Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Madarch
Madarch
Madarch
Ebook309 pages4 hours

Madarch

Rating: 2 out of 5 stars

2/5

()

Read preview

About this ebook

A sequel to the humorous novel Brithyll, which describes the deeds and misdemeanours of a group of friends in a village in north Wales.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateSep 18, 2013
ISBN9781847717931
Madarch

Read more from Dewi Prysor

Related to Madarch

Related ebooks

Reviews for Madarch

Rating: 2 out of 5 stars
2/5

1 rating0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Madarch - Dewi Prysor

    clawr%20Madarch.jpg

    I Rhys Gethin

    Argraffiad cyntaf: 2007

    © Dewi Prysor a’r Lolfa Cyf., 2007

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb ganiatâd ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw.

    Dymuna'r Lolfa gydnabod cefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru

    Clawr: Ian Phillips / Dewi Prysor

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 184771 010 9

    E-ISBN: 978-1-84771-793-1

    Cyhoeddwyd, argraffwyd a rhwymwyd yng Nghymru

    gan Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5AP

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn (01970) 832 304

    ffacs 832 782

    DIOLCH, PARCH A GWERTHFAWROGIAD

    Diolch i Rhi, Ows, Rhods a Geth am y bara beunyddiol. Diolch am ffydd, gweledigaeth a chefnogaeth frwd Alun Jones fy ngolygydd, Lefi a phawb yn

    Y Lolfa, a diolch hefyd am eu gwaith trylwyr a chydwybodol. Diolch i Twm Miall am ei ffydd a chefnogaeth ddiffuant yntau, ac am roi’r golau mlaen yn yr ogof. Diolch i fy rhieni, Ned a Gwyneth, ac i Mans, Rhys, Mel a gweddill y treib. Diolch i’m ffrindia ac i bawb sy’n dallt a chefnogi be dwi’n drio’i wneud. Diolch arbennig i griw y Ring, ac i’r Tap a’r Weit am ysbrydoliaeth dros y blynyddoedd. Diolch i Gwyn yn Awen Meirion, Bala. A diolch i bawb a ddaliodd frithyllyn.

    Diolch arbennig i Rhian am roi imi bopeth allwn ei eisiau.

    Hoffwn hefyd gydnabod cefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.

    Sometimes you have to pee in the sink.

    – Charles Bukowski

    Cnebrwn Caradog Dafis oedd un o’r rhai mwya a welwyd yn ardal Graig ers blynyddoedd. Roedd capal bach Bethania dan ei sang, a’r canu’n llifo drwy’i ddrysau agorad, fel môr o haleliwia, yn golchi dros y delwau duon, penisel, tu allan.

    Un o’r cymeriada ’na oedd Caradog Dafis. Dyn oedd yn cadw’i hun iddo fo’i hun, erioed wedi gwneud cam â neb, na phechu na digio unrhyw greadur byw. Dyn na driodd erioed i fod yn ddim arall ond fo ei hun. Gŵr ei gynefin oedd Rhen Crad – byth yn mynd i nunlla lawar, heblaw i’r sêl ym Mryncir, Bala neu Ddolgella, ac i lawr i’r Brithyll Brown am beint a gêm o gardia ar nos Iau a phnawn dydd Sul.

    Bugail oedd Rhen Crad, a Nant-y-Fagddu fu ei gartra ar hyd ei oes – tyddyn bychan ym mhen ucha Cwm Derwyddon, lle’r oedd afon Dryw yn cario hud Bryn Dewin heibio sodlau Moel Gwrach, a dyfrio gwreiddiau hen y deri wrth waliau gwyrdd y buarth. Yno bu Crad yn gweu ei fywyd o frethyn y pridd, ei olchi yng nghân yr afon a’i sychu yn ergydion y gwynt. Yno y magodd ei feibion – yr efeilliaid Gwynedd a Gwyndaf, ac yno y collodd ei wraig, Martha, yn fuan wedi geni’r ddau. Y cwm oedd ei gaer a’i gysur, ei gywydd a’i gytgan, ei loches a’i lyw. Yno’r oedd ei fara a’i fendith, ei ardd a’i allor, ei berllan a’i baradwys. Y cwm oedd ei win a’i wenith, ei ddihareb a’i ddysg. Cwm Derwyddon oedd ei fyd.

