Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Amdani: Ffenest a Straeon Eraill i Ddysgwyr
Cyfres Amdani: Ffenest a Straeon Eraill i Ddysgwyr
Cyfres Amdani: Ffenest a Straeon Eraill i Ddysgwyr
Ebook64 pages52 minutes

Cyfres Amdani: Ffenest a Straeon Eraill i Ddysgwyr

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Eight stories for Foundation Level Welsh Learners by some of Wales' best storytellers, including Bethan Gwanas, Guto Dafydd, Mared Lewis and Lois Arnold. In cooperation with the Welsh National Eisteddfod, the stories will be published in August, with the authors reading the stories (with subtitles) on various digital platforms.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateJan 29, 2021
ISBN9781784619701
Cyfres Amdani: Ffenest a Straeon Eraill i Ddysgwyr

Read more from Amrywiol

Related to Cyfres Amdani

Related ebooks

Reviews for Cyfres Amdani

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Amdani - Amrywiol

    cover.jpg

    Argraffiad cyntaf: 2020

    © Hawlfraint yr awduron unigol a’r Lolfa Cyf., 2020

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Cynllun y clawr: Sion Ilar

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-78461-970-1

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru yn ogystal â chydweithrediad Eisteddfod Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    1 – WYTHNOS WALLGOF

    Mel Jones dw i. Dw i’n gweithio i Teledu Gwalia. Weithiau mae’n ddiddorol iawn. Weithiau mae’n ddiflas (fel gweithio ar storïau am Brexit bob dydd!). Ac weithiau mae’n wallgof

    Un bore daeth Jasmin, y cynhyrchydd i siarad â fi.

    ‘Mel, wyt ti’n gallu helpu yn y Sioe Fawr, yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf?’

    ‘Ydw, siŵr!’

    ‘Byddi di’n gweithio gyda Geraint Harris.’

    Mae Geraint Harris yn gwneud y storïau mawr ar y teledu. Mae e’n enwog.

    ‘Gwych!’

    Dydd Sul

    Es i i Lanelwedd gyda Rhys, y dyn camera. Mae camperfan gyda fe. Gyrron ni drwy’r wlad.

    ‘Mae’n hyfryd yma,’ dwedais i.

    ‘Ydy.’

    ‘Wyt ti wedi bod yn y Sioe Fawr o’r blaen, Rhys?’

    ‘Ydw. Mae’n grêt.’

    ‘Dw i ddim yn gwybod lot am ffermio,’ dwedais i. ‘Dw i wedi trio dysgu pethau, fel bridiau anifeiliaid…’

    ‘Ymlacia, Mel! Byddi di’n iawn.’

    ‘Mmm. Gobeithio…’

    *

    Cwrddon ni â Jasmin ar faes y sioe.

    ‘Rhaid i ni baratoi’r stiwdio,’ meddai hi. ‘Wedyn dw i eisiau mynd rownd y maes a siarad am y ffilmio.’

    Roedd y maes yn brysur. Pobl yn mynd a dod, yn siarad a chwerthin. Loris yn cyrraedd, yn llawn anifeiliaid. Roedd hi’n gyffrous! Wedyn aethon ni i’r maes carafannau a chyrhaeddodd Geraint Harris am saith o’r gloch.

    ‘Geraint! Sut dych chi?’ gofynnodd Jasmin.

    ‘Ofnadwy! Roedd y traffig yn araf iawn. Blincin tractors a loris!’

    ‘O, niwsans!’ Pwyntiodd Jasmin at garafán smart. ‘Dyma’ch carafán chi am yr wythnos.’

    ‘Mae’n fach iawn!’ cwynodd e.

    O diar, meddyliais i.

    ‘Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda chi, Geraint,’ dwedais i.

    ‘Reit, wel, rwyt ti’n gallu cario fy stwff o’r car i’r garafán! A dw i eisiau coffi. Llaeth, tri siwgr.’

    Roedd ci yn y car. ‘Iap! Iap! Iap!’

    ‘Helô, bach!’ dwedais i.

    ‘Grrrrr!’

    ‘Dyma Coco,’ meddai Geraint. ‘Mae hi angen mynd i’r toiled. Dyma’r bagiau bach i ti godi ei busnes.’

    O, grêt!

    *

    Aethon ni i’r dafarn wedyn i fwyta.

    ‘Reit, beth sy’n digwydd yn y sioe?’ gofynnodd Geraint.

    ‘Wel, mae’n Ddiwrnod y Moch yfory,’ atebais i. ‘Bydd moch du, moch gwyn, Tamworth, Saddleback…’

    ‘Moch?! Does dim diddordeb gyda fi mewn moch!’

    ‘O. Wel, defaid?’

    ‘Nage! Pobl yw’r stori. Ffeindia bobl ddiddorol i mi!’

    ‘Mae Tywysog Charles a Camilla’n dod i’r sioe dydd Iau,’ dwedodd Jasmin.

    ‘Hei, ffantastig!’ meddai Rhys.

    ‘O, dw i wedi cwrdd â Charles sawl gwaith,’ atebodd Geraint. ‘Will a Harry, hefyd, a’r Frenhines, wrth gwrs.’

    O ie, wrth gwrs! meddyliais i.

    Dydd Llun

    Codais i am chwech o’r gloch. Ro’n i’n poeni. Es i i faes y sioe, i ffeindio ‘pobl ddiddorol’ i Geraint. Roedd ffermwyr yn y siediau ac yn y stablau, yn golchi a brwsio’r anifeiliaid. Ro’n nhw’n gyfeillgar iawn. Roedd stori ddiddorol gyda phawb!

    Es i i gael brecwast. Wedyn aeth Rhys a fi i ffilmio tîm y Cossacks yn perfformio triciau bendigedig ar gefn ceffylau. Roedd llawer o bobl yn gwylio’r sioe, yn bwyta hufen iâ ac yn mwynhau’r tywydd braf.

    Daeth Geraint i’r maes wedyn. Roedd e’n neis iawn wrth siarad â phobl ar gamera. Fel ffrind caredig. Ond dim gyda fi a Rhys.

    ‘Meicroffon!’ gwaeddodd e. ‘Colur!’ ‘Dŵr!’ ‘Coffi!’

    ‘Duw!’ meddai Rhys. ‘Prima donna yw e!’

    ‘Shhh!’

    Nos Lun es i â Coco i ‘wneud ei busnes’ eto. Gwelais i ferch. Roedd ci defaid gyda hi. Rhedodd Coco atyn nhw. ‘Iap! Iap!’

    ‘Coco!’ galwais i. ‘Sori…’

    ‘Dim problem,’ dwedodd y ferch. ‘Helô, Coco! Dyma Gelert.’

    O na, nawr roedd Coco’n sniffian pen-ôl Gelert!

    ‘Beth wyt ti’n wneud yn y sioe?’ gofynnodd y ferch.

    ‘Dw i gyda Teledu Gwalia.’ (Cŵl iawn!) ‘Beth amdanat ti?’

    ‘Mae Gelert

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1