Am yn Ail
()
About this ebook
Related to Am yn Ail
Related ebooks
Banerog Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Tonfedd Heddiw: Ni Bia'r Awyr Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsO'r Da i'r Direidus Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Tonfedd Heddiw: Hel Llus yn y Glaw Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsMadarch Rating: 2 out of 5 stars2/5Gwaith Mynyddog. Cyfrol II Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsBardd Cwsg Arall Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsDan y Dŵr Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsPastai Odl Rating: 4 out of 5 stars4/5O! Tyn y Gorchudd - Hunangofiant Rebecca Jones (Cyfrol y Fedal Ryddiaith 2002) Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsNes Draw Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Ti'n Jocan: Hiwmor y Cymoedd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Mellt: Nico Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHwrê, Mae Hi'n Wyliau! Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsAnfadwaith Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Mellt: Llwyth Rating: 0 out of 5 stars0 ratings3:00am Tradwy Rating: 4 out of 5 stars4/5Penillion Ach-A-Fi Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsClymau Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsRhedeg yn Gynt na'r Cleddyfau Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGwylliaid Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsLlyfr Gwyrdd Ystwyth Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHaf o Hyd? Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsEdau Bywyd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHeliwr, Yr - Si Sô Jac y Do Rating: 4 out of 5 stars4/5Ynys Fadog Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsFel Hyn y Bu - Hunangofiant Eirwyn George Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCariad Pur? Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsDal Arni Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsByd Crwn a Straeon Eraill Rating: 0 out of 5 stars0 ratings
Related categories
Reviews for Am yn Ail
0 ratings0 reviews
Book preview
Am yn Ail - John Gwilym Jones
am yn ail
John Gwilym Jones
Tudur Dylan Jones
ⓗ John Gwilym Jones / Tudur Dylan Jones / Cyhoeddiadau Barddas ⓒ
Argraffiad cyntaf: 2021
ISBN: 978-1-911584-67-4
Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotocopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwr, Cyhoeddiadau Barddas.
Cyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas.
www.barddas.cymru
Cyhoeddwyd gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.
Dyluniwyd gan Olwen Fowler.
Troswyd i e-lyfr gan Almon.
Diolch i Alaw Mai Edwards o Gyhoeddiadau Barddas am ei gofal arbennig yn llywio’r gyfrol trwy’r wasg, ac i Huw Meirion Edwards am ei awgrymiadau gwerthfawr. Diolch hefyd i Olwen Fowler a Gwasg Gomer am y gwaith dylunio ac argraffu.
i
Eilir a Nest
Croeso …
ydyw gwybod fod gobaith
gweld agor dôr wedi’r daith:
gweld purdeb ei hwyneb hi
ar riniog rhwng rhieni,
a’i chael hi a’i gwich lawen
yn eich gŵydd yn cynnau’ch gwên.
Ei dwy droed a red o draw;
yna’r ddwyfraich fry ddifraw
danoch wedyn i’w chodi –
a chanddi’r hawl, ei hawl hi;
nes troi’r trwstan gusanu
yn frys i’ch tywys i’r tŷ.
JGJ
Dyletswydd
Merch fach, yng nghwmni’i thad, yn rhoi blodau ar fedd ei hen datcu
A dwy law’n grud o liwiau
un ennyd wâr, down ein dau
gydag enfys o dusw
ond â deigryn arnyn nhw,
gan eu rhoi â gwên o wres
yn garwriaeth gorwyres.
Pan na fyddaf, a fyddi
yn dod â dy flodau di?
Neu ai’r rhain yng ngwres yr haf
yw dwylo’r blodau olaf,
ac o raid uwchben y gro’n
ddwy law a ddeil i wywo?
TDJ
Llais
Gwelwn mewn llawer galwad
yn y nos, pan ffoniai ’nhad,
fod yntau’n y geiriau i gyd,
dôi yn dad yn y dwedyd.
Dôi yn anadl, dôi’n wyneb,
dôi’n eiliad o lygad wleb;
dod â’i wên, a’i godiad ael,
a gefyn ei law’n gafael.
Dôi yn gariad, yn gerydd
trugarog dan rychiog rudd.
Nid geiriau oer glywn, ond gwres
ei enaid lond ei fynwes.
JGJ
Rhyfeddod
Nid yw dyn a’i fynd a dod
heddiw yn gweld rhyfeddod;
ni ŵyr hwn iaith hyna’r nos;
ni ŵyr y ffordd i aros,
a thrwy’r llenni’n ei ddinas
ni ŵyr liw yr awyr las.
Gan faint ei lyfrgell bellach
ni ŵyr beth yw geiriau bach;
ni ŵyr fod llais mewn stori;
ni chlyw iaith, na’i chwilio hi,
hwn y dyn, drwy’i fynd a dod,
rhy fyddar i ryfeddod.
TDJ
Y D gywydd
Cywydd â phob llinell yn dechrau â’r llythyren ‘D’ oedd y dasg osodedig – penderfynwyd dehongli’r her yn eithafol
Dy dacteg – dympiwr dectasg –
dala dyn dwl dan dy dasg;
dwlgamp dwp dalgwympo dyn
drwy dy dost dro didestun.
Drwy’r dydd digywydd, di-gân,
diodlau’n dygnu dwdlan
dros daflenni drwy dri drôr,
dryswn drwy dri didrysor;
danto dan dy drwstan dric,
di-dryst dy drapio drastic;
diweddaf druth dof diddim
dan drio dweud, ‘Da