Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Wyneb yn Wyneb
Wyneb yn Wyneb
Wyneb yn Wyneb
Ebook164 pages1 hour

Wyneb yn Wyneb

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Twm is a thief, a cheat and a bully. But something is missing in his life and he doesn't know why. One dark night, when Twm is out thieving, he comes face to face with his fate ... and discovers a shocking truth that changes his life forever.
LanguageCymraeg
PublisherAtebol
Release dateOct 17, 2023
ISBN9781801064200
Wyneb yn Wyneb

Related to Wyneb yn Wyneb

Related ebooks

Reviews for Wyneb yn Wyneb

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Wyneb yn Wyneb - Sioned Wyn Roberts

    Cyhoeddwyd gyntaf yng Nghymru yn 2023 gan Atebol Cyfyngedig, Adeiladau’r Fagwyr, Llanfihangel Genau’r Glyn, Aberystwyth, Ceredigion SY24 5AQ

    Hawlfraint y testun a’r lluniau © Sioned Wyn Roberts 2023

    Hawlfraint y cyhoeddiad © Atebol Cyfyngedig 2023

    Anfoner pob ymholiad hawlfraint at Atebol

    Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i drosglwyddo mewn unrhyw ffurf neu drwy unrhyw fodd, electronig neu fecanyddol, gan gynnwys llungopïo, recordio neu drwy gyfrwng unrhyw system storio ac adfer, heb ganiatâd ysgrifenedig y cyhoeddwr.

    Dyluniwyd gan Almon

    Golygwyd gan Adran Olygyddol Cyngor Llyfrau Cymru

    www.atebol.com

    ISBN 978-1-80106-326-5

    Dymuna’r cyhoeddwr gydnabod cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru

    I Manon a Gruffudd

    • •

    • •

    Mae ’na rywbeth yn bod arna i. Tu fewn.

    Rhyw fath o wacter. Twll mawr du yn ddwfn

    yn fy mrest i. Fel tasa ’nghalon i wedi cael ei rhwygo allan, rhywsut.

    S’dim ots be dwi’n neud: dwyn, twyllo, dinistrio. S’dim ots pwy dwi’n ei fwlio, yn ei frifo, yn ei drin fel baw. Dydy’r poen byth yn lleddfu.

    Dydy’r gwacter ’na byth yn mynd i ffwrdd.

    Ac mae o’n mynd yn waeth. Weithiau dwi’n poeni y bydd o’n llyncu fi i gyd a fydd ’na ddim byd ar ôl.

    • 1 •

    Twm

    ‘Dyma’r cwbwl gest ti?’ Mae Robat Wyllt yn gandryll. Yn cythru’r sach o lŵt o ’ngafael i ac yn tywallt y cwbwl ar y bwrdd. ‘Dwy jwg pewter, platiau bràs a dysgl bren. Cha i’m byd am rhain, y crinc. Maen nhw’n hollol ddiwerth.’ Rhuo gweiddi. S’dim syndod mai Robat Wyllt ’dan ni’n ei alw fo yn Wyrcws Gwag y Nos.

    Dyma fi’n dechrau ar yr esgusodion. ‘Doedd gen i’m dewis, Robat. Dda’th rhywun i mewn. Glywais i o’n gweiddi Pwy sy ’na? A welais i ei gysgod ar y wal. Anghenfil o ddyn,’ medda fi wrth actio’r cyfan yn ddramatig. ‘Roedd rhaid i mi redag o ’na cyn iddo fo ’nal i, yn doedd?’

    ‘Chdi oedd yn clancio a bangio’r trysorau i gyd, ma’ siŵr. Twm y Lleidr wir. Pa fath o leidr sy’n gneud digon o sŵn i godi’r meirw,’ medda Robat yn sarrug, yn rhy agos o lawer. Oes rhaid i’r diawl afiach ddod mor agos i mi bob tro? Ffiaidd.

    ‘O’n i’n lwcus i ddianc mewn un darn,’ medda fi wedyn, gan edrych yn heriol i lygad Robat a trio rheoli fy nghoesau jeli.

    Deud celwydd ydw i, wrth gwrs. Feiddia i ddim deud y gwir. Achos heno, tra o’n i allan yn dwyn, fe ddigwyddodd rhywbeth doniol. Rhywbeth fyswn i ’rioed yn ’i gyfadde wrth Robat Wyllt.