    Ond er mai dyn ei filltir sgwâr oedd Rhen Crad, roedd holl synnwyr y byd yn fyw yn ei ben. All neb dreulio oes ar y mynydd heb i’r Gwir ei gyffwrdd. All neb dreulio bywyd efo’r gwynt yn ei gusanu heb i’r Ddaear ei ddyfrio, a’r bydysawd ei borthi. Anweswyd enaid Crad gan Natur, fel oedd eira’n cofleidio’r carlwm yn y misoedd oer.

    Darllenwr brwd oedd Rhen Crad, a’i silffoedd yn llawn o lyfrau ar bob pwnc dan haul. Haneswyr, beirdd ac athronwyr – roedd ganddyn nhw i gyd eu lle yn llyfrgell Nant-y-Fagddu, gan rannu’r silffoedd efo astudiaethau eang o bynciau mor amrywiol â beioleg, peirianneg, ffiseg, astronomeg, pensaernïaeth, diwinyddiaeth, a natur a bywyd gwyllt. Roedd Caradog Dafis yn hyddysg yn y cwbwl lot. A thra oedd academwyr yn gwbod, roedd Rhen Crad yn dallt.

    Gallai Caradog Dafis greu trwyth o unrhyw blanhigyn, ffrwyth neu fadarchen, i wella anhwylderau corfforol, meddyliol ac ysbrydol. Doedd ’na’m llawar yn gwbod am ei ddoniau. Roedd hi’n haws o lawer, y dyddiau hyn, i bobol ddilyn confensiwn a mynd at y doctor, yn hytrach na rhoi ffydd yn ‘swynau’ Crad. Ond gwyddai’r rhai oedd yn ei adnabod yn dda fod y meddyginaethau oedd Crad yn eu cynnig yn rhai a brofodd, dro ar ôl tro, fod mwy i’r hen fyd ’ma na gwrthrychedd gwyddonwyr. Roedd ffydd yn rhan mawr o fywyd Caradog Dafis.

    Ffydd ysbrydol oedd ffydd Rhen Crad. Doedd o’m yn ddyn crefyddol o bell ffor’. Hen gapal bach Ramoth – bellach wedi cau – yng Nghwm Derwyddon, oedd addoldy ei dad a’i daid. Ond dywyllodd Crad fawr ar y lle ers iddo basio oed Derbyn, fel y nododd Morgan Parry’r gweinidog, un dydd Sul cyn i’r capal gau, pan gerddodd Cwali, gast ddefaid Crad, i mewn ar ganol ei bregeth – A dyma gi defaid Caradog Dafis, Nant-y-Fagddu, sydd nawr wedi’i gweld yn y Tŷ hwn yn amlach na’i mistar.

    Doedd ’na’m rhyfadd, felly, nad oedd yr unig deulu agos oedd gan Rhen Crad – ei feibion, Gwynedd a Gwyndaf – yn adnabod y dyn oedd gweinidog Bethania’n ei ddisgrifio o’r pulpud. Oedd, mi oedd y Parch wedi trafod efo’r efeilliaid ymlaen llaw, ond roedd o’n gwneud y rhan fwyaf o’r ‘deyrnged’ i fyny. Roedd o’n trio cyfiawnhau’r ffaith fod Crad yn cael gwasanaeth claddu mewn capal, felly roedd o’n mynd rownd Sir Fôn i egluro sut yr oedd Duw yn maddau, a bod Caradog Dafis, yn ei ffordd ei hun, yn ddyn duwiol ac yn Gristion da…

    Roedd ’na lot gormod o sôn am Grist yn gyffredinol, a deud y gwir. ’Di rhywun sydd newydd golli’i dad ddim isio ista ar fainc galad capal – bochau’i din yn mynd yn ddiffrwyth, a Deep Vein Thrombosis yn cicio i mewn yn ei goesa – yn gwrando ar ddieithryn yn malu cachu am faint o drugarog, a hollalluog, oedd Duw, a faint ddylem, i gyd, fod yn ddiolchgar iddo am adael i ni fyw, cyn ein lladd ni’n ddi-rybudd, fel oeddan ni ar fin cyflawni uchelgais ein bywydau, am ei fod O wedi penderfynu ei fod O ein hangen i neud rhyw joban ‘bwysig’ yn y Nefoedd. Pa fath o ffwcin joban, ’lly? Paentio’r gatia i Sant Pedr, sydd efo arthritis drwg? Ffeilio gweddïau yn nhrefn yr wyddor? Border Patrol? Oedd ’na’m digon o bobol i fyny ’na’n barod fedra neud petha felly?

