Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cadi Goch a'r Ysgol Swynion
Cadi Goch a'r Ysgol Swynion
Cadi Goch a'r Ysgol Swynion
Ebook169 pages2 hours

Cadi Goch a'r Ysgol Swynion

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

An exciting novel about Cadi, who is chosen to enrol at a special school to learn magic. But who are the truly bad people? Cadi and her friends use all kinds of tricks to find the answers. A novel that is appropriate for all ages (especially 9-12 year old readers)!
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateDec 9, 2021
ISBN9781800990845
Cadi Goch a'r Ysgol Swynion

Related to Cadi Goch a'r Ysgol Swynion

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cadi Goch a'r Ysgol Swynion

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cadi Goch a'r Ysgol Swynion - Simon Rodway

    cover.jpg

    I Manon ac Idris

    Hoffwn ddiolch i Eurig Salisbury ac i Caryl Lewis am eu beirniadaeth a’u cyngor, i Meinir Wyn Edwards ac i wasg y Lolfa, ac i’m teulu, yn enwedig i Manon am fy ysbrydoli i ysgrifennu’r stori yn y lle cyntaf.

    Argraffiad cyntaf: 2021

    © Hawlfraint Simon Rodway a’r Lolfa Cyf., 2021

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Cynllun y clawr: Sion Ilar

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-80099-084-5

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    1 – Miss Cilcoed

    Un pnawn, a Cadi newydd gyrraedd adre ac yn bwyta afal wrth ford y gegin, dwedodd Sandra wrthi:

    ‘Newyddion drwg, Cadi. Mae’r ysgol yn mynd i gau wedi’r cwbwl. Ges i alwad gan Mrs Thomas neithiwr.’

    Teimlai Cadi fel petai rhywun wedi ei bwrw yn ei stumog. Rhoddodd hi’r afal i’r naill ochr. Yn sydyn, doedd dim chwant bwyd arni. Roedden nhw wedi brwydro i achub Ysgol Llanfair ers misoedd. Roedd cyfarfodydd wedi’u cynnal yn lolfa Cadi gyda’r nos, a rhieni ei ffrindiau wedi tyrru yno, wedi’u cynhyrfu’n lân, gan daeru na fydden nhw byth yn gadael i’r fath beth ddigwydd, dim i’w hysgol nhw, byth. Roedd Cadi wedi gwrando o’r landin ar leisiau’r oedolion, rhai’n flin, ac eraill dan deimlad. Codai hynny ofn arni, rywsut, ond bob tro y siaradai hi â Sandra neu Dad, bydden nhw’n dweud:

    ‘Paid becso, bach: maen nhw wedi bygwth cau’r ysgol o’r blaen, ond wnaethon nhw ddim. Bydd pob dim yn iawn, gei di weld.’

    Byddai hi wastad yn teimlo’n well wedyn. Un noson cafodd hi a’i brawd bach Gethin aros lan yn hwyr i helpu i lunio placardiau’n dweud ‘Peidiwch â Chau ein Hysgol’, ‘Leave Our School Alone’ a phethau felly gyda phinnau ffelt. Roedd y plant a’r rhieni wedi mynd â’r placardiau mewn bws mini i Aberaeron i brotestio o flaen Adeilad y Cyngor Sir. Roedd hynny wedi bod yn gyffrous: pawb yn canu ‘Bing Bong’, ‘Sosban Fach’ a ‘Calon Lân’ ar y bws, gyda Miss Jones Cae’r Allt yn cyfeilio ar y gitâr. Roedden nhw wedi gweld heddlu mewn siacedi llachar, a newyddiadurwyr â chamerâu. Cafodd Cadi a’i ffrind gorau eu llun yn y Cambrian News uwchben y geiriau: ‘Llanfair pupils Cadi Williams, 9, and Cadi Jenkins, also 9, say hands off our school.’

