Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Alaw Gobaith
Alaw Gobaith
Alaw Gobaith
Ebook268 pages4 hours

Alaw Gobaith

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A novel for teenagers about Alaw Gobaith, who is grieving for her father and feels that everything and everybody is against her. She suffers from PMDD (premenstrual dysphoric disorder) and tries to come to terms with this by assisting at a local hospital on childrens' wards, and by corresponding with a boy she met on the ferry while returning from Ireland. Will he be able to help her?
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateApr 14, 2023
ISBN9781800994232
Alaw Gobaith

Related to Alaw Gobaith

Related ebooks

Reviews for Alaw Gobaith

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Alaw Gobaith - Rhian Ivory

    Mae’r llyfr hwn i unrhyw un sydd wedi

    bod yn yr ysbyty ac angen ychydig o obaith.

    Ac i bob merch yn ei harddegau: rwyt ti’n ddewrach ac yn gryfach nag y gwnest ti erioed ei ddychmygu.

    Argraffiad cyntaf: 2023

    © Hawlfraint Rhian Ivory a’r Lolfa Cyf., 2023

    © Hawlfraint yr addasiad: Elin Meek

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n

    anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Cynllun y clawr: Alex Dimond

    Llun y clawr: Guy Manning

    ISBN: 978-1-80099-423-2

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru

    ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    Mis Mai

    1

    Dwi’n dringo ac yn pwyso dros reilen y fferi, yn edrych i lawr ar y môr llwyd a garw. Dwi wedi gwneud cawl o bopeth.

    ‘Ti isie smôc?’ mae llais yn holi y tu ôl i fi – llais ‘fe’. Dwi’n cau fy llygaid yn dynn ac yn gweddïo y bydd e’n mynd. Dwi’n arogli tybaco, cryf ond melys, a dwi’n trio peidio ag anadlu i mewn. Dwi ddim yn agor fy llygaid – os nad ydw i’n ei weld e, dyw e ddim yn gallu fy ngweld i. Ond mae’n pwyso yn erbyn y rheilen dwi’n sefyll arni ac mae hi’n ysgwyd.

    ‘Ddweda i ddim, Dyw pethau ddim mor wael â ’ny achos maen nhw, mae’n amlwg, on’d y’n nhw? Mae bywyd yn gachu. Ddim drwy’r amser, dim ond weithiau.’ Mae’n amlwg mai Gwyddel yw e, yn ôl ei acen.

    Dwi’n agor cil fy llygaid. Mae smwt yn diferu ar fy ngwefus uchaf.

    ‘Ti isie siarad?’ mae’n holi. Mae e wedi fy nghlywed i. Mae wedi bod yn fy ngwylio i. Ond dwi ddim yn gwybod beth mae e wedi’i weld neu wedi’i glywed.

    ‘Jyst piss off!’

    Mae’n tynnu ar y smôc am y tro olaf ac yn gwasgu’r sigarét i mewn i’r dec â’i sawdl. Wrth iddo wthio’n ôl o’r rheilen mae hi’n crynu’n wyllt. Mae fy nhraed yn llithro. Mae’n cydio yn fy siaced ddenim. Yn ei dal hi mor dynn, dwi’n methu anadlu. Pan mae’n gollwng gafael, dwi’n syrthio’n ôl yn drwm ar y dec. Dwi wedi colli fy ngwynt.

    ‘Ti isie dweud wrtha i beth yw’r holl weiddi a rhegi ’ma?’ mae’n dweud, gan drio fy nghodi ar fy nhraed. Dwi’n trio’i wthio i ffwrdd ond dwi’n methu sefyll yn syth. Yn y pen draw, dwi’n pwyso yn ei erbyn er ’mod i’n trio peidio; mae’n gynnes ac mae rhyw arogl rhyfedd arno fe, ychydig yn felys. O, dwi’n deall, nid sigaréts ydyn nhw, wir.

    ‘Nagw.’ Dwi’n poeri’r gair allan.

