Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Sgŵp! - Nofel i Ddysgwyr
Sgŵp! - Nofel i Ddysgwyr
Sgŵp! - Nofel i Ddysgwyr
Ebook211 pages2 hours

Sgŵp! - Nofel i Ddysgwyr

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A humorous novel for Welsh Learners Foundation Level Two and Intermediate Level. Journalist Lowri Glyn feels that life on the newspaper Post Pen-y-bae is very dull, until everything changes one day! Useful vocabulary on each page.
LanguageCymraeg
PublisherGomer
Release dateJan 12, 2022
ISBN9781848519022
Sgŵp! - Nofel i Ddysgwyr

Read more from Lois Arnold

Related to Sgŵp! - Nofel i Ddysgwyr

Related ebooks

Reviews for Sgŵp! - Nofel i Ddysgwyr

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Sgŵp! - Nofel i Ddysgwyr - Lois Arnold

    Pennod 1

    Yr Ystafell newyddion

    Un diwrnod hoffwn i weithio i bapur newydd enwog. Baswn i’n ysgrifennu storïau mawr, dramatig. Neu falle bydda i ar y teledu. Y Kate Adie newydd, yn gwisgo siaced fflac ac yn siarad â’r camera o ryw wlad dramor ecsotig.

    Mewn realiti dw i’n gweithio i bapur lleol o’r enw Post Pen-y-bae. Tre fach ar lan y môr yw Pen-y-bae. Mae hi’n bert, ond dyw hi ddim yn ecsotig iawn, yn enwedig yn y glaw. Ond mae pethau cyffrous yn digwydd yma weithiau … Canol mis Mai oedd hi, ond roedd hi’n bwrw glaw eto. Ar y dydd Llun hwnnw, ro’n i’n eistedd yn yr ystafell newyddion, yn teipio stori am faw ci ar y palmant. Ych a fi! Dyna i chi esiampl o waith diflas gohebydd ifanc: ysgrifennu am bethau fel baw ci, boreau coffi a sioeau blodau. Ond ro’n i’n breuddwydio am storïau pwysig, fel sgandalau’r banciau, hacio ffonau neu lasagne-cig-ceffyl. Gallwn i weld fy Stori Fawr ar y dudalen flaen:

    Sgandal ym Mhen-y-bae!

    gan ein gohebydd Lowri Glyn.’

    Daeth fy ffantasi i ben yn sydyn pan sgubodd y bòs, Gwenda James i mewn i’r swyddfa.

    ‘Brysur, Lowri?’

    Wps!

    ‘Jyst yn meddwl,’ atebais i. Dechreuais i deipio eto.

    Gwenda yw golygydd y papur. Mae hi’n brysio i bob man, fel tasai dim amser gyda hi i’w wastraffu. Mae hi’n siarad â llais posh, fel fy hen brifathrawes. Dw i’n edmygu Gwenda’n fawr, ond mae hi’n gwneud i fi deimlo’n nerfus.

    ‘Iawn, bawb, ydy popeth bron yn barod?’ gofynnodd hi.

    Mae Post Pen-y-bae yn dod allan bob dydd Iau. Rhaid i’r papur fod yn barod i fynd i’r argraffwyr ddydd Mawrth.

    ‘Ydy, dw i’n credu,’ atebodd Wil. Wil yw’r prif ohebydd. ‘Dw i wedi gorffen ein prif stori – am y fferm wynt maen nhw eisiau ei rhoi yn y môr. Roedd protest fawr ddydd Sadwrn.’

    ‘Gwych,’ dwedodd Gwenda. ‘Pa storïau eraill sy gyda ni ar y dudalen flaen?’

    ‘Mae siopau a busnesau’n colli arian o achos y tywydd ofnadwy,’ atebodd Nia. Mae Nia wedi bod yn gweithio i’r papur ers dros ugain mlynedd. Mae hi’n nabod pawb ym Mhen-y-bae ac yn clywed y clecs i gyd.

