Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Glaw Trana
Glaw Trana
Glaw Trana
Ebook140 pages2 hours

Glaw Trana

Rating: 4.5 out of 5 stars

4.5/5

()

Read preview

About this ebook

A powerful, gripping novel to pull at the heartstrings. It is dangerous to keep old secrets. Will Now and Lois pay the price for the actions of their parents? Although a sequel to Mynd Adra'n Droednoeth, this novel is a complete story in its own right.
LanguageCymraeg
Release dateNov 10, 2020
ISBN9781912173556
Glaw Trana

Read more from Sonia Edwards

Related to Glaw Trana

Related ebooks

Reviews for Glaw Trana

Rating: 4.5 out of 5 stars
4.5/5

1 rating0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Glaw Trana - Sonia Edwards

    llun clawr

    Glaw Trana

    Sonia Edwards

    Gwasg y Bwthyn

    ⓗ Sonia Edwards 2017

    Gwasg y Bwthyn

    ISBN 978-1-912173-55-6

    Cedwir pob hawl.

    Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr.

    Cyhoeddwyd gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd gan:

    Gwasg y Bwthyn, Caernarfon

    gwasgybwthyn@btconnect.com

    Troswyd i e-lyfr gan Almon

    Er cof am Kelly

    Diolch i bawb yng Ngwasg y Bwthyn ac yn arbennig i Marred Glynn Jones am ei chyngor a’i chymorth yn ogystal â’i hamynedd di-flino bob amser!

    Y mae’r cefnfor yn torri – yn y bae,

    Mae bywyd yn corddi,

    Hithau’r don yn briwsioni

    Ewyn hen ein hangen ni.

    Harri Anwyl

    Prolog

    Nos

    Sbid. Twllwch. Mynd mor ffast dwi’m yn teimlo ’mod i’n symud. Ond dwi’n gweld bob dim o ’mlaen fel tasai hi’n ddydd. Gweld popeth yn llinellau glân, digyfaddawd. Ma’r nos yn siarp, yn finiog fel blêd. Noson glir ar ôl glaw. A sglein arian ar y lôn. Lôn lefn fel rhuban yn fy nghario i. Fy nhynnu i. Fath â taswn i’n fflio. Llwybr malwan o darmac gwlyb a gola ôl y lorri laeth yn dlws fel gola ffair. Dim ond rhoi ’nhroed reit i lawr. Ar y bôrd. Dyna’r cwbl ’sa isio. Un sbyrt arall.

    Ac wedyn clec.

    Ebargofiant.

    Llonydd.

    Deffro’n ddi-gorff, ddi-enaid, ddi-boen.

    Deffro heb hyd yn oed atgof. Deffro’n braf a finna’n ddim. Dim ond mwg melys, chwa o rwbath a fu, yn hongian ar yr awyr, yn gwrthod cweit diflannu’n llwyr o’r co’. Jyst glynu yna’n rhwla.

    Glynu.

    Goglais.

    Wylo.

    Fel tiwn ar hen gitâr.

    Lois

    Doedd o ddim yn ddigon iddi. Robat. Hi a Robat. Eu perthynas. Fu pethau erioed yn ddigon. Gwyddai hynny bellach. Efallai, yn ei chalon, ei bod hi’n gwybod o’r dechrau. Yn gwybod y byddai hi’n haws iddi drio’i thwyllo’i hun. Yn haws iddi chwarae gêm y berthynas berffaith gan mai dyna oedd arni hi ei isio’n fwy na dim. Gallu caru Robat yn llwyr.

    O, roedd hi wedi dyheu am y perffeithrwydd hwnnw, am deimlo’r wefr yn clymu’i pherfedd pan oedd hi’n edrych arno. Wedi deisyfu’r sioc drydan honno rhwng ei chluniau wrth i bennau’i fysedd gyffwrdd ei chroen noeth. Roedd hi wedi gorwedd yno wedyn a syllu i’r tywyllwch yn gwrando ar gwsg dyn wedi’i fodloni. Wedi gweddïo y byddai’r hud yn dod.

