Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Babel
Babel
Babel
Ebook463 pages7 hours

Babel

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Fast-paced mystery set in an industrial town in the second half of the 19th century. The main character, Sara, escapes from her fath er, an alcoholic minister and comes to the town having seen an adv ert for a job as a journalist in Henry Glass's press, a business m an and a editor of newspaper, Llais y Bobol.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateJul 1, 2019
ISBN9781784617905
Babel

Read more from Ifan Morgan Jones

Related to Babel

Related ebooks

Reviews for Babel

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Babel - Ifan Morgan Jones

    clawr.jpg

    I Magw Jên

    Diolch yn fawr iawn i staff y Lolfa, yn arbennig felly Meleri Wyn James am ei chyngor doeth a’i golygu deallus.

    Diolch hefyd i Llinos Mair am awgrymu ‘Agerstalwm’ fel cyfieithiad o enw genre ‘Steampunk’.

    Argraffiad cyntaf: 2019

    © Hawlfraint Ifan Morgan Jones a’r Lolfa Cyf., 2019

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Cynllun y clawr: Sion Ilar

    Llun y clawr: Flavio Bolla

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 78461 712 7

    E-ISBN: 978 1 78461 790 5

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru

    ar bapur o goedwigoedd cynaladwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    ‘He had begun to regard men as so much animated mechanism. They were the cogs of the wheels. Inefficient men were like an ill-made crank or defective piston, to be put aside. Iron-making was a trade that admitted of no other consideration than capacity on the part of the labourer. His care was to obtain efficiency at its market value, and with that his relations with his men began and ended.’

    – Charles Wilkins yn trafod William Manelaus (1818–1882), Rheolwr Gwaith Haearn Dowlais

    ‘Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt.’

    – Actau, 17:26

    Fe fu fy nhad yn dweud wrthyf fy mod yn mynd i uffern bob dydd ers blynyddoedd, ac felly doeddwn i ddim yn teimlo bod gen i unrhyw beth i’w golli drwy ei lofruddio – ddim fy enaid, beth bynnag. Roeddwn wedi cynllunio i ffoi o’i afael i’r dref agosaf ers wythnosau, ond sylweddolais na fyddwn i byth yn rhydd tra y byddai ef fyw. Y byddai’n dod o hyd i mi rywsut, neu fe fyddwn i’n treulio fy mywyd yn edrych dros fy ysgwydd yn chwilio amdano. Dyna pam y lleddais ef.

    Roedd yn penlinio o flaen y tân, yn gwylio’r marwor yn mudlosgi, a’i gefn tuag ataf. Roedd yn amlwg newydd fod yn ceisio adfywio’r ychydig wreichion a losgai yng nghanol y mawn oherwydd fe orweddai’r procer ar y rỳg wrth ei ymyl.

    Rhaid ei fod wedi clywed siffrwd fy nhraed.

    ‘Sara!’ poerodd. ‘Cer i nôl y ffisig, neu ti’n gwybod beth fydd yn digwydd.’

    Codais y procer pres a’i ddal yn fy llaw. Trodd ei ben tuag ataf ychydig, gan bendroni efallai pam nad oeddwn wedi brysio i gyflawni ei ddymuniad fel y byddwn fel arfer. Cyn iddo gael ystyried y peth ymhellach pastynais ef dros gefn ei ben, mor galed ag y gallwn. Teimlais ddirgryniad y procer yn goglais drwy fy mraich wrth i’r metel ergydio. Llamodd fy nhad ar ei draed fel jac yn y bocs, cyn simsanu am eiliad neu ddwy, a syrthio am yn ôl, taro’r ford fach yng nghanol yr ystafell – gan wasgaru’r poteli ffisig – a glanio ar ei gefn ar y rỳg.

    Syllais arno am funud. Aeth oerfel drwof, oerfel marwolaeth, fel pe bai gwres bywyd yn cilio o’m corff innau hefyd. Wedi treulio fy mywyd yn f’atal fy hun rhag codi llais i’m hamddiffyn fy hun hyd yn oed, allwn i ddim credu yr hyn roeddwn wedi ei wneud.

    Yna cefais fraw. Gwrandewais yn astud. Roedd yn dal i anadlu! Aeth ofn drwof. Roedd yn fyw! A wyddwn i ddim a fyddai gen i’r galon i’w fwrw drachefn. Ond roedd yr anadl nesaf yn ddistawach. Anadlu mewn, anadlu allan. Fel siffrwd traed ar lawr yn camu ymhellach ac ymhellach i ffwrdd.

    Yna dim.

    Roedd wedi mynd.

    Gollyngais yr arf, a cheisio rhwbio’r pechod oddi ar fy nwylo crynedig ac ar fy ffrog. Teimlwn ar unwaith yn rhydd ond eto’n gaeth. Yn llawen ac yn llawn ofn. Roedd pwysau gormes fy nhad wedi ei godi, a phwysau arall wedi cwympo arnaf: damnedigaeth dragwyddol.

    Euthum ar fy ngliniau a gweddïo ar Dduw.

    ‘Ti’n gweld popeth, ac fe welaist Ti’r hyn a wnaeth e i mi,’ meddwn. ‘Y clatsio, ar fy nghalon, ar fy nghroen. Fe welaist Ti nad yr un tad oedd e ag o’r bla’n, bod cythraul ynddo.’ Caeais fy nwylo’n dynn am ei gilydd. ‘Oes gobaith i mi?’

    Ni ddaeth ateb. Teimlwn yn unig yn y tŷ yn fwyaf sydyn. Y mwyaf unig i mi deimlo erioed.

    Agorais fy llygaid a chodi ar fy nhraed gan gofio y byddai Mr Williams y Post yn gadael am y dref cyn bod y gwlith yn codi. Byddai’n rhaid i mi frysio os oeddwn eisiau cael fy nghario. Doeddwn i ddim am din-droi am ddiwrnodau, rhag ofn i bobol ddechrau holi am fy nhad.

