Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Heliwr, Yr - Si Sô Jac y Do
Heliwr, Yr - Si Sô Jac y Do
Heliwr, Yr - Si Sô Jac y Do
Ebook145 pages2 hours

Heliwr, Yr - Si Sô Jac y Do

Rating: 4 out of 5 stars

4/5

()

Read preview

About this ebook

An exciting novel offering up another challenge to detective Noel Bain, when he has to deal with narcotics addicts.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateFeb 28, 2013
ISBN9781847716880
Heliwr, Yr - Si Sô Jac y Do

Read more from Lyn Ebenezer

Related to Heliwr, Yr - Si Sô Jac y Do

Related ebooks

Reviews for Heliwr, Yr - Si Sô Jac y Do

Rating: 4 out of 5 stars
4/5

1 rating0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Heliwr, Yr - Si Sô Jac y Do - Lyn Ebenezer

    Yr%20Heliwr%20-%20Lyn%20Ebenezer.jpg

    Argraffiad cyntaf: 2005

    © Lyn Ebenezer a’r Lolfa Cyf., 2005

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb ganiatâd ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw.

    Llun y clawr: S4C

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 0 86243 796 2

    E-ISBN: 978 1 84771 688 0

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn (01970) 832 304

    ffacs 832 782

    .

    .

    Cyflwynedig

    i'r rhai sydd ar ôl:

    Nansi, Beti, Kitty, Gwen a Hetty

    Cyflwyniad

    Dyma’r ail nofel yng nghyfres yr Heliwr, nofel sy’n seiliedig ar gymeriadau a welwyd gyntaf ar y ffilm Noson yr Heliwr, a gyd-sgriptiwyd gan Siôn Eirian a minnau. Arweiniodd y ffilm at bum cyfres deledu, er nad oes cysylltiad rhwng y cyfresi a’r nofelau. Mae’r nofel hon a’i rhagflaenydd yn driw i’r ffilm gan ddefnyddio Aber fel cefndir. Nid yw’n gyfrinach mai Aberystwyth yw’r Aber dan sylw, tref a fu’n gartref i mi am 26 o flynyddoedd.

    Yn dilyn y ffilm, y gobaith oedd mai Aber fyddai cefndir y cyfresi hefyd. Ond er mawr siom i mi yn bersonol, lleolwyd y rheiny ar hyd a lled Cymru. Mae hynny’n golygu bod y Prif Arolygwr Noel Bain, druan, wedi crwydro mwy na cheiliog bantam tincer.

    Carwn ddiolch i wasg Y Lolfa am bob anogaeth a phob gofal wrth baratoi’r gyfrol hon. Diolch yn arbennig i Alun Jones am ei waith golygu ac am ei awgrymiadau gwerthfawr. Diolch hefyd i Peter Edwards o gwmni Lluniau Lliw am dderbyn y syniad gwreiddiol ac i Siôn Eirian am gario baich sgriptio mor drwm ar gyfer y ffilm.

    Carwn bwysleisio fod y nofel hon, er gwaetha’r ffaith bod amryw o’r lleoliadau yn fannau go iawn, wedi ei seilio ar stori gwbl ddychmygol. Felly hefyd yr holl gymeriadau. Nid oes unrhyw gysylltiad rhyngddynt ag unrhyw bobl go iawn, byw neu farw.

    Lyn Ebenezer

    Haf 2005

    Pennod 1

    Swatiai Darren Phelps ar fainc wrth y fynedfa i Barc Plas Dinas. O frigau’r goeden lwyfen uwch ei ben diferai glaw didostur ar ei wallt Rasta, ar ei grys denim, ar ei jîns tyllog. Ond roedd Darren yn gwbl ddi-hid, er bod diferion erbyn hyn yn llifo i lawr ei wyneb o dan ei sbectol ac o dan ei goler.

    Eisteddai yn ei gwrcwd, ei freichiau wedi’u lapio o gwmpas ei bengliniau. Siglai’n ôl ac ymlaen fel plentyn ar geffyl pren. Gwasgai ei freichiau yn dynn am ei goesau fel bod y rheiny, yn eu tro, yn gwasgu yn erbyn ei stumog, stumog a oedd yn sgrechian am rywbeth i’w llenwi. Ond hyd yn oed yn gryfach na’r angen am fwyd roedd y newyn am rywbeth i dawelu ei enaid. Teimlai fod ei holl ymennydd, ei holl ymysgaroedd, ar dân. Llosgai pob modfedd o’i groen. Teimlai awydd crafu ei hun. Doedd dim pwrpas. Nid ar y croen roedd y cosi ond o dan y croen, yn ddwfn y tu mewn.

