Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Esgyrn
Esgyrn
Esgyrn
Ebook214 pages3 hours

Esgyrn

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A raw novel about a grandfather's relationship with his grandsons. The relationshipsa portrayed are tender, credible and memorable. Touching on both traditional and modern themes such as belonging and inheritance, incomers and love, the flowing dialogue and narrative contains a good pinch of humour.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateMay 10, 2019
ISBN9781784616939
Esgyrn

Read more from Heiddwen Tomos

Related to Esgyrn

Related ebooks

Reviews for Esgyrn

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Esgyrn - Heiddwen Tomos

    cover.jpg

    I Mam-gu a Dad-cu Fronddu a Dolglwm

    Diolch i Sion, y gŵr, ac i’r plant

    am bob cefnogaeth ac ysbrydoliaeth.

    Diolch o galon i Meinir a Huw am eu gwaith a’u cwmni ar hyd y daith,

    i Olwen Fowler am y clawr ac i’r Lolfa am wireddu’r cwbwl.

    Argraffiad cyntaf: 2018

    © Hawlfraint Heiddwen Tomos a’r Lolfa Cyf., 2018

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Cynllun y clawr: Olwen Fowler

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-78461-693-9

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    Porfa

    ‘D ere, gwd gyrl. Chei di ddim dolur. Dim ond moyn siarad, yndyfe. Deall ein gilydd, ni’n dou, deall ein gilydd ers o’t ti’n hen un fach.’

    Llithrodd y poer o’i geg fel lasen wlyb, hen boer melyn yn cydio yn nrain ei farf. Tywod caled ei ên heb siafo yn glafoeri amdani.

    ‘Dere, gwd gyrl, fe af â ti gytre, byddan nhw’n becso ble est ti, tyl. Dere mlân, dwi’n gwbod bod ti ’ma’n rhywle… Jyst cod dy ben. Fe af fi’n ôl â ti at dy fam, sdim ise i ti lefen. Bydd pethe fel o’r blân. Dim ond chware, yndyfe. Ti a fi. Dim ond chware caru… Caru ti, tyl!’

    Gorweddodd yn y cyhûdd. Doedd dim iws iddi symud yr un fodfedd. Gwyddai ei fod yntau’n ei gwylio. Roedd dwylo’r dail wedi dechrau gwlychu eu ffordd drwy ddefnydd ei sgert. Gorweddodd. Methodd symud gan wybod ei fod yntau gerllaw. Curodd ei chalon. Carlamu curo’n fud i bawb ond y hi fach, yn ddiamddiffyn ddof, yn gweddïo y byddai’r cysgodion yn ddigon i’w chadw rhagddo. Gallai fod adre nawr, pe na bai wedi mentro. Beth oedd angen iddi fentro? Gwlybaniaeth eto ac oerfel. Traed. Sŵn traed a chwerthin gwddf. Rhegi chwerthin ac udo i godi ofn. Cadwodd ei phen yn isel. Cadwodd ei chorff yn is. Gorweddai yn ei charchar. Camau yn agosáu. Agosáu ati a hithau’n gwybod nad oedd ganddi’r egni i redeg dim mwy. Roedd wedi rhedeg lled dau gae i ddianc rhagddo. Neidio cyn hynny dros y gât bren a dal ei phen-glin arni nes ei bod yn gwaedu’n dawel bach drwy’r defnydd. Dolur. Difaru. O dduw, gad ifi ddod o fan hyn. Gad ifi. Safai’r dderwen yn hen ŵr carpiog, heb ei dail a’i brigau; ar wrych, fel gwallt heb ei gribo.

    Munudau. Anadlu rhyddhad. Tawelwch. Mae’n siŵr ei fod wedi mynd erbyn hyn. Cwningen fach yn chwarae cwato. Clustfeinio wrth y pridd. Parlys ym mhob awelyn bach, pob smic, pob siffrwd. Symudodd ei bysedd yn dawel o un dwrn gwair i’r nesaf. Carreg. Gallai gael gafael mewn carreg. Rhywbeth i dorri drwy lygad neu ddant neu ddwrn. Cleisio’r croen.

