Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Straeon Tic Toc
Straeon Tic Toc
Straeon Tic Toc
Ebook127 pages51 minutes

Straeon Tic Toc

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A lovely collection of bedtime stories based on the popular Radio Cymru 'Tic Toc' series.
LanguageCymraeg
PublisherGomer
Release dateJan 19, 2021
ISBN9781785621208
Straeon Tic Toc

Related to Straeon Tic Toc

Related ebooks

Reviews for Straeon Tic Toc

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Straeon Tic Toc - Amrywiol

    llun clawrGomerGomer

    Cyhoeddwyd gyntaf yn 2016 gan

    Wasg Gomer, Llandysul, Ceredigion, SA44 4JL

    yn unol â threfniant gyda Boom Cymru, yn seiliedig ar Radio Cymru.

    Mae mwy o Straeon Tic Toc ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar wefan Radio Cymru.

    www.bbc.co.uk/storitictoc

    Ⓒ Boom Cymru ISBN 978 1 78562 119 2

    ISBN 978 1 78562 120 8 (ePUB)

    ISBN 978 1 78562 121 5 (Kindle)

    ⓗ y testun: Boom Cymru Ⓒ

    ⓗ y lluniau: Helen Flook Ⓒ

    ⓗ lluniau Cyw a Bent Dant: S4C Ⓒ

    Mae’r awduron unigol a Helen Flook wedi datgan eu hawl dan Ddeddf Hawlfreintiau, Dyluniadau a Phatentau 1988 i gael eu cydnabod fel awduron ac arlunydd y llyfr hwn

    Cedwir pob hawl.

    Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru

    Argraffwyd a rhwymwyd yng Nghymru gan Wasg Gomer, Llandysul, Ceredigion

    Troswyd i e-lyfr gan Almon

    Cynnwys

    Clawr

    Hawlfraint

    Cynnwys

    Cadi a’r Wmffifflwffs

    gan Anni Llŷn

    Cochyn y Clown

    gan Meirion Davies

    Eisteddfod y Pysgod

    gan Rhys Parry Jones

    Y Botel Sos Coch

    gan Bethan Gwanas

    Jwngl Anti Jini

    gan Rhodri Trefor

    Ela a’r Afr

    gan Anna Lisa Jennaer

    Trwyn Taid

    gan Anni Llŷn

    Antur y Siop Fawr

    gan Awel Trefor

    Huw-Bob-Lliw

    gan Beca Evans

    Symud Tŷ

    gan Anni Llŷn

    Diwrnod Arbennig Lleucu Llygoden

    gan Lowri Delve

    Chwarae Mig

    gan Caryl Parry Jones

    Gwen a’r Hances Hud

    gan Rhian Williams

    Waldo’r Gath

    gan Rhiannon Lewis

    Glyn a’i Gysgod

    gan Meirion Davies

    Taten Taid

    gan Llŷr Titus

    Noswyl Nadolig Tegid

    gan Anni Llŷn

    Triciau Ben Dant a Benji

    gan Casia Wiliam

    Y Gragen Hud

    gan Bedwyr Rees

    Cadi a’r Wmffifflwffs

    ‘Rwyt ti’n seren, Cadi!’ meddai Mam.

    ‘O! Mi fyddi di’n un o’r sêr mawr cyn bo hir, gei di weld!’ meddai Nain wedyn. Dyna fyddai mam a nain Cadi yn ei ddweud wrthi bob tro ar ôl ei chlywed yn canu. Roedd gan Cadi lais arbennig, yn llifo fel afon o gwstard llyfn a melys. Roedd hi’n cael llwyfan bron bob tro yn Eisteddfod yr Urdd.

    Roedd pawb yn meddwl mai seren bop oedd Cadi eisiau bod ar ôl iddi dyfu’n fawr. Ond ei breuddwyd hi oedd bod gyda’r sêr go iawn, yn y gofod. Roedd brawd ei thad, Wncwl Ben, yn ofodwr ac roedd ganddo straeon anhygoel am ei anturiaethau yn y gofod.

    ‘Cred ti fi, Cadi, mae ’na gaws ar y lleuad!’ meddai wrthi unwaith.

    Un tro, roedd Wncwl Ben a’r gofodwyr eraill wedi darganfod planed anhygoel lle roedd yna greaduriaid bach fflwfflyd yn byw. Yr Wmffifflwffs. Yn ôl Wncwl Ben, roedd yr Wmffifflwffs yn garedig iawn ac yn hapus o hyd. Byddai o a’r gofodwyr eraill bob amser yn galw heibio i’r blaned ar y ffordd adre o’u hanturiaethau i gael te parti rhyfeddol yn llawn dawnsio a chwerthin gyda’r Wmffifflwffs.

    Ond un diwrnod, wrth i Cadi ymarfer yr unawd ar gyfer rhyw eisteddfod, daeth cnoc ar y drws. Wncwl Ben oedd yno, yn ei wisg gofodwr. Roedd yn edrych yn bryderus.

    ‘Be sy’n bod, Wncwl Ben?’

    ‘Cadi,’ meddai, ‘ry’n ni angen dy help di!’ Dechreuodd Wncwl Ben sôn am yr Wmffifflwffs. Dywedodd eu bod nhw’n ddigalon iawn, a doedd neb yn gwybod pam. ‘Bob tro y bydda i’n dy glywed di’n canu,’ aeth yn ei flaen, ‘mae’n gwneud i ’nghalon i ddawnsio’n hapus! Felly, wyt ti’n meddwl y gallet ti ddod i’r gofod, i blaned yr Wmffifflwffs gyda ni, i ganu iddyn nhw? Dwi’n siŵr y bydden nhw’n hapus iawn wedyn!’

    Ond doedd mam Cadi ddim yn hapus. ‘Paid â bod yn ddwl, Cadi! Nid gofodwr wyt ti!’

    ‘Ond pliiiis, Mam. Dwi eisiau bod yn ofodwr. Dwi’n addo y gwna i ymarfer canu bob dydd ar ôl dod ’nôl. Pliiiis!’ ymbiliodd Cadi.

    Yn y diwedd, cytunodd Mam, ac aeth Cadi gydag Wncwl Ben i’w roced.

    ‘Dyma wisg gofodwr i ti,’ meddai, gan roi rhywbeth tebyg i bowlen pysgodyn aur am ei phen a siwt drwchus, wen amdani. Eisteddodd Cadi’n gyfforddus yn ei sedd yn y roced a chyn pen dim roedden nhw’n saethu trwy’r awyr.

    ‘Wncwl Ben, gawn ni alw heibio i’r lleuad i gael caws,

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1