    ‘Stori bwysig,’ dwedodd Gwenda. ‘Beth arall?’

    ‘Mae’n bosib bydd y Tywysog William a Kate yn ymweld â Phen-y-bae flwyddyn nesa!’ atebodd Nia. ‘Ac mae postmon lleol yn gobeithio bod ar Britain’s Got Talent. Mae e’n gallu garglio Calon Lân.’

    ‘Duw a’n helpo!’ meddai Gwenda. Trodd hi ata i. ‘Beth sy gyda ti, Lowri?’

    ‘Stori am faw ci. Ac un am y clwb garddio. Mae rhywun wedi ennill medal am dyfu moron mawr. Oes rhywbeth arall dych chi eisiau i fi wneud?’ gofynnais i’n obeithiol.

    ‘Wyt ti wedi gwneud y llythyrau?’

    Fi sy’n teipio’r llythyrau mae pobl yn eu hanfon i’r papur. Mae pobl Pen-y-bae’n hen ffasiwn. Maen nhw’n hoffi ysgrifennu â llaw. Ac mae eu llythyrau nhw’n hir, hir iawn.

    ‘Dw i bron â’u gorffen nhw.’ Gobeithio bod Gwenda ddim wedi gweld y pentwr mawr o lythyrau oedd yn aros ar fy nesg!

    ‘Iawn. Nawr ’te, mae cwpl o storïau bach eraill wedi dod i mewn,’ meddai Gwenda.

    ‘Beth ydyn nhw?’ gofynnodd Wil.

    ‘Mae prosiect ‘Cadw’n Heini’ yn dechrau yfory. Bydd nyrsys yn arwain grŵp cerdded i bobl sydd â phroblemau iechyd. Wnei di fynd, Nia?’

    ‘Fyddan nhw ddim yn mynd yn y glaw, fyddan nhw?’ protestiodd Nia.

    Atebodd Gwenda ddim.

    ‘Wil, mae’r RNLI yn codi arian yn y dre bore ’fory. Hoffet ti wneud darn amdanyn nhw?’

    ‘Iawn. Unrhyw beth arall?’

    ‘Oes. Mae fandaliaeth wedi bod ym mharc carafanau Happy Haven. Gadawodd rhywun neges gyda Sharon y bore ’ma.’ Sharon yw’r dderbynwraig.

    ‘Happy Haven?’ dwedais i. ‘Ro’n i’n arfer byw yno, pan o’n i’n blentyn. Dw i’n nabod y lle’n dda.’

    ‘Cei di wneud y stori, felly, Lowri,’ dwedodd Gwenda.

    ‘Grêt, diolch.’

    Falle bod Stori Fawr yma! meddyliais i.

    Pennod 2

    Y Criw

    Ar ôl i Gwenda fynd yn ôl i’w swyddfa dechreuodd Nia gwyno.

    ‘O grêt, taith gerdded!’ Edrychodd hi ar ei sgidiau coch, sgleiniog gyda’u sodlau uchel. ‘Dylet ti fynd gyda nhw, Wil. Gallet ti gwrdd â nyrs fach neis.’

    Roedd Nia wastad yn ceisio trefnu cariad newydd i Wil. Roedd Wil yn arwain Côr Meibion Pen-y-bae. Y llynedd roedd gwraig Wil wedi rhedeg i ffwrdd â bariton o Gôr Meibion Aberglas. Ac roedd Côr Aberglas newydd ennill yn yr eisteddfod. Nawr unig ddiddordeb Wil oedd curo Aberglas yn yr eisteddfod nesa.

    ‘Hoffwn i gwrdd â dynion yr RNLI,’ aeth Nia yn ei blaen. ‘Maen nhw’n hyfryd!’

    ‘Mae merched yng nghriw’r bad achub hefyd,’ dwedais i.

    ‘Oes e? Chwarae teg iddyn nhw. Ond rhaid bod digon o hyncs, hefyd.’

