Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

‘Golwg Ehangach’: Ffotograffau John Thomas o Gymru Oes Fictoria
‘Golwg Ehangach’: Ffotograffau John Thomas o Gymru Oes Fictoria
‘Golwg Ehangach’: Ffotograffau John Thomas o Gymru Oes Fictoria
Ebook317 pages3 hours

‘Golwg Ehangach’: Ffotograffau John Thomas o Gymru Oes Fictoria

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Mae’r gyfrol hon yn cynnig golwg newydd ar ddelweddau cyfarwydd y ffotograffydd John Thomas (1838–1905), wrth eu gosod yng nghyd-destun llenyddol a syniadol Cymru yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyma’r astudiaeth fanylaf o waith John Thomas hyd yma, sy’n torri cwys newydd wrth ddadansoddi’r delweddau ochr yn ochr â llenyddiaeth Gymraeg ei gyfoedion. Mae’r gyfrol hefyd yn trafod perthynas Thomas ag O. M. Edwards, ac yn ystyried goblygiadau amwys y berthynas i’r modd y darllenir gwaith y ffotograffydd hyd heddiw; ac, mewn cyd-destun ehangach, cymherir gwaith Thomas â phrosiect y ffotograffydd Almaenig August Sander (1876–1964) i’r ugeinfed ganrif, gan gynnig dadansoddiad o weledigaeth greadigol ac arloesol y Cymro.

LanguageCymraeg
Release dateFeb 15, 2024
ISBN9781837721191
‘Golwg Ehangach’: Ffotograffau John Thomas o Gymru Oes Fictoria

Read more from Ruth Richards

Related to ‘Golwg Ehangach’

Related ebooks

Reviews for ‘Golwg Ehangach’

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    ‘Golwg Ehangach’ - Ruth Richards

    ‘Golwg Ehangach’

    Y MEDDWL A’R DYCHYMYG CYMREIG

    Golygydd Cyffredinol: Aled Llion Jones

    Dan olygyddiaeth gyffredinol John Rowlands

    1. M. Wynn Thomas (gol.), DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (1995)

    2. Gerwyn Wiliams, Tir Neb (1996) (Llyfr y Flwyddyn 1997; Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)

    3. Paul Birt, Cerddi Alltudiaeth (1997)

    4. E. G. Millward, Yr Arwrgerdd Gymraeg (1998)

    5. Jane Aaron, Pur fel y Dur (1998) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)

    6. Grahame Davies, Sefyll yn y Bwlch (1999)

    7. John Rowlands (gol.), Y Sêr yn eu Graddau (2000)

    8. Jerry Hunter, Soffestri’r Saeson (2000) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2001)

    9. M. Wynn Thomas (gol.), Gweld Sêr (2001)

    10. Angharad Price, Rhwng Gwyn a Du (2002)

    11. Jason Walford Davies, Gororau’r Iaith (2003) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2004)

    12. Roger Owen, Ar Wasgar (2003)

    13. T. Robin Chapman, Meibion Afradlon a Chymeriadau Eraill (2004)

    14. Simon Brooks, O Dan Lygaid y Gestapo (2004) (Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2005)

    15. Gerwyn Wiliams, Tir Newydd (2005)

    16. Ioan Williams, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880–1940 (2006)

    17. Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth mewn Theori (2006)

    18. Sioned Puw Rowlands, Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod (2006)

    19. Tudur Hallam, Canon Ein Llên (2007) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)

    20. Enid Jones, FfugLen (2008) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)

    Dan olygyddiaeth gyffredinol Gerwyn Wiliams

    21. Eleri Hedd James, Casglu Darnau’r Jig-so (2009)

    22. Jerry Hunter, Llwybrau Cenhedloedd (2012)

    23. Kate Woodward, Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith? (2013)

    24. Rhiannon Marks, ‘Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr’ (2013)

    25. Gethin Matthews (gol.), Creithiau (2016)

    26. Elain Price, Nid Sianel Gyffredin Mohoni! (2016)

    27. Rhianedd Jewell, Her a Hawl Cyfieithu Dramâu (2017)

    28. M. Wynn Thomas, Cyfan-dir Cymru (2017)

    29. Lisa Sheppard, Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’ (2018)

    Dan olygyddiaeth gyffredinol Aled Llion Jones

    30. Siwan Rosser, Darllen y Dychymyg (2020)

    31. Gareth Evans-Jones, ’Mae’r Beibl o’n tu’ (2022)

    ‘GOLWG EHANGACH’

    Ffotograffau John Thomas o Gymru Oes Fictoria

    Ruth Richards

    Hawlfraint © Ruth Richards, 2024

    Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS

    www.gwasgprifysgolcymru.org

    Mae cofnod catalog i’r llyfr hwn ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.

