Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Stori Sydyn: Jackie Jones
Cyfres Stori Sydyn: Jackie Jones
Cyfres Stori Sydyn: Jackie Jones
Ebook75 pages59 minutes

Cyfres Stori Sydyn: Jackie Jones

Rating: 3 out of 5 stars

3/5

()

Read preview

About this ebook

A novel in the short and fast-paced series Quick Reads. This is a mystery story about a lawyer called Jackie Jones who lives her social life on the internet. She has a lot of fun on social network sites, but is she aware of all the dangers ... ?
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateJul 31, 2012
ISBN9781847715654
Cyfres Stori Sydyn: Jackie Jones
Author

Caryl Lewis

Caryl Lewis is a Welsh novelist. She is a two time winner of Wales Book of the Year for her literary fiction and has won the Tir na n-Og Award for best children’s fiction twice. Her novel Martha, Jac A Sianco was adapted for film and won 6 Welsh BAFTAS and the Spirit of the Festival Award at the 2010 Celtic Media Festival. She is on the Welsh curriculum and is a successful screenwriter (working on BBC/S4C thrillers Hinterland and Hidden). The Magician's Daughter is her second English novel for readers of 8+. She lives with her family on a farm near Aberystwyth in Wales.

Read more from Caryl Lewis

Related to Cyfres Stori Sydyn

Related ebooks

Reviews for Cyfres Stori Sydyn

Rating: 3 out of 5 stars
3/5

1 rating0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Stori Sydyn - Caryl Lewis

    Jackie%20Jones%20-%20Caryl%20Lewis%20-%20Sydyn.jpg

    ISBN: 9781847710406 (1847710409)

    E-ISBN 978-1-84771-565-4

    Mae Caryl Lewis wedi datgan ei hawl dan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 i gael ei chydnabod fel awdur y llyfr hwn.

    Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio nac fel arall, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr, Y Lolfa, Talybont, Ceredigion, Cymru.

    Mae’r cynllun Stori Sydyn yn fenter ar y cyd rhwng Sgiliau Sylfaenol Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru. Ariennir y llyfrau gan Sgiliau Sylfaenol Cymru fel rhan o Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.

    Argaffwyd a chyhoeddwyd gan

    Y Lolfa, Talybont, Ceredigion SY24 5AP.

    gwefan www.ylolfa.com

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 832782

    Pennod 1

    ‘Sgidie bant plîs, cariad.’

    Edrychodd Jackie’n gas ar y dyn. Byddai’r edrychiad wedi gallu rhewi dŵr. Cododd hwnnw ei ysgwyddau a chydio’n dynnach yn ei glipbord.

    ‘Drychwch! Nid fi sy’n gneud y rheole.’

    Taflodd Jackie ei bag i’r bocs plastig ac yna plygu i dynnu ei hesgidiau. Clywodd y peiriant yn troi’r belt llydan ac yna’r bocs yn symud o dan y pelydr-X, fel pe bai hi mewn maes awyr.

    ‘Dim cyffuriau-arfau-ffôn-symudol-alcohol. Unrhyw beth a allai achosi niwed?’ gofynnodd y dyn. Roedd y rhestr yn swnio fel un gair yng nghlustiau Jackie, rhestr roedd wedi’i chlywed gymaint o weithiau.

    ‘Na.’

    ‘Camwch drwyddo ’te, plîs.’

    Cerddodd Jackie drwy’r peiriant oedd yn sganio’i chorff. Byddai’r pethau yma bob amser yn gwneud iddi deimlo’n euog rywfodd. Dim sŵn larwm. Doedd ganddi ddim rheswm dros fod yn nerfus a llaciodd ei hysgwyddau ryw ychydig. Troi wedyn a sefyll yno, ei breichiau ar siâp croes wrth i ddwylo’r fenyw sgimio’i chorff.

    ‘Diolch,’ meddai honno o’r diwedd.

    ‘Pleser, fel arfer,’ atebodd Jackie dan ei hanadl. Aeth i wisgo’i hesgidiau. Tynnodd ei siaced amdani a gosod ei bag ar ei hysgwydd. Camodd tuag at y drws gwydr. Agorodd hwnnw heb sŵn a chau’n dawel y tu ôl iddi.

