Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Na, Nel!
Na, Nel!
Na, Nel!
Ebook62 pages33 minutes

Na, Nel!

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A book of three stories about mischievous Nel, for readers between 7 and 9 years old, but can be enjoyed by all ages! "No, Nel!"
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateMay 7, 2014
ISBN9781847718921
Na, Nel!

Read more from Meleri Wyn James

Related to Na, Nel!

Related ebooks

Related categories

Reviews for Na, Nel!

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Na, Nel! - Meleri Wyn James

    Cover.jpg

    I Mia Seren ac Esther Alys

    Diolch i bawb a helpodd i ddod â Nel yn fyw:

    i Meinir a Nia o’r Lolfa am eu gwaith golygu proffesiynol,

    i John Lund am y darluniau gwych, i Alan am ei waith dylunio gofalus ac i Sion am y clawr trawiadol. Diolch hefyd i Lynne a Catrin am eu cyngor a’u geiriau caredig.

    Ac i fy ffrindiau bach – Mia Seren, Esther Alys, Lleucu Siôn ac

    Efa Lois – swsus a Smarties am chwerthin a dweud eich

    dweud yn ddiflewyn-ar-dafod.

    Argraffiad cyntaf: 2014

    © Hawlfraint Meleri Wyn James a’r Lolfa Cyf., 2014

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i

    lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac

    at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y

    cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Cynllun y clawr: Sion Ilar

    Llun y clawr: John Lund

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 84771 895 2

    E-ISBN: 978-1-84771-892-1

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru

    ar bapur o goedwigoedd cynaladwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    Nel_Pedwar%20(2).jpg

    Pwy ydy Nel?

    Dydy hi ddim yn hoffi dweud plis na diolch – dim ond pan mae hi eisiau rhywbeth.

    Dydy hi ddim yn hoffi golchi ei dwylo – hyd yn oed ar ôl mynd i’r tyˆ bach.

    Dydy hi ddim yn hoffi brwsio ei dannedd – o gwbwl.

    Mae gwrando yn anodd iddi.

    Mae eistedd hyd yn oed yn fwy anodd iddi. Byddai rhai pobol yn dweud bod mwydod bach yn byw yn ei nicers hi.

    Mae hi’n cwyno bod brwsio ei gwallt yn brifo – ond dydy e ddim.

    Llun%201.psd

    Mae hi’n un dda am eistedd yn rhy agos at y teledu.

    Mae hi’n hoffi siarad a phryfocio. Mae ganddi lais uchel iawn.

    Mae hi’n hoffi canu. Mae hi’n canu fel brân yn crawcian neu gath yn sgrechian.

    Mae hi’n rhedeg i bob man, gan lusgo ei bysedd brwnt ar hyd y wal.

    Mae hi’n aros nes yr eiliad olaf cyn mynd i’r tyˆ bach.

    Mae hi’n gallu troi Dad a Mam o gwmpas ei bys bach.

    Nel_Pedwar%20(2).jpg

    Pen-blwydd?

    Pennod 1

    Cafodd Dad a Mam eu dihuno gan swˆn ofnadwy. Neidiodd y ddau i fyny yn y gwely ac edrych ar ei gilydd mewn dychryn.

    Roedd y swˆn fel cath yn sgrechian… neu frân yn crawcian… neu flaidd yn udo.

    O, na! Nel! meddai’r ddau ar yr un pryd.

    Edrychodd Dad ar y

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1