Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Rhwng Edafedd - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2014
Rhwng Edafedd - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2014
Rhwng Edafedd - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2014
Ebook191 pages2 hours

Rhwng Edafedd - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2014

Rating: 4.5 out of 5 stars

4.5/5

()

Read preview

About this ebook

Eifion is about to jump off Menai Bridge. He craves an escape from a life of failure. He's failed in his marriage, in business and in his relationship with his family. But at the critical moment when he is about to take the final step into darkness, Dewi comes to disrupt his plans. Winner of the Daniel Owen Prize at the 2014 National Eisteddfod.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateSep 8, 2014
ISBN9781784610470
Rhwng Edafedd - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2014

Read more from Lleucu Roberts

Related to Rhwng Edafedd - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2014

Related ebooks

Reviews for Rhwng Edafedd - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2014

Rating: 4.5 out of 5 stars
4.5/5

1 rating0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Rhwng Edafedd - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2014 - Lleucu Roberts

    Rhwng%20Edafedd%20-%20Lleucu%20Roberts.jpg

    Er cof am Mam a Dad

    Argraffiad cyntaf: 2014

    © Hawlfraint Lleucu Roberts a’r Lolfa Cyf., 2014

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon

    llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac

    at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y

    cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Cynllun y clawr: Sion Ilar

    Llun y clawr: Simon Kitchin

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 78461 003 6

    E-ISBN: 978-1-78461-047-0

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru ar ran

    Llys Eisteddfod Genedlaethol Cymru gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    Mae’r electronau mewn atom carbon yn yr ymennydd dynol felly’n gysylltiedig â phob eog sy’n nofio, pob calon sy’n curo, a phob seren sy’n disgleirio yn y ffurfafen. Mewn bydysawd holograffig, ni ellir ystyried hyd yn oed amser a gofod fel sylfeini, oherwydd mae cysyniadau fel lleoliad yn torri i lawr mewn bydysawd lle nad oes gwahanolrwydd rhwng un peth a’r llall. Yn y fath Superhologram mae gorffennol, presennol a dyfodol yn bodoli’n gydamserol.

    Paradeim Holograffig – Wicipedia

    Hen hosan a’i choes yn eisie – ei brig

    Heb erioed ei ddechre,

    A’i throed heb bwyth o’r ede:

    Hynny yw ‘Dim’, onid e?

    Gwydderig

    Rhan Un

    1

    ’Na beth yw pethe bach!

    I’r fan hyn y daeth hi. Rhyw nunlle rhwng dau le. Twll du’r afon o’i flaen, a thlysau’n wincio ohono yng ngolau’r lleuad, y lli yn addo cynhesrwydd fel cwrlid gwely a’r dim yn denu. A thwll du arall y tu ôl iddo yn llawn artaith, yn gyforiog o ing byw. I’r fan hyn, dotyn du anferth o atalnod llawn wedi traed brain ei fywyd, i’r llonyddwch yn y lli.

    Astudiodd Eifion y rheilins. Cyn uched â’i ysgwydd, ond yn hawdd eu goresgyn, tybiai, wedi’r rhwystrau lu o’i ôl – mor hawdd â chamu drwy frwyn. Edrychodd allan a gweld Eryri’n gwisgo goleuadau’r glannau fel clychau am ei thraed. Canai’r gwynt ei rwndi ar hyd drymiau dur y bont a chodai sŵn yr afon awydd arno i ollwng dŵr. Ta waeth, dôi hynny.

    Symudodd tuag at ganol y bont, heb dynnu ei lygaid oddi ar y Fenai, oedd yn ei wahodd â’i gemau. Gwyddai mai cyflymaf i gyd, gorau i gyd oedd pia hi, yn y tawelwch rhwng dau gar a Phorthaethwy’n cysgu. Nid oedd lle i feddwl, pe bai meddwl o unrhyw werth bellach. Dim ond gwneud, a diwedd arni, ymroi i wely’r afon, fel disgyn i goflaid cwsg. Rhaid oedd rhoi taw ar ofn, ofn y manion – pa un ddôi gyntaf, chwalu pen, boddi ynteu fferru? Câi weld. Neu beidio. Ac wedyn cysgu.