    Ie, Cadi oedd enw ffrind gorau Cadi: Cadi Jenkins, a bod yn fanwl, ond byddai pawb yn ei galw hi’n Cadi Ddu, oherwydd bod ei gwallt fel plu’r frân, a’n Cadi ni, Cadi Williams, yn Cadi Goch, am fod ei gwallt hi fel gwallt y tegan leprechaun gafodd Gethin gan Dad pan aeth i Ddulyn i wylio’r rygbi un flwyddyn. Gwallt brown oedd gyda Sandra a Gethin, a doedd dim gwallt o gwbl gyda Dad: ‘Shiny’ roedd bois y clwb rygbi yn ei alw fe. Torrodd Mam-gu’r llun allan o’r papur newydd a’i sticio ar y wal â blw-tac. Yna daeth rhywun enwog – doedd Cadi erioed wedi clywed amdani o’r blaen – i siarad mewn rali yn y pentre: roedd Dad wedi’i gyffroi’n lân a chafodd e selfie gyda hi yn y sgwâr. Aeth Sandra i mewn i’r stiwdio radio yn Aberystwyth un diwrnod i siarad. Roedd hi’n rhyfedd clywed ei llais ar y radio, meddyliodd Cadi. Roedd hi wedi gwrando ar y rhaglen ar y we gyda Dad ar ôl yr ysgol. Aeth Sandra drwodd i’r gegin.

    ‘Mae’n gas gen i glywed fy llais fy hunan,’ meddai hi.

    Roedd Cadi wedi mwynhau’r ymgyrch yn fawr. Roedd pawb yn y pentre wedi bod yn fwy cyfeillgar â’i gilydd na’r arfer: wel, pawb ond Mr James Pen-y-Banc, oedd wedi bod yr un mor sarrug ag erioed. Roedd y cyfan wedi bod fel antur fawr, a doedd hi erioed wedi ystyried o ddifri y byddai’r ysgol yn cau go iawn. ‘Bydd pob dim yn iawn’, dyna beth oedd Sandra a Dad wedi’i ddweud o hyd. A nawr, dyma Sandra yn cyhoeddi bod popeth wedi bod yn ofer.

    ‘Ond all hi ddim cau,’ meddai Cadi. ‘All hi ddim!’

    ‘Dwi’n gwbod, cariad,’ meddai Sandra, gan fwytho ei chefn. ‘Mae’n siomedig iawn, ond ’na ni, mae’r penderfyniad wedi’i neud. Sdim byd allwn ni neud nawr.’

    ‘Ond wedest ti bydde popeth yn iawn!’ meddai Cadi, ei bochau’n fflamio. Yn sydyn roedd hi’n gandryll â Sandra, er y gwyddai nad oedd hynny’n deg o gwbl.

    ‘Bydd popeth yn iawn,’ meddai Sandra, ‘gei di weld. Ffindiwn ni ysgol newydd i ti. Galli di fynd i’r ysgol yn Aberystwyth: gall Dad fynd â ti yn y bore ar ei ffordd i’r gwaith. Byddai hynny’n ddigon handi, a gweud y gwir.’

    ‘Sai moyn mynd i ysgol arall,’ gwaeddodd Cadi. ‘Dwi moyn mynd i Ysgol Llanfair.’

    A chyda hynny, cododd a rhuthro lan staer i’w stafell gan gau’r drws yn glep y tu ôl iddi. Taflodd ei hunan ar ei gwely, cydio yn ei hoff dedi a llefain y glaw. Allai hi ddim dychmygu mynd i ysgol arall. Ysgol Llanfair oedd ei hysgol hi, a dyna ni. Roedd hi’n nabod pob twll a chornel, roedd hi’n nabod pob un o’r deunaw o blant, a phob un aelod o’r staff. Roedd Mr Ebenezer yn hen, yn dew, yn farfog, ac yn garedig, yn union fel Siôn Corn, ac wedi dysgu tad Cadi flynyddoedd maith yn ôl. Doedd e ddim mor hen bryd hynny. Roedd meddwl am ysgol fawr, gyda channoedd o ddisgyblion a dwsinau o athrawon, yn ddigon i wneud iddi deimlo’n sâl.

    Yn sydyn, clywodd sŵn rhyfedd, fel petai rhywbeth yn crafu’n erbyn ffenest ei stafell wely. Sychodd ei llygaid â chefn ei llaw, ac edrych i fyny. Roedd jac-do yn sefyll ar sil y ffenest, ei blu mor ddu â gwallt Cadi Ddu, yn syllu arni â llygad gwelw, craff. Rywsut, aeth Cadi i deimlo’n anghyfforddus, felly cododd ar ei heistedd a chwifio ei breichiau i’w ddychryn i ffwrdd. Ond, er mawr syndod iddi, ni symudodd fodfedd. Arhosodd yn union lle roedd e, gan rythu arni o hyd.

