Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Na, Nel! yn Achub y Byd!
Na, Nel! yn Achub y Byd!
Na, Nel! yn Achub y Byd!
Ebook67 pages35 minutes

Na, Nel! yn Achub y Byd!

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

How can a mischievous schoolgirl save the world? Nel is full of ideas, and when she realizes that there is a fiendish plan in the offing, she sets out on an adventure to find the beast that is determined to destroy the planet. With color illustrations by John Lund, this story is full of advice and ideas about how children can look after their planet.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateNov 30, 2022
ISBN9781800993112
Na, Nel! yn Achub y Byd!

Related to Na, Nel! yn Achub y Byd!

Related ebooks

Reviews for Na, Nel! yn Achub y Byd!

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Na, Nel! yn Achub y Byd! - Meleri Wyn James

    cover.jpg

    I blant ym mhob man:

    byddwch ddewr, byddwch wych!

    Diolch i bawb sy’n fy helpu wrth roi’r strach yn straeon Nel:

    I Meinir ac Anwen am eu gwaith golygu proffesiynol, i Bethan Mai am y darluniau byw, i Alan am ei waith dylunio gofalus ac i Siôn am y clawr gwych.

    Diolch hefyd i blant y teulu am eu hwyl a’u direidi: Mia, Esther, Siân, Gruffudd a Martha.

    Diolch o galon i Eisteddfod Genedlaethol Cymru am roi eu ffydd yng ngallu Nel i ddifyrru cynulleidfa’r Pafiliwn yn Nhregaron a hybu’r neges am bwysigrwydd darllen ac ysgrifennu.

    Argraffiad cyntaf: 2022

    © Hawlfraint Meleri Wyn James a’r Lolfa Cyf., 2022

    © Hawlfraint y lluniau: Bethan Mai, 2022

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr a’r lluniau ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohonynt, trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu), heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw.

    Cynllun y clawr: Sion Ilar

    Llun y clawr: Bethan Mai

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-80099-311-2

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru ar bapur o goedwigoedd cynaladwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    Parti Mawr Nel Mair

    Pennod 1

    Pen-blwydd hapus. W-hw!

    Roedd Nel yn gynnwrf i gyd. Dawnsiodd yn aflonydd – a bron â sefyll ar bawen berffaith Mister Fflwff ar yr un pryd.

    Mi-aw! llefodd pws. Tipiodd y tiara oddi ar ei ben.

    Doedd hi ddim yn ben-blwydd ar Nel. Ond roedd Nel mor gyffrous â phetai hi’n dathlu ei phen-blwydd ei hun. Wel, bron… Roedd Nel BRON mor gyffrous â phetai hi’n dathlu ei phen-blwydd ei hun. Roedd hyn yn ail orau agos iawn, iawn, iawn. FfG Nel, Mair Mwyn, oedd yn dathlu ac roedd Nel wedi cipio awenau’r ceffyl (fel petai) ac yn trefnu parti mawr. Y parti gorau erioed. W-hwww!

    Roedd Nel wedi llunio rhestr yn barod. Roedd hi wrth ei bodd yn ysgrifennu. Doedd dim byd yn debyg i ddal darn o bapur gwag mewn un llaw a phensel mawr yn y llall a llenwi’r gofod gyda’i syniadau gorau.

    Y parti gorau erioed!

    N Fi, Nel, sy’n trefnu’r parti.

    Fe allai Nel weld y wên ar wyneb ei ffrind hyfryd. Fyddai hi ddim yn gorfod codi bys cyfeillgar i helpu. Nel fyddai’n gwneud pob peth!

    Roedd Nel yn methu aros i dorri’r newyddion i Mair. A dyna wnaeth hi yng nghanol y corwynt o annibendod yn stafell Nel. Syllai Ted-ted arni’n fud gyda’i un lygad dda.

    Mair, mae gen i newyddion da i ti. Roedd Nel yn credu mewn taro tra bod yr haearn yn boeth – neu tra bod y gannwyll ben-blwydd yn boeth, yn yr achos yma.

    Dwi’n dathlu fy mhen-blwydd, meddai Mair yn llon. Am ffrind arbennig oedd Nel yn cofio’r dyddiad, meddyliodd.

    "Dwi’n gwybod hynny, Mair. Ond mae hyn yn fwy

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1