    Estynnais am ddrws cefn y tŷ, cyn croesi’r ystafell eto a chydio yn nwy law fy nhad. Roedd yn syndod o ysgafn am un oedd wedi bod yn gymaint o fwrn arnaf am flynyddoedd, a’i drowsus melfaréd yn llithro’n esmwyth ar hyd y llawr pren. Penliniais i godi ei ben dros riniog y drws ac yna ei lusgo ar draws y buarth caregog yng nghefn y tŷ, gan edrych i bob cyfeiriad o’m hamgylch rhag ofn bod rhywun yn syllu arnaf dros ben y wal. Codais fy nhad ar ei eistedd yn erbyn y ffynnon, a’i adael yno er mwyn cael fy ngwynt ataf. Ac yna, gydag un ymdrech olaf, ei godi i fyny gerfydd ei geseiliau a’i osod ar ymyl y ffynnon, a’i ollwng. Llithrodd am yn ôl fel doli glwt a’r peth olaf welais i oedd un o’i sliperi’n diflannu i’r tywyllwch. Wedi eiliad clywais sŵn sblwtsh pŵl yn atseinio o’r dyfnderoedd, fel pe bawn i wedi gollwng carreg fawr.

    Efallai y byddech yn meddwl i mi frysio o gwmpas wedyn. Ond roedd rhyw lonyddwch rhyfedd wedi fy meddiannu, fel pe na bawn i’n gallu llawn werthfawrogi’r hyn oedd wedi digwydd. Yn gwylio fy hun o bell. Es o amgylch y tŷ, yn methu credu’n iawn na fyddwn fyth eto’n gorfod cynnau’r tân, na golchi’r llestri, na chwyro’r seld nes ei bod yn sgleinio. Dywedais ‘hwyl fawr’ wrth bob ystafell, wrth bentyrrau o lyfrau rhy drwm i’w cario. Yna cydio yn y bag teithio, wedi ei guddio tu ôl i’r trilliw ar ddeg. Ynddo roedd ffrog sbâr, pais laes, llodrau isaf, staes – hen ddillad ar ôl fy mam yr oeddwn wedi eu trwsio a’u haddasu nes eu bod yn glytiau i gyd, gan wybod nad oedd fiw i mi holi fy nghybydd o dad am ragor – crib, yr ychydig inc a phapur oedd gen i, ac ambell swllt yr oeddwn wedi bod yn eu stwffio i fyny fy llawes heb iddo weld.

    Yna dychwelyd at y ffynnon, er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd golwg o’m tad, i’m hargyhoeddi fy hun o wirionedd y peth. Fel dychwelyd i sicrhau fy mod wedi diffodd y tân cyn mynd allan.

    Yna codais fy mhac a cherdded o amgylch y tŷ, i lawr y bryn i gyfeiriad y pentref, a gwefr rhyddhad yn binnau bychan drwy fy nghorff.

    *

    ‘Mae’r ffordd fawr yn lle peryg i ferch ifanc,’ meddai Mr Williams y post wrth i ni adael Melin Frewys. ‘Mae dy dad yn lwcus fy mod i yma i edrych ar dy ôl.’

    Dyn bychan, crwn ydoedd, â barf glaerwyn denau a edrychai fel bod cwmwl wedi bachu ar begwn ei ên. Eisteddai sbectol ddarllen mor grwn â’i fol ar ei dalcen, a het dri chornel am ei ben. Roedd ei geffyl yr un mor dew ac ni theithiai’n gyflymach na phedair milltir yr awr.

    ‘Sut le yw’r dref?’ gofynnais. ‘Lle da i ferch gael gwaith, medden nhw.’

    ‘Mae yna waith i ddynion. Ond dim gwaith parchus i ferch.’

    Cyn y bore hwnnw nid oeddwn wedi bod heibio’r iet ym mhen draw’r dyffryn. Ni wyddwn i ddim am y dref ond yr hyn roeddwn wedi ei ddarllen mewn llyfrau a phapurau newydd, a’i glywed gan fechgyn a ddaeth ’nôl i helpu ar y ffermydd dros y cynhaeaf. Lle prysur ydoedd, llawn pobol a siopau, ac roedd yna byllau glo tebyg i ogofâu, ac adeiladau uchel, mwy na siop John Pugh yn y pentref hyd yn oed.

    ‘Oes ’da ti deulu yn y dref?’ gofynnodd Mr Williams.

    ‘Doedd ’da fi… does ‘da fi ddim teulu ond dad. W i’n mynd i fod yn newyddiadurwr.’

    Edrychodd arna i drwy gornel ei lygaid.

    ‘Drychwch’, meddwn. Tynnais gopi o bapur newydd Llais y Bobl o’m cwdyn, ei blygu a chyfeirio at yr hysbyseb fechan a guddiai ar waelod tudalen 10, o dan wahoddiad ar gyfer taith awyrlong i Batagonia:

    Yn eisiau, menyw a chanddi ddawn ysgrifennu. Anfonwch lythyr o gyflwyniad at Joseph Glass, yn Swyddfa Llais y Bobl.

    ‘Fi,’ meddwn.

    Tynnodd Mr Williams ei sbectol gron i lawr at ei drwyn ac astudio’r hysbyseb yn fanwl. Yna edrychodd arna i â thosturi a rhoi’r papur yn ôl yn fy llaw.

    ‘Bachan, mae angen gallu darllen a sgrifennu i weithio ar bapur newydd.’

    Tawodd Mr Williams pan oedd y lôn ar ei mwyaf gwag a chul. Difyrrais yr amser drwy edrych ar y llythyrau yn ei sachau; i Lundain, y Brifddinas Ymerodrol, a dinasoedd mawr eraill. Dychmygais sut le’r oedd ‘Liverpool’ a ‘Manchester’, gan ddychmygu rhywbeth tebyg i Felin Frewys, ond yn fwy, yn grandiach.

    Aeth pentrefi heibio. Bryn-frith, Croesrhiw, Penlan. Rhywbeth tebyg i Melin Frewys oedd y rhain. Yr un bythynnod to gwellt, tŷ tafarn a siop. Y bobol yn eu crysau gwyn a’u trowsus cotwm. Dechreuais feddwl efallai mai’r un peth oedd y byd i gyd er gwaethaf yr hyn roedd llyfrau fy nhad wedi addo.