    Dyn yn cwrso. Dyn yn ei dilyn. Dyrnau fel drysau a llygaid hebog. Roedd arni ofn. Ofn marw. Ofn yn crafangu amdani, yn ei bwyta bob yn damaid. Sŵn symud eto ac yna dim. Hithau’n llonydd fel rhew ar lyn yn crafu’r pridd oddi tani am arf i’w hamddiffyn. Anadlu. Llyncu, poer ei cheg yn sych. Cangen? Beth pe gallai ddringo? Beth pe gallai godi o’i gwâl a dringo’n uwch i gysur gwag y canghennau uwch ei phen? Gallai gicio wedyn. Gallai gwato. Gadwch lonydd i fi. Pam na wrandawes i? Y goedwig yn dechrau ymlacio. Dechrau suo. Methai symud dim. Dim ond gwrando ar ddyfnder ei hanadlu yn murmur yn ei mynwes.

    Munudau’n meddalu’r ofn. Sŵn. Dyn yn dannod. Cyfle wedi ei golli. Gallai hithau deimlo’r gwaed yn pwmpio yn ei phen. Y dagrau’n tagu yn ei llygaid. Yr ofn yn gadwyn am ei choesau. Ysai am gael dianc yn ôl at ei mam. At ei brawd bach. Cau drws y tŷ a’i gloi ganwaith. Clywodd ei gerddediad yn agosáu. Dwy esgid gadarn. Anadlu. Crafu trowser gwaith ar borfa grin. Cerrig dan draed a phridd caled mis Hydref yn cnoi dan ei sawdl. Anadlu mwy. Dyfnach. Rhaid codi. Rhaid rhedeg. Rhaid dianc.

    Gwelodd ei chyfle. Cydiodd yn ei sgert a’i chodi er mwyn cael ymestyn ei chamau. Rhedodd, a’i chamau’n llamu dros y tir. Llamu er mwyn dianc. Calon yn rhacso’i rhythm. Gwaed yn grofen yn ei gwddf. Anadlu eto. Llygaid fel dwy soser yn banig i gyd wrth anelu am foelni’r cae rhedynog. Clywodd yntau’n troi. Clywodd y drwsgwl gamu, ei esgidiau gwaith yn tasgu amdani. Dilyn fel ci ar ôl cwningen. Rhedeg; cae yn troi’n gerrig yn glogwyn; yn gware. Cware agored yn ddiwedd y byd. Dim lle i ddianc. Gripell yn agosáu. Creigiau yn greithiau. Noethni’r cerrig bras, y ceibio cyson i adael dim ond bylchau hyll o’u hôl.

    Rhedeg. Parhau i redeg. Yntau yn ei dilyn ar dân i’w dal. Arafu. Blinder yn ei hangori.

    Mae’n gweld y clogwyn o’i blaen.

    Coedwig

    ‘H en hewl oedd hon. Hen hewl i gario’r meirw lan i’r eglwys. Dyna beth wedodd Dad-cu.’

    Llusgo am yn ôl roedd Twm, a’i wyneb fel balŵn wrth dynnu ei frawd lan y gripell tuag at yr allt. Allt yn llawn coed esgyrnog oedd hi, ond coed yn eu dillad serch hynny.

    ‘Flynydde ’nôl roedd pobol yn byw ffordd hyn. Yn byw yn y cwm mewn tai to shinc. Lawr fan ’co a fan ’co.’

    Tynnodd anadl hir wrth halio’i frawd bach yn ei gadair olwyn dros wreiddyn coeden. Roedd clychau glas yn drewi yn yr haul a shwish y coed uwch eu pennau’n anadlu bywyd i’r hen le.

    ‘Wedodd Dad-cu os ei di draw ddigon i’r ca’ drws nesa, galli di weld hen olion. Ma cerrig mawr yn cwato dan y mwswg ’co.’