    Nagw, dwi ddim eisiau dweud wrth y bachgen dieithr yma ’mod i wedi methu clyweliad y coleg drama. Yn bendant, dwi ddim eisiau dweud wrtho fe pam mae’r methiant diwethaf yma’n waeth na’r lleill i gyd. Oherwydd Dad.

    Pan o’n i’n ddeuddeg oed, cafodd Dad fenthyg hen gampyr gan rywun arall yn yr adran gerdd a mynd â Mam a fi ar wyliau i Ddulyn er mwyn i ni weld y llefydd oedd yn rhan o’i orffennol – y fflat uwchben y siop bapurau newydd, Stryd Grafton lle roedd e’n arfer bysgio, a Theatr Abbey, lle cwrddodd e â Mam am y tro cyntaf. Roedd Dad yn dweud o hyd y bydden ni’n mynd ’nôl eto, ac yn dangos lluniau i fi ohona i a Mam yn chwarae ar St Stephen’s Green, ac un o Dad a Mam yn edrych braidd yn feddw yn Temple Bar. Roedd Dad mor hapus pan ddywedais i wrtho ’mod i’n meddwl gwneud cais i fynd i Ddulyn. Dywedodd e y bydden nhw’n prynu campyr ac yn dod i ’ngweld i bob gwyliau haf. Dim ond rholio’i llygaid wnaeth Mam. Efallai ei bod hi’n meddwl bod y syniad o fynd i Ddulyn i astudio Drama hyd yn oed yn fwy dwl na syniad Dad am y campyr. Roedd gormod o embaras arna i i holi.

    Doedd neb arall yn ein criw ni wedi meddwl am Iwerddon nes i fi sôn wrthyn nhw am y cwrs yno. Doedd Mr Dafis ddim yn gwybod amdano, hyd yn oed. Dyw Dulyn ddim mor bell â hynny, ddim ond dros y dŵr. Pan glywon nhw’r geiriau ‘Academi Lir, Dulyn,’ gwnaeth pawb gais, bron, hyd yn oed y rhai oedd wedi cael cynnig diamod mewn colegau eraill. Roedd hynny’n teimlo’n ormod, braidd. Efallai y dylwn i fod wedi cadw’r peth yn dawel. Dwi’n cofio’r diwrnod ges i’r llythyr gyda’r dyddiadau ar gyfer yr ail glyweliad. Ro’n i mor falch. Dywedodd Mr Dafis wrthon ni fod cael eich galw am ail glyweliad yn golygu eu bod nhw’n eich cymryd chi o ddifri. Ac ro’n i’n ei gredu e, yn enwedig am y clyweliad canu. ‘Fydd dim gobaith caneri gan neb arall pan fyddan nhw’n dy glywed di, Alaw Gobaith,’ dywedodd e, ac ro’n i’n ei gredu. Ffŵl.

    ‘Wna i ddyfalu ’te?’

    Mae’r bachgen yn fy nhynnu i gilfach sy’n rhoi cysgod rhag y glaw. Mae’n lapio’i siaced ledr am fy ysgwyddau. Mae hi’n drewi o fwg. Dwi’n ei hysgwyd hi i ffwrdd. Mae’n ei rhoi hi ’nôl. Dwi’n rhoi’r ffidl yn y to.

    ‘Dwi ’mond isie dy gadw di’n sych ac yn gynnes. Mae golwg uffernol arnot ti; ti’n crynu’n ofnadwy.’

    Mae’n tanio rhywbeth arall sydd ddim yn sigarét ac yn tynnu arno, fel ei fod yn fflachio’n fyw. Mae’n ei gynnig i fi. Dwi’n ei gymryd – dim syniad pam – ac yn cydio ynddo, gan adael i’r gwres afael yn fy nghroen. Dwi’n ystyried ei daflu i’r môr ond does dim egni ’da fi. Dwi’n ei roi ’nôl iddo.

    ‘Iawn ’te, gad i fi ddyfalu… Ti a dy gariad wedi gwahanu?’