    Wrth agosáu at y dref aeth y coed yn brinnach ac fe agorodd y tirlun o’n hamgylch fel llaw. Bywiogodd Mr Williams drachefn. Dechreuodd ganu. ‘Enynnaist ynof dân, perffeithiaf dân y nef’, ac yna ‘Mi dafla ’maich oddi ar fy ngwar’. Aethom heibio i deithwyr eraill, ac fe ymunodd mwy nag un yn y canu. Torrodd heulwen braf drwy’r cymylau. Roedd y tir wedi codi bob ochor i ni, yn fynyddoedd â phegynau claerwyn a siolau grugog am eu hysgwyddau, ac yn rhaeadrau crychewynnog.

    ‘Mae fel gwanwyn,’ meddwn wrth led-orwedd ar gefn y gert. Cydiodd ias o obaith newydd ynof. Penderfynais fod Duw yn gwenu arnaf, er gwaethaf yr hyn oeddwn wedi ei wneud.

    ‘Mae’n fis Hydref,’ cywirodd Mr Williams.

    Tynnais Llais y Bobl o’m cwdyn, darllen yr hysbyseb drachefn a gwenu i’m hunan. Roeddwn wedi ei ddarllen gymaint o weithiau nes bod yr inc ar ymyl y dudalen wedi dechrau smwtsio dan fy mysedd. Daliais y papur at fy mrest, cau fy llygaid, a theimlo ychydig o wres yr haul ar fy nghroen. Roeddwn i mor fodlon fy myd, dechreuais bendwmpian.

    Yn sydyn teimlais y gert yn neidio. Agorais fy llygaid a gweld bod Mr Williams wedi troi oddi ar y brif ffordd ac ar hyd llwybr caregog, gwledig. Rhaid ei fod yn gwybod am ffordd gyflymach, meddyliais. Ond aeth y cloddiau yn uwch ac yn uwch, a diflannodd y ffordd o dan y gwair.

    O’r diwedd safodd y cerdyn yn stond mewn llannerch fwsoglyd, gysgodol. Baldorddai nant yn rhywle gerllaw.

    ‘Mae’n – mae’n bryd i ni stopio yn rhywle am damaid o swper,’ meddai Mr Williams.

    Tynnwyd y gwynt o’m hwyliau. Roeddwn wedi addo wrth fy lletywraig, Mrs Davies o Tudor Street, y byddwn yn cyrraedd y diwrnod hwnnw. ‘Ond roeddech chi wedi gweud y bydden ni yn y dref cyn diwedd y prynhawn,’ meddwn.

    Roedden wedi bod yn teithio ers oriau hir yn barod a’r haul bellach yn gostwng tua’r gorllewin, gan daflu cysgodion coed fel bysedd hir ar draws y ffordd. Ond roedd rhai oriau o olau dydd i’w cael o hyd, meddyliais.

    Dringodd Mr Williams i gefn y gert ac edrych yn hir arnaf, nes peri i mi deimlo braidd yn anesmwyth. Yna, er mawr dychryn i mi, dechreuodd ddatod ei drowsus.

    ‘Mr Williams?’ gofynnais.

    ‘Taliad, dyna i gyd.’

    ‘T-taliad…?’

    ‘Mae stamp ar bob llythyr yma. Bob un weti talu am eu cludo. Ond dwyt ti ddim.’

    ‘Ff-ffafr, meddech chi.’

    ‘Gwranda, Sara,’ meddai, gan geisio llacio ei wregys â dwylo crynedig. ‘Wi’n gwbod mai rhedeg i ffwrdd wyt ti. Fyddai dy dad di byth yn gadael i ti fynd fel arall.’

    ‘Ond –’

    ‘Ac wi’n gwbod beth fyddai dy dad yn ei wneud i ti pe bawn i’n mynd â ti’n ôl.’ Edrychodd arnaf dros ben ei sbectol. ‘Ond dydw i ddim am wneud hynny.’

    ‘D-diolch…’

    ‘Ond mae’r dref yn ’en le caled i fenywod ifanc a… phert fel ti.’ Cnodd ei wefus. ‘Do’s dim swydd yn disgwyl amdanat ti yna na nunlle arall.’

    ‘Oe –’

    ‘Mae yna filo’dd yn heidio i’r dref bob dydd yn whilo am waith, a do’s dim digon i’w gael i bawb. Ond do’s dim angen i ti lwgu.’

    ‘Sa i yn –’

    ‘Mae nifer o ferched ifanc yn mynd i hwrio nes eu bod nhw’n ôl ar eu trêd.’

    ‘Hwr –?’

    ‘Do’s dim cywilydd yn y peth. Ceisio dy roi di ar ben ffordd odw i. Mae’n well bod dy gwsmer cyntaf yn rhywun wyt ti’n nabod. Rhywun wyt ti’n ei barchu.’

    Gwenodd, ond roedd ei lygaid yn sgleinio. Daeth tuag ataf a’m gwthio ar fy nghefn, ac yna mynd i orwedd arnaf. Rhewais. Teimlais ei goesau blewog yn rhwbio yn erbyn fy rhai i. Cododd fy ffrog dros fy nghoesau.

    ‘Sa i –’

    Pe bai Mr Williams yn ddyn ifancach a chryfach rwy’n ofni na fyddwn wedi gwrthwynebu, rhag ofn iddo fy sgrego yn y fan a’r lle. Ond edrychai’n ormodol fel gafr-ddyn bach tila â’i goesau blewog a’i sbectol gron. Ceisiodd fy nhroi ar fy mol ond cydiais yn y sachaid llythyrau agosaf a’i daro ar ymyl ei ben gyda holl gryfder fy mreichiau.

    ‘Ag!’

    Rhaid bod rhywbeth mwy na llythyrau yn y sach oherwydd roedd yr ergyd llawer caletach nag oeddwn i wedi ei fwriadu. Hwyliodd sbectol Mr Williams oddi ar ei ben a diflannu rhywle i ganol y gwair hir, a syrthiodd ef oddi ar y gert ar ei ôl. Roeddwn i’n poeni am eiliad fy mod i wedi ei ladd yntau hefyd, cyn ei glywed yn ebychu:

    ‘Y slwt – y blydi hwren!’

