Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres y Dderwen: Y Ddinas ar Ymyl y Byd
Cyfres y Dderwen: Y Ddinas ar Ymyl y Byd
Cyfres y Dderwen: Y Ddinas ar Ymyl y Byd
Ebook158 pages2 hours

Cyfres y Dderwen: Y Ddinas ar Ymyl y Byd

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Within the City walls there are cruel soldiers, corrupt businessmen, an ever-present Keeper, a girl with a secret mark on her shoulder and the secrets of the authorities. The Crisis and the Disease have left their mark and turned nature up-side-down. An imaginative novel for teenagers and adults in the Cyfres y Dderwen series by the author of Dial yr Hanner Brawd.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateJul 21, 2014
ISBN9781847719980
Cyfres y Dderwen: Y Ddinas ar Ymyl y Byd
Author

Arwel Vittle

Arwel Vittle grew up in Carmarthenshire, and was educated at Bangor University. He now lives near Caernarfon and works as a writer and translator.

Related to Cyfres y Dderwen

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres y Dderwen

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres y Dderwen - Arwel Vittle

    Y%20Ddinas%20ar%20Ymyl%20y%20Byd%20-%20Arwel%20Vittle%20-%20%20Dderwen.jpglogo%20derwen%20OK.pdf

    Golygyddion Cyfres y Dderwen:

    Alun Jones a Meinir Edwards

    Argraffiad cyntaf: 2010

    ™ Hawlfraint Arwel Vittle a’r Lolfa Cyf., 2010

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Comisiynwyd y gyfrol hon gyda chymorth ariannol Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

    Cynllun y clawr: Alan Thomas

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 84771 212 7

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru

    gan Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    gwefan www.ylolfa.com

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 832 782

    1 - Diwedd

    Ydyn nhw gen ti?

    Estynnodd y dyn bach eiddil ei law esgyrnog yn ddisgwylgar trwy borth y drws, ac edrych dros ei sbectol hanner lleuad ar y ddau ohonom yn llechu yn y cysgodion, a’n hwdis tywyll wedi eu tynnu’n dynn dros ein pennau.

    Be ti’n feddwl sy gen i? I be ’swn i’n mentro draw ganol nos fel arall?

    Cilwenodd y dyn bach.

    "Wel, bienvenido ffrindiau. Dewch i mewn o’r tywyllwch, a thynnwch eich masgiau. Siawns ei bod hi’n fwy cartrefol yma nag ar y stryd."

    Mater o farn yw hynny, meddyliais, wrth i mi a Carell gamu’n ofalus dros riniog y drws, ac i mewn i ganol siop drugareddau Enso Espinosa.

    Wedi tynnu’r masgiau diheintio, cymerais anadl fawr ac edrych o ’nghwmpas, yng ngolau gwan unig lamp y gweithdy. Teimlai fel cerdded i mewn i rewgell, roedd hi’n oer gythreulig heb wres o unrhyw fath. Bûm yno droeon o’r blaen ac roeddwn yn gyfarwydd â’r oerfel. Yn gyfarwydd hefyd â’r geriach blêr ymhobman. Y darnau cloc sbâr, y sbrocedi a’r nytiau, y bolltau a’r sgriwiau. Ar y silffoedd roedd toreth o beiriannau a chyfarpar ar eu hanner. Clociau cadw amser, cãn cloc, cathod cloc ac, yn y gornel lychlyd, bwndel o flewiach a chrwyn artiffisial.

    Llond storfa o beiriannau blewog i gymryd lle’r holl anifeiliaid anwes fu farw yn yr Haint.

    Oes gen ti dâl am y stwff, Enso? gofynnais. Mae’r pris yn uwch na’r tro o’r blaen, cofia. Fel wnaethon ni gytuno…

    Wrth gwrs, atebodd yr hen fasnachwr, yn sefyll y tu ôl i’r cownter fel petai o wedi bod yno erioed. Rho dy sach di ar y bwrdd gyntaf i mi gael gweld be sy gen ti.

    Tynnais y rycsac oddi ar fy ysgwydd a’i osod ar y cownter o flaen Espinosa. Wrth i mi wneud hynny sylwais ar Carell yn edrych allan drwy ffenest y siop. Roedd ar bigau’r drain heno, meddyliais. Roedd wedi fy siarsio i fod yn ofalus ac i beidio oedi gormod.