    Doedd ’na’m rhyfadd fod y Dybyl-Bybyls – fel y gelwid yr efeilliaid yn lleol – yn edrych ar ei gilydd, a rowlio’i llygid bob hyn a hyn. ‘Gair byr’ oeddan nhw isio gan y gweinidog. Chydig o frawddegau cryno, yn egluro sut oedd eu tad wedi byw, a sut oedd o isio cael ei gofio. Ond ar ôl ugian munud o ddiflastod poenus – fu’n ddigon i yrru un neu ddau o’r alcs yn y gynulleidfa i hepian cysgu – roedd y Dybyl-Bybyls yn gorfod rhythu ar y gweinidog, er mwyn trio dal ei sylw ac amneidio arno i gau ei hen hopran sych-dduwiol. Mi oedd hi’n syndod sut nad oedd y Parch yn teimlo’u llygada duon nhw’n llosgi mewn i’w ben.

    Falla fod y gweinidog yn gwbod drwy’r adag fod y ddau frawd yn rhythu arno, ond fod ganddo ofn troi i edrych arnyn nhw. Roedd ’na olwg digon milain ar y Dybyl-Bybyls fel oedd hi, heb sôn am pan oeddan nhw’n flin. Roeddan nhw’n horwths mawr, ymhell dros eu chwe troedfadd o daldra, a dim llawar llai na hynny ar draws. Rhwng hynny, a’r ddwy ên sgwâr fel bocsys tŵls, a’r aeliau trwchus oedd yn cwrdd yn y canol, gellid maddau i unrhyw un am eu camgymryd am thygs.

    Ddwywaith yr effaith, ddwywaith y bygythiad – a dwywaith mor hyll – roedd y Dybyl-Bybyls yr un ffunud â’i gilydd, o’r corun i’r traed a’r matshing tatŵs. Yr unig ffordd i ddeud y gwahaniaeth rhyngddynt oedd y ffaith fod Gwynedd yn siarad efo lithp. Oth na thdopith hwn yn munud, fydd Duw ei hun ’di dithgyn i gythgu!

    Fethodd Caradog Dafis erioed mo doriad yr un dydd. Pob bora o’i bymtheg a thrigain mlynedd, roedd o allan o ddrws y tŷ cyn i’r wawr hel y cysgodion o’r rhiniog. Boed ar y buarth neu yn y sgubor, allan yn y caeau neu i fyny ar erwau’r mynydd, roedd Caradog yn llyncu awyr iach cyn i’w lygid ddod i arfar â’r llwydolau. Tan ychydig dros wythnos yn ôl…

    Bora dydd Iau oedd hi. Bora braf, fel heddiw, a lliaws y wawr yn perfformio’u cymanfa o’r gwrychoedd a’r coed. Roedd Crad wedi codi a llowcio bowlan o friwas, ac wedi cyrraedd adwy’r mynydd cyn teimlo’i frest yn tynhau. Aeth i deimlo’n simsan wrth agor y giât haearn a’i chodi dros y garreg wrth droed y wal, a bu raid iddo bwyso’n erbyn y pentan wrth drio’i chau ar ei ôl. Pan deimlodd y byd yn troi, aeth draw am y garreg fawr wen ar lan y nant, ger y rhyd a gariai’r ffordd i’r ochor draw, rhyw bum llath i mewn i’r mynydd, er mwyn eistedd i gael ei wynt ato. Ac am y tro cyntaf erioed, methodd â chau adwy’r mynydd ar ei ôl.