    Dwi’n gwneud rhyw sŵn, fel piffian chwerthin. Dwi’n gobeithio bod hynny’n dweud wrtho fe gymaint o boendod i fi yw ei gwestiynau e. Does ’da hyn ddim byd i’w wneud â bechgyn. Does dim pwynt trio dweud wrtho fe beth yw’r broblem achos dwi ddim yn deall, hyd yn oed.

    ‘A, aros di, ti ddim wedi rhedeg bant, wyt ti? O ddifri? Cachu hwch!’ Mae’n pwyso ymlaen, yn edrych yn ofidus ar fy nillad llaith a ’ngwallt anniben. Mae’n edrych o’i gwmpas fel petai e’n disgwyl gweld yr heddlu neu rywbeth. ‘Dere, dwed wrtha i, wyt ti wedi rhedeg bant?’

    Dwi’n ysgwyd fy mhen ond mae’n dal i syllu arna i, yn llawn gofid am ferch hurt, a dwi ddim eisiau ei weld e rhagor. Dwi’n trio edrych i mewn drwy’r ffenestri sydd wedi stemio, ond mae fy sbectol yn frwnt. Dwi’n tynnu fy nghrys T allan o dan yr haenau eraill ac yn sychu’r sbectol yn lân. Gyda’r sbectol, dwi fwy neu lai’n gallu gweld siapiau’r seddi glas tywyll. Mae fy ffrindiau yno gyda fy athro, yn chwerthin, yn yfed ac yn dathlu. Dyna ble dylwn i fod, gyda Carys a fy ffrindiau, yn lle bod allan fan hyn gyda’r bachgen ’ma.

    ‘O, sori, do’n i ddim yn trio bod yn idiot. Trio tynnu dy sylw di o’n i, i godi dy galon.’ Mae’n gorffen y smôc ac yn ei fflicio i ffwrdd. Mae’r gwynt yn cydio ynddo, ac yn ei rolio dros y dec ac i mewn i’r môr. ‘Gwranda nawr. Riley dwi. Riley Santiago. Do’n i ddim yn dy ddilyn di, dwi ddim isie i ti feddwl ’ny. Dim ond dod mas am smôc fach wnes i, ond wedyn dyma fi’n dy glywed di’n udo ac yn cwyno ac allwn i ddim cerdded bant wedyn, allwn i?’

    Mae’n fy nhroi i o gwmpas, yn araf ac yn dyner. Dwi’n edrych arno fe, y Riley Santiago yma. Mae ei lygaid yn frown o dan amrannau trwm. Mae ei wefusau’n llawn, fel eirinen wlanog aeddfed. Mae ei groen yn dywyll, yn llawn smotiau harddwch a brychni dros ei drwyn a’i fochau, fel petai rhywun wedi ei addurno â phaent ond wedi bod yn rhy brysur i’w lanhau. Mae golwg arno fel y math o fachgen ddylai fod â rhybudd diogelwch arno fe, er mwyn rhoi rhyw obaith i ti ei osgoi e.

    ‘Dwi’n iawn,’ dwi’n dweud yn gelwyddog, gan godi fy ysgwyddau i gael gwared ar ei siaced.

    ‘Oes rhywun alla i nôl i ti? Pwy sy gyda ti ar y fferi?’ Mae’n edrych o gwmpas, heibio i fi, i mewn i’r bwyty.

    Na! Nac oes! Sdim isie neb arna i!’

    Y peth olaf dwi eisiau yw iddo fe ddod o hyd i Mr Dafis neu Carys. Dwi ddim eisiau iddyn nhw ’ngweld i fel hyn.

    ‘Iawn, wel, os nad wyt ti’n gadael i fi nôl rhywun, dwi isie dy rif ffôn di.’

    Mae’n estyn ei law.

    Dwi’n ei anwybyddu.

    Mae’n cerdded at y drws a’i wyneb fel storm.