    ‘Shŵ!’ meddai Cadi, gan chwifio ei breichiau eto, ond roedd yr aderyn yn hollol lonydd.

    Y funud honno, clywodd Cadi gnoc tawel ar y drws, a llais caredig Sandra yn dweud:

    ‘Ga i ddod i mewn, Cadi?’

    Snwffiodd Cadi, a sychu ei hwyneb yn frysiog.

    ‘Cei,’ meddai’n floesg.

    Taflodd gip sydyn ar y ffenest, ond roedd y jac-do wedi mynd. Agorodd y drws, a dyna lle roedd Sandra, a golwg bryderus ar ei hwyneb pert. Roedd hi’n edrych yn flinedig hefyd, meddyliai Cadi. Llysfam Cadi oedd Sandra. Bu farw mam go iawn Cadi, Gwen, pan oedd hi’n fabi, a doedd Cadi ddim yn ei chofio o gwbl. Doedd hi ddim hyd yn oed yn gwybod sut oedd hi’n edrych, achos doedd hi erioed wedi gweld llun ohoni. Roedd wedi gofyn i’w thad unwaith pam nad oedd dim lluniau o’i mam, ac edrychodd Dad arni’n syn fel pe na bai wedi meddwl am y peth o’r blaen.

    ‘Mae’n rhaid bod rhai yn rhywle,’ meddai’n ddryslyd. ‘Doedd Gwen ddim yn lico cael tynnu ei llun, dwi’n gwbod hynny. Eto, mae’n rhaid bod ambell i un i gael yn rhywle…’

    Ond doedd dim. Y cwbl roedd Cadi’n gwybod oedd bod gan Gwen wallt coch fel gwallt Cadi, a’i bod hi’n hardd iawn. Doedd Dad ddim yn hoff o siarad amdani: roedd yn ei wneud yn drist, siŵr iawn. Roedd Cadi’n teimlo’n drist hefyd bod ei mam wedi marw, er nad oedd yn ei chofio. Byddai hi’n breuddwydio amdani weithiau, er na fyddai byth yn gweld ei hwyneb yn y breuddwydion. Roedd ei thad wedi ailbriodi pan oedd Cadi’n dal yn blentyn bach. Doedd hi ddim yn cofio bywyd heb ei llysfam o gwbl, mewn gwirionedd. Roedd Sandra bob tro’n garedig ac yn famol tuag at Cadi. Eto i gyd, ar ôl i Gethin gael ei eni, teimlai Cadi weithiau bod Sandra’n ei ffafrio fe, gan mai ei phlentyn go iawn hi oedd Gethin. Gallai Gethin fod yn gas ambell waith hefyd yn ei dymer, yn ei hatgoffa nad oedd ganddi fam go iawn. Pan ddwedai hynny, byddai Cadi’n teimlo fel petai pwll mawr o dristwch wedi cronni y tu mewn iddi, ond doedd hi ddim am ddangos hynny. Weithiau byddai mor grac gyda Gethin fel y byddai’n anelu cic ato, ac wedyn byddai’n cael row.

    Daeth Sandra i mewn i’r ystafell, ac eistedd gyda Cadi ar y gwely. Pwysodd Cadi yn ei herbyn a gwynto ei phersawr, yr un roedd hi wastad yn ei wisgo. Roedd hyn yn gysur iddi.

    ‘Dwi’n gwbod bod ti’n siomedig,’ meddai Sandra. ‘Ni i gyd yn siomedig. Ond fydd pethe ddim yn ddrwg i gyd. Cyfle i neud ffrindie newydd. Ac wrth gwrs bydd Cadi a’r lleill yn symud gyda ti.’

    ‘Beth am Tom Jarvis?’ meddai Cadi.

    Roedd Tom Jarvis yn hen fwli cas. Byddai Tom, a’i ffrind Kevin Burgess, yn plagio’r merched yn ddi-baid. Roedd Kevin yn iawn ar ei ben ei hunan, mewn gwirionedd, pan oedd Tom yn absennol o’r ysgol, ond pan oedd Tom yno, byddai’n ei ddilyn fel ci bach ffyddlon a’i gopïo bob cam.

