Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cig a Gwaed
Cig a Gwaed
Cig a Gwaed
Ebook454 pages6 hours

Cig a Gwaed

Rating: 3 out of 5 stars

3/5

()

Read preview

About this ebook

The Barti family's skeleton is not in the cupboard. He is out there, a shadow on the horizon and a constant threat to the fragile peace of the family. But a family reunion is not part of Mani's plans. Not at this moment anyway.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateDec 21, 2012
ISBN9781847716224
Cig a Gwaed

Read more from Dewi Prysor

Related to Cig a Gwaed

Related ebooks

Reviews for Cig a Gwaed

Rating: 3 out of 5 stars
3/5

1 rating0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cig a Gwaed - Dewi Prysor

    Cig%20a%20Gwaed%20-%20Dewi%20Prysor.jpg

    Argraffiad cyntaf: 2012

    © Hawlfraint Dewi Prysor a’r Lolfa Cyf., 2012

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw.

    Nodyn gan yr awdur: Er bod rhai lleoliadau yn llefydd go iawn, dychmygol yw popeth sy’n digwydd ynddynt. Dychmygol yw pob cymeriad hefyd, ac mae unrhyw debygrwydd i bersonau go iawn yn anfwriadol. Ychydig o hwyl rhwng dau glawr, yn unig, yw’r gwaith hwn.

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Delwedd y clawr blaen: Rhys Aneurin

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 84771 515 9

    E-ISBN: 978 1 84771 622 4

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru

    gan Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    gwefan www.ylolfa.com

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 832 782

    I Buff

    Llifo mae’r afon ag amser yn lli

    Ond aros mae hiraeth ar ei glannau hi.

    Diolch…

    I Lefi, Alun, Nia a phawb yn y Lolfa.

    I Rhys Aneurin am glawr arbennig.

    I’r holl siopau llyfrau Cymraeg.

    I Llenyddiaeth Cymru a holl drefnwyr digwyddiadau llenyddol.

    I’r Cyngor Llyfrau.

    I Rhi, Ows, Rhods a Geth am eu cariad, cwmni, cefnogaeth ac amynedd di-ben-draw.

    1

    Lerpwl, 1991

    Roedd hi’n bryd i Mani adael. Peint neu ddau arall ac mi fyddai mewn hwyliau, a dyna hi wedyn – allan am y noson eto. Doedd o ddim isio hynny, dim ar ôl echnos – Boxing Night – er mai amgylchiadau tu hwnt i’w reolaeth a arweiniodd at y chwalfa. Bu pethau’n flêr y noson honno. Blêr iawn. Roedd ganddo lot o waith egluro wrth Fizz.

    Edrychodd ar ei watsh. Mi gâi fws mewn pum munud – os byddai lle arno. Cleciodd ei lager cyn ffarwelio â Carl. Ceisiodd hwnnw droi ei fraich.

    I’ve got to see Shak, eglurodd Mani. He owes me a dropsy, I reckon. I need the bran. It was good to catch up, Carl!

    Cododd a symud yn araf drwy’r môr o grysau pêl-droed gleision. Roedd y dorf yn dynn ac mi gymerodd hanner munud dda iddo gyrraedd y drws, lle’r oedd dau neu dri o grysau cochion yn cyfnewid sylwadau dilornus â chyd-yfwyr glas.

    Un yr un oedd y sgôr. Dipyn o anti-cleimacs i bawb – i gefnogwyr Lerpwl oedd wedi gobeithio gwneud y dwbl dros y trwynau gleision ar ôl eu curo yn Anfield ddechrau’r tymor, ac i ffans Everton, oedd am ddial am y gweir honno.

    Cyrhaeddodd yr awyr iach a chroesi’r stryd at y safle bws. Taniodd ffag wrth wrando ar griw o gochion yn lladd ar Souness am werthu Beardsley yn yr haf – a hynny i Everton o bawb! Er, mi wnaeth o’n dda i ddod â Saunders i mewn. Mi oedd y Cymro wedi chwarae’n dda ers iddo gyrraedd ac wedi sgorio hatric yng Nghwpan UEFA yr wythnos o’r blaen. Roedd Lerpwl yn y quarter-final yn honno, er eu bod yn stryglo yn y gynghrair. Diolch byth fod Everton mewn gwaeth safle, meddyliodd Mani. Byddai hynny’n rhoi llai o fwledi i Mincepie eu tanio ato pan welai o nes ymlaen. Cyrhaeddodd y bws a gwasgodd Mani i mewn heb dalu. Aeth i’r llawr uchaf, lle bu’n ddigon lwcus i gael sedd wag.

    Gwyliodd dorfeydd o gefnogwyr tu allan i dafarnau Walton Lane wrth fynd heibio, a’r stondinau hot-dogs, byrgyrs a sgarffiau. Meddyliodd am Fizz, a gwenu wrth ystyried iddi aros yn Lerpwl dros wyliau’r Nadolig. Doedd hynny heb fynd i lawr yn dda efo’i thad, meddai hi. Wnaeth hi erioed ddweud wrtho fod ganddi gariad yma chwaith – ers blwyddyn a hanner bellach. Byddai meddwl am ei ferch fach yn aros yn y ddinas fawr ddrwg efo ‘rhyw Sgowsar’ oedd bum mlynedd yn hŷn na hi wedi rhoi hartan iddo.