    Dwi’n rhoi fy llaw ym mhoced fy siaced ac yn estyn fy ffôn. Mae’n dod draw ata i ac yn mynd ag e.

    ‘Dwi’n mynd i roi fy rhif i yn dy ffôn di a dwi isie i ti fy ffonio i, neu anfon tecst, beth bynnag. Dyna’r fargen. Alla i ddim gadael i ti fynd fel ’na, a tithe fel rwyt ti.’

    Er mai rhyw fath o dynnu coes yw hyn, mae rhywbeth o ddifri hefyd, sy’n braf. Mae ei fwriad yn iawn, dwi’n meddwl, ond beth wn i? Dwi’n meddwl tybed a alla i fachu fy ffôn a rhedeg i ffwrdd.

    Mae’n sefyll yn llawer rhy agos ata i, yn cymryd ei amser wrth deipio rhifau a llythrennau. Mae’n gwenu wrth roi fy ffôn ’nôl yn fy mhoced uchaf, cyn fy nhynnu’n ôl ato wrth afael yn ymylon fy siaced. Dwi ddim yn symud i ffwrdd. Mae e’n penderfynu beth i’w wneud nesaf. Dwi’n trio dyfalu. Dwi’n aros am y geiriau.

    ‘Af i ddim i mewn i fan’na i chwilio am dy rieni neu beth bynnag – fuest ti bron â marw pan awgrymes i hynny. Ond dwi isie tecst gen ti wedyn i ddweud Dwi’n fyw neu alla i ddim gadael i ti fynd, a byddwn ni’n sownd wrth ein gilydd fel hyn am byth. Dyna ti isie, ie?’

    Mae’n cloi ei freichiau’n dynn o gwmpas fy nghefn ac yn gwenu arna i eto ac, am eiliad ddwl, dwi’n meddwl ei fod yn mynd i ’nghusanu i. Mae’n gwneud i fi deimlo’n nerfus.

    ‘Ocê! Unrhyw beth i gael gwared arnat ti. O’n i’n iawn cyn i ti gyrraedd!’ Dwi’n ei wthio i ffwrdd.

    Mae’n chwerthin fel petai hyn yn ddoniol. Ond mae’n gollwng ei afael.

    Mae’n cau sip ei siaced ac yn taro’i law ar fy ysgwydd yn ysgafn, fel ffrind, ac mae’r tensiwn yn cael ei dorri, a’r eiliad oedd bron â digwydd yn diflannu. Mae’n camu i ffwrdd fel petai e mewn drama ddoniol ac yna mae’n dechrau siarad eto.

    ‘Nawr, wna i ddim dweud celwydd a honni bydd popeth yn iawn. Ond mae teimlad ’da fi amdanat ti, un bach ond mae’n un da, y ferch ddienw.’ Mae’n agor y drws, gan godi ei draed yn ofalus er mwyn peidio â baglu.

    ‘Alaw!’ dwi’n gweiddi, eiliad cyn i’r drws gau. ‘Alaw Gobaith yw’n enw i,’ dwi’n ychwanegu, rhag ofn iddo fe feddwl ’mod i’n gweiddi geiriau dibwrpas ato fe.

    Mae’n codi ei law i ddweud hwyl fawr – neu Clywais i ti, neu Ocê – ac mae’n cerdded i mewn i’r bwyty llawn. Mae’r fferi’n canu ei chorn swnllyd wrth gyrraedd y dociau. Ry’n ni gartre yng Nghymru fach.

    2

    Mae’r daith adre yn y bws mini gyda Mr Dafis a’r gweddill yn hunllef. Mae fy wyneb yn dweud y cyfan pan mae Mam yn cyrraedd – yn hwyr. Mae ei Mae’n ddrwg ’da fi yn syrthio’n fflat ar y palmant a dwi’n methu’n lân â rhoi cwtsh ’nôl iddi wrth iddi lapio’i breichiau amdana i. Dwi’n aros yno, yn llipa, gan adael i’w Dim ots hi lithro oddi arna i fel dafnau glaw.

