Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Breuddwyd Roc a Rôl - Hunangofiant Cleif Harpwood
Breuddwyd Roc a Rôl - Hunangofiant Cleif Harpwood
Breuddwyd Roc a Rôl - Hunangofiant Cleif Harpwood
Ebook525 pages8 hours

Breuddwyd Roc a Rôl - Hunangofiant Cleif Harpwood

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Autobiography of the front man of ground breaking 70s rock Welsh group, Edward H Dafis. As well as stories about the band and his career as a TV director, Cleif Harpwood shares personal stories about his regrets and his divorce.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateDec 21, 2022
ISBN9781800993457
Breuddwyd Roc a Rôl - Hunangofiant Cleif Harpwood

Related to Breuddwyd Roc a Rôl - Hunangofiant Cleif Harpwood

Related ebooks

Reviews for Breuddwyd Roc a Rôl - Hunangofiant Cleif Harpwood

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Breuddwyd Roc a Rôl - Hunangofiant Cleif Harpwood - Cleif Harpwood

    i Mollie, Ella, Max, Martha ac Elain,

    Cymry’r dyfodol

    ac er cof am John a Charles

    Diolch

    Elinor Wyn Reynolds, y person mwya amyneddgar yn y bydysawd.

    Meleri Wyn James, Y Lolfa.

    Argraffiad cyntaf: 2022

    © Hawlfraint Cleif Harpwood, Elinor Wyn Reynolds a’r Lolfa Cyf., 2022

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru

    Llun y clawr blaen: Gruff Davies

    Cynllun y clawr: Sion Ilar

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-80099-369-3

    Cyhoeddwyd, rhwymwyd ac argraffwyd yng Nghymru gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    gwefan www.ylolfa.com

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 832 782

    1

    ‘Wyt ti’n cofio’r dechre, cyn y chwalu mawr?’

    (‘Lisa Pantdu’, Edward H Dafis, 1976)

    Pan fydda i’n agor y cyrtens yn fore ac edrych mas trwy ffenest ’y nghartre ar Fynydd y Gaer, fe fydda i’n amal yn meddwl taw dyma’r olygfa a welai Caradog ab Iestyn, Arglwydd Afan, o’i blas yng nghwm Nant Baglan gerllaw – hynny yw, os o’dd ’da nhw gyrtens i’w hagor yn y canol oesoedd. Mae’n olygfa odidog; ar droed y mynydd mae’r morfa’n ’mestyn draw at dwyni Bae Baglan lle mae Afon Nedd yn cwrdd â’r môr, ac yn cwato tu ôl i warws Amazon mae dinas Abertawe, a braich y Mwmbwls yn ymestyn yn osgeiddig i Fôr Hafren.

    Y dyddie ’ma dyw e ddim yn teimlo fel tasen i wedi mynd yn bell iawn o’n filltir sgwâr gan taw nid nepell o fan hyn y ces i ’ngeni. Ond fe fues i ar grwydr am dros bymtheg mlynedd ar hugen, ac wy wedi bod yn ddigon ffodus i weld tipyn o’r hen fyd ’ma, y da, y drwg, a’r gwa’th – ac wedi troi’n llaw at dipyn o bob dim.

    Daeth William Clive Harpwood i’r byd ar Nos Ystwyll 1953, o’dd yn siwto’r cybyddion yn y teulu’n iawn gan ei bod hi yn eu tyb nhw’n dal yn ŵyl y geni ‘jyst abowt’ ac yn ddigon o esgus i gyfuno presant Dolig a phresant pen-blwydd weddill ’y mhlentyndod.

    ‘’Na fe i ti, bach, dy anrheg Dolig a d’anrheg pen-blwydd… Be ti’n weud wrth Anti Lal?’ Ro’dd yr ymateb yn fater i’r sensor.

    I’r sawl nad yw’n cofio’r 1950au, mae’r gyfres deledu ddiweddar, Call the Midwife, yn portreadu’r byd llwm, monocrom a fodolai bryd ’ny i’r dim, pan o’dd ôl creithiau’r ail ryfel byd yn dal yn amlwg ar drefi gorllewin Morgannwg, ac ar Abertawe’n enwedig. Trwy lwc, fe ges i ’ngeni yn un o unedau mamolaeth mwya swish yr NHS newydd ym Mhenrhiwtyn, pentre bach di-nod rhwng Llansawel a Melincryddan ychydig filltiroedd o Bort Talbot. Dyw’r ‘Neath General’ ddim yn bodoli bellach, daeth y tarw dur heibio rhai blynyddoedd yn ôl, digwyddiad cyffredin yn y fwrdeistref flaengar hon, ac erbyn hyn mae ’na stad dai newydd sbon yn ei lle. Yn y man lle safai’r uned famolaeth mae ’na ddau semi a buan y daw’r amser i benderfynu p’un ai ar fla’n rhif 65 neu 66, Penrhiwtyn Rise y gosodir y plac glas.

    Mae fy atgofion cynhara o’r hen Aberafan, neu ’Brafan fel y’n ni’n gweud ffor’ hyn, lle dreules i flynyddoedd cynta ’mywyd i, yn atgofion melys ar y cyfan. Mae pobol yn dueddol o gyfeirio at yr ardal hon fel Port Talbot, ond enw diweddar iawn yw hwn ar y dociau newydd a godwyd i’r dwyrain o Afon Afan yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan deulu Mansel Talbot o blas Margam. Mae ’Brafan yn ishte’n benna ar ochr orllewinol yr afon, ac i’r de o’r dre hynafol mae ’na draeth eang sy’n ymestyn o Afon Afan hyd at aber yr Afon Nedd.

    Mae sôn am ’Brafan yn Llyfr Dydd y Farn, y Domesday Book, ond aros yn nwylo’r Cymry nath y dre trwy gydol cyfnod y Normaniaid ac fe gyfeirid ati fel Tre Caradog gan ei thrigolion, hyn oherwydd taw Arglwyddi Afan, uchelwyr Cymreig o’dd yn teyrnasu ar y rhan hon o Forgannwg o’u llys ym mhlas Baglan. Ro’dd gan yr uchelwr o Gymro ym Maglan y llaw ucha am fod ’dag e un o gorsydd heli mwya anial a pheryglus de Cymru o fewn ei diriogaeth, ac ond y fe a’i hil o’dd yn gyfarwydd â’r llwybrau trwy’r gors ynghyd â’r mannau saffa i groesi Afon Nedd. Ro’dd yr Esgob Baldwin a Gerallt Gymro yn dra diolchgar i Morgan o Faglan am eu harwain trwy’r ddrysfa beryglus hon ar eu taith hanesyddol trwy Gymru yn 1188. Gan nad o’dd yr A48 na’r M4 yn bodoli yn y canol oesoedd, os oeddech yn dymuno symud eich llu arfog sha’r gorllewin neu fwrw mla’n â’ch pererindod i Dyddewi, yna fydde fe’n talu’r ffordd i chi fod yn glên wrth Arglwyddi Afan.