    ‘O, sdim isie becso amdano fe, cariad,’ meddai Sandra. ‘’Sen i’n meddwl bydd ei fam yn ei hala fe i ysgol Saesneg. Roedd hi wastod yn conan bod gormod o Gymrâg yn ysgol ni. Beth bynnag, dim ond am flwyddyn fyddi di yno, cyn symud i’r ysgol fawr.’

    Roedd Cadi’n gwybod bod Sandra yn trio ei chysuro, ond rywsut gwnaeth hyn iddi deimlo’n waeth. Doedd hi ddim yn hoff o newid. Roedd hi’n dymuno i bethau aros yn union fel yr oedden nhw am byth. Doedd dim modd iddi wybod bryd hynny bod popeth ar fin newid yn llwyr.

    ‘Iawn ’te, blodyn,’ meddai Sandra. ‘Beth am i ni gael pitsa a hufen iâ i swper heno? Bydd hynny’n helpu, bydd?’

    Nodiodd Cadi yn fud. Cusanodd Sandra dop ei phen. Cododd a gadael yr ystafell. Oedodd wrth y drws.

    ‘Dere lawr pan ti’n barod, cariad,’ meddai.

    Gorweddodd Cadi ar y gwely, a syllu ar y nenfwd. Ond yn sydyn, clywodd sŵn a barodd iddi godi ar ei heistedd: sŵn crafu wrth y ffenest eto. A dyna lle roedd y jac-do, yn pipo arni ag un llygad gwelw.

    ***

    Gwelodd Cadi’r jac-do’n aml dros y dyddiau nesaf. Rywsut, roedd hi’n siŵr mai’r un un oedd e, er bod pob jac-do’n edrych yr un fath. Pan agorai’r llenni yn y bore, byddai’n eistedd ar y lein ddillad yn yr ardd. Pan gyrhaeddai’r ysgol yn y bore, byddai’n eistedd ar gangen yr hen onnen ar bwys y gât, ac un diwrnod, pan aeth am dro ar ei beic ar ôl yr ysgol, roedd hi’n sicr ei fod e’n ei dilyn hi. Ddwedodd hi ddim gair wrth neb amdano.

    ‘Bydden nhw’n meddwl bo’ fi wedi colli ’mhwyll,’ dwedodd wrthi’i hunan wrth feddwl am y peth.

    Beth bynnag, roedd digon o bethau eraill yn digwydd. Aeth Cadi a Gethin i edrych ar yr ysgol yn Aberystwyth. Roedd y staff i gyd yn gyfeillgar, a gwnaeth rhai o’r merched ymdrech i siarad â Cadi, ond doedd Cadi ddim wedi arfer â gweld cymaint o blant, ac aeth hi yn swil, ac i’w chragen. Prin y dwedodd air yr holl amser roedd hi yno. Wrth adael, gwelodd jac-do’n hel trychfilod yn y gwely blodau.

    Un bore dydd Sadwrn, roedd hi’n bwyta ei chreision ŷd yn y gegin. Roedd Gethin yn gorwedd ar ei fola yn y lolfa’n gwylio Stwnsh Sadwrn, roedd Sandra yn smwddio, ac roedd Dad yn yfed coffi ac yn darllen y papur. Yn sydyn, dechreuodd Pero’r ci chwyrnu’n isel. Roedd yn edrych i gyfeiriad y drws, ac roedd ei wrychyn wedi codi. Edrychodd Dad i fyny o’r tudalennau chwaraeon.

    ‘Be sy’n bod ar y twpsyn o gi ’na, dwed?’ meddai.

    Y funud nesaf, canodd y gloch. Neidiodd Cadi, ac wedyn teimlo embaras. Roedd Pero wedi sleifio’n ôl i’w wely. Rhoddodd Dad ei bapur i lawr ac agor y drws. Ar y stepen roedd menyw dal, osgeiddig mewn sgert a siaced wyrdd tywyll. Roedd ei hwyneb main yn olygus, ond braidd yn llym. Roedd ei gwallt du yn dechrau britho, ac roedd ei llygaid yn welw ac yn graff.

    ‘Fydden i ddim moyn croesi honna,’ meddyliodd Cadi.

    ‘Mr Williams?’ meddai wrth Dad. Roedd ei llais yn glir ac yn awdurdodol.

    ‘Um,

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1