Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

O'r Aman i'r Ystwyth
O'r Aman i'r Ystwyth
O'r Aman i'r Ystwyth
Ebook262 pages3 hours

O'r Aman i'r Ystwyth

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Glan Davies is a familiar Welsh personality throughout Wales after a long career as a performer on concert and television platforms. He has acted in films and popular programmes on S4C including Pobol y Cwm. He has worked with many figures in the entertainment business such as Dafydd Iwan, Ryan and Ronnie and Gari Williams, and has an abundance of entertaining stories to relay.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateDec 20, 2021
ISBN9781800991705
O'r Aman i'r Ystwyth

Related to O'r Aman i'r Ystwyth

Related ebooks

Reviews for O'r Aman i'r Ystwyth

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    O'r Aman i'r Ystwyth - Glan Davies

    cover.jpg

    I Aeres, y teulu, fy ffrindiau a phawb sy wedi fy nghefnogi ar hyd y blynyddoedd.

    Glan Davies

    O’r Aman i’r Ystwyth

    gyda Alun Wyn Bevan

    Argraffiad cyntaf: 2021

    © Hawlfraint Glan Davies a’r Lolfa Cyf., 2021

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cynllun y clawr: Y Lolfa

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-80099-170-5

    Cyhoeddwyd, rhwymwyd ac argraffwyd yng Nghymru gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    gwefan www.ylolfa.com

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 832 782

    Diolchiadau

    I gant a mil o gyfeillion o Fôn i Fynwy – heb eu cyngor, eu harweiniad a’u cyfeillgarwch fyddai’r gyfrol hon o ran cynnwys a maint yn ddim byd mwy na thudalen o bapur A4. Mawr yw fy niolch i’r teulu, ac yn enwedig i Aeres fy ngwraig, am fod mor oddefgar, mor gefnogol ac mor amyneddgar pan fyddwn i wrthi’n crwydro Cymru yn arwain a difyrru cynulleidfaoedd.

    Rhaid diolch i Alun Wyn Bevan am losgi’r gannwyll yn trio dod i ben â’r hyn ro’n i am ei ddweud ac i Alun Jones a Meinir Wyn Edwards am olygu’r cynnwys yn dwt ac yn drefnus. Mae’r diolch yr un mor ddiffuant i Gareth ‘LAJ’ Jones am ei gyflwyniad – rhyfedd shwd ma’r ddau ohonom, a fagwyd ar yr un hewl ym Mrynaman, wedi gosod ein gwreiddiau yng Ngheredigion.

    Ac yn ola, i Lefi a’r Lolfa am y cyfle i osod yr holl atgofion hyn ar gof a chadw. Bu’n rhaid iddynt aros am flynyddoedd ond ’na fe, hir yw pob aros, achos o’dd cyment ’da fi i ddweud. Darllenwch a joiwch.

    Cyflwyniad

    Pleser – anrhydedd yn wir – fu cael cais i lunio Cyflwyniad i gyfrol Glan. Nid oes cof gen i o gyfnod pan nad oeddwn i’n ei adnabod. Cafodd ef a minnau ein codi o fewn golwg i’n cartrefi ar Heol Llandeilo ym mhentref Brynaman, yntau yn rhif 79 – mewn rhan o’r heol a elwir Pantydŵr – a minnau yn rhif 104.

    Efallai y synhwyrwch oddi wrth y rhifau tai hyn, fod Brynaman yn bentref sylweddol ei faint, ac felly yr oedd. Roedd yno tua 5,000 o bobl. Y Gymraeg oedd prif iaith y pentre ac anaml fyddem yn cyfarfod â rhai na fedrent ei siarad. Hi oedd iaith y capeli, iaith y chwarae a’r diwylliant a bron popeth arall ym Mrynaman. Diolch i’r drefn, mae digon o Gymry Cymraeg yno o hyd.