    Yn Eglwys Beuno Sant o’n i. Robat wedi’n anfon i yno i ddwyn canwyllbrennau aur. Rhai mawr, gwerthfawr. Dwi ’di bod yno droeon, wedi arfer stelcian drwy’r fynwent ganol nos. S’gen i ddim ofn. A dwi’n gwybod yn iawn sut i dorri mewn i’r eglwys. Yn gynta, fydda i’n tynnu fy sgidiau hoelion mawr a’u rhoi ym mhocedi mwya’ fy nghôt ladrata. Wedyn dringo’r reilins yn y cefn, i fyny wal yr eglwys, llithro drwy’r ffenest fach uchel sy jest o dan y bondo, sleifio lawr y grisiau cul ac i mewn i’r eglwys. Hawdd.

    Heno, tra o’n i’n y festri yn rhoi’r canwyllbrennau sgleiniog yn y sach, sylwais i fod potel fawr ar y bwrdd. Gwin cymun. Hanner llawn. Tynnu’r corcyn. Arogl melys, cryf. Ges i sip, oedd yn llosgi ’ngwddw a gwneud fy mol yn gynnes. Wedyn sip arall. Ac un arall. Ac o fewn dim o’n i ’di yfed y cwbwl, a ’mhen i’n troi gymaint roedd rhaid i mi orwedd i lawr ar y fainc.

    S’gen i’m syniad am faint o’n i’n pendwmpian, ond rhywbryd, rhwng cwsg ac effro, glywais i sŵn rhochian. Roedd o’n arswydus. O’n i’n meddwl bod ’na ysbryd mochyn yn yr eglwys! Twpsyn.

    Erbyn i mi ddeffro’n iawn, roedd hi’n hollol amlwg be oedd y sŵn, a’i fod o reit tu ôl i mi. A phwy oedd yn gorwedd ar y fainc ond y ciwrat newydd, a hwnnw’n rhochian cysgu, wedi yfed hanner arall y botel o win cymun. Ddechreuais i biffian chwerthin – o’n i methu stopio fy hun. Agorodd y ciwrat ei lygaid marblis, syllu’n syth ata fi, pwyntio’i fys hirgam yn fy wyneb a dechrau gweiddi. Y poer yn tasgu o’i wefusau llac, ei dafod yn dew, a’i lais yn taranu am felltith Duw a ballu. Gollyngais i’r canwyllbrennau ar y llawr carreg a rhedeg o ’na, yn cario dim heblaw am y sach o’r pethau diwerth y mae Robat Wyllt yn eu diawlio rŵan.

    ‘Yli di, Twm y Lleidr,’ mae Robat yn halio ’ngholer i, a’m tynnu’n ddigon agos i mi weld y graith hir ar ei foch, a sylwi bod llyfreithen goch ar ei lygaid. ‘Ti’n colli arni, boi.’ Mae o’n tynnu fi’n agosach fyth nes bod fy ngholer yn crafu ’ngwddw a galla i flasu’r ogla cwrw ar ei wynt ffiaidd. ‘Fi sy ’di dysgu bob dim i ti, cofia. A tithau ’di bod yn brentis da. Cyw lleidr talentog.’ Dwi’n nodio, yn y gobaith wnaiff hynny wneud iddo lacio’i afael. Dydy o ddim. ‘Ond paid ti ag anghofio bod digonedd o blant y wyrcws ’ma yn torri’u boliau i gymryd dy le di. I gipio coron aur y pen-lleidr a dy dalu di ’nôl am y ffordd ti ’di trin nhw dros y blynyddoedd.’

    Mae o’n iawn. Does neb yn Gwag y Nos yn ffrind i Twm y Lleidr. Twm y Bwli. A phwy all eu beio nhw? Fi ’di’r sidekick. Ffefryn y pen bandit ei hun, Robat Wyllt. Do, dwi ’di bod yn brentis penigamp. Wedi gloddesta ar y pŵer mae Robat wedi’i roi i mi, yn y gobaith y byse hynny’n llenwi’r gwacter ’ma. Ond dydy o ddim. Mae’r düwch tu fewn i fi yn waeth nag erioed.

    ‘Ti ’di’n siomi fi heno, Twm,’ medda Robat Wyllt, yn gollwng fy ngholer yn frwnt. ‘A dim dyma’r tro cynta chwaith. Ro i un cyfle arall i ti. UN, ti’n dallt?’

    Ydw, dwi’n nodio.

    ‘Nos fory, ti, Twm y Lleidr, am fynd am sgowt bach i Blas Bodfel. A dod â’r sach yma ’nôl yn llawn trysor. Gwna’n siŵr ’i fod o’n werthfawr y tro ’ma, wnei di?’ Mae’n chwipio’r sach lychlyd ataf i, troi ar ei sawdl ac allan â fo.

    Dwi’n casáu Robat Wyllt. Bron iawn gymaint ag ydw i’n casáu fy hun.