    Roedd ei droed ar farryn isaf y ffens ddur pan glywodd gar yn nesu o gyfeiriad Bangor. Trodd i wynebu’r goleuadau wrth iddyn nhw agosáu ac i’r car arafu. Damia.

    ‘Aright, mate?’ galwodd y gyrrwr wrth agor ei ffenest, ac Eifion wrthi’n cogio cau ei falog.

    ‘Yeah, fine. Just having a piss, like.’

    Prysurodd y gyrrwr trwynsur oddi wrtho tuag at warineb yr ynys. Mynd rŵan, dyna’r unig ateb, gorchmynnodd Eifion iddo’i hun. Trodd eto at bydew ei waredigaeth a rhoi pob dim arall o’i feddwl. Haliodd ei hun eilwaith ar hyd y polyn dur gan wingo wrth i gyhyrau ei freichiau dynnu. Llithrodd ei droed chwith a difarodd Eifion na fyddai wedi gwisgo esgidiau â gwadnau mwy addas na’r treinyrs oedd ganddo am ei draed. Ailystyriodd. Gwthiodd ei droed dde yn erbyn y trawst dur a godai’n urddasol at gopa’r tŵr a gafael yn dynn yn y rheilen uchaf. Hyrddiodd ei gorff tuag ymlaen nes bod ei frest dros y barryn uchaf. Un hyrddiad arall â’i freichiau a…

    ‘Oi!’

    Trodd ei ben a gweld cysgod yn cerdded tuag ato ar hyd y bont. Mynd rŵan. Dim oedi. Câi hwn fod yr adyn byw olaf a welai, er na allai ei weld yn glir am fod golau caled y bont y tu ôl iddo, yn taflu cysgod dros ei wyneb. Câi roi sioe i’r dieithryn, rhoi testun sgwrs iddo ddenu cydymdeimlad merched yng nghornel rhyw dafarn yn rhywle – ‘Druan â chdi, yn dyst i’r fath beth!’ Gadawodd i’w droed dde ddilyn y gweddill ohono a gwthiodd â’i ddwylo nes ei fod yn hongian ar y polyn. Pen i lawr, dyna fyddai orau, un gwthiad arall…

    ‘Oi!’ eto.

    Roedd o bron â’i gyrraedd. Y cysgod. Yna, roedd wedi camu i gyrraedd y golau a ddisgleiriai oddi ar dŵr y bont. Rhyw lipryn o beth â’i gôt law dywyll yn chwifio ar agor dros grys-T a jîns tyllog. Gwallt brown golau careiog yn llyfu ysgwyddau ei gôt, croen ei fochau ac olion hen blorynnod arddegol drosto. Llygaid tywyll gorlawn, rhy fawr i’w wyneb. Rhyw Iesu Grist o beth. Stiwdent, yn dychwelyd adref dros y bont o Fangor wedi i’r tacsi olaf roi’r gorau iddi am y noson.

    Pam oedodd Eifion wedi’r ail ‘Oi’? Pa sgwrs sydd mor bwysig? meddyliodd wedyn. Pam ildio i’r reddf a’i hysgogodd i droi at leisydd yr ‘Oi’ ac a’i gwnâi’n anghymdeithasol iddo beidio ag ymateb, ac yntau ar fin cyflawni’r weithred fwyaf anghymdeithasol oll? Mor hwylus, mor hawdd fyddai hi wedi bod i anwybyddu’r ‘Oi’.

    ‘Stay there!’

    Roedd y dieithryn wedi gafael yn ei draed. Gorchymyn. Gallai ddal i hyrddio, a phwysau ei gorff yn drymach na gallu’r dwylo am ei bigyrnau i’w ddal.

    ‘Push or pull, what shall I do?’ gofynnodd y dieithryn.

    ‘Push!’ gwaeddodd Eifion nerth esgyrn ei ben.

    Oedodd y dieithryn am eiliad, cyn tynnu. Roedd y cwestiwn, a’r anufuddhau wedyn, wedi tarfu digon ar Eifion i alluogi’r dieithryn i’w dynnu gerfydd ei draed yn ôl i sadrwydd y palmant. Wynebodd ei achubwr, ei arteithiwr.

    ‘D’you know the way to knit a sock?’ gofynnodd y Crist-beth i Eifion, heb arlliw o gyffro.