    Ond heb bres yn ei boced, byddai’r newyn am y llonyddwch a ddeuai o ganlyniad i frathiad y nodwydd ymhell bell i ffwrdd. Byddai’n haws tawelu’r sgrech a ddeuai o’i stumog. Dim ond mynd i gefn rhai o’r siopau mawr ar y stad fasnachol gerllaw oedd ei angen ac fe gâi ei wala a’i weddill o fwyd oedd wedi’i glirio oddi ar silffoedd a’r cownteri a’i daflu i’r biniau sbwriel ar ddiwedd y dydd. Doedd dim byd yn bod ar y bwyd, dim ond ei fod, fel Darren ei hun, wedi mynd yn rhy hen i fod o werth. Ond nid oedd ganddo’r ysbryd na’r gallu i gerdded y ddau can llath a’i gwahanai ef a chefn y siopau. Heno fe gâi eneidiau coll eraill ei siâr ef, nhw a’r cathod a’r cŵn strae, y llygod mawr a’r brain a gâi eu digoni wedi i’r criw digartref gael eu dogn.

    Teimlai Darren ei waed yn llosgi drwy ei wythiennau. Caeodd ei lygaid. Ond wnâi hynny ddim byd i leddfu’r boen a’r blys. Yno rhwng yr orsaf bysys a’r orsaf trenau clywodd sŵn y trên olaf yn cyrraedd pen ei daith, tician yr olwynion ar y cledrau yn swnio’n uwch ac yn uwch wrth iddo ddynesu. Petai hwnnw’n gadael yn hytrach na chyrraedd fe wnâi ystyried mynd arno naill ai i Birmingham neu i rywle tebyg. Ond fe fyddai angen pres ar gyfer hynny hefyd. Ac roedd drysau’r swyddfa DSS wedi hen gau.

    Drwy’r niwl a bylai wydrau ei sbectol, gwelai ambell deithiwr yn brasgamu o’r orsaf drwy’r glaw, myfyrwyr yn cyrraedd ’nôl, teulu wedi bod yn siopa yn Amwythig. Eraill yn froc môr cymdeithas. Pobl grwydrol ddi-wreiddiau fel ef ei hun oedd yn symud o dref i dref, o ddinas i ddinas, gan wneud hynny mor aml fel bod pob tref, pob dinas yn edrych, yn swnio ac yn gwynto yn union yr un fath.

    Diflannodd mwyafrif y teithwyr – rhai ar fysys, eraill mewn ceir neu dacsis gan adael ambell anffodusyn i gerdded drwy’r glaw. Yna, ymhen tua deng munud arall, gwelodd ddau mewn lifrai tywyll swyddogol, gyrrwr a gard y trên, meddyliodd, yn cerdded heibio. Yn eu disgwyl adref byddai croeso a chynhesrwydd, siŵr o fod.

    Caeodd ei lygaid unwaith eto ac ailgydio yn ei siglo dibwrpas. Dibwrpas? Na, roedd iddo bwrpas. O leiaf, fe fu iddo bwrpas unwaith. Pan oedd yn blentyn fe fyddai rhyw siglo fel hyn yn dod â thawelwch meddwl iddo. Yn ei stafell wely unig byddai’r siglo’n gwneud iddo anghofio’r sgrechiadau a’r rhegfeydd rhwng ei fam a’i dad. Hyd yn oed heddiw gallai alltudio’r byd mawr o’i gwmpas o’i feddwl. Ar hyn o bryd, y byd mawr gwlyb o’i gwmpas. Ond wnâi siglo ddim byd i’w helpu heno.