    • 2 •

    Twm

    Mae rhywbeth oer, gwlyb yn cosi mysedd i. Trwyn ci. Jet sy ’na. ’Nôl wrth fy ochor i. Un da ydy Jet am gadw’n glir o olwg y bòs. S’neb eisiau gwylltio Robat.

    ‘Hei, Jet. Iawn, boi?’ Dwi’n mynd ar fy nghwrcwd, yn cosi’i glustiau meddal a gwthio ’ngwyneb i’r fflyff hir, esmwyth ar ei gorun. Blewog. Cynnes. Cysurus.

    Dwi’n cofio’r tro cynta i mi weld Jet. Cuddio yn y tannws oedd o, wedi gwthio’i hun rhwng y tanciau trin lledr. Rheiny’n orlawn o hylif tannin drewllyd yn sblashio i bob man. Roedd Jet yn sgyrnygu arna i o’r cysgodion. Ei gôt yn ddu, ddu, a’i ddannedd miniog yn glaerwyn. A’i lygaid yn drist. Roedd Jet yn rhefru ar y byd, yn esgus bod yn ddewr ac yn gryf. Ond o’n i’n gweld ar unwaith mai ffugio roedd y ci, druan. A thu mewn, roedd o’n teimlo’n unig ac yn ofnus. Jest fel fi.

    Gymrodd hi ddyddiau i mi ei berswadio allan o’r cysgodion efo ’chydig o gig moch wedi’i ddwyn o’r farchnad. Ci defaid oedd o. Yn ddu fel … wel, fel lwmpyn o jet drudfawr. Tenau oedd o hefyd, dim byd ond croen ac esgyrn. Ei gôt yn glymau o fwd a baw. Ac yn gloff. Wedi torri’i goes gefn ar ôl cael ei ddal mewn trap cwningod, a’r ffarmwr wedi’i hel o i ffwrdd. S’neb yn cadw ci defaid sy methu gweithio.

    Pan oedd o’n barod, olchais i’r goes yn ofalus mewn dŵr halen a’i rhwymo’n dynn wrth styllen denau o bren. O fewn dyddiau oedd Jet yn rêl boi. Dilyn fi i bob man. Ista dan y bwrdd bwyd yn gobeithio am ddarn bach o fara. Sleifio mewn i stablau’r wyrcws pan o’n i’n carthu’r ceffylau. Cysgu dan fy ngwely yn y dorm.

    Roedd Jet a fi’n dallt ein gilydd yn iawn. Dechreuodd o ddod allan efo fi berfeddion nos. Crwydro’r dwnan i ddal cwningod. Hel mwyar duon yn y cloddiau. Stelcian tu allan i’r tafarnau i slochian cwrw’r dynion oedd yn rhy feddw i sylwi.

    Wna i byth anghofio’r hwyl gafon ni un tro. Rhyw ddydd Mawrth oedd hi ac Ifan Jôs y cigydd wedi bod yn brysur drwy’r dydd yn paratoi selsig, ffagots, porc peis a ballu, yn barod i’w gwerthu nhw yn y farchnad bore wedyn. Mochyn o ddyn. Blin. Barus. Synnwn i ddim fod Ifan Jôs yn sglaffio hanner y peis ei hun.

    Rargol, oedd ’na ogla da yn dod o siop y cigydd. Roedd Jet a fi jest yn sefyll yna, ein trwynau’n yr awyr yn arogli’r stêm sawrus oedd yn dod drwy’r drws. Nefoedd.

    ‘Hei, symuda!’ gwaeddodd Ifan, bwyell yn un llaw a twca yn y llall. ‘Ti’n dychryn fy nghwsmeriaid i. Dos.’

    ‘Geith unrhyw un arogli, ’sti.’ Fi, yn bod yn haerllug.

    ‘Dim yn fan’ma chawn nhw ddim,’ medda fo, yn chwifio’r cyllyll miniog yn fygythiol, a smotiau o waed ffres yn sgleinio ar ei farclod ledr. ‘Dos o ’ma, a dos â’r ci crachlyd ’na efo chdi,’ medda fo gan anelu i gicio Jet yn ei ben-ôl.

    Ond cha’th o ddim cyfle, achos mi redodd Jet yn syth i mewn drwy’r drws gan stwffio heibio Ifan Jôs. Llithrodd hwnnw ar y llawr gwlyb a syrthio’n fflat ar ei gefn, ei draed a’i freichiau’n chwifio yn yr awyr fel hen ddafad dew sy’n methu codi. Yn y cynnwrf, gollyngodd Mrs Thomas-Williams ei basged siopa a malu hanner dwsin o wyau ar y llawr. Baglodd Lora Lôn Isa

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1