Cyfres y Melanai: Edenia: Edenia
()
About this ebook
Read more from Bethan Gwanas
Llinyn Trons Rating: 5 out of 5 stars5/5I Botany Bay Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGladiatrix Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Amdani: Bywyd Blodwen Jones Rating: 4 out of 5 stars4/5Hi oedd fy Ffrind Rating: 4 out of 5 stars4/5Cyfres Amdani: Blodwen Jones A’r Aderyn Prin Rating: 4 out of 5 stars4/5Cyfres y Melanai: Efa Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsStori Sydyn: Bryn y Crogwr Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGwrach y Gwyllt Rating: 2 out of 5 stars2/5Gwylliaid Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres y Melanai: Diffeithwch Du, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsPrawf Mot Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Amdani: Tri Chynnig i Blodwen Jones Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHi yw fy Ffrind Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Mellt: Llwyth Rating: 0 out of 5 stars0 ratings
Related to Cyfres y Melanai
Related ebooks
Cyfres y Melanai: Diffeithwch Du, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsPibgorn Hud, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHallt - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2023 Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres y Melanai: Efa Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsMynd Fel Bom Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Yma: Afallon: Afallon Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsMelltith yn y Mynydd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsA Oes Heddwas? Rating: 2 out of 5 stars2/5Hud a Lled - Hunangofiant Eirian Wyn: Hunangofiant Eirian Wyn Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres y Dderwen: Y Ddwy Lisa - Sgrech y Dylluan: Sgrech y Dylluan Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsO'r Gwlân i'r Gan Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsOchr Treforys o'r Dre Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsSgŵp! - Nofel i Ddysgwyr Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsEdau Bywyd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsStorïwr, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCerdded Mewn Cell Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHufen Afiach Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsMadarch Rating: 2 out of 5 stars2/5O'r Da i'r Direidus Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsPantywennol Rating: 3 out of 5 stars3/5Cyfres Yma: Hadau Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsChwedl Calaffate Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGwaith Alun Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsYsbryd yr Oes - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2018 Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsBreuddwyd Roc a Rôl - Hunangofiant Cleif Harpwood Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsI Ble'r Aeth Haul y Bore Rating: 4 out of 5 stars4/5Yr Hwiangerddi Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsElena Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsChwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsRhedeg yn Gynt na'r Cleddyfau Rating: 0 out of 5 stars0 ratings
Related categories
Reviews for Cyfres y Melanai
0 ratings0 reviews
Book preview
Cyfres y Melanai - Bethan Gwanas
I Alaw Glesni-Griffiths, ac Erin, Cari a Megan o Ysgol Glan y Môr, Pwllheli (bellach) am ddeud pethau neis am Efa ar gwales.com.
Ac i Manon Steffan Ros am fod yn ysbrydoliaeth ac yn ffrind.
Gyda diolch i Rhian Davies o Ysgol y Preseli, Osian Higham o Ysgol Bro Edern, Ceris James o Ysgol Bro Myrddin ac Esyllt Maelor am eu sylwadau gwerthfawr.
Argraffiad cyntaf: 2019
© Hawlfraint Bethan Gwanas a’r Lolfa Cyf., 2019
Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw
Cynllun y clawr: Tanwen Haf
Llun yr awdur: Iolo Penri
Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-78461-734-9
Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol
Adran Addysg a Sgiliau (AdaS) Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru
ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy gan
Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE
e-bost ylolfa@ylolfa.com
gwefan www.ylolfa.com
ffôn 01970 832 304
ffacs 01970 832 782
Nid chwilio am diroedd newydd yw gwir hanfod taith ddarganfod, ond y gallu i edrych drwy lygaid newydd.
(Le véritable voyage de découverte ne consiste pas à chercher
de nouveaux paysages, mais à avoir de nouveaux yeux.)
Marcel Proust
Nid y mynydd rydan ni’n ei orchfygu, ond ni ein hunain.
Syr Edmund Hillary
Pan fydd y byd yn dweud, Rho’r gorau iddi
,
mae Gobaith yn sibrwd, Rho gynnig arall arni
.