    Ni ddywedodd ei frawd yr un gair. Dim ond gadael i’r bachgen un ar bymtheg oed ei lusgo a’i wthio a’i ddiawlo’n dawel. Allai ddim diolch iddo gyda geiriau, ond pe medrai fe wnâi. Cododd ei ddwrn plyg yn hergwd cyflym tuag at ei fron ac yngan rhyw sŵn o’i wddf yn arwydd ei fod yn deall ac yn gwerthfawrogi’r ymdrech i’w lusgo dros y caeau yn ei gadair olwyn. Ei garchar cysurus. Chwythodd Twm a straffaglu tan i’r gadair ddechrau rowlio am yn ôl. Gwaeddodd ar ei ffrind,

    ‘Mowredd dad, dal e. Dal e! Tyn dy ddwylo mas o dy bocedi, Macsen, a sac dy dro’d yn erbyn y whîlen ’na. Dere mlân, achan… Watsho fi’n pwsho fan hyn a tithe’n neud dim ond lled dy din!’

    Roedd Macsen yn dew. Gwyddai ei fod yn dew am fod pawb yn dweud hynny wrtho. Macsen wledig yn byw mewn tŷ cownsil, a’i fam yn gredwr cryf mewn prydau parod. Cafodd ei enw am fod ei fam ar y pryd yn ffan mawr o Dafydd Iwan. (Ac roedd e, wrth gwrs, yn cofio Macsen.) Dim ond digwydd dod am wâc roedd Macsen am fod ei fam wedi torri drwy gêbls y teledu mewn ymdrech i’w symud rhyw damaid.

    Llusgodd led y cae sych gorcyn, rhyw ddau gam diogel y tu ôl i Twm a’i frawd, Berwyn. Twm yn hwpo Berwyn yn ei gadair olwyn ac yntau yn ei esgidiau rhedeg newydd, na fuodd erioed yn yr un ras.

    ‘Beth yffach sydd ise i ni fynd i’r allt yn y lle cynta ’de, gwed?’ tuchodd Macsen. ‘Sdim Xbox ’da ti?’

    ‘Xbox? Nag oes, sdim Xbox ’da ni!’ poerodd Twm, a’r chwys yn diferu i lawr ei dalcen. ‘Cer gytre os nag wyt ti moyn dod ’da ni!’

    Cwmni oedd Macsen, nid ffrind mewn gwirionedd. Cwmni diflas. Cwmni nad oedd yn deall beth oedd bod o dan draed.

    ‘Beth yffach wyt ti’n ffwdanu llusgo fe mas ffordd hyn? Fyse fe ddim yn rhwyddach i ti adael e o flân tân? Symo fe’n deall— !’ Bu bron iddo ddweud ‘dim’ ond sylwodd ar lygaid amddiffynnol Twm yn rhuddo’n dwym. ‘Ie, jyst gweud o’n i. O’n i ddim yn pigo ffeit,’ pwdodd.

    Trodd Twm ei olygon yn ôl at ei frawd bach a oedd wedi llithro rhyw damaid yn ei sedd. Penderfynodd ei godi a’i gario weddill y ffordd. Doedd olwynion y gadair werth dim ar y tir gwlypaidd yng nghysgod yr allt fach. Cyrhaeddodd lecyn da i gael hoe. Trefnodd e yn ei gôl a’i gario’n lletchwith i eistedd ger boncyff cringras gerllaw.

    ‘Cer o dan dra’d os nag wyt ti moyn helpu… Neu cydia yn ei garthen a hwp hi fan’na. Glou nawr… Glou. Sac hi dan ei din e. Dim fan’na. Diawch ti’n dwp. Ma rhywbeth yn blydi dwp ambiti ti, yn does e?’ Chwythodd wrth straffaglu.

