Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Heb Law Mam
Heb Law Mam
Heb Law Mam
Ebook105 pages1 hour

Heb Law Mam

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A novel about Efa who experiences difficulties among her school 'friends' while her mother is in hospital. No-one really understands her, apart from her mother. The novel deals with themes such as fake friendship, family and romantic problems, with a good dollop of humour and doodles, in the style of the Dork Diaries.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateJun 18, 2020
ISBN9781784619367
Heb Law Mam

Read more from Heiddwen Tomos

Related to Heb Law Mam

Related ebooks

Related categories

Reviews for Heb Law Mam

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Heb Law Mam - Heiddwen Tomos

    cover.jpg

    I Gruff, Swyn a Tirion,

    ac i blant hyfryd Ysgol Bro Teifi.

    Diolch i’m teulu, i Meinir, Robat a’r Lolfa am eu cefnogaeth. Diolch hefyd i Sion Ilar am gynllunio’r clawr ac i Lily Bassett am y dwdls.

    Argraffiad cyntaf: 2020

    © Hawlfraint Heiddwen Tomos a’r Lolfa Cyf., 2020

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Cynllun y clawr: Sion Ilar

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-78461-936-7

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    Ffrindiau

    ‘P

    aid ti mentro!’

    gwaeddodd Efa. ‘Paid!’

    Roedd bys ei ffrind ar fotwm ‘SEND’ ei ffôn a’i hwyneb yn un wên fawr, slei. Merch felly oedd Gwen.

    ‘O, plis, c’mon. Pas e’n ôl!’ ymbiliodd Efa yn ofer. Ymestynnodd ei llaw am y ffôn, a’i chorff fel cwlwm.

    Roedd Efa’n dwli ar Cai ers misoedd, ond doedd danfon neges ato ddim yn syniad da. Dim nawr. Gwyddai Efa bod gadael i’w ffrind Gwen gael gafael ar ei ffôn yn gamgymeriad. Yn gamgymeriad mawr.

    ‘Paid! Reit, sai’n jocan!’ Ond lledodd gwên slei Gwen i’w llygaid. ‘Ffrind’, dyna oedd Gwen. Rhyw gwmni dan din. Rhyw fwli wyneb angel. Dyw merched byth yn ffrindiau, meddyliodd Efa. Roedd y mwyafrif yn slei, yn greulon, yn bwdlyd ac yn ddauwynebog.

    Doedd Cai ddim yn gwybod ei bod yn ei ffansïo. Ond roedd eiliad wan o rannu cyfrinachau gyda Gwen, rhyw nos Wener gysglyd, rhwng bwyta Pringles a barryn anferth o siocled, yn newid pob dim.

    Teimlodd fel rhoi pwniad neu binsiad i fraich Gwen. Doedd Gwen ddim yn ferch neis. Ond roedd yn siŵr o gael lot o ffwdan os gwnâi hynny. Roedd Gwen yn boblogaidd. Roedd pawb yn hoffi Gwen. Pawb. Pawb yn meddwl ei bod yn cŵl ac yn bert – ei chorff yn siâp lolipop, ei chroen heb yr un sbotyn arno. Ych! Gallai fynd mlaen, ond pa werth oedd yn hynny?

    ‘Bydd e’n sbort,’ gwaeddodd Gwen wrth wenu rhwng ei dannedd metal. (Roedd ganddi fres ers rhyw fis.) ‘Fel hyn bydd e’n gwbod bod ti’n ffansïo fe.’

    ‘Na! Sai moyn iddo wbod, ocê?! Dim nawr. Bydd e’n embarrassing!’ Ond roedd hi’n rhy hwyr, roedd y neges wedi ei hanfon.

    Cochodd Efa. Teimlodd gymysgedd o siom ac atgasedd tuag at ei ‘ffrind’. Gwenodd honno fel hen gath.

    ‘Pam ’nest ti ’na?’

    ‘O wir, Efa, sdim ise iti fod mor serious am bopeth, dim ond jocan. Bydd e’n sbort. Ti byth yn gwbod, falle fydd e’n… wel, ffansïo ti’n ôl, er bod hynny’n anodd dychmygu.’

    Roedd ei chwerthin yn crafu clustiau Efa. Ond doedd fawr o obaith ganddi i ddianc. Roedd hi i fod i aros gyda Gwen dros nos. Difarodd addo y byddai’n gwneud. Doedd dim hwyl mewn cysgu yn yr un ystafell â’r gwcw hon.

    Cododd Efa ar ei thraed a chael gafael yn ei ffôn o law bica ei ffrind.

    ‘Pas e’n ôl reit, fi wedi blino.’ Daliodd ei llaw. Ei hwyneb yn ymbil amdano.

    ‘Mawredd, paid llefen,’ meddai Gwen gan barhau i chwerthin. Cododd yn sydyn gan adael y ffôn i ddisgyn yn ddi-ffws wrth ochr y gwely. Dihangodd drwy’r drws.