    ISBN 978-1-83772-117-7

    e-ISBN 978-1-83772-119-1

    Datganwyd gan Ruth Richards ei hawl foesol i’w chydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 79 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.

    Dymuna’r cyhoeddwr ddiolch i Gyngor Llyfrau Cymru am ei gefnogaeth ariannol ar gyfer y llyfr hwn.

    Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau'n gywir neu'n addas.

    Llun y clawr: John Thomas, Plas Bél, Y Ffor(c.1885), ffotograff, negyddgwydr.

    Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

    Er cof am fy nhad, Emlyn Richards ac Anne Roberts, gor-wyres John Thomas

    Cynnwys

    Diolchiadau

    Rhestr ddelweddau

    Rhagarweiniad

    ADRAN 1 Cyflwyniad

    1. Themâu a methodoleg

    2. Hanes cryno ffotograffiaeth yng Nghymru a thu hwnt yng nghyfnod John Thomas

    3. John Thomas a’r Cambrian Gallery: Gweledigaeth Cymro Lerpwl o Gymru Oes Fictoria

    ADRAN 2 Ymateb Nofelyddol John Thomas i’w Gyfrwng

    4. Y ddelwedd a’r gair

    5. Y gair a wnaethpwyd yn orthrwm: Heteroglossia a monoglossia

    6. Cyfryngau cynnydd: Portreadau o Dalhaiarn a Samuel Roberts, Llanbrynmair

    ADRAN 3 Syniadaeth yr Oes Mewn Llên a Llun

    7. ‘Y dogma o ansicrwydd’: Daniel Owen a’r naratif Darwinaidd

    8. ‘Appearance, appearance’: Daniel Owen, John Thomas ac ymddangosiad Cymry Oes Fictoria

    9. ‘Angenrheidrwydd’ Robin Busnes a ‘charictors’ eraill i Gymru Oes Fictoria

    ADRAN 4 Cymru a Chymreictod Oes Fictoria

    10. ‘Cynnydd tri ugain mlynedd’: John Thomas, optimydd ei gyfnod?

    11. John Thomas a’r wisg Gymreig

    ADRAN 5 Y ffotograffydd, y golygydd a’r archif

    12. Cymru John Thomas yn yr archif

    13. Y ffotograffydd a’r golygydd

    14. ‘Yr album coffadwriaethol Cymreig’: Cyflwyno’r weledigaeth

    ADRAN 6 John Thomas ac August Sander: Dau ffotograffydd, dau gyfnod a dwy genedl

    15. Cofnodi gwedd ein cyfnod

    16. Cymru a’r Almaen ar drothwy’r dyfodol

    Crynodeb a chasgliadau

    Ôl-nodiadau

    Llyfryddiaeth

    Diolchiadau

    Carwn ddiolch i Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, nid yn unig am gymorth ac arweiniad ond hefyd am fy annog i gychwyn ar y gwaith yn y lle cyntaf. Diolch i holl staff yr Ysgol ac i’m cyd-fyfyrwyr am eu brwdfrydedd tuag at yr ymchwil, am eu sgyrsiau difyr a’u cyfeillgarwch. Neilltuaf ddiolch arbennig i Angharad Price am ei goruchwyliaeth hael ac ysbrydoledig, ac yna i Aled Llion Jones am ei drylwyredd wrth olygu ac arwain y thesis drwy’r broses gyhoeddi. Diolchaf hefyd i Gerwyn Wiliams (Bangor) a Siwan Rosser (Caerdydd), arholwyr fy noethuriaeth, am eu sylwadau hael a chalonogol.