    Ymhen dim cafwyd cyfaddawd rhwng y Cymry a’r Normaniaid ac fe grewyd talaith annibynnol i’r Cymry yn ucheldir gorllewin Morgannwg o’dd yn ymestyn o Fôr Hafren yn y de hyd at fynydd y Rhigos yn y gogledd, glannau Afon Nedd i’r gorllewin a ffiniau Tir Iarll ac Abaty Margam i’r dwyrain. Yr enw a roddwyd ar y cilcyn ’ma o dir o’dd Afan Walia ac ro’dd yn cynnwys cymoedd Pelenna, Corrwg, Cregan, Gwynfi a Dyffryn Afan ar ei hyd. Bydda i’n lico meddwl bod ’na Yes Afan Walia wedi bod yn gefen i’r cwbwl; pwy a ŵyr?

    O fewn dim ro’dd Morgan ab Caradog wedi codi castell o garreg yn null y Normaniaid yn ’Brafan, ond dyw e ddim i’w weld heddi, aeth yr hen darw dur trwy hwnnw hefyd, sbel fawr yn ôl, ac mae ’na faes parcio concrit amal lawr yn ei le erbyn hyn. Tafliad carreg o dyrau’r pay and display mae eglwys y Santes Fair, eglwys y plwy, a’r fan hyn mae Dic Penderyn yn gorwedd, mae ei fedd y tu fas i borth yr eglwys. Un o ’Brafan o’dd Richard Lewis ac ym mwthyn Penderyn ar gyrion y dre y cafodd ei gwnnu, cyn mynd i Ferthyr ac yna at ei ddiwedd ar y grocbren yng Nghaerdydd. Dethon nhw’n ôl â’i gorff i ’Brafan, i’w blwy genedigol i’w gladdu. A chyn i chi ofyn, na, dyw bwthyn Penderyn ddim i’w weld heddi, bu tarw dur ein cownsil blaengar yno hefyd, ac mae ei olion yn rhywle dan flyover yr M4. Ond dyna ddigon ar hanes y ’Brafan ddiflanedig am y tro, ’nôl at ’y muchedd i.

    I’r gogledd o’r dre a heibio i Graig Afan, sydd fel corcyn potel yng ngwddw’r dyffryn mae pentre Cwmafan, cartre’r hynafiaid, ac i’r gogledd o hwnnw mae Pont-rhyd-y-fen lle ges i’n addysg gynnar. I baradwys y Cwm y bydden ni’n dianc bob penwythnos at ’y nhylwth a’m ffrindie.

    Roedd ’yn fam a’n nhad yn hanu o Gwmafan ac yn fan hon ro’dd y rhan fwya o’r teulu’n byw. Ro’dd gan ’yn fam wreiddie yng Ngheredigion. Ro’dd ei hen hen fam-gu, Sarah Morgan, yn ferch i David Morgan, capten llong o Geinewydd a ddaeth lawr i Borth-cawl yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i fod yn feistar ar longau o’dd yn hwylio mas o’r porthladd lluniaidd ar Fôr Hafren. Bu farw yn Lisbon, Portiwgal yn 1875.

    Priododd Sarah â mab un o deuluoedd mwya amlwg Porth-cawl, y teulu Austin. Ro’dd fy mam-gu, Edith, yn ferch i un o feibion Sarah, David Morgan Austin, gof Notais, pentre hynafol ar gyrion y dre. Yn dilyn y rhyfel byd cynta symudodd Edith i dre Aberafan i fyw, a chyfarfod â glöwr o Gwmafan, Wyndham Davies. Gorfod i’r ddau briodi yn swyddfa gofrestru’r dre ym mis Mai 1923 ac nid yn Salem y capel teuluol am fod Sarah yn disgwl ei phlentyn cynta.

    Roedd Wyndham yn un o ddeg o blant ac ro’dd sawl cenhedlaeth o’i deulu wedi byw yn Tir Arthur Row, un o’r rhesi o dai a adeiladwyd gan y gwaith copr ar gyfer eu gweithwyr ’nôl yn oes Fictoria. Safai’r Rows ar droed Foel Fynydde yn edrych dros weithfeydd y pentre a’r rhwydwaith o gamlesi, rheilffyrdd a therasau ar lawr y dyffryn. Ro’dd gan bob un Row ei gymuned fach ei hunan a pherthnase o’r un teulu yn gymdogion i’w gilydd. Pan symudodd Edith at ei gŵr i rif 6 Tir Arthur Row y flwyddyn honno ro’dd dwy o’i chwiorydd yng nghyfreth a’u teuluoedd yn byw yn rhif 2 a rhif 14, brawd yng nghyfreth a’i wraig yn rhif 12 a’i thad a’i mam yng nghyfreth yn byw yn rhif 4. Ro’dd y lle’n drwch o dylw’th fydde’n gefen iddyn nhw, ond bywyd caled o’dd o flaen y pâr ifanc, ro’dd gwaith yn brin a dyddie llewyrchus Cwmafan ar ben.

    Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg fe ddatblygodd Cwmafan yn ganolfan ddiwydiannol o bwys. Sefydlwyd gweithfeydd copr, tun a haearn yno ac ro’dd yn frith o weithfeydd glo. Erbyn y 1920au ro’dd y diwydiannau trwm wedi pallu ac wedi symud i’r glannau yn Nhai-bach a ’Brafan, a dim ond ambell i bwll glo a gwaith brics o’dd ar ôl yn y cwm. Gadawodd diwydiant ei ôl ar y dyffryn. Ro’dd olion yr hen weithfeydd, gwastraff gwenwynig y prosesu copr a thipie’r pylle glo i’w gweld ym mhobman a llifai Afon Afan yn goch a du o liw yr ocsid a’r llwch glo a dreiddiai iddi.

    Roedd trin copr yn fusnes brwnt ac yn nyddie cynnar y diwydiant ro’dd llygredd y gweithfeydd yn ofid mawr i amaethwyr a thrigolion y dyffryn. Ro’dd y mwg gwenwynig yn lladd eu hanifeiliaid, yn ’strywa’u cnyde, a’i effeithie ar iechyd y gymuned yn ddifrifol.

    Bu rhaid i Miss Talbot o Blas Margam a nifer o berchnogion tir eraill fygwth y gyfreth ar y diwydianwyr di-hid ac fe fu pwyse mawr arnyn nhw i ddatrys y broblem.

    Yr ateb o’dd adeiladu un o ryfeddodau’r Gymru ddiwydiannol, Stac y Foel. Simne o’dd hon a dynnai fwg afiach y gwaith copr 1,100 o droedfeddi o waelod y cwm i gopa Foel Fynydde, mynydd ucha gorllewin Morgannwg. Adeiladwyd corn simne, twnnel hir o waith brics, i gario’r mwg lan y llethre serth i’r stac, simne fawr a safai uwch cwm bychan ar ben y mynydd. Ro’dd y stac yn frawychus ei golwg oherwydd y torchau o fwg a thân o’dd yn arllwys ohoni, ro’dd fel llosgfynydd, a gyda’r nos fe oleuai ardal eang o’i chwmpas:

    Mi welaf stac Cwmbychan

    Yn amlwg braidd o bobman

    A’r mwg yn dorchau gwyd o’i phen

    Uwchben hen ddyffryn Afan.

    Roedd y stac i’w gweld o Wlad yr Haf a Dyfnaint dros Fôr Hafren. Do’s dim rhyfedd iddi ga’l ei dymchwel yn 1940 pan dybiwyd ei bod yn arwain awyrennau’r Luftwaffe ar eu cyrchoedd bomio at Abertawe yn y bae gerllaw.