    Mae enw Glan yn un difyr dros ben. Ar un ystyr, dyna fe i’r dim o ran cymeriad – uniongyrchol, eglur, rhagweithiol. Ond mae’n gwbl briodol hefyd oherwydd elfen arall: yr un gair sy’n rhoi inni’r glan sydd yn ymyl afon, a thuedd afon yw gorlifo ei glannau. Byddai doniau byrlymus naturiol Glan yn aml yn llifeirio dros y rhwystrau arferol ac yn cyrraedd mannau pellennig iawn. Byddai’n rym gorchfygol a ddylanwadai ar bobl ymhell ac agos, gan eu tynnu’n heintus i’r un brwdfrydedd a’r un nod ac amcan ag yntau.

    Gloywodd y doniau byrlymus hyn yn gynnar iawn o fewn y pentre ei hun. Byddai ei dalentau cyhoeddus yn amlygu eu hunain yn y capel, mewn sioeau, cyngherddau, eisteddfodau, comedïau a dramâu. Hyd yn oed yn grwt ifanc byddai yng nghanol pob peth. Cyn bo hir, erbyn iddo gyrraedd ei arddegau a’i ugeiniau cynnar, ni ellid cyfyngu’r talentau i’r pentre mwyach. Gorlifent drwy gyfryngau fel Aelwyd yr Urdd (roedd gan Aelwyd Amanw ei hadeilad ei hun mor gynnar â’r 1930au) a llwyddo’n ysgubol yng nghystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Yn ddiweddarach, bu’n arweinydd pybyr ar yr Aelwyd ac yn golofn ei pharti Noson Lawen, a gâi wahoddiadau i berfformio mewn amryw o fannau gwahanol yng Nghymru. Nid yw’n syndod iddo ddod yn ffigwr adnabyddus wedyn ar deledu a radio. Nid oedd pall arno!

    Roedd yn drefnydd heb ei ail. Cofiaf ei rieni’n dda, Wil a Maggie, Wil yn Gynghorydd Dosbarth mawr ei barch ac yn gryn ddylanwad ar Glan ei hun. Allwch chi ddychmygu criw o blant yn chwarae cynnal cyfarfod gydag agenda a phopeth wrth law? Dyna Glan. Unwaith eto, o ddyddiau ei ieuenctid dechreuodd drefnu teithiau i leoedd ac i ddigwyddiadau o bwys, megis yr Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen. Un daith arbennig oedd y daith ar gyfer aelodau yr Urdd yn Sir Gaerfyrddin – i’r Swistir! Bu’n dal i drefnu teithiau cofiadwy i wahanol rannau o Brydain a gwledydd tramor hyd yn oed yn ddiweddar. Roedd yr agenda hefyd yn arwydd cynnar fod ganddo gydwybod cymdeithasol ac awydd i fod o wasanaeth i bobl, yn arbennig yr anffodusion a’r diymgeledd. Dros y blynyddoedd mae wedi cefnogi achosion da amrywiol ac wedi codi symiau enfawr at elusennau lu.

    Os cofiaf yn iawn, dywedodd y nofelydd mawr Daniel Owen fod deunydd nofel ym mywyd pob person. Mae hynny’n gwbl wir am Glan ac mae’n cwbl haeddu cylchrediad eang i’w atgofion. Cymeradwyaf y gyfrol hon yn gynnes iawn i chi.

    Gareth Jones (LAJ)

    Yn y dechreuad…

    Am funed wedi hanner nos ar y 5ed o Orffennaf 1948 ganed Aneira Thomas yn Ysbyty Dyffryn Aman yng Nglanaman – babi cynta’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig! Yn dilyn trafodaeth gyda’r doctor o’dd ar ddyletswydd ar y noson, fe benderfynodd ei rhieni, Willie ac Edna May, ei galw hi’n Aneira ar ôl Aneurin Bevan, y gwleidydd Llafur carismataidd o Dredegar ac Aelod Seneddol Glyn Ebwy, a weithiodd hyd fêr ei esgyrn i sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd.