    Gwenodd Mani eto. Efallai ei fod o’n Sgowsar erbyn hyn. Mi oedd o’n byw yma ers dros ddwy flynedd bellach – mwy os cyfrai’r amser yn y carchar. Dinas braf oedd Lerpwl, efo pobol agos at rywun, eu traed ar y ddaear. Ffeind hefyd. Ac mi oedd yna ddigon o lefydd i guddio yma, a wastad ryw gyfle i wneud pres budr. Dinas adar y nos oedd dinas y liver bird. Yma roedd ei gartref, bellach, ac yma roedd yr unig bobol y gallai eu galw’n ffrindiau – teulu, hyd yn oed.

    Eto, mi oedd o wedi meddwl mwy am Gymru’n ddiweddar, am ryw reswm. Gan fod Deano wedi arwyddo i Lerpwl, a Rushie’n dal o gwmpas hefyd, roedd lot o drigolion y ddinas yn cyfeirio at ei dras wrth siarad pêl-droed efo fo. Bu hynny’n ysgogiad iddo ystyried ei wreiddiau ychydig yn fwy, yn sicr, ac i feddwl mwy am Dryw Bach a Lili Wen.

    Dryw Bach oedd ei frawd bach, a phlentyn ieuengaf y teulu. Lili Wen, oedd flwyddyn yn hŷn na Mani, oedd ei unig chwaer lawn ymysg ei saith hanner brawd. Heblaw am ei fam, oedd bellach wedi’i chladdu, y nhw o’u dau oedd yr unig deulu y bu Mani’n agos atyn nhw. Efo nhw y treuliodd ei blentyndod, a Lili Wen ac yntau fyddai’n gwarchod Dryw Bach ac yn chwarae efo fo pan oedd o’n ddim o beth. Doedd yr un o’r brodyr hŷn yn boddran efo crethyll y tylwyth. Rhy brysur yn gweithio a meddwi, neu’n meddwi a gweithio. Dim byd o’i le efo hynny, efallai, ond, wel, ffycin wancars oeddan nhw. Yn enwedig y ddau hynaf...

    Ac am y lleill, wel, be oedd y dywediad – ‘complicit through their silence’? Rhywbeth felly, meddyliodd. Mi allent fod wedi sefyll efo’u cydwybod yn hytrach na mynd efo’r lli. Er, mi wnaeth Porffafôr ddadlau ei achos – cyn bacio i lawr er mwyn cadw’r ddesgil yn wastad. A doedd wybod be oedd Gwcw Blastig yn ei feddwl. Roedd Gwcw’n agosach o ran oed at Lili nag yr oedd at y brodyr hŷn, ond am ryw reswm fuodd o erioed yn un am gyd-chwarae nac am gymysgu. Cath wyllt o hogyn oedd Gwcw Blastig. Fiw i neb fynd yn agos ato fo.

    Dihangodd chwerthiniad bach sydyn o geg Mani, a throdd hogyn bach tua phump oed i edrych arno efo pâr o lygaid mawr du. Winciodd Mani arno. Roedd o’n ei atgoffa o Dryw Bach pan oedd hwnnw ei oed o. Cofiodd iddo addo i Dryw y byddai’n mynd yn ôl ar gyfer ei ben-blwydd yn un ar hugain. Byddai hynny’n go fuan yn y flwyddyn newydd, debyg. Triodd Mani gofio’r dyddiad...

    Doedd bod yn ddafad ddu’r teulu erioed wedi poeni Mani. Ddim tan yn ddiweddar. Bu ei gydwybod yn glir trwy’i holl flynyddoedd ysgol – hynny fuodd o mewn ysgol o gwbl. Dim ei fai o oedd hi fod ganddo dempar. Roedd hynny yn y gwaed. Ac i ddweud y gwir, roedd ei gydwybod yn glir o hyd – wedi’r cwbl, gwyddai pam y gwnaeth yr hyn wnaeth o, ac mi dderbyniodd y bai am y gweddill am resymau cwbl anhunanol. Ond eto, mi oedd yna adegau pan oedd ar ei ben ei hun, yn llowcio’r Jack ac yn snortio’r powdrach, pan ddeuai’r euogrwydd i’w fflangellu...

    Dylai fod wedi cysylltu â’i fam, dim ond i ddweud wrthi ei fod o’n iawn. Doedd dim mwy na hynny y medrai ei ddweud, beth bynnag, ac yntau wedi hanner lladd ei chariad a chyfaddef i drosedd waeth fyth.

    Ffromodd. Gwrthododd feddwl am yr achos ac mi daflodd bopeth yn ei ôl i’r gist yng nghefn ei ben. Gwyliodd y cefnogwyr pêl-droed yn cerdded hyd balmentydd y ddinas tra oedd y bws yn aros wrth oleuadau. Roedd y torfeydd wedi teneuo’n sylweddol erbyn hyn, rhyw filltir a hanner o Goodison. Gwelodd griwiau o ffrindiau’n igam-ogamu rhwng y tadau a phlant gwên-lydan, a sgalis ifanc yn gwau rhwng y cwbl ar eu BMXys chwim, yn chwilio am eu cyfleon.

    Doedd Mani erioed wedi gweld ei hun yn cael plant. Serch hynny, mi oedd y syniad o’u magu yn apelio. Byddai wrth ei fodd yn eu dysgu i fod yn annibynnol – i allu gwneud pres heb fod yn rhan o’r wasgfa dydd-i-ddydd, boed hynny drwy sgamio’r gyfundrefn ac osgoi’r awdurdodau, neu drwy feithrin crefft fyddai’n eu galluogi i ddianc o’r ras ynfyd unwaith ac am byth. Mi oedd gan Mincepie ddau blentyn – dau fab, Peter a Joey – ac mi oedd o’n mynd i’w gweld nhw weithiau. Aeth Mani efo fo unwaith neu ddwy. Sgalis bach llawn bywyd oeddan nhw, a synnai Mani ddim petaen nhw o gwmpas heno yn llygadu’r dorf.