    Rhedai corn simne’r stac heibio i gapel bach Tabor a safai ar ben Tir Arthur Row ac mi fydde’n fam-gu a ’nhad-cu, Wyndham ac Edith, a thrigolion y Rows yn gyfarwydd â dilyn ei drywydd lan y Fo’l ar ddiwrnod o haf i ‘gysglu llusie bach’ yn yr eithin.

    Digon llwm o’dd bywyd teulu’r Davies yn nauddegau’r ganrif ddiwetha. Tai syml iawn o’dd tai rhes Tir Arthur. Ro’dd ’na ddwy llofft, cegin â range a pharlwr lawr llawr, yn union fel rhes Rhydycar, Merthyr sydd i’w gweld yn Amgueddfa Sain Ffagan heddi. Trwy fendith ro’dd ’na erddi hir o fla’n a thu ôl i dai Tir Arthur a olygai bod modd bwydo’r teulu drwy dyfu llysie a ffrwythe a chadw ychydig ieir a mochyn.

    Wy’n cofio pan o’n i’n llanc cyfarfod â hen löwr o Graig y Tewgoed yn nhafarn y British Lion ym Mhwll-y-glaw, a hwnnw’n gweud wrtha i taw ‘Dim ond tato a wye sydd ishe ar ddyn i fyw, os o’s ’da ti daten a wy ar dy blât bob dydd fyddi di’n reit, ’mychgan i…’ Chips ac omlette amdani ’te, a pheint o Evans Bevans wrth gwrs, ro’dd Twm yn un am ei gwrw. Pan o’n i’n ymweld â’r Row yn blentyn ar ddiwedd y 1950au ro’dd gerddi tylw’th Tir Arthur yn llawn o ‘fruit and veg’. Ro’dd ’na lwybr cul cymunedol yn gwahanu’r tai o’r gerddi ffrynt, ro’dd yr ardd hon yn gartre i’r cwningod a’r ieir ac ar waelod yr ardd o’dd y twlc mochyn. Ro’dd ’na sied sylweddol yno hefyd a ddefnyddid fel cegin ac fe fydde’r teulu’n byta ac yn ishte mas yn hon yn ystod misoedd yr haf. Ro’dd yr ardd gefen yn Eden o ffrwythe a llysie; ro’dd tato, moron, winwns, bresych, cennin, pys, ffa a chidne bêns yn gatrawd o resi taclus ar fla’n yr ardd, a’r pen draw iddi y coed afal, eirin bach, gwsberis, cwrens duon a mafon i’w troi’n win cartre, tartenne a jam. Y cyfan wedi’u maethloni gan dail ceffyle Wncwl Ieu fferm y Bwlch, y gyrrwr tractor arafa yn y shir. Yn amal pan fyddwn yn gadel ar dd’wetydd i ddal bws ’Brafan bydde’n fam a finne â llond ein breichie o gynnyrch gerddi Tir Arthur.

    Roedd ’y nhad-cu yn weithwr caled, yn ôl y sôn, ac yn ddyn poblogedd yn ei gymuned ond ro’dd ’na galeti mawr yn ystod degawd gythryblus y 1920au. Ro’dd ’na gwmpo mas yn amal rhwng perchnogion y gweithfeydd glo a’u gweithwyr ac aeth pethe o ddrwg i wa’th pan ddaeth streic fawr 1926. Cafodd nifer o ddynion eu ‘blaclisto’ gan gynnwys aelodau o deulu ’nhad-cu. Ysbeidiol o’dd y gwaith wedi ’ny ond yn ystod y cyfnod hwn fe esgorodd Edith ar bump o blant, tri o fechgyn a dwy ferch ac er gwaetha’r caleti mynnai fy niweddar fodryb Doreen, y ferch hyna, ‘Ro’n ni’r plant yn ddigon hypus ’yn byd.’ Ond ro’dd ’na drychineb ar y gorwel.

    Daeth fy mam i’r byd ym mis Chwefror, 1930, hi o’dd yr ieuenga o’r plant, ond ychydig dros flwyddyn wedi’i geni fe gwmpodd Edith yn feichiog unwaith yn rhagor. Ro’dd rhaid bod amgylchiade’r teulu yn ddifrifol o anodd oherwydd fe benderfynodd fynd at erthylwraig leol. Profodd y weithred yn angheuol a bu farw ar 24 Ebrill, 1931. Torrodd Wyndham ei galon ac ro’dd am ddial ar y sawl o’dd yn gyfrifol. Does neb yn siŵr a o’dd ynte’n ymwybodol o fwriad ei wraig. Rhai dyddie wedyn fe alwyd plismyn i dŷ yn y pentre i amddiffyn y sawl o’dd yn byw yno rhag dialedd y gŵr o Dir Arthur. Aed â Wyndham yn ôl i’w deulu yn y Row i alaru ond bu’r cyfuniad o flynyddoedd o dloti a gwaith caled, ynghyd â’r golled a deimlai ar ôl Edith yn ormod iddo, a bu ynte farw yn ysbyty ’Brafan ar 11 Mai 1931, ychydig dros bythefnos ar ôl colli’i wraig. Fe’i claddwyd gydag Edith ym mynwent Pantdu, dim ond 28 oed o’dd y ddau.

    Nid dyma’r stori a glywson ni yn blant. Tan yn ddiweddar iawn ro’n i ar ddeall mai marw o’r ffliw nath y ddau. Fersiwn arall o’r stori o’dd bod Edith wedi marw o’r clefyd hwnnw a bod Wyndham wedi marw o dorcalon wythnose ar ei hôl hi.

    Beth o’dd i’w wneud â phump o blant amddifad? Yr arfer bryd ’ny o’dd rhannu’r plant rhwng perthnase, petai hynny’n bosib, ac ro’dd teulu Wyndham yn benderfynol nad ele’r un ohonyn nhw i’r wyrcws. Arhosodd dau o’r bechgyn yn eu cartre yn y Row a daeth wha’r hyna Wyndham, Rosalind, a’i gŵr, Tom, i fyw atyn nhw. Cafwyd cartrefi i ddau arall gyda pherthnase eraill yn y pentre, ond i’r dre yr aeth fy mam yn ddeunaw mis oed at William, hen ewythr i Edith, a’i wraig, Margaret, i’w mabwysiadu.

    Gyrrwr trên o’dd William Austin a Margaret yn ferch fferm o Benderyn ger Aberdâr. Roedden nhw’n byw yn Felindre ar gyrion ’Brafan, rhyw filltir a hanner i lawr y cwm o’r Rows. Cymraeg o’dd iaith yr aelwyd ac ro’dd y ddau’n aelode selog o Ebeneser, capel y Bedyddwyr yn sgwâr Talbot. Cafodd Jane Austin blentyndod hapus, ro’dd William a’i wraig yn dwli arni, ac fe ga’th hi fynd i ysgol breifat yn y dre a cha’l pob cyfle posib. Bu William hefyd yn garedig wrth ei brodyr a’i chwiorydd hi ac fe nath yn siŵr bod Jane yn cael pob cyfle i’w gweld nhw a chadwai gysylltiad agos â nhw. Cafodd y wha’r hyna, Doreen, fynd i’r ysgol ramadeg wedi iddi basio’r 11+ gyda’r marcie ucha yn y cylch, a bydde dau o’i brodyr wedi ei dilyn yno petai amgylchiade ariannol y tylw’th wedi caniatáu, ond gorfod i’r ddau fynd â llythyre i’r ysgol yn datgan nad oedden nhw i sefyll yr arholiad. Fe adawodd y ddau yr ysgol yn 14 oed a cha’l gwaith yn y pwll.

