Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Sara Mai ac Antur y Fferm
Sara Mai ac Antur y Fferm
Sara Mai ac Antur y Fferm
Ebook97 pages1 hour

Sara Mai ac Antur y Fferm

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Sara Mai is back, and this time Year 5 go on an end of term trip to a nearby farm. Alongside illustrations by Gwen Millward, we are presented with the humorous and earnest in the company of a full array of animals.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateNov 16, 2023
ISBN9781800995338
Sara Mai ac Antur y Fferm
Author

Casia Wiliam

Casia Wiliam is a former Bardd Plant Cymru and author of multiple books for this age group. She won the 2021 Welsh-language Primary Tir na n-Og award for Sw Sara Mai (Y Lolfa), and was shortlisted again the following year for Sara Mai a Lleidr y Neidr (Y Lolfa). She has been particularly commended for her sensitive treatment of issues of race and identity.

Related authors

Related to Sara Mai ac Antur y Fferm

Related ebooks

Reviews for Sara Mai ac Antur y Fferm

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Sara Mai ac Antur y Fferm - Casia Wiliam

    Sara_Mai_ac_Antur_y_Fferm_Casia_Wiliam.jpg

    I Gwern, Guto, Nanw, Miri a Tomos

    Diolchiadau

    Yn gyntaf hoffwn ddiolch yn fawr i’r Lolfa am y cyfle i roi antur arall i Sara Mai! Diolch i Guto a Huw am rannu eu gwybodaeth am ffermio efo fi yn hwyr y nos dros Messenger. Diolch i Natalie Jones am ei chyngor gofalus. Diolch o galon i Llio am ddarllen y llyfr gyntaf un ac am ysgrifennu adolygiad hyfryd – ti’n seren!

    A diolch yn fawr iawn i’r holl blantos weles i mewn ysgolion yn ystod tymor y gwanwyn eleni, am roi croeso cynnes a llond trol o syniadau newydd i mi. Ond mae’r diolch mwyaf un yn mynd i Caio Gwilym, am ofyn a gofyn, Mam, wyt ti wedi gorffen sgwennu Sara Mai 3 eto?!

    Argraffiad cyntaf: 2023

    © Hawlfraint Casia Wiliam a’r Lolfa Cyf., 2023

    © Hawlfraint lluniau: Gwen Millward

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw.

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru.

    eISBN: 978 1 80099 533 8

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 80099 394 5

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    gwefan www.ylolfa.com

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    Cynnwys

    PENNOD 1

    Swper a snot

    PENNOD 2

    Pelen o fflwff

    PENNOD 3

    Hawdd pawdd

    PENNOD 4

    Pyjamas a phwdin

    PENNOD 5

    Yn ôl i’r ysgol

    PENNOD 6

    Rhinoseros a fferins ceirios

    PENNOD 7

    Fferm Tyddyn Gwyn

    PENNOD 8

    Casglu wyau a thrampolîn

    PENNOD 9

    Gomer a’r parlwr godro

    PENNOD 10

    Moch bach a malws melys

    PENNOD 11

    Tractors a Tomi

    PENNOD 12

    Ffrind

    PENNOD 13

    Rheolau’r gêm

    PENNOD 14

    Am adref

    PENNOD 1

    Swper a snot

    Mae’r ocapi yn edrych yn debyg iawn i sebra; mae ei gôt yn frowngoch ac mae ganddo streipiau gwyn ar ei goesau. Ond er ei fod o’n debyg i sebra, tydyn nhw ddim yn perthyn - a dweud y gwir mae’r ocapi yn perthyn yn agos i’r jiráff! Does dim llawer o bobl yn gwybod hynna, ond dwi’n gwybod llawer iawn am anifeiliaid. Sara ydw i, gyda llaw, Sara Mai.

    Os wyt ti’n meddwl am y peth, mae’r ocapi yn debyg i jiráff. Mae ganddo goesau a gwddw hir fel jiráff, a chlustiau mawr llydan, ond mae o’n llawer llai. Mae yna ddau ocapi yn byw yma yn ein sw ni, Sw Halibalŵ. Maen nhw’n anifeiliaid prin a does dim llawer ohonyn nhw ar ôl yn y gwyllt erbyn hyn.