    Roedd o’n ei charu hi. Doedd ganddi ddim amheuaeth ynglŷn â hynny. Ac roedd ganddi hithau feddwl ohono yntau. Wrth gwrs fod ganddi. Oni bai am hynny fyddai hi ddim yn y fan hyn, yn na fyddai hi? Yn dewis anrheg Dolig arbennig iddo. Fyddai hi ddim yn trafferthu. Byddai potel o bersawr siafio’n gwneud y tro’n iawn. Byseddodd y bocs bach melfedaidd a oedd yn dal y cyfflincs. Roedd yr aur yn lân a llachar dan y golau trydan, golau melyn artiffisial yn mynnu bod popeth yn dlws. Doedd dim dwywaith na fyddai hwn yn bresant gwerth chweil. Gwisgai Robat goler a thei i’w waith bob dydd a gwyddai y byddai wrth ei fodd hefo pâr o gyfflincs aur. Pam felly na chafodd hi unrhyw bleser o’u dewis nhw? Pam na fedrai hi edrych ymlaen at weld ei wyneb wrth iddo’u hagor nhw fore Dolig? Pam nad oedd ots ganddi, y naill ffordd neu’r llall, a fyddai Robat yn eu hoffi nhw ai peidio?

    Derbyniodd gynnig y ferch tu ôl i’r cownter i lapio’r bocs iddi. Doedd hi’n cael fawr o bleser mewn gwneud pethau felly erbyn hyn. Bu amser pan fu hi wrth ei bodd yn dewis papur a rhuban i gydweddu ac yn cymryd ei hamser i greu parsel bach hudolus i berson arbennig. Rŵan, doedd ganddi hi ddim mynedd hefo hynny chwaith. Syllodd o’i chwmpas tra oedd y ferch yn lapio’r bocs. Roedd popeth yn y siop yn fwy sgleiniog nag arfer a’r trimins Dolig chwaethus yn benderfynol o gystadlu gyda’r tywyllwch tu allan. Ddylai hi ddim teimlo mor fflat a di-ffrwt yng nghanol yr holl lewyrch a phob twll a chornel o’r lle’n sbarclo fel nyth pioden.

    Wrth i’w meddwl grwydro, daeth blewyn o sgwrs i’w chof, pwt o ddoethinebu a glywodd mewn ffilm dro byd yn ôl. Fedrai hi ddim dwyn i gof yn union pa ffilm oedd hi chwaith. Dim byd ofnadwy o enwog. Rhyw rom-com Americanaidd eitha anghofiadwy, debyg iawn. Rhywbeth i lenwi twll rhwng swper a gwely. Ond am ryw reswm roedd y geiriau yma wedi glynu yn ei phenglog ac roedden nhw’n dal i chwifio yno’n rhywle fel cudyn o wlân ar weiren bigog. Roedd dwy ferch yn eistedd mewn caffi’n trafod eu bywydau carwriaethol ac meddai un ohonynt am ei pherthynas ei hun, ‘I think we’ve lost the magic.’ Atebodd y llall gan godi’i golygon o’i chwpan goffi, ‘You sure you ever had it, honey?’

    Wrth i Lois wylio’r bocs cyfflincs glas tywyll yn troi’n anrheg Dolig dirgel a deniadol, meddyliodd tybed beth fyddai Robat wedi’i brynu iddi hi eleni. Cofiai iddi awgrymu wrtho yn nyddiau cynnar eu perthynas y byddai hi wedi lecio cael modrwy. Nid modrwy ddyweddïo o angenrheidrwydd. Ond roedd modrwy’n symbolaidd, yn doedd? Yn clymu rhywun. Roedden nhw wedi bod hefo’i gilydd ers dwy flynedd bryd hynny. Yn sôn am brynu tŷ hefo’i gilydd. Roedd arni angen y sicrwydd. Angen teimlo’i bod hi’n perthyn iddo. Angen teimlo fod pethau’n mynd i weithio.

