Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres yr Onnen: Sgrech y Môr
Cyfres yr Onnen: Sgrech y Môr
Cyfres yr Onnen: Sgrech y Môr
Ebook127 pages1 hour

Cyfres yr Onnen: Sgrech y Môr

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Adventure story about a boy named Siôn. He goes to stay with his aunt during his summer holidays and gradually learns that he is descended from the Welsh gypsies.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateNov 14, 2017
ISBN9781784610142
Cyfres yr Onnen: Sgrech y Môr
Author

Casia Wiliam

Casia Wiliam is a former Bardd Plant Cymru and author of multiple books for this age group. She won the 2021 Welsh-language Primary Tir na n-Og award for Sw Sara Mai (Y Lolfa), and was shortlisted again the following year for Sara Mai a Lleidr y Neidr (Y Lolfa). She has been particularly commended for her sensitive treatment of issues of race and identity.

Read more from Casia Wiliam

Related authors

Related to Cyfres yr Onnen

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres yr Onnen

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres yr Onnen - Casia Wiliam

    Sgrech%20y%20M%c3%b4r%20-%20Casia%20Wiliam%20-%20Onnen.jpglogo%20onnen%20OK.pdf

    I Mam, gyda diolch dibendraw am roi inc yn fy ngwaed i ac am fy annog i sgwennu.

    A diolch arbennig i Tom am y lluniau hyfryd.

    Argraffiad cyntaf: 2014

    © Hawlfraint Casia Wiliam a’r Lolfa Cyf., 2014

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Comisiynwyd y gyfrol hon gyda chymorth ariannol AdAS

    Darlun y clawr: Tom Workman

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 84771 742 9

    E-ISBN: 978-1-78461-014-2

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    gwefan www.ylolfa.com

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 832 782

    Map%20Rhos%20y%20Grug.jpg

    Pennod 1

    Amser swper

    Siôn! Swper!

    Gafaelodd Siôn mewn cangen gryf a thynnu ei hun yn uwch. Roedd bellach tua deg metr yn yr awyr a phrin y gallai weld y llawr. Teimlai chwys yn berlau bach dros ei dalcen a’r gwaed yn chwyrlïo’n ffyrnig trwy ei wythiennau. Dyma’r gangen uchaf roedd Siôn wedi ei chyrraedd ar y goeden hon erioed.

    Siôn! Swper ar y bwrdd! Ti’n clywed? Tyrd i lawr o ble bynnag wyt ti’r munud yma.

    Ochneidiodd Siôn. Doedd o ddim eisiau swper a doedd o’n bendant ddim eisiau dod i lawr o ben y goeden am fod Seimon yn dweud. Gosododd ei droed yn ofalus mewn siâp ‘u’ rhwng dwy gangen cyn sythu ei gefn a chodi ei ben. Fe allai weld y môr! O’r fan hon edrychai’r môr fel un faner hir, las yn chwifio’n ddiog ac yn dawel. Rhwng Siôn a’r môr roedd degau ar ddegau o ffyrdd llwyd yn troelli yma ac acw trwy wyrddni’r caeau i greu set Scalextric enfawr.

    Caeodd Siôn ei lygaid am eiliad a dychmygu ei hun yn rhoi andros o naid ac yna’n defnyddio pŵer hud i godi’n uwch ac yn uwch a hedfan fel barcud ar wib trwy’r awyr cyn plymio i mewn i’r tonnau glas, oer.

    SIÔN! Os oes raid i mi ddod i fyny fan’na i dy nôl di, mi fydd ’na le yma!

    Roedd Seimon yn rhuo wrth droed y goeden erbyn hyn.

    Ocê, ocê, dwi’n dod rŵan. Does dim isio gwylltio, nag oes? atebodd Siôn, gan wenu’n gyfrwys. Fe fyddai hynny’n siŵr o wylltio Seimon hyd yn oed yn fwy.

    Fel mwnci wedi ei fagu mewn coedwig, daeth Siôn i lawr o’i lecyn cudd ymhen chwinciad a rhoi naid fechan o’r gangen isaf cyn glanio’n fedrus ar y glaswellt. Syllodd Seimon arno heb ddweud gair. Roedd ei geg ar gau’n dynn, ei wefus yn llinell binc denau fel pry genwair ar ei wyneb ac roedd ei lygaid fel dwy storm. Cyn i Seimon gael cyfle i ddechrau dweud y drefn eto, brasgamodd Siôn am y tŷ gan weiddi rhywbeth dros ei ysgwydd am y swper yn oeri.