Awdur anhysbys
Nid hynod o glyfar ydw i, dal ati
yn hirach gyda phroblemau fydda i.
Albert Einstein
‘Hope’ is the thing with feathers—
That perches in the soul—
And sings the tune without the words—
And never stops—at all—
Emily Dickinson
Y cymeriadau
Efa – cyn-dywysoges Melania
Cyfeillion Efa:
Galena
Cara
Bilen
Dalian
Prad
Id – cawr
Pobl Edenia:
Alenian – disgynnydd i’r Frenhines Dani,
un arall a wrthododd ladd ei mam
Talia – helwraig
Snwy – dyn cryf
Nali – milwr
Brin – milwr
Rhithell – meddyg
Rhun – yng ngofal gwaith tŷ
Gyth – milwr, tad Talia
Lani – gwyddonydd ifanc
Ala – un o filwyr Melania
Y traddodiad yng ngwlad Melania yw fod tywysoges i fod i ladd ei mam, y Frenhines, ar ei phen-blwydd yn 16 oed. Mae hyn, fel ym myd y gwenyn mêl, i fod i sicrhau bod y Frenhines wastad yn ifanc ac ar ei gorau. Ond doedd Efa ddim yn un am ddilyn y drefn ac yn Efa, llyfr cyntaf trioleg y Melanai, cawn ei hanes yn gwrthryfela ac yn dianc gyda chriw o’i ffrindiau agosaf.
Hanes eu taith i diroedd peryglus y Diffeithwch Du oedd yn yr ail lyfr, ac wedi iddynt lwyddo i gyrraedd Edenia gyda chymorth cawr cyfeillgar o’r enw Id, dyw’r bobl sy’n byw yno ddim yn fodlon estyn yr un croeso iddo fo ag i’r gweddill. Ond mae Efa wedi ei hanafu’n ddrwg gan gi gwyllt ac mae ’na ysbyty yn Edenia…
Prolog
M
ae’r gwenyn yn
anniddig. Dyw blodau Melania ddim mor barod ag y buon nhw i ryddhau’r neithdar a fu unwaith mor felys ac mae blas pydredig, hyll ar y paill. Rhaid i’r gweithwyr deithio’n bellach a gweithio’n galetach i gadw a bwydo’r cychod, heibio caeau lliw tywod a choed sy’n colli eu dail yn llawer rhy gynnar, heibio defaid sy’n crafu am welltglas, gwartheg a cheffylau sydd wedi dechrau cnoi rhisgl y coed a moch sy’n tyrchu’r coedwigoedd yn hafnau dyfnion, blêr.
Mae’r gwenyn yn gwybod bod rhywbeth o’i le. Does dim sŵn chwerthin i’w glywed yn y strydoedd a thrwy’r ffenestri; pan fydd pobl yn cerdded yn ôl ac ymlaen o’u gwaith, mae eu traed yn llusgo a’u pennau’n isel; dim ond cyfarth milwyr sy’n atseinio lle gynt bu sgwrsio a thincial chwerthin plant, a does neb wedi gweld Brenhines y bobl ers tro.
Mae breninesau’r gwenyn yn swrth, a nifer anarferol o’u hwyau yn crebachu a phydru, felly mae’r gweithwyr wrthi fel lladd nadroedd yn ceisio creu mwy o freninesau ifanc sy’n ymladd â’i gilydd yr eiliad y byddant yn aeddfedu. Ond mae’r rhain yn rhy wan wedi’r frwydr i wneud fawr ddim.
Mae’r gwenyn yn hedfan yn llawer hirach a phellach i chwilio am gartref gwell, ond prin iawn yw’r rhai sy’n dod yn ôl, a newyddion drwg sydd gan yr ychydig sy’n llwyddo i gyrraedd adref.
Mae rhywbeth mawr o’i le ym Melania.