    Cafodd ’y nhad, William Kenneth Harpwood, ei gwnnu’r ochr arall i’r dyffryn, ger Cwm Idwal, ar Fynydd Bychan, mewn rhes o gartrefi oedd wedi’u codi i weithwyr y gwaith glo yno. Un o fanna o’dd ’yn fam-gu, Rosina Samuel, yr un Samuels â’m prifathro, Alwyn Samuel, a’i blant, Robin, Aled y darlledwr ffraeth a’r chwiorydd Non a Nia. Ro’dd Mynydd Bychan, fel y Rows, yn gymuned Gymreig glos ond ro’dd y clwstwr o dai a safai dan gaeau hen ffermdy Cilcarn yn agored i’r tywydd ac yn lle gwlyb ac oer y cythrel;

    Pan o Gilcarn y gwlaw fo’n dyfod,

    Fe bery’n gyson am ddiwrnod,

    A thaera pawb pe âi’r byd yn sarn

    Mai gwynt y diawl yw gwynt Cilgarn.

    Rwy’n cofio ’nhad yn dweud yn amal mai tŷ Mynydd Bychan o’dd yr oera fuodd ynddo erio’d, ‘Rown i boiti sythu ’na.’

    Fe gyfarfu Rosina â’i gŵr, Llew, pan ddath e i weitho i’r pwll ar ddiwedd y 1920au. Ro’dd yn ŵr ifanc golygus a chyhyrog, yn chwaraewr rygbi dros ei bentre, Tai-bach, ac yn baffiwr medrus, yn ôl yr hanes. Do’dd Llewelyn Harpwood ddim yn medru’r Gymraeg am fod ’i deulu’n hanu o ardal Glympton ger Woodstock yn Swydd Rhydychen ac wedi dod i Gymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ro’dd yr Harpwoods yn amaethwyr ac yn grefftwyr ar stadau Blenheim a Glympton cyn iddyn nhw drio’u lwc yng ngweithfeydd y Gymru ddiwydiannol.

    Unig blentyn o’dd ’y nhad a fe o’dd cannwyll llygad ei fam, ro’dd y ddau’n agos iawn. Cafodd ddamwain gas pan o’dd e’n saith oed pan sarnodd lond sosban o saem berwedig dros ei gefn a’i losgi’n ddifrifol. Bu yn yr ysbyty am fisoedd a’i fam wrth ei ochr ddydd a nos trwy’r cwbwl. Ond ro’dd Rosina’n fenyw eiddil, a byr fu’r amser gafodd ’y nhad gyda’i fam wedi’ny. Un diwrnod o haf yn 1938 fe ddychwelodd adre o’r ysgol a chanfod bod Rosina wedi marw o’r dicáu.

    Roedd arian yn brin ac er mwyn ennill ceiniog neu ddwy i helpu’i dad fe gasglai ’nhad faw defed o’r mynydd a’i werthu’n wrtaith i arddwyr yr ardal. Ar ddechre’r rhyfel fe gymrodd jobyn ’da’r llaethdy lleol yn Nhai-bach yn gwerthu mesure o laeth mas o churn fawr a wthiai ar olwynion o dŷ i dŷ. Pan fomiwyd Abertawe’n ddrwg yn ystod y rhyfel, ro’dd yr A48 yn Nhaibach a ’Brafan yn dagfeydd o injans tân, ambiwlansys a cherbydau achub, rhai ar eu ffordd i’r dinistr ofnadw ac eraill yn dychwelyd. Cafodd ’y nhad gyfarwyddyd gan ei gyflogwr i fynd â’r churn i’r sgwâr yn Nhai-bach a chynnig lla’th yn rhad ac am ddim i ddewrion sychedig y gwasanaethe achub wrth iddynt baso heibio. Bu wrthi am dridie mae’n debyg.

    Fe ailbriododd ’y nhad-cu ac fe gafodd ail deulu, a nhw aeth â’i sylw o hynny mla’n. Ro’dd dwy hanner wha’r ’y nhad a’u brawd iau yn cael yr hyn a fynnent a ’nhad yn teimlo’n alltud yn ei gartre ei hunan. Aeth yn ffrwgwd rhwng Llew a’i gyntaf-anedig a gorfod i ’nhad ffindo’i ffordd ei hunan yn y byd.

    Yn ddwy ar bymtheg oed aeth Mam i witho i’r Co-operative Wholesale Society neu’r ‘Co-op’. Fe weithiai yn y swyddfa ac ar lawr y siop. Ro’dd ’na ‘Cop’ i’w ga’l ymhob rhan o Bort Talbot, do’dd dim archfarchnadoedd yn y 1950au. Y tro cynta i fi weld unrhyw beth yn debyg i archfarchnad o’dd ar ddiwedd y 60au pan agorodd cwmni Fine Fare ei siop yn Station Road, ’Brafan. Os oeddech chi isie bwyd, pethe pob dydd, dillad ac angladd yna ro’dd y Cop â’r cwbwl. Am bopeth arall ro’dd Woolworths, David Evans a Williams Cloth Hall. Os o’dd isie dillad gore ar gyfer y Sulgwyn fydde ’na drip ar fws Western Welsh i Abertawe a golwg yn M&S, Sidney Heath neu C&A.

    Roedd ’yn fam wrth ei bodd yn Cop Victoria Road, ro’dd hi’n ennill cyflog teg yn gwitho’n yr offis a thu ôl i’r cownter ac yn gwneud yn siŵr bod pawb o’dd yn siopa gyda nhw’n cadw trefen ar eu llyfre ‘divi’ neu dividends. Rhyw fath o system ‘clubcard’ o’dd y ‘divi’, nid cardie ond llyfre o’dd bryd ’ny. Mi fydde’r gymdeithas yn rhannu ei helw rhwng ei chwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn ac ro’dd maint eich ‘divi’ yn dibynnu ar faint o’ch chi wedi’i wario yn y siop. Ro’dd diwrnod y ‘divi’ yn ddiwrnod mawr.

    Bob blwyddyn bydde staff holl siope’r Co-op yn ardal Port Talbot yn dod at ei gilydd ar gyfer cinio a dawns Dolig ac yn wir yng nghinio Dolig 1951, fe gyfarfu’n fam â Ken Harpwood am y tro cynta. Ro’dd e’n gwitho yn y menswear yn Cop Tai-bach, ac wedi gorfod mynd i’r RAF am flwyddyn oherwydd y conscription cyn dychwelyd i’w swydd. Ro’dd rhagflaenydd iddo yn yr adran ddillad, gŵr ifanc o Bont-rhyd-y-fen, wedi symud mla’n, na, nid i Burtons menswear, ond i droedio llwyfannau a setiau ffilm y byd, sef Richard Jenkins. Dros yr hewl i’r Cop o’dd siop fara’r Hopkinses a chyn pen dim fydde Anthony’r mab yn dilyn ôl traed Richard Burton i Hollywood.