    Dwi’n gallu gweld ei bod hi’n canolbwyntio’n llwyr wrth yrru allan o’r maes parcio. Mae lorri’n dod tuag aton ni ac yn canu corn, ac mae hi’n dweud rhywbeth dan ei gwynt cyn dal fy llygaid. Mae hi’n chwilio am rywbeth i’w ddweud er mwyn torri’r haenau o dawelwch llethol yn y car, yna mae hi’n codi sain y radio.

    Dwi’n gwybod ei bod hi’n meddwl ’mod i’n fethiant, er fydd hi ddim yn dweud hynny byth. Roedd hi wedi sôn wrth bawb yn y gwaith. Dwi’n gwybod oherwydd welais i e dros Facebook i gyd un noson pan oedd hi wedi gadael ei thudalen ar agor ar ei ffôn bach. ‘Mor falch bod fy merch yn cael clyweliad arall yn Nulyn. O’n i’n gwybod y byddai hi’n cyrraedd yr 2il gam ar gyfer Academi Lir!’

    Ac roedd hi wedi postio rhagor o bethau gyda wynebau hapus. Do’n i ddim eisiau iddi roi fy newyddion ar Facebook, ond ar yr un pryd roedd y ffaith ei bod hi’n falch ohona i’n gwneud i fi deimlo’n dda. Beth sydd ganddi i fod yn falch ohono fe nawr?

    ‘Felly sut aeth pethau i Carys ac Anwen? Mae’n dalcen caled. Mae rhai ysgolion drama’n derbyn llai nag un y cant o’r rhai sy’n gwneud cais, ti’n gwbod,’ medd Mam wrtha i, gan swnio fel petai hi wedi llyncu prosbectws, neu ei bod hi wedi bod yn darllen Sut i Siarad â’ch Plentyn yn ei Arddegau. Dwi’n gwerthfawrogi’r ymdrech, wir nawr, ond dwi eisiau iddi roi’r gorau i drio gwneud i bopeth fod yn well. Dwi’n gwybod ei bod hi ar fin gofyn beth aeth o’i le. Ond dwi’n methu dweud wrthi hi na Mr Dafis nac wrth Carys hyd yn oed. Oherwydd dwi’n methu cofio.

    ‘Aeth Osian drwodd i’r diwrnod gweithdai. Aeth Anwen ddim drwodd chwaith ond mae hi wedi cael cynnig amodol o LIPA yn Lerpwl, sy’n wych,’ dwi’n gwthio’r geiriau allan, ond dwi ddim o ddifri. ‘Cafodd Carys ei gwrthod ond mae’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd yn debygol o’i galw hi’n ôl.’ Mae fy llais yn swnio’n chwerw. Nawr mae Osian wedi cael cynnig gan Ysgol Theatr Birmingham a gan Italia Conti. Mae’n debygol o gael cynnig yn Academi Lir hefyd – mae gormod o ddewis gyda fe.

    ‘Mae’n ddrwg ’da fi, dwi’n gwbod cymaint ro’t ti isie hyn.’ Mae hi’n gwasgu ar y sbardun fel petai cyrraedd adre yn mynd i ateb fy mhroblemau i gyd. Galla i fentro mai’r peth cyntaf bydd hi’n ei wneud ar ôl cyrraedd yw cynnig paned o de neu awgrymu ’mod i’n mynd â Cariad am dro i glirio ’mhen i.

    ‘Diolch, Mam.’ Dwi’n cau fy llygaid ac yn gobeithio’i bod hi’n deall. Dwi’n pwyso ’mhen yn ôl yn erbyn y sedd, gan ddychmygu sut mae’r heol yn troelli wrth i ni nesáu at gartre. Y lle olaf dwi eisiau bod.

    ‘Alaw, dwi’n mynd â Cariad am dro… Ti isie dod?’ Mae Mam yn galw arna i.