    Troi’r stori wnaeth o bob tro roedd hi’n sôn am fodrwy. Troi’r peth yn rhyw fath o jôc. A’r Dolig hwnnw, prynodd freichled iddi. O, oedd, roedd hi’n freichled fach ddel. Ond roedd y siom yn pigo’i gwddw fel briwsionyn pan welodd hi fod y bocs yn rhy fawr i fod yn focs modrwy. Hithau’n sylweddoli hefyd cyn lleied roedd o wedi’i dalu am y freichled, a theimlo rhyw wacter rhyfedd. Roedd o ar gyflog taclus. Ai dyna’r gorau y gallai ei wneud? Difaru wedyn am feddwl pethau mor blentynnaidd ac arwynebol. Ei cheryddu’i hun. Nid pris anrheg oedd yn mesur ei werth, siŵr iawn. A gwyddai yn ei chalon nad y freichled na’i phris oedd ei phroblem mewn gwirionedd.

    You sure you ever had it, honey?

    Wrth dalu am y cyfflincs a’u sodro o’r golwg yng ngwaelod ei bag, dechreuodd feddwl efallai mai bendith oedd hi, wedi’r cyfan, na chafodd hi gynnig modrwy ganddo erioed.

    Anni

    Plygodd Anni’r dilledyn olaf. Trowsus ysgol Cian. Roedd yna lai o waith smwddio rŵan. Dim crysau gwaith i Now ers y ddamwain. Syllodd allan dros ben y tŷ gyferbyn. Roedd cynffon enfys i’w gweld, ar ôl y glaw trana gynnau, yn glanio fel cryman yn rhywle annelwig yng nghanol drysi Nant Gwyndy yn y pellter. Taswn i’n sefyll yn fan’no rŵan, meddyliodd, yn yr union le mae’r lliwiau’n darfod, a ’nhraed yn tampio yn y glaswellt gwlyb, fyddai hi ddim yno. Yr enfys. Mi fedrwn chwilio amdani nes bod fy llygaid i’n dyfrio ond fyddwn i ddim yn cael hyd iddi go iawn. Twyll ydi hi i gyd.

    Cadwodd ei dwylo’n fflat am ennyd ar ben y trowsus roedd hi newydd ei smwddio. Roedden nhw’n dal gwres yr haearn o hyd, yn gynnes fel rhywbeth byw. Sylwodd ar y rhimyn gwelw o groen ar ei bys lle bu ei modrwy briodas. Roedd hi wedi’i thynnu hi ar y diwrnod y cafodd Now a hi’r ffrae. Diwrnod y ddamwain. Y diwrnod y gwelodd hi’r datganiad banc ac enw’r siop flodau. Roedd hi wedi’i amau o ers tro. Y tawedogrwydd. Y mŵds. Y pellhau.

    ‘Pwy ydi hi’r tro yma, ta?’

    Thrafferthodd o ddim i edrych arni.

    ‘Neb.’

    ‘Rhyw neb sy’n ddigon pwysig i ti brynu bloda iddi hefyd.’

    Roedd hi’n cwffio’i dagrau’n galed, yn gwasgu gwenwyn i’w geiriau rhag iddo weld gwendid. Yn gwneud ei gorau, unwaith yn rhagor, i drio’i gasáu.

    ‘Sgin ti’m hawl i fynd drwy ’mhetha i. Busnesu uffar. Dyna ti’n ei gael.’