    Gwerthfawrogaf gynhaliaeth angerddol fy nheulu – fy niweddar dad, a’m gŵr Phil Hollington, am eu ffydd ynof i a’r gwaith, ac am iddynt herio fy mhyliau o ddiffyg hyder gyda’r fath dynerwch a diffuantrwydd.

    Rwy’n hynod o ddiolchgar i deulu arall hefyd, sef teulu John Thomas ei hun. Hyfryd oedd derbyn y fath groeso a chefnogaeth gan Anne Roberts, gor-wyres y ffotograffydd, a’i phriod Geraint. Diolch i Anne a’i brawd Huw am fod mor barod i rannu hanes y teulu. Mae’r un diolch yn ddyledus i Aled ac Iwan, meibion Anne a Geraint, am eu brwdfrydedd hwythau a’u diddordeb yn natblygiad y gwaith a’r gyfrol.

    Diolch i Ted Huws, Cemaes, am wybodaeth gwerthfawr a difyr am hanes y pentref a’i gymeriadau, ac i Eileen Wyn Jones am fynd ati i ganfod mwy am hanes Siôn Sodom. Rwy’n ddiolchgar am bob sgwrs a gefais ar y pwnc, ac yn enwedig i’m tad drachefn am y diddanwch a gawsom wrth drafod yr hanesion llafar gwlad oedd mor greiddiol i’w ymchwil yntau.

    Wedi diolch eisoes i olygydd cyfres Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig, rwyf hefyd yn ddyledus i staff Gwasg Prifysgol Cymru – yn arbennig i Llion Wigley am ei ddiweddariadau amserol a phwrpasol, i Dafydd Jones am brawfddarllen y testun, i Elin Williams am hyrwyddo’r gyfrol, ac i Adam Burns am ddylunio’r clawr trawiadol sy’n amlygu un o gampweithiau ein diwylliant gweledol.