    ‘Cei di fynd i siarad â nhw os wyt ti eisiau, Nia,’ meddai Wil. ‘Does dim ots ’da fi.’

    Dyw Wil ddim yn ymddwyn fel bòs. Tasai Wil yn gi, basai e’n hen Labrador caredig. Basai Nia’n rhywbeth tal a hardd, fel Ci Affgan. Beth amdana i? Daeargi Yorkie, siŵr o fod. (Dw i’n fyr, gyda llygaid brown, trwyn smwt a gwallt brown golau, sy bob amser yn fy wyneb.) Dw i ddim yn gallu gweld Gwenda fel ci. Teigr, falle.

    ‘Diolch, Wil, ond gwell i fi fynd i weld y blincin grŵp cerdded ’na, neu bydd Gwenda’n cael ffit,’ atebodd Nia.

    ‘Dw i’n mynd lawr i siarad â Sharon am Happy Haven,’ dwedais i, gan godi o’r ddesg.

    ‘Pob lwc!’ meddai Wil.

    Rhedais i lawr y grisiau. Mae swyddfa Post Pen-y-bae mewn tŷ teras Fictoraidd. Mae’r adeilad yn bert ond mae’n ddrafftiog iawn ac mae eisiau côt newydd o baent arno fe.

    Lawr llawr mae’r dderbynfa, swyddfa Mrs Madoc, y rheolwraig, ac ystafell fawr lle mae’r staff hysbysebu’n gweithio. Lan llofft mae swyddfa Gwenda, y gegin a’r ystafell newyddion. Ar yr ail lawr mae archifau’r papur. Dw i wrth fy modd yn yr archifau. Mae storïau yno am yr hen wyrcws a seilam, am ddynion ifainc yn martsio bant i’r Rhyfel Byd Cyntaf, am gychod a llongau’n mynd i lawr yn y môr, holl hanes y dre ers 1882.

    Mae Sharon yn gweithio wrth y dderbynfa, felly hi yw’r person sy’n croesawu pobl sy’n dod i swyddfa’r papur. Neu sy ddim yn eu croesawu nhw, mewn gwirionedd. Dyw Sharon ddim yn hoff iawn o bobl. Yn enwedig, dyw hi ddim yn hoffi pobl sy’n ceisio siarad â hi pan mae hi’n brysur yn gwneud pos Sudoku. Mae Sudoku yn obsesiwn i Sharon.

    ‘Shwmae, Sharon?’ dwedais i.

    ‘Iawn.’ Wnaeth Sharon ddim edrych i fyny.

    ‘Ro’n i eisiau gofyn i ti am y neges gymeraist ti’r bore ’ma am Happy Haven.’

    Ysgrifennodd Sharon rif yn ei llyfr Sudoku. ‘Dw i wedi dweud wrth Gwenda’n barod.’

    ‘Dw i’n gwybod. Mae Gwenda wedi gofyn i fi fynd ar ôl y stori. Ond doedd dim manylion gyda hi.’

    Ochneidiodd Sharon. ‘Daeth hen ddyn i mewn, dweud bod rhywun wedi bod yn fandaleiddio’r lle, a bant â fe. End of.’

    ‘Beth oedd ei enw e?’

    ‘Ddwedodd e ddim.’

    ‘Doedd e ddim eisiau siarad â gohebydd?’

    ‘Nac oedd.’

    Doedd hi ddim wedi gofyn iddo fe, siŵr o fod, meddyliais i.

    ‘A does dim syniad ’da ti pwy oedd e?’

    ‘Nac oes. Wyt ti’n meddwl ’mod i’n seicic?’

    Erbyn hyn ro’n i’n teimlo fel siglo Sharon, felly es i’n ôl i’r ystafell newyddion i ffonio Happy Haven a dechrau ymchwilio i fy stori.