    Dywedodd y cyfan mewn rhyw islais undonog, bron yn ddifater. Wnaeth o ddim hyd yn oed godi’i lais. Hi oedd yn gwneud hynny rŵan, yn methu’n glir â’i rheoli’i hun. Dagrau o ddicter oedden nhw erbyn hyn, o rwystredigaeth. Doedd o ddim yn malio digon i ffraeo’n ôl ac mewn rhyw ffordd ryfedd, wyrdroëdig roedd hynny fel petai o’n gwneud popeth yn saith gwaeth. ‘Dyna ti’n ei gael’. Dyna ddywedodd o. Lluchiodd ei eiriau yn eu holau ato, bwledi bach o gasineb. Gwatwarus. Ailadroddus. Desbret.

    ‘Dyna dwi’n ei gael, meddet ti? Dyna dwi’n ei gael?’ Swniai’r cyfan yn blentynnaidd a phathetig o’i ddweud yn uchel ond fedrai hi mo’i hatal ei hun: ‘Ddyweda i wrthat ti be dwi’n ei gael, Now. Dwi’n cael bastad gwael fath â chdi sy’n hel ei din bob cyfle geith o. Dyna dwi’n ei gael!’

    Roedd hi’n trio’i gyrraedd o, yn trio’i frifo fo’n ôl ac yn methu’n druenus. Doedd o’n dangos dim emosiwn, ei wyneb o’n fasg o ddifaterwch. Gostyngodd ei llais cyn rhoi cynnig arall arni. Cyn i rym ei hewyllys ei gadael.

    ‘Be oedd arbenigedd hon, ta? Llyncu yn lle poeri?’

    Edrychodd arni wedyn. Wyddai Anni ddim o le daeth y geiriau olaf hynny ond o leia fe gawson nhw’r effaith roedd hi wedi gobeithio’i gael. Roedd y tro hyll yn ei wefusau’n ei dychryn hi ond daliodd ei lygaid. Roedd hi wedi mynd yn rhy bell i dynnu dim yn ôl. Siaradodd Now’n fwriadus, bron yn bwyllog, ond roedd teimlad yn ei lais y tro hwn: ‘Gwrando wnaeth hi, Anni. Weithiau mae hynny’n ddigon. Hyd yn oed i fastad gwael fath â fi.’

    Wyddai hi ddim mai dyna’r geiriau olaf fyddai o’n eu dweud wrthi’r diwrnod hwnnw. Y cyfan a wyddai’r funud honno oedd eu bod nhw wedi’i llorio hi’n fwy na’r ffling ddiweddara ’ma roedd o wedi’i chael. Fo oedd wedi twyllo ac eto hi, Anni, oedd yn teimlo’n euog. Un felly fu Now erioed. Roedd ganddo ffordd o ennill dadl heb gwffio’n ôl. Casâi hithau’r clyfrwch hwnnw ynddo erioed. Ei allu i droi pethau arni hi. Gadawodd i hynny ei chorddi am weddill y dydd a daeth ei chwerwedd yn ei ôl. Fo fu’n anffyddlon, nid y hi. Doedd hi ddim yn mynd i ddechrau cyfiawnhau ei resymau dros ei thwyllo. Byddai’n rhy hawdd maddau iddo pe bai hi’n hel esgusion. Yn lle hynny, tynnodd ei modrwy a’i lluchio i’r pot ar sìl ffenest y gegin, hen bot blodau gwag a oedd yn dal pob math o ’nialwch. Ac yno y bu hi wedyn, yng nghanol casgliad o hen washars a cheiniogau a goriadau sbâr. A neb yn cofio dim mwy amdani.

    Oherwydd na ddaeth Now adref o’i waith fel arfer y noson honno. Oherwydd fod yr heddlu wedi landio ar stepan y drws eiliadau cyn iddyn nhw ryddhau bwletin ar y newyddion am ddamwain ddifrifol ar y ffordd ddeuol. Bu gwrthdrawiad rhwng car a thancer yn cario llaeth. Neb yn siŵr iawn beth oedd wedi digwydd ond roedd gyrrwr y car yn bur wael yn yr ysbyty. Roedd gyrrwr y lorri wedi dianc yn ddianaf.

    Yn ôl pob sôn,

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1