    Llithrais oddi ar y gert, cydio yn fy nghwdyn, a thynnu fy ffrog i lawr dros fy nghoesau, cyn rhedeg am fy mywyd tuag at y ffordd fawr.

    ‘Ffycing ast! Hoeden fach ddigywilydd!’

    Roedd yr ofn fel injan yn fy ngyrru ymlaen i lawr y ffordd, a llwyddais i anwybyddu’r boen yn fy nhraed a’r llosgi yn fy mrest. Ond wedi hanner milltir dda dechreuais arafu. Gwyddwn y byddai Mr Williams yn dal i fyny â mi yn ei gert cyn i mi gyrraedd y ffordd fawr. Rhewais ac ystyried lle gallwn guddio. Yr unig ddewis hyd y gwelwn i oedd ceisio dringo dros y clawdd uchel i’r cae gyferbyn. Dringais ddwywaith a syrthio, fy mreichiau a ’nghoesau’n grafiadau wrth ymbalfalu yn y drain a’r mieri. Llwyddais ar y trydydd cynnig, gan anwybyddu’r brigau’n procian fy nghorff fel cyllyll cymaint oedd fy ngorffwylltra. Wrth gyrraedd y brig ceisiais ollwng fy hun y pen arall ond daliodd rhywbeth yn fy ffrog. Estynnais fy llaw i’w ryddhau, ond rhwygodd y defnydd, a syrthiais yn un swp i ganol baw gludiog.

    Codais yn sigledig ac edrych yn alarus ar y twll yn fy ffrog. Roeddwn wedi treulio oriau yn ei thrwsio orau gallwn i fel ei bod yn ddigon taclus ar gyfer y dref. Ond doedd fiw i mi boeni am hynny yn awr gyda Mr Williams wrth fy nghwt.

    Codais fy llygaid. Y cyfan allwn i ei weld oedd dyffryn eang yn llawn caeau agored, ac ambell ddafad yn pori yma a thraw. Ond gwyddwn, petawn i’n dilyn cysgod y clawdd, y deuwn at y ffordd fawr yn y pen draw ac y byddai honno’n arwain at y dref.

    Ar ôl cerdded am hanner awr dda clywais wich olwynion pren a sŵn carnau ceffyl yn taro’r cerrig. Ciliais yn erbyn y gwrych, a cheisio aros mor llonydd â phosib, heb dorri’r brigau na chadw sŵn, gan wybod bod Mr Williams a’i gert yn mynd heibio.

    Credwn fy mod wedi llwyddo i dwyllo Mr Williams. Ond yn sydyn daeth sŵn y cerbyd yn sefyll yn stond. Syllais i fyny drwy’r mieri a gweld corun ei ben yn syllu dros ymyl y clawdd.

    ‘Hoi!’

    Neidiais o ’nghroen wrth glywed y waedd, gan dybio ei fod wedi fy ngweld. Ond nid o’i enau ef y daeth. Roedd dyn arall yn brasgamu tuag ataf ar draws y caeau, gyda ffon hir bren wedi ei haddurno â phres yn ei law. Roedd golwg wyllt gacwn arno.

    ‘Mi ddysga i chi ddwyn defaid, y diawliaid!’

    Cododd y ffon hir a’i ddwy law, a meddyliais am eiliad ei fod am ei thaflu fel gwaywffon. Ond yna daeth clec fyddarol ohoni a goleuni fel mellten, ac fe ffrwydrodd y gwrych o’m cwmpas yn wreichion tanllyd. Llanwyd fy ffroenau ag oglau rhudd y mwg o’r ffon, a phren llosgiedig.

    Sgrechiais a rhedeg i gyfeiriad pen arall y cae, fy nwylo dros fy mhen. Oedd rhyw fath o hudlath ganddo? Ond yna cofiais am y gwybr-ddrylliau yr oeddwn wedi darllen amdanynt mewn llyfrau. Disgwyliais gael fy nharo gan un o’r fflamau tanllyd unrhyw eiliad. Ond ni ddaeth yr ergyd farwol. Trewais gip dros fy ysgwydd a deall nad ataf i oedd y ffermwr yn anelu ond at gert Mr Williams. Daeth fflach arall a gwelais un o’r codau llythyrau’n ffrwydro.

    ‘Beth ddiawl y’ch chi’n ei wneud ddyn?’ gwaeddodd Mr Williams, o’i go yn llwyr, wrth i’r llythyrau llosgiedig arnofio fel plu yn yr awyr.

    Nid oeddwn am aros i gael golwg arall. Rhedais am fy einioes am yr iet ben arall y cae, gan droi fy ffêr a gwlychu fy sgidiau ar y ffordd. Taflais fy hun dros yr iet gan braidd ei chyffwrdd a baglu i lawr y ffordd fawr, heb allu gweld i le roeddwn i’n mynd yn iawn oherwydd y cymysgedd o ddagrau a chwys yn fy llygaid.

    Des o hyd i dwll yn y clawdd a chuddiais yno, fy mrest yn codi a gostwng fel megin. Ni wn am faint y bûm yn cuddio. Dechreuodd fwrw glaw yn drwm, gan droi’r pridd ar y ffordd yn llynnoedd o fwd. Gwyliais bob cert wrth iddynt fynd heibio. Dyn oedd pob gyrrwr ac roedd arna i ormod o ofn gofyn am eu cymorth. Wedi tua ugain munud fe aeth Mr Williams ei hun heibio. Roedd wedi cynnau lamp nwy ar flaen ei gert ac yn ei golau llachar gallwn weld golwg fel taran ar ei wyneb. Daliais fy anadl nes bod fy mrest yn boenus a gweddïo na fyddai’n fy ngweld. Ond diolch byth fe aeth yntau heibio hefyd.

    Roedd wedi tywyllu o ddifrif erbyn hynny. Rhedai diferion y glaw yn rhaeadrau oer oddi ar y clawdd ac i lawr cefn fy ffrog. Gallwn weld goleuni yn y pellter – ffermdy, neu dân efallai – ond ni feiddiwn adael fy nghuddfan.

