnu i mewn i’r holl ddychryn… Y prynhawniau Sadwrn llawar mwy difyr yn y press box yn Stadiwm newydd y Spurs neu’n adrodd ar gemau’r Arsenal yn yr Emirates neu Chelsea yn Stamford Bridge… Hyd yn oed mwynhau ambell awr ddiog yn gwylio’r criced yn Lords… Do, dwi wedi mwynhau’r profiad, ond bydd di’n onast Huw. Os oeddat ti’n brysur yn ystod y dydd, unig iawn ydi dy fin nosau di wedi bod yn y ddinas fawr. Mynd i’r gym deirgwaith yr wythnos, yr unig gysur – codi pwysa, rhedag yn ddiddiwedd yn dy unfan, chwysu’n wirion i wella ar nifer dy press-ups, a hynny nes bod cyhyra dy gorff di’n sgrechian. Ond er bod y gym bob amser yn llawn, ymarfer unig ydi o, yn ddieithriad. Dynion a merchaid o bob oedran ar goll yn eu byd bach eu hunain, a phawb, fel titha, yn troi am adra wedyn heb rannu sgwrs na phanad efo neb. Ydw, dwi’n sicrach nag erioed mai yn ôl yng Nghymru dwi isio bod… Ond be wnei di os ceith dy gais di ei wrthod eto gan Heddlu Gogledd Cymru, a thitha wedi rhoi notis i’r Mail on Sunday y byddi di’n gorffan efo nhw ddiwadd wythnos nesa? Dydi’r ffaith dy fod ti’n

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1