    Bedair blynedd ynghynt, ar y 3ydd o Ebrill 1944, adran famolaeth Ysbyty Dyffryn Aman yng Nglanaman o’dd dechre’r daith i awdur y gyfrol hon, William Glanville Davies. Yn wreiddiol, tŷ preifat o’r enw Frondeg o’dd Ysbyty Dyffryn Aman ar Heol Horney, sef yr Heol Folland presennol, yng Nglanaman. Bu’r tŷ, sylweddol o ran maint, yn gartre am flynyddoedd i reolwyr gweithfeydd tunplat yr ardal – William Gwilym Rees a’i deulu yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yna Henry Folland o’dd yn fawr ei barch yn y diwydiant tun yng Nghymru a thu hwnt.

    Yn 1926 bu farw’r diwydiannwr o drawiad y galon mewn gwesty yn ymyl y pyramidiau yn ninas Cairo yn yr Aifft ac ynte ond yn 47 oed. Ei ddymuniad ola o’dd gweld Frondeg yn ca’l ei gyflwyno i’r gymuned yn Nyffryn Aman a’i addasu yn ysbyty a fydde o fudd i drigolion yr ardal. Gwireddwyd ei freuddwyd, a deng mlynedd yn ddiweddarach agorwyd yr ysbyty yn swyddogol gan Syr William Frith, ffrind i Henry Folland ac Aneurin Bevan, gyda’r ddou Aelod Seneddol lleol, Jim Griffiths a Lewis Jones, ymysg y cannoedd o’dd yn bresennol.

    Bu adran famolaeth Ysbyty Dyffryn Aman, adeilad brics coch a adeiladwyd ar gampws Frondeg ddiwedd y tridegau, yn hafan i wragedd beichiog cymoedd Gwendraeth, Tawe ac Aman. Yma y ganed Ryan Davies, Dafydd Hywel, Tecwyn Ifan, Adrian o’r brodyr Gregory, Delme Bryn Jones, Dafydd Iwan a Huw Ceredig yn ogystal â chewri byd y campau gan gynnwys Gareth Edwards, Trevor Evans, Dai Davies, a’r chwaraewraig hoci fyd-enwog, Marilyn Pugh. Fel wedodd Ryan un tro, Do’dd dim lot o ddewis ’da ni, achos o’dd ein mame ni’n digwydd bod ’na ar y pryd!

    Slawer dydd, ro’dd cymuned glòs fel yr un ar Heol Llandeilo, Brynaman lawer mwy effeithiol na Twitter a Facebook am ledu newyddion. O fewn oriau da’th y byd a’r Betws i wbod fod Maggie Parry Davies, neu wraig Will Pantydŵr i’r mwyafrif, yn feichiog am y trydydd tro. Ro’dd y newyddion yn dipyn o sioc gan fod fy mrawd, John Eirug, wedi’i eni bymtheg mlynedd o mla’n i, ym mis Medi 1929! Ro’dd Mam a Dad ar ben eu digon pan ymddangoses i, gan fod Margaret, eu merch, wedi marw o niwmonia ddechre’r tridegau a hithe ond yn naw mis oed.

    O Ysbyty Dyffryn Aman, yn nechre Ebrill 1944 i Lanfannog, 79 Heol Llandeilo, Brynaman Ucha, Sir Gâr – tŷ cerrig, crand o fewn poerad i odre’r Mynydd Du, un o fryniau mwya gorllewinol Bannau Brycheiniog. Yno treuliais lawer i awr bleserus adeg ’y mhlentyndod yn cerdded yn yr awyr iach a gwerthfawrogi’r golygfeydd o gwmpas Bryn Pedol, tro’r Derlwyn, y Foel, Cwm Nant Mo’l, Garreg Fraith, Mynydd Llysi ac Esgair Ynys – ysblander y greadigaeth o fewn dau gan llath i’r drws cefen.

    Y Gwter Fawr

    Yr hen enw ar Frynaman o’dd y Gwter Fawr – y Gwter yn tarddu o’r Gorsgoch Ucha ar Wauncaegurwen ym mhlwyf Llan-giwg yn Sir Forgannwg ac yn rhedeg i lawr heibio’r Castell dros lethrau Twyn-y-cacwn, trwy Gilfach Pant-yr-Hala, heibio’r Croffte a’r Farmers i afon Aman.