    Rwy’n cofio cyfarfod Anthony Hopkins a’i fam mewn seremoni wobrwyo a drefnwyd gan BAFTA ar ddechre’r 1990au. Pan wedes i ’mod i’n un o bobol Port Talbot ro’dd ynte a’i fam wrth eu bodd, rhannwyd straeon ac atgofion am Dai-bach, a phan sonies i am fy nhad-cu, ro’dd Mrs Hopkins yn ei gofio’n iawn.

    Lle fel’na yw Port Talbot, mae’n dre sy’n gadwyn o gymunedau agos a phawb yn nabod ei gilydd. O Lan Baglan i Abaty Margam mae ’na hanes hir i’r stribyn ’ma o dir sy’n gorwedd rhwng môr a mynydd. Ro’dd nifer o hen bentrefi’r ardal fel Felindre, Y Goetre a Thai-bach ar lannau’r Ffrwdwyllt yn llawer mwy poblog ac yn cael eu styried yn llefydd llawer pwysicach ’na ’Brafan ei hunan yn ystod y chwyldro diwydiannol.

    Gweddnewidiwyd yr hen dre farchnad yn y 1950au pan adeiladwyd stad dai enfawr Sandfields ar gyfer gweithwyr y gwaith dur newydd a’u teuluoedd, y stad dai fwya yn Ewrop ar y pryd. Ro’dd ’na gynnydd aruthrol ym mhoblogaeth y dre ac yn sgil hyn datblygwyd gwasanaethau a chyfleusterau newydd ar gyfer y newydd-ddyfodiaid, fel ysgolion, meddygfeydd, canolfannau siopa, ynghyd ag adnoddau hamdden fel y promenâd a’i atyniade a chanolfan yr Afan Lido. Ond trwy hyn i gyd fe gadwodd yr hen gymunedau eu hunaniaeth, ac yn un o’r cymunede hyn, yng nghalon yr hen ’Brafan o’dd 16 Sandfields Road, fy nghartre cynta.

    Roedd Jane Austin wedi priodi ei chariad, Ken Harpwood, yng nghapel Ebeneser, Aberafan ym mis Mawrth 1952 ac wedi treulio mis mêl yng Nghaerwrangon, ardal gyfarwydd i Ken o’i ddyddie yn yr RAF, ac ro’dd y ddau wedi ymgartrefu yn nhŷ Margaret Mary Austin o’dd erbyn hyn yn wraig weddw. Ro’dd y gŵr o’r menswear a merch y ‘divi’ am gynilo gyment a allen nhw er mwyn prynu cartre’u hunen rhyw ddiwrnod. Ro’dd Margaret ar ben ei digon o ga’l Jane, cannwyll ei llygad, yn gwmni iddi fel o’r bla’n, ond fe gymrodd amser iddi gynhesu at y gŵr tal, tene o Dai-bach o’dd nawr yn byw o dan yr un to. Ymhen blwyddyn ro’dd ’na bedwar o drigolion yn 16 Sandfields Road a Margaret yn ‘Mamo’, yn fam-gu.

    Tŷ llwyd eitha di-nod o’dd rhif 16, ’run siâp ag unrhyw dŷ teras arall, yn barlwr ffrynt, rŵm genol, cegin a sgyleri lawr llawr a pheder llofft. Ro’dd y cyfleustere pwysig lawr y bac ar waelod yr ardd. Ro’dd cerdded i mewn i’r tŷ fel camu i’r gorffennol. Yn y pasej safai’r cloc mawr a stand bambŵ a tasech chi’n troi mewn i’r parlwr ffrynt, o’dd y seld ar y chwith yn jwgie ac yn blatie i gyd a chwpwrdd glàs o’dd yn dala’r ‘Swansea China’. Yna’r lle tân, ac ar y silff ben tân y canhwyllbrenne brass a chloc mantell o’dd yn pwyso fel carreg, a drych hirgrwn yn hongian ar tsiaen uwch ei ben. Bob ochr i’r ffenest ro’dd ’na gadeiriau esmwyth nad o’dd mor esmwyth ag oedden nhw ’nôl yn y cynfyd, a rhyngddyn nhw ro’dd bord Penfro o’dd yn dala’r asbidistra. Ro’dd y rŵm genol yn rhyfeddod hefyd, yn fan hyn o’dd y piano a’i gandelabra ac uwch ei ben ro’dd llun mawr o David Lloyd George am fod Mamo’n rhyddfrydwraig ac yn addoli’r dewin o Lanystumdwy. Ro’dd ’na gasgliadau o lunie teuluol ar y wal o dylw’th Penderyn a Phorth-cawl a llun o hen wncwl a o’dd yn dipyn o fardd, emynydd ac awdur. Un o gampweithie mawr ‘Mynyddfab’ o’dd ei lyfr Hanes Ebeneser, Capel y Bedyddwyr Aberafan. Dwi ddim wedi cael yr amser i’w ddarllen ond, yn ôl selogion y capel, mae e’n ‘gwd rîd’. Mae’n debyg ei fod yn ddyn eitha ffraeth ond dwi ddim wedi dod o hyd i’w lyfr jôcs e ’to.

    Roedd Mamo’n treulio’i hamser yn y gegin o fla’n y range. Yma o’dd ffwrne cast bob ochr i’r grât, y ffownten dŵr twym a’r tecil yn hongian o’i grân uwch y tân. Ro’dd hi’n ishte yn ei hoff gader – cader Penderyn a ddaeth gyda hi o’r fferm ar y banne i ’Brafan flynyddo’dd ynghynt. Pan fydda i’n cofio amdani, dyna’r llun ddaw i’m meddwl, ac mae’n dda ’da fi ddweud bod y gader ’da fi o hyd.

    Roedd teulu’n fam yn ffyddlon i gapel Cymraeg Ebeneser ac yno fydden ni’n mynd i’r ysgol Sul, a phan o’n i’n hŷn ro’dd dishgwl i fi fynd i’r cwrdd deirgwaith ar y Sul. Ro’dd ’na bump neu chwech o gapeli Cymraeg o wahanol enwade yn y dre a nifer tebyg yn y Cwm. Erbyn hyn mae’r mwyafrif ohonyn nhw’n adeiladau tywyll a gwag. Mae Ebenezer yn dal i gynnal gwasanaethau ond rhai cyfrwng Saesneg ’yn nhw bellach. Ro’dd ein capel ni yn sefyll yn un o sgwarau’r hen dre, Talbot Square, neu Cwmafan Square os oeddech yn digwydd bod yn un o ‘wŷr y Stac’, gan mai yma oeddech chi’n dal y bws o’r dre i Gwmafan. Ro’dd y sgwâr yn llawn siope a thafarndai ac yno ro’dd un o brif swyddfeydd post y dre. Pan o’n i’n ddeg oed rwy’n cofio prynu fy record Beatles gynta, Please Please Me, yn siop recordie Derrick’s Records ar y sgwâr. Gyferbyn â’r capel o’dd siop chips Wil Och. Petai ’na sgorie hylendid wedi bodoli yn y siope bwyd bryd ’ny fydde siop chips Wil wedi sgorio minws 5, ro’dd y lle’n afiach. Yn amal pan fydden i’n cerdded miwn i’r siop bydde’r gath yn cysgu ar y Davies Pies uwch y fryers. Ro’dd Wil wedi perffeithio’r grefft o fesur pryd fydde’r chips yn barod:

    ‘Pryd bydd y chips yn barod, Wil?’