    Llusgodd y noson heibio a rhaid ’mod i wedi pendwmpian, neu fod fy meddyliau wedi crwydro mor bell o’r fan lle cuddiwn fel nad oedd modd dweud y gwahaniaeth rhwng breuddwyd ac effro. Bob hyn a hyn deuai sŵn siffrwd yn y gwrych – llwynog efallai, neu ddraenog – a hwtiau tylluan, a minnau’n deffro trwof gan ofni perygl pellach. Ond ymhen hir a hwyr suddais i lawr yn araf ar fy mhen ôl i leithder oer y baw, a phwyso fy mhen ar glustog bigog y gwrych.

    *

    ‘So ddi weti marw. Ma ddi’n anadlu.’

    ‘Mae golwg y diawl arni.’

    Agorais fy llygaid a gweld gwair hir yn codi’n gawraidd o’m cwmpas, ac yn ei ganol pâr o esgidiau trymion lledr yn gaglau mwd i gyd. Troais ar fy nghefn gyda’m breichiau o’m blaen i’m hamddiffyn fy hun. Edrychai hen ffermwr i lawr arnaf. Roedd ganddo fwstásh a chrychau o amgylch ei lygaid a awgrymai ei fod yn barod i wenu, er fod golwg bryderus arno ar hyn o bryd. Safai hen wraig wrth ei ymyl, ei hwyneb yn grwn fel y lleuad. Roedd yr awyr uwch eu pennau yn ddu-las boreol.

    ‘Mae’n ddrwg gen i,’ meddwn gan gywilyddio. Cydiais yn fy nghwdyn a chodi ar fy nhraed.

    ‘Beth ddicwddodd i chi?’ gofynnodd yr hen wraig a cheisio cydio yn fy mraich.

    Symudais o’i gafael. ‘Roeddwn i’n cerdded i’r dref.’

    Edrychodd yr hen ddyn a’r wraig ar ei gilydd yn ddrwgdybus.

    ‘Byddai’n well i chi droi yn ôl am eich cartref,’ meddai’r dyn. ‘Rhag ofn bod rhywrai yn poeni amdanoch chi.’

    Bwriodd y wraig ef ar ei ysgwydd â chefn ei llaw. ‘Sdim golwg bo ddi weti dod o gartref gwerth dychwelyd iddo.’

    Ochneidiodd ef, a cherdded yn ôl at geffyl a chert ar ochor arall y ffordd. Gallwn weld bod hanner cynnwys tŷ wedi ei lwytho ar y gert. Roedd hyd yn oed yr hen geffyl, druan, yn cario sachau bob ochr i’w ganol.

    ‘Y’ch chi’n mynd i’r dref?’ gofynnais.

    Nodiodd y wraig ei phen, a gallwn weld ei bod yn meddwl yn ddwys. ‘Yno mae pawb yn mynd,’ meddai. Aeth draw i siarad dan ei gwynt â’i gŵr. Taflodd y ddau gipolwg arnaf o dro i dro a gwelais y gŵr yn ysgwyd ei ben yn anfodlon.

    ‘Dewch i’r cefn,’ galwodd y wraig o’r diwedd.

    ‘Dydw i ddim am fod yn faich arnoch chi.’

    ‘Dim o gwbwl.’

    ‘Does ’da fi ddim byd…’

    ‘Dewch…’

    Dringais yn ddiolchgar i’r gert a gweld fy mod yn rhannu taith â bord, cadeiriau, seld, cist ddillad, ac wedi eu gwasgu rhyngddynt a chefn y cerbyd, hwch, baedd a phedwar ar ddeg o foch bach du a gwyn. Rhochiodd yr hwch yn amddiffynnol, felly ciliais i gornel bellaf y gert. Dechreuon ni symud yn araf yn ein blaen.

    Erbyn hyn roedd hi’n dechrau gwawrio, a bob yn- dipyn diferodd mymryn o liw yn ôl i’r tir.

    ‘Wyt ti weti bod i’r dref o’r blaen?’ gofynnodd y gŵr.

    Ysgydwais fy mhen, a wedyn difaru, rhag ofn i’r rhain geisio cymryd mantais o’m hanwybodaeth, fel y gwnaeth Mr Williams.

    ‘O ba bentref wyt ti’n dod?’ gofynnodd y gŵr wedyn. Ni allwn weld ei wyneb ond roedd cywair bwriadol ddifater i’w gwestiynau.

    ‘Penlan,’ meddwn.

    ‘Y’n ni’n symud i fyw at yr wyrion,’ meddai’r wraig, â gwên obeithiol ond trist ar ei hwyneb. ‘Maen nhw weti bod yno ers blwyddyn neu ddwy. Weti prioti, un mab yn gwitho yn y ffatri haearn a’r llall yn y pwll glo.’

    ‘Paid â dweud gormod, Martha,’ meddai’r gŵr. ‘Dim fel yna maen nhw’n gwneud pethe yn y dref, dyna ddywedodd Bob.’

    ‘Ŷn ni ddim yn y dref eto, Wmffra,’ dwrdiodd hithau. ‘Croten fach o’r wlad yw hon.’

    ‘Medde hi.’

    Anwybyddodd y wraig ef a throi tuag ataf eto. ‘Ry’n ni’n mynd â’r moch hyn i’r lladd-dy i gael rhywfaint o arian i allu rhentu, nes fod Wmffra yn ca’l hyd i waith.’

    ‘Os oes gwaith i’w ga’l,’ meddai’r gŵr.

    ‘Twt, fyddai pawb ddim yn heidio yno os nad oedd gwaith i’w ga’l.’

    Trodd y gŵr i edrych ar ei wraig, ei fwstásh am i lawr fel gwg, ac ansicrwydd yn ei lygaid pŵl.

    Wrth i lednentydd ffyrdd cefn gwlad redeg yn un afon i gyfeiriad y dref cynyddodd y traffig. Certiau trymlwythog yn symud fel malwod a’u cartrefi ar eu cefnau. Y menywod yn eu siolau coch a’u sgertiau gwlân streipiog, a’r dynion yn eu hetiau gwellt a’u crysau gwyn llac a throwsusau cotwm. Carafán o bobol wedi troi cefn ar grafu byw ar eu llecynnau mwdlyd o dir a phawb yn ysu am ddechrau bywyd newydd lle’r oedd gwaith i’w gael, eu llygaid yn gymysgedd o dristwch wrth gefnu ar yr hyn a fu a chynnwrf addewid y byd newydd.