    Yn nhafarn y Farmers treuliodd George Borrow noson ar ei daith o gwmpas Cymru yn 1854. Cyrhaeddodd y pentre’n wlyb i’r cro’n, wedi cerdded rhyw ugain milltir o Lanymddyfri dros y Mynydd Du, gyda’r glaw yn ca’l ei chwipo ar draws y tir agored gan wynt cryf. Ro’dd hi’n noson i gwtsho o fla’n y tân! Yn ei gyfrol Wild Wales, ‘the Inn at Gutter Vawr’ o’dd disgrifiad Borrow o’r Farmers ond ro’dd e’n llawn canmoliaeth i’r croeso, y gwmnïaeth a’r pryd bwyd blasus a ddarparwyd o gig llo, bacwn a thatws. Wedi gwledda, treuliodd awr neu ddwy o fla’n y tân – tân a alle fod wedi twymo byddin, yn clebran am fywyd ’da’r trigolion lleol o’dd am wybod pob dim am hanes y rhyfel yn y Crimea: Sit down – sit here – won’t you drink? mae’n amlwg fod y gweithwyr wedi gwirioni’n llwyr.

    ‘Y Gwter Fawr’ o’dd nom de plume y prifardd lleol, Watkin Hezekiah Williams. Watcyn Wyn o’dd ei enw barddol yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod y Byd yn Chicago yn 1893. Arwrgerdd i George Washington o’dd y testun, ond siomedig o’dd yr ymateb o ran y beirdd Cymreig ac Americanaidd a fentrodd i’r gystadleuaeth, gan mai ond dou ’nath gystadlu. Ro’dd rhyddid cyfansoddi’u cerddi naill ai yn y Gymraeg neu yn y Saesneg ac yn 1893 gwahoddwyd y prifardd Hwfa Môn i groesi Môr yr Iwerydd i gyfieithu’r cerddi Cymraeg i’r Saesneg yn ogystal â beirniadu. Cyn dechre ar y gwaith gofynnodd y beirniaid di-Gymraeg am eglurhad o’r enw ‘Y Gwter Fawr’. Ystyriodd Hwfa Môn yn ddwys am rai eiliade cyn ateb: Well, gentlemen, translated into English, I suppose it could be ‘The Grand Canyon’!

    Cyhoeddwyd argraffiad cynta Enoch Rees o Hanes Brynaman yn y flwyddyn 1883 ac yno mewn du a gwyn mae cadarnhad mai yn y flwyddyn 1864 y newidiwyd yr enw Gwter Fawr i Frynaman ac yn ôl yr awdur: ‘… gosodwyd yr enw BRYNAMAN ar y station mewn llythrennau digon mawrion i ddychryn pob enw arall o’r lle am byth!’

    Mae newid yr enw yn dipyn o beth,

    Mae enw canolig ar le da – yn dreth;

    Wel dyma y flwyddyn a diolch am hyn,

    Y claddwyd y Gwter – y codwyd y Bryn!

    Mam

    Ganwyd Mam, Maggie Parry, ar yr 17eg o Awst 1906, ar yr union adeg pan fu farw Mam-gu. Ie, Mam-gu. Ffarweliodd Maggie Lizzie â’r hen fyd ’ma a hithe ond yn ddwy ar hugen oed. Dyna drefen bywyd yn ystod degawd gynta’r ugeinfed ganrif pan nad o’dd fawr o sôn am Wasanaeth Iechyd, a gan fod ysbytai’n brin a’r nyrsys yn brinnach, dibynnai teuluoedd ifanc ar allu gwragedd lleol, lled wybodus, i hwyluso genedigaethau.

    Yn amlach na pheidio, do’dd mwyafrif llethol y cynorthwywyr ddim wedi derbyn unrhyw hyfforddiant proffesiynol. A bod yn onest, ychydig iawn o fydwragedd cymwysedig o’dd ar ga’l a phetai cymhlethdodau yn ca’l eu hamlygu wedi i’r dŵr dorri, bydde cyfartaledd uchel o famau, a phlant yn ogystal, yn colli eu bywydau. A dyna o’dd tynged Mam-gu druan – cario’r babi am naw mis ond heb ga’l y cyfle i gyfarch na magu ei merch.