    Mae o i gyd yma. Ga i weld lliw dy bres di gynta?

    Rhoddodd Espinosa ei dâl am y nwyddau ar y cownter pren, ac yna fe wnes innau yn fy nhro arllwys cynnwys y sach ar y bwrdd. Ar ôl pori yn y twmpath am eiliad, cododd ei ben.

    "Popeth yno yn ôl y disgwyl, espléndido. Mae wastad yn bleser delio gyda chi’ch dau, meddai wrth dwrio eto i ganol y geriach ar y bwrdd a dechrau didoli’r darnau sbrocedi gloyw. Mi wyt ti’n hogan anrhydeddus, Lluan. Bob tro yn cadw dy air. Hyd yn oed gyda rhyw fwngrel dieithr fel fi. Ers faint wyt ti a mi wedi masnachu efo’n gilydd, dwed?"

    Tair blynedd.

    "Tres años. Cymaint â hynny. Wel… o’m rhan i, tair blynedd o drefniant llwyddiannus. Wn i ddim o ble rwyt ti’n cael y cyfarpar yma – er bod gen i syniad go lew…"

    Edrychodd arnaf yn graff.

    Beryg bod storfa Tãr y Gangell yn dipyn gwacach bellach! Beth bynnag am hynny mae’r ansawdd yn rhagorol. Y gorau! Ydi wir, Lluan bach. Bach o gorff ond yn ddigon abl i edrych ar ôl dy hun... Mae ’na rywbeth amdanat ti, Lluan. Rhywbeth hñn na’r awyr, ond rhywbeth newydd hefyd. Faint yw dy oed di erbyn hyn, dwed? Un deg saith?

    Naw. Un deg naw.

    Pedair ar bymtheg oed ond yn edrych fel merch bedair ar ddeg. Ffaith oedd yn dân ar fy nghroen. Fedra i ddim dweud mod i’n licio sut ro’n i’n edrych. Wyneb gwelw, ceg lydan, trwyn smwt a bochau esgyrnog. Gwallt coch cwta wedi’i lifo’n ddu, corff tenau a main â thatã ar fy ysgwydd – yn edrych yn llawer rhy debyg i fachgen. Merch nad oedd byth yn cael ei derbyn am yr hyn oedd hi. Ond roedd hynny wedi gweithio o ’mhlaid i wrth i mi drio cadw’n fyw ar y stryd.

    A dyna lle’r oeddwn i ar fin selio bargen gydag Enso Espinosa, dyn trwsio clociau gorau y farchnad ddu, mewn siop rynllyd mewn dinas fudr a blêr ar ymyl y byd.

    Sylwodd y dyn bach o’r dwyrain ’mod i’n syllu i’r gwagle. Pesychodd ac amneidiodd ei ben.

    Cymer di ofal, Lluan.

    Yna ysgwydodd fy llaw yn ffurfiol, gan afael ynof yn dynn ac edrych i fyw fy llygaid gyda thynerwch annisgwyl, a dweud:

    "Viene tormenta, Lluan. Mae ’na storm ar ddyfod. Ac mi fyddi di yn ei chanol hi. Cymer di ofal, Lluan, beth bynnag ddaw."

    A dyna pryd y dechreuodd cloch fawr y Ddinas ganu, gan rybuddio pobl i chwilio am loches i gysgodi. Cyn hir byddai pawb yn rhuthro’n wyllt i bob cyfeiriad i chwilio am le diogel rhag y Niwl. Eisoes, cyn i ni gyrraedd gweithdy siop Enso, roedd y niwl tew wedi dechrau lapio ei hun o gwmpas lampau’r strydoedd, y lleithder marwol yn bygwth treiddio i bob twll a chornel.

    Er hynny, nid oedd Espinosa am ollwng ei afael a gwasgodd fy llaw eto yn dynnach, fel pe bai’n ofni llacio ei afael.

    Fe fydd gofyn i ti weithredu, er nid tan y diwedd, ond fe ddaw hynny’n gynt na’r disgwyl. Tan hynny rhaid i ti baratoi dy hun ar gyfer yr eiliad. Taw piau hi.

    Lluan, ymbiliodd Carell, well i ni hastu mwy a mwydro llai. Ma ishe i ni siapo hi o ’ma!

    Edrychodd Espinosa draw at y llanc ifanc oedd yn sefyll yn bryderus wrth ymyl y ffenest, yn cadw golwg rhag ofn bod yr awdurdodau ar ein gwarthaf.