1
M
ae bywyd yn
hen ast, meddyliodd Galena, gan wasgu ei dwylo yn ddyrnau a chladdu ei hewinedd i mewn i’w chnawd. Trodd i edrych ar ei chyfeillion, pob un yn werth y byd yn grwn, pob un wedi gweithio mor galed i gyrraedd yma, a phob un bellach yn edrych fel petai ei fyd ar fin chwalu’n deilchion. Roedd Efa, ei chyfaill pennaf, tywysoges Melania, fel doli glwt ym mreichiau dau ddieithryn, a’i llygaid ar gau. Doedd dim syndod ei bod hi wedi llewygu; roedd hi wedi colli cymaint o waed wedi i anghenfil o gi ymosod arni.
Doedd hyn ddim yn deg! Roedden nhw wedi llwyddo i groesi’r dŵr o wlad Melania, dŵr oedd yn llawn creaduriaid afiach, peryglus fel brathwyr bodiau a nadroedd sgarlad a’r siarcod hyllaf yn y byd – ac roedd Dalian wedi colli hanner ei goes o’r herwydd. Wedyn roedden nhw wedi teithio am wythnosau drwy erchyllterau’r Diffeithwch Du; wedi llwyddo i ddianc rhag llyffantod oedd eisiau sglaffio eu cnawd, cŵn anferthol oedd am gnoi eu hesgyrn a llosgfynyddoedd oedd am eu llosgi’n llwch. Roedden nhw wedi gofalu am ei gilydd, wedi aros yn dîm clòs, effeithiol a gwneud cyfaill newydd o gawr ar y daith. A rŵan, a hwythau wedi meddwl eu bod wedi cyrraedd tir newydd, diogel a llawn croeso, rhywle lle bydden nhw i gyd yn byw’n hapus, lle na fyddai Efa’n gorfod dilyn traddodiad Melania o ladd ei mam er mwyn cael ei choroni’n Frenhines, roedd popeth yn y fantol! A hynny oherwydd y bobl hyn a’r ddynes dal, denau yma gyda gwallt melyn a du, fel gwallt Efa yn union; gwallt oedd yn dangos ei bod yn perthyn i deulu brenhinol Melania. Ond doedd hon ddim byd tebyg i Efa, meddyliodd Galena. Roedd hon yn ast! Gwrthod gadael i Id ddod efo nhw – a’i alw’n fwystfil? Pa hawl oedd ganddi i ddeud y fath beth, y?
‘Peidiwch chi â meiddio rhoi Efa yn y cwch yna! Ddim nes y byddwn ni’n cael cyfle i drafod hyn yn iawn!’ rhuodd Galena, gan ei synnu hi ei hun hyd yn oed gyda nerth ei llais.
Edrychodd pawb arni’n gegrwth am rai eiliadau, a rhewodd y ddau ddyn oedd yn cario Efa drwy’r dŵr at y cwch.
‘Ond mae hi angen sylw meddyg ar fyrder…’ meddai’r ast drwynsur, yn rhy resymol o’r hanner.
‘Pa brawf sy gynnon ni mai ei lles hi sy gynnoch chi mewn golwg?’ meddai Cara y tu ôl i Galena. Roedd ei llais braidd yn gryg, braidd yn ddiniwed, ond yna cyhoeddodd yn uwch a chryfach: ‘Dydan ni ddim yn eich nabod chi.’
‘Peidiwch â bod yn wirion, mae hi’n berffaith amlwg pwy ydw i,’ meddai’r ddynes, gan edrych i lawr ei thrwyn hir ar Cara, oedd yn denau fel brwynen ac yn edrych fawr iachach nag Efa a bod yn onest.
‘Nac ydy,’ meddai Dalian, a oedd yn dal i sefyll ar lan y llyn gyda’i faglau. ‘Oes, mae gynnoch chi wallt fel Efa, felly mae’n amlwg eich bod chi’n perthyn. Ond does gynnon ni ddim syniad pwy ydach chi.’
‘Iawn, digon teg,’ meddai’r ddynes. ‘Alenian ydy’r enw, a dwi’n un o ddisgynyddion y Frenhines Dani, lwyddodd i ddianc o Felania am yr un rheswm yn union ag Efa. Doedd hithau, chwaith, ddim am ddilyn yr hen arferiad o dywysoges yn gorfod lladd ei mam.’