    Cododd Macsen ei drwyn a’i sychu’n frwnt ar gefn ei law. Surodd ei lygaid a difaru dod. Edrychodd yn hiraethus ar hyd y llwybr hir y bu’n ei droedio ers dros dri chwarter awr a phenderfynu gwneud y gorau o’r prynhawn. Doedd treulio hanner awr arall yn cerdded adre, heb gael hoe yn y canol, ddim yn apelio o gwbwl.

    Llais cysur oedd gan Twm gyda’i frawd. Llais tadol. Amddiffynnol. Eisteddodd y tri yn rhes igam-ogam, fel llwybr defaid, gan edrych ar y caeau oddi tanynt. Ôl dwy olwyn rychiog ar dir mis Mai. Tir moel yn dilyn silwair, yn disgwyl crofen newydd o wrtaith cyn ei aildorri am gropad arall. Cadair. Cadair olwyn plentyn yn annisgwyl yn ei ganol.

    Sychodd Twm wefus ei frawd a chodi ei ben i orffwys ar ochr y goeden. Aildrefnodd ei goesau drosto a mesur gwres yr awel wrth godi ei wyneb i’r haul. Penderfynodd ei bod hi’n oer a thynnodd ei siwmper oddi ar ei ganol a’i rhoi’n dyner i gadw rhan uchaf corff ei frawd rhag yr awel fain. Defaid. Dim ond defaid yn pori’n dawel bach nes lawr. Naddu drwy’r glesni nes cyrraedd blewyn brwnt. A thrwy hwnnw i’r pridd. Lliw rhuddo oedd hwnnw. Fel ôl haearn smwddio mam ddiog.

    ‘Fe addawes i ddod â ti, yn do fe?’ Trodd cornel gwên ar wyneb Berwyn. Gwên deall y cwbwl. Gwên dweud dim byd i lygaid dieithr. ‘Draw fan hyn fydden nhw’n cario’r meirw blynydde’n ôl. Wastad yn lico storis, yn dwyt ti? Wastad yn lico hanes. Hen hanes. Torri plet drwy’r cae ’na lawr fan’na… ti’n gweld? Torri drwy fan’na… Lan drwy’r gât bren ’na lawr gwaelod, ac os ei di lan heibio’r coed draw fan’na fe ddei di mas gyda’r hewl a chroesi draw i’r eglwys.’

    Diferodd bach o boer o geg Berwyn a gwyddai Twm ei fod yn deall. Doedd gan Macsen ddim yr un diddordeb. Dim ond meddwl am ei fola oedd hwnnw.

    ‘Short cut, yndyfe, Berwyn? Short cut! Beth wedodd Dad-cu? Llwybr tarw. Ie. ’Na beth wedodd e,’ ychwanegodd Twm ag aeddfedrwydd crwt tipyn hŷn.

    ‘Ddest ti â crisps?’ Llais Macsen eto a’i fola’n llawn brogaod. Ysgydwodd Twm ei ben. ‘Mars bar neu rywbeth? Blydi starfo, tyl. Mam yn gweud bod ise i fi golli pwyse. ’Na wyneb, yndyfe? Na’th bach o padding ddim niwed i neb.’ Cododd Twm ei aeliau ac edrych yn ddiamynedd ar Macsen. ‘Rhai menywod yn lico fe, wedodd Arwel ysgol – padding.’

    Chwarddodd Twm yn dawel bach iddo’i hun. Un o’r bechgyn hynny oedd Macsen fyddai’n osgoi gwneud unrhyw fath o waith – boed gorfforol neu feddyliol. Treuliai ei ddiwrnod yn ‘siarad bachan mowr’ o hyd. Cynlluniau am redeg siop fawr, neu ddreifio rhyw gar cyflymach na’i gilydd. Pan fyddai pawb arall yn sôn am fod yn blymer neu’n frici byddai e’n siŵr o fod yn berchen busnes anferthol a morwyn i olchi’i ddillad. Enillydd loteri, mae’n siŵr.