    "A thithau. Pâr bonheddig ydach chi’ch dau. Carell a Lluan. Dos nobles criaturas de la noche. Dau o greaduriaid anrhydeddus y nos. Mae creu anifeiliaid anwes o safon yn dipyn haws gyda chyflenwyr fel chi."

    ’Na ddigon o sebon am heno, Enso, meddai Carell yn sychaidd. Wyt ti wedi cwpla dishgwl ar y darne yma? Shigla dy stwmps, bachan, ry’n ni ishe bod mas o ’ma glou!

    Doedd dim amynedd gan Carell. Gwyddai nad oedd amser i oedi. Bu dwrn yr awdurdodau’n taro’r farchnad ddu yn galed yn ddiweddar.

    Lluan, dwi wir yn credu y dylen ni symud. Mae ’da fi deimlad gwael am hyn, meddai eto.

    Rhy hwyr. Roeddem wedi oedi gormod. Ar y gair daeth sãn rhywun yn curo’n galed ar y drws. Nid curo yn gymaint â dyrnu. Nid dyrnu yn gymaint â chwalu’r drws yn yfflon.

    Y Rhwydwyr!

    Dyna’r peth cyntaf ddaeth i’m meddwl wrth i’r dynion arfog wthio’u hunain drwy’r drws.

    Dianc oedd yr ail beth.

    Cyn i ni gael cyfle i drafod pwy sbragiodd arnom, gafaelodd Carell yn fy mraich a gweiddi arna i.

    Mas! Drwy’r cefen, nawr! Dere glou!

    Rhuthrodd hanner dwsin o ddynion i mewn gan sgrechian fel pethau o’u co’.

    NEB I SYMUD! PAWB AR Y LLAWR!

    Trwy gornel fy llygad gwelais un o’r bwystfilod arfog yn gwthio Espinosa i’r llawr, a dwi’n cofio clywed ei benglog tenau yn cracio wrth daro’r concrid solet.

    Anelodd Carell gic egr â’i droed i wyneb un o’r milwyr agosaf, nes i hwnnw syrthio’n erbyn un o’i gyd-Rwydwyr. Hanner eiliad wedi hynny roedd Carell yn gafael ynof ac yn fy nhynnu at y drws cefn. Mewn fflach roedd y ddau ohonom allan yn lleithder llwyd y nos ac yn mynd fel y gwynt am yr ysgol haearn yng nghefn y bloc adeiladau. Lwc yn unig oedd i gyfri nad oedd y milisia yn gwylio’r cefnau.

    Ti gynta! gwaeddodd Carell arna i. Am y topie!

    Teflais gipolwg dros fy ysgwydd i wneud yn siãr bod Carell yn fy nilyn, cyn crafangu fy ffordd i ben y to. Wnes i ddim edrych i lawr ond roeddwn i’n gallu clywed sãn esgidiau trymion y Rhwydwyr ar ein gwarthaf. Doedden nhw ddim wedi tanio ergydion eto. Arbed bwledi efallai. Ond mater o amser fyddai hi cyn i’r saethu ddechrau.

    Cofia dy fasg! sgrechiais ar Carell, rhag ofn ei fod wedi anghofio gwisgo’i fasg diheintio ynghanol y cynnwrf.

    Wedi dringo i ben yr adeilad, gwyddwn y byddai’n rhaid i ni redeg ras yn erbyn y Rhwydwyr dros y toeau. Ond doedd hynny ddim yn fy mhoeni. Ni oedd â’r fantais i fyny acw. Ein cynefin ni oedd y toeau. Roeddwn i a Carell wedi bod mewn twll fel hyn sawl tro o’r blaen.

    Syllodd y ddau ohonom ar ein gilydd. Gwenodd Carell, ac ar y foment honno roedd arna i awydd mawr i’w gofleidio a’i gusanu’n sydyn. Ond doedd dim amser na lle i deimladau meddal. Doedd dim angen geiriau beth bynnag. Roedd y ddau ohonom yn gwybod y drefn.

    Ar dy ôl di, Llu!

    Symudais ymlaen at ymyl y wal, a heb edrych i lawr ar y stryd oddi tanaf, cymerais un cam i’r gwagle a neidio.

    *****

    Rhedeg. Neidio. Taflu fy hun dros y toeau. Rhaid cadw i symud. Doedd dim amser i sylwi wrth garlamu heibio’r golygfeydd cyfarwydd.