    Fel oedd o’n cyrraedd y garreg wen, daeth y boen mwya annioddefol ar draws ei frest, i wasgu a gwasgu fel tasa’r mynydd ei hun yn sefyll arno. Ac wrth i’r adwy siglo’n agored y tu ôl iddo, a diasbedain yn erbyn y garreg atal ar ochr arall y ffordd, peidiodd calon Crad â churo. Disgynnodd Caradog Dafis ar ei wyneb i’r rhyd…

    Roedd hi’n fin nos Wenar erbyn i Gwynedd gael hyd iddo. Roedd y Dybyl-Bybyls yn gweithio i ffwrdd, yn stîl-fficsio o gwmpas y wlad, a gan amla’n dod adra ar benwythnosa i roi help llaw i’w tad ar y tyddyn. Roedd hi’n tua saith o’r gloch y nos ar y ddau’n cyrraedd adra o Wigan, wedi sdopio am beint yn Queensferry, wedyn Bala, ar y ffordd. Y rwtîn fel arfar oedd gadael y fan Transit wen ar y ffordd gefn i Gwm Derwyddon, a chael cwpwl o beints eto, yn Graig neu Dre, cyn dreifio’r fan i fyny’r ffordd fach gul i Nant-y-Fagddu. Ond y noson honno, wnaethon nhw ddim…

    Ers i’r Dybyl-Bybyls gyrraedd bro’r bryniau y fin nos honno, roedd ’na leisiau annelwig wedi bod yn sibrwd yng nghefn eu meddyliau, a phryderon anarferol am eu tad wedi dechrau cronni. Doedd ’na’m ffôn yn Nant-y-Fagddu. Roedd y teclyn – a’r gost o gael lein i fyny i dop y Cwm – yn wrthun i Rhen Crad, ac roedd o wedi styfnigo wrth i’r meibion swnian arno i gael un. Doedd ’na ddim amdani ond troi am y cwm cyn cyrraedd pentra Graig a chwrw braf y Brithyll Brown.

    Daeth yn amlwg i’r ddau fod rwbath o’i le wedi iddyn nhw fynd drwy’r tŷ a gweld nad oedd yno dân, a nad oedd croes wedi’i marcio, efo beiro, drwy ddydd Iau ar y calendar Cwmni Glo uwchben y bwrdd bwyd yn y gegin. O fewn eiliada roedd Gwyndaf yn mynd drwy adeiladau’r buarth, yn gweiddi, tra oedd ei frawd yn brasgamu am y mynydd, â’i galon fel gordd yn ei fynwes.

    Y peth cynta sylwodd Gwynedd oedd fod ’na amball i ddafad mynydd i lawr ymhlith yr ŵyn tewion yn yr adlodd. A phan ddaeth i olwg adwy’r mynydd, a’i gweld yn agorad led y pen, gwyddai fod pethau’n edrych yn ddu. Brysiodd am droed y mynydd â’i galon bron ffrwydro, yn poeni fod ei dad yn sownd mewn hen shafft chwaral, neu wedi disgyn i geunant.

    A dyna pryd y’i gwelodd. Roedd o’n gorwadd yn y rhyd, ger y garreg wen lle fu’n ista lawar gwaith efo Gwynedd a’i frawd pan oeddan nhw’n fach. Roedd o wyneb i lawr yn nŵr y nant, a hen gigfran fawr ddu yn sefyll ar ei ysgwydd…

    O’r diwadd, daeth y Parchedig at yr unig bwynt o bwys yr oedd y Dybyl-Bybyls wedi gofyn iddo’i gyfleu, sef bod Rhen Crad isio i bobol ddathlu ei fywyd, a pheidio bod yn drist, achos wrth farw yn y byd hwn roedd o’n cael ei eni yn y byd nesa. Ac yno yn aros amdano, fyddai ei wraig annwyl, Martha…

    = 1 =

    Roedd hi ’di troi hannar nos, ac roedd y Trowt, fel y gelwid y Brithyll Brown yn lleol, wedi cael ei infêdio gan haid o meerkats mawr mewn siwtia gangstars. Roeddan nw’n bob man – yn y bar, yn y lownj, yn y stafall pŵl… Roeddan nhw hyd yn oed yn y toilets eiliadau ynghynt. A’r mwya oedd Cledwyn yn sbio arnyn nhw, y mwya oedd o’n meddwl ei fod o mewn golygfa o ffilm oedd yn gyfuniad o Gremlins a Reservoir Dogs.