    Dwi’n ei hanwybyddu. Dwi’n taflu fy mag ar fy ngwely, yn cau’r drws ac yn eistedd ar y llawr.

    ‘Alaw? Dwi’n mynd ’te.’

    Dwi’n aros nes i fi glywed drws y cefn yn cau gyda chlic ac yna dwi’n codi eto. Dwi ddim yn gwybod beth i’w wneud â fi fy hunan. Dwi ddim eisiau bod yma, yn fy stafell, ond dwi ddim yn gwybod ble i fynd chwaith. Dwi’n prowlan o gwmpas fy stafell wely, ond does dim llawer o le felly dwi’n chwarae ychydig o gerddoriaeth. Dwi’n gorwedd ar y gwely ac yn sylwi bod y poster o Macbeth gyda Judi Dench fel Lady M yn dechrau dod oddi ar y wal. Dwi’n trio’i sticio’n ôl ond mae’r Blu Tack wedi sychu. Dwi ddim eisiau i’r Fonesig Judi edrych arna i fel ’na – yn feirniadol. Felly dwi’n rhwygo’r poster oddi ar y wal yn llwyr, gan ei wasgu’n dynn yn fy llaw nes bod yr ymylon yn torri fy nghroen. Dwi’n rhwygo’r prosbectws ar gyfer Academi Lir, sy’n anodd. Alla i ddim dioddef gweld wynebau siriol y myfyrwyr sy’n disgleirio o bob tudalen. Dwi’n rhwygo pob llun i lawr o’r bwrdd pinnau: fi yn chwarae Pioden yn Un Bore Mawrth a’r Ferch yn Y Tŵr. Dwi’n rhwygo’r llun ohona i yn fy hoff ran fel Maria yn Sŵn y Gân ac yn eu gwthio i gyd i mewn i’r bin sbwriel newydd, gan adael i’r pinnau drywanu fy llaw. Mae’r bin yn rhy lawn. Dwi’n ei wthio i mewn, yn ei wasgu, ac yna dwi’n ei fwrw. Dwi’n bwrw’r bin â chledr fy llaw.

    Dwi’n ei ddyrnu.

    Yn ei gicio.

    Yn ei fwrw eto. Yn galed.

    Mae’n hollti i lawr y canol fel petai mellten wedi’i daro.

    Dwi’n teimlo cywilydd yn fy stumog. Dwi newydd falu clawr bin newydd sbon ac mae crac enfawr yn rhedeg i lawr ei ochr. Dwi’n trio gwthio’r ymylon ’nôl at ei gilydd fel nad yw’r difrod mor amlwg, ond yn ofer. Dwi’n gwybod ’mod i wedi’i fwrw, ond doedd e ddim yn teimlo mor galed â hynny, ddim yn ddigon i’w hollti’n ddau. Does bosib ei fod e mor hawdd i’w dorri?

    Mae amser yn mynd heibio; wn i ddim faint. Dwi’n eistedd ar y llawr a ’ngwynt yn fy nwrn, yn edrych o gwmpas ar y llanast dwi wedi’i wneud. Fy nillad wedi’u taflu’n wyllt o’r bag. Cadair y ddesg ben i waered, a’r olwynion yn troi’n ddi-glem, ac un o’r globau eira sydd ’da fi wedi torri, gan adael pwll bach o ddŵr ar fy nesg, a darnau cul o wydr yn nofio ynddo.

    Dwi’n credu bod rhywbeth yn bod arna i.

    Cyn i ni adael i fynd i Ddulyn, wnes i addewid mawr i Mam – petawn i ddim yn llwyddo yn y clyweliad hwn, byddwn i’n rhoi’r gorau i drio mynd i goleg drama. Roedd Mam wedi cyfrif ei bod hi wedi gwario bron i £60 ar bob clyweliad, ac ar ben hynny roedd y costau teithio i fynd ’nôl ac ymlaen – yr hostel yn Nulyn, y lle gwely a brecwast yn Llundain a’r mannau eraill, pob un o’r mannau eraill. Roedd hi wedi cytuno i adael i fi wneud cais am bum coleg drama a dim rhagor. Es i amdani, gan feddwl fyddai dim angen i fi wneud mwy na thri chais ond bod gwell bod yn saff: Lerpwl, Caerdydd, Llundain, Manceinion, ac yna’r pumed clyweliad, yr olaf, yn Nulyn.

