Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Storiau'r Henllys Fawr
Storiau'r Henllys Fawr
Storiau'r Henllys Fawr
Ebook119 pages1 hour

Storiau'r Henllys Fawr

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A collection of the stories of W J Griffith which appeared in the newspaper Y Genedl Gymreig between 1924 and 1930. They were collected by T Rowland Hughes, and were published in 1938 after the author's death under the title Storiau'r Henllys Fawr.
LanguageCymraeg
PublisherCromen
Release dateSep 17, 2014
ISBN9781909696112
Storiau'r Henllys Fawr

Related to Storiau'r Henllys Fawr

Related ebooks

Reviews for Storiau'r Henllys Fawr

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Storiau'r Henllys Fawr - W.J. Griffith

    Eos y Pentan

    Y mae Rhagluniaeth yn gofalu bod o leiaf un dyn ym mhob ardal wledig i ennyn y brwdfrydedd angenrheidiol i fywyd y lle. Un o’r rhai hynny oedd fy nghyfaill, Williams, a gadwai Siop y Sgwâr, ym mhentref bach tawel Llanaraf. Pwyll oedd arwyddair bywyd Llanaraf, ac ym mhob symudiad yr ymgymerai ag ef cawsai fy nghyfaill drafferth nid bychan i’w hysgytio allan o gam hamddenol cynhebrwng. Deuai dawn arbennig Williams i’r golwg yn neilltuol yn ei ymwneud â chyrddau o natur adloniadol, a mynych y deuai ei syniadau chwyldroadol ag ef i wrthdrawiad â hen seintiau’r ardal a oedd yn glynu’n gyndyn wrth ganonau bywyd yr hen oruchwyliaeth.

    Ni cheir dim mwy beiddgar, ond odid, yn hanes fy nghyfaill Williams na’r rhan a gymerodd yn nhrefniant y cwrdd amrywiaethol hwnnw a gynhaliwyd yn Llanaraf oddeutu gwyliau’r Nadolig yn y flwyddyn 190–. Yr oedd hwn yn fath ar sefydliad blynyddol a gawsai nawdd byd ac eglwys yn y lle, a daethai i feddwl fy nghyfaill ei wneuthur yn gyfarfod eithriadol drwy gael cantor dieithr o fri iddo. Syrthiasai ei fryd ar Eos y Pentan, gŵr a oedd y pryd hwnnw yn ennill cryn enw iddo’i hun fel lleisiwr ym myd y glowyr a’r chwarelwyr.

    Wyst ti be! ebr Williams, a ni ar ein ffordd o’r pwyllgor trefnu. Mae’n rhaid cael gwaed newydd i ddadebru lle yma, neu mi fydd farw dan ein dwylo ni. Yr ydw i hen ’laru ar Ap Llanar a’r doniau lleol yma’n crygleisio ym mhob cyfarfod fydd yma. Cofia di fy syportio i hefo cael yr Eos yma.

    Aeth y pwyllgor drwy’r rhan gyntaf o’r rhaglen yn lled hwylus, heb i Williams ymyrryd yn ormodol yn y gweithrediadau. Trefnwyd y testunau cystadleuol arferol mewn llên a chelfyddyd, o lythyr serch i lyffethair dafad; dewiswyd rhai hefyd â sawr y gwyliau arnynt, megis cyfansoddi englyn unodl union i Gyflath, gwneuthur pwdin Nadolig (y pwdin buddugol i fod yn eiddo’r pwyllgor), a thynnu un gŵydd wedi ei bras-bluo, i rai dan bymtheg oed.

    Pan ddaethpwyd at y rhan gerddorol o’r gwaith, cododd Williams i fyny, ac ar ôl rhagymadrodd byr yn ein hannog i ymysgwyd o’r hen rigolau a thorri tir newydd, cynigiodd ein bod yn cael y datgeiniad enwog, Eos y Pentan, i’n gwasanaethu. Syrthiodd wynebau’r pwyllgor yn y fan, a chodais i gefnogi fy nghyfaill ynghanol distawrwydd poenus.