    ‘Blynyddoedd yn ôl byddai’r rhain i gyd yn mynd am America,’ meddai’r hen ddyn, gan wthio ei fwstásh yn ôl i fyny â’i fysedd.

    Wedi awr arall o boeni y deuwn ar draws Mr Williams, roeddwn wedi ymlacio fymryn. Es i eistedd ar ymyl y gert, a’m coesau yn hongian i lawr, gan siglo yn ôl ac ymlaen fel pendil awrlais, yn gwylio’r dirwedd yn mynd heibio.

    Fe deithion ni ymlaen tan ganol y bore, cyn sefyll ar ddarn o dir moel ar frig dyffryn Siddim lle’r oedd y gwair wedi diflannu o dan gorddi cyson traed ac olwynion certi. Roedd degau o deithwyr eraill wedi stopio yno, rhai yn mynd i’r dref a rhai yn dod oddi yno, ac roedd yn amlwg yn fan poblogaidd oherwydd roedd olion lludw hen danau ymhobman. Bob ochor i’r ffordd roedd pentyrrau anferth o gerrig du yr un mor dywyll â’u cysgodion. Yn eu canol roedd ysgerbwd rhydlyd peiriant tyllu fel dril haearn anferth bron yr un maint â thŷ. Wyddwn i ddim beth oedd yn ei wneud yn y fan honno.

    ‘Pentyrrau o wastraff y ffatrïoedd haearn a’r pyllau glo yw’r rhain,’ meddai’r hen wraig. ‘Fe welais rywbeth tebyg wrth fynd â da i’r farchnad unwaith.’

    Er eu golwg ryfeddol ni allwn ddirnad sut y gallai fod yn wir i fryniau gael eu creu gan ddynion. Edrychent fel petai inc wedi llifo o ysgrifbin Duw a glanio’n smotiau anferth o’n cwmpas.

    ‘Gymerwch chi rywfaint o’r bara ceirch yma?’ gofynnodd yr hen ddynes wedyn.

    ‘Rydych chi weti bod yn rhy garedig yn barod,’ meddwn i, gan ysu am gael bwyta.

    ‘Mae golwg hanner llwgu arnach chi.’

    Doeddwn i ddim wedi sylweddoli mor rheibus oeddwn i nes llyncu’r darn hwnnw o fara. Wedi gorffen y tamaid, llenwyd fy ffroenau gan oglau tatws a bacwn o sosbenni’r gwersyllwyr eraill. Dechreuodd fy stumog ganu grwndi.

    Bryd hynny y clywais lais soniarus.

    ‘Frodyr!’ galwodd. ‘Rhaid i ni sefyll gyda’n gilydd – yn werin lafurus – er mwyn sicrhau cyfiawnder.’

    Trois i wynebu’r llais, a gweld dyn â barf laes mewn dillad du carpiog yn sefyll ar frig un o’r pentyrrau du.

    ‘Ond mae ofn arnom!’ galwodd. ‘Ofn y byddwn ni, o gymryd y cam hwnnw, ar ein pennau ein hunain, yn ca’l ein cau mês o’r gwaith ac yn llwgu!’

    ‘Pwy yw hwnna?’ gofynnodd yr hen ddyn.

    ‘Solomon y Pentyrrau Sorod maen nhw’n ei alw,’ meddai un o’r dynion a eisteddai gerllaw. ‘Cafodd y sac o’r ffatri haearn am geisio sefydlu undeb.’

    ‘Mae weti mynd hanner o’i go yn crwydro mês fan hyn medden nhw,’ meddai un o’r lleill.

    ‘Ond os ydyn ni’n sefyll gyda’n gilydd, mi fyddwn ni’n gryf!’ galwodd y dyn, gan godi ei ddyrnau uwch ei ben. ‘Yn gryf fel haearn weti pwdlo, nad oes modd ei hollti!’

    ‘Gadewch i ni fwyta mewn heddwch, ddyn!’ galwodd rhywun arno, a chwarddodd y lleill.

    Parhaodd y dyn i areithio. Efallai ei fod yn rhy uchel ar y pentwr sorod i’w clywed.

    ‘Onid oedd Iesu Grist yn saer co’d, yn un o’r dosbarth gweithiol?’ galwodd. ‘Oni ddosbarthodd y pysgod a’r bara yn gyfartal rhwng pob dyn? Oni fu farw dros ein pechodau un ac oll, yn gyfoethog ac yn dlawd?’

    Parhaodd i bregethu ond anwybyddodd y mwyafrif ef a siarad ymysg ei gilydd. Roedd yr hen ddyn a’m cludodd ar ei gert wedi mynd i eistedd ymysg sawl teithiwr arall. Clustfeiniais ar eu sgwrs.

    ‘Ry’n i gyd fan hyn am yr un rheswm â phawb arall, am wn i,’ meddai’r hen ddyn. Cnodd ddarn o fara yn feddylgar. ‘Dianc rhag y sgriw.’

    Nodiodd dyn ifanc ei ben. ‘Ro’n ni’n rhentu tir ger Dolgaer,’ meddai. ‘Os y’ch chi’n pleidleisio dros y rhyddfrydwyr yn yr etholiad cewch chi fynd, dyna ddywedodd y meistr wrthom ni.’

    Amneidiodd yr hen ddyn ei ben. ‘Mae’n un peth rhoi arian i rentu tyddyn,’ meddai. ‘Ond mae rhyddid barn a chrefydd yn bris rhy uchel i’w dalu.’

    ‘A mae digon o waith i’w gael yn y dref, medden nhw,’ meddai’r dyn ifanc.

    ‘Ie, ond ma digon yn ceisio ca’l gafael arno hefyd!’

    Trodd y dynion a gweld bod Solomon y Pentyrrau Sorod yn sefyll y tu cefn iddynt, ei lygaid yn sgleinio fel arian tawdd. Roedd wedi dod i lawr o’i bulpud. Gwelais ei fod mewn gwirionedd yn gymharol ifanc, yn ei dridegau efallai, ond bod ei farf wedi tyfu’n hir ac yn fudr a’i groen wedi ei grasu gan yr haul.

