Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Amdani: Bywyd Blodwen Jones
Cyfres Amdani: Bywyd Blodwen Jones
Cyfres Amdani: Bywyd Blodwen Jones
Ebook125 pages1 hour

Cyfres Amdani: Bywyd Blodwen Jones

Rating: 4 out of 5 stars

4/5

()

Read preview

About this ebook

A new adaption of the humorous diary of Blodwen Jones, the librarian with a pet goat who dreams of marrying her Welsh tutor. Published to celebrate 20 years since the book first appeared. This edition has been adapted to be a part of the 'Amdani' series at Foundation Level.
LanguageCymraeg
PublisherGomer
Release dateOct 23, 2020
ISBN9781785623424
Cyfres Amdani: Bywyd Blodwen Jones

Read more from Bethan Gwanas

Related to Cyfres Amdani

Related ebooks

Reviews for Cyfres Amdani

Rating: 4 out of 5 stars
4/5

3 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Amdani - Bethan Gwanas

    llun clawrBywyd Blodwen Jones

    Bethan Gwanas

    Gomer

    Cyhoeddwyd yn 2019 gan Wasg Gomer, Llandysul, Ceredigion SA44 4JL

    www.gomer.co.uk

    ISBN 978 1 78562 342 4

    ⓗ y testun: Bethan Gwanas, 2019 ©

    Mae Bethan Gwanas wedi datgan ei hawl dan Ddeddf Hawlfreintiau, Dyluniadau a Phatentau 1988 i gael ei chydnabod fel awdur a darlunydd y llyfr hwn.

    Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr.

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.

    Argraffwyd a rhwymwyd yng Nghymru gan Wasg Gomer, Llandysul, Ceredigion SA44 4JL

    Troswyd i e-lyfr gan Almon.

    Chwefror 9fed – nos Fercher

    Diwrnod cynta dyddiadur¹ Cymraeg Blodwen Jones.

    Mae’r tiwtor Cymraeg, Llew (hyfryd hyfryd) Morgan, wedi gofyn i bawb gadw dyddiadur. Felly dyma fi, a dyma fo. Wnaeth Llew ddeud fod o’n syniad da. Dw i’n cytuno. Bydd cadw dyddiadur yn gwella² fy iaith i, ac yn gwneud i mi feddwl yn Gymraeg. Gobeithio.

    Iawn, felly: Helô, Ddyddiadur!

    Ym … dw i ddim yn siŵr iawn beth i sgwennu³ rŵan.

    Beth am gyflwyno⁴ fy hun?

    Dw i newydd feddwl¹⁴ – gobeithio fydd Llew ddim isio darllen y dyddiaduron …

    Iawn, beth wnaeth ddigwydd heddiw? Dim llawer. Wnes i godi am 8.00 fel arfer, wnes i roi bwyd i’r gath ac mi wnes i gael brecwast. Ond roedd y llefrith off. Dw i newydd chwilio yn y geiriadur – ‘wedi troi’ ydy’r term cywir¹⁵. Ond roedd y llefrith wedi troi, felly roedd y te fel cawl efo croûtons caws. Ych a fi. Felly mi wnes i fwyta fy Weetabix yn sych. Doedd ’na ddim post.

    Es i i’r gwaith yn y llyfrgell erbyn 9.00. Roedd ’na lawer o bost yno ond dim byd diddorol.

    Mi wnes i gael brechdan gaws a phicl i ginio.

    Mi wnes i geisio ffonio’r dyn sy’n cadw geifr¹⁶, ond doedd ’na ddim ateb. O, mae’n ddrwg gen i, mae’n rhaid i mi egluro¹⁷: dw i isio prynu gafr. Pam? Pam ddim? Dw i isio gallu byw yn dda, fel Felicity Kendal yn The Good Life. Dyna pam dw i wedi prynu hadau¹⁸: ffa, moron, tatws, nionod¹⁹ a bresych. A dw i wedi prynu llyfr Grow Your Own Vegetables. Dw i’n edrych ymlaen! A bydd gafr yn bwyta’r gwair i gyd, felly fydd ’na ddim angen prynu peiriant torri gwair²⁰. Dw i ddim yn ddwl!

    Ro’n i adre erbyn 6.00. Wnes i brynu blawd yn Spar yn gynta. Dw i isio pobi²¹ fy mara fy hun hefyd, ond ddim heno. Heno, es i i’r wers Gymraeg. Dw i’n mynd bob nos Lun a nos Fercher, a dw i wrth fy modd yno.

    Dim ond chwech o bobl oedd yn y dosbarth heno. Mae Andrew yn sâl. Da iawn. Mae o’n boen yn y pen ôl. Roedd Llew yn edrych yn hyfryd fel arfer, yn rhywiol²² iawn mewn trowsus du, crys-T gwyn a chrys du. Ro’n i’n gallu gweld fy wyneb yn ei esgidiau fo. Mae o’n ddyn mor daclus, mor lân bob amser. Mae ei wallt brown o’n cyrlio dros ei goler, a does dim dandruff gynno fo (I can’t be bothered to look that up) o gwbl. O, mae’n well i mi gael golwg²³ yn y geiriadur. Wel! Y gair Cymraeg am dandruff ydy ‘cen’. Cen! Wel, dw i’n tynnu yr enw yna allan o fy rhestr enwau babis i’n syth (dw i’n byw mewn gobaith). Sut all rhywun alw ei mab yn dandruff?

    Ond yn ôl at Llew: mae ei lygaid o’n las fel awyr Mehefin (Hah! Impressive or what!) ac mae o fel Richard Gere weithiau. Wel, fel Richard Gere mwy hen.

    Dw i mewn cariad efo fo – ers y diwrnod cynta. Dw i’n toddi²⁴ pan dw i’n clywed ei lais o. Mae o fel llais Richard Burton wedi bwyta mêl. Mae gynno fo lais cryf, cyfoethog ond meddal hefyd. Dw i’n mynd yn boeth wrth feddwl am ei lais o! Dw i isio anfon²⁵ cerdyn Ffolant²⁶ at Llew, ond dw i’n rhy hen i bethau felly. Beth bynnag, dw i ddim yn gwybod ei gyfeiriad o – eto.

    Dyna ddigon am heno. Dw i’n mwynhau cadw’r dyddiadur ’ma. Nos da.

    Chwefror 10fed – nos Iau

    Diwrnod diflas. Daeth tri o bobl i’r llyfrgell heddiw. Doedd neb isio siarad, fel arfer. Dw i’n deud ‘Helô’, maen nhw’n deud ‘Helô’ yn ôl, a dyna ni. Mae’n anodd dysgu siarad Cymraeg mewn llyfrgell. Dw i’n gallu darllen, wrth gwrs, ond dw i wedi cael enough. Digon? Oes gair gwell? Ble mae’r geiriadur? A! ‘llond bol’! Dw i’n hoffi hynny. A bellyful. Ie, dw i wedi cael llond bol o weithio efo llyfrau. Dw i’n gweld llyfrau pan dw i’n cysgu weithiau. Llyfrau mawr hyll efo dannedd melyn. A dw i hefyd wedi cael llond bol o ddarganfod²⁷ condomau yn y llyfrau. Mae pobl yn defnyddio pethau rhyfedd iawn fel llyfrnodau (dyna ydy bookmarks, meddai²⁸ Llew) – ond condomau? Pam? Dw i ddim isio meddwl. Dw i ddim yn cofio beth ydy rhyw²⁹.

    Weithiau, mae pobl yn defnyddio llythyrau fel llyfrnodau. Dw i’n gwybod bod y

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1