    Doedd Cledwyn methu dal llawar mwy. Poerodd ei gwrw i bob man, a chwerthin fel dyn ’im yn gall. Trodd pawb ar y byrdda i sbio arno fo. Aeth i chwerthin fwy, a mwy wedyn. Prin oedd o’n gallu aros ar ei stôl, gymaint oedd o’n siglo wrth chwerthin. Welodd o erioed y ffasiwn olygfa – meerkats mewn crysa gwyn a theis du ym mhob man! Roedd y peth yn anhygoel – mor anhygoel fel y disgynnodd oddi ar y stôl a glanio ar ei din ar lawr, yn dal ei ochrau a pesychu. "Ffacin meerkats, y cont!! Wa-ha-ha-ha-haaaa!!!"

    Triodd godi, ond roedd o’n rhy wan. Roedd o mewn sterics, ei wynab yn biws a dagra’n llifo lawr ei focha. "Sbia! Sbia!! Meerkats! Ffacin meerkats! Woa-ha-hahahaaa!!!"

    Roedd rhai o’r criw rownd y bwrdd yn chwerthin hefyd, erbyn hyn. Dim eu bod nhw’n gweld be oedd Cledwyn yn ei weld, ond am fod ei chwerthin ‘mashîn-gyn’ o’n heintus – a’u bod nhw’n dystion i ddyn yn disintigrêtio i lanast o gigyls afreolus o flaen eu llygid. Ar lawr y pyb.

    Ti’n nabod o? gofynnodd Sian Wyn i Jenny Fach, wrth amneidio tuag at dad ei phlant, oedd yn llanast o ddagra a fflems ar y llawr.

    Na, atebodd Jenny Fach yn dèd-pan. A dwi’m yn meddwl fod o’n nabod ei blydi hun ar y funud, chwaith. Ti’n nabod o, ’ta?

    Wel, ma’n dod i’r tŷ ’cw weithia, i nôl wbath i futa… medda Sian.

    A gadal llanast ar ei ôl, ia? chwerthodd Jenny, wrth bwyntio at y bol wyth-mis-a-hannar oedd gan Sian.

    Chwerthodd Sian, a pwyntio’n ôl at fol wyth-mis-a-hannar Jenny Fach, hitha. ’Di’r ffycar bach ’di bod acw ’fyd?! Ladda i o!

    Chwerthodd y ddwy fel dwy iâr fawr dew ar ben eu stolia. Roeddan nhw’n fawr ac yn grwn, diolch i’r ‘presant Dolig’ gafodd y ddwy gan eu dynion, Cledwyn Bagîtha a Bic Flannagan.

    Coda’r jolpyn gwirion! gwaeddodd Fflur Drwgi wrth ddod yn ôl o’r bar efo potal o Smirnoff, a peint o lagyr i’w dyn hitha, Drwgi. Sbia golwg arna chdi! Llyffant!

    Ond doedd ’na’m gobaith i Cledwyn. Roedd o’n rowlio o gwmpas fel cath mewn cwstard ers meitin, yn trio’i ora i gael ei wynt rhwng chwerthin, pesychu a gneud sŵn garglo rhyfedd…

    "Sgennan nw nets, Cled? Y meerkats ’ma? gofynnodd Bic. ’Di dod i dy nôl di ma’ nhw, ’sdi. Watsia di dy hun, y cont! Meerkat Manor fyddi di heno, yn ca’l dy bymio drw’ nos!"

    Mmh… mhy… my… my… O leia roedd Cled yn trio deud rwbath, neu fysa rywun yn taeru ei fod o’n cael ffit ddeiabetic. "Meerkats!! Ffycin meerkats! Mewn siwts! Yyy-aahahahaaaaaa!"

    Mewn siwts, ddudasd di? medda Sbanish, yn ffugio owtrêj wrth ymuno yn y tynnu coes. No ffycin wê, man! Ti’n malu cachu’r cont!