    Shifftodd yr hen ddyn yn anghyfforddus yn y man lle’r eisteddai. ‘Swyddi yn eu miloedd, glywais i.’

    ‘A miloedd yno’n barod yn eu gwitho nhw,’ meddai Solomon. ‘A’r ’en Fairclough yn gwbod bod miloedd mwy yn dod bob mis, ac felly nad oes rhaid iddo dalu llawer o ddim er mwyn eu cadw nhw.’

    ‘Fairclough?’

    ‘Robert Fairclough. Ffaro y Tir Haearn,’ meddai Solomon. ‘Fe sy berchen y ffatri haearn a’r pwll glo,’ meddai gan amneidio at y gorwel. ‘Y dyn cyfoethocaf yn y byd, medd rhai. Mae un filiwn o bunnoedd ganddo.’

    Agorodd llygaid yr hen ddyn fel soseri. ‘I beth mae angen cymaint ar un dyn?’

    ‘Rhaid ei fod weti gwitho’n galed am filiwn o bunnoedd,’ meddai rhywun arall.

    ‘So fe ddim gwell na’r meistri tir,’ meddai Solomon. ‘Weti gwneud arian mawr ar wys a gwa’d eraill.’

    Ysgydwodd y dyn ifanc ei ben. ‘Diwydiannwr yw e, nid tirfeddiannwr.’

    ‘Ond fe fydd yn eich trin chi’r un fath,’ meddai Solomon. ‘Dyw Fairclough ddim yn gweld dynion. Dim ond rhifau.’

    ‘Am beth gollest ti dy waith?’ gofynnodd yr hen ddyn.

    Agorodd Solomon ei freichiau bob ochor iddo. ‘Mi wetais i wrth Fairclough: Oni ddywedodd Iesu ei fod yn haws i gamel fynd trwy grau’r nodwydd nag i ddyn goludog fynd i’r nefoedd?’

    Bu saib. ‘A beth atebws e?’ gofynnodd rhywun.

    ‘Tywalltodd bentwr o sorod dros y capel ble’r oeddwn i’n pregethu.’

    Edrychodd rhai o’r dynion ar ei gilydd yn bryderus.

    Tuchanodd yr hen ddyn. ‘Wel, efallai ein bod ni’n newydd i fyd haearn. Ond so ni’n newydd i frwydro dros ein hawlie. Fe fyddwn ni’n iawn.’

    ‘Brwydrwch chi dros ych hawlie,’ meddai Solomon. ‘Fe fyddwch chi mês ar eich tine a deg arall yn barod i gymryd eich lle tra’ch bod chi’n starfo.’ Cododd fys unigol. ‘Dim ond wrth siarad ag un llais, sefyll gyda’n gilydd, allwn ni ennill y dydd – pob un, neu neb.’ Caeodd ei law yn ddwrn.

    Crwydrodd i ffwrdd drwy’r gwersyll, gan adael y dynion yn mwmian yn anfodlon ac yn ysgwyd eu pennau, heb wybod a ddylen nhw gredu’r crwydryn rhyfedd ai peidio.

    *

    Y peth cyntaf drawodd fi wrth agosáu at y dref oedd yr oglau. Oglau llethol glo yn llosgi – yn bennaf – ond hefyd oglau gwrtaith, a chwys, a rhyw sawr sur na ddeallwn ei darddiad. Dechreuodd fy nhu mewn a’m llygaid losgi, a thorrais allan i dagu, a dechreuodd y moch aflonyddu a gwichian yn un côr.

    Trodd y wraig tuag ataf. ‘Ni ’ma nawr!’ meddai, a’i llygaid yn sgleinio â chyffro.

    Codais ar fy mhenliniau yn simsan, a syllu i ben draw y dyffryn. Dysgwyd i mi erioed gan fy nhad fod Duw yn cosbi pobol am eu pechodau, nid yn unig ar ôl marw ond ar y ddaear hefyd. Ac wrth weld y dref yn ymestyn o’m blaen yn y dyffryn hwnnw deallais nad oedd Duw wedi gwastraffu amser yn fy alltudio’n syth i uffern.

    Edrychai fel clwyf. Hollt nadreddog yn y ddaear wedi lledaenu fel haint i’r bryniau o’i amgylch gan eu blingo o unrhyw wyrddni.

    Ar gyrion y dref roedd nifer fawr o dai isel ac anniben yr olwg, wedi eu codi ar frys amlwg, ac yn nythu mor agos at ei gilydd nes y byddai’n amhosib arwain trol rhyngddynt. Tua’r dwyrain, uwchlaw, roedd pentyrrau uchel o sorod yn tywynnu fel cyfog llosgfynyddoedd. A thua’r de-orllewin, gwelais weithfeydd dur yn codi megis crafanc gythreulig, yn goedwig o simneiau, yn gybolfa o warysau cochddu, yn rhes o ffwrneisi uchel fel temlau i Baal, wedi eu coroni â thân.

    Codai cudynnau o fwg du, cannoedd ohonynt, o bob simnai, gan lenwi’r awyr â chaddug du a droeai ganol dydd yn nos. Edrychai fel pe bai’r dref gyfan ar dân.

    ‘Mae’n rhyfeddod, ond yw hi,’ meddai’r gŵr. ‘Yr hyn all dyn ei gyflawni.’

    Ond yr hyn a ddaliodd fy llygaid wrth agosáu oedd y tŵr uchel yng nghanol y dref. Roedd cwmwl o fwg o’i gwmpas, ond roedd yn codi yn llawer uwch na’r dref o’i amgylch, a’i gopa’n torri drwy’r caddug a bron â chyrraedd y cymylau.

    Ymlaen â’r gert at ymylon y dref ac yn lle arswyd dechreuais deimlo dryswch. Ni welais gymaint o bobol yn fy myw. Ar gefn troliau, yn cario nwyddau, yn sefyll a sgwrsio. Yn drigolion cefn gwlad, newydd gyrraedd yn eu crysau cotwm gwyn, â’r un olwg o ryfeddod, braw neu gyffro ar eu hwynebau, yn ymdoddi i ganol dynion mewn siwtiau a hetiau du, a’r menywod mewn gwisgoedd trwchus o gotwm du a hetiau gwellt, eto’n ddu, fel rhai’r dynion ar eu pennau, yn barod i’w croesawu, eu cynorthwyo neu eu harwain ar gyfeiliorn. A’r cyfan hyd eu fferau mewn baw llaith.