    Go brin y câi o gyfle i gael plant, fodd bynnag. Ddim yn y dyfodol agos, yn bendant. Roedd Fizz ar ei blwyddyn olaf yn y coleg. Graddio a chael swydd oedd ei chynlluniau, ac – os oedd hi’n gall – mynd i ffwrdd i weld y byd rhwng y ddau. Mi oedd hi wedi sôn yr hoffai wneud hynny, ond nad oedd hi isio ei adael o ar ôl. Am iddi fynd oedd Mani hefyd, er y gwyddai y byddai’n ei methu. Soniai Fizz yn aml am sut yr hoffai iddo fynd efo hi, ond allai Mani byth â gwneud hynny. Fyddai o’m yn teimlo’n iawn iddo fod yno efo hi, yn amharu ar ei phrofiad cyntaf o wir ryddid yn y byd mawr, fel rhyw gysgod ar ei gorwelion. A phrun bynnag, doedd ganddo ddim diddordeb mewn bydoedd eraill, dim amynedd efo mynyddoedd a chamelod a dolffins, a dim awydd cael y shits ar ôl bwyta cyrri llygod mawr mewn rhyw slym yn India. Ddalltai o ddim pam y byddai rhywun isio cael eu mygio ym Morocco, cael eu pigo gan nadroedd a sgorpions, neu eu bwyta’n fyw gan grocodeils. Teimlai Mani’n llawer saffach yn ei fyd ei hun, efo’r bwystfilod roedd o’n eu nabod.

    Ac mi oedd yna ddigon o’r rheiny yn codi’u pennau yn y ddinas yn ddiweddar. Mi oedd yna newid yn digwydd yn y byd yr ymdrybaeddai Mani ynddo, y byd tu ôl i’r siopau mawr gwydrog a’r tafarnau stryd gefn, yr adeiladau Fictoraidd a oroesodd fomiau’r Jyrmans, y terasau tai brics coch a’r stadau tai cyngor a’r blociau fflats uchel. Ystyriodd Mani y noson o’r blaen; roedd o wedi gaddo mynd allan efo Fizz i’r llefydd roedd hi’n licio mynd iddyn nhw – pybs stiwdants, efo bandiau a miwsig uchel – ac wedi trefnu i gwrdd â hi yn y Grapes ar ôl iddi orffen ei gwaith. Ond aeth pethau o le. Big style. Cymhlethdodau gwaith – oedd, yn ei job gymhleth o, yn gymhlethdodau dyrys iawn. Ac erbyn i’r rheiny ddod i ben roedd hi’n rhy hwyr iddo fynd i chwilio amdani, ac mi gafodd ei hun mewn parti ar ôl amser cau uwchben restront Jimmy Li yn Chinatown, lle’r oedd Mincepie ac yntau i fod i guddio tan y bore. Doedd Fizz ddim yn hapus ddoe, yn enwedig pan welodd ei fod o’n dod i lawr o effeithiau cocaine ac ecstasi – y cyffur newydd oedd yn sgubo’r wlad. Sut allai Fizz goelio ei fod o i gyd yn rhan o’r job? Nid dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ffraeo, ond mi oedd hi’r tro cyntaf i Fizz ruthro i ffwrdd mewn cawod o regfeydd a dagrau.

    Neidiodd o’r bws tu allan i orsaf drenau James Street a chamu i mewn i’r ciosg teleffon ar y pafin. Doedd dim ateb ar rif Shakatak, felly trodd i mewn i’r Liverpool Arms. Wnâi un peint arall ddim drwg. O leiaf roedd o ar ei ben ei hun yn hytrach nag efo criw oedd ar bendar bêl-droed. Eisteddodd ar stôl wrth gornel y bar a thanio sigarét, cyn archebu peint o Carling gan Gary.

    D’yer see the match, Taff? gofynnodd y barman wrth dynnu peint iddo. They don’t look like a team dese days. What the fuck is that flatnose cunt up to? I don’t trust him. Sending Beardsley across de park! Wha was all dar about, eyh?

    Chwythodd Mani ei wynt trwy’i wefusau fel megin yn gwagio, wrth roi’r arian iawn i Gary am ei gwrw. Osgoi trafodaeth oedd ei fwriad. Roedd o’n nabod trigolion y ddinas yn ddigon da i beidio siarad pêl-droed pan oedd ar hâst. Trwy lwc, tynnwyd sylw Gary at dair o ferched ifanc, siriol a bronnog oedd yn nesu tua’r bar ar eu sodlau main. Gwyliodd Mani nhw’n chwerthin ar jôc breifat wrth i Gary nôl eu diodydd. Roeddan nhw’n hwyliog iawn yn eu boob tubes a’u sgertiau cwta – er gwaethaf bysedd main y gwynt gaeafol a sgubai dros y dŵr o Benbedw – a’u clustdlysau modrwyog yn siglo dan eu gwalltiau retro chwedegau. Roeddan nhw ar eu ffordd i un o’r clybiau dawns newydd oedd yn agor ar draws L1, mwya thebyg. Nid yn aml oedd merched fel hyn yn mynychu’r dafarn hon.