    ‘’Na’i weld nawr, ’mychgan i.’

    Wedi codi clawr y fryer fe fydde’n tynnu poer i gornel ’i wefus a’i saethu i’r saem crasboeth. ‘Dwy funad, bach…’

    Ebeneser yw’r unig adeilad sydd ar ôl o’r hen sgwâr erbyn heddi, mae’n sefyll gyferbyn â swyddfeydd y cyngor a’r Princess Royal Theatre, adeiladau a godwyd yn y 1980au. Ro’dd nifer o ddiaconiaid Ebeneser ar y cownsil ar y pryd ac mae’n rhaid eu bod nhw wedi cynnig cildwrn i foi’r tarw dur.

    Sha’r un adeg fe ddymchwelwyd hen neuadd y farchnad lle fydden ni’n mynd ar ddydd Sadwrn i ga’l ffagots, pys slwtsh a grefi i gino. Wedyn elen i i’r stondin cocs a bara lawr cyn mynd draw at y stondin degane. Fe fydde Mamo wedi rhoi fflorin yn ’y mhoced i brynu car Matchbox swllt a naw cyn mynd gytre. Mae ’na gyment o’r hen dre wedi mynd diolch i’n cownsil blaengar. Un peth yw chwalu adeilad a chodi rhywbeth gwell yn ei le, ond peth arall yw chwalu cymuned. Allwch chi fyth â rhoi gwerth ar beth fel’ny. Ro’dd y tarw dur ar ei ffordd lan i’r Rows a therasau Cwmafan, a dyna fydde dechre’r diwedd ar y Gymraeg yn Nyffryn Afan.

    Ar 9 Ionawr 1956, dair blynedd a thridie wedi fy ngeni i, daeth fy chwaer Rhian i’r byd, o’dd yn golygu wrth gwrs ei bod hi wedi’i geni wedi’r Ystwyll ac yn gymwys (drato!) ar gyfer anrheg Dolig ac anrheg pen-blwydd ar wahân. Fe gofnodwyd yr achlysur gan Mamo yn Y BEIBL teuluol a gedwid lan llofft yn y rŵm bac. Ro’dd y rŵm bac yn rhywle na chawn fynd iddo heb ganiatâd Mamo, yma cedwid holl drugareddau teuluol y gorffennol. Fe greodd y stafell hon ymdeimlad o hanes ynddo i, ro’dd yn drysorfa o lyfre, dillad, hetie, llunie a chasgliade o gardie baco, ffyn cerdded a dolie o wledydd pell. Ar ben y tallboy lle cedwid y carthenni a’r eiderdown ro’dd ’na magic lantern a dwsine o sleidie gwydr o’dd yn cynnwys cyfres o lunie o’r Terra Nova, llong Capten Scott yn gadel Caerdydd ar ei siwrne i begwn y de. Yma hefyd y cadwyd telesgop David Morgan, y capten o’r Cei, a thystysgrif y master mariner. Ond y pethe mwya dirdynnol yn y bac rŵm o’dd y ddau focs pren tywyll o’dd yn ishte ar y ford fach wrth y ffenest o fla’n cyfrolau taclus The Times History of the War. Yn y rhain ro’dd eiddo dau o filwyr y rhyfel mawr, un yn frawd a’r llall yn gefnder. Ro’dd ’na fedalau a bathodynne’u catrodau, sbectol, watshys poced, tacle siafio a chribe gwallt. Ro’dd ’na daniwr sigaréts wedi’i lunio o gasyn bwled a llunie o’r ddau’n sefyll yn falch yn eu uniforms, a hefyd y negeseuon telegram trist a dorrodd galonne’u perthnase: ‘We deeply regret to inform you…’

    Wedi dyddie Margaret Mary, fe wagiwyd y tŷ ac fe aeth trysore’r mausoleum bach yn y rŵm bac i’r dymp, achos do’dd neb yn gweld gwerth yn y pethe hyn. Ond llwyddes i gadw un o’r bocsys pren a nifer o drysore bach eraill. Dim ond wyth mlynedd wedi’r ail ryfel byd y dethon ni i fyw yno, ac er bod cysgod y rhyfel yn drwm ar gymdeithas, rwy’n ei gofio’n gyfnod hapus a phawb yn mwynhau’r pethe syml mewn bywyd.

    Y pethe bach fydda i’n eu cofio ore, fel helpu’n nhad i dorri’r hen bapure newydd yn sgwariau bach ar gyfer y tŷ bach ar waelod yr ardd. Ro’dd yr hen bapur print yn rhan bwysig o fywyd bryd ’ny, yn hwnnw fydde’r siope’n lapo pob dim, yn llysie, pysgod a chig. Fydde ddim cystal blas ar chips heb inc papur newydd. Rwy’n cofio Albert drws nesa, dyn boliog o’dd yn dipyn o connoisseur ar sglodion yn gweud rhywdro y bydde’r sawl a ffinde ffordd o roi blas halen a finegr neu saws tomato ar inc papur newydd yn werth ei ffortiwn.

    Plaen a shimpil o’dd y bwyd ar y cyfan, dele’r rhan fwya o bethe o dun. Synnen i daten taw ar giniawe a swpere’n tŷ ni y seiliwyd sgets enwog Monty Python; ro’dd spam ’di ffrio, spam ’di grilo, spam a chips, spam, bîns a chips, spam, wy a chips, ac yn y bla’n. Ro’dd ’na corned beef hefyd a hwnnw mewn hash, gyda mash neu’n seimllyd o blaen rhwng dou docyn o fara. A fydden i fyth ’di gwadd neb i gino Sul yn tŷ ni am fod gan Mamo a’n fam dueddiad i ferwi’r lliw mas o bob llysieuyn, troi’r tato’n slwtsh a’r cig rost yn lleder. Wedi gweud ’ny, prin y bydden ni’n cael y cig gore ar blât beth bynnag ac fe styrid cyw iâr yn dipyn o luxury, a dim ond adeg Pasg a Dolig welen i ffowlyn ar y ford.

    Yn agos i hanner canrif yn ddiweddarach ar drothwy’r mileniwm, rwy’n cofio cyfweld â hen foi o’dd yn byw yn ardal y Trallwn ym Mhontypridd a’r cwestiwn ofynnwyd iddo fe o’dd: ‘O’r holl newid a fu yn ystod y ganrif ddiwetha beth o’dd y newid mwya i chi?’ Ei ateb o’dd, ‘Gallu byta cig ffowlyn bob dydd o’r wthnos.’

    Cinio Sadwrn a the’r Sul o’dd uchafbwyntiau cogyddol yr wythnos. Pob bore Sadwrn fe fydde menywod cocos Pen-clawdd yn cario’u basgedi gwiail o ddrws i ddrws yn gwerthu cocs a bara lawr. Pan o’dd yn dod yn amser cinio fe fydde Mamo’n torri darnau trwchus o facwn hallt i’w ffrio ac yna’n ychwanegu’r cocos a’r bara lawr i’r ffrimpan ar y range, ro’dd eu gwynt a’u blas yn fendigedig. Ro’dd te pnawn Sul yn achlysur mwy sidêt, ac ro’n i wastad yn cael ishte’n y parlwr ar ddydd Sul. Gwledd o fara brith a sbynj a sandwitshys samwn, ham a chiwcymbr yn driongle perffeth ar blate’r llestri gore, ac yn goron ar y cyfan, y mandarins a’r eirin gwlanog yn ffres o’r tun yn nofio’n eu hylif melys a llaeth Carnation ar eu penne.

