Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Amdani: Byd Bach
Cyfres Amdani: Byd Bach
Cyfres Amdani: Byd Bach
Ebook59 pages38 minutes

Cyfres Amdani: Byd Bach

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A volume of short stories for Welsh Learners at Entry Level, with a glossary on each page. The stories will take the reader to all kinds of unexpected places and to experience various awkward situations which will cause both embarass and goosebumps.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateOct 7, 2023
ISBN9781800995079
Cyfres Amdani: Byd Bach

Read more from Esyllt Maelor

Related to Cyfres Amdani

Related ebooks

Reviews for Cyfres Amdani

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Amdani - Esyllt Maelor

    Diolch i Meleri Wyn James a Helen Prosser am bob cymorth a chyngor.

    Argraffiad cyntaf: 2023

    © Hawlfraint Y Lolfa Cyf. a’r awduron unigol, 2023

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Cynllun y clawr: Sion Ilar

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 80099 507 9

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru

    ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    Annwyl Ddarllenydd¹

    Croeso i Byd Bach!

    Mae saith stori yn Byd Bach. Dan ni wedi sgwennu’r straeon.

    Pwy dan ni?

    Ni ydy criw y Clwb Darllen. Dan ni’n cyfarfod yn Llyfrgell Nefyn. Mae Nefyn ym Mhen Llŷn.² Mae Pen Llŷn yng ngogledd Cymru.

    Mae deg yn y Clwb Darllen a dan ni’n darllen a siarad am lyfrau… a phethau eraill!

    Dach chi wedi darllen y llyfr Dewch i Mewn gan Esyllt Maelor? Dan ni wedi helpu Esyllt i sgwennu’r straeon yn Dewch i Mewn. Ond y tro yma, dyma 8 stori gynnon ni, criw y Clwb Darllen.

    Mae Corentin Bourret wedi sgwennu stori hefyd. Mae Corentin, neu Coco i bawb sy’n ei nabod o, yn byw yn Uwchmynydd ger Aberdaron. Roedd Coco yn gweithio yng Nghaffi Siop Plas yn Anelog. Dan ni wedi bod yn y caffi a dyna sut dan ni’n nabod Coco. Mae Julia yn sôn am y caffi yn ei stori hi. ‘Stori wir’ ydy teitl y stori.

    Dan ni wedi darllen straeon Byd Bach yn y Clwb Darllen a dan ni wedi mwynhau siarad am y straeon. A dweud y gwir, maen nhw wedi gwneud i ni siarad am bob math o bethau. Pethau fel anifeiliaid anwes, gwyliau, pen-blwyddi a chyd-ddigwyddiadau.³ Mae cyd-ddigwyddiadau yn ddiddorol. Mae llawer o gyd-ddigwyddiadau yn Byd Bach. Do’n ni ddim wedi cynllunio⁴ hynny. Dyna chi ryfedd!⁵ Cyd-ddigwyddiad arall!

    Barbara wnaeth feddwl am y teitl Byd Bach. A ‘Byd Bach’ ydy teitl stori Barbara. Mae’n deitl da i’r stori ac yn deitl da i’r llyfr. Dan ni’n sgwennu am y pethau bach pwysig sy’n digwydd yn ein byd bach ni. Mae darn diddorol ar ddiwedd pob stori. Mae yma rysáit,⁶ tips glanhau, tips helpu a syrpreisys sy’n codi calon.⁷

    Gyda llaw,⁸ mae pob stori ond un yn Byd Bach, yn stori wir!

    Gobeithio byddwch chi’n mwynhau darllen y straeon.

    Diolch i chi am ddarllen!

    Anne, Ann ac Ann (y tair Ann!), Fiona, Mary, Barbara, Chris, Fran, Julia, Andi, Esyllt a Coco

    1 Annwyl Ddarllenydd – Dear Reader

    2 Pen Llŷn – The Llŷn Peninsula

    3 cyd-ddigwyddiad(au) – coincidence(s)

    4 cynllunio – to plan, to design

    5 rhyfedd – odd, strange

    6 rysáit – recipe

    7 codi calon – uplifting (lit: to lift the heart)

    8 gyda llaw – incidentally, by the way (lit: by the hand)

    Byd Bach!

    Barbara Custance

    Roedd Non yn codi’r ffôn a goriadau⁹ ei char ac yn mynd allan drwy’r drws ffrynt pan ddwedodd Owain,

    ‘Fyddi di adra yr un amser ag arfer¹⁰ heno?’

    Dyma Non yn ochneidio.¹¹

    ‘Bydda, mi fydda i adra yr un amser ag arfer, mi fydda

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1