    Estynnodd Mani am un o’r ticedi betio William Hill oddi ar y silff bwrpasol wrth ei ymyl a dechrau dwdlo efo un o’r beiros bach glas. Trodd ei feddwl at Fizz eto. Petai o’n mynd i fyny i’r chippy i edrych am Shakatak, yn hytrach na gobeithio y deuai ei fos i ganol dre ato fo, gallai weld ei gariad yr un adeg, a gweld pa ffordd roedd y gwynt yn chwythu. Syllodd ar y cartŵn sydyn o Graeme Souness a luniodd ar y ticed betio, cyn ei wasgu’n belen a’i daflu i’r blwch llwch. Stwmpiodd ei fwgyn ar ei ben o ac estyn am ei beint – ond daeth llaw i lawr yn drwm ar ei ysgwydd.

    Eyh you, yer fuckin nonce!

    Trodd Mani’n sydyn i weld Mincepie yn nelu arno cyn i wên lydan, ddireidus ledu dros ei wep.

    Mince, y ffycin knobhead!

    Chwarddodd Mincepie. Look at yer boat, softlad! Pissed off coz we pissed on yer double, ye Redshite!

    Nah, we’re not greedy, Mince. Four points will do us. Givin you the one is OK by me, season of good will and all that! Be ti’n neud eniwe, tosspot?

    "I’m going funny the chippy, medd Mince, oedd wastad yn camynganu’r ychydig Gymraeg a ddysgodd Mani iddo yn y carchar. Shak’s gorr sumthin for uz. Hope it’s tasty, eh? Ooh-eet teen Ken Dodd funny? You fuckin onion!"

    "Yndw, dwi’n dod i fyny, y ffycin nionyn!" medd Mani, gan bwysleisio’r ynganiad cywir.

    Bu Mani a Mincepie yn ffrindiau pennaf byth ers iddyn nhw rannu cell ar B-Wing yn y Wally, ac o’r cyfnod hwnnw y deuai eu harferiad o alw’i gilydd yn nionod. Mani ddechreuodd alw Mince yn nionyn, a hynny yn yr ystyr annwyl Cymraeg am rywun dwl-al sy’n rwdlan rownd y rîl. Pan ddalltodd Mince mai’r gair Cymraeg am y llysieuyn aml-groen sy’n achosi dagrau wrth ei flingo oedd o, mi wirionodd yn bot, achos roedd ‘onion’ hefyd yn digwydd bod yn hen air traddodiadol pobol Lerpwl am Gymro. I’r ddau ffrind, trodd y cyd-ddigwyddiad yn jôc a smentiodd eu cyfeillgarwch tra oeddan nhw’n aros i gael eu rhyddhau o westy Ei Mawrhydi, ac yn sail i lot fawr o hwyl a thynnu coes. Efallai ei fod o’n beth rhyfedd i’w ddweud, ond roedd yr atgofion o’r cyfnod hwnnw’n rhai melys – yn fwy fel atgofion bod ar wyliau na than glo, gyda chystal dewis o gyffuriau ag a gâi rhywun yn Amsterdam, bron. Mae’n debyg fod rhywun wastad yn mynd i gofio’r hwyl ac anghofio’r diflastod, ond doedd fawr o ddiflastod yng nghwmni pobol fel Mincepie. Ac er mai byrglar oedd o ar y pryd, ac nad yw carchar yn cynnig fawr o gymhariaeth, Mince oedd yr hogyn mwyaf triw a gonest yr oedd Mani’n ei adnabod.

    Dedfrydwyd Mince cyn Mani, ac mi wahanwyd y ddau wedi iddo symud i’r ‘ochr dywyll’ – sef wings y dedfrydedig – ond mi gadwodd y ddau mewn cysylltiad cyn dal i fyny efo’i gilydd yng ngharchar hanner-agored Kirkham i orffen eu sentans. Roeddan nhw fel brodyr bellach.

    Keys! mynnodd Mani ar ôl camu allan i’r stryd a gweld fod Mincepie wedi parcio’r Sierra efo dwy olwyn ar y pafin reit tu allan y dafarn.

    "Dwee’n yeeawn, Taff!"

    Fuck off, you’re gozzified! Look at your mince pies!

    Eyh, no need fer dat! protestiodd Mince wrth daflu’r goriadau at y Cymro. Dey’re close to me heart, dese mincies, la! Part of me, yer know worr I mean?

    Chwarddodd y Sgowsar hoffus, a enillodd ei lysenw oherwydd ei lygaid mawr, glas a dueddai i droi’n blatiau yn hytrach na soseri pan oedd o off ei ben. Rhwng hynny a’r ffaith mai Vince, neu Vinny, oedd ei enw iawn doedd ganddo fawr o obaith osgoi cael ei enwi ar ôl slang pobol Lerpwl am lygaid.