    ‘Ma lot o drash ffor hyn!’ Sylw craff arall o enau Macsen. ‘Beth sydd ise yw digyr. Digyr a chainsaw. Fydden nhw ddim yn hir cyn tynnu’r trash ’ma mas. Lefelo fe wedyn, tyl, a chodi rhywbeth iwsffwl fel ffatri. Ie, ffatri grisps!’

    Trodd Twm ei lygaid. A mentro: ‘A ti fydde’r chief taster, ife?’

    ‘Wrth gwrs ’ny. Blynydde o brofiad, tyl. Neu’r perchennog, yn dreifo mewn yn ei Porsche Camerra.’

    ‘Carrera.’

    ‘Be?’

    ‘Porsche. Porsche Carrera yw e, dim Camerra.’

    ‘Ti’n siŵr?’

    ‘Odw, fi’n siŵr!’

    ‘Ie, Porsche Carrera wedes i.’

    Roedd pen Berwyn wedi dechrau gostwng ac ailosododd Twm e’n ddiogel i wynebu’r cyfeiriad arall. Rhoi cyfle i’w frawd weld y byd o gyfeiriad newydd. Diolchodd am hynny wrth chwythu’n dawel drwy ei wefusau gwlyb ac ysgwyd ei ddwrn yn fympwyol ar ei frawd. Cysurodd Twm ef.

    ‘Dad-cu ’nôl wedyn. Wedi mynd i wâco. Berwyn yn gwd boi. Berwyn yn gwd boi i Twm, yn dwyt ti? Joio wâc ’da Twm, yn dwyt ti, a stori. Bydd Dad-cu ’nôl cyn swper, gei di weld, ac fe gei di fath heno, ife? Bath bach cynnes. Berwyn yn lico dŵr? Gwd boi. Na, na, dim dŵr yn dy lyged di. Twm yn watsho. Twm yn gofalu. Twm yn sychu nhw, ife?’

    Sychodd gornel llygad ei frawd a’i wefus unwaith yn rhagor. Clywodd hi’n oer a phenderfynu ei bod hi’n bryd ei throi hi am adre. Symud o’r cyhûdd oer i wres newynog yr haul.

    ‘Ti’n barod i fynd gytre, gwed?’ holodd ei frawd.

    ‘Diawch, o’n i’n dechre joio fan hyn… Cyfle i stretsho ’nghoese, tyl. Dipyn o waith cerdded lan ’ma i ddechre,’ mynnodd Macsen.

    ‘Siarad â Berwyn o’n i.’

    ‘O, reit!’

    ‘Galli di fynd gytre pryd ti moyn. Sneb yn stopo ti rhag aros ’ma drwy’r nos os ti moyn,’ crechwenodd. ‘Heblaw fod ofan ysbrydion arnot ti. Lot o’r rheini ffor hyn. Yn ôl Dad-cu.’

    Llyncodd Macsen yn betrus a throi llygad mochyn ar Twm a oedd wrthi’n trafod ei frawd. Cydiodd ynddo’n garcus wrth ei ganol a gosod breichiau ei frawd am ei wddf cyn ei symud gan bwyll bach yn ôl lawr y bancyn nes cyrraedd ei sedd dywyll, oer.

    ‘Gwd boi, dere di.’ Dadbarciodd ei sedd wrth symud y garreg o dan yr olwynion a whilbero’i frawd wysg ei gefn am yn ôl.

    ‘Lot o ghosts ffor hyn?’ ystyriodd Macsen eto.

    ‘Wel, ’na beth ma Dad-cu yn gweud. Wedodd e bod hen fynwent ’ma. Hen fynwent rili hen.’

    ‘Be, reit ffor hyn? Neu lawr ffor’na tam bach?’

    ‘Reit lawr fan’na.’ Pwyntiodd â’i fys pigo trwyn a’r croen bach bron tyfu dros yr ewin.

    ‘Naaa!’ rhyfeddodd Macsen. ‘Ti’n jocan. Allet ti ddim gweud o fan hyn, sdim un garreg fedd yn y golwg.’