    "Ma’r ffycars yn bob man, Sban! Yn bob man!" Chwalodd Cled eto, fel oedd o’n codi’n ôl i’w stôl. Disgynnodd dros y bwrdd, a gyrru potal Jenny Fach yn pirwétio am yr ymyl. Daliodd Drwgi hi cyn iddi droi a gwagio – ei ‘rifflécsiyns’, fel oedd o’n galw’i adweithiau cyflym mewn crisis, fel rhai brithyll brown gwyllt.

    "Does ’na’m meerkats yma, Cled!" medda Drwgi, yn gwenu’n ddrwg wrth roi’r botal i Jenny Fach, yn saff o gyrraedd yr octopws anystywallt oedd wedi cymryd rheolaeth o gorff y ffrind oeddan nhw’n adnabod fel Cledwyn Bagîtha.

    Cled! medda Bic, oedd wedi penderfynu ei fod am chwalu pen ei fêt. "Dim meerkats ydyn nhw, man! Pengwyns ’dyn nw!"

    Ffyc off! ’Sa’m pengwyns fyny ffor ’ma! ’Di nw’m yn gallu pasio Synod Inn… waa-haaa…

    Ffwcinél, Cled! medda Bic. Ti’m ’di clwad, naddo?

    Clwad be, y twat?

    Y pengwyns!

    Be amdan y pengwyns?

    Aeth Bic ymlaen i rîlio Cled i mewn, fel sgodyn. Ty’d ’laen, Cled! Ma’ pawb yn gwbod, siŵr!

    Gwbod be? Roedd y sgodyn bron wrth y lan.

    Am y pengwyns! Roedd Bic yn barod i’w godi o’r dŵr.

    Y ffycin pengwyns, ia – be-am-ffwcin-danyn nhw?

    Ma’ nw ’di ffendio’r A470!

    Doedd ’na’m gobaith i Cled ar ôl honna. Gwrandawodd, clywodd, chwalodd. Waa-haaahahahaaa…!

    Stopiodd y carioci ar ganol cân, a trodd pawb i edrych. Roedd Donna Kebab bron mewn dagra. Roedd hi wedi bod yn mwrdro ‘Angels’ gan Robbie Williams ers meitin, ac yn meddwl fod Cledwyn yn chwerthin ar ei phen hi. Doedd Cledwyn ddim callach fod ’na rywun yn canu, ond doedd Donna Kebab ddim yn gwbod hynny. Roedd hi’n hogan ddigon emosiynol fel oedd hi, yn cael problam efo’i phwysa, ac efo’i nerfa hefyd, ers pan aeth javelin drwy’i hysgwydd, fel sgiwar, pan gerddodd i mewn i’w lwybr yn Sports Ysgol ersdalwm – y ddamwain erchyll a roddodd iddi ei llysenw. Tria di neud yn well ’ta! sgrechiodd ar Cledwyn, wrth daranu’i ffordd am y toilets cyn gyflymad ag y medra pymthag stôn mewn sodla uchal a sgert fach dynn. Y ffycin prrric!!

    Sylwodd Cledwyn ddim, beth bynnag. Arhosodd ar ei stôl, yn wên ddieflig o glust i glust, yn syllu ar bawb yn y stafall fel rhyw ddiafol yn ymfalchïo yn ei waith aflan ar y ddaear – ei lygid mawr du bron â saethu allan o’i ben, a fflems fel llysnafedd yn hongian o ochrau’i geg.

    Cled! medda Sbanish, gan dorri’r tawelwch annifyr a ddilynodd ddramatics Donna Kebab. "Dwi’n gwbod be ti’n weld, dwi ’di sylwi arnyn nhw’n hun. Ond dim meerkats ydyn nw, mêt. Ma’ nw yn flewog, a mae nw’n gwisgo siwts a teis du, ond bobol ydyn nhw, Cled. Teulu’r Dybyl-Bybyls. ’Di bod yn y cnebrwn ma’ nhw. A ninna hefyd. ’Da ni mewn crysa gwyn a teis du, hefyd, Cled. Sbia, ti’n gwisgo un dy hun…"

    Edrychodd Cled ar ei dei, Ffacinél! Pwy sy ’di marw?!