    Cymaint o bobol. A chertiau, bocsiau, llysiau, celfi. Moch, ieir a chŵn. Gormod i’w weld a’i glywed a’i ogleuo ar unwaith a gwneud synnwyr ohono. Y synhwyrau’n llyncu ond y meddwl yn tagu.

    Canolbwyntiais ar dri dyn a safai uwchlaw’r dorf, yn ceisio bloeddio dros y cwbwl. Roedden nhw wedi eu gwisgo’n fwy trwsiadus na’r rhai o’u cwmpas, mewn hetiau silc a siacedi gweddol lân. Roedd gan bob un Feibl trwchus o dan ei gesail, ac roedd eu lleisiau soniarus yn cystadlu â’i gilydd.

    ‘Clywch a llawenhewch!’ galwodd un mewn llais uchel, main. ‘Canys fe roddodd Duw y wlad o’ch blaen chwi; ewch i mewn, a pherchnogwch y wlad hon a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau chwi…’

    ‘A dywedodd Ef wrth y bobol,’ galwodd un arall, mewn llais dyfnach yn rhowlio dros bennau’r dorf fel taran, ‘nac ofnwch; oherwydd i’ch profi chwi y daeth Duw, a bod ei ofn ef ger eich bron, fel na phechech…’

    ‘Mae capel newydd sbon yn eich disgwyl ar Fogg Street,’ galwodd un arall. ‘Gyda digon o le yn y corau i bum cant. O ba enwad bynnag yr ydych wedi dod, mae croeso i chi ymuno â’r Trochwyr!’

    Teimlais fod gan y pregethwyr hyn y swydd hawsaf yn y byd – cynnig achubiaeth i eneidiau wrth borth Annwn.

    Gwasgodd y gert heibio iddynt yn araf bach, drwy’r dorf ac i ganol yr annibendod o dai tu hwnt, y mwyafrif wedi eu hadeiladu o bren, a cherrig, a darnau o haearn, toeau gwellt, ac weithiau y cyfan gyda’i gilydd, a hynny ar sylfaen o faw a gwastraff. Roedd haen seimllyd o fryntni dros y cyfan, fel llwch glo. Dyfalais mai dyna pam roedd yn rhaid i bawb yn y dref wisgo du, neu fe fyddai eu dillad yn dywyll cyn bo hir beth bynnag.

    Safodd y gert yn stond yn ddisymwth a bownsiodd rhai o’r perchyll hanner modfedd i’r awyr.

    ‘Diawl,’ meddai’r ffermwr.

    Edrychais dros ymyl y gert a gweld bod yr olwynion wedi taro pentwr o weddillion llysiau a chig a gwastraff diwydiannol oedd wedi casglu fel argae yn erbyn y budreddi a lifai fel nant drwy’r stryd, heb na chwter na dim arall i’w gario i ffwrdd. Roedd trigolion y dref wedi gosod estyll pren neu gerrig sarn yma a thraw er mwyn croesi o un pen i’r llall heb faeddu. Ond nid oedd hynny’n llyfnhau’r ffordd i’r cerbydau.

    Neidiodd yr hen ffermwr oddi ar y gert a rhoi cynnig ar ei gwthio. Gwelais ei draed yn suddo’n ddwfn i’r llaca. Edrychodd arnaf.

    ‘Elli di roi help llaw i mi?’ gofynnodd.

    Edrychais ar yr hen wraig fferm, ond trodd hithau i ffwrdd. Gollyngais fy nghwdyn a dringo oddi ar y gert yn anfodlon, gan wybod na allwn wrthod, a chodi fy ffrog yn y gobaith na fyddai’n sarnu. Ond roedd yr ymdrech yn ofer. Teimlais y mwd oer, gludiog yn llenwi fy esgidiau a’r drewdod yn llenwi fy ffroenau ac yn codi pwys arnaf. Credais am eiliad na fyddwn fyth yn lân eto.

    Rhoddais hyrddiad i’r gert ar y cyd â’r ffermwr ond ni lwyddwyd i ryddhau’r olwyn.

    ‘Unwaith ’to.’

    Rhoddwyd hergwd arall iddi.

    ‘Dyna ni!’

    Dringodd y ffermwr i flaen y gert ac ysgwyd y cyfrwy a bu’n rhaid i mi neidio eto i’r cefn cyn i’r ceffyl ein llusgo ymlaen i ganol y dryswch o dai.

    Edrychais ar fy ffrog, un o ddwy oedd gen i. Nid yr orau o’r ddwy, ond anobeithiais yn llwyr yr un fath wrth weld y godreon mor fudr.

    ‘Tudor Street o’ch chi moyn ife?’ gofynnodd y wraig.

    Nodiais fy mhen yn frysiog.

    ‘Ni newydd fynd heibo.’

    Ymbalfalais am fy mag yng nghanol y gwellt a neidio’n ôl i lawr y stryd. Aeth y gert yn ei blaen heb stopio.

    ‘Diolch yn fawr i chi,’ codais fy llaw.

    Galwodd y wraig rywbeth, ond ni allwn ei chlywed. Ac i ffwrdd â’r gert a fy ngadael yn y fan a’r lle.

    *

    Edrychais i fyny a gweld yr arwydd wedi ei hoelio ar dalcen tŷ tafarn ar gornel y stryd. ‘Tudor Street’. Stryd o dai teras cul cwbwl unffurf, a chynifer ohonynt yn yr un stryd ag ym Melin Frewys i gyd, ac ar lethr hynod serth. Roedd twr mawr o blant yn dringo a gweiddi a rhedeg a chwarae fel anifeiliaid yn y pyllau mwdlyd. Roedd sawl drws yn llydan agored a gwragedd yn gweiddi ar ei gilydd o riniog i riniog.

    Sylweddolais mewn braw na wyddwn fawr ddim am y lletywraig y bûm yn gohebu â hi. Roeddwn wedi cael ei henw a’i chyfeiriad, ‘Mrs Davies, Tudor Street’,

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1