    Wedi cyrraedd calon aflonydd Toxteth, parciodd Mani’r Sierra ar stryd gefn. Anadlodd yn ddwfn. Cwta bum munud y bu yn y car, ond mi oedd ei ben o’n ratlo. Os na fu parablu diddiwedd Mincepie yn ddigon i chwalu’i synhwyrau, mi orffennodd mwg y skunk roedd o’n ei smocio y job yn daclus. Bu Mani’n smocio hash ers pan oedd o yn yr ysgol a bu’n mwynhau digon o wair hoffyffonig o barthau ecsotig y byd byth ers hynny. Ond roedd y stwff newydd yma roedd Shakatak yn ei dyfu dan lampau mewn selar fawr wrth y dociau mewn warp factor hollol wahanol. Doedd Mani ddim cweit yn deall sut – rhywbeth i wneud efo manipiwleiddio’r planhigyn i gynhyrchu THC ugain gwaith cryfach, mae’n debyg – ond mi oedd o mor gryf roedd rhywun bron â bod yn tripio arno fo. Doedd dim rhyfedd fod Shak yn gwneud cymaint o bres. Ar ben y coke a’r smack roedd o’n eu symud ar ran y pysgod mawr yn uwch i fyny’r afon, Shakatak oedd yr ail ‘arddwr’ yn y ddinas – os nad y wlad – i dyfu skunk yn ddiwydiannol. Yn fuan wedi clywed am y dechnoleg tra ar drip stag yn Amsterdam, mi aeth yn ei ôl yno efo Ali ei frawd i fusnesu a chael y jèn, cyn sefydlu ei ffatri fach ei hun yn Lerpwl. Wyddai o ddim ar y pryd fod ’na griw arall wrthi’n gwneud yr un peth, tan i’r cops fystio’r rheiny a llosgi eu cnwd cyfan cyn iddo hitio’r strydoedd. Mi fyddai cnydau ffatrïoedd newydd yn cyrraedd y fflatiau a’r bedsits, y stadau a’r stiwdants, yr hipis a rêfars a’r tôcars a’r heads yn go fuan, wrth reswm, ond yn y cyfamser Shakatak oedd unig gyflenwr skunk dinas Lerpwl. Roedd o wedi cael ei fachau ar niche oedd angen ei llenwi yn y farchnad – niche oedd yn mynd yn fwy mainstream bob dydd – ac mi oedd ganddo’r monopoli, ar hyn o bryd, ar y gwair cryfaf yn hanes y ddynoliaeth.

    Estynnodd Mani rapsan o speed o’i boced a rhoi byseddiad da yn ei geg, cyn rhannu peth efo Mince. Er y byddai hynny’n rhoi tafod Mince mewn gêr cyflymach fyth, o leiaf byddai yntau’n ddigon siarp i gadw i fyny efo fo. Llyncodd y ddau gegiad o ddŵr potel i leddfu surni’r powdwr, cyn camu allan i’r pafin.

    So who did yer go to de match with, again?

    A fuckin Bluenose! Down their end!

    Chwarddodd Mincepie yn uchel. You went in the Street?!

    Er ei fod o’n ffan o Lerpwl, doedd Mani byth, bron, yn mynd i gefnogi’r tîm. Doedd o’m yn licio torfeydd ac, wel, doedd natur ei waith ddim yn caniatáu llawer o bnawniau Sadwrn yn rhydd. Ond wedi taro i mewn i Carl Casey, fu’n canlyn un o ffrindiau Fizz rai misoedd yn ôl, mi gytunodd i fynd efo fo i’r gêm efo ticad sbâr oedd ganddo. Gwyddai mai’r gleision oedd tîm Carl, ond doedd o heb ddisgwyl gorfod gwylio’r gêm reit tu ôl i’r gôl yn y Gwladys Street End. Ac er iddo gadw’i geg ar gau pan sgoriodd Lerpwl, buan y sylwodd y lleill ei fod o’n Gochyn. Mae ffans pêl-droed yn ogleuo aliens fel daeargwn yn ffroeni llygod. Ac i ddweud y gwir, fyddai Mani ddim yn synnu petai Carl wedi rhannu’r gyfrinach efo nhw...

    The fuckin stick I got! medd Mani gyda gwên dawel, gan osgoi edrych i lygaid ei ffrind. Gwyddai fod sen, gwawd a dirmyg didrugaredd ar y ffordd. Waeth iddo ei gymryd o i gyd rŵan ddim, yn hytrach na nes ymlaen.

    Chwalodd Mincepie, gan ddal ei ochrau a phlygu fel stwffwl wrth chwerthin – a’i ben yn ysgwyd fel pendil o un ochr i’r llall. Roedd o wedi cael ei fwledi. Paratôdd i’w tanio.

    2

    Cwmygafael

    Hei! ’Da chi ’di cal accidental wank erioed? gofynnodd Dryw Bach wrth sginio joint ar gopi o’r Mirror ym mlaen y fan. Ges i un yn shower nithiwr!

    Sbreiodd Porffafôr lond ceg o lager dros y dash. Iesu gwyn mewn sandals! Be FFWC sy’n bod ’fo chdi, hogyn!

    Be ti’n feddwl, ‘accidental wank’? holodd Gwcw Blastig.

    Pam? Ti rioed ’di cal un? atebodd Dryw Bach.

    Dim i fi wybod, naddo!

    Wet dream ti’n feddwl? holodd Porffafôr wrth sychu’i geg efo’i lawes.

    Naci! Wanc acsudental.

    Trwy ddamwain? gofynnodd Gwcw Blastig. Damwanc?

    Rwbath fel’na, ia, eglurodd Dryw Bach. Ond, sdi, fel...

    Fel cerddad i lawr y stryd a dechra halio dy hun heb i ti wybod? torrodd Porffafôr ar ei draws cyn ysgwyd ei ben ar fudredd anaeddfed ei frawd bach.

    Naci’r mochyn! atebodd Dryw Bach gan drio peidio chwerthin. Ti’n gwbod pan ti’n cal shower, ynde, a tisio cal gwarad o’r caws...

    Nefoedd y ffycin nionod! Dwi’m isio clwad mwy! gwaeddodd Porffafôr.