    Toc dyma Siôn Jôs, dechreuwr canu’r Wesleaid, ar ei draed i ofyn a oedd yn rhaid i ni, mewn difrif, gyrchu dŵr dros afon. Onid oedd gennym dalentau lleol a oedd bob amser yn barod i’n gwasanaethu, a hynny’n rhad ac am ddim? Dymunai ef, Siôn Jôs, gynnig gwelliant, sef ein hod yn ymddiried y canu, fel arfer, i’r talentau lleol. Prin y cafodd Siôn Jôs eistedd nad oedd Ifan Ifans, y Tyrchwr, i fyny’n eilio. Eilio hwn a’r llall, gyda llaw, oedd yr unig orchwyl cyhoeddus yr ymgymerai Ifan Ifas ag ef.

    Ategwyd gan Rhobat Robaits, blaenor canu’r Hen Gorff, yntau’n datgan ei ymlyniad diysgog wrth frethyn cartref. Siaradwyd hefyd gan un o’r talentau eu hunain, Ap Llanar, gŵr ifanc a oedd wedi cysegru ei organau lleisiol i wasanaeth ei bentref genedigol ers oddeutu hanner canrif o leiaf. Baich sylwadau yr Ap oedd na fynnai, ar unrhyw gyfrif, ddweud dim yn ddifrïol am y gŵr mawr a enwyd yn barod, eto y dymunai argraffu ar ein meddyliau ei fod ef, yr Ap, at wasanaeth ei gyd-genedl yn Llanaraf tra byddai chwythiad ynddo.

    ’Glyw di’r rhegan ryg? ebr Williams yn fy nghlust, a chododd i fyny i wneuthur un ymgais huawdl arall i atal y llanw a fygythiai lethu’r Eos. Pwysleisiai’r perygl yr oedd Llanaraf ynddo, wrth geisio byw ar ei hadnoddau ei hun, o gael ei gadael yn anobeithiol ar ôl yn ymdaith gwareiddiad.

    Ond y gallu cryfaf ymhlaid Williams, yn ddiamau, oedd y ffaith fod amryw o’r pwyllgor a’u henwau’n ysgrifenedig yn llyfr coel Siop y Sgwâr, a gwelwn aml un fel petai’n siglo rhwng dau feddwl. Pan roed y cynigiad a’r gwelliant i fyny i’r cyfarfod, caed bod y pleidleisio’n gyfartal, a bu’n rhaid galw ar Huw Huws, y Fferam, a oedd yn y gadair, i roi casting-vote. Yn ffodus, digwyddai Huw Huws fod yn nyled Williams o ddau swllt ar bymtheg a chwecheiniog, ers rhai misoedd, am drowsus melfaréd, a manteisiodd yn ebrwydd ar gyfle hapus i gyfuno dyletswydd gyhoeddus â buddiant personol.

    Dyna fi, sisialai Williams, wedi ennill fôt a cholli trowsus.

    Rhoed ar Williams, fel ysgrifennydd, i ohebu â’r Eos ynghylch ei delerau, ac wedi eu cael a rhoi derbyniad ffafriol iddynt, aeth fy nghyfaill ati rhag blaen i hysbysebu’r Eos i’r byd a’r betws. Mor fedrus ydoedd â’r gwaith hwn, fel, o fewn rhyw bythefnos o amser, fe ddaeth dyfodiad agosaol yr Eos i Lanaraf yn destun trafodaeth pob aelwyd o fewn cylch saith milltir i’r lle.

    A’i pethau ymlaen fel hyn tan un bore, o fewn llai nag wythnos i’r cyfarfod, pan ruthrodd Williams i’r tŷ ataf â’i anadl yn un dwrn megis, a llythyr agored yn y llall.

    Dyna i ti dro Gwyddelig! bloeddiai, gan ysgwyd y llythyr yn fy wyneb. Dyna i ti dric budur!

    Pwyll, frawd, pwyll! anogais. Beth ydi’r mater?

    Pwyll! bytheiriai Williams. Fedri di ddarllan y rigmarôl yma heb fynd yn gynddeiriog ulw grybibion?

    A lluchiodd y llythyr ar y bwrdd.

    Darllenais ef. Llythyr ydoedd oddi wrth yr Eos yn datgan ei ofid dwys na allai gadw ei gyhoeddiad yn Llanaraf, gan ei fod yn nwylo ei feddyg, yn dioddef oddi wrth anhwylder ar ei larynx.

    "Larynx gebyst! cyfarthai Williams, a thrawodd y bwrdd nes oedd y llestri brecwast yn dawnsio. Beth amdana i, tybed? Wedi mynd i’r fath gost a thrafferth i adferteisio’r lleban – ar bôst ac ar barad, mewn ffair a marchnad, mewn amsar ac allan o amsar! Mi fydda’n bricsiwn i holl ffyliaid yr ardaloedd yma!"