    Pennod 3

    Hen hipis

    ‘Prynhawn da. Dw i’n ffonio o’r papur Post Pen-y-bae. Ga i siarad â’r rheolwr, os gwelwch yn dda?’ Gobeithio ’mod i’n swnio’n broffesiynol, achos ro’n i’n teimlo’n nerfus iawn!

    ‘Dyw e ddim yma,’ atebodd dyn yn swta.

    ‘Pryd bydd e’n ôl, dych chi’n gwybod?’

    ‘Ffonia’n ôl yfory!’ Aeth y ffôn i lawr yn glep.

    Cyfeillgar iawn! meddyliais i. Pwy oedd Mr Blin, tybed? O wel. Basai rhaid i fi aros tan y bore a thrio eto.

    Treuliais i’r prynhawn yn teipio llythyrau. Roedd un gan Mr Ifor Pritchard, yn dweud ei fod e wedi gweld ‘iwffo’ yn hofran dros y môr. Dw i’n hoffi llythyrau Mr Pritchard. Y tro diwetha dwedodd e ei fod e wedi gweld siarc mawr gwyn. Nesa teipiais i lythyr am bobl ifainc yn yfed a chreu trafferth yn y dre gyda’r nos. Wedyn roedd un gan Mrs M. Evans, yn cwyno am wylanod. Pan oedd hi’n gadael y siop sglodion hedfanodd gwylan i lawr a dwyn ei swper. Gwylan yn Mygio Pensiynwraig! teipiais i, fel teitl.

    Tua thri o’r gloch cawson ni baned a darn o deisen lemwn Wil. Mae Wil yn gwneud teisennau blasus iawn.

    ‘Pryd o’t ti’n byw yn Happy Haven, Lowri?’ gofynnodd Nia. ‘Ro’n i’n meddwl taw lle i hen bobl oedd e.’

    ‘Ro’n ni’n byw yno pan o’n i’n blentyn. ‘Yr Hafan’ oedd ei enw e bryd hynny. Roedd llawer o deuluoedd ifainc yn byw yno. Roedd hi’n hwyl.’

    ‘Allwn i ddim byw mewn carafán,’ meddai Nia. ‘Dw i’n hoffi fy home comforts gormod. Fy stafell ymolchi. A lle i fy nillad a fy ’sgidiau.’

    ‘Mae’r home comforts i gyd mewn carafanau nawr,’ dwedais i. ‘Mae’r rhai modern fel byngalos. Ond dim un o’r rhai posh oedd ein carafán ni. Hen garafán gwyliau oedd hi. Ond ro’n ni’n meddwl ei bod hi’n foethus. Cyn hynny ro’n ni’n byw mewn tipi.’

    ‘Mewn tipi! Hen hipis yw dy rieni, felly?’

    ‘Ie. Yn yr haf ro’n ni’n arfer teithio o gwmpas mewn camper fan. Ro’n ni’n mynd i’r gwyliau pop, fel Glastonbury. Roedd fy mam a ’nhad yn gwerthu pethau yno.’

    ‘Beth, waci baci a madarch hud?’

    ‘Nage! Gemwaith, crysau-T, canhwyllau, pethau fel ’ny.’

    ‘Pam daethoch chi i fyw ym Mhen-y-bae, ’te?’ gofynnodd Nia.

    ‘Mae fy nhad yn dod o Ben-y-bae’n wreiddiol. Daethon ni yma i helpu fy mam-gu pan aeth fy nhad-cu’n sâl. Ond wedyn penderfynodd fy rhieni setlo lawr yma.’

    ‘Dw i’n synnu dim. Pedwar o blant mewn camper fan!’ dwedodd Wil. ‘Ble mae dy frodyr a dy chwiorydd nawr?’

    ‘Mae Dewi ym Mryste. Mae e’n gweithio i’r BBC, yn yr Adran Natur. Mae Owain yn Sbaen ar hyn o bryd, yn dysgu dawnsio Fflamenco. Ac mae fy chwaer Bethan yn byw yn Llundain. Actores yw hi – pan mae hi’n gallu cael gwaith.’