    *

    Doedd Aberafan ddim yn lle Cymreig fel y cyfryw oherwydd y mewnlifiad o bobol o bob cwr, ond ro’dd olion y Gymraeg ym mhob man yn enwedig yn enwau’r hen anedde ar gyrion y dre: ro’dd Pentwyn, Sarn Farn, Ty-draw, Tanygro’s a Gwar-y-caeau’n enwau o’r cyfnod cyn-ddiwydiannol, enwau sy’n cael eu hynganu’n berffaith gan drigolion di-Gymraeg y dre hyd heddi. Ro’dd ’na deuluoedd Cymraeg penodol yn byw o fewn yr hen ’Brafan ac yn cymdeithasu â’i gilydd ond ro’dd y Cymry’n dueddol o ymwneud â gweithgaredde capeli penodol. Do’dd ’na ddim cymdeithase cyfrwng Cymraeg fel y cyfryw ond ro’dd yr Urdd wedi cydio yn yr ardal ac yn gonglfaen i’r Gymraeg, yn enwedig yn y Cwm. Ro’dd pobol o’r dre, gan gynnwys cenhedlaeth yn fam a ’nhad, wedi bod yn aelode o Aelwyd Cwmafan.

    Roedd ’na nifer o gwmnïau theatr amatur yn ’Brafan a thraddodiad hir o ddrama ac opera, ond drwy’r Saesneg fydden nhw’n gweithredu. Er tegwch, y cwmnïau bychan ymroddedig hyn nath feithrin nifer o fawrion y sgrin fawr, Milland, Burton, Hopkins a Sheen.

    Ro’n i wrth ’y modd ’da’r sinema ac ro’dd ’na dair ohonyn nhw yn y dre. Yr Odeon, y Plaza a’r Melotrone yn Nhai-bach. Ro’dd gan Gwmafan ei sinema hefyd, Ebley’s, felly ro’dd ’na ddigon o ddewis. Fy mhrofiad sgrin fawr cynta o’dd matinee y plant ar ddydd Sadwrn yn yr Odeon a ro’n i’n mynd i un sinema neu’r llall am flynyddoedd lawer wedi ’ny. Ro’dd ffrind ’yn fam yn dwli ar Elvis Presley ac fe fydde’r Melotrone yn Nhai-bach yn arfer dangos cyfres o ffilmiau’r ‘Brenin’ o Femphis yn amal iawn ac ro’n nhw’n boblogedd dros ben. Mae’r sinema fach yn sefyll gerllaw’r garej adawodd Banksy ei ddarlun arni’n lled diweddar. Duw a ŵyr pam, ond yr enw poblogedd ar y Melotrone o’dd ‘Y Cach’. Fe es droeon gyda Mair, ffrind ’yn fam a’i mab Stephen, i wylio un o ffilmie ei harwr yn Nhai-bach. Do, fe weles i Elvis yn y Cach!

    Mae hanes hir i’r diwydiant haearn a dur ym Mhort Talbot, bu’n rhan o fywyd y dre ers y 19 ganrif. Ar ôl yr ail ryfel byd fe ddechreuon nhw adeiladu’r gwaith dur ym Mhort Talbot. Beth sy’n rhyfeddol yw bod cryn dipyn o’r adeiladau gwreiddiol hynny’n dal i gael eu defnyddio yn y gweithfeydd presennol. Y Steel Company of Wales o’dd yn berchen ar y gwaith bryd ’ny a’r ddraig goch o’dd arwyddlun y cwmni, ac fe osodwyd fersiwn fawr o’r ddraig ar ochr siedie anferth y gwaith. Fe oleuai’r ddraig gyda’r nos ac ro’dd i’w gweld o bellter mawr. Ro’dd yn arwydd o’r llewyrch o’dd ar dro’d ac yn fuan iawn fe ddechreuodd y gwaith gyflogi. Ar ei anterth fe gyflogai’r gwaith dur dros 18,000 o bobol, ac yng nghanol y 1950au daeth ’y nhad yn un ohonyn nhw. Yn sgil hyn fe gododd ei enillion yn sylweddol a phenderfynodd brynu ei gartre’i hunan. Fe adawon ni Mamo a Sandfields Road a symud i ochr arall y tracs yn llythrennol, ochr draw i stesion Aberavon Beach a lawr i St Paul’s Road, ardal ddymunol ger y traeth a o’dd yn ymylu ar Stad Sandfields. Ac er bod ’y nhad yn ddyn crefyddol dros ben, fe brynodd dŷ o’dd wedi’i adeiladu ar dywod!

    Roedd crefydd yn ddylanwad trwm ar ein teulu ni – ac nid er gwell. Ro’dd ’y nhad-cu, Llewelyn Harpwood, wedi ymroi ers blynyddoedd i’r mudiad efengylaidd a sefydlwyd gan löwr o Ben-y-groes, Shir Gâr, yr Eglwys Apostolaidd. Ro’dd ’y nhad hefyd wedi’i ddenu at yr achos. Ro’dd fy mam yn benderfynol taw glynu at gapel Cymraeg Ebeneser y bydde hi a’i phlant. Felly ar y Sul fe fydde ’nhad yn mynd i’r Apostolics a’n fam, Rhian, a finne, i Ebeneser. Yn achlysurol fe fydden i’n gorfod mynd gyda ’nhad i’w gapel e, ac ro’n i’n ei ga’l yn brofiad annymunol gan fod yr addoli mor wahanol. Ro’dd yr adeilad yn gynnwrf i gyd, yn weiddi ac yn borthi diddiwedd. Canent ‘To God be the Glory’ a ‘Throw out the lifeline’ yn orfoleddus i guriad tabyrdde gan shiglo’r adeilad bach prefab i’w seilie. Er bod y canu gospel ei anian yn gyffrous a llawen, ro’n i’n falch cael dychwelyd i wasanaethau ffurfiol a chyfarwydd Ebeneser a phregethe pwyllog a difyr ein gweinidog, Idris Evans.

    Daeth ’y nhad-cu yn broffwyd yn yr Eglwys Apostolaidd, o’dd e’n gallu siarad mewn tafode, medden nhw. Pan o’n i’n gweithredu ar ran yr iaith flynyddoedd wedyn ac yn ceisio egluro wrtho faint o broblem o’dd yn wynebu’r Gymraeg, ei ymateb o’dd taw un iaith o’dd ar y ddaear tan i ddyn godi Tŵr Babel, a chosb Duw ar ddyn o’dd holl ieithoedd y byd – gan gynnwys y Gymraeg. Fe fu’n deyrn didostur ar ei deulu oherwydd ei ddaliade uniongred. Crefydd y tân a’r brwmstan o’dd ei grefydd e, ac fe blannodd hedyn o euogrwydd gormesol yn ddwfwn ynddo i a bu’n hwnnw’n faich arna i gydol f’o’s – rhywbeth na fedrwn i ‘daflu oddi ar fy ngwar’. Ro’dd yn gwbwl gro’s i’r crefydd goddefol, cariadus ac ystyrlon a dderbyniwn yng nghapel y Bedyddwyr. Cofiwch, o’n i’n cael y berthynas rhwng ’nhad a finne’n anodd hefyd ar brydie am yr un rheswm.