    Ond yr unig reswm i fi wneud yr addewid oedd do’n i byth wedi meddwl y byddwn i’n methu. Hyd at nawr mae popeth wedi bod yn hawdd. Dwi wedi cael yr holl rannau ro’n i wedi’u ffansïo. Mae cynllun ’da fi ers i fi fod yn blentyn bach – pantomeimiau, cyngherddau, grŵp opera ieuenctid, dramâu ysgol, clwb drama, theatr ieuenctid, canu yn y corws mewn sioeau cerdd, ysgol ddrama yn ystod gwyliau’r haf pan oedd Mam a Dad yn gallu fforddio talu, TGAU Drama, ac yna Safon Uwch Drama cyn cael clyweliadau ar gyfer Coleg Drama. Beth dwi i fod i’w wneud nawr? Mae Mam yn sôn am Gynllun B o hyd, ond rhywbeth i bobl sy’n methu yw Cynllun B.

    Wnes i byth feddwl,

    ddim unwaith,

    hyd yn oed am un eiliad fach, y byddai angen un arna i.

    3

    ‘Alaw Gobaith! Ti’n dod i fwyta dy de neu beidio? Mae Cariad yn ei lygadu e!’ Mae Mam yn gweiddi dros y gerddoriaeth. Dwi’n clywed drws y ffwrn yn cau’n glep, sŵn cyllyll a ffyrc yn clecian a Cariad yn ddiamynedd – mae hi bob amser yn chwilio am fwyd. Dwi’n diffodd y gerddoriaeth, yn ateb neges arall gan Carys, gan ei sicrhau hi ’mod i’n iawn. Does neb sy’n dweud ‘dwi’n iawn!’ yn golygu hynny go iawn ac mae Carys a minnau’n gwybod hynny. Dwi’n gwthio fy ffôn i boced ôl fy jîns ac yn mynd lawr llawr.

    Dwi’n eistedd wrth y bwrdd ond mae Mam ar ei thraed o hyd. Anghofiais i ei bod hi’n mynd allan heno. Dwi’n edrych ar fy mhlât i. Esgus coginio yw taten a ffa pob. Mae cwpanaid o de’n oeri nesaf at fy mhlât. Dwi’n methu dioddef te oer ond dwi’n ei sipian er mwyn peidio â brifo’i theimladau hi. Doedd dim rhaid iddi goginio i fi heno, ddim a hithau’n noson y Clwb Darllen. ‘Diolch, Mam, mae hwn yn edrych yn wych.’ Dwi’n trio swnio’n ddiffuant.

    ‘Dwi’n cael fy nhalu fory. Gallen ni gael bwyd neis i’r penwythnos, meal deal hyd yn oed, falle? A gallen ni fynd i’r dre. Byddai’n dda cael ychydig o ddillad newydd i ti ar gyfer dechrau gweithio yn yr ysbyty yng Nghaerdydd, nes byddwn ni’n gallu archebu dy flows di. Dwi’n siŵr bod sêl mewn sawl siop. Bydd e’n ddechrau cyfnod newydd mis nesaf, ar ôl i ti orffen dy arholiadau,’ mae hi’n siarad yn ddi-stop, yn nôl allweddi’r car ac yn gwenu wrth fynd am ddrws y cefn.

    ‘Diolch am fy atgoffa i,’ dwi’n dweud o dan fy ngwynt.

    Mae hi’n aros wrth y drws. Dwi’n gwylio’i hysgwyddau hi’n codi, yn llawn tensiwn, ac yna’n disgyn gydag ymdrech. Dwi’n gwybod ei bod hi’n gwneud

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1