    Dyna un peth am ddihangfa heroin. O’i gymryd, doedd ddoe ddim yn bod. Nac yfory. Dim y ddoe o ofni mynd adre rhag ofn iddo gael ei golbio naill ai gan ei lystad neu gan ei fam – neu gan y ddau. Dyna’r unig dro y byddai’r ddau ohonyn nhw’n cytuno, pan fyddent yn troi eu dialedd arno ef. Na, dim ddoe, na dim yfory o ofidio eto o ble deuai’r ffics nesaf. Siglodd yn ei unfan, nôl a blaen, nôl a blaen.

    Yn sydyn teimlodd bresenoldeb rhywun yn sefyll y tu ôl iddo. Clywodd sibrwd a aeth ag ef yn ôl i’w blentyndod. Er na allai ddeall y geiriau, roedd eu rhythm yn gyfarwydd.

    ‘Si-sô, Jac y Do, dala deryn dan y to…’

    Trodd yn sydyn a thrwy’r diferion glaw a lanwai ei lygaid gan orchuddio gwydrau ei sbectol gwelodd ffigwr mewn lifrai du – un arall o weithwyr yr orsaf, meddyliodd – yn sefyll yno ac yn gwenu wrth ddal i sibrwd.

    ‘…Cadw’r fuwch a gwerthu’r llo a mynd i Lunden i roi tro… ’

    Yn ei law daliai’r dyn chwistrell. Cododd y dieithryn y nodwydd yn araf. Yng ngolau gwan y golau trydan uwch ei ben gallai Darren weld blaen y nodwydd yn sgleinio. Gwasgodd y dieithryn yn ysgafn â’i fawd y gwthiwr ar dop y chwistrell. Saethodd ffrwd fechan arian o hylif allan.

    ‘…A dyna ddiwedd Jac y Do.’

    Yna, heb yngan gair ymhellach, fe estynnodd y nodwydd i Darren. Syllodd hwnnw’n dwp gan estyn ei law’n reddfol tuag at yr offrwm annisgwyl. Disgynnodd y chwistrell ar gledr ei law fel manna o’r nefoedd. Erbyn iddo droi’n ôl i gyfarch y samaritan rhithiol a ddaethai ato allan o’r glaw, roedd hwnnw wedi diflannu fel ysbryd y nos i’r tywyllwch.

    Yng ngolau’r lamp uwchben fe syllodd y llanc yn fanylach ar y chwistrell. Roedd y cynhwysydd bron iawn yn llawn. Ond yn llawn o beth? Ymddangosai’n ddigon tebyg i’r stwff iawn. Ansawdd dŵr gyda gwawr wen yn dangos drwyddo, tebyg i’r dŵr calch hwnnw yn y dosbarth cemeg gynt a nodai bresenoldeb carbon deuocsid. Ond pwy yn ei iawn bwyll fyddai’n fodlon rhoi ffics o ‘H’ iddo am ddim? Pwy oedd ef i ystyried y fath gwestiwn? Roedd ei angen yn gryfach na’i chwilfrydedd.

    Edrychodd o’i gwmpas a llithro i heddwch cwt y gofalwyr yn y parc – lloches o estyll a tho ffelt a fu’n guddfan iddo droeon o’r blaen. Gwthiodd ei law’n reddfol drwy dwll yn ffenest y drws a llwyddo i agor y clo Yale a gadwai’r drws ar glo. Aeth i mewn ac eistedd ar hen sach wrtaith hanner-llawn. Diosgodd ei got. Rholiodd un llawes ei grys denim i fyny i dop ei fraich. O’i boced tynnodd allan ddarn o gortyn. Lapiodd hwnnw ychydig yn is na’r cyhyr bôn braich, a chyda chymorth ei ddannedd, fe’i clymodd yn dynn. Yna, yn ddall i’r creithiau a orchuddiai ei fraich fel marciau llwybrau ar fap, chwiliodd am wythïen gyfleus. Crynodd ei law’n ddiamynedd wrth iddo wthio blaen y nodwydd i’r cnawd meddal. Ond er gwaetha’r blys am fodloni’i newyn am heroin, gwasgodd y gwthiwr yn araf a phwyllog. Yna, eisteddodd yn ôl ar y llawr pren, pwyso’i ben yn erbyn sachaid o hadau porfa a chysgu.