    Beth bynnag, fe symudon ni i dŷ newydd sbon ar St Paul’s Road, semi, gyda bay windows a chegin newydd, stafell molchi a thŷ bach dan do, stafell fyw a stafell fyta. Fe gafon ni gelfi newydd yn arddull y cyfnod yn feinyl, ply a melamine ac ro’dd stafell wely yr un i ni’r plant. Tipyn o beth. Ro’dd e’n ddechreuad newydd. Ro’dd gan ‘Cartref’, 108 St Paul’s Road ardd fla’n a gardd gefen ond gan fod y tai wedi’u hadeiladu ar dywod, o’dd rhaid dod â lorïau o bridd i orchuddio’r tywod cyn dechre meddwl plannu dim byd, ond fe lwyddodd ’nhad i ga’l digon mas o’r ardd. Falle bod hynny’n rhannol oherwydd bod asynnod a cheffylau’r traeth yn defnyddio’r lôn gul yng nghefen y tŷ i fynd a dod o’r traeth. Ddwyweth y dydd yn ystod yr haf fe fydde ’nhad a fi yn cwato tu ôl i’r gât gefen ac yn aros iddyn nhw baso, ac yna’n rhedeg mas â rhofie a bwcedi i gasglu’r carthion drewllyd maethlon adawyd ar eu hole a’u taflu ar y domen yn barod at domatos a llysiau’r tymor nesa.

    Prin o’dd y bobol o’dd yn berchen ar geir yn yr ardal bryd ’ny. Ro’dd gwasanaeth bysus ardderchog ym Mhort Talbot am fod angen symud miloedd o bobol ’nôl a mla’n i’r gwaith fesul shifft bore, dydd a nos. O’dd sawl cwmni bws yn yr ardal, Thomas Brothers, y cwmni lleol, y Western Welsh a’r N&C Express, o’dd yn mynd fel y meil o Gaerdydd i Abertawe a ’nôl. Ro’dd e’n bosib i chi fynd i unrhyw dre neu bentre yng Nghymru ar drên bryd ’ny hefyd, cyn i Beeching gyhoeddi ei adroddiad yn 1963 a chwalu system rheilffyrdd ore’r byd. Do’dd dim isie car ar neb, mewn gwirionedd, ond ro’dd isie garej ar ’y nhad rhag ofon.

    Y ffasiwn y dyddie ’ma yw cael conservatory neu estyniad gyda dryse gwydr bi-folds i’r tŷ, ond pryd ’ny yn ’Brafan, garej o’dd y must have, a do’dd dim ots os nad o’ch chi’n berchen ar gar. Cododd ’nhad y garej ei hunan o flocs concrit. Fe gafodd y to sinc o’r gwaith dur ac fe saernïodd ddryse ei hunan hefyd. Fydde’r adeilad llwyd bregus ei olwg ddim ’di ennill sylw Grand Designs ond ro’dd yn ddigon ymarferol. Cafodd y garej gyfle i brofi’i gwerth pan ddaeth Gŵyl Werin yr Urdd i ’Brafan yn 1963. Ro’dd Mam a ’nhad wedi cynnig llety i un o’r artistiaid o’dd yn cymryd rhan dros y penwythnos, ac ar y nos Wener fe gyrhaeddodd aelod o fand Y Gwerinwyr. Dyma’r band gwerin o’dd yn mynd i whare yn nhwmpathe’r ŵyl. Ro’dd Islwyn wedi gyrru i lawr o Lanrhystud a fe o’dd drymiwr y band. Wedi cyrra’dd fe fynegodd Islwyn ei bryder ynglŷn â pha mor saff o’dd y car a’i gynnwys ar hewl o’dd yn ymylu ar stad Sandfields. Dyma ’nhad yn gweld ei gyfle ac o fewn hanner awr, a gyda thipyn o yrru ’nôl a mla’n ar hyd y lôn gul y tu cefen i’r tŷ, dyma’r garej yn dod yn lloches i’w gar cynta.

    Llond dwrn o ffrindie Cymraeg o’dd ’da fi’n ’Brafan, yn eu plith Keith Butson, Neil Harries, Kelvin Edwards a Jeff Davies, bois o’r stad o’dd yn rhannu’r bws i’r ysgol ym Mhont-rhyd-y-fen, ond y ffrindie o’dd yn byw agosa ata i o’dd Richard ac Alun Jenkins, nhwythe hefyd yn ddisgyblion yn yr ysgol Gymraeg ac yn byw ar St Paul’s Road. Roedden nhw’n blant i Graham Jenkins, brawd ieuenga Richard Burton. Graham o’dd rheolwr y traeth a chanolfan yr Afan Lido. Ro’dd yn ffrind agos i frodyr ’yn fam gan fod ynte hefyd wedi gorfod symud i fyw at un o’i frodyr o’dd yn byw yn Tir Arthur Row. Ro’dd Graham a’i deulu yn aelodau o gapel Ebeneser ac fe fydde Graham yn amal yn ein codi o’r tŷ i fynd i’r ysgol Sul. Ro’n i’n byw a bod yn eu tŷ nhw ac o bryd i’w gilydd fe fyddwn i yno pan ddele’r brawd enwog i’r tŷ.

    O’dd y daith ar fws yr ysgol trwy Gwmafan i Bont-rhyd-y-fen yn mynd â fi heibio i’r llefydd mwya pwysig yn ’y mywyd i. O’n i’n gweld y Rows ar droed y Foel a cheffyle Wncwl Ieu yn pori’r caeau serth. Ro’n i wrth ’y modd â’r daith honno gan ’y mod i’n cael y fraint o fynd o’r dre i’r wlad bob dydd, ro’n i’n dwli ar y Cwm. Yma hefyd o’dd y cylch arall o ffrindie, criw Cwmafan a Phont-rhyd-y-fen, Robin ac Aled Samuel, Wil a Hywel Thomas, Martin Cuke, John Griff a Wil Davies.

    Yn ‘Cartref’ yn St Paul’s Road o’n i o fewn tri chan metr i un o draethe gore de Cymru o’dd yn gyflym ddatblygu’n lle cyffrous dros ben. Ro’dd traeth ’Brafan yn dechre cystadlu â’r Barri a Phorth-cawl, yn llawn atyniade newydd yno: o fanne chware, llyn rhwyfo, llwyfan perfformio i bwll nofio o safon Olympaidd yn yr Afan Lido, heb sôn am ffair newydd y Miami Beach Funfair. Ro’dd y promenâd yn filltir a hanner o hyd a’r traeth eang, diogel yn apelio at deuluoedd o bell ac agos. Dechreuodd pobol y Cymoedd heidio i’r tra’th a daeth llawer ohonyn nhw ar drenau’r Rhondda and Swansea Bay Railway a redai o Gwm Rhondda drwy dwnnel Blaengwynfi

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1