    Rhestr ddelweddau

    1. John Thomas, Siôn Sodom, Abersoch, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC).

    2. John Thomas, Morris Babŵn, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, LlGC.

    3. John Thomas, David Lloyd George, LlGC.

    4. John Thomas, Trigolion Elusendy Cerrigydrudion, LlGC.

    5. John Thomas, Swyddogion Capel Y Ffôr, Abererch, LlGC.

    6. Oscar Gustave Rejlander, Two Ways of Life, Wikimedia Commons.

    7. John Thomas, Y Teulu Jones, LlGC.

    8. Julia Margaret Cameron, Christabel, Wikimedia Commons.

    9. John Thomas, Talhaiarn, LlGC.

    10. John Thomas, Eos Cymru, LlGC.

    11. John Thomas, Eos Cymru, LlGC.

    12. John Thomas, Eos Cymru, LlGC.

    13. John Thomas, Robin Busnes, LlGC.

    14. John Thomas, Robin Busnes, LlGC.

    15. John Thomas, Blaenoriaid Y Ffôr, Abererch, LlGC.

    16. John Thomas, Plas Bél, Abererch, LlGC.

    17. John Thomas, Mr a Mrs Matthew, Castell Newydd Emlyn, LlGC.

    18. John Thomas, Cyhoeddydd Tref Llanrwst, LlGC.

    19. John Thomas, Y Group Annibynwyr, LlGC.

    20. John Thomas, Pegi Llwyd, LlGC.

    21. William Roos, Y Bardd Mewn Myfyrdod, Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

    22. Richard Westall, Lord Byron, Wikimedia Commons.

    23. John Thomas, Jack Jones, Blaenau Ffestiniog a’i Ddannoedd, LlGC.

    24. John Thomas, Samuel Roberts, Llanbrynmair, LlGC.

    25. John Thomas, Talhaiarn (gweler 9), LlGC.

    26. John Thomas, Gorsedd y Beirdd, Eisteddfod Lerpwl, 1884, LlGC.

    27. John Thomas, Jones Bach ‘y Bardd’, Llanboidy, LlGC.

    28. John Thomas, Daniel Josi, LlGC.

    29. John Thomas, Cadi a Sioned, Llanfechell, LlGC.

    30. John Thomas, Cadi a Sioned, Llanfechell, LlGC.

    31. John Thomas, Ioan Barog, LlGC.

    32. John Thomas, Ioan Barog, LlGC.

    33. Oscar Gustave Rejlander, A Night in the Streets of London, Wikimedia Commons.

    34. John Thomas, Plentyn Newynog, LlGC.

    35. John Thomas, Robin Busnes (gweler 14), LlGC.

    36. John Thomas, Jane Claudia a Mr Hugh Lloyd, LlGC.

    37. John Thomas, Fy Mam, Shan y Lliwdy a Morwyn Bontfaen, LlGC.

    38. John Thomas, William Thelwall Thomas a Merch, LlGC.

    39. John Thomas, William Thelwall Thomas a Chyfaill, Amlwch, LlGC.

    40. John Thomas, William Thelwall Thomas a’i Gyfeillion, Amlwch, LlGC.

    41. John Thomas, Dwy Ferch mewn Gwisg Gymreig, Whitaker, LlGC.

    42. John Thomas, Margaret Jones, y Gymraes o Ganaan, LlGC.

    43. John Thomas, Hen Wragedd Llangeitho, LlGC.

    44. John Thomas, Mary Parry, Llanfechell, LlGC.

    45. John Thomas, Mynediad yr Eisteddfod, Lerpwl 1884, LlGC.

    46. John Thomas, Dwy Ferch mewn Gwisg Gymreig, Jones.

    47. John Thomas, Cadi a Sioned (gweler 30), LlGC.

    48. John Thomas, Cemaes, LlGC.

    49. John Thomas, Robin Beuddu, Cemaes, LlGC.

    50. John Thomas, Cwch ar y Traeth, Cemaes, LlGC.

    51. Frank Meadow Sutcliffe, Henry Freeman, The Sutcliffe Gallery.

    52. John Thomas, Twm Owen, Cemaes, LlGC.

    53. August Sander, Gofaint, August Sander Archiv, Köln (ASA).

    54. John Thomas, Seiri Coed, Corwen, LlGC.

    55. August Sander, Helene Abelen, ASA.

    56. John Thomas, Eos Cymru (gweler 12), LlGC.

    57. August Sander, Gweithwyr Syrcas, ASA.

    58. John Thomas, Dwy Ferch mewn Gwisg Gymreig, Jones, LlGC.

    59. August Sander, Milwr anabl, ASA.

    60. John Thomas, Capel Bryn-Crug, Tywyn, gyda Nain Griff Brynglas, LlGC.

    61. August Sander, Ffermwyr Ifanc, LlGC.

    Rhagarweiniad

    Wrth weithio yn Adran Darluniau a Mapiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru y cefais gip ar gyfoeth gwaith ffotograffig John Thomas (1838–1905) am y tro cyntaf. Gwyddwn amdano ac roeddwn yn gyfarwydd â pheth o’i waith cyn hynny, ond yr hyn a roddai olwg newydd a chwbl ddadlennol ar y lluniau oedd iddynt gael eu rhwymo ynghyd ‒ rhyw dair mil o ddelweddau ‒ mewn cyfrolau, yn gasgliad cyflawn ar silffoedd y Llyfrgell. Credaf fod eu cyflwyniad ar y ffurf hon yn arwyddocaol ac yn allweddol i’r broses o’u gweld o’r newydd: o’u harddangos rhwng cloriau, bron nad oedd modd peidio â’u darllen fel cyfres o straeon thematig. Yr hyn oedd ar goll oedd unrhyw ymdeimlad o drefn, a geiriau i leddfu’r dieithrwch drwy osod cefndir a chyd-destun. Serch hynny, rhoddodd y cyfrolau hyn gyfle i mi werthfawrogi’r lluniau fel cyfanwaith artistig, yn hytrach na’r modd y’u cyflwynir amlaf, sef fel creiriau unigol i ddarlunio agweddau ar hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