    Cwmllynfell, Sir Forgannwg, o’dd man geni Mam, ond yn dilyn marwolaeth ei mam hithe, cafodd ei mabwysiadu a’i magu gan deulu’i thad, y Parrys, o bentre Brynaman, Sir Gaerfyrddin, rhyw ddwy filltir o’i hen gartre. O fewn blwyddyn i farwolaeth Maggie Lizzie fe briododd Tom Parry am yr eildro, ond aros yn driw i deulu’r Parrys ’nath Mam yn hytrach na symud at ei thad a’i llysfam. Bu’r penderfyniad yn un doeth, oherwydd pan o’dd Mam yn saith oed derbyniodd hi glatsien arall yn dilyn marwolaeth ei thad, Tom Parry. A gyda theulu’i thad buodd Mam yn ystod gweddill ei phlentyndod a’i harddegau. Ro’dd hi’n llawn edmygedd o’r Parrys – am y gofal, y cariad a’r arweiniad a dderbyniodd ar aelwyd ei theulu mabwysiedig.

    Dwi’n amal yn meddwl am flynyddoedd cynta Mam, yn negawdau cynta’r ugeinfed ganrif: yn y cyfnod hwnnw ’nath Edward VII olynu Fictoria, y brodyr Wright brofi bod modd hedfan mewn awyren a Henry Ford wireddu’i freuddwyd o fasgynhyrchu’r Model-T Ford ar gyfer y werin bobol yn ei ffatri yn Dearborn, ger Detroit. Rhyfedd o fyd!

    Fe ges i, fel y mwyafrif ohonoch chi, ddarllenwyr, fam anhygoel – y fam orau ar wyneb daear! Gwraig tŷ fuodd hi eriôd, yn gefen i’w gŵr, yn cyflawni’i dyletswyddau heb gwyno ac yn mynnu bod ei phlant, Eurig a finne, yn gwneud y gore o’n cyfleoedd, er mwyn osgoi disgyn mewn caets i’r dyfnderoedd duon ben bore. Do’dd fawr o obaith i ferched ddisgleirio’n academaidd yn ystod ei chyfnod hi – y nod iddyn nhw, ar droad y ganrif, o’dd meistroli’r 3Rs yn ysgol y pentre a sicrhau rhyw fath o brentisiaeth cyn chwilio am ŵr a magu plant.

    Gwaith, gwaith, a mwy o waith! Dyna o’dd y drefen i wraig briod: cynnu tân, paratoi bwyd, golchi dillad, smwddo, glanhau, siopa – hi fydde’r cynta i godi bob bore a’r diwetha i fynd i’r gwely bob nos. Ac i ddyfynnu Robin Williams yn ei gyfrol ardderchog Cracio Concrit: Yr un yw’r drefn ym myd natur; y ddafad gyda’r oen, y fuwch gyda’r llo a’r iâr gyda’i chywion. Y mae’n ymddangos mai ar y fenyw y mae’r dibynnu gwastadol. Rhyfedd felly, mai’r dyn ar hyd yr oesoedd sy wedi derbyn y clod.

    Shwd ar y ddaear o’dd Mam yn ca’l y deupen llinyn ynghyd? Darparu, paratoi, cymoni, clirio, neud yn siŵr fod cymdogion oedrannus yn iach ac yna, ar ôl yr holl fynd a dod, yn cyrraedd Capel Moreia yn brydlon ar gyfer y gwasanaethau, y defosiynau a chyfarfodydd ganol yr wythnos.

    Bydde holi diddiwedd a rhestr hir o gyfarwyddiade cyn i fi ei throi hi am yr ysgol. Wyt ti wedi glanhau dy ddannedd?; Dere ’nôl yn brydlon o’r ysgol, mae isie i ti gasglu ar gyfer y genhadaeth; Cofia alw ’da Cliff y Post am garden pen-blwydd i Gareth; O’s arian ’da ti? Superwoman: dyna’r unig air i’w disgrifio!