    ‘Ma-am, oes rhagor o bitsa ar ôl?’ Aeth am i lawr yn droednoeth, a’i hyder yn hofran o’i hôl.

    Roedd calon Efa yn ei slipers. Teimlodd gywilydd o fod wedi datgelu ei bod yn hoffi Cai. Teimlodd hefyd ofn o’i ddychmygu yn darllen y neges. Yn chwerthin am ei phen. Yn rhannu’r neges gyda’r bechgyn eraill. Gallai Efa ddychmygu’r gêm rygbi ddydd Sul. Gwen yno gyda’i brawd mawr, capten y tîm, a Cai druan yn destun sbort. Tynnu ei goes bod rhywun mor blaen ag Efa wedi bod mor ewn ag anfon neges ato yn dweud rhywbeth mor dwp â… Ailddarllenodd y neges.

    Hei Cai, wyt ti’n ffansio fi?

    O mam fach, roedd ei chalon yn rasio o hyd a’r siom yn gwlwm yn ei stumog. Gallai dagu Gwen am fod mor slei.

    Gallai glywed Gwen yn chwerthin o’r gegin oddi tani. Gallai glywed sŵn y teledu anferth yn bloeddio. Teimlodd hithau’n dawel a di-liw yn yr ystafell wely ddieithr. Pam na allai fynd adre? Dianc o’r cwbl? Dweud wrth ei mam. Ond fyddai hynny ddim ond yn gwneud pethau’n waeth. Roedd yn rhaid iddi aros. Doedd ganddi ddim dewis ond cyfri’r oriau tan y bore. Ond, o! Roedd hi’n mynd i fod yn noson hir. Dim ond hanner awr wedi wyth oedd hi.

    ‘Wyt ti moyn pitsa, Efa?’ Clywodd weiddi mam Gwen. Gwyddai y byddai’n rhaid iddi fynd am i lawr a diolch yn barchus am y bwyd.

    Roedd mam Gwen cynddrwg â Gwen. Hen styllen o fenyw dal. Dannedd a gwallt fel dol a’i hyder fel wal. Oedd, roedd hi’n fenyw drawiadol. Yn bert hyd yn oed. Ond doedd hi ddim yn bert ar y tu fewn, a dyna, yn ôl mam Efa, oedd yn bwysig. Doedd hynny’n ddim cysur i Efa. Pwy ddiawl oedd am fod yn bert ar y tu fewn? Doedd neb yn mynd i weld hynny.

    Teimlodd Efa lygaid y ddwy arni. Llygaid Gwen a llygaid mam Gwen fel dyrnau bach yn gwasgu’r hyder lleiaf ohoni.

    ‘Wel, Efa, dwi’n clywed bod sboner gyda ti? Ha!’

    Piffiodd Gwen wrth glywed geiriau ei mam.

    ‘Nag oes, dim ond…’

    ‘Ha, Cai, Mam. Mae’n ffansïo Cai.’

    Roedd Cai wrth gwrs yn adnabod y teulu ers blynyddoedd. Yn ffrindiau gyda brawd mawr Gwen hefyd. Roedd hyn yn gwneud pob dim ganwaith gwaeth.

    ‘O, Cai, mab Ffiona. Ooo, ni’n nabod Cai ers ei fod e’n yr ysgol feithrin. Dala llaw gyda Gwen o dan y ford amser stori. Ha… ac wyt ti’n meddwl bydd e’n dy ffansïo di? O, trueni.’

    Teimlodd gywilydd. Bu bron i Efa ddweud ei bod yn teimlo’n sâl yn y gobaith y câi fynd adre. Ond doedd ei mam ddim adre. Doedd ei mam ddim wedi bod adre ers wythnos. Roedd ei thad wedi gorfod mynd i’r ysbyty ati heno, ac felly doedd neb gartref i’w chasglu beth bynnag.

    Cynnig er mwyn esgus bod yn ffrind da wnaethon nhw. Ac roedd ffrindiau esgus gystal â dim ffrind o gwbwl.

    ‘Na, dim ond jocan o’n i.’ Ymdrechodd gyda gwên-dim-dannedd. Ond roedd dannedd Gwen yn hen gyfarwydd â chnoi. Cnodd.

    ‘Nage, Efa. Sdim ise iti weud celwydd. Ni i gyd yn ffrindie fan hyn. Wel, ti byth yn gwbod, ma pethe od yn gallu digwydd.’ Piffiodd a chrafu’r caws o does y pitsa.

    Cochodd Efa eto. Cynigiodd Gwen damaid o bitsa iddi. Derbyniodd ef yn dawel er mwyn cael tynnu’r sylw oddi ar ei gruddiau coch.

    Aethant i wylio ffilm wrth ei fwyta a theimlodd Efa ryw ryddhad o gael dianc o lygaid ffug garedig Gwen a’i mam.

    ‘Ma’r

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1