    Rhoddodd Steve Karaoke gân arall ymlaen i drio hudo’r person nesa i ddod i neud pen-swêj ohono’i hun, a daeth trwmped hoffyffonig bariau agoriadol ‘Ring of Fire’ gan Johnny Cash i ddawnsio drwy’r mwg a’r miri. Dechreuodd pawb yn y bar ganu’r nodau, ar dopia’u lleisia – De-de-re-de-re de-re-re… de-de-re de-re-de-re-re! – cyn stopio, ’run fath ag arfar, pan oedd y geiriau i fod i ddechra, am nad oeddan nhw’n eu gwbod nhw. O fewn eiliada, roedd poen-tin-meddw mwya’r pentra, Cimosapi – oedd yn meddwl mai fo oedd Johnny Cash, John Wayne a Pavarotti wedi eu rowlio’n un – wedi gafael yn y meic, ac yn paratoi i chwalu penna pawb efo’i lais hyrdi-gyrdi, fflat-fel-rhech-lledan.

    O’ma, reit sydyn! medda Bic, wrth godi ar ei draed. I’r ardd am joint. Cyn i’r ashtrês ddechra fflio!

    = 2 =

    Mae bywyd fel Iorcshiyr Pwdin. Wedi rhoi pob dim i mewn yn y canol yn daclus – dy datws, dy foron, dy swêj a dy bys slwtsh, ac wedyn dy grêfi – ti’n cymryd beit o’no fo, a mae’r cwbwl lot yn chwalu’n racs, yn slwtsh blêr dros dy wefla, a disgyn yn sblatsh yn ôl ar dy blât. A dyna ddigwyddodd i Iorcshiyr Pwdin Tintin, tua blwyddyn yn ôl.

    Pan oedd Tintin yn ddeunaw oed roedd o wedi prynu tŷ bach am bum mil o bunna, pan oedd tai yn rhad fel baw yn Dre yn yr Wythdega. Roedd o’n gweithio’n chwaral ar y pryd, a mi gafodd fenthyciad gan y banc er mwyn talu am y tŷ, ac am neud y lle i fyny’n ffit i fyw ynddo. Roedd o wedi gwerthu’r tŷ rhyw chydig flynyddoedd wedyn, ac wedi prynu tŷ arall. Deng mlynadd ar ôl hynny – tua blwyddyn yn ôl – roedd o wedi talu’r morgej i ffwrdd ar hwnnw, ac yn byw’n hapus efo’i wraig a’u pump o blant.

    Gweithio ar y stîl, ac adeiladu, oedd o erbyn hynny, ac yn gneud pres da pan oedd o’n gweithio i ffwrdd. Roedd o’n gallu fforddio bod adra efo’r teulu am ryw fis ar y tro, weithia, rhwng jobsys. A gan fod y morgej wedi’i dalu, roedd o’n edrych ymlaen i ddechra gweithio’n lleol, am lai o bres, ac ymlacio chydig, a fynta ond yn dri deg tri. Job done! Neu dyna oedd o’n feddwl…

    Er fod Glenda, ei wraig, wedi’i rybuddio i beidio mynd i dŷ Cledwyn Bagîtha y bore hwnnw ychydig dros flwyddyn yn ôl, mynd ’nath o. Roedd o’n chwilio am Gai Ows, i’w holi fo am y pysgod ’ny o lyn Sid Finch, am ei fod isio tawelu’i feddwl cyn mynd i ymlacio efo’r teulu yn Greenwood Park. Digon syml, a digon diniwad, fydda rywun yn dychmygu. Dau funud fydda fo’n gymryd – piciad draw, sgwrs sydyn i jecio storis ei gilydd, wedyn adra, ac i ffwrdd efo’r wraig a’r plantos. Roedd Glenda wedi’i atgoffa fo nad oedd ‘piciad’ i Bryn Derwydd yn bosib – wel, dim piciad yno a dod oddi yno’n gall, beth bynnag. Ddylia Tintin fod wedi gwrando arni.

    Daeth o hyd i Gai Ows efo’r hogia, i gyd yn nhŷ Bic Flannagan, wedi bod i fyny drwy’r nos, off eu penna. Doedd Tintin ddim yn siŵr iawn, hyd heddiw, be ddigwyddodd iddo fo wedyn. Ond y peth nesa oedd o’n gofio oedd bod yn y cells yn Dolgellau, off ei ben ar fadarch hud, yn cael ei jarjio efo pob math o betha doedd o’n dallt dim amdanyn nhw, heb sôn am gofio sut oeddan nhw wedi digwydd!