    ‘Wel, nag oes. Wedodd Dad-cu bod pobol blynydde’n ôl wedi dwgyd y cerrig gore i godi tai newydd. Torri’r cerrig beddi a’u rhoi nhw yn y tai newydd.’

    ‘Ooo, creepy!’ wfftiodd Macsen a chryndod ei lais yn dangos gwendid.

    ‘Ie, creepy. Gredet ti byth, ond wedyn, ganol nos, bydde’r bobol oedd bia’r cerrig beddi yn dod ’nôl i’w nôl nhw.’

    Llyncodd Macsen a gadael i’w aeliau blethu’n ddu.

    ‘Ti’n gweud wrtha i bod ysbrydion yn… yn…’

    ‘Yn gwmws! Ti wedi’i gweud hi…’

    Bu tawelwch hir a dim sŵn ond gwich olwynion cadair Berwyn yn troi am adre. Dim ond dilyn wnaeth Macsen.

    Ar ôl dod i wastadedd y cae teimlodd Twm yr olwynion yn gwthio’n llyfnach ac yn gyflymach. Ar ôl mynd heibio’r rhan waethaf cynigiodd Macsen wthio’r gadair am ryw damaid o’r daith. Gan ei fod wedi blino cytunodd Twm. Chwibanodd dôn undonog i lenwi’r tawelwch:

    ‘Whwhiiiiiwhhwwhhhhhwwwwwwhhhhhwww those are a few of our favourite things…’

    ‘Dy fam yn gwaith ’de, yw hi?’ holodd Twm ar ôl chwibanu’r gytgan ddwy waith.

    ‘Odi, glanhau, i Mr Edwards, fan’ny ma ddi heddi,’ chwythodd Macsen yn goch.

    ‘Mr Edwards – y rhacsyn ’na yn pentre? Sdim lot yn aros i weithio i hwnna’n hir, nag oes e? Dad-cu wedodd.’

    ‘Na! Yn enwedig menywod main. ’Na ble mae Mam yn saff, ti’n gweld. Digon o gig ar Mam. Dim intrest menywod mawr arno fe, tyl.’

    Roedd Macsen wedi clywed rhyw hanner stori am fam Twm, ond dim ond hanner oedd hi.

    ‘Dy fam di’n y… y… gweithio?’ gofynnodd Macsen.

    Ni chafodd yr un ymateb. Cynigiodd eto wrth wylio Twm yn cwrso carreg ganolig ei maint â blaen ei esgid.

    ‘Dy fam di’n… Sai wedi gweld hi ’da chi, ’na i gyd. Dy dad on the scene? Na? Jyst Dad-cu, ife? Jyst fe sy ’da chi ife?’

    Teimlodd Twm ei wefus yn cau yn dynnach.

    ‘Dyw e ddim busnes i ti,’ mentrodd wrth gicio’r pridd a’r garreg yn un.

    ‘Nadi, nadi, jyst meddwl o’n i. Holidei am gwpwl o fisoedd gyda Grampa, ife? Boi neis… Er, symo fe’n mynd mas o’r clos yn amal. Be, un waith y mis ife? Fel day release… Jiw, mae bron yn amser te. Ti’n meddwl bod dy dad-cu wedi neud bwyd? Tr’eni bod ni’n tri mas fan hyn a te’n oeri ar y ford.’

    Roedd chwys yn tasgu oddi ar war Macsen wrth ddisgwyl i’r olwynion droi drwy’r cae.

    ‘Yffach, ma fe’n pwyso tunnell am un bach, yn dyw e? Cael ei eni fel’na ga’th e ’de, neu damwain? Lot o blant yn ca’l damwain, tyl. Ond sdim lot yn cael eu geni fel’na. Dim ragor, oes e?’ dywedodd yn ei gyfer.

    Pe bai Twm wedi medru gwthio’i frawd yn gyflymach er mwyn dianc o gleber wast Macsen, yna byddai wedi gwneud. Ond doedd gwthio crwtyn saith oed a chadair olwyn drom yn ddim cysur i neb. Penderfynodd Twm raffu

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1