    Na, tyd â hi, Dryw Bach, medd Gwcw Blastig a rhoi winc i Porffafôr. Cael gwarad o’r caws, ia... Ac wedyn?

    Wel, medd Dryw Bach, cyn oedi i lyfu’r rislas i gau’r joint. Os tisio llnau’r caws i gyd ma’n hawsach gneud os gen ti fin.

    Brenin y baraciwdas! Dwi deffinetli ddim isio clwad mwy! gwaeddodd Porffafôr eto.

    Ond roedd Gwcw Blastig yn eiddgar i hudo mwy allan o gyw y teulu. Dos yn dy flaen, Dryw Bach. Ges ’di fin ta be?

    Wel do siŵr!

    Taniodd Dryw Bach y joint.

    Wel? holodd Gwcw Blastig.

    Be? Tisio clwad y melynion untumet i gyd?

    "Wel oes, siŵr dduw! Sut mae hyn wedi troi yn wanc damweiniol – dyna ’di’r cwestiwn ynde! Ti’m yn cal gadal stori fel’na ar ’i hannar."

    Gad hi, wir dduw! medd Porffafôr. Ma’n berffaith amlwg be ’di’r hannar arall.

    Does ’na’m llawar o hannar arall iddi, medd Dryw Bach. O’n i isio golchi’r caws o dan ’yn fforsgin, ac er mwyn cal min rois i ‘few strokes’ iddi, ac mi drodd y few strokes yn wanc llawn. Dyna’r cwbwl.

    Aeth hi’n dawel yn y fan am eiliadau sylweddol tra bo Gwcw Blastig yn treulio’r geiriau yn ei ben, a Porffafôr yn syllu allan drwy ffenest y dreifar mewn cywilydd.

    Dim acsudental wanc ydi peth fel’na, naci? medd Gwcw Blastig cyn hir.

    Be ydio ta?

    Wanc de! Yn blaen ac yn blwmp!

    "Ond do’n i ddim yn pasa cal wanc, nago’n?"

    Wel oeddat siŵr! Chdi ddechreuodd wancio! Dy benderfyniad di, ynde?

    OK, OK! Dyna ffycin ddigon! torrodd Porffafôr ar ei draws. Dim mwy o gôri dîtels, thenciw!

    Chwythodd Porffafôr. Doedd dim stop ar ei ddau frawd. Waeth pwy oedd yn dechrau, roedd pob sgwrs rhyngddyn nhw’n troi yn gynllun gan y naill i weindio’r llall i fyny. Ond wincio ar ei gilydd yn slei wnaeth Dryw Bach a Gwcw Blastig. Er bod eu brawd mawr yn aderyn mor frith â’r graean, un eithaf hen ffasiwn oedd o yn ei ffordd – a hynod hawdd i’w gael i frathu.

    Daeth chwibaniad o gyfeiriad y cae pêl-droed, a ddilynwyd gan floeddiadau a rhegfeydd gan y criw oedd yn gwylio ar ymyl y cae. Trodd y tri i weld rhai o chwaraewyr y tîm cartref yn amgylchynu’r reffarî a’i regi, cyn i sgyffl fach dorri allan rhwng y ddau dîm.

    Coco Bîns ’di hwnna sy ar lawr? gofynnodd Dryw Bach.

    Ia, dwi’n meddwl, atebodd Porffafôr.

    Mae o’n codi, eniwe, medd Gwcw Blastig. Oh-oh... ma hi’n cicio off... Ooowwwfff!!!

    Roedd Coco Bîns wedi llorio capten y tîm arall efo pladur o law dde. Gwyliodd y tri y reff yn dangos y cerdyn coch i’w brawd, yna hwnnw’n sgwario a bygwth y dyn mewn du wrth i’r hambags tu ôl iddo ddatblygu’n sgarmes dipyn mwy mileinig yr olwg.

    Trydydd red card tymor yma, myn ffwc! medd Porffafôr.

    Mae o’n ffycin leiabiliti, ychwanegodd Gwcw Blastig.

    Neidiodd y brodyr yn eu crwyn wrth i ddwrn run maint â gordd ysgwyd ffenest ochr gyrrwr y fan. Kola Kube oedd yno, yr hynaf o naw o deulu’r Bartis – fel y gelwid plant Mari Bartholomew. Cafodd Kola Kube ei enw oherwydd ei arfer o fwyta bageidiau o’r da-das coch, sgwâr tra oedd o’n gweithio yn y chwarel. Mi sticiodd yr enw’n hawdd oherwydd fod Kola Kube yn sgwâr – o ran ei gorff a’i agweddau. Kola Kube oedd y bòs. Ac nid yn y gwaith yn unig.

    Be ffwc ’da chi’n da yn fa’ma’r basdads? chwyrnodd.

    Agorodd Porffafôr y ffenest.

    Iawn, KK?

    Doedd ei deulu byth yn ei alw wrth ei enw bedydd, chwaith – ddim yn ei wyneb, o leiaf. Fel y dysgodd sawl un dros y blynyddoedd, doedd y Kube ddim yn cynhesu at unrhyw un a’i galwai wrth yr enw a roddwyd iddo gan ei fam. Mi oedd ganddo bwynt, wrth gwrs. Doedd Alfonso ddim yn enw a roddai lawer o awdurdod i alpha male mewn cymuned chwarelyddol yng nghefn gwlad Cymru.

    Pam ffwc ’da chi ddim ar y job?