    Efallai mai dyna yn gryno iawn yw hanfod y gyfrol hon, sef adfer gweledigaeth ffotograffydd o Gymro o Oes Fictoria, a thrwy hynny ddyrchafu ei luniau y tu hwnt i’w statws arferol fel dogfennau hanesyddol, gan ymdrin â hwy fel gwrthrychau diwylliannol, ac fel celfyddyd o’r radd uchaf. Fel rhagarweiniad i’r broses hon, olrheinir yma hanes y casgliad ac ymatebion i’r gwaith er marwolaeth John Thomas. Bydd archwiliad o’r math yn allweddol er mwyn dadansoddi a herio safle’r ffotograffydd a’i waith yng nghyd-destun hanes diwylliant Cymru, yn ogystal â hanes ffotograffiaeth. Er gwaetha’r sylw a’r trafod a fu ar yrfa John Thomas, cafodd ei waith a’i neges eu tanbrisio dros y blynyddoedd: arweiniodd y diffyg ymgom ddeallusol a fu ar ffotograffiaeth yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg at ragdybiaeth nad oedd fawr o gynllun na gweledigaeth y tu ôl i’r gwaith, ac er i’w waith dderbyn cryn sylw gan haneswyr a haneswyr celf ers diwedd yr ugeinfed ganrif, gellir dadlau hyd heddiw mai amwys yw ei safle yng nghanon celfyddyd weledol Cymru.

    I ystâd O. M. Edwards y mae’r diolch fod ffotograffau John Thomas yn ddiogel yn y Llyfrgell Genedlaethol. Daeth y platiau gwreiddiol i feddiant y Llyfrgell yn dilyn ei farwolaeth ef. O ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu John Thomas yn cyfrannu lluniau ac erthyglau i Cymru, y cylchgrawn a olygwyd gan O. M. Edwards, ac ar ei ymddeoliad, daeth casgliad y ffotograffydd i feddiant y golygydd.¹ Hyd y gwyddom, dyma’r union gasgliad a gedwir yn y Llyfrgell hyd heddiw, yn adnodd cyhoeddus y ceir bellach fynediad digidol ato. Y mae’n archif ddelfrydol i’w hastudio: casgliad eang, amrywiol a chyflawn a erys, ymddengys, yn union fel y bwriadodd y ffotograffydd ei gadael yn gymynrodd i’r genedl ac i’r dyfodol. Eto, fel y nodwyd eisoes, braidd yn denau yw’r cyd-destun i’r casgliad, a nifer o’r lluniau’n gwbl amddifad o esboniad. Yn aml, ni cheir yng nghatalog y Llyfrgell unrhyw wybodaeth y tu hwnt i deitl disgrifiadol generig, megis Gwraig yn eistedd neu Gŵr anhysbys. Lle’r enwir yr eisteddwr, ac yn absenoldeb unrhyw wybodaeth bellach, mae ansawdd y portreadau a’r enwau awgrymog yn ysgogi chwilfrydedd anorchfygol: pwy na fyddai’n ysu gwybod mwy am Siôn Sodom neu Morris Babŵn, er enghraifft?

    John Thomas, Siôn Sodom, Abersoch

    John Thomas, Morris Babŵn, Llanrhaeadr-ym-Mochnant

    Yn gymysg â’r cymeriadau enigmataidd hyn, mae’r casgliad yn cynnwys nifer o ffotograffau o enwogion y genedl, yn weinidogion, llenorion, cantorion, ac ambell i wleidydd. Ni cheir unrhyw esboniad o’r weledigaeth na’r amcan y tu ôl i gasgliad mor gynhwysol ac amrywiol, sy’n mynnu anfarwoli’r fath ystod o gymeriadau o David Lloyd George ar y naill law i Morris Babŵn ar y llall. Digon hawdd fyddai damcanu y galw am ffotograff o wleidydd addawol megis David Lloyd George a bod marchnad parod i’w ddelwedd, ond nid dyna esbonio’r cyfan: go brin y byddai ei fam ei hun yn gallu cynnig fawr o ddadl wrthrychol o blaid mawredd na thegwch Morris Babŵn, na’r apêl fasnachol a fyddai i bortread ohono.