    Y ffatrïoedd stêm yn chwydu mwg a thân. Yn duo awyr Dinas Maleïda, yn taflu tawch llwyd dros y strydoedd. Yr hysbysfyrddau sgleiniog ar ben y tyrau du yn denu trigolion yr Hofeldai i weithio y tu allan i’r Wal. Yn addo bywyd gwell a rhan yn y frwydr i godi’r hen Ddinas yn ôl i’r hen ysblander. Draenio’r ffosydd, glasu’r tir. Doedd dim prinder o bobl yn cynnig eu hunain, pob un am fachu cyfle i gael lle yn y Gorlan Werdd.

    Roeddwn i’n adnabod pob twll a chornel o’r lle, ond eto i gyd yn teimlo’n ddieithryn yno. Yn alltud yn fy ninas fy hun. Dyhëwn am rywle gwell lle câi Carell a minnau fyw gyda’n gilydd mewn llonydd. Rhywle y gallem ei alw’n gartref. Dyna oedd yn fy ngyrru ymlaen. Godro’r farchnad ddu i dalu am gael dianc o’r twll lle. Ond yn lle hynny roedd yr arian yn mynd ar gadw ein hunain yn fyw o ddydd i ddydd. Doedd dim argoel y caem ddianc yn fuan. Am y tro roedd goroesi gyda’n gilydd yn gorfod bod yn ddigon ynddo’i hun.

    Teimlwn fel pe bai Maleïda yn fy mygu. Yn fy nal yn gaeth. Roedd y dinasyddion wedi creu eu huffern eu hunain, a chael eu gorfodi i fyw ynddi.

    Ond i fyny yma roeddwn yn fy seithfed nef. Hyd yn oed â’r Rhwydwyr ar ein holau fe deimlwn yn rhydd.

    Collais gyfrif o’r troeon y bûm i’n rhedeg ras rhagddyn nhw. Yn taflu fy hun yn ôl ac ymlaen ar hyd y waliau uchel. Yn union fel y gwnaeth Carell a minnau’r noson honno, yn plymio a deifio, fel dau greadur gwyllt yn eu helfen. Yn neidwyr rhydd yn ein cynefin naturiol yn gweu ein ffordd dros y toeau concrid yn ôl adref i’r sgwat.

    Doedd dim rhaid edrych ’nôl i synhwyro eu bod yn dal ar ein sodlau. Er hynny teflais gipolwg i weld ble’r oedd Carell. Roedd o’n dal i ddilyn. Dilyn hefyd roedd y milisia. Gwnaeth Carell arwydd â’i law. Gwyddwn beth oedd hynny’n ei olygu. Doedd dim angen edrych ddwywaith.

    I lawr â ni, a disgyn i’r strydoedd blêr.

    Sawl gwaith y bûm i’n gwerthu nwyddau ar gorneli’r strydoedd digysur? Ynghanol niwl a baw yn crafu byw wrth i leithder budr y palmentydd dreiddio i’m hesgyrn, a gorfod wynebu edrychiad anghyfeillgar lluddedig y trigolion surbwch wrth iddyn nhw basio heibio. Erbyn hyn roedd Carell a minnau wedi gwneud digon o bres i gadw’r blaidd o’r drws drwy hel darnau sbâr ar gyfer yr anifeiliaid anwes newydd. Y clociau cysur.

    Cathod a chãn oedd yr anifeiliaid cyntaf i drengi yn yr Argyfwng. Ac roedd pobl yn dal i alaru am eu hanifeiliaid anwes. Bellach does dim creaduriaid fel yna ar ôl, ac roedd y rhan fwyaf o’r anifeiliaid gwyllt hefyd wedi diflannu o’r tir. Dim ond ambell rywogaeth ysglyfaethus a oroesodd yr Argyfwng. Ar y cychwyn, cynyddu wnaeth niferoedd y llwynog, y wenci, y gigfran a’r dylluan. Ond wrth i’r gwenwyn ledu, lleihau wnaeth prae yr anifeiliaid hyn a lleihau a wnaethant hwythau hefyd. Maen nhw’n dweud bod y llygod mawr wedi ymledu yn un lleng dros bobman wrth chwilio am fwyd, ond doedd dim modd iddynt hwythau chwaith osgoi’r gwenwyn yn yr

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1