Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Pen Dafad: Jac
Cyfres Pen Dafad: Jac
Cyfres Pen Dafad: Jac
Ebook108 pages1 hour

Cyfres Pen Dafad: Jac

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

This is the last novel in the Pen Dafad series, aimed at 11-15 year-olds. Jac finds a dead body in the sand dunes and decides to help Jim, the detective, to solve the crime. Full of adventure, humour and ghastly discoveries!
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateSep 8, 2014
ISBN9781784610210
Cyfres Pen Dafad: Jac

Read more from Guto Dafydd

Related to Cyfres Pen Dafad

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres Pen Dafad

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Pen Dafad - Guto Dafydd

    – Gadael y corff

    Roedd corff marw’n drymach na’r disgwyl.

    Cafodd drafferth i’w godi i fŵt y car: roedd y corff yn dal ac yn llydan.

    Gyrrodd ar hyd y trac anwastad, tywodlyd nes dod at y twyni tywod a’r brwyn tal. Doedd hi ddim yn anodd dod o hyd i le eithaf cudd ynghanol y brwyn. Gwyddai y byddai rhywun yn dod o hyd i’r corff ryw ben, felly doedd dim pwynt gwneud gormod o ymdrech i’w guddio.

    Roedd hi’n noson olau, a’r lleuad yn sgleinio ar y môr distaw; felly, doedd dim angen golau’r car. Ddylai neb weld hyn.

    Doedd dim gormod o waed, diolch byth. Gwnaeth yn siŵr fod y menyg yn ffitio’n dynn, cyn llusgo’r corff o’r car a’i ollwng ar y tywod.

    Â llaw gadarn – pam nad oedd yn crynu? – twtiodd y tei a chau botwm siaced y dyn. Pam? Dim syniad.

    Edrychodd i lygaid glas y corff ar y tywod (wel, edrychodd i’r un llygad a oedd yn dal yn las), a cheisio difaru’r hyn a wnaeth. Ond methodd. Doedd dim dewis ond gwneud hyn. Dyma’r unig ateb.

    Dim sioc. Dim panig, bellach. Meddwl clir. Oedd rhywun i fod i deimlo mwy na hyn ar ôl llofruddio?

    Doedd dim amser i feddwl am bethau felly. Roedd yn rhaid diflannu cyn i rywun sylwi ar y car yn y twyni.

    Aeth yn ôl ar hyd y trac at y clwb golff, yna ar hyd y ffyrdd distaw i’r dre, a pharcio’r car ym maes parcio preifat swyddfa’r cyfreithwyr.

    1 - Sori

    Ar ôl saethu dyn y siop a’i wraig yn sydyn, neidiodd yn ôl i’w gar a mynd am y bont cyn i fwledi’r heddlu ei ddal. Roedd ganddo hanner munud i gyrraedd yr ochr arall, neu byddai’n colli’r cyfan. Cyrhaeddodd gydag eiliad yn sbâr, sgrialu i’r chwith – i wyneb y traffig – a phwyso’r sbardun i’r llawr.

    Reit. Banc ar ochr arall y ddinas oedd ei darged nesaf. Roedd y traffig yn symud yn rhy araf. Damia nhw! Estynnodd ei wn drwy’r ffenest a saethu gyrrwr y car o’i flaen yn ei ben, ond blociodd hynny’r ffordd yn waeth. Doedd dim amdani: trodd y llyw a mynd â’r car i ben y pafin. Allai dim ei atal wedyn; roedd yn rhaid i’r cerddwyr neidio o’r ffordd neu gael eu sgubo i lawr yn farw dan y car… Roedd yn rhaid iddo gyrraedd y banc mewn pryd.

    Clywodd Jac gnoc ar ddrws ei lofft. Anwybyddodd hi. Cnoc arall.

    Ddim rŵan – dwi’n brysur! gwaeddodd.

    Cnociodd ei dad eto a rhoi ei ben rownd y drws.

    Sgen ti funud?

    All o aros? holodd Jac, gan wneud tro handbrec i mewn i iard gefn y banc a pharatoi ei wn.

    Plis, Jac. Diffodd hwnna a gwranda arna i.

    Doedd Dad ddim yn arfer swnio mor daer, felly pwysodd Jac y botwm i oedi’r gêm.

    Be sy?

    Ti’n gwybod bod pethau’n dynn arnon ni ers imi golli ’ngwaith.

    Ydw.

    A’n bod ni wedi trio arbed pres.

    Gwyddai Jac hynny’n iawn. Wyth mis yn ôl collodd Dad swydd dda pan gaeodd y ffatri blastig, ac ers hynny doedd bywyd ddim yn grêt. Roedd ei drowsus ysgol fymryn yn fyr; doedd o ddim wedi bod ar drip ysgol ers misoedd, ac roedd ei fam wedi gorfod cymryd gwaith yn y clwb golff – gwaith bar, coginio, glanhau, unrhyw beth.