    John Thomas, David Lloyd George

    Yn yr un modd ag y mae’r ‘pwy’ a’r ‘paham’ wedi diflannu mewn sawl achos, ceir bylchau sylweddol o safbwynt y ‘pryd’, yn ogystal. Amcangyfrifir dyddiadau i nifer o’r lluniau ac nid oes cronoleg i’r casgliad: anodd felly yw dadansoddi datblygiad y gwaith. Yn yr un modd, ni allwn i sicrwydd olrhain newid yn niddordebau’r ffotograffydd ar wahanol gyfnodau yn ystod ei yrfa, na’r esblygiad yn chwaeth ei gwsmeriaid a’i gynulleidfa. Yn aml iawn, yr unig ganllaw ar gyfer dyddio’r lluniau (ac nid yw’n berthnasol i’r mwyafrif helaeth) yw amcangyfrif oedran yr eisteddwyr adnabyddus neu wybodaeth am ddyddiadau lluniau a dynnwyd ar achlysur penodol, megis Eisteddfod Llanrwst ym 1868 neu Lerpwl ym 1884. Dywed John Thomas iddo ddechrau tynnu lluniau ym 1863, a dyna fu ei waith hyd at ei ymddeoliad ar ddechrau’r ugeinfed ganrif,² ond wrth briodoli dyddiad i nifer o’r lluniau, gellid tybio bod y Llyfrgell Genedlaethol wedi chwarae’n saff drwy ddewis y cyfnod o ganol ei yrfa. O dderbyn y dyddiadau hyn, mae rhywun yn synnu at brysurdeb cynddeiriog y ffotograffydd yn ystod y cyfnod o 1875 i 1885: go brin y gallai fod wedi tynnu’r ffotograffau niferus a ddyddir i’r cyfnod hwn mewn amser mor fyr.

    Er bod angen unioni gwendidau ffeithiol y casgliad, dylid nodi na fydd cwmpas y gwaith hwn yn caniatáu prosiect catalogio mor fanwl. Yn wir, cyn cadarnhau’r mân ffeithiau, rhaid yn gyntaf adfer ystyr ac arwyddocâd y gwaith. Nid diffyg gwybodaeth am luniau unigol John Thomas sy’n rhwystr i’w deall a’u gwerthfawrogi, ond yn hytrach yr hyn a ysgrifennwyd amdano eisoes, a’r amryfal ragfarnau sy’n parhau i gymylu ein hymateb i’r gwaith. Gellir dadlau fod y sylw a gafodd John Thomas fel artist ar ei orau’n amrwd, ac ar ei waethaf yn gamarweiniol. O’i gyfnod ei hun hyd bron at heddiw, drwgdybiaeth o’i gelfyddyd a’i gyfrwng yw prif nodwedd hanesyddiaeth John Thomas. Yn hyn o beth, mae’r sylw swta a’r dôn nawddoglyd a fabwysiadir gan John Harvey yn ei astudiaeth o gelfyddyd Anghydffurfiaeth, The Art of Piety, yn gwbl nodweddiadol: ‘The title Artist is no misnomer; his self-estimate reflected his high view of the status of the photographer and the importance of taking photographs, which he believed to be an artistic experience.’³

    O edrych yn ôl at y llithoedd coffa i John Thomas a gyhoeddwyd yn y wasg Gymraeg, gwelwn fod yr amheuaeth hon o’i ddawn a gwerth ei weledigaeth wedi ymsefydlu’n gynnar. Trawiadol yw nodi fel y defnyddir y canfyddiad o ymdeimlad y ffotograffydd â natur i’w glodfori a’i nawddogi i’r un graddau. Wrth edrych yn ôl ar fywyd a gwaith y ffotograffydd, dywed gohebydd Y Cymro amdano:

    Synnais lawer gwaith at ei ddoniau […] doniau heb i’r un coleg eu gwanhau na’u cryfhau. Gwir fab natur oedd John Thomas - plentyn y clogwyn, yr afon, a’r cwm. Nis gwn ei fod yn gwneud nemawr â haul a lloer, a sêr; yr oedd ei serch, yn hytrach, ar bethau sydd isod […] Yr agos, ac nid y pell, mewn ystyr naturiol, oedd yn ei ad-dynnu.

    Ymateb tebyg a geir mewn teyrnged arall o’r Cymro: ‘Yr oedd ganddo lygaid i weld anian, a gwyddai i’r fodfedd pa le i osod ei gamera er cael yr olwg oreu ar y llanerch fyddai o’i flaen.’⁵ Esbonnir ei gelfyddyd yn nhermau’r synhwyrau (gweld) a thechnoleg (ei ymdriniaeth o’i offer). Pwysleisir ei ddoniau ‘naturiol’ (gair y gellir ei ddarllen fel y gwrthwyneb i ‘artistiaeth’) a’i ddiffyg addysg ffurfiol. Hanfod canmoliaeth y llithoedd coffa hyn yw dyrchafu mawredd y greadigaeth uwchlaw ymdrechion yr artist, gan werthfawrogi diniweidrwydd y ffotograffydd yn wyneb gogoniant natur.

