Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Annalisa: Annalisa Swyn yn Mynd i'r Ysgol
Cyfres Annalisa: Annalisa Swyn yn Mynd i'r Ysgol
Cyfres Annalisa: Annalisa Swyn yn Mynd i'r Ysgol
Ebook87 pages25 minutes

Cyfres Annalisa: Annalisa Swyn yn Mynd i'r Ysgol

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Half vampire, half fairy, totally unique! Isadora Moon is special because she is different. Her mum is a fairy and her dad is a vampire and Isadora is a bit of both. She loves the night, bats, and the colour black, but she also loves the outdoors, using her magic wand, and the colour pink. When it's time for Isadora to start school she's not sure where she belongs.
LanguageCymraeg
PublisherRily
Release dateSep 17, 2021
ISBN9781849678759
Cyfres Annalisa: Annalisa Swyn yn Mynd i'r Ysgol

Read more from Harriet Muncaster

Related to Cyfres Annalisa

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres Annalisa

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Annalisa - Harriet Muncaster

    Dyma fi – Annalisa Swyn! Mae Bwni Binc a fi’n cael lot fawr o hwyl gyda’n gilydd.

    Enw Mam yw’r Iarlles Ceinwen Swyn. Mae hi’n dylwythen deg. Ydy, wir yr! Mae hi wrth ei bodd yn garddio, nofio yn yr afon, a chysgu o dan y sêr.

    Yr Iarll Caleb Swyn yw enw Dad. Fampir yw e. Ie, wir yr! Mae e wrth ei fodd yn aros ar ei draed drwy’r nos, bwyta bwyd coch yn unig (tomatos – ych!), syllu ar awyr y nos drwy ei delesgop arbennig, a hedfan o flaen y lleuad lawn.

    Aelod olaf y teulu yw Babi Blodyn, fy chwaer fach. Mae hi’n hanner tylwythen deg, hanner fampir – yn union fel fi! Mae hi’n hoffi cysgu, chwerthin, ac yfed llaeth pinc.

    Mae Bwni Binc a fi’n gwneud popeth gyda’n gilydd. Am mai Bwni oedd fy hoff degan, defnyddiodd Mam hud a lledrith i’w gwneud hi’n fyw.

    A dyma’n cartref ni! Fy stafell wely i yw’r un ar ben y tŵr uchaf un. Dwi’n gallu gweld y dre i gyd drwy’r ffenest. Dyw Bwni Binc ddim yn cael edrych drwy’r ffenest – rhag ofn iddi neidio drwyddi.

    Mae hi’n credu ei bod yn gallu hedfan, fel fi.

    Ond dyw hi ddim.

    Bob bore, dwi’n gwylio’r plant bach yn cerdded i lawr y ffordd i’r ysgol. Mae pawb yn gwisgo dillad od a thei streipiog.

    Ac er bod y plant yn edrych yn gyfeillgar iawn …

    Ac yn edrych fel petaen nhw’n cael hwyl …

    Dwi’n falch ’mod i’n hanner tylwythen deg a hanner fampir, oherwydd dy’n ni ddim yn gorfod mynd i’r ysgol.

    Neu dyna o’n i’n feddwl …

    Neithiwr, ro’n i wrthi’n ymarfer triciau yn fy stafell wely pan glywais Dad yn galw arna i.

    ‘Annalisa!’ meddai. ‘Amser brecwast!’

    Oherwydd bod Dad yn cysgu drwy’r dydd, mae e’n cael ei frecwast am saith o’r gloch y nos. Mae Mam yn bwyta’i brecwast yn y bore. Mae hynny’n golygu ’mod i’n cael dau frecwast – sy’n grêt,

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1