    Cadi oedd y gyntaf i siarad wrth y bwrdd bwyd.

    Cyw iâr Cadi! meddai’r fechan yn hapus, cyn stwffio’r cig gwyn i boced ei throwsus.

    Na, Cadi! Yn dy geg di mae hwnna i fod!

    Edrychodd Siôn ar ei fam yn tyrchu trwy boced ei chwaer ac yn tynnu tameidiau bychain o gig allan fesul un.

    I’w fwyta mae cyw iâr, Modlan Jên!

    Gwenodd Cadi fel giât a dal ei dwylo yn yr awyr cystal â dweud, wel, ddywedodd neb hynny wrtha i!

    Chwarddodd ei fam a Seimon gyda’i gilydd ond doedd gan Siôn ddim amynedd efo lol ei chwaer fach. Go brin y bydden nhw wedi chwerthin yn annwyl petai Siôn wedi dechrau stwffio’i swper i boced ei jîns.

    Wyt ti wedi gorffen dy waith cartref, Siôn? Gwthiodd Siôn ei fforc i mewn i daten cyn ateb ei fam.

    Doedd gen i ddim gwaith cartref y penwythnos yma, atebodd, gan syllu ar ei ginio dydd Sul.

    Paid â dweud celwydd! meddai Seimon. Mae gen ti waith cartref Gwyddoniaeth a Mathemateg i’w wneud erbyn fory. Mi welais i dy lyfrau di’n un smonach ar lawr dy lofft.

    Efo Mam ro’n i’n siarad, ddim efo chi! gwaeddodd Siôn ar Seimon. Tydy o ddim o’ch busnes chi os oes gen i waith cartref neu beidio, a does gennych chi ddim hawl i fynd i fy llofft i!

    Ac mae gen ti hawl i adael dy ystafell fel twlc, oes? gofynnodd Seimon. Ac mae’n iawn i ti redeg o gwmpas y lle fel peth gwyllt drwy’r amser, ydy? Mae’n amser i ti dyfu i fyny, Siôn, rwyt ti’n dair ar ddeg rŵan, alli di ddim dringo coed am byth! Mae’n rhaid i ti weithio’n galed yn yr ysgol, canolbwyntio a gwneud dy waith cartref i ti gael bod yn ddoctor neu’n dwrne ryw ddydd. Meddwl amdanat ti ydw i, Siôn. Rydw i a dy fam yn poeni amdanat ti.

    Seimon, meddai mam Siôn yn dawel gan osod ei llaw ar un ei gŵr. Gad lonydd iddo fo rŵan. Ond roedd hi’n rhy hwyr – roedd Siôn yn gandryll erbyn hyn. Gwthiodd ei swper oddi wrtho’n ffyrnig, trawodd ei blât yn erbyn ei wydryn a throdd hwnnw ar ei ochr gan adael i’r 7Up lifo’n afon dros y moron a’r grefi. Dechreuodd Cadi igian crio.

    Tydy ’mywyd i’n ddim o’ch busnes chi! gwaeddodd Siôn. "Jyst am eich bod chi’n ddoctor tydy hynny ddim yn golygu bod rhaid i bawb arall fod yn un! Pam bod dringo coed yn beth mor ofnadwy? Mae’n well gen i fod y tu allan yn rhydd nac yn sownd yn y tŷ efo chi!"

    Gadawodd Siôn i draed ei gadair grafu’n swnllyd yn erbyn teils llawr y gegin cyn troi ar ei sawdl a rhedeg i’w lofft.

    Siôn! Tyrd yn ôl i fa’ma i ymddiheuro. Clywodd Siôn lais ei fam o waelod y grisiau ond penderfynodd ei hanwybyddu. Pa hawl oedd gan Seimon i ddweud wrtho beth i’w wneud? Doedd o ddim yn dad iddo – tad Cadi oedd o. Doedd ganddo ddim hawl i symud i mewn i’r tŷ yma a dechrau dweud sut y dylai pethau i fod. Cartref Siôn oedd hwn. Cartref hapus Siôn a’i deulu oedd hwn ers talwm.