    Ni wyddai Darren mai hwn fyddai ei ffics olaf. Hyd yn oed pe gwyddai hynny, mae’n amheus a wnâi e hidio. Gorweddodd yn ôl a phwyso’i ben yn erbyn y pared pren. Caeodd ei lygaid ac anadlu’n ddwfn. Yna clywodd gliced drws y cwt yn codi. Gorfu iddo frwydro i agor ei lygaid, ond drwy niwl y cyffur a oedd eisoes yn dechrau llifo drwy’i gorff, tybiodd iddo weld siâp dyn yn sefyll yn y drws rhyngddo â’r golau pŵl y tu allan. Camodd y dyn i mewn a chau’r drws o’i ôl. Gwyliodd Darren y dyn yn ei wylio ef. Yn araf toddodd siâp y dyn yn unffurf â’r cysgodion. Caeodd Darren Phelps ei lygaid, a hynny am y tro olaf yn y byd hwn.

    * * *

    Roedd hi’n glawio yn Aber. Petai hi ddim yn glawio yn Aber ar nos Sadwrn, yna fe fyddai hynny’n stori a allai ddisodli prif stori’r Cambrian Gazette, stori a gâi ei hysbysebu mewn llythrennau breision ar boster y tu allan i siop bapurau gyferbyn â’r orsaf drenau. Y pennawd ar y poster oedd: ABER DRUGS PROBLEM. EXPERTS TO MEET.

    Gwenodd DS Carwyn Phillips yn ei gar wrth iddo barcio mewn lle gwag yn yr arhosfan tacsis. Pam bod pob criw o lefftis a do-gooders yn cael eu bedyddio byth a hefyd fel carfan o arbenigwyr? Fe gâi’r gynhadledd gyffuriau ei chynnal, fe gâi syniadau aruchel eu gwyntyllu ac yna fe âi pawb adre ac fe gâi’r broblem ei hanghofio. Ei hanghofio tan i’r ystadegau nesaf ddangos cynnydd mewn defnyddio cyffuriau ac i gynhadledd arall gael ei threfnu. Sbin oedd y cyfan. Gaddo popeth, cyflawni dim.

    A phwy fyddai’n taflu syniadau? Pobol na wyddent ddim byd o gwbwl am y broblem. Pobol oedd yn hapus i ddilyn ffasiynau diweddaraf y dydd. Pobol na wyddent ddim am y byd go iawn. Darllenwyr y Guardian nad oeddent erioed wedi bod yn rheng flaen y frwydr. Lefftis a feddyliai fwy am y troseddwyr nag am y dioddefwyr.

    Un ateb, meddyliai Carwyn, fyddai i’r diawled di-werth gael eu gorfodi i weld wyneb hen wraig wedi iddi gael ei mygio er mwyn cael pres ar gyfer prynu ffics arall. Fe ddylent weld cyrff jyncis marw, eu hwynebau’n las-wyn a’u breichiau’n dyllau fel hen fwrdd dartiau. Fe ddylent weld merched ifainc ar gornel strydoedd yn gwerthu eu cyrff er mwyn ariannu eu blys am ffics. Fe ddylent weld cartrefi pobol oedd yn byw’r bywyd moethus o ganlyniad i werthu’r gwenwyn uffernol oedd yn ysgubo drwy’r dre fel pla. Fe ddylent ddarllen colofn Richard Littlejohn yn y Sun bob dydd Mawrth a phob dydd Gwener. Byddai wedyn yn fwy parod i wrando ar eu syniadau.

    Rhwng ysgubiadau rheolaidd y sychwr ffenest, gwelai Carwyn bobl ifainc yn rhedeg o dafarn i dafarn wrth geisio osgoi gwlychfa. Swatiai ambell un o dan ambarél tra oedd eraill yn gwbl ddi-hid o’r gawod wrth iddynt fracsio drwy byllau o ddŵr. Cymysgai sgrechian rhai o’r merched â sŵn miwsig aflafar wrth i ddrysau tafarndai agor naill ai ar gyfer derbyn cyflenwad newydd o yfwyr neu i ollwng criw oedd yn gadael.

    Yna clywodd sŵn gweiddi. ‘Edifarhewch! Edifarhewch! Mae Dydd y Farn yn dod! Mae’r dref bechadurus hon yn wynebu damnedigaeth.’ Doedd dim angen gofyn pwy oedd wrthi. Dic Bach

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1