Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Neb Ond Ni
Neb Ond Ni
Neb Ond Ni
Ebook194 pages2 hours

Neb Ond Ni

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Dewi and Siriol are special children. Siriol dreams in vain of running and dancing in pink pumps; Dewi rebels against being called 'stupid'. And no one else knows but them how frustrating it is to be a special child in a society that insists on labelling and ticking boxes. This novel won Manon Rhys the Literary Medal at the 2011 National Eisteddfod.
LanguageCymraeg
PublisherGomer
Release dateAug 8, 2012
ISBN9781848515444
Neb Ond Ni

Related to Neb Ond Ni

Related ebooks

Reviews for Neb Ond Ni

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Neb Ond Ni - Manon Rhys

    image1

    NEB OND NI

    Manon Rhys

    NEB OND NI

    ENILLYDD Y FEDAL RYDDIAITH

    EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU

    WRECSAM A’R FRO 2011

    Gomer

    Cyhoeddwyd yn 2011 gan Wasg Gomer,

    Llandysul, Ceredigion SA44 4JL.

    ISBN 978 1 84851 430 0

    ISBN 978 1 84851 544 4 / e-lyfr

    Dychmygol yw pob cymeriad yn y nofel hon a

    chyd-ddigwyddiad yw unrhyw debygrwydd i

    gymeriad gwirioneddol byw neu farw.

    Hawlfraint © Manon Rhys, 2011

    ‘Tyrd am dro hyd y llwybr troed’, Dafydd Iwan.

    Hawlfraint © Cyhoeddiadau Sain

    Mae Manon Rhys wedi datgan ei hawl dan

    Ddeddf Hawlfreintiau, Dyluniadau a Phatentau 1988

    i gael ei chydnabod fel awdur y llyfr hwn.

    Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran

    o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn system adferadwy,

    na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull, na thrwy

    unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig,

    mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb

    ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr.

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth

    Cyngor Llyfrau Cymru.

    Argraffwyd a rhwymwyd yng Nghymru gan

    Wasg Gomer, Llandysul, Ceredigion.

    ‘Tyrd am dro hyd y llwybr troed

    sy’n cychwyn wrth dalcen y tŷ,

    Ac yna fe gei di weled ryfeddodau lu . . .

    Fe gawn ni redeg rasus

    o lan yr afon i’r llwyni cnau,

    a fydd neb yn gwybod dim am hyn,

    neb ond ni ein dau . . .’

    DAFYDD IWAN

    Cynnwys

    Neb Ond Ni

    Siriol

    Mae Dewi ar goll. Y trydydd tro ers mis. Y pedwerydd, os cyfrwch chi’r mistêc o’i gloi o yn Ysgol Llan noson Miri Dolig. Mistêc i bawb ond Dewi, oedd ’di trefnu’r peth yn glyfar iawn, fel arfar. Mynd i guddio yn y boilar-rŵm a phawb yn deud ‘Nos da’, a’i adal o ar ôl. A neb yn sylwi dim, nes i Dai yr Hwntw Gwyllt ddechra ffônio rownd a rhuthro lawr i’r pentra a beio Mam am beidio mynd â’r ‘crwtyn bach sha thre yn saff’ yn ôl y trefniant. A Mam yn gwadu unrhyw drefniant, a Dai’n ei rhegi i’r cymyla, a Mam yn sgwario fyny iddo fo – mae hi’n jarff o ddynas pan fydd raid – a rhestru’i feia fo, sef ‘diogi, meddwi, a gneud cam mawr â’r hogyn bach’.

    ‘Neglijens, Dai! Dyna ydi o!’

    ‘Neglijens, myn yffarn i!’

    ‘Ia! A titha’n cael get-awê bob tro!’

    ‘Cer o’n ffordd i, fenyw! Ma’n fab bach i ar goll!’

    ‘Ydi! Eto fyth!’

    A Dai’n sbio arni’n gam fatha bwch Tyddyn Isa.

    ‘’Y mai i yw hyn ’to – ife?’

    ‘Does ’na neb yn sôn am fai! Poeni ’dan ni! Fi a pawb yn Llan!’

    ‘Twll ’u tine pawb yn Llan! Nawr cer o’n ffordd i!’

    A Dai’n rhoi gwth i Mam a gweiddi petha rhyfadd nad o’n i’n eu dallt. A phawb yn joinio mewn a finna’n dechra crio. A Dad yn holi’n dawal oni fasa’n well i bawb roi’r gora i’r holl ffraeo a mynd i chwilio am yr hogyn bach? Ac o’r diwadd dyma fynd ffor’ hyn a’r llall a gweiddi enw Dewi dros y lle.

    A finna’n rhynnu yn fy nghadar olwyn ar y sgwâr, yn gwrando ar eu lleisia.

    ‘Tyd yma, Dewi bach!’

    ‘Tyd o ’na’r hogyn da!’

    Fatha galw ar gi neu gath. A finna’n gwbod bod ’na’m pwynt. A beio’n hun, fel arfar. A Mam yn sbio arna i, reit drw’n sbectol i. Fel arfar.

    ‘Siriol?’ medda hi.