    O’dd hi’n bwrw, medd Porffafôr.

    Bwrw, o ddiawl!

    Oedd, ar fy marw! mynnodd Porffafôr, cyn troi at y ddau arall. Yn doedd, hogia?

    Cytunodd rheiny’n frwdfrydig.

    Doedd ’na ffyc ôl fedra ni neud yno, beth bynnag, KK, mynnodd Porffafôr. Doedd ’na’m blocs ar ôl.

    Wel pam ffwc fysa chi’n ordro rhei?

    O’dd hi ’di pasio hannar dydd. Iard yn cau ar ddydd Sadwrn dydi...

    Pam ffwc sa chi ’di meddwl yn gynt?

    Doddan ni’m ’di meddwl sa ni’n rhedag allan, KK! Athon nhw i lawr yn ffwc o sydyn. Oddan ni’n fflio mynd heddiw ’ma...

    Yn ista’n fa’ma’n smocio ffycin dôp?

    Gwatsiad y gêm! mynnodd Porffafôr, nad oedd – fel rheol – yn cyffwrdd ganja.

    Be ’di’r sgôr?

    Dwi’m ’bo. Be ’di’r sgôr, hogia?

    Erm, one nil iddyn nhw, dwi’n meddwl, medd Gwcw Blastig.

    Naci, one all, cywirodd Dryw Bach ei frawd.

    Pryd ffwc aru ni sgorio?

    Cynt.

    Cynt pryd?

    ’Dio’m bwys! arthiodd Kola Kube yn ddiamynedd. ’Dan ni angan blocs, felly?

    Yndan, atebodd Porffafôr. A tywod.

    A sment ’fyd, ychwanegodd Gwcw Blastig.

    Iawn, medd Kola Kube gan edrych yn amheus ar y tri. Doswch lawr i’r iard peth cynta flwyddyn newydd i nôl sment, a peipan gachu – gewch chi osod honno i mewn. Ordrwch flocs a tywod tra ’da chi yno.

    Cychwynnodd Kola Kube am ei bic-yp heb unrhyw air o ffarwél.

    Cofia fory am hannar dydd, gwaeddodd Porffafôr ar ei ôl.

    Trodd Kola Kube yn ei unfan. Fory?

    Pen-blwydd Mam?

    O ia... Shit. Wela i chi yn y fynwant, felly.

    Trodd Kola Kube unwaith eto a brasgamu tuag at ei bic-yp heb weld ei frodyr yn codi dau fys tu ôl iddo.

    Twat! medd Porffafôr. Mae o’n lwcus fo ni ’di gweithio gwylia Dolig o gwbwl! Y Ffaro’r Aifft uffarn!

    Awn ni am beint, ta? awgrymodd Gwcw Blastig. Ma’r gêm bron drosodd, dydi?

    Ia, awê, medd Dryw Bach. Genai ffwc o sychad.

    Arhoswn ni am Coco Bîns, ia? medd Porffafôr. Fydd o allan o’r cwt newid yn munud.

    Os na fod o’n cael accidental wanc yn y shower, de! medd Gwcw Blastig, a wincio’n slei ar Dryw Bach.

    Hy! medd hwnnw. ’Di’r sglyfath byth yn molchi beth bynnag. Faint o bres gawson ni am y blocs a sment eniwe, Porff?

    Sicsti cwid.

    Bangar!

    3

    Rhoddodd calon Mani naid fach pan welodd fflach o wallt piws drwy ffenest y siop jips. Roedd Fizz yn gweithio. Arwyddodd ar Mince y byddai’n ei ddilyn mewn munud, cyn sleifio at ben draw’r cownter lle’r oedd ei gariad yn ffidlan efo’i physgod. Roedd hi â’i chefn tuag ato.

    Wel, Fizz-bomb!

    Neidiodd y gwallt piws a throdd Fizz i’w wynebu’n sydyn. Fflachiodd ei llygaid duon a lledodd gwên sydyn dros ei hwyneb i guddio mymryn ar ei sioc. Cofiodd Mani’r union olwg hon pan welodd o hi gyntaf – yn yr union le hwn rhyw flwyddyn a hanner yn ôl – wedi iddo archebu ffish a chips yn Gymraeg ar ôl clywed ei hacen Sir Fôn ysgafn.

    Haia! medd Fizz yn swta, cyn fflachio gwên gyndyn. Lle ti ’di bod, ’lly?

    Yn y gêm. Paid â sôn! Ti awydd dod draw acw nes ymlaen? Pryd ti’n gorffan?

    Naw o’r gloch. Ond...

    Yli, dwi’n rili sori am noson o blaen. Drodd petha’n flêr... Fyswn i’n licio egluro’n well, a...

    A be, Manizo? holodd Fizz efo gwên ddireidus.

    Ymlaciodd Mani wrth glywed tinc o faddeuant.

    Dwi jysd isio gneud o i fyny i chdi, treulio amsar efo chdi...

    Ha! Soppy get! medd Fizz yn null brodorion y ddinas. Trodd i godi pysgod o’r ffrïwr a’u gosod yn y ffenest boeth o flaen Mani. Sgen ti gulti conshyns ne rwbath, Mani Robaitsh?

    "Oes, ond mond am dy adael di i lawr. Dim be ti’n feddwl."

    Gwyliodd Mani hi’n rhoi winc slei i’w chydweithwraig, Linsey, oedd newydd ffarwelio â chwsmer wrth y til.