    Ia.

    Wel, dydi o’m yn ddigon. Rydan ni’n dal yn brin o bres bob mis.

    O. Wyddai Jac ddim beth i’w ddweud; roedden nhw’n bwyta bîns ar dost dair noson yr wythnos yn barod.

    Felly meddwl oeddwn i… Dwi’n gwybod bod hyn yn anodd…

    Be?

    Y PS, Jac. Mae o werth tipyn a, wel, mi allen ni golli’r tŷ…

    Be?! Y PS oedd ei unig ddihangfa; dim ots pa mor anodd a diflas oedd bywyd go iawn, ym myd y gêm gallai reoli’i dynged ei hun. Ond dydi hynna’m yn deg.

    Dydi bywyd ddim yn deg, Jac. Roedd ar Jac eisiau gweiddi a sgrechian ar ei dad ond allai o ddim siarad. Coelia fi, dwi’n fy nghasáu fy hun am orfod gofyn. Go iawn: dwi’n sori.

    Roedd Jac yn flin, yn claddu’i ewinedd yn ddwfn yng nghledr ei law ac eisiau cicio rhywbeth. Ond allai o ddim gwrthod, ddim â Dad yn ymddwyn mor pathetig.

    Iawn.

    Datgysylltodd Dad y PS a hel y cwbwl i focs, tra oedd Jac yn gorwedd ar ei wyneb ar y gwely.

    Dwi mor sori, boi, sibrydodd wrth fynd i lawr y grisiau.

    Gwrandawodd Jac wrth i’w fam ddechrau gweiddi pan roddodd Dad y bocs ar fwrdd y gegin.

    Be ti ’di neud, Gwyn? Ti’n gwybod faint ma hwnna’n ei olygu i’r hogyn. Dwi ’di dweud wrthot ti: mi ddown ni i ben.

    Ond roedd hi’n rhy hwyr i ddadlau. Caeodd Jac y drws wrth i’w dad ddechrau gweiddi, Sut, ddynas?

    Aeth i sychu’r stêm ac edrych drwy’r ffenest. Syllodd drwy’r gwydr er mwyn ei stopio’i hun rhag crio. Gallai weld darn bach o’r môr o ffenest ei lofft; edrychodd dros doeau’r tai, ar y craeniau uchel ar y safle adeiladu ac ar y sêr pell yn wincio.

    2 - Yr angel yn yr ysgol

    Er mwyn cyrraedd yr ysgol, roedd yn rhaid i Jac gerdded heibio’r archfarchnad, croesi’r bont dros yr afon a phasio safle’r hen ffatri. Pan oedd yn hogyn bach, roedd oglau’r plastig mor naturiol â’r aer; roedd degau o bobol y dre yn gweithio yn y ffatri, a Dad yn eu mysg nhw. Roedd ganddo swydd dda – Dirprwy Reolwr. Roedd amlinell y ffatri’n rhan bwysig o siâp y dre.

    Ond lai na blwyddyn yn ôl, aeth y cwmni oedd bia’r ffatri i’r wal yn sydyn. Roedd rhai’n dweud bod hynny’n beth bwriadol. Caewyd y ffatri’n syth ac roedd Dad allan o waith. Roedd cwmni adeiladu ESB – cwmni mawr yn perthyn i Eric Stevens, adeiladwr cyfoethog lleol a thad i Heledd Stevens, oedd yn yr un dosbarth â Jac – yn mynd i godi tai ar y safle, er bod Dad yn taeru nad oedd hynny’n saff oherwydd y cemegion yn y tir. Aeth pawb yn y dre, bron iawn, yno i weld y ffatri’n cael ei dymchwel: ffrwydron yn llorio’r tyrau concrid yn hawdd. Roedd pobol yn curo dwylo, yn llawn cyffro – ond ddim Dad. Ceisiodd guddio’r peth, ond gwelodd Jac o’n sychu deigryn.

    Brysiodd Jac heibio safle’r ffatri am yr ysgol.

    Ar ôl casglu ei ginio yn y cantîn, edrychodd o gwmpas y byrddau yn y neuadd am le i eistedd. Roedd criw’r ffermwyr mewn sgry`m dynn yn dadlau am dractors; roedd y criw sglefrfyrddio â’u gwallt du a’u croen gwelw yn eistedd yn ddistaw ac yn edrych yn ddiflas ar ei gilydd; roedd Benjamin a Jasper yn chwarae gwyddbwyll; ac roedd ambell griw arall yn taflu

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1