‘Ond arhoswch eiliad, doedd hi ddim yn Frenhines,’ meddai Cara. ‘Achos chafodd hi mo’i choroni, naddo?’
‘Ddim ym Melania, naddo,’ meddai’r ddynes, gan astudio Cara’n ofalus. Doedd dim byd yn bod ar allu’r llipryn bach tila yma i feddwl yn sydyn, felly. ‘Ond yma, yn Edenia, do, mi gafodd hi ei choroni. Dyna pam wnes i ei galw hi’n Frenhines Dani.’
‘Edenia?’ meddai Bilen. ‘Pa fath o enw ydy hynna?’
‘Yn yr hen amser, roedd un garfan o bobol yn credu mai yn Eden y cafodd y bobol gyntaf eu creu,’ meddai Cara. ‘Mae’r stori mewn llyfr o’r enw y Beibl, a gardd Eden oedd —’
‘Nid dyma’r adeg am wers hanes, sori, Cara,’ meddai Galena. ‘Felly, Alionyn —’
‘Alenian.’
‘Ddrwg gen i – Alenian. Hyd yn oed os ydach chi ac Efa yn rhannu’r un hen nain —’
‘Hen, hen, hen, hen nain,’ meddai Cara.
‘Cara! Cau hi am eiliad, wnei di?’ brathodd Galena, cyn anadlu’n ddwfn i reoli ei hun, ac ymddiheuro i Cara am fod mor bigog gyda hi. Sylwodd fod Efa wedi dod ati ei hun i raddau; roedd ei llygaid hi’n smicio agor beth bynnag. Yna sylwodd fod gwên ar wyneb Alenian, hen wên sych, nawddoglyd. Gwasgodd ei hewinedd i mewn i’w dyrnau eto, cyn ailddechrau. ‘Fel ro’n i’n deud: hyd yn oed os ydach chi ac Efa yn rhannu’r un gwaed, dydach chi ddim yn ei nabod hi a dydy hi ddim yn eich nabod chi. Ond mae hi’n ein nabod ni, ac yn ymddiried ynon ni. Ni ac Id, y dyn clên, caredig rydach chi’n ei alw’n fwystfil, ac yn gwrthod gadael iddo fo ddod efo ni am ryw reswm.’ Trodd i bwyntio at Id, y cawr, a oedd yn ceisio esgus bod ganddo fwy o ddiddordeb yn y ceffylau nag yn y sgwrs.
‘Yn hollol,’ meddai Prad. ‘Oni bai amdano fo, fydden ni byth wedi llwyddo i gyrraedd yma!’
‘Dwi’n ei alw o’n fwystfil oherwydd mai bwystfil ydy o,’ meddai Alenian, gan anwybyddu Prad yn llwyr. ‘Yn wahanol i chi, sydd ddim ond newydd groesi’r Diffeithwch Du, rydan ni wedi bod yma ers blynyddoedd, wedi ein geni a’n magu yma, ac wedi hen arfer efo fo a’i debyg.’
‘A’i debyg? Be? Mae ’na fwy o gewri fatha fo?’ meddai Bilen.
‘Oes,’ meddai Alenian, gan sylwi bod hon, yn wahanol i’r ddwy arall, yn hynod ddeniadol gyda’i choesau hirion a’i gwallt hir, coch. ‘Maen nhw’n cuddio yn y coedwigoedd a’r mynyddoedd, ac yn sleifio liw nos i ddwyn ein cnydau a’n hanifeiliaid ni.’
‘A’n plant ni!’ meddai un o’r dynion oedd yn dal i gydio yng nghorff llipa Efa. ‘Nhw sydd wrthi, yn bendant!’
‘A dyna pam nad oes croeso i gawr yn ein mysg ni,’ meddai Alenian. ‘Iawn? Felly gawn ni fynd ag Efa at ein meddygon ni, os gwelwch yn dda? Dwi wedi deud bod croeso hefyd i’r gweddill ohonoch chi, ond nid y cawr.’
