Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Pobol i'w Hosgoi
Pobol i'w Hosgoi
Pobol i'w Hosgoi
Ebook85 pages1 hour

Pobol i'w Hosgoi

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A volume of contemporary short stories, all dealing with people who find themselves on the fringes of society.
LanguageCymraeg
Release dateNov 10, 2020
ISBN9781912173518
Pobol i'w Hosgoi

Read more from Ruth Richards

Related to Pobol i'w Hosgoi

Related ebooks

Reviews for Pobol i'w Hosgoi

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Pobol i'w Hosgoi - Ruth Richards

    llun clawr

    Pobol i’w Hosgoi

    Ruth Richards

    Gwasg y Bwthyn

    ⓗ Ruth Richards 2017 Ⓒ

    ⓗ Gwasg y Bwthyn 2017 Ⓒ

    ISBN 978-1-912173-51-8

    Cedwir pob hawl.

    Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr.

    Cyhoeddwyd gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd gan Gwasg y Bwthyn, Caernarfon

    gwasgybwthyn@btconnect.com

    www.gwasgybwthyn.cymru

    01286 672018

    Troswyd i e-lyfr gan Almon

    Diolch i Phil am ei amynedd,

    ac i griw Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor am eu hysgogiad

    Shw’mae, Enid?

    Rhuthrodd Llew Drws Nesaf i gegin Enid gyda chopi o’r Daily Post.

    ‘’Dach chi yn’o fo!’ bloeddiodd.

    ‘Tara fo ar y bwrdd, Llew. Mi ga i olwg arno fo hefo fy nhe ddeg,’ meddai Enid, ond nid oedd modd lluchio dŵr oer ar frwdfrydedd Llew; mi roedd hwnnw fel dyn wedi ei lamineiddio.

    ‘Ylwch,’ palfalodd am y dudalen. ‘Llun da hefyd.’

    Doedd o ddim yn llun da, a gwylltiodd Enid o’i gweld ei hun braidd yn gwmanllyd, a Harold yn fflachio’i ddannedd gosod. Rhoddodd ochenaid fewnol o weld y pennawd: Good things come to those who wait.

    ‘Good things come to those who wait,’ meddai Llew, gan ychwanegu, er mwyn dangos nad oedd o ar ei hôl hi, ‘Da, ’de?’

    Syllodd Enid yn dosturiol ar Llew.

    ‘Nans wedi ecseitio drwyddi. Am fynd i Gaer i gael dillad yn sbesial … Isio i mi gael copi o’r Post i Harold? … ’Dach chi wedi cael y ffrog briodas eto?’

    ‘Taw di … Paid â thrafferthu … Do, diolch.’

    Mi roedd Llew yn ei lladd hi. Mi fasa rhywun yn meddwl mai Enid oedd yr unig ddynes yng ngogledd Cymru a oedd ar fin priodi. Ond, wedi dweud hynna, mi roedd Enid dros ei phedwar ugain.

    Dipyn o jôc oedd y briodas i bawb, ac wrth iddi ddechrau sylweddoli hyn, tybiodd Enid ei bod yn un sâl iawn. Un a oedd yn seiliedig ar ddelwedd ei charcas crydcymalog wedi’i stwffio i ffrog briodas fawr, wirion, fel hen brwnsen wedi ei lapio mewn rhubanau a ffrils. Esboniodd yn ofalus i Llew mai costiwm fach lwyd ac addas y byddai’n ei gwisgo. Addasrwydd, wedi’r cwbl, oedd hanfod chic. Ac er ei bod yn tynnu ymlaen, teimlai Enid fod yna ryw steil yn dal i berthyn iddi, a hithau mor sionc yn ei Hestée Lauder a’i slacs.

    Bu’n rhaid i Llew frysio’n ôl at Nans a oedd yn disgwyl am lifft i Fangor i nôl neges.

    ‘Tydi bywyd ddim mor ecseiting yn tŷ ni …’ Cystal â dweud fod bywyd Enid yn un gybolfa o siampên a siocledi mewn bocsys siâp calon.

    Mentrodd Enid gip ar yr erthygl.