    ‘Gwbod dim,’ medda fi.

    A chroesi ’mysadd tu ôl i ’nghefn.

    A chau fy llygid yn dynn.

    Misus Lewis

    Waeth imi siarad â’r wal. Unwaith y bydd hi wedi penderfynu, ’toes ’na’m pwynt rhesymu nac ymbilio na bygwth. Yr un atab gewch chi: ‘Gwbod dim’.

    Ond mae hi’n gwbod. Saff ichi, bob tro.

    Dwi’n gwylltio weithia; nid efo hi – fel deudis i, ’toes ’na’m pwynt. Ond mae Dai’n medru ’mrifo i i’r byw, a finna’n trio gneud y gora medra i dros Dewi, ac wedi gneud erioed. Ei warchod o’n rheolaidd; ei gael o atan ni yn Sŵn-yr-afon, ei fwydo a’i enterteinio. Mi oedd o efo ni dros Dolig ’leni eto, yn y pantomeim ym Mangor, siopa yn Llandudno. A Dai’n feddw yn y Cross. Neu efo’i ffrindia gwirion yn Eryl Môr. Neu’n hel merchaid rownd y lle. A be dwi’n gael yn ddiolch? Rhegi a bytheirio. Nid ’mod i isio diolch. Dwi’n falch o fedru helpu. Wedi trio bod yn gefn i’r ddau erioed. Oherwydd ’tydi petha ddim yn hawdd i’r naill na’r llall.

    Siriol

    Dwi’n nabod Dewi’n well na neb. Pan fydd o isio sylw: chwara’r un hen dricia, mynd i un o’i fŵds bach gwirion, eistadd efo’i ben i lawr yn sbio ar ei draed, a smalio peidio clywad pobol yn holi’r un hen gwestiyna.

    ‘Be ’di’r matar, Dewi bach?’

    Yr un dôn wirion â ‘Be ’di’r amsar, Mistar Blaidd?’

    A finna’n atab, ‘Does dim byd y matar!’

    ‘Ti’n sâl?’

    A finna’n atab, ‘Nac’di’n tad!’

    ‘Ond mi wyt ti’n welw iawn.’

    A finna’n atab, ‘Oer ’di o, yntê?’

    Ac mae rhywun yn siŵr o ddeud, ‘Efo Dewi ’dan ni’n siarad, Siriol!’

    ’Motsh gin i. Fel’na ’dan ni’n gneud, Dewi a finna. Dallt ein gilydd. Wedi gneud erioed.

    Ond mi fydd pawb yn dal i dyrru rownd, ’run fath, a sbecian arno fo fel tasa fo yn rhospital. A’r cythral slei yn gneud yn fawr o’i gyfla. A finna’n disgwyl iddo ddeud hen betha brifo wrtha i.

    Ond waeth be ddeudith o, dwi’n fodlon gweitiad am ei wên a’i ‘Sori, Siriol’.

    Dwi’n gweitiad yn hir iawn weithia. Ond mi ddôn nhw, garantîd.

    Misus Lewis

    Dwi’n gneud be fedra i er mwyn Siriol hefyd, a hwytha wedi’u hannar magu efo’i gilydd. A fynta’n cael mynd-a-dod fel licith o ers oedd o’n ddim o beth. Mi gân nhw amball ffrae a phŵd, ond maen nhw’n dallt ei gilydd. Yn ‘solid’, chadal Elfyn. A da hynny, a hwytha’u dau fel ma’n nhw.

    Elfyn druan – mi gafodd o lond pen gin i ar ôl cael hyd i Dewi’n saff. Ddyliwn i ddim fod wedi arthio arno fo am beidio mynd i jecio’r boilar-rŵm cyn cloi. A ddyliwn i ddim fod wedi cyhuddo Dai o ‘neglijens’. Siarad yn ’y nghyfar o’n i efo’r ddau. Gwres y foment.

    Ond mae Dai’n medru’ch gwthio chi i’r eitha. A finna’n sensitif ynglŷn â Dewi – gorsensitif, ella. Mae Elfyn yn pregethu y dyliwn i gymryd cam yn ôl. A dwi’n cytuno. Nes i rwbath arall ddigwydd. Rhwbath sy’n ypsetio Siriol, yn gneud imi boeni am Dewi. A Duw a ŵyr, mae gin Elfyn a finna faich go fawr yn barod.

    Ond mi ddown ni drwyddi.

    Efo’n gilydd.

    Siriol

    ’Mond weithia y bydda i’n gwylltio. A ’mond weithia mae o’n stiwpid. Fel arfar mae o’n gwenu fatha haul Cwm Rhyd y Rhosyn. (Fo’i hun ddeudodd hynny gynta: ‘Dwi’n gwenu fatha’r haul ar glawr y record, ’tydw?’ Dyna ddeudodd o. Ond mae o wrth ei fodd yn clywad pobol erill yn ei ddeud o.) Beth bynnag, mae o’n medru gwenu’n ddel, ac mi fydd ei lygid glas o’n sheinio fatha sêrs. (Dwi’n gwbod mai ‘disgleirio’ ’di’r gair cywir ac nad glas ’di sêrs.) Dyna pam mai ‘Dewi Smeils’ neu ‘Smeiler bach’ ydi o i bawb, a’u bod nhw’n credu mai fo ’di’r hogyn dela a hapusa yn y byd.