    Rhythodd Eifion arno. Abersock oedd o’n feddwl…?

    ‘What? Go away! Dos o ’ma!’

    ‘Peth yw, ’wy’n treial.’

    ‘Trio be?’ cyfarthodd Eifion.

    ‘Gweu hosan.’

    Am beth i’w ofyn i foi oedd o fewn trwch asgell gwybedyn i beidio â bod! Rhaid mai dyfais i’w rwystro drwy ei ddrysu oedd hi, ymgais i’w gael i bwyllo drwy ddweud y peth cyntaf a ddôi i’w feddwl.

    ‘Gad lonydd i fi!’ stryffagliodd Eifion i weiddi, heb dynnu ei lygaid oddi ar y dyn ifanc a oedd yn ei wynebu.

    ‘Jawl o bethe anodd yw sane,’ meddai’r stiwdent, neu beth bynnag oedd o.

    ‘Dos o ’ma!’ gwaeddodd Eifion, yn fyr ei wynt a’i amynedd, gan deimlo’r dymer yn codi o’i frest.

    ‘Peth yw… peth yw…’ dechreuodd y llall, cyn tewi.

    ‘Peth yw, ffyc off!’

    Trodd Eifion at y twll du dros y rheilins a damio’i hun am adael i chwilfrydedd ymwthio rhyngddo ac ochr draw’r barryn, ochr draw’r boen.

    ‘Bach yn drastic,’ meddai’r dieithryn, gan bwyso yn erbyn y barrau a gwylio’r dŵr gydag Eifion. Trodd ato. ‘Dewi. Dewi Ellis.’ Estynnodd ei law i Eifion ei hysgwyd, a’i gostwng wedyn wrth i Eifion ei hanwybyddu.

    ‘Dos o ’ma, Dewi Ellis,’ ebychodd Eifion yn wan.

    ‘Noson o’r i ladd dy hunan,’ meddai Dewi.

    ‘Pwy ddudodd mai dyna dwi’n neud?’ gofynnodd Eifion yn bwdlyd.

    ‘Ti ddim ’ma i bysgota mecryll, weda i ’ny,’ atebodd Dewi. ‘O’t ti’n edrych fel twat lan ar ben y polyn ’na.’

    ‘Y Samariaid yrrodd di yma?’ holodd Eifion, gan anwybyddu’r gwawd. Edrychodd i gyfeiriad un pen i’r bont, yna’r llall, i weld a oedd rhagor o seintiau bach yn busnesa.

    ‘Y beth? O! Nage. Mynd ’wy. Neu dod. Sai’n siŵr. Ar ’yn ffordd, ta beth.’

    ‘Ar dy ffordd i le?’

    Cododd Dewi ei ysgwyddau. Sylwodd Eifion ei fod yn gwisgo’i grys-T o chwith, a’r label yn codi a gostwng wrth ei wddw wrth iddo siarad.

    ‘Hwyr braidd i fod ar dy ffordd i nunlla. Neu cynnar.’ Ceisiodd Eifion gofio ’nôl drwy darth y wisgi at ryw bwynt pan wyddai faint o’r gloch oedd hi.

    ‘So ’i byth rhy hwyr i drafaelu,’ atebodd Dewi cyn codi llawes ei gôt ac edrych ar ei oriawr. ‘Pedwar o’r gloch, ’bitu fod. Amser gore i fod ar yr hewl.’

    Ddim yr ‘hewl’ yma, ddim i mi, meddyliodd Eifion yn ddiflas.

    ‘Paid gadal i fi roi stop ar dy deithio di.’

    ‘Dda bo fi wedi rhoi stop arnot ti. Neu dy stopo di rhag rhoi stop arnot ti dy hunan. O’n i’n stopo ta beth.’

    Ateb gan hwn i ddiawl o bob dim, meddyliodd Eifion yn chwerw, cyn cywiro’i hun: na, ddim i bob dim.

    ‘Pam na ’sa chdi ’di gwthio pan ddudis i push? Ofn ’sa rywun yn gweld ac yn dy gyhuddo di o fyrdyr oeddach chdi…?’ Pam roedd yr uffar bach wedi gofyn y fath gwestiwn hurt beth bynnag? Pa Iesu sy’n cynnig marwolaeth ar blât?