    Hyd at ddechrau’r unfed ganrif ar hugain, erys arlliw o ragfarn ei gyfoedion tuag at waith John Thomas. Wrth ddisgrifio ei dirluniau yn 2004, dilyna Hywel Teifi Edwards yr un patrwm o bortreadu’r ffotograffydd fel un sy’n cefnu ar gymhlethdod, heb arddel unrhyw amcan y tu hwnt i glodfori tlysni’r byd o’i gwmpas:

    Wedi’r cyfan, gwladwr o ‘Gardi’ oedd John Thomas hefyd yn ei hanfod. Y mae fel petai’r camera wedi disgyn i ddwylo rhyw Helen Allingham o ffotograffydd a fynnai droi’r Gymru wledig, fel y trodd hithau Surrey ei phaentiadau, yn ddihangfa rhag hagrwch y byd diwydiannol, torfol.

    Cymherir gwaith y ffotograffydd â gwaith arlunydd (Helen Allingham 1848–1926) a ddarluniai natur mewn modd syml a sentimental drwy gyfrwng dyfrlliw. Gellid dadlau fod hanesyddiaeth gwaith John Thomas yn parhau i arddangos y tueddiad o bennu hierarchaeth ar gyfryngau gweledol: strwythur sy’n gosod ffotograffiaeth islaw paentio, ac yn is fyth o’i chymharu â phinacl yr hierarchaeth, sef paentio mewn olew.

    Trawiadol yn y cyd-destun hwn yw cymharu llithoedd coffa John Thomas ag ymateb diweddarach y wasg Gymraeg i’r gelfyddyd o baentio mewn olew ar gynfas. Ychydig dros bum mlynedd ar ôl marwolaeth John Thomas, ysgrifennodd Thomas Matthews erthygl yn Cymru’n clodfori gwaith yr arlunydd Christopher Williams. Ar unwaith, gwelwn fod yr ieithwedd a’r ffrâm esthetig yn gwbl wahanol i’r hyn a osodwyd ar waith y ffotograffydd:

    Mae ganddo [Christopher Williams] ymwybyddiaeth a dychymyg bardd – ac hefyd amcan bardd teilwng o’r enw; sef ceisio, drwy gyfrwng ei luniau i ddangos amcanion a bywyd ei genedl yn amlwg i’r llygaid, yn well nag y gall neb arall eu dychmygu: a thrwyddynt ceisia eu dyrchafu hwy at y nod a osodwyd iddynt.

    Tra bo John Thomas yn bodloni’r awydd am ddihangfa drwy gofnodi natur ar ei thlysaf, gesyd Thomas Matthews waith Christopher Williams ar binacl celfyddyd, ac yn gadarn o fewn prif ffrwd y traddodiad celf academaidd: ‘Yn Academi [Frenhinol] 1902, cyflwynwyd ei lun o Paolo a Francesca. Dyma’r goreu mi gredaf, a baentiwyd ar y testun hwn. Nid am fy mod yn dibrisio llun godidog Watts [George Frederic Watts 1817–1904]’.

    Y ffigwr dynol (neu fenywaidd) ar ei wedd harddaf, fwyaf arwrol oedd canolbwynt y traddodiad academaidd a gynrychiolir gan waith Christopher Williams.⁹ Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif hyd yn oed, darlunio mytholeg oedd uchafbwynt celfyddyd weledol i sefydliadau traddodiadol, megis yr Academi Frenhinol. Diddorol, felly, yw cymharu sylwadau Thomas Matthews ar rym dyrchafol gwaith Christopher Williams â’r hyn a ddywedwyd am ymdriniaeth John Thomas o’r ffurf ddynol ym 1905:

    Rhai o’r golygfeydd digrifaf a welais i erioed oedd gweled rhyw ddeg neu ddwsin o’r ‘carictors’ hyn yn dod i sefyll gerbron ei gamera; un

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1