    Roedd drws arall o’i blaen ond roedd Jackie’n gwybod na fyddai’r drws hwnnw’n agor am ryw funud arall. Clywodd lens y camera CCTV yn troi ychydig wrth sganio’i hwyneb. Sylwodd ar yr hen gardiau Nadolig ar y bwrdd hysbysebion yn y man gwag rhwng y ddau ddrws. Ar un cerdyn roedd y geiriau ‘Heddwch a Thangnefedd’ mewn llythrennau mawr aur a choch. Daeth gwên fach dros ei hwyneb. Byddai’r funud hon bob amser mor hir a hithau’n sefyll mewn capsiwl gwydr rhwng dau fyd.

    Meddyliodd am y daith y bore hwnnw. Am y criw o fechgyn ifanc oedd yn gweiddi a gwawdio’r hen bobl ar y trên. Am y dyn tacsi wedyn, heb ddim i’w ddweud ond cyfarth arni fel ci pan gyrhaeddon nhw ddrws y fynedfa. Ac wrth gwrs am y dyn diogelwch, y safety guard, a’i glipbord a wnaeth iddi dynnu’i hesgidiau, a hithau’n dod yma o leiaf unwaith yr wythnos ers blynyddoedd bellach.

    Weithiau, meddyliodd Jackie, roedd y byd y tu allan yn creu mwy o ofn arni na’r byd y tu mewn i’r lle ’ma. Sŵn larwm wrth i’r drws agor. Gwyliodd Jackie’r drws gwydr yn llithro’n agored a thynnodd ei hanadl. Byddai sawl drws arall i fynd drwyddo eto cyn cyrraedd canol y carchar.

    ‘Gadwch i fi gael hyn yn hollol glir yn fy meddwl i,’ meddai Jackie, yn cerdded ’nôl ac ymlaen dros lawr y gell yn araf bach. ‘Rydych chi wedi cael eich cyhuddo o ddilyn y ferch ’ma ers misoedd. Wedi bod yn gwylio’r tŷ am rai wythnosau. Fe weloch chi fod y gŵr yn codi’n gynnar i fynd i’r gwaith. Roedd e’n gadael drws y cefn ar agor ar ei ffordd allan. Wedyn, i mewn â chi i’r tŷ, lan i’r stafell wely, ymosod ar y wraig a’i threisio hi yn ei gwely.’

    ‘Chi’n gwneud i’r peth swnio mor syml,’ sniffiodd Pete Lee a sodro’i lygaid ar Jackie. ‘Pe bawn i wedi gwneud y cwbwl ’na, bydde rhaid ’mod i wedi treulio lot fawr o amser yn paratoi.’ Arhosodd am eiliad. ‘Mae hi’n dweud celwydd, wrth gwrs. Dwi’n rhedeg cwmni peintio, chi’n gweld. Ro’dd hi’n gweithio i un o’n suppliers ni. O’dd hi wastad yn friendly iawn. Cwyno pa mor useless o’dd ’i gŵr hi. Chi’n gwbod fel ma nhw. Gofyn wedyn i fi alw heibo…’

    Stopiodd Jackie gerdded o gwmpas am eiliad. Edrychodd yn syth ar y dyn.

    ‘Chi’n gwybod pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa, on’d y’ch chi?’

    ‘Wrth gwrs. Dyna pam ofynnes i am ga’l y gore i gymryd yr achos. Chi’n dod yn highly recommended.’

    ‘Gan bwy?’

    ‘Hwn a’r llall… ma ’da chi reputation da. Roedd achos Biggs yn legendary. Mae e’n byw allan yn Sbaen nawr, mae’n debyg.’

    ‘Dwi ddim yn rhad, Mr Lee.’

    ‘Dwi’n galler gweld ’ny,’ meddai, ‘a plîs galwch fi’n Pete.’

    Am eiliad, roedd Jackie’n teimlo’i lygaid yn crwydro

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1