Edrychodd y criw ar ei gilydd eto.
‘Dydyn nhw ddim yn gall,’ meddai Galena, ‘fyddai Id byth yn dwyn plentyn!’
‘Ond Galena, mi nath o dy ddwyn di…’ meddai Cara.
Edrychodd Galena arni’n fud. Do, cafodd ei chipio ganddo un noson dywyll, ond roedd hi wedi hen faddau ac anghofio am hynny. Roedd hi’n meddwl bod y gweddill wedi hefyd.
‘Mae’n ddrwg gen i, Galena, dwi’n cytuno efo ti i’r carn, ond dwi’m yn meddwl bod gynnon ni fawr o ddewis,’ meddai Dalian. ‘Efa sy’n bwysig. Oherwydd Efa y daethon ni yma, ac mae arni angen meddyg – cyn gynted â phosib.’ Trodd i wynebu’r criw wrth y cwch hwylio. ‘Gewch chi fynd â hi,’ meddai. ‘Ond dwi’n dod efo hi.’
‘Na… ddim heb Id,’ sibrydodd Efa yn llesg, â chwys yn amlwg ar ei thalcen. ‘Mae Id wedi’n helpu ni, a fydden ni ddim —’ meddai, cyn dechrau tagu.
‘Mae hyn yn hurt! Cer efo nhw, Efa!’ meddai Cara. ‘Mi fydd Dalian yn edrych ar dy ôl di.’
‘Ty’d ditha hefyd,’ meddai Alenian wrth Cara, gan astudio’r rhwymyn ar ei thalcen a’i hwyneb gwelw. ‘Dwyt ti ddim yn edrych yn rhy iach chwaith. A be am ochr dy wyneb a dy war di?’ gofynnodd i Prad. Roedd marciau’r stêm o’r llosgfynydd yn dal yn ffyrnig goch ar ei groen.
‘Dwi’n iawn. Dim ond poeriad bach gan losgfynydd oedd o. Ond gallai Cara neud efo sylw, yn bendant. Mi fu hi’n anymwybodol am hir ar ôl disgyn oddi ar ei cheffyl, a doedd hi’n cofio dim am sbel.’
‘Ia, cerwch chi’ch tri, mi fydd Id a Bilen a Prad a fi yn iawn,’ meddai Galena. ‘Mi wnawn ni aros nes byddi di wedi llwyddo i gnocio chydig o synnwyr i mewn i ben y ddynes ’ma, Efa.’
Cododd Alenian ei gên a chulhau ei llygaid wrth astudio Galena o’i thraed i’w chorun. Cymeriad cryf, yn amlwg, a digon o hyder am ryw reswm, ond yn sicr nid oherwydd ei golwg: er nad oedd hi’n hyll, doedd hi’n sicr ddim yn yr un cae â Bilen ac Efa. Roedd angen rhoi draenen yn swigen hon.
‘Felly, rwyt ti’n gwneud penderfyniadau ar ran dy gyfeillion, wyt ti?’ meddai. ‘Ro’n i’n meddwl mai Efa oedd y dywysoges yn eich mysg…’
‘Y gair pwysig yn fan’na ydy cyfeillion
,’ meddai Galena, gan godi ei gên hithau yr un mor uchel. ‘Ac mae cyfeillion yn aros gyda’i gilydd. Chi ydy’r un sy’n gwneud hynny’n amhosib i ni. Ond digon teg, be am ofyn i Prad a Bilen be maen nhw am ei wneud?’ Trodd i wynebu ei chyfeillion. ‘Wel? Dach chi am fynd efo hon neu aros efo Id a fi?’
Edrychodd Prad a Bilen ar ei gilydd.
‘Arhoswch funud. Dwi’m yn dallt be ydy’r dewis yn iawn,’ meddai Bilen. ‘Ydach chi’n deud na chawn ni hyd yn oed ymweld