    Cododd Dewi ei ysgwyddau eto. ‘Push, pull, yr un peth y’n nhw o safbwyntie gwa’nol.’

    ‘’Swn i’n dadla hefo hynna dan yr amgylchiada,’ pw-pwiodd Eifion.

    ‘Off y llall ma’n nhw arfer neido, ife ddim? Nag yw hi’n uwch?’

    ‘Llai o draffic ar hon,’ atebodd Eifion. Pam roedd o’n cael y sgwrs yma? Pam na cherddai o oddi yma, at y car ym Mhorthaethwy, gyrru at Bont Britannia o ffordd yr idiot yma a gwneud be oedd o wedi dod yno i’w wneud? ‘A sut gall hi fod yn uwch? Yr un stretsh o afon ydi o.’

    ‘Ma troedfedd neu ddwy’n neud y byd o wa’nieth pan ti’n treial lladd dy hunan. So ti moyn byw am o’s mewn cader olwyn, yn ffaelu dod i ben â lladd dy hunan.’

    ‘Ti’n egspyrt, wyt ti?’

    ‘Siarad sens ’wy.’

    ‘Sens pwy?’ Edrychodd Eifion ar yr wyneb pantiog. Dyna’i lwc o erioed – lwc mul. Lwc a arweiniodd at y sefyllfa lle roedd yn rhannu pont â ffŵl.

    ‘Sens Shir Gâr. Y sens gore yn y byd.’ Gwthiodd Dewi ei ddwylo i waelod pocedi’r gôt law. ‘Dere draw at y tŵr. Ma ’i’n o’r man ’yn i siarad ar ganol y bont. Fydd hi’n dwymach yng nghysgod y tŵr.’

    ‘Dwi’m isio siarad. Gormod o siarad sy.’

    ‘Gormod o siarad wast,’ cytunodd Dewi, heb swnio’n ddiffuant.

    ‘Ti’n cytuno efo fi. Ti ddim ond yn cytuno er mwyn trio newid ’yn meddwl i. ’Nei di ddim.’

    Pam na fyddai o wedi anwybyddu’r ‘Oi’?

    Ond dilyn Dewi wnaeth Eifion pan drodd a cherdded i gyfeiriad y tŵr. Roedd o’n dweud y gwir: roedd hi’n gynhesach o dan ei gysgod, a’r gwynt yn chwythu’n wannach drwy eu lleisiau. Pwysodd Dewi ar y rêl unwaith eto, ac edrych draw at Bont Britannia. Suddodd Eifion ar ei eistedd a’i gefn at garreg y tŵr. Fedra i’m neud job iawn o ladd ’yn hun hyd yn oed, meddyliodd. Gwyliodd y lli rhwng barrau’r rheilins. Fan’na dwi fod. ’Y mhen i’n racs ar ôl hitio’r graig ar y gwaelod, a fy ysgyfaint i’n llawn dŵr, yn farw braf.

    ‘Fysa chdi’m isio byw tasa chdi’n gwisgo’n sgidia i,’ meddai Eifion.

    Trodd Dewi a throi ei drwyn wrth astudio’r treinyrs am draed Eifion – cystal â dweud ‘Na ’swn, wir’, er bod y rhai am ei draed ei hun mewn tipyn gwaeth cyflwr.

    Teimlai Eifion wedi’i wanu eto gan boen ei ofidiau. Roedden nhw wedi ailddechrau ffrydio drwy ei wythiennau, diolch i hwn. Gofidiau a wisgi, y naill a’r llall ochr yn ochr drwy’i gilydd, a’r wisgi’n lleddfu dim byd. Cododd sgrech o’i stumog. Gadawodd iddi estyn yn hir dros ochr y bont.

    Ni symudodd Dewi. Daliai i ddilyn silwét y glannau o bobtu tafod tew’r Fenai. Plygodd Eifion ei ben yn ei ddwylo a theimlo’r dagrau’n hyrddio ohono. Difarai o waelod ei enaid na fyddai ganddo botelaid arall o wisgi yn y car. Teimlai’r penderfyniad a’i tynnodd at y bont yn pylu, yn llifo allan ohono.

    Roedd Dewi’n siarad.

