Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Stori Sydyn: Bryn y Crogwr
Stori Sydyn: Bryn y Crogwr
Stori Sydyn: Bryn y Crogwr
Ebook66 pages1 hour

Stori Sydyn: Bryn y Crogwr

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A thriller about a tree surgeon who has strange experiences as he treats an old oak tree dating from the rebellion of Owain Glyndŵr. Another title in the short and fast-paced series Quick Reads.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateMar 30, 2015
ISBN9781784611057
Stori Sydyn: Bryn y Crogwr

Read more from Bethan Gwanas

Related to Stori Sydyn

Related ebooks

Reviews for Stori Sydyn

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Stori Sydyn - Bethan Gwanas

    WG_Sponsored_land_col_MONO.epsCLLC_CMYK_06_CYM_MONO_REFLECT.eps

    ISBN: 978 1 78461 114 9

    E-ISBN: 978 1 78461 105 7

    Argraffiad cyntaf: 2015

    © Bethan Gwanas a’r Lolfa, 2015

    Mae Bethan Gwanas wedi datgan ei hawl dan

    Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988

    i gael ei chydnabod fel awdur y llyfr hwn.

    Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio nac fel arall, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr, Y Lolfa, Talybont, Ceredigion, Cymru.

    Mae’r prosiect Stori Sydyn/Quick Reads yng Nghymru

    yn cael ei gydlynu gan Gyngor Llyfrau Cymru

    a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru.

    Argaffwyd a chyhoeddwyd gan

    Y Lolfa, Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    gwefan www.ylolfa.com

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 832782

    Pennod 1

    Roedd Cai wrth ei fodd efo coed erioed. Ac ar ôl dysgu ei hun i ddringo, mi fyddai’n dringo coed o hyd. Allai o ddim peidio.

    Roedd ei dad wrth ei fodd hefyd, yn cofio iddo yntau fod yn dipyn o fwnci pan oedd yn ifanc. Fo ddysgodd Cai sut i ddringo’n well a sut i neidio at gangen oedd ymhell uwch ei ben. Byddai’n rhoi ei ben yn ôl ac yn taflu ei goesau i fyny nes byddai o’n gallu bachu ei sawdl dros y gangen a chodi ei hun i fyny. Mi fyddai o’n dringo’n gyson efo Cai, cyn i’w gefn o ddechrau brifo.

    Doedd mam Cai ddim mor hapus. Gweld y peryg fyddai hi, a gwichian fel rhyw iâr.

    ‘Cai! Tyrd i lawr, Cai! Na, Cai! Mi fyddi di’n disgyn! Paid â dod ata i pan fyddi di wedi torri dy goes!’

    Ond thorrodd Cai mo’i goes. Mi gafodd ambell godwm, a glanio’n galed ar ei gefn unwaith nes ei fod wedi methu anadlu am amser hir. Ond roedd ’na elfen o gath yn Cai, yn ogystal â mwnci. Glanio ar ei draed fyddai o bob amser.

    Doedd o ddim yn dwp yn yr ysgol, ond doedd ganddo ddim diddordeb yn y gwersi. Ar ddiwrnod gwyntog byddai Cai yn syllu drwy’r ffenest ar y coed a’r canghennau yn siglo ’nôl a mlaen yn y gwynt. Ar ddiwrnod braf byddai’r dail yn sgleinio arno, yn sibrwd: ‘Tyrd allan, tyrd aton ni.’ Mi fyddai’n chwarae pêl-droed a rygbi fel pawb arall amser egwyl, ond yn mynnu dringo coeden cyn i’r gloch ganu.

    Pan welodd Cai griw o ddynion yn torri coed ar ochr y ffordd, roedd o wedi gwirioni. Roedd eu gweld fel bod mewn syrcas – yn well na syrcas. Doedd y rhain ddim yn gwisgo teits na tutu gwirion i wneud campau yn yr awyr. Roedd y rhain yn ddynion cryf ac yn gwisgo dillad dynion. Bydden nhw’n dringo â llif gadwyn yn hongian oddi ar eu beltiau ac yn gwneud rhyfeddodau efo rhaffau. Gwyddai Cai yn syth mai dyna be roedd yntau am fod: coedwigwr.

    Pan ddaeth rhyw foi i dorri coeden binwydd anferth yn yr ardd drws nesa, sleifiodd Cai allan o’i lofft i’w wylio wrth ei waith. Roedd o i fod yn adolygu ar gyfer ei arholiadau TGAU. Gofynnodd Cai i’r dyn roi gwers iddo, gwers sut i ddringo ’run fath â fo, fel siani flewog. A chwarae teg, mi gafodd roi cynnig arni, a thrio’i orau efo’r pelvic thrusts. Mae angen gwneud hynny i ddringo coeden efo rhaff pan nad oes canghennau. Roedd o’n anobeithiol i ddechrau, nes i’r boi weiddi:

    ‘Dychmyga mai dynes ydi hi!’

    A dyna fo. Mi ddeallodd, er nad oedd Cai wedi bod efo unrhyw ddynes ar y pryd. Eto i gyd, roedd ganddo syniad go lew be roedd y dyn yn ei feddwl.

    Roedd Cai wedi gadael yr ysgol yn 16 oed, ac wedi gwneud pob cwrs NPTC (National Proficiency Test Certificate) y gallai ddod o hyd iddo. Gwnaeth gwrs aerial rescue, cwrs gofalu am lif gadwyn, sut i dorri coed yn ddiogel, a sut i ddefnyddio llif gadwyn oddi ar raff a harnais. A chwrs cymorth cyntaf ar gyfer coedwigwyr wrth gwrs, neu ‘arboriculturalists’ fel mae rhai coedwigwyr yn licio galw eu hunain.

    ‘Hen lol wirion, os wyt ti’n gofyn i mi,’ fyddai Cai yn ei ddweud. ‘Gair hir, gwirion, anodd ei ddeud, heb sôn am ei sgwennu! Coedwigwr – naci, boi torri coed ydw i, a dyna fo!’

    Roedd o wedi bod yn gweithio i Wil Camlan ers rhyw dair blynedd erbyn hyn. Roedd ’na giang ohonyn nhw wrthi. Doedd Wil ddim yn dda iawn am dalu cyflog, a fiw i rywun sôn am arian overtime. Ond roedd o’n llwyddo i gael digon o waith iddyn nhw, ac yn rhoi hymdingar o barti Nadolig i’w weithwyr bob blwyddyn, chwarae teg. Felly, fyddai Cai na’r hogiau byth yn cwyno, roedden nhw wastad yn cael noson dda a diwrnod i ffwrdd wedyn i ddod dros y parti.

    Ond doedd Cai ddim yn rhy siãr am y job arbennig yma. Ar dir Wil Camlan ei hun roedden nhw, yn ardal Darowen, wrth ymyl Machynlleth. Roedd gan Wil glamp o goedwig yno, ac roedd o’n ysu am glirio rhan ohoni er mwyn codi sied.

    ‘Dwi ddim yn siãr pam mae

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1