    Ella ei fod o’n ddel. Ond smalio bod yn hapus fydd o. Achos ’tydi Dewi byth yn hapus, ddim go-iawn. A weithia, pan eith petha’n rîli rong, mae o ‘fel hen ddiafol bach y fall’, chadal Mistar Blodyn. Blin, styfnig, ac yn poeni bygar-ôl am neb na dim. (Fydda i ddim yn defnyddio geiria mawr yn aml, ond weithia bach dwi’n teimlo’n well wrth neud.) Crwydro, cuddio, cadw draw am oria. Gneud i bobol boeni, er eu bod nhw’n gwbod y daw o yn ei ôl, ar ei gythlwng, weithia, ei ddillad yn fudr neu’n wlyb neu’n rhacs.

    A phawb yn madda iddo fo bob tro. Am mai ‘Dewi bach ’di Dewi bach’, yntê? Fo a’i fŵds a’i blwmin wynab haul a’i lygid glas a’i wên. Fo a’i ‘Sori, Siriol’.

    Dyna ’neith o heno. Pan ddaw o yn ei ôl am wyth o’r gloch, yn union fel y mae o wedi gaddo.

    Ond be os – ryw noson dywyll, hyll . . .?

    Na, dwi’n gwrthod meddwl petha brifo fel’na.

    Misus Lewis

    Mae’n anodd penderfynu be sy ora: deud dim, neu deud fy neud yn blaen – ‘Deud gormod’, chadal Elfyn – gan ’y mod i’n poeni, hyd at ddagra, weithia. Mae’r hogyn yn cael cam, mae hynny’n bendant. Ond yn cael y gofal penna, hefyd, hyd yn oed gin Dai. Yn enwedig gin Dai. Gwrthddeud dybryd, dwi’n gwbod hynny’n iawn. Ond dyna’r pwynt; rhwng pawb a phopeth, dwi’n drysu’n lân. A’r ‘plusses a’r minuses’ yn troi a throsi yn ’y mhen – yn enwedig pan fydd y nos dywyllaf.

    Be well na chael ei fagu yn Eryl Môr? Tŷ mawr, braf – faint fynno fo o libart, faint fynno fo o ryddid. Pentra Llan fatha carthan amdano, ac ynta’n rêl boi o gwmpas y lle.

    Be dwi’n fwydro? Be well ’di cragan o dŷ mawr i hogyn fatha Dewi? A fynta’n treulio’i amsar i gyd yn ’ratic? A ‘rhyddid’ – be ’di hwnnw? Ffendio dros ei hun ers oedd o’n ddim o beth? Cael mynd a dod fel licith o? Gorfod godda giamocs Dai a’i grônis gwirion?

    A phentra Llan, a’r ysgol? Yn cefnu arno, i bob pwrpas. Yr ysgol ‘ddim yn addas iddo’ – fwy nag oedd hi i Siriol ni. Ysgol Gorlan oedd yr unig atab, meddan nhw, i’r ddau. Mi fuo Siriol ar ei helw yno o’r cychwyn cynta, er gwaetha amball bwl o hira’th. Doedd hi ddim yn hawdd i Elfyn a finna: ffarwelio â hi ar nos Sul, y minibus yn mynd â hi i ben draw’r sir, a’r tŷ’n wag tan nos Wenar. Ond ddaru ni ddygymod â hynny. Mi oedd – a mae ’na – betha gwaeth. Ac mae hitha’n hapus yno, wedi mopio’i phen efo’r athrawon, ‘Tom-a-Jo-a-Cadi’, chadal hitha – yn enwedig Jo – beth bynnag am ‘Mistar Blodyn’ – Mistar Fflowar, y prifathro, druan. Dwi ddim mor siŵr am Dewi. Mae’n anodd gwbod efo fo, ac ynta mor brin ei eiria. Weithia dwi’n rhyw feddwl – meddwl lot, a deud y gwir – na fydda i na neb yn dallt, dim byth, be sy’n digwydd yn ei ben o. Yn ‘y clopa pert ’na’, chadal Dai.

    Neb ond Siriol ni.

    Siriol

    Mynd i grwydro berfadd nos. Dyna un o’i gastia gwaetha. Dyna ddaru o ’chydig wedi’r miri yn Ysgol Llan. Noson rewllyd, lleuad fatha sosar, lot o sêrs. A Dai’n rhuthro lawr Allt Wern yn curo drysa ac yn gweiddi, ‘Ma’ fe wedi mynd!’ A Dad yn deud, ‘Unwaith eto ’Nghymru annwyl!’ a gwisgo’i gôt a gafal yn ei dortsh a mynd i chwilio efo’r dynion erill.

    A finna’n cael perswâd ar Mam i fynd â ’nghadar at y sgwâr. Ac yno buon ni, yn gwylio’r sioe. Lleisia’n galw, goleuada’n bobian fatha sêrs bach gwibio. A Mam yn sbio arna i. A finna isio deud ei fod o’n

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1