    Ro’dd holl ddiddordebau Mam naill ai’n ymwneud â’r cartre neu â’r teulu – gwau, gwnïo a gwaith crosio yn yr hydref a’r gaea, cyn iddi droi ei golygon at yr ardd yn y gwanwyn a’r haf. A bod yn onest, o flwyddyn i flwyddyn, partneriaeth o’dd yr ardd, gyda Dad yn gyfrifol am y palu a neud yn siŵr bod tail ar ga’l. Do’dd dim byd yn well na thail ceffyle o’r stable dan ddaear. Bydde hithe, my lady, yn plannu’r hadau ac yn ca’l gwared ar bob chwynnyn, yn null tirmyn cyrtiau tennis cymen Wimbledon.

    Gellid dweud ein bod ni fel teulu bron yn hunangynhaliol o ran bwyd am dri chwarter y flwyddyn, gyda hanner dysen o ieir a ch’ilog yn y sied ffowls a mochyn yn y twlc. Dim ond cwch gwenyn a buwch o’dd ei angen a fe alle’r National Trust fod wedi prynu’r lle! Ro’dd gerddi mwyafrif y teuluoedd ar Heol Llandeilo a Bryn Avenue gerllaw yn bictiwr; rhai, yn enwedig gardd Fred, mab Iorwerth Davies yr Opera, Sam Williams, y tri mab (John Elgar, Eurfyl ac Elis Wyn) wedi cynrychioli Cymru dan 18, a Mike Owen, a gafodd amser caled yng ngharchardai’r Japaneaid adeg yr Ail Ryfel Byd, gyda’r gerddi perta a’r mwya cynhyrchiol yn yr ardal. Mae’n rhyfedd ’da fi ddychmygu shwd o’dd pawb yn ymdopi – cyrradd gatre ar ôl tyrn caled dan ddaear ac yna’n treulio orie’n agor rhychie o’dd yn fathemategol berffeth! Cofiwch, do’dd neb yn cydio mewn pâl, hof, fforc na rhaca ar ddydd Sul.

    Petai’n gardd ni wedi dod i’r brig yn Chelsea, neu sioe flynyddol yr Amwythig, yna Mam fydde wedi camu mla’n i dderbyn y cwpan aur, y dystysgrif, y rosette a’r gymeradwyaeth. Hi o’dd y Sarjant Major – hi o’dd yn neud y penderfyniade. Ro’dd digon ’da Dad ar ei blât gyda’i waith bob dydd a dyletswydde cyson y cownsil – ro’dd e’n neud ei wàc ond gade’l i Mam drefnu. Weles i eriôd y ddau yn dodi’u tra’d lan – ganol haf nac yng nghanol gaea.

    O ran yr ardd, bydde Dad yn pregethu o flwyddyn i flwyddyn am ychwanegu cemegau i wella ansawdd y pridd:

    Dyna’r gyfrinach, Maggie! Cymysgu rhywfaint o botash a chalch gyda’r pridd a’r tail.

    Cyfarwyddiade o’dd yn tasgu mas o geg Mam: Wil, bydd isie neud yn siŵr na fydd yr un crop yn tyfu ar yr un darn o’r ardd ddwywaith yn olynol.

    Ie, fel dwedes i’n gynharach, partneriaeth o’dd hon, ac Eurig a finne wedi elwa’n sylweddol o’r cynnyrch: winwns, pannas, bresych, tatws, pys, ffa, betys, garetsh – moron i chi sy’n byw i’r gogledd o Langadog, cidnabêns… Heb anghofio’r llwyni: cwrens duon, cwrens cochion a’r cwsberis – sy’n debyg i Marmite, chi naill ai’n eu lico nhw ne chi ddim. Dyna’n fras o’dd cynnyrch blynyddol gardd y Davies’s ar Heol Llandeilo a heddi, a finne wedi byta mewn tai bwyta

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1