    Retired senior nurse, Enid Lloyd Roberts, 81, is at last to marry her teenage sweetheart, Harold Troon, 84 …

    Brawddeg hyll, meddyliodd Enid; y cyfeiriad at oedran a’r rhifau diog yn clogyrnu ei chystrawen a’i rhediad. Roedd y ‘teenage sweethearts’ yn dipyn o or-ddweud hefyd. Fel yr oedd Enid yn ei chofio hi, aeth ar ddau ddêt hefo Harold pan oedd hi’n dysgu nyrsio yn Lerpwl; dim digon i danio llawer o sbarc. Roedd Harold wedi mopio ar ‘Trad’ bryd hynny, ac ni allai Enid oddef y clwb jazz myglyd na’r miwsig blêr. Erbyn iddi ei gyfarfod y Sul canlynol ym Mharc Sefton, roedd Enid wedi penderfynu pacio ei chês a symud yn ôl i Sir Fôn.

    ‘It’s been nice knowing you, Harold,’ meddai, gan geisio swnio fath â Bette Davis, dros goffi a macarŵn.

    Feddyliodd hi ddim mwy amdano, tan iddo lanio ym Menllech gyda llond coets o bensiwnïars eraill, dros drigain mlynedd yn ddiweddarach. Erbyn hynny, ac er syndod i Enid, roedd diddordebau’r ddau wedi cysoni, a buan iawn y dechreuodd edrych ymlaen at ei gwmni i ymweld â ffeiriau crefft ac ystadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac i fwynhau ambell ginio.

    Widower Harold got in touch with Enid while on a recent trip to north Wales. Romantic Harold thought she was as lovely as ever …

    Ni allai Enid gofio neb erioed, gan gynnwys Harold, yn dweud ei bod yn lovely. Medrus a smart, efallai, ond nid lovely. Roedd y gair yn ei sgythru.

    Yn Lerpwl, ar ddechrau’r pumdegau, roedd hi’n bell o fod yn ddeniadol: cofiai ei hun yn hogan fach ddigon diolwg o’r wlad, yn ei siwmperi Shetland a’i bwtîs croen oen. Dowdi, fel y basa’n ei ddweud bellach. Sbriwtio a magu hyder gydag amser a wnaeth Enid, ac wfftiodd drachefn at y doethineb a fynnai na ddeuai amser â dim ond dirywiad yn ei sgil.

    Enid and Harold’s budding romance was cut tragically short when caring Enid returned home to nurse her ailing mother …

    Doedd Gwladys Robaits (Lloyd gynt), diweddar fam Enid, ddim yn un i fod yn wael am yn hir na gofyn ei thendans. Harold ddywedodd hynna wrth y newyddiadurwr, a doedd gan Enid mo’r amynedd i ddweud mai hiraeth yn fwy na dim a’i tynnodd hi adref. Cafodd grasfa gan Gwladys am roi’r gorau i Lerpwl, a mynnodd fod ei merch yn ailafael yn y nyrsio – ym Mangor y tro hwn. O hynny ymlaen, cydiodd Gwladys yn yr awenau; hi oedd y tanwydd a fwydai beiriant anorchfygol Enid Lloyd Roberts. Gwthiodd ei merch ymlaen, ei phorthi a miniogi ei huchelgais. Pan wnaethpwyd Enid yn Sister, awgrymodd Gwladys y dylai brynu car newydd, sborts-car gwyrdd hefo pen clwt; ac ar benwythnosau braf, byddai’r ddwy yn sgrialu o gwmpas Sir Fôn, eu pensgarffiau’n chwythu yn y gwynt.

    ‘Dyna ddangos iddyn nhw,’ meddai Gwladys.

    A dangos i bobol fu trywydd Enid. Dan gyfarwyddyd clòs Gwladys, tyfodd ei hyder a’i hawdurdod. Yn ei gwaith a’i chymuned, hawliodd ei lle ar bob pwyllgor, gweithgor a chymdeithas, ei phresenoldeb yn amhrisiadwy, ond yn fwy angenrheidiol na phoblogaidd.

    Pan ddeuai ei chyn-staff ar ei thraws hi ar y stryd neu mewn caffi, byddent yn tueddu i’w hosgoi:

    ‘Enid Lloyd Roberts ydi honna?’

    ‘Ia, dwi’n meddwl.’

    ‘Ddylan ni ddeud ’wbath?’

    ‘Dwi’m yn meddwl ’i bod hi wedi’n gweld ni …’

    ‘Diolch byth – ’rhen bitsh!’

    Tawelwch, ac yna, piffian swil.

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1