    Ti isio chips ta be? gofynnodd Fizz â’i dwylo ar ei chluniau a gwên chwareus yn dawnsio fel lloer ar wyneb llyn tu ôl ei llygaid.

    Mond os ti’n dod efo nw.

    Asu, ti’n un powld yn dw’t!

    Fizz... dechreuodd Mani.

    Rhoddodd ei gariad y tongs pysgod i lawr a phlygu dros y cownter i roi sws sydyn iddo, cyn gofyn i Linsey a fyddai hi’n iawn ar ei phen ei hun am ddwy funud.

    Tyd i’r cefn am ffag sydyn, meddai wedyn, cyn diflannu i’r gegin.

    Fysa’n well i fi fynd fyny grisia gynta, sdi... gwaeddodd Mani ar ei hôl wrth godi hatsh y cownter i’w dilyn hi.

    No wê, mêt. Rhag ofn i ‘betha fynd yn flêr’ eto, a wna i ddim dy weld di am ddyddia!

    Agorodd Fizz y drws i’r iard gefn ac eistedd ar un o steps y grisiau tân tu allan. Safodd Mani o’i blaen ac mi daniodd y ddau sigarét yr un.

    Mi ddo i draw heno, OK? medd Fizz wrth chwythu jet o fwg i’r tywyllwch rhyngddyn nhw.

    Ond? medd Mani wrth synhwyro’r tensiwn yn ei llais.

    Rhaid i ni gael chat...

    O ffor ffyc’s sêcs...!

    Cŵlia i lawr! ’Dio’m byd heavy!

    Chat am be, felly?

    Ni.

    "Ma hynna yn swnio’n heavy!"

    "Wel dydio ddim. Yli – dwi yn dy goelio di efo be ddigwyddodd Boxing Night..."

    Wel, mond y gwir ydio!

    Ia, dwi’n gwbod. A dyna ’di’r drwg... Be dwi isio siarad am.

    Dwi’m yn dalld...

    Gollyngodd Fizz ei hysgwyddau ac ymlacio. Mani bach, cariad... Ti’n gwbod cystal â finna fod petha fel be ddigwyddodd Boxing Night yn digwydd yn amlach yn ddiweddar...

    Wel, yndi – am wn i. Ond mi dawelith petha eto, gei di weld.

    Cym on, Mani! Dwi’n dalld y sgôr yn iawn, fel ti’n gwbod. Dwi’n gweithio yma, cofia. Dwi’n clywad lot o betha – lot mwy na chdi dy hun, o bosib.

    Chwythodd Mani ruban o fwg trwy’i drwyn wrth ystyried synnwyr y geiriau.

    ’Dan ni efo’n gilydd ers faint rŵan? holodd Fizz. Blwyddyn a hannar?

    Ia, ond oeddat ti’n gwbod be o’n i’n neud...

    Wo, aros funud! Dwi’n gwbod hynny, a dwi’n gwbod fo chdi erioed wedi cuddio dim byd oddi wrtha i... wel, falla fo ti wedi, ond os wyt ti, mae’n well gen i beidio gwybod amdanyn nhw eniwe...

    Tynnodd Fizz yn galed ar ei ffag. Tynnodd Mani’n ddwfn ar ei un yntau. Roedd o’n edrych i ffwrdd, yn osgoi ei llygaid. Teimlai nhw’n craffu arno, yn darllen ei feddyliau.

    "Dydi hyn ddim byd i neud efo be wyt ti’n neud... Ti’n gwbod bo fi’n dallt y sgôr – ’di o ddim byd mwy na be ma’n ffrindia i’n neud adra, yn y bôn... A dwi’n enjoio drygs gymint â’r hogan nesa. Ond pan ma bobol yn cael ’u brifo..."

    Oedodd Fizz i weld pa ymateb gâi gan ei chariad.

    Does’na neb diniwad yn cael ’i frifo, Fizz...

    Oes mae ’na, Mani.

    Trodd Mani ei lygaid duon tuag ati. Mae pawb sy yn y gêm yn dallt y rheola...

    Dwi’n gwbod. ’Dan ni wedi bod dros hynny lawar gwaith, a dwi’n dalld. Troi mewn cylchoedd w’t ti rŵan.

    Estynnodd Fizz ei llaw a chydio’n ysgafn yn ei fraich. Closiodd Mani ati.

    Yli, dwi’n graddio mewn chwe mis. Fydda i’n gadael y tŷ ac yn gadael y job ’ma. Symud ymlaen...

    I lle?

    Dim symud fel’na, ond dechra cyfnod newydd...

    Mynd rownd y byd?

    Wnaeth Fizz ddim ateb yn syth. Yn hytrach, tynnodd yn ddwfn ar ei sigarét eto, cyn taflu stwmpyn mawr i’r llawr a’i sathru. Be bynnag sy’n digwydd, fyswn i’n licio i chdi fod yn rhan o’no fo.

    Tynnodd ei chariad i’w breichiau. Cydiodd yntau ynddi a’i chusanu ar ei thalcen.

    Ond fel ti’n gwbod, Mani – mae’r ‘gêm’ yn newid. Mae ’na bobol yn cael eu brifo’n amlach ac amlach, ac mae pobol ddiniwad yn cael eu heffeithio...

    Fel pwy?

    O tyd ’laen, Mani! medd Fizz gan syllu’n ymbilgar i’w lygaid. Ti’n meddwl fod o’n beth neis bod yn styc yn tŷ yn poeni lle w’t ti, fod ’na rwbath wedi digwydd i chdi?

    Mynegodd Mani ei

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1