    Wel, gyfaill, meddwn i, digwyddiad na ellir ei hepgor ydyw peth fel hyn. ’Does gan neb mo’r help–

    Help! Paid â siarad hefo mi. A rhoes Williams ddyrnod arall i’r bwrdd. "’Wyst ti be? ’Rydw i’n golchi ’nwylo oddi wrth yr holl gonsàrn, ac yn mynd i lawr i’r Sowth am bythefnos o holidays. Mi af adra’r munud yma i roi’r shytars i fyny!" Ac i ffwrdd ag ef.

    Gelwais yn Siop y Sgwâr gyda’r hwyr, ac yr oedd yn dda gennyf weled bod y shytars i lawr, ac nad oedd fy nghyfaill eto wedi cychwyn am y deheudir. Yn wir, edrychai’n hynod gartrefol a phrysur, yn llewys ei grys yn gweini ar gwsmer neu ddau.

    Beth am y Sowth, gyfaill? gofynnais, ar ôl i’r cwsmeriaid ymadael.

    Rhoes Williams winc arnaf; neidiodd yn ysgafn dros y cownter at fy ymyl, ac meddai’n ddirgelaidd yn fy nghlust: "Mae gen i well idea na mynd i’r Sowth, was i."

    O, felly, meddwn i.

    Oes, ebr efô. ’Rwyt ti’n nabod Tomos, Tŷ Pella?

    ’Rydw i’n ei nabod fel y potsiar mwya yn y lle yma.

    Mae’n wir, ebr Williams, ei fod o’n sgut am bry mawr neu ffesant; ond mae o’n gantwr ffair a marchnad hefyd, meddan nhw i mi.

    Beth am hynny? gofynnais.

    Petasa ni, sisialai Williams, yn sgwario Tomos, torri ei fwstás o i ffwrdd a’i rigio i fyny mewn hen siwt briodas sy gen i yn y tŷ ’ma, fasa’i fam ei hun mo’i nabod o tasa hi’n fyw.

    Ond i beth, yn enw rheswm? gofynnais mewn syndod.

    Rhoi Tomos i fyny ar y llwyfan nos Wener fel Eos y Pentan! Be ’ddyliet ti o’r idea? A rhoes Williams bwniad imi yn fy asennau.

    Beth! meddwn i, mewn syfrdandod. Personoli’r Eos?

    Dyna’r gair, ebr Williams.

    Wel, o’r holl gynlluniau gwallgof! meddwn i. "Ddyn glân! ’Wyddost ti beth ydi’r gosb am false pretences?"

    "False pretences fy nain! ebr Williams. ’Does neb ffordd yma’n nabod yr Eos; ac mi ofala’i, fel foreign correspondent y lle ’ma, nad aiff hanas y cwarfod i’r papurau. ’Rydw i wedi crybwyll y peth yn barod wrth Tomos. Ond sh-sh!… Mum’s the word! Mae rhywun yn dŵad i’r siop. Galw yma ar ôl cau; mae’r misus yn mynd i’r tŷ nesa i swpera a chlebran. Mae Tomos yn dŵad… Next, please." A neidiodd Williams dros y cownter i dderbyn y cwsmer a ddaeth i mewn.

    Gan deimlo fel y pryf a fo’n cellwair â fflam y gannwyll, trois i mewn ar ôl cau.

    Eisteddai Williams a Tomos un o boptu’r tân, y naill yn ysmygu a’r llall yn cnoi tybaco. Ar ôl estyn cadair i mi, eglurodd Williams iddo osod y cynllun o flaen Tomos ynghyd â’r telerau, sef punt a phryd o fwyd. Fod Tomos yn cydsynio ond iddo gael chweugain yn rhagor am dorri ymaith ei fwstás trwchus.

    ’Rown i’n deud wrth Tomos, ebr Williams, fod y peth yn afresymol. Petaem ni’n gofyn iddo dorri’i drwyn neu’i glust, fasan ni’n gwarafun dim rhoi chweugain neu ragor o iawn iddo. Ond mwstás! Mi gaiff un newydd sbon danlli yn ei lle cyn pen y mis.

    "Chweugain,

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1