    Yndw, dwi’n byw mewn sw. Dwi’n gwybod bod hynny yn reit anghyffredin, ond i mi mae o’n hollol normal. Yn fan hyn dwi wedi byw erioed; mam ydi ceidwad y sw. Felly i fi mae’r ocapi a’r sebra a’r jiráff yn gymaint o ran o’r teulu ac ydi fy mrawd mawr i, Seb.

    Sara Mai! Ar y gair clywais Seb yn gweiddi arna i o’r tŷ. Amser swper, mae’n siŵr. Ar ôl dod adref o’r ysgol ro’n i wedi newid i fy nillad blêr a mynd yn syth allan i weld sut oedd Elmo yr eliffant, druan.

    SARA MAI!

    Ocê, ocê, dwi’n dod! meddwn i, gan ddechrau rhedeg am y tŷ. Mae Seb mor ddiamynedd!

    Golcha dy ddwylo, Sara, meddai Dad, yr eiliad ar ôl i mi gerdded trwy’r drws.

    Iawn, rho gyfle i fi! Be sy’ ’na i swper?

    Dwi’n golchi fy nwylo uwchben y sinc ac yn brysio at y bwrdd gan fy mod i newydd sylwi ’mod i ar lwgu!

    Fajitas heno, atebodd Dad, gan gario’r caws a’r cyw iâr poeth at y bwrdd. Dad sy’n gwneud y bwyd yn tŷ ni. Tydi o ddim yn gwybod llawer am anifeiliaid, ond mae o’n gwybod yn union sut i wneud fajitas.

    Mae Seb yn rhoi ei law fawr yng nghanol y caws felly dwi’n brysio i wneud yr un fath, cyn iddo fwyta popeth.

    Lle mae Mam? gofynnais, gan sylwi ar y gadair wag.

    Mae hi wedi gorfod galw’r milfeddyg at un o’r pandas bach. Tydi o ddim yn bwyta ers dyddiau.

    Be? meddwn i, gan wthio fy sedd yn ôl, yn barod i ymuno â Mam a’r milfeddyg yn lloc y pandas ar fy union.

    Sara Mai, aros lle wyt ti, meddai Dad. "Dy fam ydi ceidwad y sw ’ma, dim chdi!

    Mae angen i ti fwyta dy swper ac wedyn gwneud dy waith cartref."

    Dwi’n eistedd yn ôl i lawr ac yn cymryd brathiad blin o’r fajita. Pam ’mod i’n gorfod gwneud be mae’r oedolion yn ddweud o hyd? Mi faswn i wrth fy modd petawn i’n cael aros adref yn y sw bob dydd yn lle mynd i’r ysgol a gwneud gwaith cartref diflas.

    Mae hi bron yn ddiwedd tymor, Sar, meddai Dad, fel petai o newydd ddarllen fy meddwl i. Mi gei di fod adra trwy’r haf wedyn, cei? Ddim yn hir rŵan.

    O ia, meddai Seb, efo’i geg yn llawn swper. ’Dan ni’n cael mynd ar drip diwedd tymor…wnewch chi byth goelio i le.

    Yn wahanol i fi, mae Seb wrth ei fodd yn yr ysgol. Mae o wrth ei fodd yn treulio amser efo’i ffrindiau ac yn chwarae i’r tîm pêl-droed, ac mae’r gwaith ysgol i gyd yn hawdd iddo fo hefyd. Ac wrth gwrs mae ganddo fo gariad rŵan, Jasmine.

    Timbactŵ? gofynnais, jyst er mwyn gwylltio Seb.

    Ble, Seb? gofynnodd Dad, oedd yn amlwg heb lawer o amynedd dechrau dyfalu chwaith ar ôl diwrnod yn y gwaith.

    Disneyland Paris! atebodd Seb, gan lwyddo i siarad a bwyta a gwenu’r un pryd.

    Be?! Roeddwn i methu coelio fy nghlustiau. "No wê! Ond tydi hynna ddim yn deg! Pam bo fi ddim yn cael mynd i Disneyland Paris? Dwi wedi gweld lluniau o un o’r reids newydd sy’ ’na. Dwi isio mynd hefyd!"

    Mae Dad yn codi mwy o swper iddo fo’i hun wrth ateb.

    "Mae’n siŵr y cei di fynd pan wyt ti yn yr ysgol uwchradd hefyd, Sara. A faint mae’r trip anhygoel yma

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1