    ‘Dagre… deigryn.’ Oedodd i chwarae’r geiriau eilwaith dros ei dafod. ‘Deigr oedd yr hen air, mor debyg i dagr. Addas, nag yw e? Fod dagre a dagr mor debyg. Dagr yn achosi deigryn.’

    ‘Cau dy geg!’ tasgodd Eifion ato. Doedd ganddo ddim diddordeb yn ei rwdlan disynnwyr.

    ‘Achos ac effaith yn yr un gair. Pa un ddoth gynta, y deigryn ynteu’r arf i rwygo’r cnawd? Deigryn, ma’n shŵr, yr effaith yn dod cyn yr achos. Ma dagre wedi bod eriôd. A’r Susneg wedyn,’ dechreuodd, ar dân ar ôl rhyw sgwarnog arall. ‘Te-ar a tear, deigryn a rhwygo, y rhwygo’n achosi dagre. Diddorol iawn…’ sibrydodd dros ochr y bont.

    Siaradai fel pe na bai’n gallu goddef peidio â siarad, er mwyn creu sŵn, er mwyn llenwi gwacter.

    ‘Cau dy geg!’ tasgodd Eifion ato eto.

    ‘Ma cŵn yn llefen.’ Anwybyddodd Dewi’r cerydd fel pe na bai wedi’i glywed. ‘Ond ddim am yr un rhesyme â ni. Dagre pethe,’ dechreuodd wedyn, ‘diferyn o ddŵr. Llawn o atome bwy’i gilydd a’r rheini’n llawn o bethe rhy fach i’w gweld, rhy fach i… ’Na beth yw pethe bach! Atome anferthol, ac electrone, protone, niwtrone a cwarcs a’r rheini wedyn yn llawn…’

    Tawelwch. Roedd Eifion wedi codi’i ben i rythu ar yr ynfytyn rhyngddo a’r afon, a’r dagrau’n ludiog ar ei fochau.

    ‘Gwacter!’ Pefriai llygaid Dewi wrth iddo droi at Eifion.

    Rhoddodd Eifion ei ben yn ôl rhwng ei freichiau. Daethai yno i gael gwared ar bob diflastod, a beth gafodd o? Gwers ffiseg.

    ‘Paid â chwara hefo ’mrên i.’ Daeth llais Eifion o blygiadau ei freichiau.

    ‘Ddim fi sy’n whare ’da fe,’ atebodd Dewi’n ddigyffro gan rythu i’r tywyllwch.

    Tawodd y ddau am rai eiliadau, yn ddigon hir i’r diflastod godi eto yn Eifion, fel chwd. Cododd ei ben.

    ‘Sgin i’m byd ar ôl!’ llafarganodd i’r nos ddu.

    Daliai Dewi i wylio’r Fenai.

    2

    Pe bai ganddo fo garej

    Garej go iawn, dim bocs-sirial o beth. Efo tiwbyn plastig ar bob un o’i phedwar pwmp a gliciai’n ôl i’w le ar ôl llenwi’r ceir. A phit, a ramp oedd yn symud i fyny ac i lawr wrth i chi droi’r olwyn fach goch. A lle-siop i dalu am y petrol. A lle-parcio i chwech o geir. A chwech o geir. Llygadai Eifion y cyfan gan ysu, yn methu byw yn ei groen bron oherwydd yr awydd i fynd ati i chwarae â’r ceir bach amryliw oedd wedi’u parcio’n rhes berffaith, a’u drysau a’u bŵts bob un yn ei wahodd i’w hagor.

    ‘Rho im yr hedd na ŵyr y byd amdano,’ dôi llais ei dad o’r gegin. A nodau’r piano uwch ei ben yn ateb efo’r un alaw wrth i Cefni weithio’r emyn â dau fys. Swniai’r nodau’n uchel ym mhen Eifion lle’r eisteddai yn ei gwrcwd o dan y piano, fodfeddi o goesau gwyn Cefni yn ei siorts.

    Ond doedd Eifion ddim yn edrych ar goesau Cefni. Roedd o’n methu’n lân â thynnu ei lygaid oddi ar y garej a eisteddai’n bwysig ar y bwrdd coffi rhwng y soffa a’r ddwy gadair freichiau yn y parlwr. Garej Cefni oedd hi, gwyddai Eifion, garej gafodd Cefni am fod yn hogyn-da yng

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1