    ‘Waw, mae teulu diddorol gyda ti!’ meddai Nia.

    Mae pobl yn dweud hynny’n aml. Pan o’n i’n blentyn roedd y plant yn yr ysgol yn meddwl bod fy nheulu’n od. Roedd embaras arna i pan oedd fy rhieni’n dod i’r sioe Nadolig neu i noson rieni – Mam yn ei sgertiau Indiaidd gyda’i gwallt yn binc neu’n borffor, a Dad gyda’i sandalau a’i wallt a barf hir. Ond pan o’n i yn fy arddegau dechreuodd fy ffrindiau ddweud bod fy nheulu’n ‘cŵl’. Yr unig broblem oedd ’mod i ddim yn cŵl o gwbl. Do’n i ddim yn artistig nac yn dalentog. Ro’n i’n swil, ac ro’n i’n hoffi darllen a hanes. Ond basai hi’n wahanol un diwrnod, ro’n i’n arfer meddwl, pan faswn i’n ohebydd enwog!

    ‘Iawn, dyna ni, mae’n bump o’r gloch. Dych chi’n dod?’ gofynnodd Nia, gan godi o’i desg.

    ‘Ydw,’ atebodd Wil. ‘Dyna ddigon am heddiw.’

    ‘Dim eto,’ dwedais i. ‘Dw i eisiau gorffen hyn, fel ’mod i’n gallu mynd i Happy Haven bore ’fory.’

    ‘O ie, dy sgŵp mawr di!’ meddai Nia.

    ‘Iawn, nid ‘Trosedd y Ganrif’ yw hi,’ protestiais i. ‘Ond o leia dw i’n cael mynd ma’s ac edrych i mewn i stori fy hun. Ac os dw i’n gwneud job dda, falle bydd Gwenda’n gadael i fi wneud mwy.’

    ‘Ddylet ti ddim aros i Gwenda roi storïau i ti. Dylet i ti fynd ar ôl dy storïau dy hun.’

    ‘Wyt ti’n meddwl?’

    ‘Ydw, siŵr. Beth bynnag, tra byddi di’n gwneud dy waith ditectif yfory, bydda i’n cael ychydig o retail therapy.’

    ‘Beth am y daith gerdded?’

    ‘Ar ôl hynny. Bydd rhaid i fi basio’r siopau beth bynnag. Dw i eisiau ffrog newydd. Dw i’n mynd i glwb nos Salsa yfory!’ Dawnsiodd Nia ychydig o stepiau yng nghanol y swyddfa.

    ‘Dw i ddim yn gwybod ble rwyt ti’n cael dy egni,’ dwedodd Wil.

    ‘HRT a jin!’

    HRT? meddyliais i. Roedd Nia’n edrych yn rhy ifanc.

    ‘Falle dylwn i drio nhw!’ meddai Wil.

    ‘Reit, ta ta, Lowri. Paid â gweithio’n rhy galed!’ dwedodd Nia.

    ‘Hwyl. Gwela i chi yfory.’

    Pennod 4

    Ble mae pawb?

    Pan adewais i’r swyddfa gwelais i fod y glaw wedi stopio. Roedd yr haul wedi dod allan am y tro cyntaf ers wythnos. Es i i nôl fy meic a dechrau seiclo adre. Mae Pen-y-bae’n edrych yn hyfryd yn y tywydd braf. Roedd y môr yn las ac yn disgleirio yn yr haul. Yn sydyn, ces i’r syniad o fynd i Happy Haven ar unwaith. Gallwn i edrych o gwmpas a dechrau ar y stori’n syth!

    Pan gyrhaeddais i’r parc carafanau ces i fy synnu. Roedd giât fawr ar draws y ffordd. Pan o’n i’n arfer byw yma doedd dim giât o gwbl.

    Roedd arwydd wrth y giât yn dweud, ‘No Admittance to Unauthorised Persons. All Visitors to Report to the Office.’ Roedd un arall yn

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1