    Dringodd i’w wely a thynnu’r cwilt dros ei ben gan adael i’r dillad a’r cylchgronau, a oedd wedi bod yn fynydd tawel tan hynny, ddisgyn i’r llawr â chlep. Cliciodd y botwm ar y dortsh fechan a gadwai o dan ei obennydd nes i babell ei wely lenwi â golau melyn cynnes, ac estynnodd am y llyfr.

    Roedd o wedi dod o hyd i’r llyfr yng nghanol bocsys o lyfrau diflas a di-liw yn llyfrgell ei dad pan oedd pawb wedi bod wrthi’n clirio a sortio trwy ei bethau. Roedd y clawr wedi dal llygaid Siôn yn syth. Llun llwybr hir, a’r coed ar y naill ochr i’r llwybr wedi plygu, tyfu a phlethu i greu pont werdd hir a lliwgar uwchben y llwybr. Doedd dim byd yn y llun i roi unrhyw gliw ym mhle roedd y llwybr; fe allai fod yng Nghymru, yn Awstralia, neu yn Nhimbactŵ hyd yn oed. Pan welodd Siôn y clawr cafodd deimlad greddfol fod ei dad wedi cerdded ar hyd y llwybr rywdro, ac ers hynny roedd wedi cadw’r llyfr mewn man cudd wrth ochr ei wely. Byddai’n swatio o dan y cwilt gyda’i dortsh ac yn pori trwyddo pan fyddai’n hiraethu am ei dad.

    O glawr i glawr roedd y llyfr yn llawn ffotograffau o lwybrau a chuddfannau o bob cwr o’r byd – ogof yn Ffrainc, tŷ coeden yn y Swistir, llwybr caregog ar fynydd yn India. Dim ots pa mor flin neu drist neu unig y teimlai Siôn, fe fyddai wastad yn teimlo’n well ar ôl edrych ar y lluniau. Caeodd ei lygaid a thrio cofio’r alaw y byddai ei dad yn ei chwibanu pan fyddai’n amser gwely.

    Daeth cnoc ysgafn ar ddrws ei ystafell wely.

    Ga i ddod i mewn? Llais ei fam oedd yno. Atebodd Siôn mohoni ond clywodd y drws yn agor yn araf bach ac yna teimlodd bwysau ei fam yn eistedd ar waelod y gwely. Heb ei gweld, gallai Siôn ei dychmygu’n troi cudyn o’i gwallt coch cyrliog rownd a rownd ei bysedd fel y gwnâi’n aml wrth feddwl beth i’w ddweud nesaf.

    Yli, Siôn, meddai a’i llais yn ysgafn, mae’n rhaid i ti beidio bod mor flin efo Seimon. Nid ei fai o ydy beth ddigwyddodd, cofia. Does dim bai ar neb. Dwi’n gwbod dy fod ti’n hiraethu am dy dad, ac mi ydw i hefyd. Dwi’n meddwl amdano fo bob dydd. Ond mae’n rhaid i ti drio bod yn ffrindia efo ni, Siôn. Rydan ni’n dal yma, yn meddwl amdanat ti, yn dy garu di. Ni ydy dy deulu di rŵan.

    Arhosodd ei fam am eiliad ond ddaeth yr un smic o’r gwely. Dwi’n gwbod bod Seimon yn mynd ar dy nerfau di ond meddwl amdanat ti mae o – isio’r gorau i ti, isio i ti lwyddo.

    Felly, os na fydda i’n ddoctor ryw ddydd fydda i ddim wedi llwyddo? gofynnodd llais bach o berfedd y cwilt. Os na fydda i’n glyfar ac yn gyfoethog fel Seimon, fydda i ddim yn bwysig?

    Paid â bod yn wirion, does neb yn meddwl y ffasiwn beth. Ddywedodd ei fam ddim byd arall am eiliad ac roedd y tŷ fel y bedd.

    ’Dan ni’n trio dy helpu di, Siôn, ond mae’n rhaid i ti helpu dy hun hefyd. Rhoddodd ei fam ei breichiau am y mynydd crwn o

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1