    O fewn dyddia roedd ei enw fo a’r hogia ar draws tudalenna’r papura newydd. O’r Daily Post i’r Herald a’r Cambrian News, roedd penawdau fel ‘Explosion Injures Officer in Dramatic Drugs Den Siege’, ‘Bedsit Siege Explosion – Men Held’ a ‘Crazed Drug-fiend Throws Cat at PC’, yn sgrechian allan o’r colofnau. A doedd hynny’n ddim byd o’i gymharu â be oedd Glenda’n sgrechian arno fo.

    "Aggravated burglary, assault, affray, criminal damage, resisting arrest, threats to kill – a blydi cruelty to animals!!! Be nas di, Timothy? Duclêrio Wyrld Wôr Thrî?!"

    Fedra Tintin druan ddim ei hateb. Doedd o’n cofio dim byd, a doedd hynny ond yn gneud petha’n waeth. Pam na ’sa ti ’di cachu ar sêt gefn y car cops, hefyd? O leia wedyn fyswn i’n gallu deud wrth bawb ’na sâl o’dda chdi! Ti’n ffwcin lwcus fo’ nw ’di d’adal di allan o gwbwl!!

    Roedd hynny’n wir. Oni bai i Cledwyn gael twrna iddo fo, a fod hwnnw wedi dadla efo’r heddlu na fysa hannar y tsiarjis yn sefyll, yn Fazakerley fysa fo y noson honno. Ond mi fysa’n well gan Tintin fod wedi colli’i ryddid na colli ei briodas. A’i dŷ…

    Wnaeth Glenda ddim mynnu cael y tŷ, chwaith, chwara teg iddi. Er, doedd Tintin ddim yn ama am funud y bydda hi wedi gneud hynny unwaith y bydda’r twrneiod – a’i mam a’i chwiorydd – wedi bod yn ei phen hi. Tintin ei hun gynigiodd y tŷ iddi, rhyw ddeufis ar ôl yr achos llys, pan oedd hi ’di mynd yn amlwg nad oedd Glenda am feirioli. ’Sa fynta wedi gallu caledu hefyd, a deud ’thi am ffwcio ffwrdd, ond dim ond pump a phedair oed oedd y ddau blentyn ienga. Fysa fo’m yn iawn i’w troi nhw allan i’r stryd.

    A’r rheiny oedd o’n fethu fwya. Aron a Siwan. Petha bach. Roedd y lleill – Osian, oedd yn naw, a Sioned a Ceri, oedd yn eu harddegau – yn siŵr dduw o nabod eu tad. Ond roedd yn chwith gan Tintin fethu bod yno efo’r rhai iau, wrth iddyn nhw ddechra ysgol feithrin a’r ysgol fach, a petha felna. Er, mi oedd Glenda yn gadael iddo fynd draw i’w gweld nhw bob hyn a hyn. Ond doedd ’na’m tsians o gwbwl iddi adael iddyn nhw ddod i aros efo fo. Yn enwedig am mai yn fflat Cledwyn – y scene of the crime ei hun – oedd Tintin yn byw rŵan. Roedd crybwyll Graig, heb sôn am y fflat, yn ddigon i yrru Glenda i ben caej – a doedd fiw i neb ddeud enw Cledwyn Bagîtha o dan yr un to â hi.

    Am yn hir iawn, ymateb tebyg fyddai rhywun wedi’i gael gan Tintin wrth grybwyll enw Sid Finch, hefyd. Finch oedd y drwg tu ôl yr holl lanast. Iawn, mi oedd Tintin yn un o’r rhai ddwynodd ei bysgod o, ond doedd gan Finch ddim prawf o hynny o gwbl. Dilyn ei ragfarnau aru Finch, a gyrru’r cops i fflat Cled, lle’r oedd Tintin a’r hogia’n digwydd bod – off eu penna ar fadarch. Basdad oedd Sid Finch. Basdad tew, barus a chwerw, oedd angan dysgu gwers iddo.

    Doedd fflat Cled ddim mor ddrwg â hynny fel lle

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1